Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Tiroedd Comin (Gorchmynion Dadgofrestru a Chyfnewid) (Trefniadau Interim) (Cymru) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 740 (Cy.100)

TIROEDD COMIN, CYMRU

Rheoliadau Tiroedd Comin (Gorchmynion Dadgofrestru a Chyfnewid) (Trefniadau Interim) (Cymru) 2012

Gwnaed

7 Mawrth 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mawrth 2012

Yn dod i rym

1 Ebrill 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr awdurdod cenedlaethol priodol gan adrannau 17(3), 24(1) a (2)(m) a 59(1) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tiroedd Comin (Gorchmynion Dadgofrestru a Chyfnewid) (Trefniadau Interim) (Cymru) 2012.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2012.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Cwmpas a dehongli

2.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru, neu berson a benodwyd ganddynt, wedi caniatáu cais o dan adran 16 o Ddeddf 2006 ac wedi gwneud gorchymyn o dan adran 17 o Ddeddf 2006 o ganlyniad i ganiatáu'r cais hwnnw.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod cofrestru tiroedd comin” (“commons registration authority”) yw awdurdod cofrestru o dan Ddeddf 1965;

ystyr “Deddf 1965” (“the 1965 Act”) yw Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965(3);

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Tiroedd Comin 2006;

ystyr “Cofnod Enghreifftiol” (“Model Entry”) a ddilynir gan rif yw'r cofnod enghreifftiol sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau Cyffredinol neu Ran 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn(4);

ystyr “Cofnod Safonol” (“Standard Entry”) a ddilynir gan rif yw'r cofnod enghreifftiol sy'n dwyn y rhif hwnnw yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, neu gofnod sydd â'r un effaith o ran ei sylwedd(5);

mae “cofrestr tir comin” (“register of common land”) a “cofrestr meysydd tref neu bentref” (“register of town or village greens”) yn cyfeirio at y cofrestri a gynhelir gan awdurdod cofrestru tiroedd comin yn unol ag adran 3 o Ddeddf 1965;

ystyr “gorchymyn dadgofrestru” (“deregistration order”) yw gorchymyn i awdurdod cofrestru tiroedd comin o dan adran 17(1) o Ddeddf 2006 (ac eithrio gorchymyn dadgofrestru a chyfnewid);

ystyr “gorchymyn dadgofrestru a chyfnewid” (“deregistration and exchange order”) yw gorchymyn i awdurdod cofrestru tiroedd comin o dan adran 17(1) a (2) o Ddeddf 2006;

ystyr “y Rheoliadau Cyffredinol” (“the General Regulations”) yw Rheoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966(6), ac ystyr “rheoliad Cyffredinol” (“General Regulation”) a ddilynir gan rif yw'r rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau Cyffredinol;

mae i “uned cofrestr” (“register unit”) yr ystyr a roddir i “register unit” yn Rheoliad Cyffredinol 10.

Dadgofrestru y tir a ryddheir

3.  Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin yn cael gorchymyn dadgofrestru neu orchymyn dadgofrestru a chyfnewid, rhaid iddo ddiwygio'r uned cofrestr sy'n cynnwys y cofrestriad o'r tir a ryddheir yn ei gofrestr o diroedd comin neu'i gofrestr o feysydd tref neu bentref, yn unol â Chofnod Safonol 11.

Cofrestru tir cyfnewid

4.—(1Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin yn cael gorchymyn dadgofrestru a chyfnewid, mae darpariaethau canlynol y rheoliad hwn yn gymwys, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau yn y gorchymyn sy'n pennu'r modd y mae'r tir cyfnewid i gael ei gofrestru.

(2Caiff yr awdurdod cofrestru gofrestru'r tir cyfnewid—

(a)drwy ddiwygio'r uned cofrestr yn ei gofrestr o dir comin neu'i gofrestr o feysydd tref neu bentref sy'n cynnwys y cofrestriad o'r tir rhyddhau; neu

(b)drwy fewnosod uned cofrestr newydd mewn perthynas â'r tir cyfnewid.

(3Os yw'r awdurdod cofrestru yn cofrestru'r tir cyfnewid drwy ddiwygio'r uned cofrestr sy'n cynnwys y cofrestriad o'r tir rhyddhau, rhaid i'r awdurdod wneud hynny yn unol â Chofnod Safonol 12.

(4Os yw'r awdurdod cofrestru yn cofrestru'r tir cyfnewid drwy fewnosod uned cofrestr newydd mewn perthynas â'r tir cyfnewid, mae paragraffau (5) i (9) yn gymwys.

(5Rhaid i'r awdurdod cofrestru ddilyn Cofnod Enghreifftiol 4 mor agos ag y bo modd, gyda pha bynnag amrywiadau ac addasiadau sy'n ofynnol yn yr amgylchiadau, a chan—

(a)rhoi'r geiriau “Registered pursuant to an order under section 17 of the Commons Act 2006.”, yn lle'r frawddeg sy'n dechrau “Registered pursuant to application”; a

(b)hepgor y geiriau “(Registration provisional.)”.

(6Mae paragraffau (2) i (6) o Reoliad Cyffredinol 10 yn gymwys i'r cofrestriad.

(7Mae paragraffau (4) i (8) o reoliad 9 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Gwrthwynebiadau a Mapiau) 1968(7) d(newidiadau o ran mapiau cofrestr amodol) yn gymwys, yn darostyngedig i'r addasiadau canlynol—

(a)rhaid dehongli cyfeiriadau at “new map” (“map newydd”) fel cyfeiriadau at unrhyw fap a gymerir i'w ddefnyddio at ddibenion y rheoliad hwn;

(b)yn hytrach na'r raddfa a bennir ym mharagraff (4), rhaid paratoi pob map newydd ar Fap Ordnans o raddfa ddim llai nag 1:2,500 os oes un ar gael, ac ym mhob achos, ddim llai nag 1:10,000; ac

(c)mae paragraff (7) yn gymwys fel pe bai'r gair “provisional” wedi ei hepgor.

(8Rhaid i bob map newydd a gymerir i'w ddefnyddio gael ei stampio gan yr awdurdod cofrestru a'i lofnodi ar ran yr awdurdod, a bydd y map wedyn yn ffurfio rhan o'r gofrestr.

(9Mae'r gofyniad ym mharagraff (8), am i awdurdod cofrestru stampio map newydd, yn ofyniad am beri bod argraff o stamp swyddogol yr awdurdod cofrestru, fel y'i disgrifir yn Rheoliad Cyffredinol 3, yn cael ei gosod ar y map, a rhaid i'r argraff honno gynnwys y dyddiad y'i gosodir.

Cofrestru hawliau comin dros dir cyfnewid

5.—(1Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin, yn unol â gorchymyn dadgofrestru a chyfnewid, yn cofrestru tir cyfnewid drwy fewnosod uned cofrestr newydd mewn perthynas â'r tir hwnnw, mae'r darpariaethau canlynol yn gymwys, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau yn y gorchymyn sy'n pennu'r modd y mae hawliau comin i'w cofrestru fel rhai arferadwy dros y tir cyfnewid.

(2Os oedd hawliau comin, yn union cyn dadgofrestru'r tir rhyddhau, wedi eu cofrestru fel rhai arferadwy dros y tir rhyddhau ac nid unrhyw dir arall, rhaid i'r awdurdod cofrestru gofrestru'r hawliau hynny fel rhai arferadwy dros y tir cyfnewid, drwy ddilyn Cofnod Enghreifftiol 7 mor agos ag y bo modd, gyda pha bynnag amrywiadau ac addasiadau sy'n ofynnol yn yr amgylchiadau, a chan hepgor o golofn 4 y geiriau o “except” ymlaen i'r diwedd.

(3Os oedd hawliau comin, yn union cyn dadgofrestru'r tir rhyddhau, wedi eu cofrestru fel rhai arferadwy dros ddarn o dir a gyfansoddir o'r tir rhyddhau (Darn A) a thir arall (Darn B), rhaid i'r awdurdod cofrestru gofrestru'r hawliau hynny fel rhai sy'n arferadwy dros y tir cyfnewid yn ychwanegol at barhau'n arferadwy dros Ddarn B, yn unol â Chofnodion Enghreifftiol 33 (mewn perthynas â Darn B) a 34 (mewn perthynas â'r tir cyfnewid) gyda pha bynnag amrywiadau ac addasiadau sy'n ofynnol yn yr amgylchiadau.

Gwybodaeth am ddiwygiadau yn y cofrestri

6.  Pan fo awdurdod cofrestru tiroedd comin wedi diwygio ei gofrestri yn unol â gorchymyn dadgofrestru neu orchymyn dadgofrestru a chyfnewid, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno, gan gynnwys manylion o'r diwygiad a wnaed, i'r canlynol—

(a)y ceisydd am y gorchymyn; a

(b)Gweinidogion Cymru, neu'r person a benodwyd ganddynt, a wnaeth y gorchymyn.

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

7 Mawrth 2012

Rheoliad 2

YR ATODLEN

RHAN 1COFNODION ENGHREIFFTIOL

RHAN 2COFNODION SAFONOL

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adrannau 16 a 17 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 (“Deddf 2006”) yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau i ddadgofrestru tir a gofrestrwyd fel tir comin neu fel maes tref neu bentref ac i gofrestru tir arall yn gyfnewid.

Yng Nghymru mae ceisiadau o'r fath i gael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru neu gan berson a benodir ganddynt. Os caniateir cais, mae'n ofynnol o dan adran 17(1) a (2) o Ddeddf 2006 bod Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn, sy'n cyfarwyddo'r awdurdod cofrestru tiroedd comin i ddiwygio'i gofrestr o diroedd comin neu o feysydd tref neu bentref yn unol â hynny.

Hyd yma, nid yw Rhan 1 o Ddeddf 2006 wedi ei dwyn i rym yn llawn yng Nghymru. Hyd nes deuir ag adrannau 1 i 3 i rym, rhaid trin gorchymyn o dan adran 17 fel pe bai'n orchymyn sy'n cyfarwyddo'r awdurdod cofrestru i ddiwygio'r cofrestri a gynhelir gan yr awdurdod yn unol â Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 (“Deddf 1965”), yn rhinwedd darpariaethau trosiannol a gynhwysir yng Ngorchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/739 (Cy.99) (C.19)).

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu'r modd y mae'n rhaid i awdurdod cofrestru ddiwygio'r cofrestri a gynhelir ganddo yn unol â Deddf 1965, pan gaiff yr awdurdod cofrestru orchymyn o dan adran 17.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi ei baratoi yngl?n â chostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar-lein o www.cymru.gov.uk.

(1)

2006 p.26. Mae adran 61(1) yn cynnwys diffiniadau o “appropriate national authority” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

(3)

1965 p.64. Yn unol ag erthygl 4(1) o Orchymyn Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/739 (Cy.99) (C.19)), hyd nes daw adran 1 o Ddeddf 2006 i rym, rhaid dehongli cyfeiriadau yn adrannau 16 neu 17 o Ddeddf 2006, at gofrestru tir fel tir comin neu fel maes tref neu bentref, fel cyfeiriadau at gofrestru tir felly o dan Ddeddf 1965, a rhaid trin gorchymyn o dan adran 17 o Ddeddf 2006 fel gorchymyn sy'n gwneud yn ofynnol bod yr awdurdod cofrestru tiroedd comin yn diwygio'r cofrestri a gynhelir gan yr awdurdod yn unol â Deddf 1965.

(4)

Mae Cofnodion Enghreifftiol 1-22 wedi eu cynnwys yn y Rheoliadau Cyffredinol, a Chofnodion Enghreifftiol 23-32 (nas cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn) yn O.S. 1968/989, 1970/1371 a 1972/437.

(5)

Mae'r Cofnodion Safonol 1-10 i'w cael yn y Rheoliadau Cyffredinol ac O.S. 1968/989, 1972/437 a 1990/311.

(6)

O.S. 1966/1471, y gwnaed diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(7)

O.S. 1968/989 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1990/311. Diwygiwyd hefyd gan offerynnau eraill, nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill