Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 30/04/2012.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Apelau i Weinidogion CymruLL+C
Os ydych wedi eich tramgwyddo gan benderfyniad eich awdurdod cynllunio lleol i wrthod caniatâd ar gyfer y datblygiad arfaethedig neu i roi'r caniatâd yn ddarostyngedig i amodau, yna gellwch apelio i Weinidogion Cymru o dan adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
Os ydych am apelio yn erbyn penderfyniad eich awdurdod cynllunio lleol, rhaid ichi wneud hynny o fewn cyfnod o 6 mis o ddyddiad yr hysbysiad hwn.
Rhaid gwneud apelau drwy ddefnyddio ffurflen y gellwch ei chael gan Weinidogion Cymru, yn yr Arolygiaeth Gynllunio, Adeilad y Goron, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ, neu ar-lein yn www.planningportal.gov.uk/pcs
Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu cyfnod hwy ar gyfer rhoi hysbysiad o apêl, ond fel rheol, nid ydynt yn fodlon defnyddio'r pŵer hwnnw ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig sy'n esgusodi'r oedi cyn rhoi hysbysiad o apêl.
Nid oes raid i Weinidogion Cymru ystyried apêl os yw'n ymddangos iddynt na fyddai wedi bod yn bosibl i'r awdurdod cynllunio lleol roi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig, neu na fyddai wedi bod yn bosibl iddo ei roi heb yr amodau a osodwyd, o ystyried y gofynion statudol, darpariaethau unrhyw orchymyn datblygu ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd o dan orchymyn datblygu.
Yn ymarferol, ni fydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod ystyried apelau oherwydd, yn unig, fod yr awdurdod cynllunio lleol wedi seilio ei benderfyniad ar gyfarwyddyd a roddwyd gan Weinidogion Cymru.
Yn ôl i’r brig