Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Dyddiad Cynnig Cyffredin) (Cymru) 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 1144 (Cy.122)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Dyddiad Cynnig Cyffredin) (Cymru) 2013

Gwnaed

14 Mai 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymrus

17 Mai 2013

Yn dod i rym

8 Gorffennaf 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer eu pwerau yn adrannau 89B(5) a 138A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Derbyniadau Ysgol (Dyddiad Cynnig Cyffredin) (Cymru) 2013.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Gorffennaf 2013.

(3Mae rheoliad 3 yn gymwys mewn perthynas â phenderfyniad a wneir gan awdurdod derbyn(2) ysgol uwchradd a gynhelir i gynnig neu i wrthod lle i blentyn yn yr ysgol ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/2016 a'r blynyddoedd academaidd ar ôl hynny.

(4Mae rheoliad 4 yn gymwys mewn perthynas â phenderfyniad a wneir gan awdurdod derbyn ysgol gynradd a gynhelir i gynnig neu i wrthod lle i blentyn yn yr ysgol ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/2019 a'r blynyddoedd academaidd ar ôl hynny.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr "blwyddyn dderbyn" ("admission year") mewn perthynas â derbyn disgyblion i grwˆp oedran perthnasol(3) mewn ysgolion yn ystod blwyddyn academaidd benodol yw'r flwyddyn academaidd honno;

ystyr "blwyddyn gynnig" ("offer year") yw'r flwyddyn academaidd sydd yn union o flaen y flwyddyn dderbyn;

ystyr "Cod Derbyniadau Ysgol" ("School Admissions Code") yw unrhyw god ar gyfer derbyniadau ysgol o dan adran 84(4) o DSFfY 1998;

ystyr "diwrnod gwaith" ("working day") yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wˆyl banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(5);

ystyr "DSFfY 1998" ("the SSFA 1998") yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;

ystyr "dyddiad cynnig" ("offer date") yw'r dyddiad a ragnodir gan reoliadau 3 a 4 pan fydd rhieni yn cael eu hysbysu am y lle a neilltuwyd i'w plentyn mewn ysgol gynradd neu ysgol uwchradd;

ystyr "prosbectws cyfansawdd" ("composite prospectus") yw'r prosbectws cyfansawdd y mae'n ofynnol i awdurdod lleol ei gyhoeddi o dan reoliad 4 o Reoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011(6) sy'n cynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 i'r rheoliadau hynny ac yn y Cod Derbyniadau Ysgol(7).

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn mae cais wedi ei wneud yn ystod cylch derbyn arferol—

(a)os yw'n gais i blentyn gael ei dderbyn i grwˆp oedran perthnasol; a

(b)os nad yw'n gais hwyr nac yn gais a wneir yn ystod y flwyddyn.

(3At ddiben y Rheoliadau hyn mae cais yn gais hwyr—

(a)os yw'n gais i blentyn gael ei dderbyn i grwˆp oedran perthnasol;

(b)os cyflwynir y cais cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn dderbyn;

(c)os cyflwynir y cais ar ôl y dyddiad a nodir yn y prosbectws cyfansawdd ar gyfer cael ceisiadau i dderbyn plant i ysgolion a gynhelir; a

(d)os nad yw penderfyniad sy'n ymwneud â'r cais yn cael ei wneud gan awdurdod derbyn ar neu cyn y dyddiad cynnig.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn mae cais yn gais a wneir yn ystod y flwyddyn—

(a)os yw'n gais i blentyn gael ei dderbyn i grwˆp oedran perthnasol a'i fod wedi ei gyflwyno ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn dderbyn neu ar ôl hynny; neu

(b)os yw'n gais i blentyn gael ei dderbyn i grwˆp oedran ac eithrio grwˆ p oedran perthnasol.

Y diwrnod y mae'r penderfyniadau mewn perthynas â derbyniadau i ysgolion uwchradd i gael eu cyfleu i rieni

3.—(1Y diwrnod a ragnodir yn y flwyddyn gynnig pan gaiff y penderfyniad a wneir gan awdurdod derbyn i gynnig neu i wrthod lle i blentyn mewn ysgol uwchradd ei gyfleu i'r rhiant yw 1 Mawrth.

(2Mewn unrhyw flwyddyn pan nad yw 1 Mawrth yn ddiwrnod gwaith y diwrnod a ragnodir yw'r diwrnod gwaith nesaf.

(3Dim ond mewn perthynas â phenderfyniad a wneir ynghylch cais a wneir yn ystod cylch derbyn arferol y mae paragraff (1) yn gymwys.

Y diwrnod y mae'r penderfyniadau mewn perthynas â derbyniadau i ysgolion cynradd i gael eu cyfleu i rieni

4.—(1Y diwrnod a ragnodir yn y flwyddyn gynnig pan gaiff y penderfyniad a wneir gan awdurdod derbyn i gynnig neu i wrthod lle i blentyn mewn ysgol gynradd ei gyfleu i'r rhiant yw 16 Ebrill.

(2Mewn unrhyw flwyddyn pan nad yw 16 Ebrill yn ddiwrnod gwaith y diwrnod a ragnodir yw'r diwrnod gwaith nesaf.

(3Dim ond mewn perthynas â phenderfyniad a wneir ynghylch cais a wneir yn ystod cylch derbyn arferol y mae paragraff (1) yn gymwys.

Leighton Andr

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

14 Mai 2013

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adrannau 89B a 138A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998. Deuant i rym ar 8 Gorffennaf 2013 ac maent yn gymwys mewn perthynas â derbyniadau i ysgolion uwchradd ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/2016 ac mewn perthynas â derbyniadau i ysgolion cynradd ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/2019 a'r blynyddoedd academaidd ar ôl hynny (rheoliad 1).

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi 1 Mawrth (neu'r diwrnod gwaith nesaf) fel y dyddiad y mae penderfyniadau mewn perthynas â derbyniadau i ysgolion uwchradd i gael eu cyfleu i rieni.

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi 16 Ebrill (neu'r diwrnod gwaith nesaf) fel y dyddiad y mae penderfyniadau mewn perthynas â derbyniadau i ysgolion cynradd i gael eu cyfleu i rieni.

Ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn gan nad yw'n cael effaith arwyddocaol ar gostau busnesau, elusennau, cyrff gwirfoddol na'r sector cyhoeddus.

(1)

1998 p.31. Mewnosodwyd adran 89B gan adran 48 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p.25); adran 169 ac Atodlen 1, paragraff 53 a 59 ac O.S. 2010/1158. Mae adran 90ZA yn darparu, yn adrannau 89 i 90 o DSFfY 1998, mai ystyr "prescribed" yw wedi ei ragnodi gan Weinidogion Cymru ac ystyr "regulations" yw rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru. Mewnosodwyd yr adran hon gan baragraff 63 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008. Mewnosodwyd adran 138A gan baragraff 71 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008.

(2)

Caiff "admission authority" ei ddiffinio yn adran 88(1) o DSFfY 1998.

(3)

Gweler adran 142(1) o DSFfY 1998 (p.31) i gael y diffiniad o "relevant age group".

(4)

Diwygiwyd adran 84 gan adran 40 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40) a Rhan 6 o Atodlen 18 iddi.

(7)

Mae'r prosbectws cyfansawdd yn nodi'r trefniadau derbyn ar gyfer ardal awdurdod lleol, gan gynnwys y dyddiad ar gyfer cael ceisiadau derbyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill