Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 1577 (Cy. 145)

Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru

Pensiynau, Cymru

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed

25 Mehefin 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Mehefin 2013

Yn dod i rym

1 Awst 2013

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 34, 60 a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1).

Yn unol ag adran 34(5) o’r Ddeddf honno, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru, cyn gwneud y Gorchymyn, â’r personau a oedd, yn eu barn hwy, yn briodol.

Mae Gweinidogion Cymru(2) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2013.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Awst 2013.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

2.  Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(3) (y nodir Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) ynddi) wedi ei diwygio yn unol â’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

25 Mehefin 2013

Erthygl 2

YR ATODLEN

Diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

1.  Yn Rhan 1 (enwi a dehongli), yn rheol 2 (dehongli), ym mharagraff (1) mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn y mannau priodol—

ystyr “cael ei ailgofrestru’n awtomatig” (“automatically re-enrolled”) yw dod yn aelod-ddiffoddwr tân o’r Cynllun ar y dyddiad ailgofrestru awtomatig;

ystyr “cael ei gofrestru’n awtomatig” (“automatically enrolled”) yw dod yn aelod-ddiffoddwr tân o’r Cynllun ar y dyddiad cofrestru awtomatig;

ystyr “dewis ymuno” (“opt in”) yw dod yn aelod-ddiffoddwr tân o’r Cynllun yn unol â’r hawl yn adran 7(3) o Ddeddf Pensiynau 2008(4) ac yn unol â’r trefniadau a ragnodir gan y Rheoliadau Cofrestru Awtomatig, ac mae ymadroddion tebyg i’w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “dyddiad ailgofrestru awtomatig” (“automatic re-enrolment date”) yw’r dyddiad a bennir yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau Cofrestru Awtomatig;

mae i “dyddiad cofrestru awtomatig” yr ystyr a roddir i “automatic enrolment date” gan adran 3(7) (cofrestru awtomatig) o Ddeddf Pensiynau 2008;

ystyr “y Rheoliadau Cofrestru Awtomatig” (“the Automatic Enrolment Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol a Phersonol (Cofrestru Awtomatig) 2010(5).

2.  Yn Rhan 2 (aelodaeth o’r cynllun, diweddu ac ymddeol) —

(a)yn rheol 1 (aelodaeth o’r cynllun)—

(i)ym mharagraff (2) yn lle “rheol 6(4)” rhodder “rheol 6”; a

(ii)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(2A) Pan fo person sydd—

(a)wedi dechrau swydd fel diffoddwr tân cyn 6 Ebrill 2006;

(b)wedi parhau mewn swydd o’r fath tan ddyddiad cofrestru awtomatig y diffoddwr tân;

(c)wedi gwneud dewisiad i beidio â thalu cyfraniadau pensiwn o dan Gynllun 1992 neu nad yw’n gymwys i fod yn aelod o Gynllun 1992; ac

(ch)heb ddewis dod yn aelod o’r Cynllun hwn fel arall,

yn cael ei gofrestru’n awtomatig yn y Cynllun hwn, bydd y cofrestriad hwnnw yn golygu dewis dod yn aelod-ddiffoddwr tân o’r Cynllun hwn.;

(b)yn rheol 5 (dewis peidio â gwneud cyfraniadau pensiwn) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1ZA) Rhaid i hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan baragraff (1) o’r rheol hon gael ei lofnodi gan yr aelod-ddiffoddwr tân neu, pan fo’r hysbysiad ar ffurf electronig, rhaid iddo gynnwys datganiad yn cadarnhau mai’r person hwnnw ei hun a gyflwynodd yr hysbysiad.; ac

(c)yn rheol 6 (ailymuno â’r Cynllun)—

(i)yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Caiff person sydd wedi gwneud dewisiad cyfraniadau ei ganslo drwy roi i’r awdurdod hysbysiad ysgrifenedig wedi ei lofnodi neu, pan fo’r hysbysiad ar ffurf electronig, rhaid iddo gynnwys datganiad yn cadarnhau mai’r person hwnnw ei hun a gyflwynodd yr hysbysiad.;

(ii)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Pan fo person sydd wedi gwneud dewisiad cyfraniadau yn cael ei gofrestru neu ei ailgofrestru’n awtomatig yn y Cynllun wedi hynny, bydd y cofrestriad neu’r ailgofrestriad hwnnw yn golygu canslo ei ddewisiad cyfraniadau.;

(iii)hepgorer paragraffau (2) a (3); a

(iv)ym mharagraff (4), ar ôl “o’r rheol hon i law”, mewnosoder—

neu, yn achos aelod-ddiffoddwr tân sydd wedi cael ei gofrestru neu ei ailgofrestru’n awtomatig, bydd yn weithredol o’r dyddiad cofrestru neu ailgofrestru awtomatig (yn ôl y digwydd).

3.  Yn Rhan 3 (dyfarndaliadau personol), yn rheol 8 (ad-dalu cyfraniadau pensiwn cyfanredol)—

(a)cyn paragraff (1) mewnosoder—

(Z1) Mae paragraffau (1) a (2) yn ddarostyngedig i baragraff (3).; a

(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Yn achos aelod-ddiffoddwr tân sy’n gwneud dewisiad cyfraniadau ar ôl cael ei gofrestru neu ei ailgofrestru’n awtomatig yn y Cynllun, neu ar ôl dewis ymuno â’r Cynllun, mae paragraffau (1) a (2) yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

(a)ystyr “tri mis o wasanaeth cymhwysol” yw tri mis o wasanaeth cymhwysol er cael ei gofrestru neu ei ailgofrestru’n awtomatig, neu ddewis ymuno (yn ôl y digwydd), ar yr achlysur hwnnw; a

(b)ystyr “cyfraniadau pensiwn cyfanredol” yw’r taliadau a wneir gan yr aelod-ddiffoddwr tân i awdurdod cyflogi’r aelod drwy gyfraniadau pensiwn er cael ei gofrestru neu ei ailgofrestru’n awtomatig, neu ddewis ymuno (yn ôl y digwydd), ar yr achlysur hwnnw..

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007. Mae’r diwygiadau yn sicrhau bod Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) (“y Cynllun”) yn cydymffurfio â’r gofynion a ragnodir gan Ddeddf Pensiynau 2008 a Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol a Phersonol (Cofrestru Awtomatig) 2010 (“Rheoliadau 2010”) o ran y trefniadau y mae’n rhaid i’r cyflogwr eu gwneud mewn cysylltiad â chofrestru ac ailgofrestru deiliad swydd yn awtomatig mewn cynllun cymhwysol. Mae’r diwygiadau hefyd yn sicrhau bod y Cynllun yn cydymffurfio â threfniadau eraill a ragnodir gan Ddeddf Pensiynau 2008 a Rheoliadau 2010, y caiff deiliad swydd neu weithiwr ymuno a/neu ymadael â chynllun pensiwn cymhwysol yn unol â hwy.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(2)

Mae’r pwerau o dan adrannau 34 a 60 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Yr oeddent wedi eu breinio’n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32)), trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill