- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013.
2.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(2) Mae Rhannau 3 i 8 yn gymwys yn unig i ddaliad mewn parth perygl nitradau, a ddynodwyd fel y cyfryw gan y Rheoliadau hyn.
(3) Yn achos daliad sydd yn rhannol mewn parth perygl nitradau a ddynodwyd fel y cyfryw gan y Rheoliadau hyn, mae Rhannau 3 i 8 yn gymwys yn unig i’r rhan o’r daliad sydd oddi mewn i’r parth, ac y mae cyfeiriad at ddaliad yn gyfeiriad at y rhan honno.
3. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Hydref 2013.
4. Mewn daliad neu ran o ddaliad na leolir o fewn parth perygl nitradau o dan Reoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008(1) ond a leolir o fewn ardal a ddynodwyd yn barth perygl nitradau o dan y Rheoliadau hyn—
(a)ni fydd rheoliadau 12 i 22, rheoliad 23(2), rheoliadau 24 a 25, 30 i 33 a rheoliadau 36 i 46 yn gymwys tan 1 Ionawr 2014;
(b)ni fydd rheoliad 23(1) yn gymwys tan 1 Ionawr 2016; ac
(c)ni fydd rheoliadau 26 i 29 a 34 a 35 yn gymwys tan 1 Awst 2015.
5. Mae dŵr wedi’i lygru—
(a)os yw’n ddŵr croyw ac yn cynnwys crynodiad nitradau sy’n uwch na 50 mg/l, neu y gallai ei gynnwys pe na bai’r Rheoliadau hyn yn gymwys yno, neu
(b)os yw’n ewtroffig neu y gallai ddod yn ewtroffig yn y dyfodol agos pe na bai’r Rheoliadau hyn yn gymwys yno.
6. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “amaethyddiaeth” yr un ystyr a roddir i “agriculture” yn adran 109(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1947;
ystyr “ardal amaethyddol” (“agricultural area”) yw unrhyw dir amaethyddol a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol;
mae “cnwd â galw mawr am nitrogen” (“crop with high nitrogen demand”) yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, porfa, tatws, betys siwgr, indrawn, gwenith, rêp had olew, haidd, bresych, rhyg a rhygwenith;
ystyr “cynllun gwrteithio” (“fertilisation plan”) yw cynllun a gafodd ei baratoi o dan reoliad 14(1)(c);
ystyr “da byw” (“livestock”) yw unrhyw anifail (gan gynnwys dofednod) a bennir yn Atodlen 1;
ystyr “da byw nad ydynt yn pori” (“non-grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 2 yn Atodlen 1;
ystyr “da byw sy’n pori” (“grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 1 yn Atodlen 1;
ystyr “daliad” (“holding”) yw’r holl dir sydd o fewn parth perygl nitradau ynghyd â’i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i’r meddiannydd ac sy’n cael eu defnyddio i dyfu cnydau mewn pridd neu fagu da byw at ddibenion amaethyddol;
ystyr “dofednod” (“poultry”) yw dofednod a bennir yn Atodlen 1;
ystyr “ewtroffig” (“eutrophic”) yw dŵr sydd wedi’i gyfoethogi gan gyfansoddion nitrogen, sy’n peri i algâu a ffurfiau uwch ar fywyd planhigol dyfu’n gyflymach, gan darfu mewn modd annymunol ar gydbwysedd yr organeddau sy’n bresennol yn y dŵr ac ar ansawdd y dŵr o dan sylw;
ystyr “gwrtaith ffosffad” (“phosphate fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion ffosffad a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;
ystyr “gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd” (“manufactured phosphate fertiliser”) yw unrhyw wrtaith ffosffad (ac eithrio tail organig) sydd wedi’i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;
ystyr “gwrtaith nitrogen” (“nitrogen fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu fwy o gyfansoddion nitrogen a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;
ystyr “gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd” (“manufactured nitrogen fertiliser”) yw unrhyw wrtaith nitrogen (ac eithrio tail organig) sydd wedi’i weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;
ystyr “porfa” (“grass”) yw—
glaswelltir parhaol neu laswelltir dros dro (ystyr dros dro yw am gyfnod llai na phedair blynedd);
sy’n bodoli rhwng hau ac aredig y borfa; ac
mae’n cynnwys cnydau yr heuwyd porfa oddi tanynt,
ond nid yw’n cynnwys glaswelltir sydd â 50% neu ragor o feillion;
“pridd tenau” (“shallow soil”) yw pridd y mae ei ddyfnder yn llai na 40 cm;
ystyr “pridd tywodlyd” (“sandy soil”) yw unrhyw bridd sy’n gorwedd ar dywodfaen, ac unrhyw bridd arall sy’n cynnwys—
yn yr haen hyd at ddyfnder o 40cm—
mwy na 50 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â diamedr o 0.06 i 2 mm,
llai na 18 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm, a
llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig; a
yn yr haen o ddyfnder 40 i 80 cm—
mwy na 70 % yn ôl pwysau o ronynnau y mae eu diamedr o 0.06 i 2 mm;
llai na 15 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm;
llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig;
ystyr “slyri” (“slurry”) yw carthion a gynhyrchir gan dda byw (ac eithrio dofednod) tra bônt mewn buarth neu adeilad (gan gynnwys unrhyw sarn, dŵr glaw neu olchiadau a gymysgwyd gyda’r carthion hynny) ac y mae eu tewdra yn caniatáu iddynt gael eu pwmpio neu eu gollwng drwy ddisgyrchiant (yn achos carthion sydd wedi’u gwahanu i’w ffracsiynau hylifol a’u rhai solet, y ffracsiwn hylifol yw’r slyri);
mae “taenu” (“spreading”) yn cynnwys dodi ar wyneb y tir, chwistrellu i mewn i’r tir neu gymysgu â haenau arwyneb y tir ond nid yw’n cynnwys dyddodi carthion yn uniongyrchol ar y tir gan anifeiliaid;
ystyr “tail organig” (“organic manure”) yw unrhyw wrtaith nitrogen neu wrtaith ffosffad sydd â’u ffynhonnell yn anifeiliaid, planhigion neu fodau dynol, ac mae’n cynnwys tail da byw; ac
ystyr “tir y mae’r risg o oferu drosto yn isel” (“land that has a low run-off risk”) yw tir:
y mae ei oleddf cyfartalog yn llai na 3º (3 gradd);
nad oes ynddo ddraeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi’i selio); ac
sydd o leiaf 50 metr i ffwrdd o gwrs dŵr neu ddyfrffos sy’n arwain at gwrs dŵr.
7.—(1) Yn y Rhan hon—
ystyr “daliad perthnasol” (“relevant holding”) yw tir ynghyd â’i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i’r meddiannydd ac sy’n cael eu defnyddio i dyfu cnydau mewn pridd neu i fagu da byw at ddibenion amaethyddol, ac sydd yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn ardal—
y mae Corff Adnoddau Naturiol Cymru yn argymell; a
y mae Gweinidogion Cymru â’u bryd ar dderbyn yr argymhelliad hwnnw (gyda diwygiadau neu hebddynt) mewn perthynas â’r ardal honno,
y dylid ei dynodi, neu barhau ei dynodiad, yn barth perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn;
ystyr “y person penodedig” (“the appointed person”) yw person a benodwyd gan Weinidogion Cymru.
(2) Mae’r ardaloedd a nodir yn barthau perygl nitradau ar y map o’r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013” (“Nitrate Vulnerable Zones Index Map 2013”) ac a adneuwyd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ wedi eu dynodi yn barthau perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(3) Parthau perygl nitradau yw darnau o dir sy’n draenio i ddyfroedd llygredig ac yn cyfrannu at lygru’r dyfroedd hynny.
(4) I gynorthwyo Gweinidogion Cymru mewn perthynas â’u dyletswydd i adolygu o dan reoliad 11(3), rhaid i Gorff Adnoddau Naturiol Cymru, ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym a phob pedair blynedd fan hwyraf wedi hynny, wneud argymhellion i Weinidogion Cymru, gan gyfeirio at y materion a grybwyllir yn rheoliad 11(3)(a) i (c), ynglŷn â pha ardaloedd y dylid eu dynodi, neu y dylid parhau eu dynodiad, yn barthau perygl nitradau at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(5) Mae unrhyw argymhellion ynglŷn â’r materion a nodir yn rheoliad 7(4) ac a wnaed gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym yn cael effaith fel petaent wedi eu gwneud ar y dyddiad hwnnw.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r argymhellion hynny a wnaed gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru y maent â’u bryd ar eu derbyn (gyda diwygiadau neu hebddynt) ac anfon hysbysiad o’r argymhellion i unrhyw berchennog neu feddiannydd daliad perthnasol.
(7) Rhaid i hysbysiad gynnwys cyfeiriad at dudalen ar wefan a gynhelir gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru, lle y mae modd dod o hyd i’r argymhelliad perthnasol (gydag unrhyw ddiwygiad y mae Gweinidogion Cymru â’u bryd ar ei wneud iddo).
8.—(1) Caiff perchennog neu feddiannydd daliad perthnasol yr anfonwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 7(6) apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.
(2) Dim ond ar un neu ragor o’r seiliau a nodir ym mharagraff (3) y ceir apelio.
(3) Y seiliau yw na ddylai Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â’r daliad perthnasol neu unrhyw ran ohono, dderbyn argymhellion Corff Adnoddau Naturiol Cymru (yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiad y mae Gweinidogion Cymru â’u bryd ar ei wneud iddynt) oherwydd—
(a)nad yw’r daliad perthnasol nac unrhyw ran ohono yn draenio i ddŵr y mae Gweinidogion Cymru â’u bryd ar ei nodi’n llygredig neu’n parhau i’w nodi felly; neu
(b)bod y daliad perthnasol neu unrhyw ran ohono yn draenio i ddŵr na ddylai Gweinidogion Cymru ei nodi’n llygredig, neu na ddylent barhau i’w nodi felly.
(4) Rhaid seilio’r apêl ar naill ai—
(a)data a ddarperir gan yr apelydd; neu
(b)tystiolaeth a ddarperir gan yr apelydd bod y data y mae Gweinidogion Cymru’n dibynnu arnynt yn anghywir.
(5) Rhaid i’r apêl—
(a)cael ei gwneud yn ysgrifenedig yn y dull a’r ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;
(b)cynnwys manylion yr holl dystiolaeth y mae’r apelydd yn bwriadu dibynnu arni; ac
(c)cyrraedd Gweinidogion Cymru ddim hwyrach na 35 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonodd Gweinidogion Cymru yr hysbysiad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio’r apêl ymlaen at y person penodedig i’w hystyried a’i phenderfynu ganddo.
9.—(1) Os bodlonir y person penodedig fod apêl a gyflwynwyd yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 8 ym mhob manylyn o bwys, rhaid i’r person penodedig fynd ymlaen i benderfynu’r apêl.
(2) Y person penodedig sydd i bennu’r weithdrefn ar gyfer penderfynu’r apêl.
(3) Ond mae hynny’n ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(4) Cyn penderfynu’r apêl rhaid i’r person penodedig, gan ganiatáu pa bynnag gyfnod o amser sy’n rhesymol—
(a)gwahodd yr apelydd a Gweinidogion Cymru i gyflwyno sylwadau a dogfennau ategol mewn perthynas â’r apêl;
(b)anfon copi at Weinidogion Cymru o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan yr apelydd;
(c)anfon copi at yr apelydd o unrhyw sylwadau a dogfennau ategol a gyflwynwyd gan Weinidogion Cymru;
(d)rhoi cyfle i’r apelydd ac i Weinidogion Cymru gyflwyno sylwadaethau i’r person penodedig, ar sylwadau a dogfennau ategol y naill a’r llall.
(5) Caiff y person penodedig, ar unrhyw adeg, ofyn am wybodaeth bellach gan yr apelydd neu gan Weinidogion Cymru.
(6) Caiff y person penodedig wahodd unrhyw berson y mae’n ymddangos bod ganddo fuddiant sylweddol yn yr apêl i gyflwyno sylwadau, ond rhaid iddo roi cyfle i’r apelydd ac i Weinidogion Cymru gyflwyno sylwadaethau ar unrhyw sylwadau a wnaed.
(7) Caiff y person penodedig anwybyddu unrhyw sylwadau, sylwadaethau neu ddogfennau a gyflwynir mewn unrhyw fodd ac eithrio’n unol â darpariaethau’r Rheoliadau hyn.
(8) Caiff y person penodedig, os bodlonir ef fod amgylchiadau eithriadol yn bodoli, gynnull gwrandawiad llafar.
(9) Bydd gan yr apelydd a Gweinidogion Cymru hawl i ymddangos mewn unrhyw wrandawiad llafar, a chaiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw barti arall ymddangos yno.
(10) Pan fo apêl wedi ei phenderfynu, rhaid i’r person penodedig anfon copi o’r penderfyniad at yr holl bartïon i’r apêl.
(11) Rhaid i bob un sy’n barti i apêl dalu ei gostau ei hunan.
(12) Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl ar unrhyw adeg cyn ei phenderfynu gan y person penodedig.
(13) Mae tynnu apêl yn ôl yn effeithiol wrth i’r apelydd roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person penodedig.
(14) Os tynnir apêl yn ôl bydd y person penodedig yn peidio â bod o dan ddyletswydd i’w hystyried a’i phenderfynu.
10.—(1) Mae penderfyniad y person penodedig mewn apêl yn rhwymo Gweinidogion Cymru.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi, ar wefan a gynhelir ganddynt hwy, bob penderfyniad apêl gan y person penodedig.
11.—(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gadw dan adolygiad yn gyson gyflwr ewtroffig dyfroedd wyneb croyw, dyfroedd aberol a dyfroedd arfordirol.
(2) Cyn 1 Ionawr 2017, ac o leiaf bob pedair blynedd ar ôl hynny, rhaid i Weinidogion Cymru fonitro’r crynodiad nitradau mewn dyfroedd croyw dros gyfnod o un flwyddyn—
(a)mewn safleoedd samplu sy’n gynrychiadol o ddŵr wyneb, o leiaf bob mis ac yn amlach yn ystod cyfnodau llifogydd, a
(b)mewn safleoedd samplu sy’n gynrychiadol o ddŵr daear, ar adegau rheolaidd a chan gymryd i ystyriaeth ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir ar gyfer ei yfed gan bobl(2),
ac eithrio yn achos y safleoedd samplu hynny lle’r mae’r crynodiad nitradau ym mhob sampl blaenorol a gymerwyd at y diben hwn wedi bod islaw 25 mg/l ac nad oes unrhyw ffactor newydd wedi ymddangos sy’n debygol o gynyddu’r cynnwys nitradau, ac mewn achos o’r fath, bob wyth mlynedd yn unig y bydd angen ail gynnal y rhaglen fonitro.
(3) Ar ddiwedd pob cyfnod o bedair neu wyth mlynedd fan hwyraf, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)nodi’r dŵr y mae llygredd yn effeithio arno neu ddŵr y gallai llygredd effeithio arno pe na chymhwysid y rheolaethau sydd yn y Rheoliadau hyn yn yr ardal honno, gan ddefnyddio’r meini prawf yn Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 91/676/EEC ynghylch diogelu dyfroedd rhag llygredd a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol(3);
(b)nodi tir sy’n draenio i’r dyfroedd hynny, neu i ddŵr a nodwyd yn yr un modd yn Lloegr, ac sy’n cyfrannu at lygru’r dyfroedd hynny;
(c)cymryd i ystyriaeth newidiadau a ffactorau nas rhagwelwyd pan wnaed y dynodiad blaenorol; a
(d)os oes angen, diwygio’r parthau perygl nitradau a ddynodir neu ychwanegu atynt.
12.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, yn ystod unrhyw flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170 kg wedi’i luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
(2) Rhaid cyfrifo maint y nitrogen a gynhyrchir gan dda byw yn unol ag Atodlen 1.
(3) Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at y diben o ganfod maint y nitrogen y caniateir ei daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd neu unrhyw goetir, oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori.
13.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a daenir ar unrhyw hectar penodol ar y daliad, yn fwy na 250 kg.
(2) Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig, yn gyfan gwbl ar ffurf compost ardystiedig, a ddodir ar unrhyw hectar penodol o’r daliad, yn fwy nag—
(i)1000 kg mewn unrhyw gyfnod o bedair blynedd os dodir ef fel tomwellt ar dir perllan; neu
(ii)500 kg mewn unrhyw gyfnod o ddwy flynedd os dodir ef ar unrhyw dir arall.
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (2), rhaid cyfrifo cyfanswm y nitrogen mewn tail organig drwy gyfeirio at y dulliau a ddisgrifir yn rheoliad 17 ar gyfer penderfynu’r cynnwys nitrogen.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “tir perllan” (“orchard land”) yw tir y tyfir arno unrhyw ffrwyth a restrir yn Atodlen 2.
(b)ystyr “compost ardystiedig” (“certified compost”) yw compost gwyrdd neu gompost gwyrdd/bwyd y mae’r cyflenwr yn cadarnhau mewn ysgrifen ei fod yn bodloni’r safonau a bennir yn y cyhoeddiad PAS 100:2011 ar ddeunyddiau a gompostiwyd, dyddiedig Ionawr 2011(4) ac nad yw’n cynnwys unrhyw dail da byw.
(c)Rhaid i’r meddiannydd gadw yn ei feddiant gadarnhad ysgrifenedig fod y tail organig yn cydymffurfio ag is-baragraff (b).
14.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen—
(a)cyfrifo faint o nitrogen yn y pridd sy’n debyg o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno yn ystod y tymor tyfu (“y cyflenwad nitrogen yn y pridd”);
(b)cyfrifo’r maint optimwm o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth y maint o nitrogen sydd ar gael o’r cyflenwad nitrogen yn y pridd; ac
(c)llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.
(2) Yn achos unrhyw gnwd nad yw’n laswelltir parhaol, rhaid i’r meddiannydd wneud hyn cyn taenu unrhyw wrtaith nitrogen am y tro cyntaf er mwyn gwrteithio cnwd sydd wedi’i blannu neu y bwriedir ei blannu.
(3) Yn achos glaswelltir parhaol, rhaid i’r meddiannydd wneud hyn bob blwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith nitrogen am y tro cyntaf.
(4) Rhaid i’r cynllun fod ar ffurf barhaol.
(5) Rhaid i’r cynllun gofnodi—
(a)cyfeirnod neu enw’r cae perthnasol;
(b)y rhan o’r cae a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu; ac
(c)y math o gnwd.
(6) Yn achos y rhan a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu, rhaid i’r cynllun gofnodi—
(a)y math o bridd;
(b)y cnwd blaenorol (ac os porfa oedd y cnwd blaenorol, a reolid y borfa drwy’i thorri ynteu’i phori);
(c)y cyflenwad nitrogen yn y pridd wedi’i gyfrifo’n unol â pharagraff (1) a’r dull a ddefnyddiwyd i gyrraedd y ffigur hwn;
(d)y mis y rhagwelir y caiff y cnwd ei blannu;
(e)maint y cynnyrch a ddisgwylir (os yw’n gnwd âr); ac
(f)y maint optimwm o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth y maint o nitrogen sydd ar gael o’r cyflenwad nitrogen yn y pridd.
15.—(1) Cyn taenu tail organig, rhaid i’r meddiannydd, ar bob achlysur, gyfrifo maint y nitrogen o’r tail hwnnw sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.
(2) Rhaid i’r meddiannydd, cyn taenu, gofnodi—
(a)y rhan y taenir y tail organig arni;
(b)y maint o dail organig sydd i’w daenu;
(c)y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis);
(d)y math o dail organig;
(e)cyfanswm y nitrogen sydd ynddo; ac
(f)cyfanswm y nitrogen sy’n debygol o fod ar gael, o’r tail organig y bwriedir ei daenu, i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.
(3) Cyn taenu gwrtaith nitrogen, rhaid i’r meddiannydd gofnodi—
(a)y maint sydd ei angen; a
(b)y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis).
16.—(1) Hyd at 31 Rhagfyr 2013, ni waeth beth fo’r ffigur yn y cynllun, rhaid i feddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—
(a)y nitrogen o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd, a
(b)y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o dail da byw yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo, a gyfrifir yn unol â rheoliad 17,
yn fwy yn ystod unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis na’r terfynau a bennir yn rheoliad 18.
(2) Ar neu ar ôl 1 Ionawr 2014, ni waeth beth fo’r ffigur yn y cynllun, rhaid i feddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—
(a)y nitrogen o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd, a
(b)y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o dail organig yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo, a gyfrifir yn unol â rheoliad 17,
yn fwy yn ystod unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis na’r terfynau a bennir yn rheoliad 18.
17.—(1) Rhaid i’r meddiannydd benderfynu cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw, at ddibenion rheoliad 16, drwy—
(a)defnyddio’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 3; neu
(b)samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.
(2) Unwaith y bydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw wedi ei benderfynu, rhagdybir y canrannau canlynol er mwyn penderfynu maint y nitrogen yn y tail da byw sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo;
Math o dail da byw | Maint y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor taenu y’i taenir ynddo | |
---|---|---|
Hyd at 31 Rhagfyr 2013 | O 1 Ionawr 2014 | |
Slyri gwartheg | 35% | 40% |
Slyri moch | 45% | 50% |
Tail dofednod | 30% | 30% |
Tail da byw eraill | 10% | 10% |
(3) Mewn perthynas â phob tail organig arall, rhaid i’r meddiannydd benderfynu cyfanswm y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo, at ddibenion rheoliad 16—
(a)drwy gyfeirio at ddadansoddiadau technegol a ddarperir gan y cyflenwr;
(b)i’r graddau nad oes gwybodaeth o’r fath ar gael, drwy gyfeirio at y gwerthoedd a roddir yn y Llawlyfr Gwrteithiau (RB 209) (8fed Argraffiad)(5) (ynddo, cyfeirir atynt fel “nitrogen available to the next crop”); neu
(c)drwy samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.
18.—(1) Cyfanswm y nitrogen y caniateir ei daenu ar unrhyw gnwd a restrir yn y golofn gyntaf isod yw’r ffigur a roddir yn yr ail golofn isod, wedi ei addasu yn unol â’r nodiadau i’r tabl hwnnw, ac wedi ei luosi gyda chyfanswm yr arwynebedd, mewn hectarau, o’r cnwd hwnnw a heuwyd ar y daliad.
Meintiau uchaf o nitrogen
Cnwd | Maint y nitrogen a ganiateir (kg)(a) | Cynnyrch safonol (tunnell/ha) | ||
---|---|---|---|---|
(a) Caniateir 80 kg yr hectar yn ychwanegol ar gyfer pob cnwd a dyfir mewn caeau os dodwyd gwellt neu slwtsh papur ar y cnwd presennol neu’r cnwd blaenorol. | ||||
(b) Caniateir 20 kg yr hectar yn ychwanegol ar gaeau sydd â phridd tenau (ac eithrio priddoedd tenau sy’n gorwedd ar dywodfaen). | ||||
(c) Caniateir 20 kg yr hectar yn ychwanegol am bob tunnell y mae’r cynnyrch disgwyliedig yn uwch na’r cynnyrch safonol. | ||||
(d) Caniateir 40 kg yr hectar yn ychwanegol ar gyfer rhywogaethau o wenith melino. | ||||
(e) Mae hyn yn cynnwys unrhyw nitrogen a ddodir fel esemptiad o’r cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchir. Ceir cynyddu’r maint a ganiateir o 30 kg yr hectar am bob hanner tunnell y mae’r cynnyrch disgwyliedig yn uwch na’r cynnyrch safonol. | ||||
(f) Caniateir 40 kg yr hectar yn ychwanegol ar gyfer porfa a dorrir deirgwaith, o leiaf, bob blwyddyn. | ||||
Betys coch | 350 | dd/g | ||
Betys siwgr | 120 | dd/g | ||
Blodfresych | 350 | dd/g | ||
Bresych | 350 | dd/g | ||
Calabrese | 350 | dd/g | ||
Cennin | 350 | dd/g | ||
Corffa | 250 | dd/g | ||
Courgettes | 250 | dd/g | ||
Ffa dringo | 250 | dd/g | ||
Ffa maes | 0 | dd/g | ||
Gwenith a heuir yn y gwanwyn | 180(c) (d) | 7.0 | ||
Gwenith a heuir yn yr hydref neu’r gaeaf cynnar | 220(b) (c) (d) | 8.0 | ||
Haidd y gaeaf | 180(b) (c) | 6.5 | ||
Haidd y gwanwyn | 150(c) | 5.5 | ||
India-corn | 250 | dd/g | ||
Indrawn porthi | 150 | dd/g | ||
Letys | 250 | dd/g | ||
Maip | 250 | dd/g | ||
Merllys | 150 | dd/g | ||
Moron | 150 | dd/g | ||
Pannas | 250 | dd/g | ||
Porfa | 300(f) | dd/g | ||
Pys | 0 | dd/g | ||
Radis | 150 | dd/g | ||
Rêp had olew y gaeaf | 250(e) | 3.5 | ||
Seleri | 250 | dd/g | ||
Swêds | 150 | dd/g | ||
Tatws | 270 | dd/g | ||
Winwns | 250 | dd/g | ||
Ysgewyll Brwsel | 350 | dd/g |
19.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad sy’n taenu tail organig ar y daliad hwnnw gynnal map o’r daliad (“map risg”) yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Os bydd amgylchiadau’n newid, rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map risg o fewn tri mis i’r newid.
(3) Rhaid i’r map risg ddangos—
(a)pob cae, ynghyd â’i arwynebedd mewn hectarau;
(b)yr holl ddyfroedd wyneb;
(c)unrhyw dyllau turio, ffynhonnau neu bydewau sydd ar y daliad neu sydd o fewn 50 metr i ffin y daliad;
(d)y rhannau â phriddoedd tywodlyd neu denau;
(e)tir sydd ar oleddf o fwy na 12°;
(f)tir sydd o fewn 10 metr i ddyfroedd wyneb;
(g)tir sydd o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew;
(h)draeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi’i selio);
(i)safleoedd sy’n addas ar gyfer tomenni dros dro mewn caeau os bwriedir defnyddio’r dull hwn o storio tail; a
(j)tir y mae’r risg o oferu drosto yn isel (mae hyn yn opsiynol i feddiannydd nad yw’n bwriadu taenu tail ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel yn ystod y cyfnod storio yn unol â rheoliad 35).
(4) Os yw meddiannydd yn taenu tail organig drwy ddefnyddio cyfarpar taenu manwl hyd at 6 metr o ddŵr wyneb fel y caniateir gan reoliad 22(1), rhaid i’r map risg nodi’r tir sydd o fewn 6 metr i ddyfroedd wyneb.
(5) Rhaid i’r meddiannydd gadw copi o’r map risg.
20.—(1) Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gynnal arolygiad o’r caeau yn gyntaf, er mwyn ystyried y risg y gallai nitrogen fynd i mewn i ddŵr wyneb.
(2) Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen ar y tir hwnnw os oes risg sylweddol y byddai nitrogen yn mynd i mewn i ddŵr wyneb, gan gymryd i ystyriaeth yn benodol ar—
(a)goleddf y tir, yn enwedig os yw’r goleddf yn fwy na 12°;
(b)unrhyw orchudd tir;
(c)pa mor agos yw’r tir at ddŵr wyneb;
(d)yr amodau tywydd;
(e)y math o bridd; a
(f)presenoldeb draeniau tir.
(3) Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen os yw’r pridd yn ddyfrlawn, dan ddŵr neu wedi’i orchuddio ag eira, neu os oedd y pridd wedi rhewi am fwy na 12 awr yn ystod y 24 awr flaenorol.
21. Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb.
22.—(1) Ni chaiff neb daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb oni ddefnyddir cyfarpar taenu manwl ac yn yr achos hwnnw ni chaiff neb daenu tail organig o fewn 6 metr i ddŵr wyneb.
(2) Ond caniateir taenu tail da byw yno (ac eithrio slyri a thail dofednod)—
(a)os taenir ef ar dir a reolir ar gyfer bridio adar hirgoes neu fel glaswelltir lled-naturiol cyfoethog ei rywogaethau ac os yw’r tir—
(i)yn dir yr hysbyswyd ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(6); neu
(ii)yn ddarostyngedig i ymrwymiad amaeth-amgylcheddol a wnaed o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 (ynglŷn â chymorth ar gyfer datblygu gwledig o Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD)(7));
(b)os taenir ef rhwng 1 Mehefin a 31 Hydref yn gynwysedig;
(c)os na thaenir ef yn uniongyrchol ar ddŵr wyneb; a
(d)os nad yw’r cyfanswm blynyddol yn fwy na 12.5 tunnell yr hectar.
(3) Ni chaiff neb daenu tail organig o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn diffinnir “cyfarpar taenu manwl” (“precision spreading equipment”) fel system gwadnau llusg, bar diferion neu chwistrellydd.
23.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i unrhyw berson sy’n taenu slyri ddefnyddio cyfarpar taenu sydd â thaflwybr taenu isel, sef is na 4 metr o’r ddaear.
(2) Gellir defnyddio cyfarpar taenu sydd â thafliad taenu sy’n fwy na 4 metr o’r ddaear ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel pan fydd cyfarpar o’r fath yn gallu cyflawni cyfartaledd cyflymder dodi slyri heb fod yn fwy na 2 filimedr yr awr pan fydd wrthi’n gweithredu’n ddi-dor.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy’n taenu gwrtaith nitrogen ei daenu mor fanwl gywir ag y bo modd.
24.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy’n dodi tail organig ar wyneb pridd moel neu sofl (ac eithrio pridd sydd wedi ei hau) sicrhau y corfforir y tail yn y pridd yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid corffori tail dofednod cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf.
(3) Rhaid corffori slyri a hylif slwtsh carthion treuliedig (hynny yw, hylif sy’n dod o drin slwtsh carthion drwy dreulio anerobig) cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf, oni ddodwyd y slyri a’r hylif gan ddefnyddio cyfarpar o fath a ddisgrifir yn rheoliad 22(4).
(4) Rhaid corffori unrhyw dail organig arall (ac eithrio tail organig a daenir fel tomwellt ar bridd tywodlyd) yn y pridd cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf, os yw’r tir o fewn 50 metr i ddŵr wyneb ac yn goleddfu mewn modd a allai achosi goferu i’r dŵr hwnnw.
25. Yn y Rhan hon ystyr “tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd” (“organic manure with high readily available nitrogen”) yw tail organig y mae mwy na 30 % o gyfanswm y nitrogen sydd ynddo ar gael i’r cnwd ar yr adeg y taenir y tail.
26. Yn ddarostyngedig i reoliadau 27 a 28, ni chaiff neb daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir rhwng y dyddiadau canlynol, sydd bob un ohonynt yn ddyddiadau cynwysedig (“y cyfnod gwaharddedig”)—
Hyd at 31 Rhag 2013 | Ar neu ar ôl 1 Ion 2014 | |||
---|---|---|---|---|
Math o bridd | Glaswelltir | Tir tro | Glaswelltir | Tir tro |
Pridd tywodlyd neu denau | 1 Medi i 31 Rhagfyr | 1 Awst i 31 Rhagfyr | 1 Medi i 31 Rhagfyr | 1 Awst i 31 Rhagfyr |
Pob math arall o bridd | 15 Hydref i 15 Ionawr | 1 Hydref I 15 Ionawr | 15 Hydref i 31 Ionawr | 1 Hydref i 31 Ionawr |
27. Caniateir taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir tro lle mae’r pridd yn dywodlyd neu’n denau rhwng 1 Awst a 15 Medi yn gynwysedig, ar yr amod yr heuir y cnwd ar neu cyn 15 Medi.
28. Caiff meddiannydd daliad sydd wedi’i gofrestru’n gynhyrchydd organig gyda chorff a gofrestrwyd gyda’r Pwyllgor Cynghori ar Safonau Organig(8) daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar unrhyw adeg—
(a)ar gnydau a restrir yn y tabl yn Atodlen 4 (cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), neu
(b)ar gnydau eraill yn unol â chyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau(9),
ar yr amod na fydd pob hectar y mae tail organig yn cael ei daenu arno yn cael mwy na chyfanswm o 150 kg o nitrogen rhwng dechrau’r cyfnod gwaharddedig a diwedd Chwefror.
29. O ddiwedd y cyfnod gwaharddedig tan ddiwedd Chwefror—
(a)30 metr ciwbig yr hectar yw’r uchafswm o slyri y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg ac 8 tunnell yr hectar yw’r uchafswm o dail dofednod y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg; a
(b)rhaid bod o leiaf dair wythnos rhwng pob taeniad.
30.—(1) Ni chaiff neb daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd ar dir yn ystod y cyfnodau canlynol (mae pob dyddiad yn gynwysedig)—
(a)yn achos glaswelltir, o 15 Medi i 15 Ionawr, neu
(b)yn achos tir tro, o 1 Medi i 15 Ionawr.
(2) Caniateir taenu gwrtaith yn ystod y cyfnodau hyn ar y cnydau a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, ar yr amod nad eir dros ben y gyfradd uchaf yng ngholofn 2.
(3) Caniateir taenu yn ystod y cyfnodau hyn ar gnydau nad ydynt yn Atodlen 4 ar sail cyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau.
31. Rhaid i feddiannydd daliad sy’n storio unrhyw dail organig (ac eithrio slyri), neu unrhyw sarn sydd wedi ei halogi ag unrhyw dail organig, ei storio—
(a)mewn llestr;
(b)mewn adeilad dan do;
(c)ar wyneb anhydraidd; neu
(d)yn achos tail solet y gellir ei bentyrru’n domen ar ei thraed ei hun, ac nad oes hylif yn draenio o’r deunydd, ar safle dros dro mewn cae.
32.—(1) Rhaid i safle dros dro mewn cae beidio â bod—
(a)mewn cae sy’n agored i lifogydd neu fynd yn ddyfrlawn;
(b)o fewn 50m i ffynnon, pydew neu dwll turio neu o fewn 10m i ddŵr wyneb neu draen tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi’i selio);
(c)mewn unrhyw leoliad unigol am fwy na 12 mis yn olynol; neu
(d)yn yr un man ag un cynharach a adeiladwyd o fewn y ddwy flynedd diwethaf.
(2) Rhaid i unrhyw dail dofednod solet, nad oes sarn yn gymysg ag ef ac a gedwir ar safle dros dro mewn cae, gael ei orchuddio â deunydd anhydraidd.
33. Yn ychwanegol at reoliad 32, o 1 Ionawr 2014 ymlaen—
(a)rhaid peidio â symud uwchbridd o’r tir lle y bwriedir adeiladu safle dros dro mewn cae;
(b)rhaid i safle dros dro mewn cae beidio â bod o fewn 30m i gwrs dŵr ar dir y nodir ar y map risg fod ei oleddf yn fwy na 12°; a
(c)dylid cadw arwyneb unrhyw safle dros dro mewn cae mor fach ag y bo’n rhesymol ymarferol, er mwyn lleihau effeithiau trwytholchi gan ddŵr glaw.
34. Rhaid i’r broses o wahanu slyri i’w ffracsiynau solet a hylifol gael ei chyflawni’n fecanyddol neu ar wyneb anhydraidd lle mae’r ffracsiwn hylifol yn draenio i mewn i gynhwysydd addas.
35.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad sy’n cadw unrhyw un o’r anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 ddarparu digon o ofod i storio’r holl slyri a gynhyrchir ar y daliad yn ystod y cyfnod storio, a’r holl dail dofednod a gynhyrchir mewn buarth neu adeilad ar y daliad yn ystod y cyfnod storio.
(2) Rhaid cyfrifo cyfaint y tail a gynhyrchir gan yr anifeiliaid ar y daliad yn unol ag Atodlen 1.
(3) Rhaid bod gan storfa slyri y gofod i storio, yn ychwanegol at y tail, unrhyw ddŵr glaw, golchiadau neu hylif arall sy’n dod i mewn i’r llestr (naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) yn ystod y cyfnod storio.
(4) Nid yw cyfleusterau storio’n angenrheidiol ar gyfer slyri na thail dofednod—
(a)a anfonir oddi ar y daliad; neu
(b)a daenir ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel (ar yr amod bod hyn yn cael ei wneud yn unol â’r cyfyngiadau ar daenu yn y Rheoliadau hyn); ond yn yr achos hwn rhaid darparu cyfleusterau storio ar gyfer tail wythnos ychwanegol fel mesur wrth gefn pe na bai’n bosibl taenu ar rai dyddiadau.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn y “cyfnod storio” (“storage period”) (mae pob dyddiad yn gynwysedig) yw—
(a)y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Ebrill ar gyfer moch a dofednod;
(b)y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Mawrth ym mhob achos arall.
36.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad gynnal cofnod o faint cyfan y daliad wedi’i gyfrifo’n unol â rheoliad 12(3).
(2) Os bydd maint y daliad yn newid, rhaid diweddaru’r cofnod hwn o fewn un mis.
37.—(1) Rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gynnal cofnod o’r canlynol—
(a)maint y tail y bydd y nifer disgwyliedig o anifeiliaid yn ei gynhyrchu, a gedwir mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 35, gan ddefnyddio’r ffigurau yn Atodlen 1;
(b)maint y gofod storio (cynwysyddion slyri a lloriau caled) y mae ei angen i’w gwneud yn bosibl i gydymffurfio â rheoliad 35, gan gymryd i ystyriaeth—
(i)maint y tail y bwriedir ei allforio o’r daliad;
(ii)maint y tail y bwriedir ei daenu ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel; a
(iii)yn achos llestr i ddal slyri, maint yr hylif ac eithrio slyri sy’n debygol o fynd i mewn i’r llestr;
(c)maint cyfredol y gofod storio ar y daliad.
(2) Rhaid i feddiannydd sy’n dod ag anifeiliaid i ddaliad am y tro cyntaf gydymffurfio â pharagraff (1) o fewn mis ar ôl dod â’r anifeiliaid yno.
(3) Os yw maint y gofod storio yn newid, rhaid i’r meddiannydd gofnodi’r newid o fewn wythnos.
38.—(1) Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gofnodi, am y cyfnod storio blaenorol y cyfeirir ato yn rheoliad 35, nifer a chategori’r anifeiliaid mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio.
(2) Rhaid i’r meddiannydd gofnodi hefyd y safleoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer tomenni mewn caeau a dyddiadau eu defnyddio.
39.—(1) Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r canlynol—
(a)nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Atodlen 1) yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol, a
(b)nifer y diwrnodau a dreuliodd pob anifail ar y daliad.
(2) Rhaid i’r meddiannydd gyfrifo wedyn faint y nitrogen sydd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio’r Tabl yn Atodlen 1.
(3) Fel arall, yn achos moch neu ddofednod a letyir yn barhaol, caiff y meddiannydd ddefnyddio—
(a)meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru; neu
(b)yn achos system cadw da byw sy’n cynhyrchu tail solet yn unig, dulliau samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.
(4) Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r cyfrifiadau a’r modd y cyrhaeddwyd at y ffigurau terfynol.
(5) Rhaid i feddiannydd a ddefnyddiodd feddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru gadw allbrint o’r canlyniad.
40.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i feddiannydd sy’n dod â thail da byw i’r daliad gofnodi, o fewn un wythnos—
(a)math a maint y tail da byw;
(b)y dyddiad y daethpwyd â’r tail da byw i’r daliad;
(c)maint y nitrogen sydd ynddo; a
(d)os yw’n hysbys, enw a chyfeiriad y cyflenwr.
(2) Rhaid i feddiannydd sy’n anfon tail da byw o ddaliad gofnodi o fewn un wythnos—
(a)math a maint y tail da byw;
(b)y dyddiad y’i hanfonwyd o’r daliad;
(c)maint y nitrogen sydd ynddo;
(d)enw a chyfeiriad y derbynnydd; ac
(e)manylion cynllun wrth gefn sydd i’w ddefnyddio pe bai cytundeb i berson dderbyn y tail da byw yn methu.
(3) Os nad yw maint y nitrogen sydd yn y tail da byw a ddygir i’r daliad yn hysbys, rhaid i’r meddiannydd ganfod y maint hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i’r tail gyrraedd, a’i gofnodi o fewn un wythnos o’i ganfod.
(4) Rhaid canfod maint cyfan y nitrogen sydd yn y tail da byw drwy ddefnyddio naill ai’r ffigurau safonol yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu drwy samplu a dadansoddi yn y modd a nodir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno.
41. Rhaid i unrhyw berson sy’n defnyddio samplu a dadansoddi i benderfynu maint y nitrogen mewn tail organig gadw’r adroddiad gwreiddiol gan y labordy.
42. Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gofnodi, o fewn wythnos i hau cnwd—
(a)y cnwd a heuir; a
(b)dyddiad ei hau.
43.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, o fewn un wythnos ar ôl taenu tail organig rhaid i’r meddiannydd gofnodi—
(a)y rhan y taenwyd y tail organig arni;
(b)faint o dail organig a daenwyd;
(c)y dyddiad neu’r dyddiadau;
(d)y dulliau o’i daenu;
(e)y math o dail organig;
(f)cyfanswm y nitrogen sydd ynddo;
(g)maint y nitrogen oedd ar gael i’r cnwd.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, o fewn un wythnos ar ôl taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd rhaid i’r meddiannydd gofnodi—
(a)dyddiad ei daenu; a
(b)maint y nitrogen a daenwyd.
(3) Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i feddiannydd daliad mewn unrhyw flwyddyn galendr pan fo 80% o arwynebedd amaethyddol y daliad wedi ei hau â phorfa, ac—
(a)nad yw cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifeiliaid neu o ganlyniad i daenu yn fwy na 100 kg yr hectar;
(b)nad yw cyfanswm y nitrogen mewn gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddodir ar y daliad yn fwy na 90 kg yr hectar; ac
(c)nad yw’r meddiannydd yn dod ag unrhyw dail organig i’r daliad.
44.—(1) Rhaid i feddiannydd sydd wedi defnyddio gwrtaith nitrogen gofnodi’r cynnyrch a gafwyd o gnwd âr o fewn wythnos ar ôl canfod y cynnyrch hwnnw.
(2) Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd gofnodi sut y cafodd unrhyw laswelltir ei reoli yn y flwyddyn galendr flaenorol.
45. Rhaid i feddiannydd gadw copi o unrhyw gyngor gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau ac y dibynnwyd arno at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn am bum mlynedd.
46. Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo wneud cofnod o dan y Rheoliadau hyn ddal gafael ar y cofnod hwnnw am bum mlynedd.
47.—(1) O leiaf bob pedair blynedd rhaid i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd y cyfyngiadau mewn parthau perygl nitradau a osodwyd gan y Rheoliadau hyn fel modd i leihau neu atal llygredd dŵr a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol ac, os yw’n angenrheidiol, eu diwygio.
(2) Er mwyn gwneud hyn rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu rhaglen fonitro i asesu effeithiolrwydd y cyfyngiadau yn y Rheoliadau hyn.
(3) Wrth gynnal yr adolygiad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—
(a)y data gwyddonol a thechnegol sydd ar gael, gan gyfeirio’n benodol at y priod gyfraniadau nitrogen sy’n dod o ffynonellau amaethyddol a ffynonellau eraill; a
(b)amodau amgylcheddol rhanbarthol.
48.—(1) Wrth gynnal yr adolygiad hwn rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau cyfleoedd cynnar ac effeithiol i’r cyhoedd gyfranogi.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau digonol ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd, er mwyn galluogi’r cyhoedd i baratoi ac i gyfranogi’n effeithiol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—
(a)yr ymgynghorir â’r cyhoedd ynghylch unrhyw gynigion, ac y rhoddir gwybodaeth berthnasol am y cynigion hynny ar gael i’r cyhoedd, gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i gyfranogi yn y broses o wneud penderfyniadau ac am y corff y dylid cyflwyno sylwadaethau neu gwestiynau iddo; a
(b)bod hawl gan y cyhoedd i wneud sylwadaethau a mynegi barn pan fo’r holl opsiynau’n agored, cyn bo penderfyniadau ar y cynlluniau a’r rhaglenni wedi eu gwneud.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru nodi’r aelodau o’r cyhoedd y mae hawl ganddynt i gael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys cyrff anllywodraethol sy’n hyrwyddo diogelwch yr amgylchedd.
(5) Rhaid caniatáu amser rhesymol ar gyfer ymgynghori.
(6) Rhaid cymryd yr ymgynghori i ystyriaeth wrth gyrraedd penderfyniad.
(7) Ar ôl yr ymgynghori, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r cyhoedd o’r penderfyniadau a wnaed a’r rhesymau a’r ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniadau hynny arnynt, gan gynnwys gwybodaeth am broses cyfranogiad y cyhoedd.
49.—(1) Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw ddarpariaeth o’r Rheoliadau hyn yn euog o drosedd ac yn agored—
(a)o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na’r uchafswm statudol, neu
(b)o’i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.
(2) Os yw corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall cyffelyb yn y corff corfforaethol, neu
(b)unrhyw berson a oedd yn honni gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o’r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.
50. Gorfodir y Rheoliadau hyn gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru.
51. Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008(10) wedi eu dirymu.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
1 Hydref 2013
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys