Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013

RHAN 7Storio tail organig

Storio tail organig

31.  Rhaid i feddiannydd daliad sy’n storio unrhyw dail organig (ac eithrio slyri), neu unrhyw sarn sydd wedi ei halogi ag unrhyw dail organig, ei storio—

(a)mewn llestr;

(b)mewn adeilad dan do;

(c)ar wyneb anhydraidd; neu

(d)yn achos tail solet y gellir ei bentyrru’n domen ar ei thraed ei hun, ac nad oes hylif yn draenio o’r deunydd, ar safle dros dro mewn cae.

Safleoedd dros dro mewn caeau

32.—(1Rhaid i safle dros dro mewn cae beidio â bod—

(a)mewn cae sy’n agored i lifogydd neu fynd yn ddyfrlawn;

(b)o fewn 50m i ffynnon, pydew neu dwll turio neu o fewn 10m i ddŵr wyneb neu draen tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi’i selio);

(c)mewn unrhyw leoliad unigol am fwy na 12 mis yn olynol; neu

(d)yn yr un man ag un cynharach a adeiladwyd o fewn y ddwy flynedd diwethaf.

(2Rhaid i unrhyw dail dofednod solet, nad oes sarn yn gymysg ag ef ac a gedwir ar safle dros dro mewn cae, gael ei orchuddio â deunydd anhydraidd.

Gofynion ychwanegol a fydd yn gymwys i safleoedd dros dro mewn caeau o 1 Ionawr 2014 ymlaen

33.  Yn ychwanegol at reoliad 32, o 1 Ionawr 2014 ymlaen—

(a)rhaid peidio â symud uwchbridd o’r tir lle y bwriedir adeiladu safle dros dro mewn cae;

(b)rhaid i safle dros dro mewn cae beidio â bod o fewn 30m i gwrs dŵr ar dir y nodir ar y map risg fod ei oleddf yn fwy na 12°; a

(c)dylid cadw arwyneb unrhyw safle dros dro mewn cae mor fach ag y bo’n rhesymol ymarferol, er mwyn lleihau effeithiau trwytholchi gan ddŵr glaw.

Gwahanu slyri

34.  Rhaid i’r broses o wahanu slyri i’w ffracsiynau solet a hylifol gael ei chyflawni’n fecanyddol neu ar wyneb anhydraidd lle mae’r ffracsiwn hylifol yn draenio i mewn i gynhwysydd addas.

Gofod ar gyfer storio

35.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sy’n cadw unrhyw un o’r anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 ddarparu digon o ofod i storio’r holl slyri a gynhyrchir ar y daliad yn ystod y cyfnod storio, a’r holl dail dofednod a gynhyrchir mewn buarth neu adeilad ar y daliad yn ystod y cyfnod storio.

(2Rhaid cyfrifo cyfaint y tail a gynhyrchir gan yr anifeiliaid ar y daliad yn unol ag Atodlen 1.

(3Rhaid bod gan storfa slyri y gofod i storio, yn ychwanegol at y tail, unrhyw ddŵr glaw, golchiadau neu hylif arall sy’n dod i mewn i’r llestr (naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) yn ystod y cyfnod storio.

(4Nid yw cyfleusterau storio’n angenrheidiol ar gyfer slyri na thail dofednod—

(a)a anfonir oddi ar y daliad; neu

(b)a daenir ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel (ar yr amod bod hyn yn cael ei wneud yn unol â’r cyfyngiadau ar daenu yn y Rheoliadau hyn); ond yn yr achos hwn rhaid darparu cyfleusterau storio ar gyfer tail wythnos ychwanegol fel mesur wrth gefn pe na bai’n bosibl taenu ar rai dyddiadau.

(5At ddibenion y rheoliad hwn y “cyfnod storio” (“storage period”) (mae pob dyddiad yn gynwysedig) yw—

(a)y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Ebrill ar gyfer moch a dofednod;

(b)y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Mawrth ym mhob achos arall.