Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013

RHAN 8Cyfrifiadau a chofnodion

Cofnodi maint y daliad

36.—(1Rhaid i feddiannydd daliad gynnal cofnod o faint cyfan y daliad wedi’i gyfrifo’n unol â rheoliad 12(3).

(2Os bydd maint y daliad yn newid, rhaid diweddaru’r cofnod hwn o fewn un mis.

Cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio

37.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gynnal cofnod o’r canlynol—

(a)maint y tail y bydd y nifer disgwyliedig o anifeiliaid yn ei gynhyrchu, a gedwir mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 35, gan ddefnyddio’r ffigurau yn Atodlen 1;

(b)maint y gofod storio (cynwysyddion slyri a lloriau caled) y mae ei angen i’w gwneud yn bosibl i gydymffurfio â rheoliad 35, gan gymryd i ystyriaeth—

(i)maint y tail y bwriedir ei allforio o’r daliad;

(ii)maint y tail y bwriedir ei daenu ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel; a

(iii)yn achos llestr i ddal slyri, maint yr hylif ac eithrio slyri sy’n debygol o fynd i mewn i’r llestr;

(c)maint cyfredol y gofod storio ar y daliad.

(2Rhaid i feddiannydd sy’n dod ag anifeiliaid i ddaliad am y tro cyntaf gydymffurfio â pharagraff (1) o fewn mis ar ôl dod â’r anifeiliaid yno.

(3Os yw maint y gofod storio yn newid, rhaid i’r meddiannydd gofnodi’r newid o fewn wythnos.

Cofnodion blynyddol ynglŷn â storio

38.—(1Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gofnodi, am y cyfnod storio blaenorol y cyfeirir ato yn rheoliad 35, nifer a chategori’r anifeiliaid mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio.

(2Rhaid i’r meddiannydd gofnodi hefyd y safleoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer tomenni mewn caeau a dyddiadau eu defnyddio.

Cofnod o’r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliad

39.—(1Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r canlynol—

(a)nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Atodlen 1) yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol, a

(b)nifer y diwrnodau a dreuliodd pob anifail ar y daliad.

(2Rhaid i’r meddiannydd gyfrifo wedyn faint y nitrogen sydd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio’r Tabl yn Atodlen 1.

(3Fel arall, yn achos moch neu ddofednod a letyir yn barhaol, caiff y meddiannydd ddefnyddio—

(a)meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru; neu

(b)yn achos system cadw da byw sy’n cynhyrchu tail solet yn unig, dulliau samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.

(4Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r cyfrifiadau a’r modd y cyrhaeddwyd at y ffigurau terfynol.

(5Rhaid i feddiannydd a ddefnyddiodd feddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru gadw allbrint o’r canlyniad.

Tail da byw a ddygwyd i’r daliad neu a anfonwyd ohono

40.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i feddiannydd sy’n dod â thail da byw i’r daliad gofnodi, o fewn un wythnos—

(a)math a maint y tail da byw;

(b)y dyddiad y daethpwyd â’r tail da byw i’r daliad;

(c)maint y nitrogen sydd ynddo; a

(d)os yw’n hysbys, enw a chyfeiriad y cyflenwr.

(2Rhaid i feddiannydd sy’n anfon tail da byw o ddaliad gofnodi o fewn un wythnos—

(a)math a maint y tail da byw;

(b)y dyddiad y’i hanfonwyd o’r daliad;

(c)maint y nitrogen sydd ynddo;

(d)enw a chyfeiriad y derbynnydd; ac

(e)manylion cynllun wrth gefn sydd i’w ddefnyddio pe bai cytundeb i berson dderbyn y tail da byw yn methu.

(3Os nad yw maint y nitrogen sydd yn y tail da byw a ddygir i’r daliad yn hysbys, rhaid i’r meddiannydd ganfod y maint hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i’r tail gyrraedd, a’i gofnodi o fewn un wythnos o’i ganfod.

(4Rhaid canfod maint cyfan y nitrogen sydd yn y tail da byw drwy ddefnyddio naill ai’r ffigurau safonol yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu drwy samplu a dadansoddi yn y modd a nodir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno.

Samplu a dadansoddi

41.  Rhaid i unrhyw berson sy’n defnyddio samplu a dadansoddi i benderfynu maint y nitrogen mewn tail organig gadw’r adroddiad gwreiddiol gan y labordy.

Cofnodion o’r cnydau a heuwyd

42.  Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gofnodi, o fewn wythnos i hau cnwd—

(a)y cnwd a heuir; a

(b)dyddiad ei hau.

Cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen

43.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, o fewn un wythnos ar ôl taenu tail organig rhaid i’r meddiannydd gofnodi—

(a)y rhan y taenwyd y tail organig arni;

(b)faint o dail organig a daenwyd;

(c)y dyddiad neu’r dyddiadau;

(d)y dulliau o’i daenu;

(e)y math o dail organig;

(f)cyfanswm y nitrogen sydd ynddo;

(g)maint y nitrogen oedd ar gael i’r cnwd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, o fewn un wythnos ar ôl taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd rhaid i’r meddiannydd gofnodi—

(a)dyddiad ei daenu; a

(b)maint y nitrogen a daenwyd.

(3Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i feddiannydd daliad mewn unrhyw flwyddyn galendr pan fo 80% o arwynebedd amaethyddol y daliad wedi ei hau â phorfa, ac—

(a)nad yw cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifeiliaid neu o ganlyniad i daenu yn fwy na 100 kg yr hectar;

(b)nad yw cyfanswm y nitrogen mewn gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddodir ar y daliad yn fwy na 90 kg yr hectar; ac

(c)nad yw’r meddiannydd yn dod ag unrhyw dail organig i’r daliad.

Cofnodion dilynol

44.—(1Rhaid i feddiannydd sydd wedi defnyddio gwrtaith nitrogen gofnodi’r cynnyrch a gafwyd o gnwd âr o fewn wythnos ar ôl canfod y cynnyrch hwnnw.

(2Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd gofnodi sut y cafodd unrhyw laswelltir ei reoli yn y flwyddyn galendr flaenorol.

Cadw cyngor

45.  Rhaid i feddiannydd gadw copi o unrhyw gyngor gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau ac y dibynnwyd arno at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn am bum mlynedd.

Dal gafael ar gofnodion

46.  Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo wneud cofnod o dan y Rheoliadau hyn ddal gafael ar y cofnod hwnnw am bum mlynedd.