Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 01/01/2024.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Hydref 2013.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw —
cyngor sir; a
cyngor bwrdeistref sirol;
ystyr “Cyfarwyddeb 2009/32” (“Directive 2009/32”) yw Cyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau ynghylch toddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu deunyddiau bwyd a chynhwysion bwyd(1);
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “Rheoliad 2065/2003” (“Rheoliad2065/2003”) yw Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau mwg a ddefnyddir neu a fwriedir i’w defnyddio mewn bwydydd neu arnynt(2);
ystyr “Rheoliad 1332/2008” (“Rheoliad1332/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1332/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ensymau bwyd (3);
ystyr “Rheoliad 1333/2008” (“Rheoliad 1333/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd(4), fel y’i darllenir gyda’r canlynol —
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1129/2011 sy’n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor drwy sefydlu rhestr i’r Undeb o ychwanegion bwyd(5),
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1130/2011 sy’n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch ychwanegion bwyd drwy sefydlu rhestr i’r Undeb o ychwanegion bwyd i’w defnyddio mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd, cyflasynnau bwyd a maetholion(6), ac
Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 231/2012 sy’n nodi manylebau ar gyfer ychwanegion bwyd a restrir yn Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor(7);
ystyr “Rheoliad 1334/2008” (“Rheoliad 1334/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol ac iddynt briodweddau cyflasyn bwyd i’w defnyddio mewn bwydydd ac arnynt(8), fel y’i darllenir gyda Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 873/2012 ynghylch mesurau trosiannol sy’n ymwneud â rhestr yr Undeb o gyflasynnau a deunyddiau ffynhonnell a nodir yn Atodiad I i Reoliad (EC) 1334/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor(9);
ystyr “Rheoliadau’r UE” (“the EU Regulations”) yw Rheoliad 2065/2003, Rheoliad 1332/2008, Rheoliad 1333/2008 a Rheoliad 1334/2008;
ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi mewn ysgrifen, naill ai yn gyffredinol neu’n benodol, gan awdurdod bwyd i weithredu mewn materion sy’n codi o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yn offerynnau’r UE sydd wedi eu rhestru ym mharagraff (4) yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn yr offerynnau hynny.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl neu Atodiad i unrhyw rai o offerynnau’r UE a restrir ym mharagraff (4) yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu’r Atodiad hwnnw fel y’u diwygiwyd o dro i dro.
(4) Offerynnau’r UE yw Cyfarwyddeb 2009/32, Rheoliad 2065/2003, Rheoliad (EC) Rhif 1331/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor yn sefydlu gweithdrefn awdurdodi gyffredin ynglŷn ag ychwanegion bwyd, ensymau bwyd a chyflasynnau bwyd(10), Rheoliad 1332/2008, Rheoliad 1333/2008 a Rheoliad 1334/2008.
(5) Pan aseinir unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf—
(a)drwy orchymyn o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(11), i awdurdod iechyd porthladd; neu
(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(12), i gyd-fwrdd ardal unedig;
mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i’w ddehongli, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi eu haseinio felly iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
3. Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 1333/2008 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 1, fel y’i darllenir gyda mesurau trosiannol a geir yn y Rheoliad hwnnw neu sydd i’w darllen gydag ef, neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
4. Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 1334/2008 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 2, fel y’i darllenir gydag Erthygl 4 (sylweddau cyflasu sydd wrthi’n cael eu gwerthuso) o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 872/2012 yn mabwysiadu’r rhestr o sylweddau cyflasu y darperir ar ei chyfer gan Reoliad (EC) Rhif 2232/96 Senedd Ewrop a’r Cyngor(13) a chyda mesurau trosiannol a geir yn Rheoliad 1334/2008 neu sydd i’w darllen gydag ef, neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
5. Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 2065/2003 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 3, neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
6. Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 1332/2008 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 4, fel y’i darllenir gydag Erthyglau 18 a 24 (mesurau trosiannol) neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
7.—(1) Mae is-adrannau (1) a (2) o adran 10 o’r Ddeddf (hysbysiadau gwella) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a ganlyn.
(2) Yn lle is-adran (1), rhodder—
“(1) If an authorised officer of an enforcement authority has reasonable grounds for believing that a person is failing to comply with a provision of the Food Additives, Flavourings, Enzymes and Extraction Solvents (Wales) Regulations 2013 specified in paragraph (1A), the authorised officer may, by a notice served on that person (in this Act referred to as an “improvement notice”)—
(a)state the officer’s grounds for believing that the person is failing to comply with the relevant provision;
(b)specify the matters which constitute the person’s failure so to comply;
(c)specify the measures which, in the officer’s opinion, the person must take in order to secure compliance; and
(d)require the person to take those measures, or measures that are at least equivalent to them, within such period as may be specified in the notice.
(1A) Any EU provision specified in the first column of Table 2 of—
(a)Schedule 1;
(b)Schedule 2;
(c)Schedule 3; or
(d)Schedule 4; or
(e)regulation 13(2)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
8.—(1) Mae is-adrannau (1) a (6) o adran 37 o’r Ddeddf (apelio) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a)yn lle is-adran (1), rhodder—
“(1) Any person who is aggrieved by a decision of an authorised officer of an enforcement authority to serve an improvement notice under section 10(1), as applied and modified by rheoliad 7 of the Food Additives, Flavourings, Enzymes and Extraction Solvents (Wales) Regulations 2013, may appeal to a magistrates court.”; a
(b)yn is-adran (6), yn lle “(3) or (4)”, rhodder “(1), (3) or (4)”.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
9. Yn y Rhan hon mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl neu Atodiad â rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl honno neu’r Atodiad hwnnw yng Nghyfarwyddeb 2009/32.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
10. Nid yw darpariaethau’r Rhan hon yn gymwys i unrhyw doddydd echdynnu—
(a)a ddefnyddir wrth gynhyrchu unrhyw ychwanegion bwyd, fitaminau neu unrhyw ychwanegion maethol eraill, oni bai bod yr ychwanegion bwyd, y fitaminau neu’r ychwanegion maethol eraill hynny wedi eu rhestru yn Atodiad I; neu
(b)y bwriedir ei allforio y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 10 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
11. Yn y Rhan hon ystyr “toddydd echdynnu a ganiateir” yw —
(a)toddydd echdynnu—
(i)a restrir yn Atodiad I,
(ii)a ddefnyddir yn unol â’r amodau defnyddio ac o fewn unrhyw derfynau uchaf ynglŷn â gweddillion a bennir yn yr Atodiad hwnnw,
(iii)nad yw’n cynnwys swm sy’n beryglus yn wenwynegol o unrhyw elfen neu sylwedd,
(iv)nad yw, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau sy’n deillio o feini prawf penodol ynglŷn â phurdeb, yn cynnwys mwy nag 1 mg/kg o arsenig neu fwy nag 1 mg/kg o blwm, a
(v)sy’n bodloni gofynion Erthygl 3(c) o ran y meini prawf ynglŷn â phurdeb; neu
(b)dŵr y gall sylweddau sy’n rheoleiddio asidedd neu alcalinedd fod wedi eu hychwanegu iddo; neu
(c)sylweddau bwyd sydd â phriodweddau toddydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 11 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
12. Ni chaiff unrhyw berson ddefnyddio unrhyw doddydd echdynnu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir yn doddydd echdynnu wrth gynhyrchu bwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 12 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
13.—(1) Ni chaiff unrhyw berson osod ar y farchnad—
(a)toddydd echdynnu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir; na
(b)unrhyw fwyd ac ynddo neu arno doddydd echdynnu wedi ei ychwanegu nad yw’n doddydd echdynnu a ganiateir.
(2) Ni chaiff unrhyw berson osod ar y farchnad doddydd echdynnu nad yw’n bodloni gofynion rheoliad 14.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 13 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
14.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r wybodaeth a ganlyn ymddangos ar y pecyn, y cynhwysydd neu’r label —
(a)yr enw masnachol fel y’i nodir yn Atodiad I;
(b)awgrym clir bod y deunydd o ansawdd sy’n addas i’w defnyddio at echdynnu bwyd neu gynhwysion bwyd;
(c)cyfeiriad a all gael ei ddefnyddio i adnabod y swp neu’r lot;
(d)enw neu enw busnes a chyfeiriad y gweithgynhyrchydd neu’r paciwr neu enw neu enw busnes a chyfeiriad gwerthwr sydd wedi ei sefydlu yn nhiriogaeth yr UE;
(e)y swm net ar ffurf unedau o gyfaint; ac
(f)os oes angen hynny, yr amodau storio arbennig neu’r amodau defnyddio.
(2) Caniateir i’r manylion a bennir yn is-baragraffau (c), (d), (e) ac (f) o baragraff (1) ymddangos fel arall ar y dogfennau masnach sy’n cyfeirio at y swp neu’r lot y maent i’w cyflenwi gydag ef wrth eu dosbarthu neu cyn eu dosbarthu.
(3) Rhaid i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (1) fod yn hawdd i’w weld, yn glir i’w ddarllen ac yn annileadwy.
(4) Caniateir i’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (1) gael ei darparu mewn mwy nag un iaith, ond rhaid i un o leiaf o’r ieithoedd hynny fod yn hawdd i’r prynwr ei deall oni bai bod mesurau eraill wedi eu cymryd i sicrhau bod y prynwr yn cael gwybod am yr wybodaeth benodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 14 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
15. Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw’r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 7 o Reoliad 2065/2003.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 15 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
16. Dyletswydd pob awdurdod bwyd yw gweithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn a Rheoliadau’r UE yn ei ardal neu ei ranbarth.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 16 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
17.—(1) Mae unrhyw berson sy’n torri rheoliad 12 neu 13(1) yn cyflawni trosedd.
(2) Mae unrhyw berson sy’n euog o drosedd o dan reoliad 3, 4, 5, 6 neu 17(1) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 17 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
18. Os bydd dadansoddydd bwyd yn ardystio bod unrhyw fwyd yn fwyd y mae’n drosedd ei osod ar y farchnad, rhaid trin y bwyd hwnnw at ddibenion adran 9 o’r Ddeddf (y caniateir i fwyd gael ei atafaelu a’i ddifa ar orchymyn ynad heddwch odani) fel bwyd sy’n methu cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 18 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
19.—(1) Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni i’w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —
(a)adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);
(b)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(14) gyda’r addasiad—
(i)bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys o ran trosedd o dan reoliad 3, 4, 5, 6, 7(4) neu 17(1) fel y maent yn gymwys o ran trosedd o dan adran 14 neu 15, a
(ii)y bernir bod y cyfeiriadau yn is-adran (4) at “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;
(c)adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(d)adran 35(1) (cosbi troseddau)(15), i’r graddau y mae’n ymwneud â throseddau o dan adran 33(1) fel y’i cymhwysir gan baragraff (3)(b);
(e)adran 35(2) a (3)(16), i’r graddau y mae’n ymwneud â throseddau o dan adran 33(2) fel y’i cymhwysir gan baragraff (2)(c);
(f)adran 36 (troseddau gan gyrff corfforaethol); ac
(g)adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd)(17).
(2) Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf i’w ddehongli fel pe bai’n cynnwys cyfeiriad at Reoliadau’r UE a’r Rheoliadau hyn—
(a)adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi ei fwriadu i bobl ei fwyta) gyda’r addasiad y bernir bod y cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market” yn y drefn honno;
(b)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);
(c)adran 33(2), gyda’r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o’r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y’i cymhwysir gan is-baragraff (b); a
(d)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll).
(3) Mae adran 34 o’r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyniadau) yn gymwys i droseddau o dan y Rheoliadau hyn fel y mae’n gymwys i droseddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o’r Ddeddf.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Rhl. 19 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
20. Yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(18), yn y diffiniad o “the additives regulations” hepgorer yr ymadrodd “the Food Additives (Wales) Regulations 2009,”.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Rhl. 20 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
21. Dirymir yr offerynnau a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 5 i’r graddau a bennir yn yr ail golofn.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Rhl. 21 mewn grym ar 31.10.2013, gweler rhl. 1
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gweinidog, un o Weinidogion Cymru
7 Hydref 2013
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys