- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
24.—(1) Rhaid cyfrifo’r swm sydd i’w ddidynnu mewn perthynas â threth incwm o dan baragraff 23(1)(b)(i), (2)(b)(i) neu (8)(a)(i) (cyfrifo elw net enillwyr hunangyflogedig)—
(a)ar sail swm yr incwm trethadwy, a
(b)fel pe bai’r incwm hwnnw’n asesadwy ar gyfer treth incwm ar y gyfradd dreth sylfaenol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu, llai, yn unig, y rhyddhad personol y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 35, 36 neu 37 o Ddeddf Treth Incwm 2007(1) fel y bo’n briodol i amgylchiadau’r ceisydd.
(2) Ond, os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid cyfrifo’r enillion y cymhwysir y gyfradd dreth sylfaenol iddynt a swm y rhyddhadau personol sy’n ddidynadwy o dan y paragraff hwn ar sail pro rata.
(3) Y swm sydd i’w ddidynnu mewn perthynas â chyfraniadau nawdd cymdeithasol o dan baragraff 23(1)(b)(i), (2)(b)(ii) neu (8)(a)(ii) yw cyfanswm y canlynol—
(a)swm y cyfraniadau Dosbarth 2 sy’n daladwy o dan adran 11(1) o DCBNC neu, yn ôl fel y digwydd, adran 11(3) o DCBNC ar y gyfradd sy’n gymwys i’r cyfnod asesu ac eithrio pan fo incwm trethadwy’r ceisydd yn llai na’r swm a bennir yn adran 11(4) o’r Ddeddf honno (eithriad enillion isel) ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n gymwys i’r cyfnod asesu; ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid lleihau’r swm a bennir ar gyfer y flwyddyn dreth honno pro rata; a
(b)swm y cyfraniadau Dosbarth 4 (os oes rhai) a fyddai’n daladwy o dan adran 15 o DCBNC (cyfraniadau Dosbarth 4 sy’n adenilladwy o dan y Deddfau Treth Incwm) ar y gyfradd ganrannol sy’n gymwys i’r cyfnod asesu ar gymaint o’r incwm trethadwy ag sydd uwchlaw’r terfyn isaf, ond nid uwchlaw’r terfyn uchaf o elwau a chynyddiadau cymwys ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n gymwys i’r cyfnod asesu; ond os yw’r cyfnod asesu’n llai na blwyddyn, rhaid lleihau’r terfynau hynny pro rata.
(4) Yn y paragraff hwn ystyr “incwm trethadwy” (“chargeable income”) yw—
(a)ac eithrio pan fo paragraff (b) yn gymwys, yr enillion sy’n deillio o gyflogaeth llai unrhyw dreuliau a ddidynnwyd o dan baragraff 23(3)(a) neu, yn ôl fel y digwydd, paragraff 23(4);
(b)yn achos cyflogaeth fel gwarchodwr plant, un rhan o dair o enillion y gyflogaeth honno.
2007 p.3; diwygiwyd pennawd ac is-adran (1) o adran 35 gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2012 (p.14) (“Deddf 2012”); mewnosodwyd is-adrannau (2) a (4) gan adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009 (p.10). Yn adran 36, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) a mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047 ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009. Yn adran 37, diwygiwyd y pennawd ac is-adran (2), amnewidiwyd is-adran (1) a mewnosodwyd is-adran (2A) gan adran 4 o Ddeddf 2012; mae is-adran (2) wedi ei diwygio hefyd gan erthygl 3 o O.S. 2012/3047 ac adran 4 o Ddeddf Cyllid 2009.
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys