Monitro'r trefniadau asesu
7.—(1) Mae'r erthygl hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer monitro'r PC gan yr awdurdod monitro.
(2) Rhaid i'r awdurdod monitro, mewn unrhyw flwyddyn ysgol, arfer y swyddogaethau a roddwyd iddo gan yr erthygl hon mewn perthynas â 10% o'r holl ysgolion perthnasol.
(3) At ddibenion paragraffau (2) a (4), “ysgolion perthnasol” yw'r holl ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod monitro lle y caiff y PC eu rhoi i'r disgyblion mewn unrhyw flwyddyn ysgol yn unol â'r Gorchymyn hwn.
(4) Ym mhob blwyddyn ysgol, rhaid i'r awdurdod monitro ymweld â'r ysgolion perthnasol yn ystod unrhyw un neu ragor o'r cyfnodau a ganlyn—
(a)yr wythnos cyn y caiff y PC eu rhoi i'r disgyblion;
(b)y cyfnod pan fo'r PC yn cael eu rhoi i'r disgyblion; neu
(c)ugain niwrnod ysgol ar ôl y diwrnod olaf y caniateir i unrhyw un neu ragor o'r PC gael eu rhoi i'r disgyblion
a chaniateir cynnal ymweliad o'r fath yn ystod unrhyw un neu ragor o'r cyfnodau hyn mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r ysgolion hynny.
(5) Diben unrhyw ymweliad o'r fath yw galluogi'r awdurdod monitro i fonitro a yw'r trefniadau asesu at ddibenion rhoi'r PC yn unol ag—
(a)darpariaeth y ddogfen y cyhoeddir y PC hynny ynddi;
(b)amserlen asesu berthnasol y PC;
(c)llawlyfr gweinyddu perthnasol y PC;
(d)yn achos ymweliad o dan baragraff (4)(b) neu (c), a yw ymatebion ysgrifenedig y disgyblion i'r PC yn cynrychioli eu gwaith eu hunain; ac
(e)yn achos ymweliad o dan baragraff (4)(c) a yw ymatebion y disgyblion i'r PC wedi eu marcio yn unol â chynllun marcio perthnasol y PC.
(6) Yn dilyn unrhyw ymweliad o'r fath bydd yr awdurdod monitro yn trafod canlyniad yr ymweliad â'r pennaeth.
(7) Lle yr ymddengys i'r awdurdod monitro, o ganlyniad i ymweliad, nad yw unrhyw un neu ragor o'r trefniadau asesu mewn cysylltiad â rhoi'r PC o dan y Gorchymyn hwn yn unol â'r ddogfen y cyhoeddwyd y PC hynny ynddi neu amserlen asesu berthnasol y PC neu lawlyfr gweinyddu'r PC neu nad yw ymateb ysgrifenedig unrhyw ddisgybl i'r PC yn cynrychioli gwaith y disgybl hwnnw, bydd—
(a)yn dwyn y mater i sylw'r pennaeth; a
(b)yn adrodd ar y mater i Weinidogion Cymru.
(8) Rhaid i'r pennaeth a'r corff llywodraethu —
(a)caniatáu i'r awdurdod monitro fynd i mewn i fangre'r ysgol ar bob adeg resymol er mwyn iddo arsylwi ar y dull o weithredu'r PC o dan y Gorchymyn hwn;
(b)caniatáu i'r awdurdod monitro arolygu a chymryd copïau o ddogfennau ac erthyglau eraill mewn perthynas â'r asesiad PC hwnnw; ac
(c)darparu i'r awdurdod monitro unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag asesiad o'r fath ag y caiff ofyn amdani yn rhesymol.
(9) At ddibenion arfer ei swyddogaethau o dan yr erthygl hon, bydd yr awdurdod monitro yn penodi person cymwys o'r fath fel y gwêl yn dda.