Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013

Ymchwiliad gan Weinidogion Cymru a chywiro'r cofnod o ganlyniadau

8.—(1Bydd Gweinidogion Cymru yn ymchwilio i unrhyw fater a atgyfeirir atynt o dan erthygl 7 neu y tynnir eu sylw ato fel arall sydd, yn eu barn hwy, yn ymwneud â manylrwydd neu gywirdeb unrhyw ganlyniadau unrhyw ddisgybl mewn cysylltiad â'r PC a roddir o dan y Gorchymyn hwn.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru, yn dilyn ymchwiliad, yn penderfynu bod amheuaeth ynghylch canlyniadau'r disgybl mewn cysylltiad â'r PC a roddir o dan y Gorchymyn hwn, neu nad ydynt yn fanwl gywir neu fel arall yn anghywir, mae'r cofnod o'r canlyniadau ar gyfer y disgybl hwnnw i fod y cofnod o'r canlyniadau a benderfynir gan Weinidogion Cymru.