Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 Rhif 63 (Cy.14)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2013

Gwnaed

17 Ionawr 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

17 Ionawr 2013

Yn dod i rym

7 Chwefror 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a pharagraffau 1(1) a 2(4)(e) o Atodlen 2 iddi(1), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 7 Chwefror 2013.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hysbysiadau galw am dalu sydd—

(a)yn perthyn i flwyddyn sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2013 neu wedi hynny, a

(b) yn cael eu dyroddi gan neu ar ran awdurdodau bilio Cymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau

2.—(1Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993(3) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2Ym mharagraff 7 o Atodlen 1—

(a)yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)a determination made under section 12 of the 1993 Act (discounts: special provision for Wales);;

(b)hepgorer is-baragraff (bb);

(c)ar ddiwedd is-baragraff (e) yn lle “.” rhodder “;”;

(d)ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—

(f)a reduction made under section 13A(1)(b) of the 1992 Act; or

(g)a reduction made under section 13A(1)(c) of the 1992 Act..

(3Ym mharagraff 8 o Atodlen 1 yn lle “sub-paragraph (a) or (b)” rhodder “sub-paragraph (a), (b) or (g)”.

(4Ar ôl paragraff 8 o Atodlen 1 mewnosoder—

8A.  Where a statement falls to be given as mentioned in paragraph 7 by reason of the matter referred to in sub-paragraph (f) of that paragraph—

(a)a statement of the reasons for the reduction and its amount;

(b)a statement—

(i)informing the person affected of the duty imposed by paragraph 113(1) of the scheme prescribed by the Schedule to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2012(4) or contained in the authority’s scheme by virtue of paragraph 7(1) of Schedule 13 to the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2012(5), as the case may be;

(ii)explaining the possible consequences (including prosecution) of failing to comply with that duty; and

(iii)setting out the circumstances a change in which might affect entitlement to the reduction or its amount..

Carl Sargeant

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

17 Ionawr 2013

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (“Rheoliadau 1993”) yn gwneud darpariaeth ynghylch materion i'w cynnwys, a gwybodaeth i'w darparu, gyda hysbysiadau galw am dalu'r dreth gyngor a gyflwynir gan awdurdodau bilio Cymru neu ar eu rhan. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1993 er mwyn cymryd i ystyriaeth gyflwyniad cynlluniau gostyngiadau'r dreth gyngor lleol yn unol â gofynion Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012. Mae rheoliad 2(2) a (3) yn gwneud diwygiadau canlyniadol er sicrhau bod hysbysiadau galw am dalu yn cyfeirio at ostyngiadau pan fo'n berthnasol.

Mae rheoliad 2(4) yn darparu ar gyfer cynnwys datganiad newydd ar hysbysiad galw am dalu, pan fo gostyngiad yn gymwys o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor lleol, fydd yn egluro swm y gostyngiad, y rheswm dros y gostyngiad a'r canlyniadau posibl am fethu â chydymffurfio â dyletswyddau i roi gwybod i'r awdurdod bilio am newidiadau perthnasol o ran amgylchiadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Yn ganlyniad i hyn, nid ystyriwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.

(1)

1992 p. 14; diwygiwyd adran 113(1) a (2) gan adran 127 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26) a pharagraffau 40 a 52 o Atodlen 7 iddi, ac adran 80 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20). Gwnaed diwygiadau perthnasol pellach gan adrannau 10 (cynlluniau gostwng y dreth gyngor) ac 16 (darparu gwybodaeth am y dreth gyngor), o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) ac Atodlen 1 iddi.

(2)

Mae'r pwerau hyn bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Cawsant eu trosglwyddo'n flaenorol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthgyl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnodion yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru.

(3)

O.S. 1993/255; gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 2004/460 (Cy. 45) ac O.S. 2006/217.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill