- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n ymgymryd â chyrsiau ôl-raddedig yn yr ysgol i raddedigion mewn cysylltiadau rhyngwladol a sefydlwyd gan Brifysgol Johns Hopkins yn Bologna (a elwir yn Ganolfan Bologna) ac yng Ngholeg Ewrop. Mae'r Rheoliadau yn gymwys o ran y blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar 1 Medi 2013 neu ar ôl hynny.
Mae grant at ffioedd ar gael ar gyfer un myfyriwr cymwys mewn unrhyw un flwyddyn academaidd yng Nghanolfan Bologna. Mae grant at ffioedd, grantiau at gostau byw a chostau eraill, lwfans myfyrwyr anabl a grant ar gyfer dibynyddion ar gael ar gyfer un myfyriwr cymwys mewn unrhyw un flwyddyn academaidd yng Ngholeg Ewrop. Un flwyddyn academaidd yw cyfnod pob grant, ni waeth beth fo hyd y cwrs.
I fod â'r hawl i gael cymorth ariannol, rhaid i geisydd fod yn fyfyriwr cymwys. Mae ceisydd yn fyfyriwr cymwys os yw'r person hwnnw yn dod o fewn un o'r categorïau sydd wedi eu rhestru yn Rhan 2 o Atodlen 1 a hefyd yn bodloni'r meini prawf cymhwystra.
Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r meini prawf cymhwystra, y weithdrefn ymgeisio ac (yn achos myfyrwyr Coleg Ewrop) dull cyfrifo'r symiau sy'n daladwy a'r trefniadau ar gyfer talu'r grantiau. Mae'r Rheoliadau hefyd yn darparu ar gyfer adennill unrhyw ordaliadau.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau i Atodlen 5 i Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys