Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Sefydliadau Ewropeaidd) a Chymorth i Fyfyrwyr (Cymru) 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 29

ATODLEN 2CYFRANIAD MYFYRIWR YNG NGHOLEG EWROP

RHAN 1

Dehongli

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;

ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“prior financial year”) yw'r flwyddyn dreth yn union cyn y flwyddyn dreth a ddaeth i ben yn union cyn y dyddiad perthnasol;

ystyr “blwyddyn dreth” (“tax year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis y cyfrifir incwm person mewn cysylltiad â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth treth incwm sy'n gymwys iddi;

ystyr “blwyddyn dreth berthnasol” (“relevant tax year”) yw blwyddyn dreth y mae incwm person i'w asesu mewn cysylltiad â hi at ddibenion y Rheoliadau hyn;

mae i “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Ran 1 o Atodlen 1;

mae i “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2(2);

ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw:

(a)

mewn cysylltiad â phersonau ac eithrio myfyrwyr cymwys annibynnol, incwm trethadwy mewn cysylltiad â'r flwyddyn ariannol flaenorol;

(b)

mewn cysylltiad â myfyrwyr cymwys annibynnol, incwm trethadwy mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y dyfernir cymorth ar ei chyfer,

ar ôl cymhwyso paragraff 3 yn achos myfyriwr, paragraff 4 yn achos rhiant i fyfyriwr a pharagraff 5 yn achos partner i fyfyriwr, ac yn ddarostyngedig i'r paragraffau hynny;

ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”) yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell wedi ei gyfrifo fel pe bai at ddibenion—

(a)

y Deddfau Treth Incwm(1);

(b)

deddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir sy'n gymwys i incwm y person;

(c)

os yw deddfwriaeth mwy nag un Wladwriaeth AEE neu ddeddfwriaeth Gwladwriaeth AEE a'r Swistir yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu y talodd y person neu y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth odani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4);

ystyr “myfyriwr” (“student”) yw myfyriwr yng Ngholeg Ewrop y dyfernir cymorth iddo;

mae i “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir yn is-baragraff (2);

ystyr “partner” (“partner”) yw:

(a)

mewn perthynas â myfyriwr, unrhyw un o'r canlynol—

(i)

priod y myfyriwr;

(ii)

partner sifil y myfyriwr;

(iii)

person sydd fel arfer yn byw gyda'r myfyriwr fel pe bai'n briod i'r myfyriwr os yw'r myfyriwr yn 25 oed neu drosodd ar y dyddiad perthnasol;

(iv)

person sydd fel arfer yn byw gyda'r myfyriwr fel pe bai'n bartner sifil i'r myfyriwr os yw'r myfyriwr yn 25 oed neu drosodd ar y dyddiad perthnasol;

(b)

mewn perthynas â rhiant myfyriwr, unrhyw un o'r canlynol ac eithrio rhiant arall i'r myfyriwr—

(i)

priod rhiant y myfyriwr;

(ii)

partner sifil rhiant y myfyriwr;

(iii)

person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant y myfyriwr fel pe bai'n briod i'r rhiant;

(iv)

person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant y myfyriwr fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant.

(2Mae “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yn fyfyriwr—

(a)sy'n 25 oed neu drosodd ar y dyddiad perthnasol;

(b)a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn y dyddiad perthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;

(c)nad oes ganddo riant yn fyw;

(d)y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni na ellir dod o hyd i'r naill neu'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt mewn perthynas ag ef;

(e)nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn y dyddiad perthnasol neu lle y gall y myfyriwr, ym marn Gweinidogion Cymru, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;

(f)sydd wedi derbyn gofal awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 1989(2), drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis sy'n diweddu ar neu ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn 16 oed a chyn y dyddiad perthnasol (“y cyfnod perthnasol”) (ar yr amod nad yw'r myfyriwr wedi bod o dan awdurdod neu reolaeth ei rieni mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol);

(g)y mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd ac y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni naill ai—

(i)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu

(ii)na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 7;

(h)(pan fo paragraff 4(9) yn gymwys) y mae ei riant, y barnodd Gweinidogion Cymru mai'r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw, wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);

(i)sy'n aelod o urdd grefyddol ac sy'n preswylio yn un o dai'r urdd honno;

(j)y mae ar y dyddiad perthnasol yn gofalu am berson o dan 18 oed; neu

(k)(“S” yn y paragraff hwn) sydd wedi cynnal S o enillion S am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn y dyddiad perthnasol a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, a bod S at ddibenion y paragraff hwn i gael ei drin fel pe bai'n cynnal S o enillion S yn ystod unrhyw gyfnod—

(i)pan oedd S yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);

(ii)pan oedd S yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn cysylltiad â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;

(iii)pan oedd S ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau'r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn budd-daliadau;

(iv)pan oedd gan S ddyfarniad statudol neu ddyfarniad tebyg arall; neu

(v)pan oedd S yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.

(3Mae unrhyw fyfyriwr sydd â hawl fel myfyriwr cymwys annibynnol o dan is-baragraff (2)(j) mewn cysylltiad â'r cwrs dynodedig yn cadw'r statws hwnnw drwy gydol cyfnod cymhwystra'r myfyriwr.

RHAN 2Cyfrifo'r cyfraniad

Incwm yr aelwyd

2.—(1Mae swm cyfraniad myfyriwr yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2Incwm yr aelwyd yw'r canlynol—

(a)yn achos myfyriwr nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr wedi ei agregu gydag incwm gweddilliol rhieni'r myfyriwr (yn ddarostyngedig i baragraff 4(9)) ac incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 4(9));

(b)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol sydd â phartner, incwm gweddilliol y myfyriwr wedi ei agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr hwnnw; neu

(c)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr hwnnw.

(3Wrth ganfod incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu—

(a)am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr neu ar bartner y myfyriwr; neu

(b)am bob plentyn ac eithrio'r myfyriwr sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr neu ar bartner rhiant y myfyriwr y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr

3.—(1Er mwyn canfod incwm gweddilliol myfyriwr, didynnir o incwm trethadwy'r myfyriwr (oni bai ei fod wedi ei ddidynnu eisoes wrth ganfod yr incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r paragraffau canlynol—

(a)unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr, ac eithrio unrhyw symiau a dalwyd mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi ei ryddhau o ddyletswyddau arferol y myfyriwr er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;

(b)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(3), neu os yw incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

(2Os yw'r myfyriwr yn cael incwm mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddiben y paragraff hwn yw—

(a)os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn; neu

(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(4) ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo.

Cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant

4.—(1Er mwyn canfod incwm trethadwy rhiant myfyriwr, rhaid peidio â gwneud unrhyw ddidyniadau y disgwylid eu gwneud nac unrhyw esemptiadau a ganiateid—

(a)ar ffurf y rhyddhadau personol y darperir ar eu cyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(5) neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm;

(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly oddi tano neu oddi tani; neu

(c)o dan is-baragraff (2).

(2Er mwyn canfod incwm gweddilliol rhiant myfyriwr, didynnir o'r incwm trethadwy a ganfyddir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw rai o'r paragraffau a ganlyn—

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef o dan adran 273(6) o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(7), neu os yw incwm y myfyriwr yn cael ei gyfrifo at ddiben deddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn cysylltiad ag ef pe bai'r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm;

(b)mewn unrhyw achos pan fo incwm yn cael ei gyfrifo yn unol ag is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (a) o'r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm; ac

(c)yn achos rhiant myfyriwr y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,130.

(3Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm y rhiant yn y flwyddyn dreth a ddaeth i ben yn union cyn y dyddiad perthnasol (“y flwyddyn dreth flaenorol”), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, caiff Gweinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am y flwyddyn dreth flaenorol.

(4Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod incwm y rhiant mewn unrhyw flwyddyn dreth, o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn dreth gynt, caiff Gweinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am flwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr drwy gymryd cyfartaledd incwm gweddilliol y person hwnnw am bob un o'r blynyddoedd treth y mae'r flwyddyn academaidd honno yn syrthio ynddynt fel ei incwm gweddilliol.

(5Os yw rhiant y myfyriwr yn bodloni Gweinidogion Cymru bod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes neu broffesiwn y mae'n ei gynnal, yna mae unrhyw gyfeiriad yn y paragraff hwn at flwyddyn dreth i'w ddarllen fel cyfeiriad at y cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y mae cyfrifon yn cael eu cadw mewn cysylltiad ag ef sy'n ymwneud â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw rhiant myfyriwr yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n rhan o incwm y rhiant hwnnw at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir dim ond am y rheswm—

(a)nad yw'r rhiant yn preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw incwm y rhiant yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir, os nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn y Wladwriaeth AEE honno neu'r Swistir;

(b)nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu os yw incwm y rhiant yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir, nad yw'n codi yn y Wladwriaeth AEE honno neu'r Swistir; neu

(c)bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae'r incwm ohonynt yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae incwm trethadwy'r rhiant at ddiben yr Atodlen hon i'w gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddiben y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir, yn ôl y digwydd.

(7Os yw incwm rhiant y myfyriwr yn cael ei gyfrifo fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Gwladwriaeth AEE arall neu'r Swistir, mae i'w gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol y Wladwriaeth AEE honno neu'r Swistir, ac incwm rhiant y myfyriwr at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi ei ganfod yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn syrthio ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8Os yw un o rieni'r myfyriwr yn marw a bod incwm y rhiant hwnnw wedi ei gymryd i ystyriaeth er mwyn canfod incwm yr aelwyd neu y byddai wedi ei gymryd i ystyriaeth felly—

(a)os yw'r rhiant yn marw cyn y flwyddyn dreth berthnasol, mae incwm yr aelwyd i'w ganfod drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi; neu

(b)os yw'r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn dreth berthnasol, cymerir mai cyfanswm y canlynol yw incwm yr aelwyd—

(i)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn dreth berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a

(ii)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn dreth berthnasol sy'n weddill ar ôl i'r rhiant arall farw.

(9Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn dreth berthnasol, canfyddir incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at incwm p'un bynnag o'r rhieni y mae Gweinidogion Cymru yn credu yw'r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.

(10Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn dreth berthnasol, canfyddir incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at gyfanswm y canlynol—

(a)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn cysylltiad â'r rhan honno o'r flwyddyn dreth berthnasol pan oedd y rhieni wedi gwahanu; a

(b)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a ganfyddir fel arall mewn cysylltiad â gweddill y flwyddyn dreth berthnasol.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr

5.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o'r paragraff hwn a chan eithrio is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 4, mae incwm partner myfyriwr yn cael ei ganfod yn unol â pharagraff 4, gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr a'i bartner wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn dreth berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth ganfod incwm yr aelwyd.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr a'i bartner wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn dreth berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei ganfod drwy gyfeirio at incwm y partner o dan is-baragraff (1) wedi ei rannu â hanner cant a dau ac wedi ei luosi â nifer yr wythnosau cyflawn yn y flwyddyn dreth berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu nad oedd y myfyriwr a'i bartner wedi gwahanu.

(4Os oes gan fyfyriwr fwy nag un partner yn y flwyddyn dreth berthnasol, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Cyfrifo'r cyfraniad

6.—(1O ran myfyriwr nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol neu sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol â phartner, y cyfraniad yw—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £23,680 neu fwy, £45 gan ychwanegu £1 am bob £8.78 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £23,680, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4); a

(b)os yw incwm yr aelwyd yn llai na £23,680, dim.

(2O ran myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, y cyfraniad yw—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £11,025 neu fwy, £45 gan ychwanegu £1 am bob £8.61 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £11,025, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4); a

(b)os yw incwm yr aelwyd yn llai na £11,025, dim.

(3Rhaid i swm y cyfraniad a gyfrifir o dan is-baragraff (1) neu (2) beidio â bod yn fwy na £7,992.

(4Os ffurfir incwm yr aelwyd o incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a phartner y myfyriwr hwnnw a bod gan y ddau ddyfarniad statudol, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau a gyfrifir o dan is-baragraff (1) neu (2) beidio â bod yn fwy nag—

(i)£7,992; neu

(ii)y cyfraniad a fyddai'n daladwy pe bai dyfarniad gan un o'r myfyrwyr yn unig.

Rhannu cyfraniadau

7.—(1Os oes cyfraniad yn daladwy o dan baragraff 6 a bod un neu fwy o'r amodau yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, swm y cyfraniad sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r myfyriwr yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei fod yn gyfiawn ar ôl cymryd amgylchiadau penodol y myfyriwr i ystyriaeth.

(2Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

(a)bod gan fwy nag un o blant rhieni'r myfyriwr ddyfarniad statudol;

(b)bod gan riant y myfyriwr ddyfarniad statudol;

(c)bod gan bartner rhiant y myfyriwr ddyfarniad statudol;

(d)bod gan bartner y myfyriwr ddyfarniad statudol.

(1)

Diffinnir “The Income Tax Acts” yn Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (p.30) ac mae'n golygu pob deddfiad sy'n ymwneud â threth incwm, gan gynnwys unrhyw ddarpariaethau yn y Deddfau Treth Gorfforaeth sy'n ymwneud â threth incwm.

(2)

1989 p.41; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35), adran 2, Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), Atodlen 5, paragraff 19, Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38), adran 116(2), Deddf Plant 2004 (p.31), adran 52 a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p.23), adran 39 ac Atodlen 3.

(3)

2004 p.12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p.11), adrannau 68, 69, 114 ac Atodlenni 18 a 19.

(4)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).

(5)

1988 p.1. Mae Pennod 1 o Ran VII wedi ei diwygio gan Ddeddf Cyllid 2009 (p.10) gydag effaith o flwyddyn dreth 2010-11 ymlaen.

(6)

Mae adran 273 wedi ei diddymu gan Ddeddf Cyllid 2009, adran 5 ac Atodlen 1, gydag effaith o flwyddyn dreth 2010-11 a'r blynyddoedd treth dilynol.

(7)

2004 p.12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007 (p.11), adrannau 68, 69, 114 ac Atodlenni 18, 19 a 27.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill