Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013

RHAN 2LL+CRhestrau fferyllol a rhestrau meddygon fferyllol

Paratoi a chynnal rhestrau fferyllolLL+C

3.—(1Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol baratoi a chynnal rhestrau fferyllol o'r fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG sydd wedi gwneud cais yn unol â Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn ac Atodlen 1 i ddarparu gwasanaethau fferyllol o fangreoedd yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ac y cymeradwywyd eu ceisiadau gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag Atodlen 2 neu, yn dilyn apêl, gan Weinidogion Cymru yn unol ag Atodlen 3, ac sydd wedi eu hawdurdodi—

(a)i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau; neu

(b)i ddarparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig.

(2Rhaid i bob rhestr fferyllol gynnwys—

(a)cyfeiriad y fangre lle mae'r person a restrir wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau fferyllol;

(b)y diwrnodau a'r amseroedd pan fydd y person a restrir yn darparu gwasanaethau fferyllol yn y fangre honno; ac

(c)disgrifiad o'r gwasanaethau fferyllol y mae'r person a restrir wedi ymrwymo i'w darparu, gan gynnwys unrhyw wasanaethau cyfeiriedig y mae'r person a restrir wedi cytuno i'w darparu.

(3Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer tynnu personau oddi ar restrau fferyllol.

(4Bydd rhestr fferyllol Bwrdd Iechyd Lleol, sy'n rhestr gyfredol yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn rhestr fferyllol gyfredol hefyd pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, oni fydd yn ofynnol bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi effaith i benderfyniad, a wnaed cyn y dyddiad dod i rym, i newid, tynnu ymaith neu gynnwys cofnod yn y rhestr o ddechrau'r dyddiad dod i rym, neu oni fydd hawl gan y Bwrdd Iechyd Lleol i wneud hynny, ac mewn achos o'r fath, y rhestr gyfredol ar ddechrau'r dyddiad dod i rym fydd y rhestr fel y'i haddaswyd i roi effaith i'r penderfyniad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 3 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Paratoi a chynnal rhestrau meddygon fferyllolLL+C

4.—(1Rhaid i bob Bwrdd Iechyd Lleol baratoi a chynnal rhestr meddygon fferyllol o'r meddygon y gwnaeth y Bwrdd Iechyd Lleol drefniant gyda hwy yn unol â rheoliad 20 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol gan feddygon) i ddarparu gwasanaethau fferyllol i'w cleifion o fangre yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol.

(2Rhaid i bob rhestr meddygon fferyllol gynnwys—

(a)enw'r meddyg—

(i)y mae ei gais o dan Ran 5 am gydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre wedi ei gymeradwyo gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol ag Atodlen 2 neu, yn dilyn apêl, gan Weinidogion Cymru yn unol ag Atodlen 3, a

(ii)sydd wedi gwneud trefniadau gyda'r Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 20 i ddarparu gwasanaethau fferyllol;

(b)yr ardal y rhoddwyd cydsyniad amlinellol mewn perthynas â hi a'r dyddiad y cafodd y cydsyniad amlinellol effaith;

(c)cyfeiriad y fangre practis y rhoddwyd cymeradwyaeth mangre iddi, gan bennu—

(i)y dyddiad y cafodd y gymeradwyaeth mangre effaith neu, os nad yw eto wedi cael effaith, y dyddiad y'i rhoddwyd, a

(ii)os yw cymeradwyaeth y fangre yn gymeradwyaeth dybiedig, dros dro neu weddilliol, y ffaith honno;

(d)cyfeiriad unrhyw fangreoedd practis y gwnaeth y meddyg geisiadau am gymeradwyaeth mangre mewn perthynas â hwy, sy'n dal yn yr arfaeth; ac

(e)pan fo meddyg y cynhwysir ei enw yn y rhestr meddygon fferyllol yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol gyda phractis GMBILl, enw a chyfeiriad y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Caiff meddyg sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr meddygon fferyllol a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol ac sy'n ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, neu a gyflogir, neu a gymerwyd ymlaen, gan ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, wneud cais i'r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw am i feddyg arall sy'n ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol, neu a gyflogir neu a gymerwyd ymlaen gan ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol gael ei gynnwys yn y rhestr meddygon fferyllol yn ei le.

(4Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol sy'n cael cais a ddisgrifir ym mharagraff (3) gytuno â'r cais hwnnw, ac—

(a)rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol gynnwys y meddyg arall (“y meddyg newydd”) yn lle'r meddyg a wnaeth y cais (“y meddyg gwreiddiol”) yn y rhestr meddygon fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)bydd y trefniadau a oedd gan y Bwrdd Iechyd Lleol gyda'r meddyg gwreiddiol yn dod yn drefniadau gyda'r meddyg newydd; ac

(c)bydd cydsyniadau amlinellol a chymeradwyaethau mangre y meddyg gwreiddiol yn dod yn gydsyniadau amlinellol a chymeradwyaethau mangre y meddyg newydd.

(5Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol dynnu meddyg rhestredig oddi ar restr meddygon fferyllol—

(a)os bu farw'r meddyg;

(b)os nad yw'r meddyg bellach yn cyflawni gwasanaethau meddygol sylfaenol o fewn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol;

(c)os yw'r cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre wedi mynd yn ddi-rym o dan reoliad 26 (cydsyniad amlinellol a chymeradwyaeth mangre yn mynd yn ddi-rym);

(d)os yw'r meddyg wedi ei dynnu oddi ar y rhestr cyflawnwyr meddygol; neu

(e)os aeth mwy na 12 mis heibio er pan ddarparwyd cyffuriau, meddyginiaethau neu gyfarpar ddiwethaf gan y meddyg o dan drefniant a wnaed yn unol â rheoliad 20.

(6Bydd rhestr meddygon fferyllol Bwrdd Iechyd Lleol, sy'n rhestr gyfredol yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, yn rhestr meddygon fferyllol gyfredol hefyd pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym, oni fydd yn ofynnol bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn rhoi effaith i benderfyniad, a wnaed cyn y dyddiad dod i rym, i newid, tynnu ymaith neu gynnwys cofnod yn y rhestr o ddechrau'r dyddiad dod i rym, neu oni fydd hawl gan y Bwrdd Iechyd Lleol i wneud hynny, ac mewn achos o'r fath, y rhestr gyfredol ar ddechrau'r dyddiad dod i rym fydd y rhestr fel y'i haddaswyd i roi effaith i'r penderfyniad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 4 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Telerau gwasanaethuLL+C

5.—(1Y telerau y cynhwysir person ar eu sail mewn rhestr fferyllol (ac felly, telerau gwasanaethu'r person) yw'r telerau sydd wedi eu cynnwys—

(a)yn y telerau gwasanaethu—

(i)ar gyfer fferyllwyr GIG sy'n darparu gwasanaethau fferyllol yn benodol drwy ddarparu cyffuriau, a bennir yn Atodlen 4; neu

(ii)ar gyfer contractwyr cyfarpar GIG sy'n darparu gwasanaethau fferyllol drwy ddarparu cyfarpar yn unig, a bennir yn Atodlen 5,

y caniateir eu hamrywio gan amodau a osodir gan Fwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd rheoliad 33 (cynnwys yn amodol mewn perthynas â seiliau addasrwydd);

(b)yn y Tariff Cyffuriau i'r graddau y mae'r hawliau a'r rhwymedigaethau yn y Tariff Cyffuriau yn ymwneud â fferyllwyr GIG neu gontractwyr cyfarpar GIG ac yn gymwys yn achos y fferyllydd GIG neu'r contractwr cyfarpar GIG; ac

(c)mewn trefniant a wnaed gan Fwrdd Iechyd Lleol gyda'r fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG ar gyfer darparu unrhyw wasanaethau cyfeiriedig.

(2Y telerau y cynhwysir person ar eu sail mewn rhestr meddygon fferyllol (ac felly, telerau gwasanaethu'r person) yw'r telerau—

(a)a gynhwysir yn y telerau gwasanaethu ar gyfer meddygon sy'n darparu gwasanaethau fferyllol, a bennir yn Atodlen 6;

(b)yn unol ag unrhyw amodau a osodir ynglŷn â gohirio neu derfynu darparu gwasanaethau fferyllol i gleifion cymwys, a wnaed o dan baragraff 6 o Atodlen 2, paragraff 13 o Atodlen 2 neu reoliad 11(6); ac

(c)yn unol ag unrhyw amodau a osodir mewn perthynas â gallu'r meddyg fferyllol i ddarparu gwasanaethau fferyllol yn rhinwedd rheoliad 9(7) o Reoliadau 1992(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 5 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

(1)

Cyn ei ddiddymu, mewnosodwyd rheoliad 9(7) yn Rheoliadau 1992 gan O.S. 2009/1491 (Cy.144).