Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013

RHAN 3LL+CPenderfynu ar ardaloedd rheoledig

Ardaloedd sy'n ardaloedd rheoledigLL+C

6.—(1Mae unrhyw ardal, a oedd yn ardal reoledig neu'n rhan o ardal reoledig at ddibenion Rheoliadau 1992

(a)yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; neu

(b)yn dilyn penderfyniad a wnaed yn unol â rheoliad 49(2)

yn parhau'n ardal reoledig neu'n rhan o ardal reoledig at ddibenion y Rheoliadau (hyn oni phenderfynir, neu hyd nes penderfynir nad yw'r ardal bellach yn ardal reoledig nac yn rhan o ardal reoledig).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, wrth ymateb i gais a gyflwynwyd mewn ysgrifen gan Bwyllgor Meddygol Lleol neu Bwyllgor Fferyllol Lleol, ystyried y cwestiwn pa un a yw unrhyw ardal benodol o fewn yr ardal y sefydlwyd y Bwrdd ar ei chyfer, oherwydd ei chymeriad gwledig, yn ardal reoledig neu'n rhan o ardal reoledig; neu ar unrhyw adeg arall a benderfynir gan y Bwrdd, caiff y Bwrdd ystyried hynny.

(3Pan fo'r cwestiwn pa un a yw unrhyw ardal benodol yn ardal reoledig neu'n rhan o ardal reoledig wedi ei benderfynu gan Fwrdd Iechyd Lleol neu gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl (boed hynny o dan y Rheoliadau hyn neu Reoliadau 1992), rhaid peidio ag ystyried y cwestiwn hwnnw drachefn mewn perthynas â'r ardal benodol honno—

(a)am gyfnod o bum mlynedd, sy'n cychwyn gyda dyddiad y penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu, os apeliwyd yn erbyn y penderfyniad hwnnw, dyddiad y penderfyniad ar yr apêl; oni bai

(b)y bodlonir y Bwrdd Iechyd Lleol (o fewn y cyfnod hwnnw o bum mlynedd) fod newid sylweddol wedi digwydd mewn amgylchiadau sy'n effeithio ar yr ardal er pan benderfynwyd y cwestiwn ddiwethaf.

(4Mae Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 yn pennu'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth benderfynu a yw ardal yn ardal reoledig o dan y rheoliad hwn ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 6 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Apelau yn erbyn penderfyniadau o dan Ran 3LL+C

7.  Mae Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer apelau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â phenderfyniadau a wneir o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 7 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)