Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013

RHAN 4LL+CCeisiadau gan fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG am eu cynnwys mewn rhestrau fferyllol neu ddiwygio rhestrau fferyllol

Ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllolLL+C

8.—(1Caiff person gyflwyno cais i Fwrdd Iechyd Lleol os yw'r person hwnnw—

(a)yn dymuno cael ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)eisoes wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ond yn dymuno, o fewn ardal y Bwrdd—

(i)agor mangre ychwanegol i ddarparu'r un gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol gwahanol ohoni;

(ii)adleoli i fangre wahanol ac, yn y fangre honno, ddarparu'r un gwasanaethau fferyllol neu wasanaethau fferyllol gwahanol; neu

(iii)darparu, o'r un fangre restredig, wasanaethau fferyllol o ddisgrifiad gwahanol i'r gwasanaethau a restrwyd eisoes mewn perthynas â'r person hwnnw; neu

(c)wedi ei gynnwys eisoes mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan Fwrdd Iechyd Lleol cyfagos, ond yn dymuno adleoli i fangre wahanol sydd yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir cais iddo ac, yn y fangre honno, ddarparu'r un gwasanaethau fferyllol.

(2Rhaid i gais a wneir i Fwrdd Iechyd Lleol o dan y rheoliad hwn fod mewn ysgrifen, a rhaid iddo ddarparu'r wybodaeth a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1.

(3Yn ddarostyngedig i reoliad 46 (Bwrdd Iechyd Lleol cartref), rhaid i berson sy'n gwneud cais o dan baragraff (1)(a) ddarparu'r wybodaeth a'r ymrwymiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(4Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddychwelyd cais os nad yw'n cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraffau (2) a (3).

(5Rhaid gwrthod cais gan berson, nad yw eisoes wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol, am gael ei gynnwys yn y rhestr honno, os yw'r ceisydd yn unigolyn a gymhwysodd fel fferyllydd yn y Swistir neu mewn Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig, oni fydd yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r Bwrdd Iechyd Lleol fod ganddo'r lefel o wybodaeth o Saesneg sydd, er budd yr unigolyn hwnnw a'r personau sy'n defnyddio'r gwasanaethau y mae'r cais yn ymwneud â hwy, yn angenrheidiol ar gyfer darparu'r gwasanaethau hynny yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol.

(6Bydd yr holl geisiadau a wneir o dan reoliad 8(1) yn cael eu penderfynu o dan reoliad 9 (penderfynu ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol), ac eithrio ceisiadau y mae—

(a)rheoliad 13 (ceisiadau sy'n ymwneud ag adleoliad bach o fewn ardal Bwrdd Iechyd Lleol);

(b)rheoliad 14 (ceisiadau sy'n ymwneud ag adleoliad bach rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagos);

(c)rheoliad 15 (ceisiadau sy'n ymwneud ag adleoli dros dro); neu

(d)rheoliad 16 (ceisiadau sy'n ymwneud â newid perchnogaeth),

yn gymwys iddynt ac a benderfynir o dan y rheoliadau hynny.

(7Mae Rhannau 1 a 3 o Atodlen 2 yn pennu'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth benderfynu ceisiadau a wnaed o dan y Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 8 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Penderfynu ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllolLL+C

9.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 10 (penderfynu ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol: effaith penderfyniadau cynharach), pan nad yw'r fangre a bennir mewn cais o fewn ardal reoledig, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol beidio â chaniatáu'r cais oni fodlonir y Bwrdd fod caniatáu'r cais yn angenrheidiol neu'n hwylus er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol, gan bersonau a gynhwysir mewn rhestr fferyllol, o'r gwasanaethau a bennir yn y cais, neu rai o'r gwasanaethau hynny, yn y gymdogaeth y lleolir ynddi'r fangre (y “prawf angenrheidiol neu hwylus”).

(2Yn ddarostyngedig i reoliad 10, pan fo'r fangre a bennir mewn cais o fewn ardal reoledig ond nid mewn lleoliad neilltuedig (fel y'i diffinnir yn rheoliad 11(4)), rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)gwrthod y cais os yw o'r farn y byddai ei ganiatáu yn niweidio'r ddarpariaeth briodol o wasanaethau meddygol sylfaenol, gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol yn yr ardal reoledig y lleolir ynddi'r fangre a bennir yn y cais (y “prawf niweidio”); a

(b)pan nad yw cais wedi ei wrthod o dan y prawf niweidio, wrthod y cais oni fodlonir ef fod caniatáu'r cais yn angenrheidiol neu'n hwylus er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol, gan bersonau a gynhwysir mewn rhestr fferyllol, o'r gwasanaethau a bennir yn y cais, neu rai o'r gwasanaethau hynny, yn y gymdogaeth y lleolir ynddi'r fangre (y “prawf angenrheidiol neu hwylus”).

(3Nid yw'r prawf niweidio yn gymwys pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu cais a'r fangre a bennir yn y cais mewn lleoliad neilltuedig.

(4Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol wrthod cais nad yw'r ceisydd yn cynnig ynddo ddarparu pob un o'r gwasanaethau hanfodol, ond caiff ganiatáu cais mewn perthynas â'r cyfan neu rai yn unig o'r gwasanaethau cyfeiriedig a bennir ynddo.

(5Wrth benderfynu cais o dan y rheoliad hwn, a wnaed o dan reoliad 8(1)(a) (ac eithrio pan fo'r cais wedi ei wneud gan berson y rhoddwyd iddo gydsyniad rhagarweiniol yn unol â rheoliad 12 a'r cydsyniad rhagarweiniol hwnnw'n ddilys yn unol â rheoliad 12(5)); neu o dan reoliad 12 pan nad yw'r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, caiff Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)gohirio ystyried y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 31 (gohirio ceisiadau ar sail addasrwydd);

(b)gwrthod y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 32 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd); neu

(c)gosod amodau ar ganiatáu'r cais o dan reoliad 33 (cynnwys yn amodol mewn perthynas â seiliau addasrwydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 9 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Penderfynu ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol: effaith penderfyniadau cynharachLL+C

10.  Os oedd y prawf angenrheidiol neu hwylus o dan reoliad 9, wedi ei ystyried wrth benderfynu cais cynharach am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol, mewn perthynas â'r gymdogaeth y bodlonir y Bwrdd Iechyd Lleol y lleolir ynddi'r fangre a bennir yn y cais sydd dan ystyriaeth, ac os penderfynwyd nad oedd yn angenrheidiol neu'n hwylus caniatáu'r cais blaenorol er mwyn sicrhau darpariaeth ddigonol o wasanaethau fferyllol yn y gymdogaeth, rhaid peidio ag ystyried y prawf angenrheidiol neu hwylus drachefn mewn perthynas â'r gymdogaeth honno—

(a)am gyfnod o dair blynedd, sy'n cychwyn gyda'r dyddiad y penderfynwyd y cais cynharach gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu, os apeliwyd yn erbyn y penderfyniad hwnnw, y dyddiad y penderfynwyd yr apêl; oni bai

(b)bod y Bwrdd Iechyd Lleol wedi ei fodloni bod newid sylweddol wedi digwydd mewn perthynas â'r gymdogaeth er pan ystyriwyd y prawf angenrheidiol neu hwylus ddiwethaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 10 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Lleoliadau mewn ardaloedd rheoledig sy'n lleoliadau neilltuedigLL+C

11.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol benderfynu, pan fo mangre a bennir mewn cais a gyflwynwyd i'r Bwrdd o dan reoliad 8 (ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol), neu fangre neu'r lleoliad perthnasol y mae'r ceisydd yn dymuno darparu gwasanaethau fferyllol ohono a bennir mewn cais a gyflwynwyd i'r Bwrdd o dan reoliad 12 (ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniol), mewn ardal reoledig, pa un a yw hefyd mewn lleoliad neilltuedig.

(2Pan fo penderfyniad wedi ei wneud gan y Bwrdd Iechyd Lleol neu, yn dilyn apêl, gan Weinidogion Cymru (o dan baragraff (1) ac Atodlen 3 yn eu trefn) neu yn unol â rheoliad 11ZA neu 13 o Reoliadau 1992, mewn perthynas â mangre neu leoliad perthnasol y darperir neu y bwriedir darparu gwasanaethau fferyllol ohoni neu ohono, i'r perwyl bod y fangre honno neu'r lleoliad perthnasol hwnnw mewn lleoliad neilltuedig, caiff y person a gynhwysir yn y rhestr fferyllol mewn perthynas â'r fangre honno neu'r lleoliad perthnasol hwnnw, wneud cais mewn ysgrifen i'r Bwrdd Iechyd Lleol, am i'r Bwrdd Iechyd Lleol wneud penderfyniad pellach pa un a yw'r fangre honno neu'r lleoliad perthnasol hwnnw, ar ddyddiad y cais, mewn lleoliad neilltuedig.

(3At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “lleoliad perthnasol” (“relevant location”), pan fo lleoliad y fangre y bwriedir darparu gwasanaethau fferyllol ohoni wedi ei bennu mewn ysgrifen gan y ceisydd cyn i'r Bwrdd Iechyd Lleol wneud ei benderfyniad, yw'r lleoliad hwnnw, a phan nad yw'r lleoliad wedi ei bennu felly, yr amcan gorau y gall y Bwrdd Iechyd Lleol ei wneud o'r man lle byddai'r fangre honno.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), lleoliad neilltuedig yw lleoliad mewn ardal reoledig lle mae nifer yr unigolion ar y rhestrau cleifion ar gyfer yr ardal sydd o fewn 1.6 cilometr i'r fangre neu leoliad y fangre yn llai na 2,750 o bersonau.

(5Nid yw lleoliad yn lleoliad neilltuedig o dan baragraff (4) os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol o'r farn, pe bai fferyllfa yn gweithredu o'r lleoliad, y defnyddid hi i raddau cyffelyb neu raddau mwy nag y byddid yn disgwyl pe bai nifer yr unigolion ar y rhestrau cleifion ar gyfer yr ardal sydd o fewn 1.6 cilometr i'r fangre neu'r lleoliad yn hafal i neu'n fwy na 2,750 o bersonau.

(6Pan fo'r Bwrdd Iechyd Lleol, wrth wneud penderfyniad pellach y gwnaed cais amdano yn unol â pharagraff (2), yn penderfynu nad yw'r fangre honno neu'r lleoliad perthnasol hwnnw mewn lleoliad neilltuedig, neu os apelir yn erbyn penderfyniad gan y Bwrdd Iechyd Lleol a phenderfynir yn yr apêl nad yw'r fangre neu nad yw'r lleoliad perthnasol mewn lleoliad neilltuedig—

(a)caiff y Bwrdd Iechyd lleol benderfynu bod y fangre i'w thrin, neu'r lleoliad perthnasol i'w drin, at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai mewn lleoliad neilltuedig, os yw o'r farn y byddai peidio â gwneud hynny yn niweidio'r ddarpariaeth briodol o wasanaethau meddygol sylfaenol (ac eithrio'r rhai a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol ei hunan), gwasanaethau gweinyddu neu wasanaethau fferyllol mewn unrhyw ardal reoledig; neu

(b)os yw'r Bwrdd Iechyd Lleol o'r farn ei bod yn debygol yr effeithir yn anffafriol ar y ddarpariaeth o wasanaethau meddygol sylfaenol gan ddarparwr gwasanaethau meddygol sylfaenol (ac eithrio un a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol), gwasanaethau fferyllol gan fferyllydd GIG neu gontractwr cyfarpar GIG, gwasanaethau fferyllol lleol a ddarperir o dan gynllun peilot neu wasanaethau fferyllol a ddarperir gan feddyg, oherwydd penderfyniad nad yw'r fangre mewn lleoliad neilltuedig, caiff y Bwrdd Iechyd Lleol wneud y cyfryw benderfyniad ond caiff osod amodau i ohirio, am ba bynnag gyfnod y tybia'n briodol, gwneud neu derfynu trefniadau o dan reoliad 20 (neu'r hyn sy'n cyfateb iddo o dan y Rheoliadau GMC) ar gyfer darpariaeth, gan feddyg neu gontractwr GMC, o wasanaethau fferyllol neu wasanaethau gweinyddu i gleifion.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 11 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Ceisiadau am gydsyniad rhagarweiniol ac effaith cydsyniad rhagarweiniolLL+C

12.—(1Caiff person, sy'n dymuno cael yr hawl i'w gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol pan gyflwynir cais dilynol gan y person hwnnw o dan reoliad 8(1)(a) neu 8(1)(b)(i) (ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol), gyflwyno cais i Fwrdd Iechyd Lleol am gydsyniad rhagarweiniol o dan y rheoliad hwn.

(2Rhaid i gais a wneir o dan y rheoliad hwn fod mewn ysgrifen, a rhaid iddo ddarparu'r wybodaeth a'r ymrwymiadau a bennir yn—

(a)Rhan 1 o Atodlen 1; a

(b)yn ddarostyngedig i reoliad 46, Rhan 2 o Atodlen 1.

(3Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ddychwelyd cais os nad yw'n cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2).

(4Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol benderfynu cais am gydsyniad rhagarweiniol fel pe bai'n gais a wnaed o dan reoliad 8(1)(a) neu 8(1)(b)(i).

(5Bydd cydsyniad rhagarweiniol yn ddilys am gyfnod o chwe mis o'r dyddiad y'i rhoddir, sef y diweddaraf o naill ai—

(a)30 diwrnod ar ôl anfon hysbysiad o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y cais yn unol â pharagraff 14 o Atodlen 2; neu

(b)pan fo apêl wedi ei gwneud yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol, y dyddiad y rhoddir hysbysiad gan Weinidogion Cymru o'u penderfyniad ar yr apêl yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 3.

(6Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais dilynol a wneir o dan reoliad 8(1)(a) neu 8(1)(b)(i) gan berson y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol iddo—

(a)os yw'r dyddiad y daeth y cais i law'r Bwrdd Iechyd Lleol o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (5);

(b)os yw'r gwasanaethau a bennir yn y cais yr un rhai ag a bennwyd yn y cais am gydsyniad rhagarweiniol; ac

(c)os yw'r fangre a bennir yn y cais yn yr un man â'r fangre a bennwyd yn y cais am gydsyniad rhagarweiniol, neu yng nghymdogaeth y fangre a bennwyd yn y cais am gydsyniad rhagarweiniol.

(7Pan fo is-baragraffau (a) a (b) o baragraff (6) wedi eu bodloni, ond lleoliad y fangre a bennir yn y cais yn wahanol i'r lleoliad y rhoddwyd cydsyniad rhagarweiniol mewn perthynas ag ef, rhaid i'r Bwrdd Iechyd Lleol drin y cais fel pe bai'n gais o dan reoliad 8(1)(b)(ii).

(8Rhaid i'r penderfyniad i ganiatáu cais o dan baragraff (6) fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, neu gan Weinidogion Cymru yn dilyn apêl, mewn perthynas â'r penderfyniad terfynol i ganiatáu'r cydsyniad rhagarweiniol cyfatebol.

(9Wrth benderfynu cais o dan y rheoliad hwn, gan berson nad yw'n gynwysedig eisoes yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol (ac eithrio cais gan berson sydd â chydsyniad rhagarweiniol dilys yn unol â pharagraff (5)), caiff Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)gohirio ystyried y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 31 (gohirio ceisiadau ar sail addasrwydd);

(b)gwrthod y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 32 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd); neu

(c)gosod amodau ar ganiatáu'r cais o dan reoliad 33 (cynnwys yn amodol mewn perthynas â seiliau addasrwydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 12 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Ceisiadau sy'n ymwneud ag adleoliad bach o fewn ardal Bwrdd Iechyd LleolLL+C

13.—(1Caiff person sydd wedi gwneud cais o dan reoliad 8(1)(a) (ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol), ar unrhyw adeg ar ôl gwneud y cais ond cyn diwedd y cyfnod perthnasol (fel y'i diffinnir yn rheoliad 17(3)(b) (gweithdrefn yn dilyn caniatáu cais)), hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol ei fod yn dymuno newid y fangre y mae'n bwriadu darparu'r gwasanaethau fferyllol a bennir yn y cais ohoni, a chaiff y Bwrdd Iechyd Lleol ddiwygio'r fangre a bennir yn y cais gwreiddiol os bodlonir y Bwrdd—

(a)mai adleoliad bach yw'r newid;

(b)y bydd y gwasanaethau fferyllol, a bennir yn y cais ac y byddid wedi eu darparu yn y fangre a bennwyd yn y cais gwreiddiol, yn cael eu darparu yn y fangre newydd; ac

(c)ar gyfer y cleifion sy'n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol.

(2Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 8(1)(b)(ii), i adleoli o fangre restredig i fangre newydd lle mae'r person hwnnw'n bwriadu darparu'r un gwasanaethau fferyllol, os bodlonir y Bwrdd—

(a)mai adleoliad bach yw'r newid;

(b)ar gyfer y cleifion sy'n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol;

(c)y darperir yr un gwasanaethau fferyllol yn y fangre newydd ag a ddarperir yn y fangre restredig;

(d)na fydd unrhyw doriad yn y ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol (ac eithrio am ba bynnag gyfnod a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol); ac

(e)nad yw'r fangre a bennir yn y cais fel y fangre y mae'r person yn dymuno adleoli ohoni yn fangre y mae'r person wedi adleoli iddi dros dro o dan reoliad 15 (ceisiadau sy'n ymwneud ag adleoli dros dro).

(3Ni chaiff person, y caniatawyd cais ganddo o dan y rheoliad hwn, gyflwyno cais arall ar gyfer ei benderfynu o dan y rheoliad hwn nac o dan reoliad 14 o fewn deuddeng mis ar ôl dyddiad caniatáu'r cais (fel y'i diffinnir yn rheoliad 17(3)(a)).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 13 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Ceisiadau sy'n ymwneud ag adleoliad bach rhwng ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol cyfagosLL+C

14.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, ganiatáu cais a wneir iddo gan berson o dan reoliad 8(1)(c) (ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol), i adleoli o fangre restredig yn ardal Bwrdd Iechyd Lleol cyfagos i fangre newydd yn ardal y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo, ac yn y fangre honno mae'r person yn bwriadu darparu'r un gwasanaethau fferyllol—

(a)os bodlonir y Bwrdd Iechyd Lleol y gwneir y cais iddo—

(i)mai adleoliad bach yw'r newid,

(ii)ar gyfer y cleifion sy'n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre newydd yn llai hygyrch i raddau sylweddol,

(iii)y darperir yr un gwasanaethau fferyllol yn fangre newydd ag a ddarperir yn y fangre restredig,

(iv)na fydd unrhyw doriad yn y ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol (ac eithrio am ba bynnag gyfnod a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol),

(v)nad yw'r fangre a bennir yn y cais fel y fangre y mae'r person yn dymuno adleoli ohoni yn fangre y mae'r person wedi adleoli iddi dros dro o dan reoliad 15 (ceisiadau sy'n ymwneud ag adleoli dros dro); a

(b)os yw'r person hwnnw yn cytuno i'w enw gael ei dynnu oddi ar y rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol y lleolir y fangre restredig bresennol yn ei ardal, gydag effaith o'r dyddiad y bydd y ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol o'r fangre newydd yn cychwyn.

(2Ni chaiff person, y caniatawyd cais ganddo o dan y rheoliad hwn, gyflwyno cais arall am benderfyniad o dan y rheoliad hwn nac o dan reoliad 13 o fewn deuddeng mis ar ôl dyddiad caniatáu'r cais (fel y'i diffinnir yn rheoliad 17(3)(a)).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 14 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Ceisiadau sy'n ymwneud ag adleoli dros droLL+C

15.—(1Caiff Bwrdd Iechyd Lleol ddiwygio cofnod mewn rhestr fferyllol dros dro dros drwy ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 8(1)(b)(ii) (ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol) i adleoli i fangre wahanol dros dro, os bodlonir y Bwrdd—

(a)bod yr amgylchiadau pan wneir y cais yn ei gwneud yn ofynnol ddarparu gwasanaethau fferyllol yn hyblyg;

(b)ar gyfer y cleifion sy'n gyfarwydd â chael mynediad i wasanaethau fferyllol yn y fangre bresennol, nad yw lleoliad y fangre dros dro yn llai hygyrch i raddau sylweddol;

(c)y darperir yr un gwasanaethau fferyllol yn y fangre dros dro ag a ddarperir yn y fangre restredig; ac

(d)na fydd unrhyw doriad yn y ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol (ac eithrio am ba bynnag gyfnod a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol).

(2Bydd diwygiad dros dro mewn cofnod yn y rhestr fferyllol yn cael effaith o'r dyddiad y cymeradwyodd y Bwrdd Iechyd Lleol y cais a wnaed iddo, a bydd yn ddilys am ba bynnag gyfnod o hyd at chwe mis, ac unrhyw gyfnodau pellach o hyd at dri mis, a ystyrir yn angenrheidiol gan y Bwrdd Iechyd Lleol.

(3Caiff person ddychwelyd i'r cofnod a ddisodlwyd yn y rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cyn diwedd y cyfnod a benderfynir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (2), drwy roi i'r Bwrdd Iechyd Lleol 7 diwrnod, o leiaf, o rybudd ysgrifenedig.

(4Pan ddisodlir cofnod mewn rhestr fferyllol gan ddiwygiad dros dro yn unol â'r rheoliad hwn, ni fydd y disodliad hwnnw'n effeithio ar unrhyw weithrediadau mewn perthynas â'r trefniadau a ddisodlwyd (er, hwyrach y bydd angen eu hatal am resymau eraill), ac os bydd angen diwygio'r trefniadau a ddisodlwyd cyn diwedd y diwygiad dros dro, o ganlyniad i'r gweithrediadau hynny, bydd rhaid dychwelyd, ar ddiwedd y diwygiad dros dro, i'r trefniadau a ddisodlwyd fel y'u diwygiwyd o ganlyniad i'r gweithrediadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 15 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Ceisiadau sy'n ymwneud â newid perchnogaethLL+C

16.—(1Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol ganiatáu cais a wneir gan berson o dan reoliad 8(1)(a), (b)(i) neu (ii) (ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol) sy'n bwriadu darparu gwasanaethau fferyllol mewn mangre lle darperir y gwasanaethau hynny, ar yr adeg y gwneir y cais, gan berson arall sydd wedi ei gynnwys mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol o dan reoliad 3 (paratoi a chynnal rhestrau fferyllol), os bodlonir y Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)bod y fangre wedi ei chynnwys eisoes mewn rhestr fferyllol a gynhelir gan y Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)y parheir i ddarparu'r un gwasanaethau fferyllol o'r fangre; ac

(c)na fydd toriad yn y ddarpariaeth o wasanaethau fferyllol (ac eithrio am ba bynnag gyfnod a ganiateir am reswm da gan y Bwrdd Iechyd Lleol).

(2Wrth benderfynu cais o dan y rheoliad hwn, a wnaed o dan reoliad 8(1)(a) (ac eithrio pan fo'r cais wedi ei wneud gan berson y rhoddwyd iddo gydsyniad rhagarweiniol o dan reoliad 12 a'r cydsyniad rhagarweiniol hwnnw'n ddilys yn unol â rheoliad 12(5)) neu o dan reoliad 12 pan nad yw'r ceisydd eisoes wedi ei gynnwys yn rhestr fferyllol y Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw, caiff Bwrdd Iechyd Lleol—

(a)gohirio ystyried y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 31 (gohirio ceisiadau ar sail addasrwydd);

(b)gwrthod y cais ar sail addasrwydd o dan reoliad 32 (gwrthod ceisiadau ar sail addasrwydd); neu

(c)gosod amodau ar ganiatáu'r cais o dan reoliad 33 (cynnwys yn amodol mewn perthynas â seiliau addasrwydd).

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 16 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Gweithdrefn yn dilyn caniatáu caisLL+C

17.—(1Yn dilyn y dyddiad y caniateir cais a wneir o dan reoliad 8 (ceisiadau am gynnwys person mewn rhestr fferyllol neu ddiwygio rhestr fferyllol), rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol beidio â chynnwys person mewn rhestr fferyllol na diwygio rhestr fferyllol oni fydd—

(a)yr amod ym mharagraff (2) wedi ei fodloni; a

(b)gofynion rheoliad 33 (cynnwys yn amodol mewn perthynas â seiliau addasrwydd), os oes rhai, wedi eu bodloni o ran gosod amodau ar unrhyw berson.

(2Bydd person yn cael ei gynnwys yn y rhestr fferyllol berthnasol, neu diwygir y rhestr fferyllol berthnasol fel y bo'n briodol, os bydd y person hwnnw, ddim llai na 14 diwrnod cyn diwedd y cyfnod perthnasol, gan ddarparu'r wybodaeth a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 1, yn hysbysu'r Bwrdd Iechyd Lleol, mewn ysgrifen, y bydd y person hwnnw, o fewn y 14 diwrnod nesaf, yn cychwyn darparu, yn y fangre, y gwasanaethau a bennwyd yn y cais.

(3At ddibenion y rheoliad hwn a phan fo'n berthnasol, rheoliad 18—

(a)“y dyddiad y caniateir cais” (“the date of the grant of an application”) yw'r dyddiad diweddaraf o naill ai—

(i)30 diwrnod ar ôl anfon hysbysiad o benderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol ar y cais, gan y Bwrdd Iechyd Lleol yn unol â pharagraff 14 o Atodlen 2; neu

(ii)y dyddiad y penderfynir unrhyw apêl a ddygir yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Iechyd Lleol,

ac mae “caniatawyd” (“granted”) i'w ddehongli'n unol â hynny; a

(b)“y cyfnod perthnasol” (“the relevant period”) yw—

(i)y cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y caniatawyd cais; neu

(ii)pa bynnag gyfnod pellach yn ychwanegol at yr hyn a bennir yn is-baragraff (a), ac na fydd yn hwy na thri mis, y caiff y Bwrdd Iechyd Lleol ei ganiatáu am reswm da.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 17 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

Cais am estyn y cyfnod perthnasolLL+C

18.—(1Cyn diwedd y cyfnod perthnasol, caiff person wneud cais i'r Bwrdd Iechyd Lleol am estyn y cyfnod perthnasol.

(2Yn unol â rheoliad 17(3)(b)(ii) caiff y person wneud cais am estyniad o hyd at dri mis.

(3Rhaid i gais a wneir i'r Bwrdd Iechyd Lleol o dan y rheoliad hwn fod mewn ysgrifen, a rhaid iddo nodi'n llawn pam y gofynnir am estyniad o'r cyfnod perthnasol.

(4Mae Rhannau 1 a 3 o Atodlen 2 yn pennu'r gweithdrefnau sydd i'w dilyn gan Fwrdd Iechyd Lleol wrth benderfynu ceisiadau a wneir o dan y rheoliad hwn.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “person” (“person”) yw'r person y byddai hawl ganddo i ddarparu hysbysiad i Fwrdd Iechyd Lleol yn unol â rheoliad 17(2) o gychwyn darparu gwasanaethau fferyllol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 18 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)

ApelauLL+C

19.—(1Mae Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer apelau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â phenderfyniadau a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol o dan y Rhan hon.

(2Nid oes hawl i apelio o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â phenderfyniad gan Fwrdd Iechyd Lleol i ddiwygio dros dro neu beidio â'i diwygio dros dro neu estyn diwygiad dros dro, mewn rhestr fferyllol o dan reoliad 15 (ceisiadau sy'n ymwneud ag adleoli dros dro).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 19 mewn grym ar 10.5.2013, gweler rhl. 1(2)