- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Adnoddau Dŵr, Cymru
Gwnaed
21 Ebrill 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Ebrill 2014
Yn dod i rym
15 Mai 2014
Dynodir Gweinidogion Cymru mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud ag adnoddau dŵr(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno o’r Ddeddf honno.
Mae Gweinidogion Cymru wedi dewis ymgynghori mewn perthynas â rheoliad 6 o Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 (“y Rheoliadau”) (3).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi (Diwygio) (Cymru) 2014.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Mai 2014.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae’r Rheoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Rhan 2 o Atodlen 2 (dŵr wyneb yng Nghymru)—
(a)ar ôl “Llanrhystud”, mewnosoder “Llyn Padarn”; a
(b)ar ôl “Rhyl”, mewnosoder “Rhyl East”.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru.
21 Ebrill 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn amrywio Rhan 2 o Atodlen 2 (dŵr wyneb yng Nghymru) i Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 (“y Rheoliadau”), sy’n rhestru’r dyfroedd a nodwyd gan Weinidogion Cymru fel dyfroedd ymdrochi yng Nghymru.
Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu Llyn Padarn a Dwyrain y Rhyl at y rhestr o ddyfroedd ymdrochi a nodwyd yn y Rheoliadau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Nid oes unrhyw Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi ei baratoi ar gyfer y rheoliadau diwygiedig hyn gan nad oes unrhyw newid i bolisïau, nac unrhyw effaith ar fusnesau neu’r sector gwirfoddol yn cael ei rhagweld.
Gweler O.S. 2003/2901 ar gyfer y dynodiad a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adrannau 59 a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), a pharagraff 28 o Atodlen 11 iddi, mae’r dynodiad hwnnw bellach wedi ei roi i Weinidogion Cymru.
1972 p. 68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) a chan Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys