Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dirymu, darpariaethau trosiannol ac arbedion

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae Rhannau 1 i 13 o Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010((1)) (“Rheoliadau Ffedereiddio 2010”), ac Atodlenni 1 i 10 iddynt, wedi eu dirymu.

(2Rhaid i ysgol sydd wedi ei ffedereiddio yn unol â Rheoliadau Ffedereiddio 2010 ailgyfansoddi ei chorff llywodraethu yn unol â’r Rheoliadau hyn pan fydd y cyntaf o’r canlynol yn digwydd—

(a)bod ysgol yn ymuno â’r ffederasiwn; neu

(b)o fewn blwyddyn ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(3Hyd y cyntaf o’r digwyddiadau a bennir ym mharagraff (2) caiff cyfansoddiad corff llywodraethu ysgol sydd wedi ei ffedereiddio barhau yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Ffedereiddio 2010.

Yn ôl i’r brig

Options/Help