Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Dirymu, darpariaethau trosiannol ac arbedion
2.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae Rhannau 1 i 13 o Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2010(()) (“Rheoliadau Ffedereiddio 2010”), ac Atodlenni 1 i 10 iddynt, wedi eu dirymu.
(2) Rhaid i ysgol sydd wedi ei ffedereiddio yn unol â Rheoliadau Ffedereiddio 2010 ailgyfansoddi ei chorff llywodraethu yn unol â’r Rheoliadau hyn pan fydd y cyntaf o’r canlynol yn digwydd—
(a)bod ysgol yn ymuno â’r ffederasiwn; neu
(b)o fewn blwyddyn ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(3) Hyd y cyntaf o’r digwyddiadau a bennir ym mharagraff (2) caiff cyfansoddiad corff llywodraethu ysgol sydd wedi ei ffedereiddio barhau yn unol â Rhan 4 o Reoliadau Ffedereiddio 2010.
Back to top