Rheoliad 8
ATODLEN 1Cyrff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion newydd sy’n bwriadu ffedereiddio
Egwyddorion cyffredinol
1. Mae maint aelodaeth y corff llywodraethu dros dro, na chaiff fod yn llai na 15 nac yn fwy na 27 o lywodraethwyr dros dro, i’w benderfynu gan yr awdurdod lleol.
2. Wrth benderfynu maint aelodaeth y corff llywodraethu dros dro, rhaid i’r awdurdod lleol beidio â chynnwys unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt dros dro.
3. Wrth benderfynu maint aelodaeth y corff llywodraethu dros dro, rhaid i’r awdurdod lleol gynnwys unrhyw lywodraethwyr cymunedol ychwanegol dros dro a benodir yn unol â pharagraff 11.
4. Pan fo cymhwyso paragraffau 5 i 10 yn cynhyrchu rhif nad yw’n rhif cyfan, rhaid i’r awdurdod lleol bennu naill ai’r rhif cyfan nesaf uwchlaw neu’r rhif cyfan nesaf islaw (yn ôl ei ddewis), ar yr amod bod cyfanswm nifer y llywodraethwyr dros dro o fewn y terfynau a bennir ym mharagraff 1.
Corff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir newydd
5.—(1) Mae corff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir ar gyfer unrhyw gyfuniad o ddwy neu ragor o ysgolion cymunedol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir arfaethedig (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol), i’w gyfansoddi fel a ganlyn—
(a)ar gyfer pob un o’r ysgolion arfaethedig, o leiaf un ond dim mwy na dau riant-lywodraethwr dros dro, a benodir i gynrychioli buddiannau rhieni plant sydd, neu sy’n debygol o fod, yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;
(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr dros dro;
(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr dros dro;
(d)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr awdurdod lleol dros dro;
(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (f), o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr cymunedol dros dro; ac
(f)un llywodraethwr cynrychiadol dros dro pan fo’r ffederasiwn arfaethedig yn cynnwys o leiaf un ysgol arbennig gymunedol arfaethedig, i gymryd lle nifer cydradd o’r llywodraethwyr cymunedol sy’n ofynnol o dan is-baragraff (e).
(2) Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu dros dro’r ffederasiwn gynnwys—
(a)pennaeth neu ddarpar bennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu
(b)(os nad oes pennaeth na darpar bennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth neu ddarpar bennaeth pob un o’r ysgolion arfaethedig oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.
Corff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion gwirfoddol a reolir newydd
6.—(1) Mae corff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir ar gyfer dwy neu ragor o ysgolion gwirfoddol a reolir arfaethedig yn unig, i’w gyfansoddi fel a ganlyn—
(a)ar gyfer pob un o’r ysgolion arfaethedig, o leiaf un ond dim mwy na dau riant-lywodraethwr dros dro, a benodir i gynrychioli buddiannau rhieni plant sydd, neu sy’n debygol o fod, yn ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol honno;
(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr dros dro;
(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr dros dro;
(d)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr awdurdod lleol dros dro;
(e)o leiaf ddau ond dim mwy na phedwar llywodraethwr cymunedol dros dro; ac
(f)o leiaf ddau ond dim mwy na phum llywodraethwr sefydledig dros dro.
(2) Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu dros dro’r ffederasiwn gynnwys—
(a)pennaeth neu ddarpar bennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu
(b)(os nad oes pennaeth na darpar bennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth neu ddarpar bennaeth pob un o’r ysgolion arfaethedig oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.
Corff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir newydd
7.—(1) Mae corff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir ar gyfer dwy neu ragor o ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir arfaethedig yn unig, i’w gyfansoddi fel a ganlyn—
(a)o leiaf un rhiant-lywodraethwr dros dro;
(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr dros dro;
(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr dros dro;
(d)o leiaf un ond dim mwy na dau lywodraethwr awdurdod lleol dros dro; ac
(e)y nifer o lywodraethwyr sefydledig a fydd yn eu gwneud yn fwy niferus na’r holl lywodraethwyr eraill a grybwyllwyd ym mharagraffau (a) i (d), is-baragraff (2) a pharagraff 11 o ddim mwy nag un.
(2) Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu dros dro’r ffederasiwn gynnwys—
(a)pennaeth neu ddarpar bennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu
(b)(os nad oes pennaeth na darpar bennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth neu ddarpar bennaeth pob un o’r ysgolion arfaethedig oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.
Corff llywodraethu dros dro ar gyfer ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir newydd
8.—(1) Mae corff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir ar gyfer unrhyw gyfuniad o ddwy neu ragor o ysgolion gwirfoddol a reolir ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir arfaethedig (ac nid unrhyw gategori arall o ysgol), i’w gyfansoddi fel a ganlyn—
(a)o leiaf un rhiant-lywodraethwr dros dro;
(b)o leiaf un ond dim mwy na dau athro-lywodraethwr dros dro;
(c)o leiaf un ond dim mwy na dau staff-lywodraethwr dros dro;
(d)o leiaf un ond dim mwy na dau lywodraethwr awdurdod lleol dros dro;
(e)o leiaf un ond dim mwy na dau lywodraethwr cymunedol dros dro; ac
(f)y nifer o lywodraethwyr sefydledig a fydd yn eu gwneud yn fwy niferus na’r holl lywodraethwyr eraill a grybwyllwyd ym mharagraffau (a) i (e), is-baragraff (2) a pharagraff 11 o ddim mwy nag un.
(2) Yn ychwanegol, rhaid i gorff llywodraethu dros dro’r ffederasiwn gynnwys—
(a)pennaeth neu ddarpar bennaeth y ffederasiwn oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37; neu
(b)(os nad oes pennaeth na darpar bennaeth i’r ffederasiwn) pennaeth neu ddarpar bennaeth pob un o’r ysgolion arfaethedig oni fydd y person hwnnw yn ymddiswyddo fel llywodraethwr yn unol â rheoliad 37.
Noddwr-lywodraethwyr dros dro
9. Caiff corff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir yn unol â pharagraffau 5 a 6, benodi yn ychwanegol un noddwr-lywodraethwr dros dro.
Disgybl-lywodraethwyr cyswllt dros dro
10. Caiff corff llywodraethu dros dro, a gyfansoddir yn unol â pharagraffau 5 i 8, benodi yn ychwanegol hyd at ddau ddisgybl-lywodraethwr cyswllt dros dro pan fo’r ysgolion arfaethedig yn ysgolion uwchradd.
Llywodraethwyr cymunedol ychwanegol dros dro
11.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gorff llywodraethu dros dro a gyfansoddir yn unol â pharagraffau 5 i 8 ar gyfer un neu ragor o’r canlynol—
(a)unrhyw ysgol gymunedol neu wirfoddol arfaethedig sydd i fod yn ysgol gynradd; a
(b)unrhyw ysgol feithrin arfaethedig a gynhelir;
sy’n gwasanaethu ardal sydd ag un neu ragor o gynghorau cymuned.
(2) Rhaid i offeryn llywodraethu ysgol arfaethedig ddarparu bod y corff llywodraethu dros dro yn cynnwys (yn ychwanegol at y llywodraethwyr sy’n ofynnol yn rhinwedd paragraffau 5 i 10, yn ôl y digwydd) un llywodraethwr cymunedol ychwanegol dros dro a enwebir gan y cyngor cymuned.
(3) Pan fo ysgol arfaethedig yn gwasanaethu ardal lle y mae dau neu ragor o gynghorau cymuned, caiff y corff llywodraethu dros dro geisio enwebiadau gan un neu ragor o’r cynghorau hynny.
Rheoliad 14
ATODLEN 2Ethol a phenodi rhiant-lywodraethwyr
1. Yn ddarostyngedig i baragraff 2(2), yn yr Atodlen hon ystyr “corff priodol” (“appropriate body”) yw—
(a)yr awdurdod lleol pan fo’r ysgol ffederal yn ysgol gymunedol, ysgol arbennig gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir neu’n ysgol feithrin a gynhelir; neu
(b)corff llywodraethu’r ffederasiwn pan fo’r ysgol ffederal yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir.
2.—(1) Os yr awdurdod lleol yw’r corff priodol mewn perthynas ag ysgol, caiff yr awdurdod lleol hwnnw ddirprwyo i bennaeth yr ysgol, neu i bennaeth y ffederasiwn, unrhyw rai o’i swyddogaethau o dan yr Atodlen hon.
(2) Yr awdurdod lleol fydd y corff priodol mewn perthynas ag ysgol o fewn paragraff 1(b) os bydd corff llywodraethu’r ffederasiwn a’r awdurdod lleol yn cytuno felly.
3. Yn ddarostyngedig i baragraffau 4 i 8 rhaid i’r corff priodol wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i ethol rhiant-lywodraethwyr.
4. Rhaid i’r corff priodol benderfynu, at ddibenion ethol rhiant-lywodraethwyr, unrhyw gwestiwn p’un a yw person yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol.
5. Yn achos y ddyletswydd a osodir gan baragraff 3—
(a)nid yw’n cynnwys pŵer i osod unrhyw ofynion ynghylch yr isafswm o bleidleisiau y mae angen eu bwrw i ymgeisydd gael ei ethol, ond
(b)mae’n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso.
6. Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.
7.—(1) Rhaid i’r trefniadau a wneir o dan baragraff 3 ddarparu bod pob person sydd â’r hawl i bleidleisio yn cael cyfle i wneud hynny drwy’r post.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae “post” (“post”) yn cynnwys danfon drwy law.
(3) Caiff y trefniadau a wneir o dan baragraff 3 ddarparu ar gyfer rhoi cyfle i bob person sydd â hawl i bleidleisio wneud hynny drwy gyfrwng dull electronig.
8. Pan ddaw lle’n wag i riant-lywodraethwr, rhaid i’r corff priodol gymryd y camau hynny sy’n rhesymol ymarferol i sicrhau bod pob person y mae’n hysbys i’r corff priodol ei fod yn rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol—
(a)yn cael gwybod am y lle gwag a’i bod yn ofynnol ei lenwi drwy etholiad;
(b)yn cael gwybod bod gan y person hwnnw hawl i sefyll fel ymgeisydd a phleidleisio yn yr etholiad; ac
(c)yn cael cyfle i wneud hynny.
9. Rhaid sicrhau’r nifer o riant-lywodraethwyr sy’n ofynnol drwy ychwanegu rhiant-lywodraethwyr a benodir gan y corff llywodraethu, os daw un neu ragor o leoedd ar gyfer rhiant-lywodraethwyr yn wag a naill ai—
(a)bod y nifer o rieni sy’n sefyll i’w hethol yn llai na nifer y lleoedd gwag;
(b)bod o leiaf 50 y cant o’r disgyblion cofrestredig yn yr ysgol yn lletywyr ac y byddai, ym marn y corff priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr; neu
(c)yn achos ysgol sy’n ysgol arbennig gymunedol mewn ysbyty, y byddai, ym marn y corff priodol, yn anymarferol ethol rhiant-lywodraethwyr.
10.—(1) Ac eithrio pan fo paragraff 11 yn gymwys, wrth benodi rhiant-lywodraethwr i gynrychioli ysgol ffederal, rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn benodi—
(a)rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(b)rhiant disgybl cofrestredig mewn ysgol arall o fewn y ffederasiwn; neu
(c)rhiant plentyn sydd mewn oedran ysgol gorfodol, neu, yn achos ysgol feithrin a gynhelir, sydd mewn neu o dan oedran ysgol gorfodol.
(2) Rhaid i’r corff llywodraethu beidio â phenodi person y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b) neu (c) ac eithrio pan nad oes unrhyw berson arall i’w benodi o baragraff cynharach yn y rhestr a nodwyd yn is-baragraff (1).
11.—(1) Pan fo’r ysgol yn ysgol arbennig gymunedol, wrth benodi rhiant-lywodraethwr, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn benodi—
(a)rhiant disgybl cofrestredig yn yr ysgol;
(b)rhiant plentyn mewn oedran ysgol gorfodol sydd ag anghenion addysgol arbennig;
(c)rhiant person o unrhyw oedran sydd ag anghenion addysgol arbennig; neu
(d)rhiant plentyn mewn oedran ysgol gorfodol.
(2) Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn beidio â phenodi person y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b), (c) neu (d) ac eithrio pan nad oes unrhyw berson arall i’w benodi o baragraff cynharach yn y rhestr a nodwyd yn is-baragraff (1).
Rheoliadau 15 ac 16
ATODLEN 3Ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr
1. Yn ddarostyngedig i baragraffau 2 i 4, rhaid i gorff llywodraethu’r ffederasiwn wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr.
2. At y dibenion o ethol athro-lywodraethwyr a staff-lywodraethwyr, corff llywodraethu’r ffederasiwn sydd i benderfynu p’un a yw person yn athro neu athrawes ysgol neu wedi ei gyflogi i weithio yn yr ysgol rywfodd arall.
3. Yn achos y ddyletswydd a osodir gan baragraff 1—
(a)nid yw’n cynnwys pŵer i osod unrhyw ofynion ynghylch yr isafswm o bleidleisiau y mae angen eu bwrw i ymgeisydd gael ei ethol; ond
(b)mae’n cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth ynghylch dyddiadau cymhwyso.
4. Rhaid cynnal unrhyw etholiad a ymleddir drwy bleidlais gudd.
Rheoliad 21
ATODLEN 4Penodi llywodraethwyr partneriaeth
1. Pan fo’n ofynnol penodi llywodraethwr partneriaeth—
(a)rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgolion yn y ffederasiwn nad oes ganddynt sefydliad a chan y cyfryw bersonau eraill y tybia’n briodol yn y gymuned a wasanaethir gan y ffederasiwn; a
(b)caiff corff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau gan rieni disgyblion cofrestredig mewn ysgolion eraill yn y ffederasiwn fel y tybia’n briodol.
2. Ni chaiff unrhyw berson enwebu i’w benodi, na phenodi, person yn llywodraethwr partneriaeth oni fyddai’r person hwnnw’n gymwys i’w benodi gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn yn llywodraethwr cymunedol.
3. Yn ddarostyngedig i baragraff 4(2), ni chaiff unrhyw lywodraethwr enwebu person i’w benodi’n llywodraethwr partneriaeth.
4.—(1) Rhaid i’r corff llywodraethu benodi pa bynnag nifer o lywodraethwyr partneriaeth sy’n ofynnol yn ôl yr offeryn llywodraethu o blith enwebeion cymwys.
(2) Os yw’r nifer o enwebeion cymwys yn llai na’r nifer o leoedd gwag, caniateir cwblhau’r nifer o lywodraethwyr partneriaeth sy’n ofynnol â phersonau a ddetholir gan gorff llywodraethu’r ffederasiwn.
5.—(1) Pan fo corff llywodraethu ffederasiwn yn gwneud penodiad o dan baragraff 4(2), ar ôl gwrthod unrhyw berson a enwebwyd o dan baragraff 1, rhaid iddo roi rhesymau ysgrifenedig dros ei benderfyniad i’r awdurdod lleol ac i’r person a wrthodwyd.
(2) Pan fo ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan ragor nag un awdurdod lleol rhaid dehongli’r cyfeiriad yn is-baragraff (1) at awdurdod lleol fel cyfeiriad at bob un o’r awdurdodau lleol.
6. Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn wneud pob trefniant angenrheidiol ar gyfer enwebu a phenodi llywodraethwyr partneriaeth a phenderfynu ynghylch pob mater arall yn ymwneud â’u henwebu a’u penodi.
Rheoliad 22
ATODLEN 5Penodi noddwr-lywodraethwyr
1. Yn yr Atodlen hon, ystyr “noddwr” (“sponsor”) mewn perthynas â ffederasiwn yw—
(a)person sy’n rhoi neu sydd wedi rhoi cymorth ariannol sylweddol (sydd at y dibenion hyn yn cynnwys buddiant mewn nwyddau) i’r ffederasiwn neu i ysgol ffederal, ac eithrio cymorth a roddir yn unol â rhwymedigaeth statudol; neu
(b)unrhyw berson arall (nad yw wedi ei gynrychioli fel arall ar gorff llywodraethu’r ffederasiwn) sy’n darparu neu sydd wedi darparu gwasanaethau sylweddol i’r ffederasiwn neu i’r ysgol ffederal.
2. Pan fo gan y ffederasiwn un neu ragor o noddwyr, caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn benderfynu bod yr offeryn llywodraethu i ddarparu y caiff corff llywodraethu’r ffederasiwn benodi nifer o noddwr-lywodraethwyr, na fydd yn fwy na dau, a enwebir yn unol â pharagraff 3.
3. Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn geisio enwebiadau ar gyfer penodiadau o’r fath gan noddwr y ffederasiwn neu noddwr ysgol ffederal neu (yn ôl y digwydd) gan unrhyw un neu ragor o noddwyr y ffederasiwn neu noddwyr ysgol ffederal.
Rheoliad 23
ATODLEN 6Penodi llywodraethwyr cynrychiadol
1.—(1) Mewn perthynas ag ysgol arbennig gymunedol a sefydlir mewn ysbyty, rhaid i’r awdurdod lleol ddynodi fel y corff priodol—
(a)un bwrdd iechyd lleol y cysylltir yr ysgol agosaf ag ef neu ragor nag un bwrdd iechyd lleol y cysylltir yr ysgol agosaf â hwy i weithredu ar y cyd; neu
(b)yr ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y cysylltir yr ysgol agosaf â hi;
a rhaid i’r corff priodol benodi llywodraethwr cynrychiadol i gymryd lle un o’r nifer o lywodraethwyr cymunedol a benodir yn unol â rheoliad 26.
(2) At ddibenion yr Atodlen hon ystyr “ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service trust”) yw corff a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 18 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006().
2. Pan nad yw ysgol arbennig gymunedol wedi ei sefydlu mewn ysbyty—
(a)caiff yr awdurdod lleol ddynodi un sefydliad gwirfoddol, neu ragor nag un sefydliad o’r fath yn gweithredu ar y cyd, fel y sefydliad gwirfoddol priodol sy’n ymwneud â’r materion y trefnwyd yr ysgol yn arbennig mewn cysylltiad â hwy; a
(b)pan fo sefydliad gwirfoddol priodol wedi ei ddynodi felly, rhaid iddo benodi llywodraethwr cynrychiadol i gymryd lle un o’r nifer o lywodraethwyr cymunedol a benodir yn unol â rheoliad 26.
Rheoliad 35
ATODLEN 7Cymwysiadau ac anghymwysiadau
Cyffredinol
1. Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt, nid yw unrhyw berson yn gymwys i fod yn llywodraethwr onid yw’r person hwnnw yn 18 oed neu’n hŷn ar ddyddiad ethol neu benodi’r person hwnnw.
2. Ni chaiff unrhyw berson ar unrhyw adeg ddal mwy nag un swydd llywodraethwr yn yr un ysgol.
3. Ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, nid yw’r ffaith bod person yn gymwys i’w ethol neu ei benodi’n llywodraethwr o gategori penodol mewn ffederasiwn yn anghymhwyso’r person hwnnw rhag cael ei ethol neu ei benodi neu rhag parhau’n llywodraethwr o unrhyw gategori arall yn y ffederasiwn hwnnw.
Anhwylder meddyliol
4. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr mewn ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn agored i gael ei gadw’n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983() neu o dan unrhyw ailddeddfiad neu addasiad statudol o’r Ddeddf honno a fydd mewn grym o bryd i’w gilydd.
Methiant i fod yn bresennol mewn cyfarfodydd
5.—(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw lywodraethwr nad yw’n llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw.
(2) Os bydd llywodraethwr heb gydsyniad y corff llywodraethu, yn methu â bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y corff am gyfnod di-dor o chwe mis, sy’n dechrau ar ddyddiad y cyfarfod cyntaf o’r fath lle y methodd y person hwnnw â bod yn bresennol, bydd y llywodraethwr hwnnw, pan ddaw’r cyfnod hwnnw i ben, wedi ei anghymhwyso rhag parhau i ddal swydd llywodraethwr yn y ffederasiwn hwnnw.
(3) Pan fo llywodraethwr wedi anfon ymddiheuriad at glerc y corff llywodraethu cyn cyfarfod nad yw’r person hwnnw yn bwriadu bod yn bresennol ynddo, rhaid i gofnodion y cyfarfod gofnodi a oedd y corff llywodraethu wedi cydsynio i’r absenoldeb ai peidio, a rhaid anfon copi o’r cofnodion at y llywodraethwr o dan sylw i breswylfa arferol y person hwnnw.
(4) Nid yw llywodraethwr a anghymhwyswyd rhag bod yn llywodraethwr ffederasiwn o dan is-baragraff (2) yn gymwys i’w ethol, i’w enwebu, nac i’w benodi yn llywodraethwr o unrhyw gategori yn y ffederasiwn hwnnw yn ystod y deuddeng mis yn union ar ôl anghymhwyso’r person hwnnw o dan is-baragraff (2).
Methdaliad
6. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ffederasiwn—
(a)os yw’r person hwnnw wedi ei ddyfarnu’n fethdalwr neu os yw ystad y person hwnnw wedi ei hatafaelu ac yntau (yn y naill achos neu’r llall) heb ei ryddhau o fethdaliad ac os nad yw’r gorchymyn methdalu wedi ei ddirymu neu ei ddadwneud neu os oes cyfnod moratoriwm o dan orchymyn rhyddhau o ddyled yn gymwys mewn perthynas â’r person hwnnw; neu
(b)os yw’r person hwnnw wedi gwneud compownd neu drefniant â chredydwyr y person hwnnw, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedolaeth i gredydwyr y person hwnnw, ac yntau heb ei ryddhau mewn cysylltiad â hynny.
Anghymhwyso cyfarwyddwyr cwmnïau
7. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw yn destun—
(a)gorchymyn anghymhwyso neu ymgymeriad anghymhwyso o dan Ddeddf Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau 1986();
(b)gorchymyn anghymhwyso o dan Ran 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1989();
(c)ymgymeriad anghymhwyso a dderbyniwyd o dan Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(); neu
(d)gorchymyn a wnaed o dan adran 429(2)(b) o Ddeddf Methdaliad 1986() (methu â thalu o dan orchymyn gweinyddu llys sirol).
Anghymhwyso ymddiriedolwyr elusennau
8. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ffederasiwn os yw’r person hwnnw—
(a)wedi ei ddiswyddo fel ymddiriedolwr elusen drwy orchymyn a wnaed gan y Comisiynwyr Elusennau neu’r Uchel Lys ar sail unrhyw gamymddygiad neu gamreoli yr oedd y person hwnnw yn gyfrifol amdano neu’n ymwybodol ohono wrth weinyddu’r elusen, neu y cyfrannodd y person hwnnw ato neu a hwylusodd y person hwnnw drwy ymddygiad y person hwnnw; neu
(b)wedi ei ddiswyddo, o dan adran 34 o Ddeddf Elusennau a Buddsoddi gan Ymddiriedolwyr (Yr Alban) 2005() (pwerau’r Llys Sesiwn i ymdrin â rheoli elusennau), rhag ymwneud â rheoli neu reolaeth ar unrhyw gorff.
Personau y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir ar eu cyflogi
9. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr mewn ffederasiwn ar unrhyw adeg pan fo’r person hwnnw—
(a)wedi ei gynnwys yn y rhestr o athrawon a rhai fu’n gweithio gyda phlant neu bersonau ifanc y gwaherddir eu cyflogi neu y cyfyngir arnynt o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999();
(b)yn destun cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 142 o Ddeddf 2002();
(c)wedi ei anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan adrannau 28, 29 neu 29A o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000();
(d)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran XA o Ddeddf Plant 1989() ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd;
(e)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006();
(f)wedi ei wahardd o weithgaredd a reoleiddir sy’n ymwneud â phlant yn unol ag adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006();
(g)yn destun cyfarwyddyd gan yr awdurdod priodol o dan adran 167A o Ddeddf 2002();
(h)wedi ei anghymhwyso, yn rhinwedd gorchymyn a wnaed o dan adran 470 neu adran 471 o Ddeddf 1996(), rhag bod yn berchennog unrhyw ysgol annibynnol neu rhag bod yn athro neu athrawes neu gyflogai arall mewn unrhyw ysgol; neu
(i)wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010().
Collfarnau troseddol
10.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (5), anghymhwysir person rhag dal swydd, neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ffederasiwn pan fo unrhyw un o is-baragraffau (2) i (4) neu (6) yn gymwys i’r person hwnnw.
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw’r person hwnnw—
(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw; neu
(b)ers penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr neu, yn ôl y digwydd, ers i’r person hwnnw ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw;
wedi ei gael yn euog, yn y Deyrnas Unedig neu yn rhywle arall, o unrhyw drosedd ac wedi ei ddedfrydu i garchar (p’un a yw’r ddedfryd yn ataliedig ai peidio) am gyfnod nad yw’n llai na thri mis heb y dewis o dalu dirwy.
(3) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os cafwyd y person hwnnw, o fewn cyfnod o 20 mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw, yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a’i ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw’n llai na dwy flynedd a hanner.
(4) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw’r person hwnnw ar unrhyw adeg wedi ei gael yn euog fel y disgrifiwyd uchod o unrhyw drosedd a bod y person hwnnw wedi ei ddedfrydu i garchar am gyfnod nad yw’n llai na phum mlynedd.
(5) At ddibenion is-baragraffau (2) i (4), rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan lys y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu gerbron llys o’r fath, am drosedd na fyddai, pe bai’r ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, wedi ei hystyried yn drosedd yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith mewn grym ar yr adeg yr oedd y ffeithiau a oedd wedi arwain at y drosedd wedi digwydd.
(6) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i berson os yw’r person hwnnw—
(a)o fewn cyfnod o bum mlynedd a ddaw i ben ar y dyddiad yn union cyn y dyddiad y byddai penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr fel arall wedi cymryd effaith neu, yn ôl y digwydd, y dyddiad y byddai’r person hwnnw fel arall wedi dod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw; neu
(b)ers penodi neu ethol y person hwnnw yn llywodraethwr neu, yn ôl y digwydd, ers i’r person hwnnw ddod yn llywodraethwr yn rhinwedd swydd y person hwnnw;
wedi ei gael yn euog o dan adran 547 o Ddeddf 1996() (niwsans neu aflonyddwch ar fangre ysgol) neu o dan adran 85A o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992() (niwsans neu aflonyddwch ar fangre addysgol) o drosedd ac wedi ei ddedfrydu i dalu dirwy.
Llywodraethwyr mwy na dwy ysgol
11.—(1) Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt, ni chaiff unrhyw berson ddal swydd llywodraethwr mewn mwy na dau ffederasiwn ar unrhyw adeg.
(2) At ddibenion is-baragraff (1) nid ystyrir swyddi llywodraethwyr ex officio, swyddi llywodraethwyr y mae’r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd yn gymwys iddynt nac unrhyw benodiad o dan adrannau 6, 7, 13 neu 14 o Ddeddf 2013.
Methiant i gwblhau hyfforddiant gofynnol
12.—(1) Mae llywodraethwr sydd wedi parhau i fod wedi ei atal o’i swydd, yn rhinwedd rheoliad 4 neu 5 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”), am gyfnod di-dor o 6 mis, ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben, wedi anghymhwyso rhag dal swydd fel llywodraethwr unrhyw ysgol.
(2) Nid yw llywodraethwr sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn llywodraethwr ysgol o dan is-baragraff (1) yn gymwys i gael ei ethol, ei enwebu na’i benodi’n llywodraethwr unrhyw gategori o unrhyw ysgol hyd nes y bydd y llywodraethwr hwnnw wedi cwblhau’r hyfforddiant gofynnol yn rhinwedd rheoliad 4 neu 5 o Reoliadau 2013.
Gwrthod gwneud cais am dystysgrif cofnodion troseddol
13. Anghymhwysir person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd llywodraethwr ar unrhyw adeg pan fydd y person hwnnw yn gwrthod cais gan y corff llywodraethu i wneud cais o dan adran 113B o Ddeddf yr Heddlu 1997() am dystysgrif cofnodion troseddol.
Hysbysu’r clerc
14. Os yw person—
(a)wedi ei anghymhwyso rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr ffederasiwn yn rhinwedd unrhyw un o baragraffau 6 i 11; a
(b)yn llywodraethwr neu os bwriedir i’r person hwnnw fod yn llywodraethwr;
rhaid i’r person hwnnw hysbysu clerc y corff llywodraethu o’r ffaith honno.
Rheoliad 47
ATODLEN 8Addasu’r Rheoliadau Staffio
1. Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (7) mewnosoder y paragraff canlynol—
“(8) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)mae unrhyw gyfeiriad at bennaeth neu ddirprwy bennaeth ysgol i’w ddehongli fel cyfeiriad at bennaeth neu ddirprwy bennaeth ffederasiwn neu ysgol ffederal; a
(b)pan gyfeirir at yr awdurdod a phan fo ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan fwy nag un awdurdod, mae’r cyfeiriad i’w ddehongli fel cyfeiriad at bob un.”.
2. Yn rheoliad 4 yn lle paragraff (1), rhodder y canlynol—
“(1) Rhaid i gorff llywodraethu ac awdurdod arfer eu priod swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn ac unrhyw ddeddfiad arall gyda golwg ar sicrhau y cyflogir, neu y cymerir ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag o dan gontractau cyflogaeth, staff sy’n addas ac yn ddigonol o ran eu niferoedd i sicrhau y darperir addysg sy’n briodol ar gyfer oedrannau, galluoedd, cymwyseddau ac anghenion y disgyblion gan roi sylw i unrhyw drefniadau ar gyfer defnyddio gwasanaethau’r staff a gyflogir neu y cymerir ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal o dan sylw.”.
3. Yn rheoliad 6(1)(a) ar ôl “pennaeth” gosoder “perthnasol”.
4. Yn rheoliadau 7(1), (2)(a) i (c) a (4)(c), 24A(2) a (5), 27(1) a (3), 29(1) a (4), a 32(1) yn lle “yr ysgol” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.
5. Yn rheoliad 7(3), yn lle “staff yr ysgol” rhodder “staff y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.
6. Yn rheoliad 7(4)(a), yn lle “yr ysgol” rhodder “y ffederasiwn”.
7. Yn rheoliad 7(4)(b) ac (ch), yn lle “ysgol” rhodder “ysgol ffederal” .
8. Yn rheoliadau 9 ac 20 ar ôl “Mae’r Rhan hon yn gymwys i” mewnosoder “ysgolion ffederal sy’n”.
9. Yn rheoliadau 9A(3), 9B a 20A(3) yn lle “ysgol” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “ffederasiwn neu ysgol ffederal”.
10. Yn rheoliad 10(11) yn lle “weithio yn yr ysgol” rhodder “weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.
11. Yn rheoliadau 12(1), 12(4), 12(9)(b), 12(15), 15A(1), (2) a (5), 17(1) i (3), (8) ac (11), 26(1), (5), (10)(b) ac (15) yn lle “yr ysgol” ym mhob man lle y mae’n digwydd rhodder “y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.
12. Yn rheoliadau 15A(4), 18(3) a 24A(4) yn lle “gweithio yn yr ysgol”, ym mhob man lle y mae’n digwydd, rhodder “gweithio yn y ffederasiwn neu mewn ysgol ffederal”.
13. Yn rheoliad 16 yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 18—
(a)mae gan y corff llywodraethu a phennaeth y ffederasiwn ill dau bŵer i atal unrhyw berson a gyflogwyd, neu a gymerwyd ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag o dan gontract cyflogaeth, i weithio yn y ffederasiwn; a
(b)mae gan y corff llywodraethu a phennaeth ysgol ffederal ill dau bŵer i atal unrhyw berson a gyflogwyd, neu a gymerwyd ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag o dan gontract cyflogaeth, i weithio yn yr ysgol ffederal honno,
os yw’r corff llywodraethu neu’r pennaeth (yn ôl fel y digwydd) o’r farn bod angen atal y person hwnnw.”.
14. Yn rheoliad 17(4) yn lle “yr ysgol” rhodder “yr ysgol ffederal”.
15. Yn rheoliad 18(1) yn lle “weithio mewn ysgol” rhodder “weithio mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal”.
16. Yn rheoliad 18(3) yn lle “ysgol” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd rhodder “ysgol ffederal”.
17. Yn rheoliadau 18A a 26A yn lle “ysgol” rhodder “ffederasiwn neu ysgol ffederal”.
18. Yn rheoliad 19(1) ar ôl “gynorthwyir” mewnosoder “ffederal”.
19. Yn rheoliad 19(2)(a) ar ôl “ysgol” mewnosoder “ffederal”.
20. Yn rheoliad 19(4) ar ôl “gynorthwyir” mewnosoder “ffederal”.
21. Yn rheoliad 23(1) ar ôl “sy’n” mewnosoder “ysgol ffederal ac yn”.
22. Yn rheoliad 23(5) yn lle “ysgol” rhodder “ysgol ffederal”.
23. Yn rheoliad 24, ar ôl paragraff (8) mewnosoder—
“(8A) Rhaid i’r llywodraethwyr sefydledig a benodwyd mewn cysylltiad ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir ffederal benodol gytuno i unrhyw argymhelliad o dan baragraff (8)(c) mewn cysylltiad â phennaeth yr ysgol honno.”.
24. Yn rheoliad 24A yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Ni chaiff unrhyw berson a gyflenwir gan fusnes cyflogaeth i ffederasiwn neu ysgol ffederal ddechrau gweithio fel athro neu athrawes neu aelod o staff cymorth yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal oni fydd y corff llywodraethu wedi cael—
(a)hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y busnes cyflogaeth ynglŷn â’r person hwnnw—
(i)bod y gwiriadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 15A(6) wedi cael eu gwneud;
(ii)bod cais am dystysgrif gwasanaeth datgelu a gwahardd wedi cael ei wneud, neu fod tystysgrif o’r fath wedi dod i law mewn ymateb i gais a wnaed gan y busnes cyflogaeth hwnnw neu gan fusnes cyflogaeth arall; a
(iii)p’un a oedd yn datgelu, os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif o’r fath cyn bod y person i ddechrau gweithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal, unrhyw fater neu wybodaeth, neu a roddwyd unrhyw wybodaeth i’r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997; a
(b)os cafodd y busnes cyflogaeth dystysgrif gwasanaeth datgelu a gwahardd cyn bod y person i ddechrau gweithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal, a bod honno’n datgelu unrhyw fater neu wybodaeth, neu a roddwyd unrhyw wybodaeth i’r busnes cyflogaeth yn unol ag adran 113B(6) o Ddeddf yr Heddlu 1997, copi o’r dystysgrif.”.
25. Yn rheoliad 28 yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Mae gan gorff llywodraethu a phennaeth—
(a)ffederasiwn, ill dau bŵer i atal unrhyw berson a gyflogwyd, neu a gymerwyd ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag o dan gontract cyflogaeth i weithio yn y ffederasiwn; a
(b)ysgol ffederal, ill dau bŵer i atal unrhyw berson a gyflogwyd i weithio neu a gymerwyd ymlaen rywfodd arall yn hytrach nag o dan gontract cyflogaeth i weithio yn yr ysgol ffederal honno,
os yw’n ofynnol atal y person hwnnw ym marn y corff llywodraethu neu (yn ôl fel y digwydd) y pennaeth.”.
26. Yn rheoliad 32 yn lle paragraff (2), rhodder—
“(2) Mae rheoliadau 16 a 17 yn gymwys mewn perthynas ag atal, diswyddo neu dynnu’n ôl o ffederasiwn neu ysgol ffederal unrhyw aelod o’r staff sydd wedi’i gyflogi gan yr awdurdod, fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag atal, diswyddo neu dynnu’n ôl o ffederasiwn neu ysgol ffederal y mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo neu iddi, berson sydd wedi ei gyflogi i weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal.”.
27. Yn rheoliad 32(3) yn lle “yr ysgol” rhodder “yr ysgol ffederal” ac yn lle “fel pe bai’n ysgol” rhodder “fel pe bai’n ysgol ffederal”.
28. Yn rheoliadau 33(1) a 34(1) ar ôl “gynorthwyir” mewnosoder “sy’n ysgol ffederal”.
29. Yn rheoliad 35 ar ôl “arfaethedig” mewnosoder “sydd i fod yn ysgol ffederal”.
Rheoliad 48
ATODLEN 9Addasu’r Rheoliadau Cynghorau Ysgol
1. Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “ysgol”, yn lle “ysgol a gynhelir” rhodder “ysgol a gynhelir sy’n ysgol ffederal”, ac yn lle “ysgol feithrin a gynhelir” rhodder “ysgol feithrin a gynhelir ac sydd yn ysgol ffederal”.
2. Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “ysgol fabanod”, yn lle “ysgol a gynhelir” rhodder “ysgol a gynhelir sy’n ysgol ffederal”.
3. Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “canolfan adnoddau anghenion addysgol arbennig”, ar ôl “ysgol” mewnosoder “sy’n ysgol ffederal”.
4. Yn rheoliad 3 yn lle paragraff (1) rhodder—
“(1) Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn sefydlu cyngor ysgol, a’i ddiben yw galluogi disgyblion i drafod materion ynglŷn â’u hysgol, eu haddysg ac unrhyw fater arall y maent yn ymboeni amdano neu sydd o ddiddordeb ac i wneud sylwadau arnynt i’r corff llywodraethu ac i bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal.”
5. Yn rheoliad 3(2) yn lle “bennaeth ysgol” rhodder “bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.
6. Yn rheoliad 3(3) yn lle “phennaeth ysgol” rhodder “phennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.
7. Yn rheoliad 3(4) yn lle “phennaeth yr ysgol” rhodder “phennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.
8. Yn rheoliad 4(2) yn lle “pennaeth” rhodder “pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.
9. Yn rheoliad 4(4) yn lle “ysgol a phennaeth unrhyw ysgol” rhodder “a phennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal”.
10. Yn lle rheoliad 7 rhodder—
“(1) Rhaid i bennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal sicrhau bod cyfle gan y cyngor ysgol i enwebu hyd at ddau ddisgybl o flwyddyn 11 i 13 (yn gynhwysol) o’i aelodaeth i fod yn ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt ar y corff llywodraethu.
(2) Rhaid i gorff llywodraethu ffederasiwn dderbyn unrhyw ddisgybl a enwebir yn unol â pharagraff (1), a’i benodi yn ddisgybl-lywodraethwr cyswllt ar gorff llywodraethu’r ffederasiwn, ar yr amod nad yw’r disgybl wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod, yn unol ag Atodlen 10 i Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014”.
Rheoliad 75
ATODLEN 10Cyfyngiadau ar bersonau rhag cymryd rhan yn nhrafodion y corff llywodraethu neu ei bwyllgorau
Buddiannau ariannol
1.—(1) At ddibenion rheoliad 75(2), mae buddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall yn cynnwys achos—
(a)pan fo person perthnasol wedi ei enwebu neu ei benodi i swydd gan berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu
(b)pan fo person perthnasol yn bartner busnes i berson y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir gwneud y contract ag ef; neu
(c)pan fo gan berthynas i berson perthnasol (gan gynnwys priod y person hwnnw, ei bartner sifil o fewn ystyr “civil partner” yn Neddf Partneriaethau Sifil 2004() neu rywun sy’n byw gyda’r person hwnnw fel petai’r person hwnnw’n briod neu’n bartner sifil iddo), a’r person hwnnw’n gwybod hynny, fuddiant o’r fath neu y câi ei drin fel petai ganddo fuddiant o’r fath.
(2) At ddibenion rheoliad 75(2) nid yw person perthnasol i’w drin fel petai ganddo fuddiant ariannol mewn unrhyw fater—
(a)ar yr amod nad yw buddiant y person hwnnw yn y mater yn fwy na buddiant cyffredinol y rhai hynny y telir iddynt am weithio yn y ffederasiwn neu ysgol ffederal;
(b)yn unig oherwydd i’r person hwnnw gael ei enwebu neu ei benodi i’r swydd gan unrhyw gorff cyhoeddus, neu ei fod yn aelod o gorff o’r fath, neu’n cael ei gyflogi gan gorff o’r fath; neu
(c)yn unig oherwydd bod y person hwnnw yn aelod o gorfforaeth neu gorff arall os nad oes gan y person hwnnw unrhyw fuddiant ariannol mewn unrhyw warantau o eiddo’r gorfforaeth honno neu gorff arall.
(3) Ni rwystrir llywodraethwr, oherwydd buddiant ariannol y person hwnnw yn y mater, rhag ystyried a phleidleisio ynghylch cynigion i’r corff llywodraethu gymryd yswiriant i ddiogelu’r aelodau rhag rhwymedigaethau yr ânt iddynt sy’n deillio o’u swydd, ac ni rwystrir y corff llywodraethu, oherwydd buddiannau ariannol ei aelodau, rhag sicrhau yswiriant o’r fath a thalu’r premiymau.
(4) Ni rwystrir llywodraethwr rhag ystyried neu bleidleisio ynghylch unrhyw gynnig sy’n ymwneud â lwfansau sydd i’w talu’n unol â Rheoliadau Lwfansau Llywodraethwyr (Cymru) 2005() oherwydd bod gan y person hwnnw fuddiant mewn taliadau o lwfansau o’r fath i aelodau’r corff llywodraethu yn gyffredinol, ond rhaid i aelod o gorff llywodraethu neu o unrhyw bwyllgor o gorff llywodraethu fynd allan o gyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir a ddylai’r person hwnnw gael lwfans arbennig, swm unrhyw daliad iddo neu unrhyw gwestiwn ynghylch lwfans sydd wedi ei dalu i’r llywodraethwr hwnnw, a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar y mater.
Swydd llywodraethwr, cadeirydd, is-gadeirydd neu glerc
2.—(1) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol yn bresennol mewn cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal ac un o’r canlynol yn fater i’w ystyried—
(a)penodiad, ailbenodiad, ataliad neu ddiswyddiad y person hwnnw ei hun fel aelod o’r corff llywodraethu neu bwyllgor;
(b)penodiad neu ddiswyddiad y person hwnnw ei hun fel clerc, neu gadeirydd neu is-gadeirydd y corff llywodraethu neu fel clerc neu gadeirydd pwyllgor;
(c)os yw’r person hwnnw yn noddwr-lywodraethwr, unrhyw benderfyniad o dan baragraff 2 o Atodlen 5 ynghylch y ddarpariaeth yn yr offeryn llywodraethu ar gyfer noddwr-lywodraethwyr.
(2) Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid trin buddiannau’r person perthnasol at ddibenion rheoliad 75(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau’r corff llywodraethu.
Talu neu arfarnu personau sy’n gweithio yn yr ysgol
3.—(1) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo person perthnasol, y telir iddo am weithio mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal, ac eithrio fel pennaeth, yn bresennol mewn cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal pan fo tâl neu werthuso perfformiad unrhyw berson penodol a gyflogir i weithio yn y ffederasiwn neu’r ysgol ffederal yn fater sydd o dan ystyriaeth.
(2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys pan fo pennaeth ffederasiwn neu ysgol ffederal yn bresennol mewn cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal pan fo tâl neu werthuso perfformiad y person hwnnw ei hunan yn fater sydd o dan ystyriaeth.
(3) Mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (1) neu (2) yn gymwys, rhaid trin buddiannau’r person perthnasol at ddibenion rheoliad 75(2) fel pe baent yn gwrthdaro â buddiannau’r corff llywodraethu.
Penodi staff
4. Pan fo person perthnasol a gyflogir i weithio mewn ffederasiwn neu ysgol ffederal yn bresennol mewn cyfarfod o’r ffederasiwn neu ysgol ffederal a phenodi olynydd i’r person hwnnw yn fater dan ystyriaeth, rhaid i’r person hwnnw adael y cyfarfod pan ystyrir neu pan drafodir y mater dan sylw, a rhaid iddo beidio â phleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn cysylltiad â’r mater hwnnw.
Personau sy’n aelodau o fwy nag un corff llywodraethu
5. Nid yw’r ffaith bod person yn llywodraethwr neu’n aelod o bwyllgor corff llywodraethu mewn mwy nag un ffederasiwn i’w ystyried, o dan unrhyw amgylchiadau, yn achos o wrthdaro rhwng buddiannau at ddibenion y Rheoliadau hyn.