Search Legislation

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae “athro neu athrawes ysgol” (“school teacher”) i’w ddehongli yn unol â dehongliad “school teacher” yn adran 122 o Ddeddf 2002;

mae i “awdurdod esgobaethol priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate diocesan authority” yn adran 142(1) a (4) o Ddeddf 1998;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r awdurdod lleol yng Nghymru sydd yn cynnal ysgol a gynhelir, neu sydd i gynnal ysgol arfaethedig; a phan fo ffederasiwn yn cynnwys ysgolion a gynhelir gan wahanol awdurdodau lleol yng Nghymru, ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”) yw’r awdurdod lleol sydd yn cynnal ysgol a gynhelir, neu sydd i gynnal ysgol arfaethedig;

ystyr “corff crefyddol priodol” (“appropriate religious body”) mewn perthynas ag ysgol a ddynodir o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998 yn un sydd o gymeriad crefyddol ac nad yw’n un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru na’r Eglwys Gatholig Rufeinig, yw’r corff y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn briodol mewn perthynas â’r grefydd neu’r enwad crefyddol y perthyn yr ysgol iddi neu iddo;

ystyr “corff llywodraethu” (“governing body”) yw corff llywodraethu a ymgorfforwyd o dan adran 19(1) o Ddeddf 2002 neu o dan y Rheoliadau hyn fel y bo’n briodol;

ystyr “cyngor ysgol” (“school council”) yw cyngor a sefydlwyd yn unol â rheoliad 3 o’r Rheoliadau Cynghorau Ysgol;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(1);

ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998((2));

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;

ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(3);

mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;

ystyr “diwrnod” (“day”) yw diwrnod ysgol fel y’i diffinnir gan adran 579 o Ddeddf 1996;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, nac yn ddydd Sul nac yn ddiwrnod sydd yn ŵyl banc o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4);

ystyr “y dyddiad ffedereiddio” (“the federation date”) yw’r dyddiad pan fo cyrff llywodraethu yn ffedereiddio;

ystyr “ffederasiwn awdurdod lleol” (“local authority federation”) yw ffederasiwn sy’n cynnwys o leiaf un ysgol ffederal sydd wedi ei ffedereiddio yn rhinwedd adran 11 o Fesur 2011 (cynigion gan awdurdodau lleol i ffedereiddio ysgolion) a chan y Rheoliadau hyn;

ystyr “Mesur 2011” (“the 2011 Measure”) yw Mesur Addysg (Cymru) 2011(5);

ystyr “pennaeth dros dro” (“acting head teacher”) yw person a benodir i gyflawni swyddogaethau pennaeth y ffederasiwn neu ysgol ffederal hyd nes penodir pennaeth neu yn absenoldeb y pennaeth;

ystyr “y Rheoliadau Cynghorau Ysgol” (“the School Council Regulations”) yw Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005(6);

ystyr “y Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir” (“the Government of Maintained Schools Regulations”) yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005(7);

ystyr “y Rheoliadau Staffio” (“the Staffing Regulations”) yw Rheoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006(8);

ystyr “y Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd” (“the New Maintained Schools Regulations”) yw Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd (Cymru) 2005(9);

ystyr “swyddogaethau cynigion trefniadaeth ysgolion” (“school organisation proposal functions”) yw’r swyddogaethau yn adrannau 42, 43, 45, 53 a 80 o Ddeddf 2013;

mae “ysgol fach” (“small school”) i’w dehongli yn unol â Gorchymyn a wneir o dan adran 15 o Fesur 2011; ac

mae i “ysgol newydd” (“new school”) yr un ystyr ag yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau Ysgolion a Gynhelir Newydd.

(2Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at—

(a)corff llywodraethu neu lywodraethwyr ysgol i’w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr y ffederasiwn; a

(b)offeryn llywodraethu ysgol i’w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at offeryn llywodraethu’r ffederasiwn; ac

(c)pennaeth yn cynnwys cyfeiriad at bennaeth dros dro.

(7)

O.S. 2005/2914 (Cy.211) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3200 (Cy.236)); a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2006 (O.S. 2006/873 (Cy.81)) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944 (Cy.80)), a chan Reoliadau Addysg (Diwygiadau Amrywiol ynghylch Diogelu Plant) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/2544 (Cy.206)), a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1142 (Cy.101)), a chan Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2124 (Cy.207)).

(8)

O.S. 2006/873 (Cy.81) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/944 (Cy.80)) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2009 (O.S. 2009/2708 (Cy.226)) a chan O.S. 2009/2544 (Cy.206) a chan Reoliadau Staffio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio Rhif 2) 2009 (O.S. 2009/3161 (Cy.275)) a chan O.S. 2010/1142 (Cy.101).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources