- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
8 Mai 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
12 Mai 2014
Yn dod i rym
1 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 122(1) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) a pharagraff 6B(1)(a) o Atodlen 26 i’r Ddeddf honno, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 77(2) a (9), 80(4), 150 a 152 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(2), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 28(1) ac (8), 39(2)(a), 42(2)(a), 50(4) ac (8), 55(4), 56(3), 57(9) a (10) a 120(2) o Ddeddf Addysg 2005(3) a pharagraff 6(b) o Atodlen 4 a pharagraffau 2(1) a 3(1) o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014 a deuant i rym ar 1 Medi 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999(4) yn rheoliad 4, yn lle paragraff (1)(b) rhodder—
“(b)in all other cases at least once within a six year period beginning on 1 September 2014 and ending on 31 August 2020 and at least once within every subsequent six year period beginning on the expiry of the previous six year period.”.
3.—(1) Mae Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn lle paragraff (1)(b) rhodder—
“(b)ym mhob achos arall o leiaf unwaith o fewn cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2020 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol o chwe blynedd i ben.”.
(3) Yn rheoliad 4 yn lle “50” rhodder “20”.
4.—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6, yn lle paragraff (1)(b), rhodder—
“(b)ym mhob achos arall o leiaf unwaith o fewn cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2020 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol o chwe blynedd i ben.”.
(3) Ym mharagraff (c) o reoliad 8 hepgorer “o leiaf dair wythnos ymlaen llaw”.
(4) Ym mharagraff (1) o reoliad 10 yn lle “ddeugain a phump” rhodder “20”.
(5) Yn lle rheoliad 14 rhodder—
Pan fo’n ofynnol gan adran 50(1) i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sicrhau bod addysg enwadol a roddir i unrhyw ddisgybl a chynnwys addoli ar y cyd yn yr ysgol yn cael eu harolygu, rhaid iddo sicrhau bod yr arolygiad yn cael ei gynnal—
(a)yn achos ysgol nad oedd wedi’i harolygu o’r blaen, o fewn chwe blynedd i’r dyddiad y derbyniwyd disgyblion gyntaf i’r ysgol; a
(b)ym mhob achos arall, o leiaf unwaith o fewn cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2020 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol o chwe blynedd i ben.”.
(6) Ym mharagraff (4) o reoliad 16 yn lle “ddeugain a phump” rhodder “20”.
5.—(1) Mae Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 yn lle paragraff (1), rhodder—
“(1) Ac eithrio pan fo rheoliad 3 yn gymwys, rhaid i’r Prif Arolygydd arolygu pob darparydd gwasanaeth o dan adran 55 o Ddeddf 2005 a phob darparydd perthnasol o dan adran 56 o Ddeddf 2005 o leiaf unwaith o fewn cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014 ac yn dod i ben ar 31 Awst 2020 ac o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd wedi hynny yn dechrau pan ddaw’r cyfnod blaenorol o chwe blynedd i ben.”.
(3) Yn rheoliad 7, yn lle “hanner cant” rhodder “20”.
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru
8 Mai 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—
(a)Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999,
(b)Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001,
(c)Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006, a
(d)Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006,
er mwyn ei gwneud yn ofynnol i Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru/Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales (“y Prif Arolygydd”) sicrhau bod arolygiadau’n cael eu cynnal o leiaf unwaith o fewn pob cyfnod o chwe blynedd yn dechrau ar 1 Medi 2014. Bydd y diwygiadau yn rhoi mwy o le i’r Prif Arolygydd amrywio’r dyddiad y caiff ysgol neu sefydliad addysg ei arolygu er mwyn gwneud arolygiadau yn llai rhagweladwy. Bydd hyn yn caniatáu i’r Prif Arolygydd arolygu’r ysgolion hynny a all fod yn achosi pryder yn fwy aml. Mewn cyferbyniad os nad oes achos pryder o’r fath caniateir i’r ysgol gael ei harolygu’n llai aml.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach—
(a)Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001,
(b)Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006, ac
(c)Rheoliadau Arolygu’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Gwasanaethau Cysylltiedig (Cymru) 2006,
er mwyn ei gwneud yn ofynnol i’r cynllun gweithredu ar ôl arolygiad gael ei lunio o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith ar ôl y dyddiad y daw’r adroddiad arolygu i law’r awdurdod priodol ar gyfer yr ysgol (y corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol), neu’r perchennog (yn ôl y digwydd).
Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i ysgol roi o leiaf dair wythnos o rybudd am gyfarfod rhieni a gynhelir yn unol â’i dyletswydd ym mharagraff 6(b) o Atodlen 4 i Ddeddf Addysg 2005. Mae’r Rheoliadau hyn yn dileu’r gofyniad bod rhaid rhoi rhybudd o leiaf dair wythnos ymlaen llaw.
1998 p. 31 Diwygiwyd adran 122(1) gan baragraff 33(1) a (3) o Atodlen 2 i Ddeddf Gofal Plant 2006 (p. 21), a rhoddwyd paragraff 6B yn lle paragraff 6, fel y’i deddfwyd yn wreiddiol, o Atodlen 26 gan baragraffau 8 a 12 o Ran 2 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 2005 (p. 18). Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 138 ac Atodlen 26 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
2000 p. 21. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
2005 p. 18. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
O.S. 1999/1441 fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1743 (Cy. 182)), Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/2913 (Cy. 210)) a Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1436 (Cy. 127)).
O.S. 2001/2501 (Cy. 204) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Diwygio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/783 (Cy. 80)), Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu’r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238 (Cy. 243)) a Rheoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1436 (Cy. 127)).
O.S. 2006/1714 (Cy. 176) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1436 (Cy. 127)).
O.S. 2006/3103 (Cy. 286) fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Diwygiadau ynglŷn â’r Ysbeidiau rhwng Arolygiadau Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1436 (Cy. 127)).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys