Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 1792 (Cy. 185)

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014

Gwnaed

6 Gorffennaf 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Gorffennaf 2014

Yn dod i rym

2 Awst 2014

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn, â chydsyniad y Trysorlys, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 56(1) a (2) o Ddeddf Cyllid 1973(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2).

Enwi, cymhwyso, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2014. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 2 Awst 2014.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

(a)ystyr “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned(3); ac

(b)ystyr “y GIP” (“the PHO”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(4).

(3Mae i’r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir eu cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i’r cyfystyron Saesneg yn y Gyfarwyddeb.

Ffioedd arolygu mewnforio

2.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys o ran llwyth o’r canlynol, neu ran o lwyth o’r fath sy’n cynnwys—

(a)planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 a restrir yn Rhan B o Atodiad V i’r Gyfarwyddeb, neu

(b)hadau Solanaceae, pa un a restrir hwy ai peidio yn y Rhan honno,

a ddygir i mewn i Gymru o wlad neu diriogaeth ac eithrio un sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd neu sy’n destun cytundeb a wnaed o dan erthygl 12(6) o’r GIP.

(2Ar yr adeg y mewnforir llwyth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru—

(a)y ffi a bennir—

(i)yng ngholofn 3 o Atodlen 1 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno, neu mewn perthynas â rhan o lwyth o’r fath, ac eithrio llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion, neu ran o lwyth o’r fath, y mae paragraff (ii) o’r is-baragraff hwn yn gymwys iddo, a

(ii)yng ngholofn 4 o Atodlen 2 mewn perthynas â llwyth o blanhigyn neu gynnyrch planhigion a restrir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno ac sy’n tarddu o wlad a restrir yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno, neu mewn perthynas â rhan o lwyth o’r fath; a

(b)y ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 3 am wiriad dogfennol a gwiriad adnabod.

(3Ond, pan gynhelir gwiriad iechyd planhigion ar lwyth y tu allan i oriau gwaith yn ystod y dydd, a hynny ar gais y mewnforiwr neu unrhyw berson arall sy’n gyfrifol am y llwyth, y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2)(a) mewn perthynas â’r llwyth hwnnw yw—

(a)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o Atodlen 1 i’r graddau (os o gwbl) y mae’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(i) yn gymwys iddo; neu

(b)y ffi a bennir yng ngholofn 5 o Atodlen 2 i’r graddau (os o gwbl) y mae’r llwyth yn un y mae paragraff (2)(a)(ii) yn gymwys iddo.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “oriau gwaith yn ystod y dydd” (“daytime working hours”) yw unrhyw amser rhwng yr oriau 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(5).

Tatws hadyd: ffioedd

3.—(1Mae’r ffioedd a bennir yn Atodlen 4 yn daladwy mewn perthynas â’r swyddogaethau a bennir yng ngholofn 1 o’r Atodlen honno, sy’n ymwneud â chais am y canlynol—

(a)ardystiad o datws hadyd yn unol â rheoliad 9 o Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006(6);

(b)awdurdodiad i farchnata tatws hadyd yn unol â rheoliad 8 o’r Rheoliadau hynny.

(2Mae’r ffi sy’n daladwy mewn perthynas â swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir yng ngholofn 3 o Atodlen 4 mewn perthynas â’r swyddogaeth honno.

(3Rhaid talu’r ffi mewn perthynas â swyddogaeth a bennir yn Atodlen 4 i Weinidogion Cymru neu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i gyflawni’r swyddogaeth honno o dan Reoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2006 ar ran Gweinidogion Cymru.

Ffioedd am drwyddedau iechyd planhigion

4.—(1Mae’r ffioedd sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn ymwneud â thrwydded a ddisgrifir yn erthygl 40 neu 41 o’r GIP.

(2Mewn perthynas â chais neu arolygiad o fath a ddisgrifir yng ngholofn 2 o Atodlen 5, rhaid i berson dalu i Weinidogion Cymru y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r math hwnnw o gais neu arolygiad.

Ffioedd am awdurdodi pasbortau planhigion

5.—(1Rhaid talu’r ffi a bennir ym mharagraff (2) i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag arolygiad (gan gynnwys arolygiad o gofnodion busnes) a gyflawnir mewn cysylltiad â’r canlynol—

(a)cais am awdurdod; neu

(b)sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion a osodir ar ddeiliad awdurdod.

(2Y ffi yw £46.10(7) am bob chwarter awr neu ran o chwarter awr (gan gynnwys yr amser a dreulir ar arolygu, ar deithio ac ar weinyddu cysylltiedig), yn ddarostyngedig i leiafswm ffi o £92.19(8) am bob ymweliad.

(3Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir o dan erthygl 8 o Orchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006(9) neu erthygl 29 o’r GIP.

Tatws sy’n tarddu o’r Aifft: ffioedd

6.—(1Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o’r Aifft, er mwyn canfod, at ddibenion paragraff 5 o’r Atodiad i’r Penderfyniad, a yw’r tatws hynny wedi eu heintio â Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ffi o £117.36 mewn perthynas â phob lot y cymerir sampl ohoni.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i weithredu mesurau argyfwng dros dro yn erbyn lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. mewn cysylltiad â’r Aifft(10).

Tatws sy’n tarddu o Libanus: ffioedd

7.—(1Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o Libanus, er mwyn canfod, at ddibenion Erthygl 4 o’r Penderfyniad, a yw’r tatws hynny wedi eu heintio â Clavibacter michiganensis isrywogaeth Sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu i Weinidogion Cymru ffi o £117.36 mewn perthynas â phob lot y cymerir sampl ohoni.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “y Penderfyniad” (“the Decision”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/413/EU sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymu darpariaethau penodol yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn perthynas â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa yn Libanus(11).

Ffioedd heb eu talu

8.—(1Pan fo unrhyw swm sy’n ddyledus fel neu ar gyfrif unrhyw ffi neu ran o ffi sy’n daladwy gan fasnachwr planhigion cofrestredig o dan y Rheoliadau hyn heb ei dalu, caniateir i Weinidogion Cymru—

(a)adennill y swm fel dyled sifil;

(b)ar ôl rhoi un mis o rybudd ysgrifenedig, atal cofrestriad y masnachwr dros dro tan fod y swm wedi ei dalu.

(2Yn y rheoliad hwn mae i “cofrestredig”, “masnachwr planhigion” a “cofrestriad” yr ystyron a roddir i “registered”, “plant trader” a “registration” yn eu tro gan erthygl 2(1) o’r GIP.

Dirymu

9.  Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2013(12) wedi eu dirymu.

Alun Davies

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

6 Gorffennaf 2014

Rheoliad 2(1)(a), (2)(a)(i) a (3)(a)

ATODLEN 1Ffioedd Arolygu Mewnforio

Colofn 1

Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall

Colofn 2

Swm

Colofn 3

Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith yn ystod

y dydd) (£)

Colofn 4

Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith heb fod

yn ystod y dydd) (£)

Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion ifanc mefus neu lysiauhyd at 10,000 o ran nifer47.8771.80
am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny1.91, hyd at uchafswm o 382.922.87, hyd at uchafswm o 574.38
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi’u torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio hadau)hyd at 1,000 o ran nifer47.8771.80
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny1.17, hyd at uchafswm o 382.921.76, hyd at uchafswm o 574.38
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (ac eithrio cloron tatws) a fwriedir ar gyfer eu plannuhyd at 200 kg47.8771.80
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny0.44, hyd at uchafswm o 382.920.65, hyd at uchafswm o 574.38
Hadau, meithriniadau meinwehyd at 100 kg20.5130.77
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny0.47, hyd at uchafswm o 382.920.70, hyd at uchafswm o 574.38
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen honhyd at 5,000 o ran nifer47.8771.80
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny0.47, hyd at uchafswm o 382.920.70, hyd at uchafswm o 574.38
Blodau wedi’u torrihyd at 20,000 o ran nifer47.8771.80
am bob 1,000 ychwanegol, neu ran o hynny0.37, hyd at uchafswm o 382.920.55, hyd at uchafswm o 574.38
Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig wedi’u torri)hyd at 100 kg47.8771.80
am bob 100 kg ychwanegol, neu ran o hynny4.76, hyd at uchafswm o 382.927.14, hyd at uchafswm o 574.38
Coed Nadolig wedi’u torrihyd at 1,000 o ran nifer47.8771.80
am bob 100 ychwanegol, neu ran o hynny4.76, hyd at uchafswm o 382.927.14, hyd at uchafswm o 574.38
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deilioghyd at 100 kg47.8771.80
am bob 10 kg ychwanegol, neu ran o hynny4.76, hyd at uchafswm o 382.927.14, hyd at uchafswm o 574.38
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog)hyd at 25,000 kg47.8771.80
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny1.912.87
Cloron tatwshyd at 25,000 kg143.60 (am bob lot)215.39 (am bob lot)
am bob 25,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny143.60 (am bob lot)215.39 (am bob lot)
Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisglhyd at 25,000 kg47.8771.80
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny1.91, hyd at uchafswm o 382.922.87, hyd at uchafswm o 574.38
Grawnhyd at 25,000 kg47.8771.80
am bob 1,000 kg ychwanegol, neu ran o hynny1.91, hyd at uchafswm o 1914.602.87, hyd at uchafswm o 2871.90
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed fforestyddam bob llwyth47.8771.80

Rheoliad 2(2)(a)(ii) a (3)(b)

ATODLEN 2Ffioedd Arolygu Mewnforio: Cyfraddau Gostyngol

Colofn 1

Genws

Colofn 2

Swm

Colofn 3

Gwlad tarddiad

Colofn 4

Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith yn ystod y dydd) (£)

Colofn 5

Ffi am bob llwyth neu ran berthnasol o lwyth (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd) (£)

Blodau wedi’u torri
Dianthushyd at 20,000 o ran niferColombia1.432.15
Ecuador7.1810.77
Kenya2.393.59
Twrci11.9617.95
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynnyColombia0.01 hyd at uchafswm o 11.480.01, hyd at uchafswm o 17.23
Ecuador0.05, hyd at uchafswm o 57.430.08, hyd at uchafswm o 86.15
Kenya0.02, hyd at uchafswm o 19.140.03, hyd at uchafswm o 28.71
Twrci0.09, hyd at uchafswm o 95.730.13, hyd at uchafswm o 143.59
Rosahyd at 20,000 o ran niferColombia1.432.15
Ecuador1.432.15
Ethiopia4.787.18
Kenya2.393.59
Tanzania7.1810.77
Zambia11.9617.95
am bob 1,000 ychwanegol neu ran o hynnyColombia0.01, hyd at uchafswm o 11.480.01, hyd at uchafswm o 17.23
Ecuador0.01 hyd at uchafswm o 11.480.01, hyd at uchafswm o 17.23
Ethiopia0.04, hyd at uchafswm o 38.290.06, hyd at uchafswm o 57.43
Kenya0.02, hyd at uchafswm o 19.140.03, hyd at uchafswm o 28.71
Tanzania0.05, hyd at uchafswm o 57.430.08, hyd at uchafswm o 86.15
Zambia0.09, hyd at uchafswm o 95.730.13, hyd at uchafswm o 143.59
Canghennau gyda deiliant
Phoenixhyd at 100 kgCosta Rica16.7525.13
am bob 100 kg ychwanegol neu ran o hynnyCosta Rica1.66, hyd at uchafswm o 134.022.49, hyd at uchafswm o 201.03
Ffrwythau
Citrushyd at 25,000 kgYr Aifft7.1810.77
Israel4.787.18
Mecsico7.1810.77
Moroco2.393.59
Periw7.1810.77
Tunisia11.9617.95
Twrci1.432.15
Uruguay7.1810.77
UDA7.1810.77
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyYr Aifft0.280.43
Israel0.190.28
Mecsico0.280.43
Moroco0.090.14
Periw0.280.43
Tunisia0.470.71
Twrci0.050.08
Uruguay0.280.43
UDA0.280.43
Malushyd at 25,000 kgAriannin11.9617.95
Brasil11.9617.95
Chile2.393.59
Seland Newydd4.787.18
De Affrica2.393.59
UDA23.9335.90
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyAriannin0.470.71
Brasil0.470.71
Chile0.090.14
Seland Newydd0.190.28
De Affrica0.090.14
UDA0.951.43
Mangiferahyd at 25,000 kgBrasil23.9335.90
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyBrasil0.951.43
Passiflorahyd at 25,000 kgColombia4.787.18
Kenya4.787.18
De Affrica16.7525.13
Zimbabwe35.9053.85
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyColombia0.190.28
Kenya0.190.28
De Affrica0.661.00
Zimbabwe1.432.15
Prunushyd at 25,000 kgAriannin23.9335.90
Chile4.787.18
Moroco23.9335.90
De Affrica4.787.18
Twrci7.1810.77
UDA7.1810.77
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyAriannin0.951.43
Chile0.190.28
Moroco0.951.43
De Affrica0.190.28
Twrci0.280.43
UDA0.280.43
Pyrushyd at 25,000 kgAriannin4.787.18
Chile11.9617.95
Tsieina23.9335.90
De Affrica4.787.18
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyAriannin0.190.28
Chile0.470.71
Tsieina0.951.43
De Affrica0.190.28
Vacciniumhyd at 25,000 kgAriannin11.9617.95
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyAriannin0.470.71
Llysiau
Capsicumhyd at 25,000 kgIsrael2.393.59
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyIsrael0.090.14
Momordicahyd at 25,000 kgSurinam16.7525.13
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnySurinam0.661.00
Solanum melongenahyd at 25,000 kgKenya4.787.18
Twrci4.787.18
am bob 1,000 kg ychwanegol neu ran o hynnyKenya0.190.28
Twrci0.190.28

Rheoliad 2(2)(b)

ATODLEN 3Ffioedd Arolygu Mewnforio: Gwiriadau Dogfennol a Gwiriadau Adnabod

Colofn 1

Gwiriad

Colofn 2

Swm

Colofn 3

Ffi (£)

Dogfennolam bob llwyth5.71
Adnabodam bob llwyth hyd at faint llwyth lori, llwyth wagen reilffordd neu lwyth cynhwysydd o faint cymharol5.71
am bob llwyth sy’n fwy na’r maint uchod11.42

Rheoliad 3

ATODLEN 4Tatws Hadyd: Ffioedd

Colofn 1

Swyddogaeth

Colofn 2

Ffi(1) (£)

Colofn 3

Isafswm ffi (£)

(1)

Mae’r cyfraddau, a restrir yn y golofn hon ac yng ngholofn 3, sydd wedi eu marcio â seren yn gyfraddau fesul awr neu ran o awr, a’r cyfraddau nad ydynt wedi eu marcio felly yn gyfraddau fesul hanner hectar

Arolygu cnydau sy’n tyfu a darparu labeli a seliau mewn perthynas â cheisiadau
Ardystio fel tatws hadyd cynsylfaenol129.84*d/g
Ardystio fel tatws hadyd sylfaenol a ddosberthir fel:super elite 1, super elite 2 neu super elite 364.92129.84
elite 1, elite 2 neu elite 364.92129.84
A61.71123.43
Ardystio fel tatws hadyd ardystiedig56.10112.20
Awdurdodiad i farchnata tatws hadyd129.84*d/g
Arolygu cloron a gynaeafwyd
Hyd at ddau arolygiad19.2438.47
Trydydd arolygiad ac arolygiadau dilynol129.84*d/g

Rheoliad 4(2)

ATODLEN 5Ffioedd am Drwyddedau Iechyd Planhigion

Colofn 1

Eitem

Colofn 2

Math o gais neu arolygiad

Colofn 3

Ffi (£)

1Cais am drwydded ac eithrio trwydded sy’n dod o fewn eitem 2 neu 3 neu 5809.83
2Cais am drwydded mewn perthynas â phridd neu gyfrwng tyfu arall ar gyfer ei ddadansoddi584.14
3Cais am drwydded at ddibenion gwyddonol neu ddibenion treialu, sy’n ymwneud â 5 neu ragor o fathau o bethau809.83, plws 31.86 am bob math o beth dros ben y 5
4Cais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau, pan fo asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol265.21
5Cais am drwydded i awdurdodi cyflwyno tatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar neu Bekaa yn Libanus31.86
6Cais am adnewyddu trwydded heb newidiadau, neu gais am adnewyddu neu amrywio trwydded gyda newidiadau bach yn unig, pan nad yw asesiad gwyddonol neu dechnegol yn ofynnol31.86
7Arolygu a gweithgareddau cysylltiedig (gan gynnwys amser teithio ac amser swyddfa) i fonitro cydymffurfiaeth â thelerau ac amodau trwydded.46.11 am bob awr neu ran o awr

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn pennu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru ym maes iechyd planhigion. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/1700 (Cy. 164)) (“Rheoliadau 2013”) (rheoliad 9).

Mae’r ffioedd yn daladwy mewn perthynas ag arolygiadau penodedig a gweithrediadau eraill a gyflawnir yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau i amddiffyn rhag dwyn i mewn i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion, a rhag i’r organebau hynny ymledu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1).

Pennir y ffioedd am wiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion mewn perthynas â mewnforion penodol o blanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill o drydydd gwledydd (rheoliad 2 ac Atodlenni 1, 2 a 3) yn unol â’r gofyniad yn Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC.

Lefelau’r ffioedd y darperir ar eu cyfer yn y Rheoliadau hyn yw’r rhan olaf o symudiad fesul cam, dros gyfnod o dair blynedd, tuag at ffioedd sy’n adennill y gost lawn. Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gostyngiad a chynnydd cyfartalog ar y ffioedd a bennwyd yn Rheoliadau 2013, ac ar gyfer eu cadw heb eu newid, fel a ganlyn:

(1gostwng ffioedd arolygu mewnforio (heblaw gwiriad dogfennol a gwiriad adnabod) yn ôl 3.5% (rheoliad 2 ac Atodlenni 1 a 2);

(2cynyddu ffioedd gwiriad dogfennol a gwiriad adnabod wrth fewnforio yn ôl 24.5% (rheoliad 2 ac Atodlen 3);

(3cadw ffioedd ynglŷn ag arolygu tatws hadyd heb eu newid (rheoliad 3 ac Atodlen 4);

(4cynyddu ffioedd trwyddedu yn ôl 2.2% (rheoliad 4 ac Atodlen 5);

(5cynyddu ffioedd am wasanaethau pasbortau planhigion yn ôl 21.2% (rheoliad 5); a

(6cadw ffioedd am arolygu tatws sy’n tarddu o’r Aifft heb eu newid (rheoliad 6).

Cyflwynir ffioedd newydd ynglŷn â thatws sy’n tarddu o Libanus fel a ganlyn: £31.86 am gais am drwydded (Atodlen 5, eitem 5) a £117.39 am arolygu (rheoliad 7).

Mae rheoliad 8 yn nodi canlyniadau peidio â thalu unrhyw ffi.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiadau effaith rheoleiddiol wedi eu paratoi (ar gyfer mwyafrif y ffioedd a bennir) o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. O ran ffioedd mewn perthynas â thatws sy’n tarddu o Libanus, nid ystyriwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copïau o’r asesiadau effaith rheoleiddiol oddi wrth y Tîm Amgylchedd Naturiol ac Amaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

1973 p. 51. Diwygiwyd is-adran (1) gan O.S. 2011/1043, erthygl 6(1)(e).

(2)

Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p. 32.

(3)

OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/19/EU (OJ Rhif L 38, 07.02.2014, t. 30).

(5)

1971 p. 80; gweler adran 1 ac Atodlen 1.

(6)

O.S. 2006/2929 (Cy. 264), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

Y ffi gyfatebol a oedd yn daladwy o dan reoliad 5(2) o Reoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2013 (O.S. 2013/1700 (Cy. 164)) cyn i’r Rheoliadau hyn gychwyn oedd £38.05.

(8)

Y ffi isaf gyfatebol a oedd yn daladwy o dan reoliad 5(2) o Reoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Cymru) 2013 cyn i’r Rheoliadau hyn gychwyn oedd £76.10.

(9)

O.S. 2006/1344 (Cy. 134), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

OJ Rhif L 319, 2.12.2011, t. 112.

(11)

OJ Rhif L 205, 1.8.2013, t .13.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill