- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
23 Gorffennaf 2014
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
28 Gorffennaf 2014
Yn dod i rym
1 Medi 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 408 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny yr oedd ymgynghori â hwy yn ymddangos yn ddymunol i Weinidogion Cymru yn unol ag adran 408(5) o Ddeddf Addysg 1996, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) (Diwygio) 2014 a deuant i rym ar 1 Medi 2014.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
“ystyr “Gorchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013” (“Educational Programmes and Programmes of Study Order 2013”) yw Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013(4).”
(3) Yn rheoliad 3, yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Rhaid i’r adroddiad gynnwys yr wybodaeth am gyflawniadau addysgol y disgybl neu’r disgybl sy’n oedolyn y trefnir bod yr adroddiad ar gael iddo neu i’w riant a’r wybodaeth sy’n ymwneud â’r disgybl hwnnw a nodir—
(a)ym mharagraff 1 o Ran 1 o’r Atodlen pan fo’r disgybl hwnnw yn y cyfnod sylfaen, yng nghyfnod allweddol dau neu yng nghyfnod allweddol tri;
(b)ym mharagraffau 2, 3 a 4 o Ran 1 o’r Atodlen a Rhan 2 o’r Atodlen, pan fo’r disgybl hwnnw yng nghyfnod allweddol dau, tri neu bedwar;
(c)yn Rhan 3 o’r Atodlen, pan gofnodwyd enw’r disgybl hwnnw ar gyfer unrhyw gymwysterau perthnasol a gymeradwywyd ar lefel FfCC 3 neu’n uwch na hynny; ac
(ch)yn Rhan 4 o’r Atodlen.”
(4) Yn rheoliad 4 hepgorer paragraff (4).
(5) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—
4A. Rhaid i’r adroddiad gynnwys yr wybodaeth yn Rhan 5 o’r Atodlen pan fo’r disgybl ym mlwyddyn olaf—
(a)y cyfnod sylfaen;
(b)cyfnod allweddol dau; neu
(c)cyfnod allweddol tri.”
(6) Yn yr Atodlen—
(a)yn lle paragraff 1 o Ran 1 rhodder—
1.—(1) Canlyniadau unrhyw asesiad a gynhelir yn unol â’r trefniadau asesu a bennwyd gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013.
(2) Crynodeb byr o gynnydd y disgybl mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol ychwanegol a’r rhaglenni astudio ychwanegol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Orchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013.”;
(b)hepgorer Rhan 4A a Rhan 4B; ac
(c)ar ôl Rhan 4 mewnosoder—
8.—(1) Mewn perthynas â phob maes dysgu perthnasol, disgrifiad byr o bob deilliant cyfnod sylfaen a gyrhaeddodd y disgybl ym mhob un o’r meysydd dysgu perthnasol hynny ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen.
(2) Mewn perthynas â phob un o’r meysydd dysgu eraill, datganiad byr o’r lefel cyrhaeddiad a gyflawnwyd gan y disgybl ym mhob un o’r meysydd dysgu hynny ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen.
(3) Datganiad byr o gynnydd y disgybl yn ystod y cyfnod pan oedd yn y cyfnod sylfaen mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 1 o Orchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013.
9.—(1) Datganiad byr o gynnydd y disgybl yn ystod y cyfnod pan oedd yng nghyfnod allweddol dau mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 1 o Orchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013.
(2) Datganiad byr o gynnydd y disgybl yn ystod y cyfnod pan oedd yng nghyfnod allweddol tri mewn perthynas â’r rhaglenni addysgol y rhoddwyd effaith gyfreithiol iddynt gan Ran 1 o Orchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013.”
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Gorffennaf 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) (Diwygio) 2014 (“Rheoliadau 2014”) yn diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011. Mae Rheoliadau 2014 yn gwneud darpariaeth o ran yr adroddiad y mae’n ofynnol i’r pennaeth ei anfon at rieni a disgyblion sy’n oedolion bob blwyddyn ysgol, ar ddiwedd y cyfnod sylfaen a chyfnodau allweddol dau a thri, a’r wybodaeth ychwanegol y caiff rhieni disgyblion cofrestredig sy’n cael eu hasesu mewn unrhyw gyfnod allweddol ofyn amdani.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2014 drwy—
(a)mewnosod diffiniad newydd o “Gorchymyn Rhaglenni Addysgol a Rhaglenni Astudio 2013” (rheoliad 2(2));
(b)mewnosod rheoliad 3(3) newydd sy’n nodi pa wybodaeth yn yr Atodlen i Reoliadau 2014 y mae rhaid ei chynnwys yn adroddiad y pennaeth i rieni a disgyblion sy’n oedolion bob blwyddyn ysgol (rheoliad 2(3) a (6)(a));
(c)hepgor rheoliad 4(4) a mewnosod rheoliad 4A newydd. Mae rheoliad 4A a Rhan 5 o Reoliadau 2014 yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn adroddiad y pennaeth i rieni a disgyblion sy’n oedolion pan fydd y disgybl ym mlwyddyn olaf y cyfnod sylfaen, neu gyfnodau allweddol dau neu dri (rheoliad 2(4) a (5). Mae Rhan 5 wedi ei mewnosod gan reoliad 2(6)(c)); a
(d)hepgor Rhannau 4A a 4B a’u hailddeddfu fel paragraff 1(1) a (2) newydd yn Rhan 1 (rheoliad 2(6)(a) a (b)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1996 p. 56. Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30 o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), paragraffau 57 a 106 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) ac Atodlen 31 iddi, paragraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 21 a Rhan 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 12 a Rhan 7 o Atodlen 16 i Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), paragraffau 5 a 7 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 2011 (p. 21) a chan O.S. 2010/1158.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2011/1943 (Cy. 210) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/437 (Cy. 53).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys