Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014

Newidiadau dros amser i: RHAN 4

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

RHAN 4LL+CCYMORTH ARIANNOL

CyffredinolLL+C

13.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y rheol gyffredinol yw bod myfyriwr cymwys sy’n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan yr Athrofa yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael—

(a)grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 1; a

(b)grantiau atodol yn unol â Phennod 2.

(2Os yw’r flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn flwyddyn o ailadrodd astudiaethau, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu—

(a)nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael math neu swm penodol o gymorth mewn cysylltiad â’r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau; neu

(b)nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael unrhyw gymorth mewn cysylltiad â’r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau.

(3Wrth benderfynu na fyddai myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael rhyw gymorth neu unrhyw gymorth yn unol â pharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i amgylchiadau’r achos ac yn benodol i’r rhesymau pam y gwnaed yn ofynnol i’r myfyriwr ailadrodd blwyddyn academaidd.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “blwyddyn o ailadrodd astudiaethau” (“year of repeat study”) yw blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr wedi bod yn bresennol arni o’r blaen ond y mae’r Athrofa yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol arni eto.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 13 mewn grym ar 5.12.2014, gweler rhl. 1

Nifer y dyfarniadauLL+C

14.—(1Mewn cysylltiad â cheisiadau am gymorth a wneir o dan reoliad 5(1), dim ond i un myfyriwr cymwys y caiff Gweinidogion Cymru ddyfarnu cymorth ym mhob blwyddyn academaidd.

(2Pan fo mwy nag un myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth o dan reoliad 5(1) mewn cysylltiad â’r un flwyddyn academaidd, rhaid i Weinidogion Cymru (os ydynt wedi penderfynu dyfarnu cymorth) ddyfarnu’r cymorth hwnnw i ba un bynnag o’r myfyrwyr cymwys y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu sydd fwyaf addas i gael cymorth.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 14 mewn grym ar 5.12.2014, gweler rhl. 1

PENNOD 1LL+CGRANTIAU AT GOSTAU BYW A CHOSTAU ERAILL

Grantiau at gostau byw a chostau eraillLL+C

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.

(2Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael unrhyw un o’r grantiau sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw’r unig baragraff o Ran 2 o’r Atodlen honno y mae’r myfyriwr yn dod odano.

(3Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at gostau byw o 18,099 ewro o ran blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2015.

(4Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant i deithio adref o swm sy’n hafal i—

A formula for calculating travel costs

pan fo—

A yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost tair siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd; a

B yw £105.

(5Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant ar gyfer teithio colegol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa’r myfyriwr, tra bydd yn bresennol yn yr Athrofa, i’r Athrofa.

(6Yn ddarostyngedig i gytundeb ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru cyn i gostau gael eu hysgwyddo, mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi ei hysgwyddo er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan yr Athrofa yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(7Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at yswiriant meddygol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol yswirio’r myfyriwr yn erbyn atebolrwydd i dalu cost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i’r Deyrnas Unedig os yw cyfnod arferol y cwrs yn fwy nag un flwyddyn academaidd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 15 mewn grym ar 5.12.2014, gweler rhl. 1

16.  Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw un o’r grantiau a gyfrifir o dan baragraffau (3) i (6) o reoliad 15.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 16 mewn grym ar 5.12.2014, gweler rhl. 1

PENNOD 2LL+CGRANTIAU ATODOL

Lwfans myfyriwr anablLL+C

17.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael lwfans myfyriwr anabl i gynorthwyo gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod rhaid i’r myfyriwr ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd gan y myfyriwr mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig.

(2Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael lwfans myfyriwr anabl os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw’r unig baragraff o Ran 2 o’r Atodlen honno y mae’r myfyriwr yn dod odano.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 17 mewn grym ar 5.12.2014, gweler rhl. 1

Swm lwfans myfyriwr anablLL+C

18.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y lwfans myfyriwr anabl yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei fod yn briodol yn unol ag amgylchiadau’r myfyriwr i gynorthwyo gydag un neu ragor o fathau o wariant cymwys.

(2Rhaid i swm lwfans myfyriwr anabl beidio â bod yn fwy na £10,590 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.

(3Y “mathau o wariant cymwys” yw—

(a)gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)gwariant ar eitemau pwysig o offer arbenigol;

(c)unrhyw wariant ychwanegol a ysgwyddir—

(i)yn yr Eidal er mwyn bod yn bresennol yn yr Athrofa; a

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi at ddibenion teithio i’r Athrofa er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 18 mewn grym ar 5.12.2014, gweler rhl. 1

Grant ar gyfer dibynyddionLL+C

19.—(1Mae’r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—

(a)grant dibynyddion mewn oed; a

(b)lwfans dysgu rhieni.

(2Nodir amodau cymhwyso ar gyfer pob elfen a’r symiau sy’n daladwy yn rheoliadau 20 i 24.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 19 mewn grym ar 5.12.2014, gweler rhl. 1

Grant dibynyddion mewn oedLL+C

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Mae’r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn cysylltiad ag un dibynnydd myfyriwr cymwys sydd naill ai—

(a)yn bartner y myfyriwr; neu

(b)yn ddibynnydd mewn oed i’r myfyriwr a hwnnw’n ddibynnydd nad yw ei incwm net yn fwy na £3,923.

(3Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael y grant sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw’r unig baragraff o Ran 2 o’r Atodlen honno y mae’r myfyriwr yn dod odano.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 20 mewn grym ar 5.12.2014, gweler rhl. 1

21.  Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 23, a’r swm sylfaenol yw—

(a)mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol, £2,732; neu

(b)pan fo’r person y mae’r myfyriwr yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw’n fwy na £2,732 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn yr amgylchiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 21 mewn grym ar 5.12.2014, gweler rhl. 1

Lwfans dysgu rhieniLL+C

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso, mewn cysylltiad â phresenoldeb ar gwrs dynodedig, i gael y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o blant dibynnol.

(2Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael y grant sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw’r unig baragraff o Ran 2 o’r Atodlen honno y mae’r myfyriwr yn dod odano.

(3Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 23, a’r swm sylfaenol yw £1,557.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 22 mewn grym ar 5.12.2014, gweler rhl. 1

CyfrifoLL+C

23.—(1Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol o’r grant ar gyfer dibynyddion y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael o dan reoliadau 20 i 22 yw swm yr elfen honno sy’n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben neu hyd nes nad oes elfen yn dal yn daladwy o dan reoliadau 20 i 22, swm sy’n hafal i (AB) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

(a)i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os yw’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 20; a

(b)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os yw’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 22.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy nag A neu’n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o’r grant ar gyfer dibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w chael yn daladwy.

(3Os yw (AB) yn hafal i gyfanswm y symiau sylfaenol o elfennau’r grant ar gyfer dibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w cael neu’n fwy na’r cyfanswm hwnnw, y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob elfen yw dim.

(4Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) yn cael ei ostwng o ran dibynnydd mewn oed gan un hanner—

(a)os yw partner y myfyriwr—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae’r partner hwnnw yn cymhwyso i’w gael, neu’r taliad y mae gan y partner hwnnw hawlogaeth i’w gael, o dan y dyfarniad statudol.

(5Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy’n daladwy yw £50.

(6At ddibenion y rheoliad hwn—

  • A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a

  • B yw—

(a)£1,159 os nad oes gan y myfyriwr unrhyw blentyn dibynnol;

(b)£3,473 os nad yw’r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

(c)£4,632 os nad yw’r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;

(d)£4,632 os yw’r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

(e)£5,797 os yw’r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 23 mewn grym ar 5.12.2014, gweler rhl. 1

24.  Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol yn y grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir yn unol â rheoliadau 20 i 23.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 24 mewn grym ar 5.12.2014, gweler rhl. 1

DehongliLL+C

25.—(1At ddibenion rheoliadau 20 i 24—

(a)ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy’n dibynnu ar y myfyriwr ac eithrio plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr;

(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy’n ddibynnol ar y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto sy’n ddibynnol ar y myfyriwr;

(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed i’r myfyriwr, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(d)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;

(e)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw plentyn sy’n ddibynnol ar y myfyriwr;

(f)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;

(g)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);

(h)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (i), (j), (k) ac (l), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—

(i)priod myfyriwr;

(ii)partner sifil myfyriwr;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai’r person hwnnw yn briod i’r myfyriwr—

(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a

(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai’r person hwnnw yn bartner sifil i’r myfyriwr—

(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a

(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(i)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (h) i’w drin fel partner—

(i)os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi eu gwahanu; neu

(ii)os yw’r person yn byw fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr;

(j)at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed”, mae person i’w drin fel partner pe bai’r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y ffaith nad oedd y myfyriwr y mae’r person yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi;

(k)at ddibenion diffinio “plentyn” a “rhiant unigol”, mae person i’w drin fel partner pe bai’r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr y cwrs dynodedig neu’r ffaith nad oedd y myfyriwr y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi;

(l)yn ddarostyngedig i is-baragraff (m), at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed”, caiff Gweinidogion Cymru drin oedolyn neu blentyn fel rhai sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt wedi eu bodloni o ran yr oedolyn neu’r plentyn—

(i)nad yw’n ddibynnol ar—

(aa)y myfyriwr cymwys; neu

(bb)partner y myfyriwr cymwys; ond

(ii)ei fod yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a phartner y myfyriwr cymwys gyda’i gilydd;

(m)rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thrin oedolyn (“A”) fel dibynnydd ar fyfyriwr cymwys yn unol ag is-baragraff (l), os A yw—

(i)priod neu bartner sifil partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn barnu bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

(ii)partner blaenorol partner y myfyriwr cymwys;

(n)at ddibenion penderfynu a yw person yn bartner blaenorol i bartner myfyriwr cymwys, ystyr “partner” o ran partner myfyriwr cymwys yw—

(i)priod partner myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil partner myfyriwr cymwys;

(iii)os dechreuodd y myfyriwr cymwys y cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys (“B”) fel pe bai A yn briod i B;

(iv)os dechreuodd y myfyriwr cymwys y cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys (“B”) fel pe bai A yn bartner sifil i B.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn cysylltiad â hi ond gan anwybyddu—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(2);

(d)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(e)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw at ddibenion adran 23 o Ddeddf Plant 1989(3);

(f)unrhyw daliad a wnaed i’r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989(4);

(g)unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn cysylltiad â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o’r Ddeddf honno(5);

(h)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002(6); ac

(i)yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(7)

(i)unrhyw swm sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad, o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013(8), mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd alluogrwydd cyfyngedig i weithio neu alluogrwydd cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith; a

(ii)unrhyw swm neu swm ychwanegol sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).

(3Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw’r incwm net wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (2) ac wedi ei ostwng yn ôl—

(a)swm sy’n hafal i’r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo’n rhesymol; neu

(b)unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei fod yn briodol pe gallai rhwymedigaeth lai, yn eu barn hwy, fod wedi ei hysgwyddo’n rhesymol.

(4At ddibenion paragraff (2)—

(a)os yw’r dibynnydd yn blentyn dibynnol; a

(b)os oes taliadau’n cael eu gwneud i’r myfyriwr tuag at gynhaliaeth y plentyn;

mae’r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm i’r plentyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 25 mewn grym ar 5.12.2014, gweler rhl. 1

(1)

1992 p. 4 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(3)

1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p. 41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p. 14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p. 31), adran 49(3), Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (p. 23), adran 8 ac Atodlen 3, paragraffau 1 a 7 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), Atodlen 2(1), paragraff 30.

(4)

Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) o adran 23C o Ddeddf Plant 1989 gan adran 21 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac, o ran Cymru, mae O.S 2010/1329 (Cy. 112) (C. 81) ac O.S. 2011/824 (Cy. 123) (C. 32) yn berthnasol.

(5)

Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

2002 p. 21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill