Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 5(1)

ATODLEN 2Y GOFYNION CYMHWYSTRA

Y gofynion cymhwystra i gadeirydd

Gofynion cyffredinol

1.—(1Mae’r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â chymhwystra i benodi cadeirydd y cyd-bwyllgor.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5), (6) ac (8), nid yw person yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd os yw—

(a)yn ystod y pum mlynedd blaenorol wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw drosedd ac wedi cael dedfryd o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio) am gyfnod nad yw’n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy;

(b)yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim neu wedi gwneud compownd neu drefniant â chredydwyr;

(c)wedi ei ddiswyddo, ac eithrio am fod y swydd wedi ei dileu, o unrhyw gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd;

(d)ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr o gorff gwasanaeth iechyd, ac eithrio grŵp comisiynu clinigol, wedi ei therfynu am reswm ac eithrio am fod y swydd wedi ei dileu, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu’r corff gwasanaeth iechyd, neu am fod cyfnod y swydd y penodwyd y person amdano wedi dod i ben; neu

(e)wedi ei symud o’i swydd fel cadeirydd neu aelod o gorff llywodraethu grŵp comisiynu clinigol.

(3At ddibenion paragraff (2)(a), bernir mai’r dyddiad collfarnu yw’r dyddiad y mae’r cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais mewn cysylltiad â’r gollfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o’r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y rhoddir y gorau i’r apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y mae’r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu’r dyddiad y mae’r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.

(4At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw person i’w drin fel un sydd wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod wedi dal swydd aelod, aelod cyswllt neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd ac eithrio grŵp comisiynu clinigol, neu fel un sydd wedi dal swydd cadeirydd neu aelod o gorff llywodraethu grŵp comisiynu clinigol.

(5Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)( b)—

(a)os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai’r person fod wedi cael ei ddyfarnu’n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu’n llawn, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n swyddog-aelod ar ddyddiad y diddymiad;

(b)os caiff person ei ryddhau o fethdaliad, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar ddyddiad y rhyddhau;

(c)os telir dyledion y person yn llawn, ac yntau wedi gwneud compownd neu drefniant gyda’i gredydwyr, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n swyddog-aelod ar y dyddiad y talwyd y dyledion hynny’n llawn; a

(d)ar ôl gwneud compownd neu drefniant gyda’i gredydwyr, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n swyddog-aelod pan ddaw pum mlynedd i ben o’r dyddiad y cyflawnwyd telerau gweithred y compownd neu’r trefniant.

(6Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(c), caiff y person hwnnw, pan ddaw dwy flynedd i ben o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu’r anghymhwystra, a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod yr anghymhwystra yn dod i ben.

(7Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymhwystra, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn pen dwy flynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cais ac mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.

(8Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(d), daw’r person hwnnw yn gymwys i’w benodi’n gadeirydd pan ddaw dwy flynedd i ben o ddyddiad terfynu’r aelodaeth neu unrhyw gyfnod hwy a bennwyd gan y corff a derfynodd yr aelodaeth, ond caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais iddynt yn ysgrifenedig gan y person hwnnw, leihau cyfnod yr anghymhwystra.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill