- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 4(1) a 4(3)
1. Mae’r Atodlen hon yn gymwys i benodi cadeirydd y cyd-bwyllgor.
2. Bydd Gweinidogion Cymru yn sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle ar gyfer penodi’r cadeirydd a bod y trefniadau hynny yn ystyried—
(a)yr egwyddorion a osodir o bryd i’w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus;
(b)ei bod yn ofynnol i’r penodiad fod yn agored a thryloyw;
(c)ei bod yn ofynnol i’r penodiad gael ei wneud drwy gystadleuaeth deg ac agored; a
(d)yr angen i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn bodloni’r gofynion cymhwystra perthnasol a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
Rheoliad 5(1)
1.—(1) Mae’r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â chymhwystra i benodi cadeirydd y cyd-bwyllgor.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5), (6) ac (8), nid yw person yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd os yw—
(a)yn ystod y pum mlynedd blaenorol wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw drosedd ac wedi cael dedfryd o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio) am gyfnod nad yw’n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy;
(b)yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim neu wedi gwneud compownd neu drefniant â chredydwyr;
(c)wedi ei ddiswyddo, ac eithrio am fod y swydd wedi ei dileu, o unrhyw gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd;
(d)ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr o gorff gwasanaeth iechyd, ac eithrio grŵp comisiynu clinigol, wedi ei therfynu am reswm ac eithrio am fod y swydd wedi ei dileu, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu’r corff gwasanaeth iechyd, neu am fod cyfnod y swydd y penodwyd y person amdano wedi dod i ben; neu
(e)wedi ei symud o’i swydd fel cadeirydd neu aelod o gorff llywodraethu grŵp comisiynu clinigol.
(3) At ddibenion paragraff (2)(a), bernir mai’r dyddiad collfarnu yw’r dyddiad y mae’r cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais mewn cysylltiad â’r gollfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o’r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y rhoddir y gorau i’r apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y mae’r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu’r dyddiad y mae’r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.
(4) At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw person i’w drin fel un sydd wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod wedi dal swydd aelod, aelod cyswllt neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd ac eithrio grŵp comisiynu clinigol, neu fel un sydd wedi dal swydd cadeirydd neu aelod o gorff llywodraethu grŵp comisiynu clinigol.
(5) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)( b)—
(a)os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai’r person fod wedi cael ei ddyfarnu’n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu’n llawn, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n swyddog-aelod ar ddyddiad y diddymiad;
(b)os caiff person ei ryddhau o fethdaliad, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar ddyddiad y rhyddhau;
(c)os telir dyledion y person yn llawn, ac yntau wedi gwneud compownd neu drefniant gyda’i gredydwyr, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n swyddog-aelod ar y dyddiad y talwyd y dyledion hynny’n llawn; a
(d)ar ôl gwneud compownd neu drefniant gyda’i gredydwyr, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n swyddog-aelod pan ddaw pum mlynedd i ben o’r dyddiad y cyflawnwyd telerau gweithred y compownd neu’r trefniant.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(c), caiff y person hwnnw, pan ddaw dwy flynedd i ben o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu’r anghymhwystra, a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod yr anghymhwystra yn dod i ben.
(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymhwystra, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn pen dwy flynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cais ac mae’r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.
(8) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(d), daw’r person hwnnw yn gymwys i’w benodi’n gadeirydd pan ddaw dwy flynedd i ben o ddyddiad terfynu’r aelodaeth neu unrhyw gyfnod hwy a bennwyd gan y corff a derfynodd yr aelodaeth, ond caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais iddynt yn ysgrifenedig gan y person hwnnw, leihau cyfnod yr anghymhwystra.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys