- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Yn rheoliad 2 o’r Prif Reoliadau (dehongli) ym mharagraff (1)—
(a)yn y diffiniad o “panel mabwysiadu” (“adoption panel”) yn lle’r geiriau “rheoliad 3” rhodder “rheoliad 4”;
(b)yn y diffiniad o “person annibynnol” (“independent person”) yn lle’r geiriau “rheoliad 3” rhodder “rheoliad 4(8)”; ac
(c)yn y diffiniad o “panel mabwysiadu ar y cyd” (“joint adoption panel”) yn lle’r geiriau “rheoliad 3(5)” rhodder “rheoliad 4(3)”.
(2) Yn lle rheoliadau 3 i 9 (asiantaeth fabwysiadu – trefniadau ar gyfer gwaith mabwysiadu) o’r Prif Reoliadau rhodder—
3.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5, rhaid i asiantaeth fabwysiadu gynnal rhestr o bersonau y mae’n ystyried eu bod yn addas i fod yn aelodau o banel mabwysiadu (“y rhestr ganolog”), gan gynnwys—
(a)un neu ragor o weithwyr cymdeithasol sydd ag o leiaf dair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso perthnasol, a
(b)cynghorydd meddygol yr asiantaeth fabwysiadu (neu o leiaf un os oes mwy nag un cynghorydd meddygol wedi’i benodi).
(2) Caiff person sydd wedi’i gynnwys ar y rhestr ganolog ar unrhyw adeg ofyn am i’w enw gael ei ddileu o’r rhestr ganolog drwy roi mis o hysbysiad ysgrifenedig.
(3) Pan fo’r asiantaeth fabwysiadu o’r farn bod person sydd wedi’i gynnwys ar y rhestr ganolog yn anaddas neu’n analluog i barhau ar y rhestr caiff yr asiantaeth ddileu enw’r person hwnnw o’r rhestr drwy roi mis o hysbysiad ysgrifenedig iddo ynghyd â rhesymau.
(4) Caiff unrhyw ddwy neu ragor o asiantaethau mabwysiadu gynnal ar y cyd restr o bersonau y maent yn ystyried eu bod yn addas i fod yn aelodau o banel mabwysiadu.
4.—(1) Rhaid i asiantaeth fabwysiadu ffurfio un neu ragor o baneli mabwysiadu, yn ôl yr angen, i gyflawni swyddogaethau panel mabwysiadu o dan y Rheoliadau hyn a rhaid iddi benodi aelodau’r panel o blith y personau ar y rhestr ganolog gan gynnwys—
(a)person i gadeirio’r panel, a hwnnw’n berson annibynnol, sydd â’r sgiliau a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer cadeirio panel mabwysiadu, a
(b)un neu ddau berson a gaiff weithredu fel cadeirydd os yw’r person a benodwyd i gadeirio’r panel yn absennol neu os yw’r swydd honno yn wag (“yr is-gadeiryddion”).
(2) Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod digon o aelodau ar banel mabwysiadu, a bod gan yr aelodau unigol rhyngddynt y profiad a’r arbenigedd sy’n angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau’r panel yn effeithiol.
(3) Caiff unrhyw ddwy neu ragor o asiantaethau mabwysiadu ffurfio ar y cyd banel mabwysiadu (“panel mabwysiadu ar y cyd”) ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r asiantaethau gytuno rhyngddynt ar yr aelodau a benodir.
(4) Caiff asiantaeth fabwysiadu dalu i unrhyw aelod o banel mabwysiadu a ffurfiwyd ganddi unrhyw ffi a benderfynir ganddi, sef ffi sydd yn swm rhesymol.
(5) Caiff unrhyw aelod o banel mabwysiadu ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi mis o hysbysiad ysgrifenedig i asiantaeth y panel mabwysiadu a’i penododd.
(6) Pan fo asiantaeth fabwysiadu o’r farn bod unrhyw aelod o’r panel mabwysiadu a benodwyd ganddi yn anaddas neu’n analluog i barhau yn y swydd, caiff derfynu penodiad yr aelod hwnnw ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo ynghyd â rhesymau.
(7) Yn achos panel mabwysiadu ar y cyd, pan fo asiantaeth fabwysiadu o’r farn bod unrhyw aelod o banel mabwysiadu a benodwyd ganddi yn anaddas neu’n analluog i barhau yn y swydd, caiff derfynu penodiad yr aelod hwnnw ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod am y rhesymau, os yw’r asiantaethau mabwysiadu a ffurfiodd y panel yn cytuno.
(8) Nid yw person (“P”) yn berson annibynnol at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 6—
(a)os yw P, yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig, yn ymddiriedolwr neu’n gyflogai i’r gymdeithas honno, neu
(b)os yw P, yn achos awdurdod lleol—
(i)yn aelod etholedig o’r awdurdod hwnnw, neu
(ii)yn gyflogedig gan yr awdurdod hwnnw at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu neu at ddibenion unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod lleol hwnnw sy’n ymwneud ag amddiffyn plant, neu
(c)os yw P yn rhiant mabwysiadol i blentyn a oedd—
(i)wedi’i leoli i’w fabwysiadu gyda P gan yr asiantaeth fabwysiadu (“asiantaeth A”), neu
(ii)wedi’i leoli i’w fabwysiadu gyda P gan asiantaeth fabwysiadu arall pan oedd P wedi’i gymeradwyo yn berson addas i fod yn rhiant mabwysiadol gan asiantaeth A,
oni bai bod o leiaf 12 mis wedi mynd heibio ers i’r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud mewn cysylltiad â’r plentyn.
5. Pan na fo asiantaeth fabwysiadu ond yn gweithredu at ddiben rhoi personau mewn cysylltiad ag asiantaethau mabwysiadu eraill ac at ddiben rhoi’r asiantaethau hynny mewn cysylltiad â’i gilydd neu at y naill ddiben neu’r llall, nid yw rheoliadau 3, 4, 8 nac, i’r graddau y mae’n ofynnol ymgynghori â phersonau ar y rhestr ganolog, reoliad 7, yn gymwys i asiantaeth o’r fath.
6.—(1) Ni chaniateir i unrhyw fusnes gael ei gynnal gan banel mabwysiadu oni bai bod o leiaf y canlynol yn cyfarfod fel panel—
(a)naill ai’r person a benodwyd i gadeirio’r panel neu un o’r is-gadeiryddion,
(b)un person sy’n dod o fewn rheoliad 3(1)(a),
(c)tri, neu yn achos panel mabwysiadu a ffurfiwyd o dan reoliad 4(3), bedwar aelod arall a phan na fo’r cadeirydd yn bresennol a phan na fo’r is-gadeirydd yn berson annibynnol, rhaid i o leiaf un aelod arall o’r panel fod yn berson annibynnol.
(2) Rhaid i banel mabwysiadu wneud cofnod ysgrifenedig o’i drafodion, ei argymhellion a’r rhesymau dros ei argymhellion.
7. Rhaid i asiantaeth fabwysiadu, drwy ymgynghori â’r personau hynny ar y rhestr ganolog y mae’r asiantaeth yn eu hystyried yn briodol ac, i’r graddau a bennir yn rheoliad 8(4), â chynghorydd meddygol yr asiantaeth, lunio a gweithredu polisi a chyfarwyddiadau gweithdrefnol ysgrifenedig sy’n llywodraethu sut yr arferir swyddogaethau’r asiantaeth a phanel mabwysiadu mewn perthynas â mabwysiadu, a rhaid i’r asiantaeth adolygu’r cyfarwyddiadau hynny yn gyson a, phan fo’n briodol, eu diwygio.
8.—(1) Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu benodi uwch aelod o staff, neu pan fo asiantaethau mabwysiadu yn cytuno i ffurfio paneli mabwysiadu ar y cyd yn ôl yr angen, benodi uwch aelod o staff o un ohonynt (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “cynghorydd yr asiantaeth”)—
(a)i gynorthwyo gyda’r gwaith o gynnal y rhestr ganolog a ffurfio paneli mabwysiadu,
(b)i fod yn gyfrifol am gynefino a hyfforddi personau ar y rhestr ganolog,
(c)i fod yn gyfrifol am gydlynu rhwng yr asiantaeth a phanel mabwysiadu, monitro perfformiad personau ar y rhestr ganolog ac aelodau o’r panel mabwysiadu a gweinyddu paneli mabwysiadu, ac
(ch)i roi unrhyw gyngor i banel mabwysiadu y mae’r panel yn gofyn amdano mewn perthynas ag unrhyw achos neu yn gyffredinol.
(2) Rhaid i gynghorydd yr asiantaeth fod yn weithiwr cymdeithasol ag o leiaf bum mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso perthnasol ac, ym marn yr asiantaeth fabwysiadu, brofiad rheoli perthnasol.
(3) Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu benodi o leiaf un ymarferydd meddygol cofrestredig yn gynghorydd meddygol yr asiantaeth.
(4) Rhaid ymgynghori â’r cynghorydd meddygol mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer gweld a datgelu gwybodaeth am iechyd, sy’n ofynnol neu a ganiateir yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.
9. Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod paneli mabwysiadu yn cael eu cynghori’n briodol gan berson sydd â chymwysterau priodol mewn perthynas â mabwysiadau ag elfen dramor iddynt os yw achos o’r fath yn cael ei ystyried.”
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys