Search Legislation

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2014

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Diwygio’r Prif Reoliadau

2.—(1Yn rheoliad 2 o’r Prif Reoliadau (dehongli) ym mharagraff (1)—

(a)yn y diffiniad o “panel mabwysiadu” (“adoption panel”) yn lle’r geiriau “rheoliad 3” rhodder “rheoliad 4”;

(b)yn y diffiniad o “person annibynnol” (“independent person”) yn lle’r geiriau “rheoliad 3” rhodder “rheoliad 4(8)”; ac

(c)yn y diffiniad o “panel mabwysiadu ar y cyd” (“joint adoption panel”) yn lle’r geiriau “rheoliad 3(5)” rhodder “rheoliad 4(3)”.

(2Yn lle rheoliadau 3 i 9 (asiantaeth fabwysiadu – trefniadau ar gyfer gwaith mabwysiadu) o’r Prif Reoliadau rhodder—

Y rhestr ganolog

3.(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 5, rhaid i asiantaeth fabwysiadu gynnal rhestr o bersonau y mae’n ystyried eu bod yn addas i fod yn aelodau o banel mabwysiadu (“y rhestr ganolog”), gan gynnwys—

(a)un neu ragor o weithwyr cymdeithasol sydd ag o leiaf dair blynedd o brofiad ôl-gymhwyso perthnasol, a

(b)cynghorydd meddygol yr asiantaeth fabwysiadu (neu o leiaf un os oes mwy nag un cynghorydd meddygol wedi’i benodi).

(2) Caiff person sydd wedi’i gynnwys ar y rhestr ganolog ar unrhyw adeg ofyn am i’w enw gael ei ddileu o’r rhestr ganolog drwy roi mis o hysbysiad ysgrifenedig.

(3) Pan fo’r asiantaeth fabwysiadu o’r farn bod person sydd wedi’i gynnwys ar y rhestr ganolog yn anaddas neu’n analluog i barhau ar y rhestr caiff yr asiantaeth ddileu enw’r person hwnnw o’r rhestr drwy roi mis o hysbysiad ysgrifenedig iddo ynghyd â rhesymau.

(4) Caiff unrhyw ddwy neu ragor o asiantaethau mabwysiadu gynnal ar y cyd restr o bersonau y maent yn ystyried eu bod yn addas i fod yn aelodau o banel mabwysiadu.

Ffurfio’r panel mabwysiadu

4.(1) Rhaid i asiantaeth fabwysiadu ffurfio un neu ragor o baneli mabwysiadu, yn ôl yr angen, i gyflawni swyddogaethau panel mabwysiadu o dan y Rheoliadau hyn a rhaid iddi benodi aelodau’r panel o blith y personau ar y rhestr ganolog gan gynnwys—

(a)person i gadeirio’r panel, a hwnnw’n berson annibynnol, sydd â’r sgiliau a’r profiad sy’n angenrheidiol ar gyfer cadeirio panel mabwysiadu, a

(b)un neu ddau berson a gaiff weithredu fel cadeirydd os yw’r person a benodwyd i gadeirio’r panel yn absennol neu os yw’r swydd honno yn wag (“yr is-gadeiryddion”).

(2) Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod digon o aelodau ar banel mabwysiadu, a bod gan yr aelodau unigol rhyngddynt y profiad a’r arbenigedd sy’n angenrheidiol i gyflawni swyddogaethau’r panel yn effeithiol.

(3) Caiff unrhyw ddwy neu ragor o asiantaethau mabwysiadu ffurfio ar y cyd banel mabwysiadu (“panel mabwysiadu ar y cyd”) ac yn yr achos hwnnw rhaid i’r asiantaethau gytuno rhyngddynt ar yr aelodau a benodir.

(4) Caiff asiantaeth fabwysiadu dalu i unrhyw aelod o banel mabwysiadu a ffurfiwyd ganddi unrhyw ffi a benderfynir ganddi, sef ffi sydd yn swm rhesymol.

(5) Caiff unrhyw aelod o banel mabwysiadu ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi mis o hysbysiad ysgrifenedig i asiantaeth y panel mabwysiadu a’i penododd.

(6) Pan fo asiantaeth fabwysiadu o’r farn bod unrhyw aelod o’r panel mabwysiadu a benodwyd ganddi yn anaddas neu’n analluog i barhau yn y swydd, caiff derfynu penodiad yr aelod hwnnw ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo ynghyd â rhesymau.

(7) Yn achos panel mabwysiadu ar y cyd, pan fo asiantaeth fabwysiadu o’r farn bod unrhyw aelod o banel mabwysiadu a benodwyd ganddi yn anaddas neu’n analluog i barhau yn y swydd, caiff derfynu penodiad yr aelod hwnnw ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod am y rhesymau, os yw’r asiantaethau mabwysiadu a ffurfiodd y panel yn cytuno.

(8) Nid yw person (“P”) yn berson annibynnol at ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 6—

(a)os yw P, yn achos cymdeithas fabwysiadu gofrestredig, yn ymddiriedolwr neu’n gyflogai i’r gymdeithas honno, neu

(b)os yw P, yn achos awdurdod lleol—

(i)yn aelod etholedig o’r awdurdod hwnnw, neu

(ii)yn gyflogedig gan yr awdurdod hwnnw at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu neu at ddibenion unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r awdurdod lleol hwnnw sy’n ymwneud ag amddiffyn plant, neu

(c)os yw P yn rhiant mabwysiadol i blentyn a oedd—

(i)wedi’i leoli i’w fabwysiadu gyda P gan yr asiantaeth fabwysiadu (“asiantaeth A”), neu

(ii)wedi’i leoli i’w fabwysiadu gyda P gan asiantaeth fabwysiadu arall pan oedd P wedi’i gymeradwyo yn berson addas i fod yn rhiant mabwysiadol gan asiantaeth A,

oni bai bod o leiaf 12 mis wedi mynd heibio ers i’r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud mewn cysylltiad â’r plentyn.

Asiantaethau mabwysiadu yn gweithredu at ddibenion penodol yn unig

5.  Pan na fo asiantaeth fabwysiadu ond yn gweithredu at ddiben rhoi personau mewn cysylltiad ag asiantaethau mabwysiadu eraill ac at ddiben rhoi’r asiantaethau hynny mewn cysylltiad â’i gilydd neu at y naill ddiben neu’r llall, nid yw rheoliadau 3, 4, 8 nac, i’r graddau y mae’n ofynnol ymgynghori â phersonau ar y rhestr ganolog, reoliad 7, yn gymwys i asiantaeth o’r fath.

Cyfarfodydd panel mabwysiadu

6.(1) Ni chaniateir i unrhyw fusnes gael ei gynnal gan banel mabwysiadu oni bai bod o leiaf y canlynol yn cyfarfod fel panel—

(a)naill ai’r person a benodwyd i gadeirio’r panel neu un o’r is-gadeiryddion,

(b)un person sy’n dod o fewn rheoliad 3(1)(a),

(c)tri, neu yn achos panel mabwysiadu a ffurfiwyd o dan reoliad 4(3), bedwar aelod arall a phan na fo’r cadeirydd yn bresennol a phan na fo’r is-gadeirydd yn berson annibynnol, rhaid i o leiaf un aelod arall o’r panel fod yn berson annibynnol.

(2) Rhaid i banel mabwysiadu wneud cofnod ysgrifenedig o’i drafodion, ei argymhellion a’r rhesymau dros ei argymhellion.

Trefniadau asiantaeth fabwysiadu ar gyfer gwaith mabwysiadu

7.  Rhaid i asiantaeth fabwysiadu, drwy ymgynghori â’r personau hynny ar y rhestr ganolog y mae’r asiantaeth yn eu hystyried yn briodol ac, i’r graddau a bennir yn rheoliad 8(4), â chynghorydd meddygol yr asiantaeth, lunio a gweithredu polisi a chyfarwyddiadau gweithdrefnol ysgrifenedig sy’n llywodraethu sut yr arferir swyddogaethau’r asiantaeth a phanel mabwysiadu mewn perthynas â mabwysiadu, a rhaid i’r asiantaeth adolygu’r cyfarwyddiadau hynny yn gyson a, phan fo’n briodol, eu diwygio.

Gofyniad i benodi cynghorydd asiantaeth a chynghorydd meddygol

8.(1) Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu benodi uwch aelod o staff, neu pan fo asiantaethau mabwysiadu yn cytuno i ffurfio paneli mabwysiadu ar y cyd yn ôl yr angen, benodi uwch aelod o staff o un ohonynt (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “cynghorydd yr asiantaeth”)—

(a)i gynorthwyo gyda’r gwaith o gynnal y rhestr ganolog a ffurfio paneli mabwysiadu,

(b)i fod yn gyfrifol am gynefino a hyfforddi personau ar y rhestr ganolog,

(c)i fod yn gyfrifol am gydlynu rhwng yr asiantaeth a phanel mabwysiadu, monitro perfformiad personau ar y rhestr ganolog ac aelodau o’r panel mabwysiadu a gweinyddu paneli mabwysiadu, ac

(ch)i roi unrhyw gyngor i banel mabwysiadu y mae’r panel yn gofyn amdano mewn perthynas ag unrhyw achos neu yn gyffredinol.

(2) Rhaid i gynghorydd yr asiantaeth fod yn weithiwr cymdeithasol ag o leiaf bum mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso perthnasol ac, ym marn yr asiantaeth fabwysiadu, brofiad rheoli perthnasol.

(3) Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu benodi o leiaf un ymarferydd meddygol cofrestredig yn gynghorydd meddygol yr asiantaeth.

(4) Rhaid ymgynghori â’r cynghorydd meddygol mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer gweld a datgelu gwybodaeth am iechyd, sy’n ofynnol neu a ganiateir yn rhinwedd y Rheoliadau hyn.

Cyngor i baneli mabwysiadu mewn mabwysiadau ag elfen dramor iddynt

9.  Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod paneli mabwysiadu yn cael eu cynghori’n briodol gan berson sydd â chymwysterau priodol mewn perthynas â mabwysiadau ag elfen dramor iddynt os yw achos o’r fath yn cael ei ystyried.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources