Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 951 (Cy. 92)

Anifeiliaid, Cymru

Atal Creulondeb

Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014

Gwnaed

8 Ebrill 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Ebrill 2014

Yn dod i rym

20 Mai 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd(2) ac yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau hynny, a’r pwerau a roddir gan baragraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, a chyda chydsyniad y Trysorlys o dan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973(3).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at yr Atodiadau i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 a fabwysiadwyd ar 24 Medi 2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd(4) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Mae’r Rheoliadau hyn—

(a)yn dwyn yr enw Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014;

(b)yn gymwys o ran Cymru; ac

(c)yn dod i rym ar 20 Mai 2014.

Terfynu

2.—(1Bydd y darpariaethau canlynol yn peidio â chael effaith ar 8 Rhagfyr 2015—

(a)rheoliad 44; a

(b)Atodlen 7.

(2Bydd y darpariaethau canlynol yn peidio â chael effaith ar 8 Rhagfyr 2019—

(a)rheoliad 30(1)(h);

(b)rheoliad 45; ac

(c)Atodlen 8.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd o dan reoliad 34 neu arolygydd a benodwyd o dan adran 51 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006(5);

mae i “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

mae “ceffyl” (“horse”) yn cynnwys bastard mul, asyn neu ful;

ystyr “y Comisiwn Rabinaidd” (“Rabbinical Commission”) yw’r corff y cyfeirir ato yn Rhan 4 o Atodlen 3, sy’n gyfrifol am drwyddedu personau sy’n ymgymryd â lladd anifeiliaid yn unol â’r dull Iddewig (Shechita);

ystyr “Deddf 1967” (“the 1967 Act) yw Deddf Cigydda Dofednod 1967(6);

ystyr “Deddf 1974” (“the 1974 Act”) yw Deddf Lladd-dai 1974(7);

ystyr “iard gelanedd” (“knacker’s yard”) yw mangre a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer storio carcasau anifeiliaid, ond hefyd ar gyfer lladd anifeiliaid yn fasnachol at ddibenion ac eithrio’u bwyta gan bobl gan gynnwys unrhyw gyfleusterau cysylltiedig ar gyfer trin a darparu gwalfeydd i’r cyfryw anifeiliaid;

ystyr “lloc ffrwyno” (“restraining pen”) yw lloc neu gompartment sy’n addas ar gyfer ffrwyno anifail buchol llawn-dwf ar ei sefyll at y diben o’i ladd yn unol â defodau crefyddol (fel y’u diffinnir ym mharagraff 1(c) o Atodlen 3), ac sydd wedi ei adeiladu a’i gymeradwyo yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 3;

ystyr “lloc stynio” (“stunning pen”) yw lloc neu gompartment sy’n addas ar gyfer ffrwyno anifail buchol llawn-dwf at y diben o’i stynio, ac sydd wedi ei adeiladu yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 1 neu baragraff 9 o Atodlen 2;

ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr o filfeddygon o dan adran 2 o Ddeddf Milfeddygon 1966(8);

ystyr “milfeddyg awdurdodedig” (“authorised veterinary surgeon”) yw milfeddyg a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben o gyflawni asesiadau yn unol â rheoliad 16(c);

ystyr “Rheoliad UE” (“EU Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 a fabwysiadwyd ar 24 Medi 2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd(9);

ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995(10);

mae i “stynio syml” (“simple stunning”) yr un ystyr a roddir i “simple stunning” yn Erthygl 4(1) a rhaid dehongli “a styniwyd yn syml” (“simple stunned”) yn unol â hynny;

ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded fel sy’n ofynnol gan reoliad 12;

ystyr “trwydded LlACL” (“WASK licence”) yw trwydded gofrestredig sy’n ofynnol gan, neu a roddir yn unol ag, Atodlen 1 i Reoliadau 1995;

ystyr “tystiolaeth o hyfforddi ac arholi” (“evidence of training and examination”) yw—

(a)

tystysgrif a roddir gan gorff, a gydnabyddir ac a reoleiddir gan Weinidogion Cymru sy’n goruchwylio’r modd yr hyfforddir ac asesir personau sy’n ymgymryd â lladd anifeiliaid a gweithrediadau perthynol, yn cadarnhau pasio arholiad annibynnol fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 21,

(b)

trwydded a roddir gan y Comisiwn Rabinaidd at y diben o ladd anifeiliaid yn unol â’r dull Iddewig (Shechita) ac yn cadarnhau pasio arholiad annibynnol fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 21, neu

(c)

cymhwyster milfeddygol ffurfiol, a gydnabyddir gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS)(11), ar y cyd â chofnod datblygiad proffesiynol parhaus yr RCVS;

ystyr “tystysgrif” (“certificate”) (ac eithrio yn y term “tystysgrif dros dro” neu reoliad 41) yw tystysgrif cymhwysedd yn yr ystyr a roddir i “certificate of competence” fel y crybwyllir yn Erthygl 21, ac mae’n cynnwys cymhwyster a gydnabyddir gan yr awdurdod cymwys fel cymhwyster sy’n gyfwerth â thystysgrif yn unol ag Erthygl 21(7);

ystyr “tystysgrif dros dro” (“temporary certificate”) yw tystysgrif cymhwysedd dros dro yn yr ystyr a roddir i “temporary certificate of competence” fel y crybwyllir yn Erthygl 21(5).

(2Mae i’r termau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir y termau ac ymadroddion Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn y Rheoliad UE yn ogystal, yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag y sydd i’r termau a’r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn y Rheoliad UE, oni phennir yn wahanol.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at Erthygl, neu Bennod neu Atodiad yn gyfeiriad at yr Erthygl neu’r Bennod honno o’r Rheoliad UE neu’r Atodiad hwnnw i’r Reoliad UE.

(4Mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i’r Rheoliad UE yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Yr awdurdod cymwys

4.—(1Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw’r awdurdod cymwys at ddibenion—

(a)Rhan 2 (tystysgrifau, tystysgrifau dros dro a thrwyddedau), oni phennir yn wahanol;

(b)cymeradwyo llociau ffrwyno yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 3; ac

(c)mewn perthynas â lladd anifeiliaid mewn lladd-dy—

(i)cael ac asesu dogfennau, cofnodion neu wybodaeth yn unol ag Erthyglau 6(4), 9(1), 14(2) a 17(5);

(ii)cael ac asesu dogfennau, cofnodion neu wybodaeth arall yn unol â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; a

(iii)gweithredu os digwydd unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, yn unol ag Erthygl 22(1).

(2Fel arall, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys, a hwy sy’n gweithredu fel yr Aelod-wladwriaeth at ddibenion y Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn.

(3Caiff Gweinidogion Cymru weithredu fel yr awdurdod cymwys mewn perthynas ag—

(a)atal dros dro neu ddirymu tystysgrifau, tystysgrifau dros dro neu drwyddedau o dan Ran 2; a

(b)penodi arolygwyr yn unol â rheoliad 34.

RHAN 2Tystysgrifau, tystysgrifau dros dro a thrwyddedau

PENNOD 1Tystysgrifau a thystysgrifau dros dro

Gofyniad i gael tystysgrif neu dystysgrif dros dro

5.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 23(2) a 44, ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 ac eithrio o dan dystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys neu dystysgrif dros dro, a hynny i’r graddau a awdurdodir gan y dystysgrif neu’r dystysgrif dros dro honno.

(2Ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 o dan dystysgrif dros dro onid yw’r person hwnnw yn gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, person sy’n dal tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys mewn perthynas â’r gweithrediad hwnnw.

Gweithrediadau y mae tystysgrif neu dystysgrif dros dro yn ofynnol ar eu cyfer

6.  Y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 5 yw—

(a)unrhyw un o’r gweithrediadau canlynol a gyflawnir mewn lladd-dy—

(i)gweithrediad a bennir mewn unrhyw un o’r is-baragraffau (a) i (g) o Erthygl 7(2); a

(ii)pithio anifail a styniwyd ac asesu effeithiolrwydd pithio; a

(b)goruchwylio lladd anifeiliaid ffwr yn unol ag Erthygl 7(3).

Tystysgrifau

7.  Rhaid i’r awdurdod cymwys roi a chofrestru tystysgrif—

(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 8; a

(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif.

Amodau ar gyfer tystysgrif

8.  Rhaid i’r ceisydd—

(a)peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed, oni ofynnir am y dystysgrif ar gyfer y gweithrediadau canlynol—

(i)trin a gofalu am anifeiliaid cyn eu ffrwyno; neu

(ii)gefynnu neu godi dofednod byw cyn eu stynio;

(b)yn ddarostyngedig i reoliad 44, cyflwyno tystiolaeth o hyfforddiant ac arholi mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir tystysgrif ar eu cyfer;

(c)cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn unol ag Erthygl 21(6);

(d)darparu manylion ysgrifenedig—

(i)os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;

(ii)os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu

(iii)os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo; ac

(e)talu ffi yn unol â rheoliad 24.

Tystysgrifau dros dro

9.  Rhaid i’r awdurdod cymwys roi tystysgrif dros dro—

(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 10; a

(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif dros dro.

Amodau ar gyfer tystysgrif dros dro

10.  Rhaid i’r ceisydd—

(a)peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed, oni ofynnir am y dystysgrif dros dro ar gyfer y gweithrediadau canlynol—

(i)trin a gofalu am anifeiliaid cyn eu ffrwyno; neu

(ii)gefynnu neu godi dofednod byw cyn eu stynio;

(b)cyflwyno tystiolaeth o gofrestru ar gwrs o hyfforddiant mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir tystysgrif dros dro ar eu cyfer;

(c)cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn unol ag Erthygl 21(5)(d) a (6);

(d)darparu manylion ysgrifenedig—

(i)os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;

(ii)os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu

(iii)os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo.

Rhoi tystysgrifau a thystysgrifau dros dro

11.—(1Rhaid i dystysgrif neu dystysgrif dros dro bennu’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y’i rhoddwyd ar eu cyfer.

(2Ni chaniateir rhoi tystysgrif neu dystysgrif dros dro mewn perthynas â gweithrediad, categori o anifail ac (os yw’n briodol) math o gyfarpar onid yw—

(a)yn achos tystysgrif, y dystiolaeth o hyfforddiant ac arholi a gyflwynwyd gyda’r cais am y dystysgrif yn ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar; neu

(b)yn achos tystysgrif dros dro, y cwrs hyfforddi y cofrestrodd y ceisydd arno yn darparu hyfforddiant sy’n ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar.

(3Bydd tystysgrifau neu dystysgrifau dros dro a roddir yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Aelod-wladwriaeth arall o’r Undeb Ewropeaidd, ar gyfer gweithrediadau y mae tystysgrif neu dystysgrif dros dro yn ofynnol ar eu cyfer yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yng Nghymru fel pe baent yn dystysgrifau neu dystysgrifau dros dro a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.

PENNOD 2Trwyddedau

Gofyniad i gael trwydded

12.  Yn ddarostyngedig i reoliadau 14 a 23(2), ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 13 ac eithrio o dan drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, a hynny i’r graddau a awdurdodir gan y drwydded honno.

Gweithrediadau y mae trwydded yn ofynnol ar eu cyfer

13.  Y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 12 yw unrhyw rai o’r gweithrediadau canlynol a gyflawnir yn rhywle ac eithrio mewn lladd-dy—

(a)gweithrediad a bennir yn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (f) o Erthygl 7(2), a gyflawnir at y dibenion a bennir yn Erthygl 10 (bwyta gartref yn breifat), gan berson ac eithrio perchennog yr anifail;

(b)gweithrediad a bennir yn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (f) o Erthygl 7(2), a gyflawnir at y dibenion a bennir yn Erthygl 11 (cyflenwi yn uniongyrchol feintiau bach o ddofednod, cwningod ac ysgyfarnogod);

(c)mewn perthynas â lladd anifeiliaid carngaled, cilgnowyr, moch, cwningod, dofednod neu ratidau ac eithrio ar gyfer eu bwyta gan bobl—

(i)ffrwyno anifeiliaid at y diben o’u stynio;

(ii)stynio anifeiliaid;

(iii)asesu effeithiolrwydd stynio;

(iv)gefynnu neu godi anifeiliaid a styniwyd, ac eithrio dofednod;

(v)gwaedu anifeiliaid byw; a

(d)pithio anifail a styniwyd ac asesu effeithiolrwydd pithio.

Eithriadau i’r gofyniad am drwydded

14.  Nid yw rheoliad 12 yn gymwys i unrhyw berson—

(a)sy’n dal tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, ar yr amod bod cwmpas y dystysgrif yn cynnwys y gweithrediad a gyflawnir;

(b)sy’n gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, person sy’n dal tystysgrif neu drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, ar yr amod bod cwmpas y dystysgrif neu’r drwydded yn cynnwys y gweithrediad a gyflawnir;

(c)sy’n gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, milfeddyg;

(d)yn ymgymryd â lladd anifail mewn argyfwng;

(e)yn lladd anifail at ddiben ac eithrio diben masnachol;

(f)at ddibenion heblaw bwyta gan bobl, yn lladd anifail yn y maes gan ddefnyddio bwled rydd;

(g)at ddibenion heblaw bwyta gan bobl, yn lladd dofednod drwy ysigo gyddfau (pan nad oes dulliau eraill ar gael ar gyfer stynio) mewn mangre sy’n ffurfio rhan o ddaliad amaethyddol y megir y dofednod ynddi;

(h)yn lladd anifail at y diben o ddiboblogi;

(i)yn lladd cywion neu embryonau dros ben mewn gwastraff deorfa;

(j)sy’n filfeddyg yn gweithredu wrth ymarfer ei broffesiwn; neu

(k)yn lladd anifail mewn amgylchiadau sydd y tu allan i gwmpas y Rheoliad UE yn rhinwedd Erthygl 1(3)(a).

Trwyddedau

15.  Rhaid i’r awdurdod cymwys roi a chofrestru trwydded—

(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 16; a

(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad trwydded.

Amodau ar gyfer trwydded

16.  Rhaid i’r ceisydd—

(a)peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed;

(b)darparu manylion ysgrifenedig—

(i)os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;

(ii)os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu

(iii)os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo;

(c)darparu tystiolaeth ysgrifenedig fod milfeddyg awdurdodedig wedi asesu’r ceisydd ac o’r farn bod y ceisydd—

(i)yn gymwys i gyflawni’r gweithrediad mewn perthynas â’r categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar y ceisir trwydded ar eu cyfer heb achosi poen, trallod na dioddefaint diangen i anifail, a

(ii)bod ganddo wybodaeth ddigonol o ddarpariaethau’r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol sy’n ymwneud â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir trwydded ar eu cyfer; a

(d)talu ffi yn unol â rheoliad 24.

Rhoi trwyddedau

17.—(1Rhaid i drwydded bennu’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar y’i rhoddwyd ar eu cyfer.

(2Ni chaniateir rhoi trwydded mewn perthynas â gweithrediad, categori o anifail ac (os yw’n briodol) math o gyfarpar onid yw’r asesiad y cyfeirir ato yn rheoliad 16(c) yn ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar.

(3Bydd tystysgrifau neu drwyddedau a roddir yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ar gyfer gweithrediadau y mae’n rhaid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yng Nghymru fel pe baent yn drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.

PENNOD 3Darpariaethau gweinyddol

Gwrthod rhoi tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded

18.—(1Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod rhoi tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded os bodlonir ef—

(a)bod y ceisydd wedi methu â bodloni unrhyw un o’r amodau yn rheoliadau 8, 10 neu 16 (yn ôl fel y digwydd); neu

(b)nad yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded.

(2Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a

(b)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded

19.—(1Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro (gan gynnwys tystysgrif neu dystysgrif dros dro a roddwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall) neu drwydded os bodlonir ef—

(a)bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

(b)nad yw’r deiliad bellach yn berson addas a phriodol i ddal y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded;

(c)nad yw’r deiliad yn gymwys, neu nad yw bellach yn gymwys, i gyflawni’r gweithrediadau a awdurdodir gan y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded; neu

(d)bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi ei gollfarnu am drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid.

(2Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad;

(b)datgan pa bryd y mae’r ataliad dros dro neu’r dirymiad yn cael effaith ac, yn achos ataliad dros dro, datgan ar ba ddyddiad neu ddigwyddiad y bydd yn peidio â chael effaith; ac

(c)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

(3Rhaid i unrhyw berson, yr ataliwyd dros dro neu y dirymwyd ei dystysgrif, ei dystysgrif dros dro neu’i drwydded, boed yr ataliad dros dro neu’r dirymiad hwnnw yn destun apêl yn unol â rheoliad 22 ai peidio, ildio’r dystysgrif, tystysgrif dros dro neu’r drwydded honno i’r awdurdod cymwys o fewn 14 diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad sy’n rhoi gwybod i’r person hwnnw am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad.

Addasu tystysgrif neu drwydded

20.  Rhaid i’r awdurdod cymwys addasu tystysgrif neu drwydded mewn perthynas â gweithrediad, y categori o anifail neu (pan fo’n briodol) y math o gyfarpar yn unol â chais gan geisydd—

(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 8 neu 16 (yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â’r addasiad; a

(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif neu drwydded, fel y’i haddesir.

Gwrthod addasu tystysgrif neu drwydded

21.—(1Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod addasu tystysgrif neu drwydded os bodlonir ef—

(a)bod y ceisydd wedi methu â bodloni unrhyw un o’r amodau yn rheoliad 8 neu 16 (yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â’r addasiad; neu

(b)nad yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif neu drwydded, fel y’i haddesid.

(2Rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a

(b)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Apelau

22.—(1Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad yr awdurdod cymwys i wrthod, atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded, neu wrthod addasu tystysgrif neu drwydded, apelio yn erbyn y penderfyniad.

(2Mae’r hawl i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf.

(3Ni fydd penderfyniad i atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded yn cael ei atal dros dro tra bo apêl yn yr arfaeth, oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorchymyn yn wahanol.

(4Yn dilyn apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf naill ai wrthdroi neu gadarnhau’r penderfyniad, gydag addasiadau neu hebddynt.

Trwyddedau LlACL

23.—(1Pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, bydd trwydded LlACL a oedd yn parhau mewn grym yn union cyn 20 Mai 2014 yn parhau mewn bodolaeth fel cymhwyster cyfwerth â thystysgrif yn unol ag Erthygl 21(7).

(2Caiff deiliad trwydded LlACL gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 neu 13 heb ddal tystysgrif neu drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys ar yr amod bod y deiliad trwydded LlACL, erbyn 8 Rhagfyr 2015—

(a)yn cofrestru’r drwydded LlACL gyda’r awdurdod cymwys, fel tystysgrif; a

(b)yn talu ffi yn unol â rheoliad 24.

Ffioedd

24.—(1Mewn perthynas â chais o fath a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r Tabl, rhaid i’r ceisydd dalu i’r Asiantaeth Safonau Bwyd y ffi a bennir yng ngholofn 2 mewn perthynas â’r math hwnnw o gais.

Tabl

Colofn 1

Math o gais

Colofn 2

Ffi (£)

Cais am dystysgrif25
Cais am gofrestru trwydded LlACL fel tystysgrif25
Cais am addasu tystysgrif8
Cais am drwydded25
Cais am addasu trwydded8

(2Mewn perthynas ag asesiad o dan reoliad 16(c) gan filfeddyg awdurdodedig sy’n arfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, rhaid i’r ceisydd dalu ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff (3) i Weinidogion Cymru.

(3Y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw—

(a)£76 am yr hanner awr neu ran o hanner awr cyntaf a dreulir gan filfeddyg awdurdodedig ar asesiad, gan gynnwys amser a dreulir ar y ddogfennaeth gysylltiedig;

(b)£21 am bob hanner awr neu ran o hanner awr ychwanegol a dreulir gan filfeddyg awdurdodedig ar asesiad, gan gynnwys amser a dreulir ar y ddogfennaeth gysylltiedig; ac

(c)gwir gost teithio, llety ac unrhyw dreuliau eraill yr eir iddynt yn rhesymol gan y milfeddyg awdurdodedig.

RHAN 3Rheolau cenedlaethol

Gofynion ychwanegol ar gyfer lladd-dai

25.  Mae Atodlen 1 yn cael effaith.

Gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid ac eithrio mewn lladd-dai

26.  Mae Atodlen 2 yn cael effaith.

Gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid yn unol â defodau crefyddol

27.  Mae Atodlen 3 yn cael effaith.

Lladd anifeiliaid ac eithrio’r rhai y mae’r Rheoliad UE yn gymwys iddynt

28.  Mae Atodlen 4 yn cael effaith.

RHAN 4Rhanddirymu

Gweithrediadau diboblogi

29.  Pan fo’r awdurdod cymwys yn caniatáu rhanddirymiad o dan Erthygl 18(3), rhaid i’r awdurdod cymwys gyhoeddi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad hwnnw, y caniateir—

(a)ei wneud yn ddarostyngedig i amodau;

(b)ei gyhoeddi ym mha bynnag fodd yr ystyria’r awdurdod cymwys yn briodol; ac

(c)ei ddiwygio, ei atal dros dro neu ei ddirymu mewn ysgrifen.

RHAN 5Troseddau a chosbau

Troseddau

30.—(1Cyflawnir trosedd os yw person yn torri, neu’n peri neu’n caniatáu i berson dorri—

(a)rheoliad 5(1) neu (2) (gofyniad i gael tystysgrif neu dystysgrif dros dro);

(b)rheoliad 12 (gofyniad i gael trwydded);

(c)unrhyw un o baragraffau 3 i 32 o Atodlen 1 (gofynion ychwanegol ar gyfer lladd-dai);

(d)unrhyw un o baragraffau 4 i 44 o Atodlen 2 (gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid ac eithrio mewn lladd-dai);

(e)unrhyw un o baragraffau 2 i 8 o Atodlen 3 (gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid yn unol â defodau crefyddol);

(f)paragraff 4 neu 5 o Atodlen 4 (lladd anifeiliaid ac eithrio’r rhai y mae’r Rheoliad UE yn gymwys iddynt);

(g)darpariaeth o’r Rheoliad UE a bennir yn Atodlen 5, ac eithrio pan nad oes angen cydymffurfio â’r ddarpariaeth, yn rhinwedd—

(i)esemptiad neu ddarpariaeth drosiannol a bennir yn y Rheoliad UE; neu

(ii)rhanddirymiad a ganiateir gan yr awdurdod cymwys o dan Erthygl 18(3) mewn perthynas â gweithrediad diboblogi; neu

(h)tan 8 Rhagfyr 2019, unrhyw un o baragraffau 1 i 7 o Atodlen 8, i’r graddau y maent yn gymwys yn rhinwedd rheoliad 45 (darpariaeth drosiannol: lladd-dai).

(2Cyflawnir trosedd os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi o dan reoliad 38.

Troseddau rhwystro

31.  Mae’n drosedd—

(a)rhwystro’n fwriadol unrhyw berson sy’n ymgymryd â gweithredu’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

(b)heb esgus rhesymol, i fethu â rhoi unrhyw gymorth neu wybodaeth i unrhyw berson o’r fath sy’n gofyn yn rhesymol am y cyfryw gymorth neu wybodaeth;

(c)rhoi i unrhyw berson o’r fath unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol; neu

(d)methu â dangos dogfen neu gofnod i unrhyw berson o’r fath sy’n gofyn am weld y cyfryw ddogfen neu gofnod.

Troseddau gan gyrff corfforaethol

32.—(1Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu’n briodoladwy i unrhyw esgeulustod, ar ran unrhyw un o’r canlynol—

(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff corfforaethol, neu

(b)person a oedd yn honni gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd.

(2Ym mharagraff (1) ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.

Cosbau

33.—(1Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 30 neu 31, yn dilyn collfarn ddiannod, yn atebol i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, ac eithrio fel y pennir ym mharagraff (2).

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 30(1)(g) mewn perthynas â thorri Erthygl 3, yn dilyn collfarn ddiannod, yn atebol i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu ei garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na thri mis.

RHAN 6Gorfodi

Arolygwyr

34.  Caiff yr awdurdod cymwys neu awdurdod lleol benodi arolygwyr at y diben o orfodi’r Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn.

Pŵer i fynd i mewn i fangreoedd

35.—(1Caiff arolygydd, ar ôl rhoi cyfnod rhesymol o rybudd, fynd i mewn i unrhyw fangre ar adeg resymol o’r dydd at y diben o weithredu neu orfodi’r Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn; ac yn y Rhan hon, mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad, sied, lloc, daliedydd neu gerbyd o unrhyw ddisgrifiad.

(2Nid yw’r gofyniad i roi rhybudd yn gymwys—

(a)pan fo’r gofyniad wedi ei hepgor gan y meddiannydd;

(b)pan fo ymdrechion rhesymol i gytuno ar apwyntiad wedi methu;

(c)pan fo arolygydd yn amau’n rhesymol y methir â chydymffurfio â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

(d)pan fo arolygydd yn credu’n rhesymol y byddai rhoi rhybudd yn tanseilio’r diben o fynd i mewn; neu

(e)mewn argyfwng, pan yw’n ofynnol mynd i mewn ar frys.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat, oni roddir yr hawl i fynd i mewn gan warant a roddwyd o dan reoliad 36.

(4Rhaid i arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen awdurdodi sydd wedi ei dilysu’n briodol.

(5Rhaid i arolygydd sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag adael y fangre honno wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn mynd i mewn iddi.

(6Caiff arolygydd fynd i mewn yng nghwmni’r canlynol—

(a)pa bynnag bersonau eraill yr ystyria’r arolygydd yn angenrheidiol; a

(b)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd.

Gwarantau

36.—(1Caiff ynad heddwch, drwy warant lofnodedig, ganiatáu i arolygydd fynd i mewn i fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen, os bodlonir yr ynad heddwch, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—

(a)bod seiliau rhesymol ar gyfer mynd i mewn i’r fangre honno at y diben o orfodi’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; a

(b)bod unrhyw un o’r amodau ym mharagraff (2) wedi ei fodloni.

(2Yr amodau yw—

(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;

(b)byddai gofyn am ganiatâd i fynd i mewn i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn tanseilio’r diben o fynd i mewn;

(c)ei bod yn ofynnol mynd i mewn ar frys; neu

(d)bod y fangre’n wag neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.

(3Mae gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn ddilys am dri mis.

Pŵer i arolygu ac ymafael

37.—(1Caiff arolygydd, a aeth i mewn i fangre at y dibenion o weithredu a gorfodi’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, wneud y canlynol at y dibenion hynny—

(a)cyflawni unrhyw archwiliad, ymchwiliad neu brawf;

(b)gwneud unrhyw ymholiadau, arsylwi ar unrhyw weithrediad neu broses, gwneud unrhyw recordiadau neu dynnu unrhyw ffotograffau;

(c)arolygu a chwilio’r fangre;

(d)cymryd samplau (a’u hanfon i’w profi mewn labordy) o unrhyw anifail, carcas neu ran o garcas;

(e)ymafael mewn unrhyw garcas neu ran o garcas, a chadw’r cyfryw ar gyfer archwilio, ymholi neu brofi ymhellach;

(f)ymafael mewn unrhyw gyfarpar neu offeryn a’i gadw ar gyfer archwilio, ymholi neu brofi ymhellach;

(g)cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig, ac arolygu a gwirio’r data sydd arnynt, a’u gweithrediad;

(h)ymafael mewn unrhyw gyfrifiaduron a chyfarpar cysylltiedig, at y diben o gopïo data; ond hynny yn unig os yw’r arolygydd yn amau’n rhesymol fod trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni, ac ar yr amod y dychwelir y cyfrifiaduron a’r cyfarpar cysylltiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol;

(i)ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfen neu gofnod ac arolygu a gwneud copi neu echdynnu o’r cyfryw ddogfen neu gofnod; a

(j)ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn darparu pa bynnag gymorth, gwybodaeth, cyfleusterau neu gyfarpar sy’n rhesymol.

(2Rhaid i arolygydd—

(a)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ddarparu i’r person sy’n ymddangos yn gyfrifol am unrhyw eitemau yr ymafaelir ynddynt gan yr arolygydd o dan baragraff (1), dderbynneb ysgrifenedig sy’n nodi’r eitemau hynny; a

(b)cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl penderfynu nad oes angen yr eitemau hynny mwyach, eu dychwelyd, ac eithrio rhai sydd i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys.

(3Pan fo arolygydd wedi ymafael mewn eitemau o dan baragraff (1) i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys ac yna—

(a)penderfynir yn ddiweddarach—

(i)na ddygir achos llys; neu

(ii)nad oes angen yr eitemau hynny bellach fel tystiolaeth mewn achos llys; neu

(b)cwblhawyd yr achos llys ac ni wnaed gorchymyn gan y llys mewn perthynas â’r eitemau hynny,

rhaid i’r arolygydd ddychwelyd yr eitemau cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Hysbysiadau gorfodi

38.—(1Hysbysiad gorfodi yw hysbysiad ysgrifenedig sydd—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol bod person yn cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

(b)yn ei gwneud yn ofynnol bod person yn lleihau’r gyfradd weithredu i ba bynnag raddau a bennir yn yr hysbysiad, hyd nes bo’r person hwnnw wedi cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; neu

(c)yn gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd, proses neu weithrediad, neu ddefnyddio cyfleusterau neu gyfarpar, a bennir yn yr hysbysiad, hyd nes bo’r person hwnnw wedi cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn.

(2Caiff arolygydd sydd o’r farn bod person wedi torri, neu ei fod yn torri, y Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, gyflwyno hysbysiad gorfodi i’r person hwnnw.

(3Rhaid i hysbysiad gorfodi—

(a)datgan bod yr arolygydd o’r farn honno;

(b)datgan dyddiad ac amser cyflwyno’r hysbysiad;

(c)enwi derbynnydd yr hysbysiad;

(d)pennu’r materion sy’n cyfansoddi’r toriad;

(e)pennu’r camau y mae’n rhaid eu cymryd i unioni’r toriad;

(f)pennu o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid cymryd y camau hynny; ac

(g)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad.

(4Rhaid i berson y cyflwynir hysbysiad gorfodi iddo gydymffurfio â’r hysbysiad ar gost y person hwnnw ei hunan.

(5Os na chydymffurfir â hysbysiad gorfodi, caiff yr arolygydd drefnu i gydymffurfio â’r hysbysiad ar gost y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.

(6Rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad cwblhau os bodlonir yr arolygydd, ar ôl cyflwyno’r hysbysiad gorfodi, fod y person wedi cymryd y camau a bennwyd yn yr hysbysiad ar gyfer unioni’r toriad.

(7Os digwydd i arolygydd beidio â chael ei fodloni fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (6), caiff yr arolygydd, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod cyflwyno hysbysiad cwblhau, a rhaid i’r hysbysiad—

(a)rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a

(b)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

(8Mae hysbysiad gorfodi yn peidio â chael effaith pan ddyroddir hysbysiad cwblhau.

(9Caiff arolygydd, ar unrhyw adeg, mewn ysgrifen, dynnu’n ôl neu amrywio hysbysiad gorfodi.

Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi

39.—(1Caiff person a dramgwyddwyd gan—

(a)penderfyniad arolygydd i gyflwyno hysbysiad gorfodi; neu

(b)penderfyniad arolygydd i wrthod dyroddi hysbysiad cwblhau,

apelio yn erbyn y penderfyniad.

(2Mae’r hawl i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf.

(3Ni fydd hysbysiad gorfodi yn cael ei atal dros dro tra bo apêl yn yr arfaeth, oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorchymyn yn wahanol.

(4Yn dilyn apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf naill ai ddiddymu neu gadarnhau’r hysbysiad gorfodi, gydag addasiadau neu hebddynt, neu wneud pa bynnag orchymyn yr ystyria’n briodol ynghylch gwrthodiad i gyflwyno hysbysiad cwblhau.

Pŵer awdurdod lleol i erlyn

40.  Caiff awdurdod lleol erlyn am unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn.

Terfyn amser ar gyfer erlyniadau

41.—(1Er gwaethaf adran 127(1) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(12), caiff llys ynadon roi unrhyw wybodaeth ar brawf sy’n ymwneud â throsedd o dan y Rheoliadau hyn os rhoddir yr wybodaeth gerbron—

(a)cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n cychwyn gyda dyddiad cyflawni’r drosedd; a

(b)cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n cychwyn gyda dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth a ystyrir yn ddigonol gan yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos.

(2At ddibenion paragraff (1)(b)—

(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd, ac yn datgan y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth o’r fath yn dystiolaeth derfynol o’r ffaith honno; a

(b)rhaid trin tystysgrif sy’n datgan y mater hwnnw ac yn honni ei bod wedi ei llofnodi felly fel pe bai wedi ei llofnodi felly, oni phrofir i’r gwrthwyneb.

RHAN 7Darpariaethau amrywiol

Hysbysiadau

42.—(1Caniateir rhoi unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol, neu yr awdurdodir, ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i unrhyw berson drwy—

(a)ei ddanfon i’r person;

(b)ei adael yng nghyfeiriad priodol y person; neu

(c)ei anfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw.

(2Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad o’r fath—

(a)yn achos corff corfforaethol, i swyddog y corff hwnnw; neu

(b)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, i bartner neu i berson sydd â rheolaeth ar, neu sy’n rheoli, busnes y bartneriaeth.

(3At ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(13) (cyflwyno dogfennau drwy’r post) yn y modd y’i cymhwysir i’r rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo yw—

(a)yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)yn achos person y cyflwynir hysbysiad iddo gan ddibynnu ar baragraff (2), cyfeiriad priodol y corff corfforaethol neu’r bartneriaeth dan sylw; a

(d)mewn unrhyw achos arall, y cyfeiriad olaf sy’n hysbys ar gyfer y person dan sylw.

(4Os yw person y mae hysbysiad i’w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn wedi pennu cyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiad o’r fath, rhaid trin y cyfeiriad hwnnw hefyd, at ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 yn y modd y’i cymhwysir i’r rheoliad hwn, fel cyfeiriad priodol y person hwnnw.

(5Os na ellir canfod enw neu gyfeiriad unrhyw feddiannydd mangre y mae hysbysiad i’w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad drwy ei adael mewn man amlwg ynghlwm wrth adeilad neu wrthrych yn y fangre.

(6Yn y rheoliad hwn—

(a)nid yw “corff corfforaethol” (“body corporate”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig; a

(b)mae cyfeiriadau at gyflwyno’n cynnwys cyfeiriadau at ymadroddion tebyg (megis rhoi neu anfon).

Diwygiadau canlyniadol ac atodol

43.  Mae Atodlen 6 (diwygiadau canlyniadol ac atodol) yn cael effaith.

Darpariaeth drosiannol: tystysgrifau

44.  Mae Atodlen 7 (darpariaethau trosiannol – tystysgrifau) yn cael effaith.

Darpariaeth drosiannol: lladd-dai (llunwedd, adeiladwaith a chyfarpar)

45.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â lladd-dy sy’n gweithredu yn union cyn 1 Ionawr 2013, ond nid yw’n gymwys mewn perthynas ag—

(a)unrhyw lunwedd neu adeiladwaith newydd mewn lladd-dy o’r fath (neu walfeydd cysylltiedig) a roddir ar waith ar ôl y dyddiad hwnnw; neu

(b)unrhyw gyfarpar newydd a ddefnyddir mewn lladd-dy o’r fath ac a roddir ar waith ar ôl y dyddiad hwnnw.

(2Mewn perthynas â lladd-dy y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, tan 8 Rhagfyr 2019—

(a)nid yw Erthygl 14(1) ac Atodiad II yn gymwys; a

(b)mae Atodlen 8 yn gymwys.

Dirymiadau

46.  Mae’r offerynnau a’r deddfiadau canlynol wedi eu dirymu mewn perthynas â Chymru—

(a)Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995(14);

(b)Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) (Diwygio) 1999(15);

(c)rheoliad 10(3) o Reoliadau Deddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) 2000(16) a Rhan 3 o Atodlen 8 i’r Rheoliadau hynny; a

(d)Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) (Diwygio) (Cymru) 2007(17).

Alun Davies

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

8 Ebrill 2014

Rheoliad 25

ATODLEN 1GOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER LLADD-DAI

RHAN 1Rhagarweiniol

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “anifail” (“animal”) yw anifeiliaid carngaled, cilgnowyr, moch, cwningod, dofednod neu ratidau.

Cwmpas

2.  Mae’r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â lladd anifeiliaid mewn lladd-dy.

RHAN 2Llunwedd, adeiladwaith a chyfarpar lladd-dai

Gofynion cyffredinol

3.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—

(a)bod gan y busnes gyfarpar a chyfleusterau addas ar gael at y diben o ddadlwytho anifeiliaid o foddion cludo;

(b)nad oes unrhyw ymylon neu allwthiadau miniog y gallai anifail ddod i gyffyrddiad â hwy;

(c)bod y man lladd wedi’i leoli mewn ffordd sy’n lleihau i’r eithaf yr angen i drin yr anifail ar unrhyw adeg cyn ei ladd;

(d)bod unrhyw offeryn, cyfarpar ffrwyno, cyfarpar arall neu osodiad a ddefnyddir ar gyfer stynio neu ladd, wedi eu dylunio, adeiladu a’u cynnal fel eu bod yn hwyluso stynio neu ladd yn gyflym ac effeithiol; ac

(e)bod unrhyw ddiffyg a ganfyddir mewn cyfarpar wrth gefn ar gyfer stynio neu ladd yn cael ei unioni ar unwaith.

Anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynwysyddion

4.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—

(a)bod uchder a dyluniad y cyfarpar ar gyfer dadlwytho anifeiliaid, a ddanfonir rywfodd heblaw mewn cynwysyddion, yn addas at y diben hwnnw, gyda llawr gwrthlithro ac, os oes angen, ochrau diogelwch o boptu; a

(b)bod y rampiau ymadael a mynediad yn goleddfu cyn lleied ag y bo modd.

Gwalfeydd ac eithrio gwalfeydd mewn caeau

5.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—

(a)bod nifer digonol o lociau yn y lladd-dy i ddarparu gwalfeydd addas i’r anifeiliaid a’u diogelu rhag effeithiau amodau tywydd garw; a

(b)bod y gwalfeydd—

(i)wedi eu hawyru yn ddigonol er mwyn sicrhau y cedwir y tymheredd, lleithder cymharol yr aer a’r lefelau amonia o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i anifail, o ystyried yr eithafion tymheredd a lleithder y gellir eu disgwyl; a

(ii)bod ynddynt reseli, mansieri neu gyfarpar arall, digonol o ran nifer a maint i fwydo’r anifeiliaid a gaethiwir yn y gwalfeydd, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.

Gwalfeydd mewn caeau

6.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod gwalfa mewn cae—

(a)yn cael ei chynnal mewn cyflwr a fydd yn sicrhau na fydd anifail mewn perygl o niwed corfforol neu gemegol neu niwed arall i’w iechyd; a

(b)bod ynddi reseli, mansieri neu gyfarpar arall, digonol o ran nifer a maint i fwydo’r anifeiliaid a gaethiwir ynddi, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.

Llinellau gefynnu

7.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod mynediad hwylus at unrhyw linell gefynnu neu gyfarpar prosesu a ddefnyddir ar gyfer dofednod byw, ac at reolyddion unrhyw gyfarpar o’r fath.

Llociau stynio

8.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod lloc stynio, a ddefnyddir i ffrwyno anifeiliaid buchol llawn-dwf at y diben o’u stynio wedi ei adeiladu fel ei fod—

(a)yn caniatáu caethiwo un anifail ar y tro ynddo heb beri anghysur iddo;

(b)yn rhwystro anifail a gaethiwir ynddo rhag symud unrhyw bellter sylweddol ymlaen, yn ôl nac i’r ochr;

(c)yn cyfyngu ar symudiad pen anifail a gaethiwir ynddo, i ganiatáu stynio manwl gywir, a chaniatáu rhyddhau pen yr anifail ar unwaith ar ôl stynio’r anifail; a

(d)yn caniatáu mynediad dirwystr at dalcen anifail a gaethiwir ynddo.

Cyfleusterau ar gyfer ceffylau

9.  Os yw’r lladd-dy yn un y lleddir ceffylau ynddo, rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—

(a)y darperir ystafell neu gilfach ar wahân ar gyfer lladd ceffylau; a

(b)bod rhaid i walfa y caethiwir ceffyl ynddi gynnwys o leiaf un stâl rydd, a adeiladwyd mewn modd sy’n lleihau i’r eithaf y perygl y gall ceffyl anafu ei hunan neu unrhyw anifail arall a gaethiwir yn y walfa honno.

RHAN 3Gweithrediadau trin

Gofynion cyffredinol

10.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau—

(a)y diogelir pob anifail rhag effeithiau amodau tywydd garw ac y darperir awyru digonol ar ei gyfer;

(b)os yw anifail wedi dioddef tymheredd uchel mewn tywydd llaith, y defnyddir dull priodol i’w oeri;

(c)tra’n aros i ladd anifail sy’n sâl neu’n anabl, y cedwir yr anifail hwnnw ar wahân i unrhyw anifail nad yw’n sâl neu’n anabl; a

(d)nad oes neb yn llusgo anifail sydd wedi ei stynio neu’i ladd dros unrhyw anifail arall nad yw wedi ei stynio neu’i ladd.

Arolygu anifeiliaid

11.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau yr arolygir cyflwr pob anifail a stad ei iechyd, o leiaf bob bore a min nos, gan weithredwr y busnes neu gan berson cymwys sy’n gweithredu ar ran gweithredwr y busnes.

Anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint ac anifeiliaid nas diddyfnwyd

12.  Heb leihau effaith paragraff 1.5 ac 1.11 o Atodiad III, rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau bod anifeiliaid fel a ganlyn yn cael eu lladd ar unwaith—

(a)anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint wrth eu cludo neu ar ôl cyrraedd; a

(b)anifeiliaid sy’n rhy ifanc i gymryd bwyd anifeiliaid solet.

Anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynwysyddion

13.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu ddarparu gwalfeydd i anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynhwysydd sicrhau—

(a)y cymerir gofal i beidio â dychryn, cynhyrfu na cham-drin anifail;

(b)na chaiff unrhyw anifail ei droi ben i waered; ac

(c)nad eir ag unrhyw anifail i’r man lladd oni ellir ei ladd heb oedi.

Gyrru anifeiliaid

14.  Ni chaiff neb arwain na gyrru anifail dros dir neu lawr y mae ei natur neu’i gyflwr yn debygol o beri i’r anifail lithro neu syrthio.

Symud anifeiliaid â gofal

15.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod pob anifail yn cael ei symud â gofal, a phan fo angen, bod anifeiliaid yn cael eu harwain fesul un.

Offerynnau ar gyfer arwain anifeiliaid

16.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod unrhyw offeryn a fwriedir ar gyfer arwain anifail yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw’n unig, a hynny am gyfnodau byr yn unig, ac ar anifeiliaid unigol.

Gwalfeydd ar gyfer anifeiliaid

17.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â darparu gwalfeydd i anifeiliaid sicrhau y darperir bwyd iddynt mewn ffordd a fydd yn caniatáu i’r anifeiliaid fwydo heb darfu arnynt yn ddiangen.

RHAN 4Gweithrediadau ffrwyno

Gofyniad cyffredinol

18.  Ni chaiff neb stynio na lladd anifail heb ffrwyno’r anifail mewn modd priodol.

Ffrwyno anifeiliaid buchol

19.  Heb leihau cyffredinolrwydd paragraff 18, ni chaiff neb stynio na lladd anifail buchol llawn-dwf oni fydd yr anifail, ar yr adeg y’i stynir neu y’i lleddir, wedi ei gaethiwo mewn lloc stynio neu loc ffrwyno sydd (yn y ddau achos) mewn cyflwr gweithredol da.

Hongian dofednod

20.  Nid yw’r gwaharddiad yn Erthygl 15(3)(a) (hongian neu godi anifeiliaid sy’n ymwybodol) yn gymwys yn achos dofednod, y caniateir eu hongian ar gyfer eu stynio neu’u lladd, ar yr amod y cymerir camau priodol i sicrhau bod y dofednod wedi ymlacio’n ddigonol i’w stynio neu’u lladd yn effeithiol a heb oedi’n ormodol.

Llinellau gefynnu

21.—(1Ni chaiff neb weithredu llinell gefynnu oni bai—

(a)bod modd lleddfu unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint diangen y mae’n ymddangos y dioddefir gan ddofednod sy’n hongian o’r gefynnau, neu dynnu dofednod o’r gefynnau; a

(b)bod cyflymder gweithredu’r llinell gefynnu yn galluogi cyflawni unrhyw weithred neu weithrediad arfaethedig, ar neu mewn perthynas â’r dofednod sy’n hongian o’r llinell gefynnu, heb frysio’n ormodol a chan roi sylw priodol i les y dofednod.

(2Ni chaiff neb, mewn cysylltiad â stynio neu ladd dofednod, ddefnyddio llinell gefynnu, peiriant neu gyfarpar arall, oni ddefnyddir y cyfryw mewn cysylltiad â stynio neu ladd dofednod o’r math, y maint a’r pwysau y dyluniwyd y llinell gefynnu, y peiriant neu’r cyfarpar arall ar eu cyfer, ac eithrio mewn argyfwng pan ddefnyddir y cyfryw i leddfu dioddefaint.

Gweithrediadau ffrwyno

22.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio neu ladd anifail sicrhau bod anifail y bwriedir ei stynio neu’i ladd drwy weithredu dull mecanyddol neu drydanol ar y pen, yn cael ei gyflwyno mewn safle sy’n galluogi lleoli a gweithredu’r cyfarpar yn rhwydd, yn fanwl gywir ac am yr amser priodol.

RHAN 5Gweithrediadau stynio a lladd

Gofynion cyffredinol

23.—(1Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio neu ladd anifail sicrhau bod unrhyw offeryn, cyfarpar ffrwyno, gosodiad neu gyfarpar arall a ddefnyddir ar gyfer stynio neu ladd yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n hwyluso stynio neu ladd yn gyflym ac effeithiol.

(2Yn achos stynio syml, ni chaiff neb stynio anifail onid oes modd lladd yr anifail heb oedi.

Bolltau caeth treiddiol

24.—(1Ni chaiff neb ddefnyddio dyfais bollt gaeth dreiddiol i stynio anifail oni bai—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), y lleolir ac y defnyddir y ddyfais er mwyn sicrhau bod y bollt yn treiddio i mewn i gortecs yr ymennydd; a

(b)y defnyddir cetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.

(2Ni chaiff neb saethu anifail buchol y tu ôl i’r pen.

(3Ni chaiff neb saethu dafad neu afr y tu ôl i’r pen, oni fydd presenoldeb cyrn yn rhwystro defnyddio’r rhan uchaf neu ran flaen y pen, ac os felly caniateir ei saethu y tu ôl i’r pen, ar yr amod—

(a)y lleolir yr ergyd yn union y tu ôl i waelod y cyrn, gan anelu tuag at y geg; a

(b)y cychwynnir gwaedu o fewn 15 eiliad ar ôl saethu, neu y lleddir y ddafad neu’r afr drwy weithdrefn arall o fewn 15 eiliad ar ôl saethu.

(4Rhaid i berson sy’n defnyddio dyfais bollt gaeth wirio bod y follt wedi dychwelyd i’w lle yr holl ffordd ar ôl pob ergyd ac os nad yw’r follt wedi dychwelyd felly, rhaid iddo sicrhau na ddefnyddir y ddyfais honno drachefn hyd nes bo’r ddyfais wedi ei hatgyweirio.

Bolltau caeth anhreiddiol

25.  Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio bollt gaeth anhreiddiol ac eithrio gydag offeryn a leolir yn y man priodol ac a ddefnyddir gyda chetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.

Ergyd tarawol i’r pen

26.—(1Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio ergyd tarawol anfecanyddol i’r pen.

(2Ond nid yw’r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i gwningod, ar yr amod y cyflawnir y gweithrediad mewn ffordd sy’n peri bod y gwningen yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.

Stynio trydanol ac eithrio gyda bath dŵr

27.  Ni chaiff neb ddefnyddio electrodau i stynio anifail oni bai—

(a)y cymerir camau priodol i sicrhau cyswllt trydanol da; a

(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod yr anifail yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.

Stynio trydanol gan ddefnyddio bath dŵr

28.  Ni chaiff neb ddefnyddio styniwr bath dŵr i stynio dofednod oni bai—

(a)bod lefel y dŵr yn y bath dŵr wedi ei addasu i sicrhau cyswllt da â phen pob un o’r adar;

(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod y dofednod yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes byddant farw;

(c)os stynir grwpiau o ddofednod mewn bath dŵr, y cynhelir foltedd sy’n ddigonol i gynhyrchu cerrynt digon cryf i sicrhau y stynir pob un o’r adar;

(d)y cymerir camau priodol i sicrhau bod y cerrynt yn llifo’n effeithlon, sef yn benodol, bod cysylltiadau trydanol da;

(e)bod y styniwr bath dŵr yn ddigonol, o ran ei faint a’i ddyfnder, ar gyfer y math o ddofednod a stynir; ac

(f)bod person ar gael a fydd yn canfod a yw’r styniwr bath dŵr wedi stynio’r dofednod yn effeithiol ai peidio, ac os na fu’n effeithiol, a fydd naill ai’n stynio neu’n lladd y dofednod yn ddi-oed.

Dod i gysylltiad â nwy – moch

29.—(1Ni chaiff neb stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy oni roddir pob mochyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y lleddir y mochyn.

(2Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy sicrhau—

(a)bod y styniwr nwy, gan gynnwys unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i gludo mochyn drwy’r cymysgedd nwyon, wedi ei ddylunio, ei adeiladau a’i gynnal er mwyn—

(i)osgoi cywasgu brest y mochyn;

(ii)galluogi mochyn i barhau i sefyll hyd nes â’n anymwybodol; a

(iii)galluogi mochyn i weld moch eraill wrth iddo gael ei gludo yn y styniwr nwy;

(b)bod y styniwr nwy a’r mecanwaith cludo wedi eu goleuo’n ddigonol, er mwyn caniatáu i foch weld moch eraill neu eu hamgylchoedd;

(c)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);

(d)bod modd monitro’r moch sydd yn y styniwr nwy yn weledol;

(e)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;

(f)bod modd cyrraedd at unrhyw fochyn gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd; ac

(g)na chaniateir i unrhyw fochyn fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy.

(3Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad uniongyrchol â chymysgedd nwyon 1 (“carbon deuocsid mewn crynodiad uchel”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I sicrhau—

(a)nad oes yr un mochyn yn mynd i mewn i’r styniwr nwy os yw’r crynodiad a ddangosir o garbon deuocsid yn ôl cyfaint yn y cymysgedd nwyon yn gostwng islaw 80%; a

(b)unwaith yr â mochyn i mewn i’r styniwr nwy, y caiff ei gludo i’r pwynt yn y styniwr nwy sydd â’r crynodiad uchaf o’r cymysgedd nwyon o fewn 30 eiliad fan hwyaf.

Dod i gysylltiad â nwy – dofednod

30.—(1Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy oni roddir pob aderyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y lleddir yr aderyn.

(2Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad ag—

(a)cymysgedd nwyon 3 (“carbon deuocsid ynghyd â nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I, oni fydd y crynodiad o garbon deuocsid yn 30% yn ôl cyfaint neu’n is a’r crynodiad o ocsigen yn 2% yn ôl cyfaint neu’n is; neu

(b)cymysgedd nwyon 4 (“nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I oni fydd y crynodiad o ocsigen yn 2% yn ôl cyfaint neu’n is.

(3Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy sicrhau—

(a)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I a’r Atodlen hon);

(b)bod modd monitro’r dofednod sydd yn y styniwr nwy yn weledol;

(c)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;

(d)bod modd cyrraedd at unrhyw ddofednod gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;

(e)na chaniateir i unrhyw ddofednod fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy; ac

(f)na roddir unrhyw ddofednod mewn gefynnau cyn eu bod yn farw.

(4Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â chymysgedd nwyon 3 (“carbon deuocsid ynghyd â nwyon anadweithiol”) neu gymysgedd nwyon 4 (“nwyon adweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I, sicrhau, fel y bo’n briodol, na chaiff unrhyw aderyn fynd i mewn i’r styniwr nwy—

(a)os yw’r crynodiad o ocsigen a ddangosir yn uwch na 2% yn ôl cyfaint, ac eithrio y caiff y crynodiad o ocsigen godi yn achlysurol i grynodiad o ddim mwy na 5% yn ôl cyfaint am ddim mwy na 30 eiliad; neu

(b)os yw’r crynodiad o garbon deuocsid a ddangosir yn uwch na 30% yn ôl cyfaint.

Gwaedu neu bithio

31.—(1Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu neu bithio anifail a styniwyd yn syml sicrhau y caiff yr anifail ei waedu neu’i bithio yn ddi-oed ar ôl ei stynio yn syml.

(2Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu anifail a styniwyd yn syml sicrhau bod y gwaedu—

(a)yn gyflym, yn helaeth ac yn gyflawn; a

(b)wedi ei gwblhau cyn i’r anifail ddod yn ymwybodol drachefn.

(3Heb leihau cyffredinolrwydd paragraff 3.2 o Atodiad III, pan fo anifail yn cael ei waedu ar ôl ei stynio yn syml, ni chaiff neb beri na chaniatáu cyflawni unrhyw weithdrefn ddresio ychwanegol ar yr anifail na rhoi unrhyw ysgogiad trydanol iddo cyn bo’r gwaedu wedi dod i ben, a beth bynnag nid cyn diwedd cyfnodau fel a ganlyn—

(a)yn achos twrci neu ŵydd, cyfnod o ddim llai na 2 funud;

(b)yn achos unrhyw aderyn arall, cyfnod o ddim llai na 90 eiliad;

(c)yn achos anifeiliaid buchol, cyfnod o ddim llai na 30 eiliad; neu

(d)yn achos defaid, geifr, moch a cheirw, cyfnod o ddim llai nag 20 eiliad.

(4Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys i anifail sydd wedi ei bithio.

Ceffylau

32.  Ni chaiff neb ladd ceffyl—

(a)ac eithrio mewn ystafell neu gilfach a ddarparwyd ar gyfer lladd ceffylau yn unol â pharagraff 9(a);

(b)mewn ystafell neu gilfach sy’n cynnwys gweddillion ceffyl neu anifail arall; neu

(c)yng ngolwg unrhyw geffyl arall.

Rheoliad 26

ATODLEN 2GOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER LLADD ANIFEILIAID AC EITHRIO MEWN LLADD-DAI

RHAN 1Rhagarweiniol

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “anifail” (“animal”) yw anifeiliaid carngaled, cilgnowyr, moch, cwningod, dofednod neu ratidau.

Cwmpas

2.—(1Mae’r Atodlen hon yn gymwys i’r canlynol—

(a)lladd anifeiliaid mewn iard gelanedd;

(b)lladd dofednod neu gwningod ar y fferm at y diben o gyflenwi meintiau bach o gig gan y cynhyrchwr yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol neu i sefydliadau manwerthu lleol sy’n cyflenwi cig o’r fath yn uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol fel cig ffres yn unol ag Erthygl 11; ac

(c)lladd anifeiliaid ac eithrio mewn lladd-dy neu yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

(2Ond yn achos anifeiliaid a leddir yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-baragraff (1)(c)—

(a)nid yw Rhannau 2 a 3 yn gymwys; a

(b)nid yw Rhan 4 yn gymwys oni leddir yr anifail drwy waedu.

Esemptiadau

3.—(1Nid oes dim yn yr Atodlen hon sy’n gymwys i’r canlynol—

(a)lladd anifail mewn lladd-dy;

(b)lladd anifail at y diben o reoli clefyd, oni chaiff ei stynio gan follt gaeth dreiddiol neu drydanu, ac mewn achos o’r fath, rhaid stynio’r anifail yn unol â pharagraffau 34, 37 neu 38 o Ran 5 (yn ôl fel y digwydd);

(c)lladd mochyn, dafad neu afr gan berchennog yr anifail ar gyfer ei fwyta gartref yn breifat gan y perchennog, oni chaiff yr anifail ei ladd drwy waedu, ac mewn achos o’r fath, rhaid stynio’r anifail a’i waedu yn unol â Rhan 5; neu

(d)lladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed neu embryonau mewn gwastraff deorfa, ar yr amod y cydymffurfir â pharagraff 44.

(2Yn y paragraff hwn, ystyr “rheoli clefyd” (“disease control”) yw rheoli, gan yr awdurdod cymwys, unrhyw glefyd sy’n hysbysadwy gan neu o dan ddarpariaethau Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981(18) neu’n unol ag unrhyw rwymedigaeth UE.

RHAN 2Llunwedd, adeiladwaith a chyfarpar y fangre

Gofynion cyffredinol

4.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—

(a)bod gan y busnes gyfarpar a chyfleusterau addas ar gael at y diben o ddadlwytho anifeiliaid o foddion cludo;

(b)nad oes unrhyw ymylon neu allwthiadau miniog y gallai anifail ddod i gyffyrddiad â hwy;

(c)bod y man lladd wedi’i leoli mewn ffordd sy’n lleihau i’r eithaf yr angen i drin yr anifail ar unrhyw adeg cyn ei ladd;

(d)bod unrhyw offeryn, cyfarpar ffrwyno, cyfarpar arall neu osodiad a ddefnyddir ar gyfer stynio neu ladd, wedi eu dylunio, adeiladu a’u cynnal fel eu bod yn hwyluso stynio neu ladd yn gyflym ac effeithiol; ac

(e)bod unrhyw ddiffyg a ganfyddir mewn cyfarpar wrth gefn ar gyfer stynio neu ladd yn cael ei unioni ar unwaith.

Anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynwysyddion

5.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—

(a)bod uchder a dyluniad y cyfarpar ar gyfer dadlwytho anifeiliaid, a ddanfonir rywfodd heblaw mewn cynwysyddion, yn addas at y diben hwnnw, gyda llawr gwrthlithro ac, os oes angen, ochrau diogelwch o boptu;

(b)y gosodir ochrau, rheiliau neu fath arall o foddion diogelu ar unrhyw bontydd, rampiau a phomprennau, i atal anifeiliaid rhag syrthio oddi arnynt;

(c)bod y rampiau ymadael a mynediad yn goleddfu cyn lleied ag y bo modd; a

(d)bod pob tramwyfa wedi ei hadeiladu mewn ffordd sy’n lleihau i’r eithaf y risg o niwed i anifail, ac wedi ei threfnu gan roi sylw i dueddiadau heidiol yr anifeiliaid sy’n defnyddio’r tramwyfeydd.

Gwalfeydd ac eithrio gwalfeydd mewn caeau

6.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—

(a)bod nifer digonol o lociau yn y fangre i ddarparu gwalfeydd addas i’r anifeiliaid a’u diogelu rhag effeithiau amodau tywydd garw; a

(b)bod gan y gwalfeydd—

(i)llawr sy’n lleihau i’r eithaf y risg o lithro, ac nad yw’n achosi anaf i unrhyw anifail a ddaw i gyffyrddiad ag ef;

(ii)dull awyru digonol, sy’n sicrhau bod y tymheredd, lleithder cymharol yr aer a’r lefelau amonia yn cael eu cadw o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i anifail, o ystyried yr eithafion tymheredd a lleithder y gellir eu disgwyl;

(iii)os nad awyru naturiol yw’r dull awyru a ddarperir, dull wrth gefn ar gael i gynnal awyru digonol, i’w defnyddio pe bai’r ffynhonnell awyru wreiddiol yn diffygio;

(iv)goleuadau digonol (boed sefydlog neu gludadwy) fel y gellir arolygu anifeiliaid yn drwyadl ar unrhyw adeg;

(v)pan fo angen, cyfarpar addas ar gyfer rhwymo anifeiliaid; a

(vi)cyfleusterau yfed a rheseli, mansieri neu gyfarpar arall, digonol o ran nifer a maint i ddyfrhau a bwydo’r holl anifeiliaid a gaethiwir yn y gwalfeydd, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r holl anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.

Gwalfeydd mewn caeau

7.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod gwalfa mewn cae—

(a)os nad oes ynddi fannau cysgodi neu gysgod naturiol, ac os defnyddir hi yn ystod amodau tywydd garw, yn cynnwys amddiffynfa briodol i unrhyw anifail sy’n ei defnyddio rhag amodau o’r fath;

(b)wedi ei chynnal mewn cyflwr a fydd yn sicrhau na roddir unrhyw anifail mewn perygl o niwed corfforol neu gemegol, neu niwed arall i’w iechyd;

(c)pan fo angen, yn cynnwys cyfarpar addas ar gyfer rhwymo anifeiliaid;

(d)yn cynnwys goleuadau digonol (boed sefydlog neu gludadwy) sydd ar gael fel y gellir arolygu anifeiliaid yn drwyadl ar unrhyw adeg; ac

(e)yn cynnwys cyfleusterau yfed, a phan fo angen, rheseli, mansieri neu gyfarpar arall, digonol o ran nifer a maint i ddyfrhau a bwydo’r holl anifeiliaid a gaethiwir ynddi, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r holl anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.

Llinellau gefynnu

8.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—

(a)bod unrhyw linell gefynnu wedi’i dylunio a’i lleoli mewn ffordd sy’n cadw’r dofednod sy’n hongian ohoni yn glir o unrhyw rwystrau, ac yr ymyrrir cyn lleied ag y bo modd â’r adar;

(b)bod hyd cyfan y llinell gefynnu, hyd at y pwynt mynediad i’r tanc sgaldio, o fewn cyrraedd i unrhyw berson yn ddi-oed, fel y gellir rhoi sylw i unrhyw ddofednod ar unwaith pe bai angen; a

(c)bod modd cael mynediad yn hwylus at unrhyw linell gefynnu neu gyfarpar prosesu a ddefnyddir ar gyfer dofednod byw, ac at unrhyw reolyddion cyfarpar o’r fath.

Llociau stynio

9.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod lloc stynio a ddefnyddir i ffrwyno anifeiliaid buchol llawn-dwf at y diben o’u stynio wedi ei adeiladu fel ei fod——

(a)yn caniatáu caethiwo un anifail ar y tro ynddo heb beri anghysur iddo;

(b)yn rhwystro anifail a gaethiwir ynddo rhag symud unrhyw bellter sylweddol ymlaen, yn ôl nac i’r ochr;

(c)yn cyfyngu ar symudiad pen anifail a gaethiwir ynddo, i ganiatáu stynio manwl gywir, a chaniatáu rhyddhau pen yr anifail ar unwaith ar ôl stynio’r anifail; a

(d)yn caniatáu mynediad dirwystr at dalcen anifail a gaethiwir ynddo.

Cyfleusterau ar gyfer ceffylau

10.  Os yw iard gelanedd yn un y lleddir ceffylau ynddi, rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—

(a)y darperir ystafell neu gilfach ar wahân ar gyfer lladd ceffylau;

(b)bod rhaid i walfa y caethiwir ceffyl ynddi gynnwys o leiaf un stâl rydd, a adeiladwyd mewn modd sy’n lleihau i’r eithaf y perygl y gall unrhyw geffyl anafu ei hunan neu unrhyw anifail arall a gaethiwir yn y walfa honno.

RHAN 3Gweithrediadau trin

Gofynion cyffredinol

11.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau—

(a)y dadlwythir pob anifail cyn gynted ag y bo modd wedi iddo gyrraedd;

(b)y diogelir pob anifail rhag effeithiau amodau tywydd garw ac y darperir awyru digonol ar ei gyfer;

(c)os yw anifail wedi dioddef tymheredd uchel mewn tywydd llaith, y defnyddir dull priodol i’w oeri;

(d)tra’n aros i ladd anifail sy’n sâl neu’n anabl, y cedwir yr anifail hwnnw ar wahân i unrhyw anifail nad yw’n sâl neu’n anabl; ac

(e)nad oes neb yn llusgo anifail sydd wedi ei stynio neu’i ladd dros unrhyw anifail arall nad yw wedi ei stynio neu’i ladd.

Arolygu anifeiliaid

12.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau yr arolygir cyflwr pob anifail a stad ei iechyd, o leiaf bob bore a min nos, gan weithredwr y busnes neu gan berson cymwys sy’n gweithredu ar ran gweithredwr y busnes.

Anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint ac anifeiliaid nas diddyfnwyd

13.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau bod anifeiliaid fel a ganlyn yn cael eu lladd ar unwaith—

(a)anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint wrth eu cludo neu ar ôl cyrraedd; a

(b)anifeiliaid sy’n rhy ifanc i gymryd bwyd anifeiliaid solet.

Lladd mewn argyfwng

14.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu ddarparu gwalfeydd i anifeiliaid sicrhau na chaiff anifail sy’n analluog i gerdded ei lusgo i’r man lle y’i lleddir, ond yn hytrach—

(a)y’i lleddir yn y man lle mae’n gorwedd; neu

(b)os yw’n bosibl ac os na fyddai gwneud hynny yn achosi unrhyw boen neu ddioddefaint diangen i’r anifail, ei gludo ar droli neu lwyfan symudol i fan ar gyfer lladd mewn argyfwng, a’i ladd ar unwaith yno.

Anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynwysyddion

15.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu ddarparu gwalfeydd i anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynhwysydd sicrhau—

(a)y cymerir gofal i beidio â dychryn, cynhyrfu na cham-drin anifail;

(b)na chaiff unrhyw anifail ei droi ben i waered;

(c)os na leddir anifail ar unwaith wedi iddo gyrraedd, y darperir gwalfa iddo; ac

(d)nad eir ag unrhyw anifail i’r man lladd oni ellir ei ladd heb oedi.

Codi neu lusgo anifeiliaid

16.  Ni chaiff neb godi na llusgo anifail gerfydd ei ben, ei gyrn, ei glustiau, ei draed, ei gynffon, ei gnu neu unrhyw ran arall o’i gorff mewn ffordd a fydd yn achosi poen neu ddioddefaint diangen i’r anifail.

Gyrru anifeiliaid

17.  Ni chaiff neb arwain na gyrru anifail dros dir neu lawr y mae ei natur neu’i gyflwr yn debygol o beri i’r anifail lithro neu syrthio.

Symud anifeiliaid â gofal

18.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod pob anifail yn cael ei symud â gofal, a phan fo angen, bod anifeiliaid yn cael eu harwain fesul un.

Offerynnau ar gyfer arwain anifeiliaid

19.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod unrhyw offeryn a fwriedir ar gyfer arwain anifail yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw’n unig, a hynny am gyfnodau byr yn unig, ac ar anifeiliaid unigol.

Offerynnau ar gyfer gwneud i anifeiliaid symud

20.  Ni chaiff neb ddefnyddio offeryn sy’n rhoi sioc drydanol er mwyn gwneud i anifail symud, ac eithrio y caniateir defnyddio offeryn o’r fath, a ddyluniwyd at y diben o wneud i anifail symud, ar anifeiliaid buchol llawn-dwf a moch llawn-dwf sy’n gwrthod symud, ar yr amod—

(a)yr osgoir defnyddio offeryn o’r fath i’r graddau mwyaf posibl;

(b)na fydd y siociau’n parhau am fwy nag un eiliad ar y tro, y bydd bylchau digonol rhyngddynt ac na chânt eu defnyddio droeon yn olynol os nad yw’r anifail yn ymateb;

(c)bod digon o le o flaen yr anifail, i’r anifail symud iddo; a

(d)mai ar gyhyrau’r bedrain yn unig y rhoddir siociau o’r fath.

Trin anifeiliaid

21.  Ni chaiff neb—

(a)taro, na rhoi pwysau ar, unrhyw ran o gorff anifail sy’n arbennig o sensitif;

(b)gwasgu, troi neu dorri cynffon anifail, neu gydio yn llygad anifail; neu

(c)taro neu gicio anifail.

Gwalfeydd ar gyfer anifeiliaid

22.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â darparu gwalfeydd i anifeiliaid sicrhau—

(a)y darperir cyflenwad digonol o ddeunydd gorwedd addas ar gyfer pob anifail a gedwir mewn gwalfa dros nos, oni bai bod gan y walfa lawr slatiog neu rwyllog;

(b)bod dŵr yfed ar gael o gyfleusterau priodol drwy gydol yr amser i anifail a gedwir mewn gwalfa;

(c)y darperir swmp digonol o fwyd iachus i anifail wrth iddo gyrraedd y walfa a dwywaith y dydd wedi hynny, ac eithrio na fydd angen bwydo unrhyw anifail o fewn 12 awr i’r adeg pan leddir yr anifail;

(d)y darperir y bwyd mewn ffordd a fydd yn caniatáu i’r anifeiliaid fwydo heb darfu arnynt yn ddiangen;

(e)y gall anifail a gedwir mewn gwalfa heb ei rwymo orwedd, sefyll a throi rownd yn ddidrafferth; ac

(f)y gall anifail a gedwir wedi ei rwymo mewn gwalfa orwedd a sefyll yn ddidrafferth.

Trin anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion

23.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion sicrhau—

(a)bod unrhyw gynhwysydd y cludir anifail ynddo yn cael ei drin â gofal ac na chaiff ei daflu, ei ollwng na’i daro drosodd;

(b)pan fo modd, y llwythir ac y dadlwythir y cynhwysydd yn llorweddol ac yn fecanyddol;

(c)bod unrhyw anifail a ddanfonir mewn cynhwysydd sydd â gwaelod trydyllog neu hyblyg iddo yn cael ei ddadlwytho â gofal arbennig er mwyn osgoi unrhyw anaf; a

(d)pan fo’n briodol, y dadlwythir anifeiliaid o gynwysyddion fesul un.

Lladd anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion

24.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu drin anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion sicrhau—

(a)bod anifeiliaid a gludwyd mewn cynwysyddion yn cael eu lladd cyn gynted ag y bo modd; ac

(b)os digwydd unrhyw oedi cyn eu lladd ac os bydd angen—

(i)bod dŵr yfed ar gael i’r anifeiliaid o gyfleusterau addas drwy gydol yr amser; a

(ii)y darperir swmp digonol o fwyd iachus i anifail wrth iddo gyrraedd y walfa a dwywaith y dydd wedi hynny, ac eithrio na fydd angen bwydo unrhyw anifail o fewn 12 awr i’r adeg pan leddir yr anifail.

Dofednod sy’n aros i’w lladd yn y man lle’u prynir

25.  Rhaid i weithredwr y busnes, neu berson sydd â gofal o unrhyw fangre lle y cynigir dofednod ar werth, neu y dangosir dofednod ar gyfer eu gwerthu cyn eu lladd yn y fangre honno, sicrhau bod y dofednod, yn ddi-oed pan gyrhaeddant y fangre—

(a)yn cael eu rhoi mewn llety lle y gallant sefyll, troi rownd ac estyn eu hadenydd yn ddidrafferth; a

(b)y darperir cyflenwad digonol o fwyd iachus a dŵr yfed glân iddynt.

RHAN 4Gweithrediadau ffrwyno

Gofyniad cyffredinol

26.  Ni chaiff neb stynio na lladd anifail heb ffrwyno’r anifail mewn modd priodol.

Ffrwyno anifeiliaid buchol

27.  Heb leihau cyffredinolrwydd paragraff 26, ni chaiff neb stynio anifail buchol llawn-dwf mewn iard gelanedd oni fydd yr anifail, ar yr adeg y caiff ei stynio—

(a)wedi ei gaethiwo mewn lloc stynio sydd mewn cyflwr gweithredol da; neu

(b)gyda’i ben ynghlwm yn ddiogel, mewn safle sy’n galluogi stynio’r anifail heb achosi poen, trallod na dioddefaint diangen iddo.

Ceryntau trydanol

28.  Ni chaiff neb ddefnyddio cyfarpar stynio neu gyfarpar lladd trydanol nac unrhyw offeryn arall sy’n defnyddio cerrynt trydanol ar anifail—

(a)fel modd i ffrwyno’r anifail;

(b)fel modd i lonyddu’r anifail; neu

(c)ac eithrio’n unol â pharagraff 20 o’r Atodlen hon, fel modd i wneud i’r anifail symud.

Clymu coesau

29.  Ni chaiff neb glymu coesau anifail.

Hongian anifeiliaid

30.—(1Ni chaiff neb hongian anifail cyn ei stynio neu’i ladd.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys yn achos dofednod, y caniateir eu hongian ar gyfer eu stynio neu’u lladd, ar yr amod—

(a)y cymerir camau priodol i sicrhau bod y dofednod, ar yr adeg y cânt eu stynio neu’u lladd wedi ymlacio’n ddigonol i’w stynio neu’u lladd yn effeithiol a heb oedi’n ormodol; a

(b)na chaiff dofednod eu hongian am gyfnod hwy na 3 munud yn achos tyrcwn, neu 2 funud mewn achosion eraill, cyn eu stynio neu’u lladd.

Llinellau gefynnu

31.—(1Ni chaiff neb weithredu llinell gefynnu—

(a)oni chedwir y dofednod sy’n hongian ohoni yn glir o unrhyw wrthrych a allai achosi poen, trallod neu ddioddefaint diangen iddynt, gan gynnwys pan fo’u hadenydd ar led, hyd nes cânt eu stynio;

(b)onid oes modd lleddfu unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint diangen y mae’n ymddangos y dioddefir gan ddofednod sy’n hongian o’r gefynnau, neu dynnu dofednod o’r gefynnau; ac

(c)onid yw cyflymder gweithredu’r llinell gefynnu yn galluogi cyflawni unrhyw weithred neu weithrediad arfaethedig, ar neu mewn perthynas â’r dofednod sy’n hongian o’r llinell gefynnu, heb frysio’n ormodol a chan roi sylw priodol i les y dofednod.

(2Ni chaiff neb, mewn cysylltiad â stynio neu ladd dofednod, ddefnyddio llinell gefynnu, peiriant neu gyfarpar arall, oni ddefnyddir y cyfryw mewn cysylltiad â stynio neu ladd dofednod o’r math, y maint a’r pwysau y dyluniwyd y llinell gefynnu, y peiriant neu’r cyfarpar arall ar eu cyfer, ac eithrio mewn argyfwng pan ddefnyddir y cyfryw i leddfu dioddefaint.

Gweithrediadau ffrwyno

32.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio neu ladd anifail sicrhau bod anifail, y bwriedir ei stynio neu ei ladd drwy weithredu dull mecanyddol neu drydanol ar y pen, yn cael ei gyflwyno mewn safle sy’n galluogi lleoli a gweithredu’r cyfarpar yn hawdd, yn fanwl gywir ac am yr amser priodol.

RHAN 5Gweithrediadau stynio a lladd

Gofynion cyffredinol

33.—(1Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio neu ladd anifail sicrhau bod unrhyw offeryn, cyfarpar ffrwyno, gosodiad neu gyfarpar arall a ddefnyddir ar gyfer stynio neu ladd yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy’n hwyluso stynio neu ladd yn gyflym ac effeithiol.

(2Yn achos stynio syml, ni chaiff neb stynio anifail onid yw’n bosibl lladd yr anifail heb oedi.

Bolltau caeth treiddiol

34.—(1Ni chaiff neb ddefnyddio dyfais bollt gaeth dreiddiol i stynio anifail oni bai—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), y lleolir ac y defnyddir y ddyfais er mwyn sicrhau bod y bollt yn treiddio i mewn i gortecs yr ymennydd; a

(b)y defnyddir cetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.

(2Ni chaiff neb saethu anifail buchol y tu ôl i’r pen.

(3Ni chaiff neb saethu dafad neu afr y tu ôl i’r pen, oni fydd presenoldeb cyrn yn rhwystro defnyddio’r rhan uchaf neu ran flaen y pen, ac os felly caniateir ei saethu y tu ôl i’r pen, ar yr amod—

(a)y lleolir yr ergyd yn union y tu ôl i waelod y cyrn, gan anelu tuag at y geg; a

(b)y cychwynnir gwaedu o fewn 15 eiliad ar ôl saethu, neu y lleddir y ddafad neu’r afr drwy weithdrefn arall o fewn 15 eiliad ar ôl saethu.

(4Rhaid i berson sy’n defnyddio dyfais bollt gaeth wirio bod y follt wedi dychwelyd i’w lle yr holl ffordd ar ôl pob ergyd ac os nad yw’r follt wedi dychwelyd felly, rhaid iddo sicrhau na ddefnyddir y ddyfais honno drachefn hyd nes bo’r ddyfais wedi ei hatgyweirio.

Bolltau caeth anhreiddiol

35.  Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio bollt gaeth anhreiddiol ac eithrio gydag offeryn a leolir yn y man priodol ac a ddefnyddir gyda chetrisen neu bropelydd arall o’r cryfder priodol, yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, er mwyn cynhyrchu styniad effeithiol.

Ergyd tarawol i’r pen

36.—(1Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio ergyd tarawol anfecanyddol i’r pen.

(2Ond nid yw’r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i gwningod, ar yr amod y cyflawnir y gweithrediad mewn ffordd sy’n peri bod y gwningen yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.

Stynio trydanol ac eithrio gyda bath dŵr

37.—(1Ni chaiff neb ddefnyddio electrodau i stynio anifail oni bai—

(a)y cymerir camau priodol i sicrhau cyswllt trydanol da; a

(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod yr anifail yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.

(2Ni chaiff neb ddefnyddio electrodau i stynio anifail unigol oni fydd y cyfarpar—

(a)yn cynnwys dyfais glywadwy neu weladwy sy’n dangos am faint o amser y defnyddir y cyfarpar ar yr anifail; a

(b)wedi ei gysylltu â dyfais sy’n dangos y foltedd a’r cerrynt o dan lwyth ac wedi ei gosod lle y gall y gweithredwr ei gweld yn eglur.

Stynio trydanol gan ddefnyddio bath dŵr

38.  Ni chaiff neb ddefnyddio styniwr bath dŵr i stynio dofednod oni bai—

(a)bod lefel y dŵr yn y bath dŵr wedi ei addasu i sicrhau cyswllt da â phen pob un o’r adar;

(b)bod cryfder a pharhad y cerrynt a ddefnyddir yn peri bod y dofednod yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes byddant farw;

(c)os stynir grwpiau o ddofednod mewn bath dŵr, y cynhelir foltedd sy’n ddigonol i gynhyrchu cerrynt digon cryf i sicrhau y stynir pob un o’r adar;

(d)y cymerir camau priodol i sicrhau bod y cerrynt yn llifo’n effeithlon, sef yn benodol, bod cysylltiadau trydanol da;

(e)bod y styniwr bath dŵr yn ddigonol, o ran ei faint a’i ddyfnder, ar gyfer y math o ddofednod a stynir;

(f)nad yw’r styniwr bath dŵr yn gorlifo yn y fynedfa, neu, os na ellir osgoi gorlifiad, y cymerir camau i sicrhau nad oes unrhyw ddofednod yn cael sioc drydanol cyn eu stynio;

(g)bod yr electrod sydd o dan wyneb y dŵr yn ymestyn am hyd cyfan y bath dŵr; ac

(h)bod person ar gael a fydd yn canfod a yw’r styniwr bath dŵr wedi stynio’r dofednod yn effeithiol ai peidio, ac os na fu’n effeithiol, a fydd naill ai’n stynio neu’n lladd y dofednod yn ddi-oed.

Dod i gysylltiad â nwy – gwaharddiad

39.—(1Ni chaiff neb stynio anifail y tu allan i ladd-dy drwy ddod â’r anifail i gysylltiad â nwy.

(2Ond nid yw’r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys o ran stynio—

(a)moch mewn iard gelanedd, neu

(b)dofednod,

ar yr amod bod y moch neu’r dofednod yn cael eu stynio yn unol â pharagraffau 40 neu 41, fel y bo’n briodol.

Dod i gysylltiad â nwy – moch

40.—(1Ni chaiff neb stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy oni roddir pob mochyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y lleddir y mochyn.

(2Ni chaiff neb stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â chymysgedd nwyon 5 (“carbon monocsid ffynhonnell bur”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I.

(3Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad â nwy sicrhau—

(a)bod y styniwr nwy, gan gynnwys unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i gludo mochyn drwy’r cymysgedd nwyon, wedi ei ddylunio, ei adeiladau a’i gynnal er mwyn—

(i)osgoi anaf i unrhyw fochyn;

(ii)osgoi cywasgu brest unrhyw fochyn;

(iii)galluogi mochyn i barhau i sefyll hyd nes â’n anymwybodol; a

(iv)galluogi mochyn i weld moch eraill wrth iddo gael ei gludo yn y styniwr nwy;

(b)bod y styniwr nwy a’r mecanwaith cludo wedi eu goleuo’n ddigonol, er mwyn caniatáu i foch weld moch eraill neu eu hamgylchoedd;

(c)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);

(d)bod modd monitro’r moch sydd yn y styniwr nwy yn weledol;

(e)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;

(f)bod modd cyrraedd at unrhyw fochyn gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;

(g)bod y styniwr nwy yn cynnwys dyfeisiau ar gyfer—

(i)mesur ac arddangos yn ddi-dor y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I); a

(ii)rhoi signalau rhybuddio eglur, gweledol a chlywedol, os yw’r crynodiad nwyon yn gostwng islaw’r lefel sy’n ofynnol (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I); ac

(h)na chaniateir i unrhyw fochyn fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy.

(4Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio moch drwy ddod â’r moch i gysylltiad uniongyrchol â chymysgedd nwyon 1 (“carbon deuocsid mewn crynodiad uchel”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I sicrhau—

(a)nad oes yr un mochyn yn mynd i mewn i’r styniwr nwy os yw’r crynodiad a ddangosir o garbon deuocsid yn ôl cyfaint yn y cymysgedd nwyon yn gostwng islaw 80%; a

(b)unwaith yr â mochyn i mewn i’r styniwr nwy, y caiff ei gludo i’r pwynt yn y styniwr nwy sydd â’r crynodiad uchaf o’r cymysgedd nwyon o fewn 30 eiliad fan hwyaf.

Dod i gysylltiad â nwy – dofednod

41.—(1Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy—

(a)oni roddir pob aderyn mewn cysylltiad â’r nwy am gyfnod digon hir i sicrhau y’i lleddir; a

(b)mewn achos o stynio dofednod yn yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff 2(1)(c) o’r Atodlen hon, onid yw—

(i)y stynio yn digwydd yn y fangre lle cedwid y dofednod i gynhyrchu cig, wyau neu gynhyrchion eraill; a

(ii)perchennog y dofednod wedi hysbysu’r awdurdod cymwys mewn ysgrifen ymlaen llaw, o leiaf bum niwrnod gwaith cyn y dyddiad y mae’r stynio yn digwydd.

(2Ni chaiff neb stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad ag—

(a)cymysgedd nwyon 3 (“carbon deuocsid ynghyd â nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I, oni fydd y crynodiad o garbon deuocsid yn 20% yn ôl cyfaint neu’n is a’r crynodiad o ocsigen yn 5% yn ôl cyfaint neu’n is;

(b)cymysgedd nwyon 4 (“nwyon anadweithiol”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I oni fydd y crynodiad o ocsigen yn 2% yn ôl cyfaint neu’n is; neu

(c)cymysgedd nwyon 5 (“carbon monocsid ffynhonnell bur”) yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad I.

(3Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy sicrhau—

(a)bod y styniwr nwy, gan gynnwys unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i gludo dofednod drwy’r nwy, wedi ei ddylunio, ei adeiladau a’i gynnal i osgoi anaf i unrhyw aderyn;

(b)bod y styniwr nwy yn cynnwys cyfarpar i gynnal y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);

(c)bod modd monitro’r dofednod sydd yn y styniwr nwy yn weledol;

(d)bod modd fflysio’r styniwr nwy gydag aer atmosfferig, gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;

(e)bod modd cyrraedd at unrhyw ddofednod gyda chyn lleied o oedi ag y bo modd;

(f)bod y styniwr nwy yn cynnwys dyfeisiau ar gyfer—

(i)mesur ac arddangos yn ddi-dor y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I); a

(ii)rhoi signalau rhybuddio eglur, gweledol a chlywedol, os yw’r crynodiad nwyon yn gostwng islaw’r lefel sy’n ofynnol (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I);

(g)na chaniateir i unrhyw ddofednod fynd drwy’r styniwr nwy nac aros i mewn ynddo, ar unrhyw adeg pan fo’r signalau rhybuddio gweledol a chlywedol wedi’u hysgogi, neu pan fo unrhyw ddiffyg yng ngweithrediad y styniwr nwy;

(h)bod dofednod sy’n cyrraedd y styniwr nwy mewn crât cludo ac a dynnir allan o’r crât cyn mynd i mewn i’r styniwr nwy yn cael eu trin yn ofalus mewn ffordd nad yw’n achosi unrhyw boen, trallod na dioddefaint diangen; ac

(i)na wneir dim pellach i aderyn ar ôl ei roi mewn cysylltiad â’r nwy cyn cadarnhau bod yr aderyn yn farw.

(4Ni chaiff neb weithredu styniwr nwy a wnaed allan o sied dofednod neu adeilad arall a seliwyd ymlaen llaw ar gyfer stynio dofednod drwy ddod â’r dofednod i gysylltiad â nwy, ac eithrio o dan oruchwyliaeth uniongyrchol milfeddyg.

(5Yn is-baragraff (4), ystyr “sied dofednod” (“poultry shed”) yw adeilad a ddyluniwyd ac a adeiladwyd i letya dofednod, ac a seliwyd ymlaen llaw fel bod modd iddo gynnwys y cymysgeddau nwyon yn Nhabl 3 o Bennod I o Atodiad 1.

Gwaedu neu bithio

42.—(1Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu neu bithio anifail a styniwyd yn syml sicrhau y caiff yr anifail ei waedu neu’i bithio yn ddi-oed ar ôl ei stynio yn syml.

(2Rhaid i berson sy’n ymwneud â gwaedu anifail a styniwyd yn syml sicrhau bod y gwaedu—

(a)yn gyflym, yn helaeth ac yn gyflawn;

(b)wedi ei gwblhau cyn i’r anifail ddod yn ymwybodol drachefn; ac

(c)yn cael ei gyflawni drwy dorri’r ddwy rydweli garotid neu’r pibellau gwaed y maent yn tarddu ohonynt.

(3Pan fo anifail yn cael ei waedu ar ôl ei stynio yn syml, ni chaiff neb beri na chaniatáu cyflawni unrhyw weithdrefn ddresio ychwanegol ar yr anifail na rhoi unrhyw ysgogiad trydanol iddo cyn bo’r gwaedu wedi dod i ben, a beth bynnag nid cyn diwedd cyfnodau fel a ganlyn—

(a)yn achos twrci neu ŵydd, cyfnod o ddim llai na 2 funud;

(b)yn achos unrhyw aderyn arall, cyfnod o ddim llai na 90 eiliad;

(c)yn achos anifeiliaid buchol, cyfnod o ddim llai na 30 eiliad; neu

(d)yn achos defaid, geifr, moch a cheirw, cyfnod o ddim llai nag 20 eiliad.

(4Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys i anifail sydd wedi ei bithio.

(5Pan fo un person yn gyfrifol am stynio yn syml a phithio, neu am stynio yn syml, gefynnu, codi a gwaedu anifeiliaid ac eithrio adar neu gwningod, neu ar gyfer rhai o’r gweithrediadau hynny, rhaid i’r cyfryw weithrediadau gael eu cyflawni yn olynol gan y person hwnnw mewn perthynas ag un anifail, cyn bo’r person hwnnw’n eu cyflawni felly mewn perthynas ag anifail arall.

(6Pan fo un person yn gyfrifol am stynio yn syml a gwaedu adar neu gwningod, rhaid i’r gweithrediadau hynny gael eu cyflawni yn olynol gan y person hwnnw mewn perthynas ag un aderyn neu gwningen, cyn bo’r person hwnnw’n eu cyflawni felly mewn perthynas ag aderyn neu gwningen arall.

Ceffylau

43.  Ni chaiff neb ladd ceffyl mewn iard gelanedd—

(a)ac eithrio mewn ystafell neu gilfach a ddarparwyd at y diben hwnnw yn unol â pharagraff 10(a);

(b)mewn ystafell neu gilfach sy’n cynnwys gweddillion ceffyl neu anifail arall; neu

(c)yng ngolwg unrhyw geffyl arall.

Cywion dros ben mewn gwastraff deorfa

44.—(1Ni chaiff neb ladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed mewn gwastraff deorfa, ac eithrio drwy ddefnyddio un o’r dulliau canlynol—

(a)malu yn unol â Thabl 1 o Bennod I a Phennod II o Atodiad I;

(b)drwy ddod â’r cywion i gysylltiad â chymysgedd nwyon yn unol â Thabl 3 o Bennod I a Phennod II o Atodiad I a’r paragraff hwn; neu

(c)pan nad oes dull arall ar gael i’w lladd, ysigo gyddfau yn unol â Thabl 1 o Bennod I a Phennod II o Atodiad I.

(2Ni chaiff neb ladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed mewn gwastraff deorfa drwy ddod â’r cywion i gysylltiad â chymysgedd nwyon oni roddir y cywion yn y cymysgedd nwyon a’u bod yn aros yn y cymysgedd nwyon nes byddant farw.

(3Rhaid lladd cywion dros ben sy’n iau na 72 awr oed mewn gwastraff deorfa mor gyflym ag y bo modd.

Rheoliad 27

ATODLEN 3GOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER LLADD ANIFEILIAID YN UNOL Â DEFODAU CREFYDDOL

RHAN 1Rhagarweiniol

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

(a)ystyr “anifail buchol” (“bovine animal”) yw ych, eidion, buwch, heffer, bustach neu lo;

(b)ystyr “aderyn” (“bird”) yw twrci, ffowlyn domestig, iâr gini, hwyaden, gŵydd, neu sofliar;

(c)ystyr “lladd yn unol â defodau crefyddol” (“killing in accordance with religious rites”) yw lladd heb achosi dioddefaint diangen—

(i)yn y dull Iddewig (Shechita) ar gyfer bwyd Iddewon gan Iddew a drwyddedwyd gan y Comisiwn Rabinaidd ac sy’n dal tystysgrif at y diben hwnnw, neu

(ii)yn y dull Mwslimaidd (Halal) ar gyfer bwyd Mwslimiaid gan Fwslim sy’n dal tystysgrif at y diben hwnnw.

Gwaharddiad cyffredinol

2.—(1Ni chaiff neb ladd anifail yn unol â defodau crefyddol heb ei stynio ymlaen llaw, onid yw’r anifail yn ddafad, gafr, anifail buchol neu aderyn a leddir mewn lladd-dy yn unol â’r Atodlen hon.

(2Nid oes dim yn yr Atodlen hon sy’n gymwys i ladd anifeiliaid yn unol â defodau crefyddol pan fo’r anifeiliaid wedi eu stynio cyn eu lladd, ond mewn achosion o’r fath, rhaid ffrwyno a stynio’r anifail yn unol â’r Rheoliad UE ac Atodlen 1.

RHAN 2Defaid, geifr ac anifeiliaid buchol

Ffrwyno anifeiliaid buchol llawn-dwf

3.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff neb ladd anifail buchol llawn-dwf yn unol â defodau crefyddol mewn lladd-dy heb stynio’r anifail ymlaen llaw, oni chaiff yr anifail ei ffrwyno ar ei ben ei hunan ac ar ei sefyll mewn lloc ffrwyno a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod cymwys ac y bodlonwyd yr awdurdod cymwys ei fod wedi ei osod mewn modd sy’n sicrhau y bydd yn gweithredu’n effeithlon.

(2Ni chaiff yr awdurdod cymwys roi cymeradwyaeth o dan is-baragraff (1) oni fodlonir yr awdurdod cymwys y gall maint a dyluniad y lloc a’r modd y gellir ei weithredu ddiogelu anifail buchol llawn-dwf rhag dioddef poen, dioddefaint, aflonyddwch, anafiadau neu gleisiau diangen pan gaethiwir yr anifail ynddo neu wrth fynd i mewn iddo, ac yn benodol, oni fodlonir yr awdurdod cymwys fod y lloc—

(a)yn cynnwys modd effeithiol i ffrwyno anifail buchol a gaethiwir ynddo (ynghyd ag atalydd addas ar gyfer y pen, at y diben hwnnw);

(b)yn cynnwys modd i gynnal pwysau’r anifail buchol yn ystod ei ladd ac yn dilyn hynny;

(c)yn caniatáu caethiwo un anifail buchol ar y tro ynddo, heb achosi anghysur i’r anifail; a

(d)yn rhwystro anifail buchol rhag symud unrhyw bellter sylweddol ymlaen, yn ôl nac i’r ochr, unwaith y’i gosodir yn ei le ar gyfer ei ladd.

(3Bydd lloc ffrwyno a gymeradwywyd o dan baragraff 3 o Atodlen 12 i Reoliadau 1995, pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, yn dod yn lloc ffrwyno a gymeradwyir at ddibenion is-baragraffau (1) a (2).

Defnyddio a chynnal llociau ffrwyno

4.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—

(a)bod y moddion ar gyfer ffrwyno a chynnal pwysau anifail buchol llawn-dwf, a gaethiwir mewn lloc ffrwyno ac a ddisgrifir ym mharagraff 3(2)(a) a (b), yn cael eu defnyddio mewn perthynas ag unrhyw anifail buchol a gaethiwir yn y lloc;

(b)y cedwir y lloc ffrwyno mewn cyflwr gweithredol da; ac

(c)os yw’r lloc wedi ei addasu ar ôl ei gymeradwyo gan yr awdurdod cymwys, na ddefnyddir y lloc drachefn hyd nes cymeradwyir y lloc o’r newydd gan yr awdurdod cymwys.

Y dull o ladd

5.  Rhaid i unrhyw berson sy’n lladd dafad, gafr neu anifail buchol yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r anifail ymlaen llaw—

(a)sicrhau y lleddir yr anifail drwy dorri ei ddwy rydweli garotid yn ogystal â gwythiennau’r gwddf, gan symudiadau cyflym a diysbaid â chyllell a ddelir yn y llaw; a

(b)yn union cyn lladd, arolygu’r gyllell sydd i’w defnyddio, er mwyn sicrhau—

(i)nad yw wedi ei difrodi; a

(ii)ei bod yn ddigon mawr a llym i ladd y ddafad, gafr neu anifail buchol yn y modd a ddisgrifir yn is-baragraff (a).

Trin defaid, geifr ac anifeiliaid buchol yn ystod y lladd

6.—(1Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â lladd dafad, gafr neu anifail buchol yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r anifail ymlaen llaw sicrhau—

(a)na roddir yr anifail yn y cyfarpar ffrwyno onid yw’r person a fydd yn lladd yr anifail yn barod i wneud y toriad yn union ar ôl rhoi’r anifail yn y cyfarpar; a

(b)bod cyfarpar stynio addas wrth gefn ar gael a gedwir gerllaw’r cyfarpar ffrwyno, i’w ddefnyddio mewn argyfwng ac i’w ddefnyddio ar unwaith os achosir unrhyw boen, dioddefaint neu aflonyddwch diangen i’r anifail neu os oes ganddo unrhyw anafiadau neu gleisiau.

(2Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â lladd dafad, gafr neu anifail buchol yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r anifail ymlaen llaw sicrhau, pan nad yw’r anifail wedi ei stynio cyn ei waedu, na osodir yr anifail mewn gefynnau, ei godi na’i symud mewn unrhyw fodd hyd nes bo’n anymwybodol, a beth bynnag nid cyn diwedd cyfnodau fel a ganlyn—

(a)yn achos dafad neu afr, cyfnod o ddim llai nag 20 eiliad, a

(b)yn achos anifeiliaid buchol, cyfnod o ddim llai na 30 eiliad,

ar ôl ei waedu yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 5.

RHAN 3Adar

Y dull o ladd

7.  Rhaid i unrhyw berson sy’n ymwneud â lladd aderyn yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r aderyn ymlaen llaw—

(a)sicrhau y lleddir yr aderyn drwy dorri ei ddwy rydweli garotid, gan symudiadau cyflym a diysbaid â chyllell a ddelir yn y llaw; a

(b)bod y gyllell sydd i’w defnyddio ar gyfer lladd—

(i)heb ei difrodi; a

(ii)yn ddigon mawr a llym i ladd pob aderyn yn y modd a ddisgrifir yn is-baragraff (a).

Trin adar yn ystod y lladd

8.  Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â lladd aderyn yn unol â defodau crefyddol heb stynio’r anifail ymlaen llaw sicrhau, pan nad yw’r aderyn wedi ei stynio cyn ei waedu, na chyflawnir unrhyw weithdrefn ddresio ychwanegol ar yr aderyn ac na roddir unrhyw ysgogiad trydanol iddo os yw’n dangos unrhyw arwydd o fywyd, a beth bynnag nid cyn diwedd cyfnodau fel a ganlyn—

(a)yn achos twrci neu ŵydd, cyfnod o ddim llai na 2 funud; a

(b)yn achos unrhyw aderyn arall, cyfnod o ddim llai na 90 eiliad,

ar ôl ei waedu yn y modd a ddisgrifir ym mharagraff 7.

RHAN 4Y Comisiwn Rabinaidd

Aelodaeth

9.—(1Rhaid i’r Comisiwn Rabinaidd ar gyfer trwyddedu personau i ymgymryd â lladd anifeiliaid yn unol â’r dull Iddewig (Shechita) gynnwys cadeirydd parhaol a naw aelod arall.

(2Rhaid i’r cadeirydd parhaol, yn rhinwedd y swydd honno, fod yn Brif Rabi Cynulleidfaoedd Hebreaidd Unedig Prydain Fawr a’r Gymanwlad.

(3O blith aelodau eraill y Comisiwn Rabinaidd, ac eithrio’r cadeirydd parhaol—

(a)rhaid i un, sef yr is-gadeirydd, gael ei benodi gan y Synagog Sbaenaidd a Phortiwgeaidd (Llundain);

(b)rhaid i dri gael eu penodi gan y Beth Din a benodir gan y Synagog Unedig (Llundain);

(c)rhaid i ddau gael eu penodi gan y Ffederasiwn Synagogau (Llundain);

(d)rhaid i un gael ei benodi gan Undeb y Cynulleidfaoedd Hebreaidd Uniongred (Llundain); ac

(e)rhaid i ddau gael eu penodi gan Fwrdd Dirprwyon Iddewon Prydain i gynrychioli cynulleidfaoedd rhanbarthol.

Atodol

10.—(1Mae swyddogaethau’r Comisiwn Rabinaidd yn arferadwy er gwaethaf unrhyw le gwag ymhlith yr aelodau.

(2Cworwm y Comisiwn Rabinaidd yw pedwar.

Rheoliad 28

ATODLEN 4LLADD ANIFEILIAID AC EITHRIO’R RHAI Y MAE’R RHEOLIAD UE YN GYMWYS IDDYNT

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

(a)ystyr “anifail” (“animal”) yw—

(i)ymlusgiaid ac amffibiaid;

(ii)infertebratau; neu

(iii)dofednod, cwningod neu ysgyfarnogod a leddir yn rhywle heblaw mewn lladd-dy, gan eu perchennog ar gyfer eu bwyta gartref yn breifat gan y perchennog; a

(b)mae i’r termau “lladd”, dofednod”, “ffrwyno” a “stynio”, yn eu trefn, yr un ystyron a roddir i’r termau “killing”, “poultry”, “restraint” a “stunning” yn y Rheoliad UE.

Cwmpas

2.  Yn ddarostyngedig i baragraff 3, mae’r Atodlen hon yn gymwys i ladd anifeiliaid sy’n cael eu bridio neu’u cadw i gynhyrchu cig, crwyn neu gynhyrchion eraill.

Esemptiadau

3.  Nid yw’r Atodlen hon yn gymwys i anifeiliaid a leddir—

(a)o ganlyniad i unrhyw weithred a wneir yn gyfreithlon o dan Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986. ;

(b)yn ystod gweithgareddau hela neu bysgota hamdden; neu

(c)yn ystod digwyddiadau chwaraeon.

Lladd heb beri dioddefaint diangen

4.—(1Ni chaiff neb sy’n ymwneud â ffrwyno, stynio neu ladd anifail—

(a)achosi unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint diangen i’r anifail hwnnw; neu

(b)caniatáu i’r anifail hwnnw brofi unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint diangen.

(2Ni chaiff neb ymwneud â ffrwyno, stynio neu ladd anifail onid oes gan y person hwnnw’r wybodaeth a’r medrusrwydd angenrheidiol i gyflawni’r gweithrediadau hynny heb beri dioddefaint diangen ac yn effeithlon.

Gwaedu dofednod, cwningod neu ysgyfarnogod ar gyfer eu bwyta gartref yn breifat

5.  Rhaid i ddofednod, cwningod neu ysgyfarnogod a waedir gan eu perchennog y tu allan i ladd-dy, ar gyfer eu bwyta gartref yn breifat gan y perchennog—

(a)cael eu stynio cyn eu gwaedu yn unol â’r dulliau a’r gofynion penodol ym Mhenodau I a II o Atodiad I, a phan fo’n briodol, Rhan 5 o Atodlen 2; a

(b)cael eu gwaedu yn ddi-oed ar ôl eu stynio.

Rheoliad 30(1)(g)

ATODLEN 5DARPARIAETHAU’R RHEOLIAD UE

Colofn 1

Darpariaeth o’r Rheoliad UE sy’n cynnwys gofyniad lles

Colofn 2

Pwnc

Erthygl 3(1)Gofyniad cyffredinol i arbed anifail rhag poen, trallod neu ddioddefaint diangen.
Erthygl 3(2)Mesurau i ddiogelu anifeiliaid rhag poen, trallod neu ddioddefaint diangen.
Erthygl 3(3)Cyfleusterau ar gyfer lladd a gweithrediadau cysylltiedig.
Erthygl 4(1) ac Atodiad IDulliau stynio.
Erthygl 5(1)Gwiriadau ar stynio.
Erthygl 5(2)Gwiriadau ar anifeiliaid a leddir yn unol â defodau crefyddol.
Erthygl 6(1) a (2)Gweithdrefnau gweithredu safonol.
Erthygl 7(1)Lefel cymhwysedd.
Erthygl 7(3)Lladd anifeiliaid ffwr.
Erthygl 8Gwerthu cyfarpar ffrwyno neu stynio.
Erthygl 9(1)Cynnal cyfarpar ffrwyno a stynio.
Erthygl 9(2)Cyfarpar stynio wrth gefn.
Erthygl 9(3)Rhoi anifeiliaid mewn cyfarpar ffrwyno.
Erthygl 12Cig a fewnforir o drydedd gwledydd.
Erthygl 14(1) ac Atodiad IILlunwedd ac adeiladwaith lladd-dai a’r cyfarpar sydd ynddynt.
Erthygl 15(1) ac Atodiad IIIGweithrediadau trin a ffrwyno
Erthygl 15(2)Ffrwyno anifeiliaid a leddir yn unol â defodau crefyddol.
Erthygl 15(3)Dulliau ffrwyno a waherddir.
Erthygl 16(1) i (4)Gweithdrefnau monitro.
Erthygl 17(1) i (5)Swyddog Lles Anifeiliaid.
Erthygl 19Lladd mewn argyfwng.

Rheoliad 43

ATODLEN 6DIWYGIADAU CANLYNIADOL AC ATODOL

Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009

1.—(1Mae Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), ym mharagraff (b) o’r diffiniad o “rheolaethau”—

(a)o flaen “mewn lladd-dai”, mewnosoder “yn unol â Rheoliad 854/2004,”; a

(b)yn lle “Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995” rhodder “Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 a Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014”.

Rheoliad 44

ATODLEN 7DARPARIAETHAU TROSIANNOL (TYSTYSGRIFAU)

Gweithrediadau mewn lladd-dy yn union cyn 1 Ionawr 2013

1.—(1Caiff person gyflawni gweithrediad a bennir yn is-baragraff (2) ar gategori o anifail mewn lladd-dy heb fod yn ddeiliad tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys neu dystysgrif dros dro os oedd y person hwnnw’n ymwneud â chyflawni’r gweithrediad hwnnw ar y categori hwnnw o anifail yn union cyn 1 Ionawr 2013.

(2Y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

(a)trin a gofalu am anifeiliaid cyn eu ffrwyno;

(b)lladd anifail gan ddefnyddio bwled rydd yn y maes; ac

(c)gefynnu dofednod cyn eu stynio.

(3Mae is-baragraff (1) yn peidio â bod yn gymwys ar y dyddiad y mae’r awdurdod cymwys yn rhoi ac yn cofrestru (neu’n gwrthod rhoi) tystysgrif neu dystysgrif dros dro i’r person hwnnw mewn perthynas â’r gweithrediad hwnnw ar y categori hwnnw o anifail, neu ar 8 Rhagfyr 2015, pa un bynnag fo’r cynharaf.

Gweithdrefn symlach ar gyfer personau sydd â thair blynedd o brofiad proffesiynol

2.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n gwneud cais am dystysgrif cyn 8 Rhagfyr 2015 ac, ar y dyddiad y gwneir y cais, sydd ag o leiaf dair blynedd o brofiad proffesiynol mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail a (pan fo’n briodol) y math o gyfarpar y ceisir y dystysgrif mewn cysylltiad â hwy.

(2Nid yw’n ofynnol bod person y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn cydymffurfio â rheoliad 8(b) os yw’r person hwnnw—

(a)yn dangos, er boddhad i’r awdurdod cymwys, bod ganddo, ar y dyddiad y gwneir y cais, o leiaf dair blynedd o brofiad proffesiynol mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail a (pan fo’n briodol) y math o gyfarpar y ceisir y dystysgrif mewn cysylltiad â hwy; a

(b)yn darparu datganiad ysgrifenedig gan filfeddyg, bod y person hwnnw, ym marn y milfeddyg, yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif.

Rheoliad 45

ATODLEN 8DARPARIAETHAU TROSIANNOL (LLADD-DAI)

Anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynwysyddion

1.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—

(a)y gosodir ochrau, rheiliau neu fath arall o foddion diogelu ar unrhyw bontydd, rampiau neu bomprennau, i atal anifeiliaid rhag syrthio oddi arnynt; a

(b)bod pob tramwyfa wedi ei hadeiladu mewn ffordd sy’n lleihau i’r eithaf y risg o niwed i anifail, ac wedi ei threfnu gan roi sylw i dueddiadau heidiol yr anifeiliaid sy’n defnyddio’r tramwyfeydd.

Gwalfeydd ac eithrio gwalfeydd mewn caeau

2.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod gan unrhyw walfa, ac eithrio gwalfa mewn cae—

(a)llawr sy’n lleihau i’r eithaf y risg o lithro, ac nad yw’n achosi anaf i unrhyw anifail a ddaw i gyffyrddiad ag ef;

(b)os nad awyru naturiol yw’r dull awyru a ddarperir, dull wrth gefn ar gael i gynnal awyru digonol, i’w defnyddio pe bai’r ffynhonnell awyru wreiddiol yn diffygio;

(c)goleuadau digonol (boed sefydlog neu gludadwy) fel y gellir arolygu anifeiliaid yn drwyadl ar unrhyw adeg; a

(d)cyfleusterau yfed digonol o ran nifer a maint i ddyfrhau’r anifeiliaid a gaethiwir ynddi, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r holl anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.

Gwalfeydd mewn caeau

3.  Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod unrhyw walfa mewn cae—

(a)os nad oes ynddi fannau cysgodi neu gysgod naturiol, ac os defnyddir hi yn ystod amodau tywydd garw, yn cynnwys amddiffynfa briodol i unrhyw anifail sy’n ei defnyddio rhag amodau o’r fath;

(b)yn cynnwys goleuadau digonol (boed sefydlog neu gludadwy) fel y gellir arolygu anifeiliaid yn drwyadl ar unrhyw adeg; ac

(c)yn cynnwys cyfleusterau yfed digonol o ran nifer a maint i ddyfrhau’r anifeiliaid a gaethiwir ynddi, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r holl anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.

Llinellau gefynnu

4.  Yn achos lladd-dy y lleddir dofednod ynddo, rhaid i weithredwr y busnes sicrhau—

(a)bod unrhyw linell gefynnu wedi’i dylunio a’i lleoli mewn ffordd sy’n cadw’r dofednod sy’n hongian ohoni yn glir o unrhyw rwystrau, ac yr ymyrrir cyn lleied ag y bo modd â’r adar;

(b)na chaiff dofednod eu hongian am gyfnod hwy na 3 munud yn achos tyrcwn neu 2 funud ym mhob achos arall, cyn eu stynio; ac

(c)bod hyd cyfan y llinell gefynnu, hyd at y pwynt mynediad i’r tanc sgaldio, o fewn cyrraedd i unrhyw berson yn ddi-oed, fel y gellir rhoi sylw i unrhyw ddofednod pe bai angen.

Stynio trydanol ac eithrio gyda bath dŵr

5.  Ni chaiff neb ddefnyddio electrodau i stynio anifail unigol oni fydd y cyfarpar—

(a)yn cynnwys dyfais glywadwy neu weladwy sy’n dangos am faint o amser y defnyddir y cyfarpar ar yr anifail; a

(b)wedi ei gysylltu â dyfais sy’n dangos y foltedd a’r cerrynt o dan lwyth ac wedi ei gosod lle y gall y gweithredwr ei gweld yn eglur.

Stynio trydanol gan ddefnyddio bath dŵr

6.  Ni chaiff neb ddefnyddio styniwr bath dŵr oni bai—

(a)bod yr electrod sydd o dan wyneb y dŵr yn ymestyn am hyd cyfan y bath dŵr; a

(b)nad yw’r styniwr bath dŵr yn gorlifo yn y fynedfa, neu, os na ellir osgoi gorlifiad, y cymerir camau i sicrhau nad oes unrhyw ddofednod yn cael sioc drydanol cyn eu stynio.

Dod i gysylltiad â nwy

7.  Ni chaiff neb stynio moch na dofednod drwy ddod â’r moch neu’r dofednod i gysylltiad â nwy onid yw’r styniwr nwy a ddarperir at y diben hwnnw, gan gynnwys unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i gludo’r moch neu’r dofednod drwy’r nwy, wedi—

(a)ei ddylunio, ei adeiladau a’i gynnal er mwyn osgoi unrhyw anaf i fochyn neu aderyn; a

(b)yn cynnwys dyfeisiau ar gyfer—

(i)mesur ac arddangos yn ddi-dor y crynodiad nwyon, fel y bo’n briodol, yn y styniwr nwy (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I); a

(ii)rhoi signalau rhybuddio eglur, gweledol a chlywedol, os yw’r crynodiad nwyon yn gostwng islaw’r lefel sy’n ofynnol (yn unol â Thabl 3 o Bennod I o Atodiad I).

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu a gorfodi Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 a fabwysiadwyd ar 24 Medi 2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd (OJ Rhif L 303, 18.11.2009, t.1) (“y Rheoliad UE”) a rheolau cenedlaethol penodol a gynhelir neu a fabwysiedir o dan Erthygl 26(1) a (2) o’r Rheoliad UE.

Mae’r Rheoliadau’n dirymu Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995 (O.S. 1995/731) a’r offerynnau sy’n eu diwygio, i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Mae Rhan 1 yn rhagarweiniol ac yn cynnwys diffiniadau ac yn dynodi pa awdurdod cymwys sy’n gyfrifol am wahanol swyddogaethau o dan y Rheoliadau.

Mae Pennod 1 o Ran 2 yn ei gwneud yn ofynnol fod personau’n cael tystysgrif cymhwysedd neu dystysgrif cymhwysedd dros dro UE cyn lladd anifeiliaid neu gyflawni gweithrediadau cysylltiedig mewn lladd-dy. Mae Pennod 1 o Ran 2 yn ddarostyngedig i’r trefniadau trosiannol yn Atodlen 7, sy’n gymwys tan 8 Rhagfyr 2015. Ym Mhennod 2 o Ran 2 gwneir yn ofynnol fod personau’n cael trwydded genedlaethol cyn lladd anifeiliaid neu gyflawni gweithrediadau cysylltiedig mewn man ac eithrio lladd-dy, yn ddarostyngedig i rai eithriadau. Mae’r Rheoliadau’n darparu ar gyfer gwrthod, atal dros dro neu ddirymu tystysgrifau cymhwysedd, tystysgrifau cymhwysedd dros dro neu drwyddedau ac ar gyfer yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i’w gwrthod, eu hatal dros dro neu’u dirymu.

Mae Rhan 3 ac Atodlenni 1 i 4 yn pennu rheolau cenedlaethol sydd wedi eu cynnal neu’u mabwysiadu yn unol ag Erthygl 26(1) a (2) o’r Rheoliad UE, er mwyn sicrhau diogelwch ehangach i anifeiliaid adeg eu lladd, gan gynnwys darpariaeth o fewn Atodlen 3 i’r Comisiwn Rabinaidd drwyddedu personau i ymgymryd â lladd anifeiliaid yn unol â’r dull Iddewig.

Mae Rhan 4 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, mewn amgylchiadau eithriadol, ganiatáu rhanddirymiadau o ddarpariaethau’r Rheoliad UE, os byddai cydymffurfio’n debygol o effeithio ar iechyd dynol neu’n arafu’r gwaith o ddileu clefyd yn sylweddol.

Mae Rhan 5 yn pennu’r troseddau a gyflawnir os torrir y Rheoliadau hyn neu’r Rheoliad UE. Yn rheoliad 33, nodir y cosbau a all ddilyn collfarn ddiannod.

Mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â gorfodi. Rhoddir pwerau i arolygwyr a benodir gan yr awdurdod cymwys ac awdurdodau lleol i sicrhau cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau hyn a’r Rheoliad UE, gan gynnwys pwerau mynediad ac ymafael a phwerau i ddyroddi hysbysiadau gorfodi. Mae torri hysbysiad gorfodi a rhwystro arolygwyr yn drosedd.

Mae Rhan 7 yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol ac atodol, darpariaethau trosiannol a dirymiadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1972 p.68; diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) ac adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7).

(3)

1973 p.51. Diwygiwyd adran 56 gan O.S. 2011/1043, erthygl 6(1)(e).

(4)

OJ Rhif L 303, 18.11.2009, t.1.

(8)

1966 p.36; diwygiwyd adran 2 gan erthygl 12 o O.S. 2003/2919 a pharagraff 1 o’r Atodlen iddo, a chan erthygl 2 o O.S. 2008/1824 a pharagraff 2(a)o’r Atodlen iddo.

(9)

OJ Rhif L 303, 18.11.2009, t.1.

(10)

O.S. 1995/731; yr offerynnau perthnasol sy’n diwygio, o ran Cymru, yw O.S. 1999/400 a 2007/2461 (Cy.208).

(11)

Sefydlwyd RCVS gan Siarter B renhinol ym 1844, ac mae’n gyfrifol am gofrestru milfeddygon a rheoleiddio eu haddysg a’u safonau moesegol a chlinigol.

(12)

1980 p.43.

(13)

1978 p.30.

(14)

O.S. 1995/731; yr offerynnau diwygio sy’n berthnasol o ran Cymru yw O.S. 1999/400, 2000/656 a 2007/2461 (Cy.208).

(18)

1981 p.22.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill