- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
18.—(1) Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod rhoi tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded os bodlonir ef—
(a)bod y ceisydd wedi methu â bodloni unrhyw un o’r amodau yn rheoliadau 8, 10 neu 16 (yn ôl fel y digwydd); neu
(b)nad yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded.
(2) Rhaid i’r hysbysiad—
(a)rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a
(b)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
19.—(1) Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro (gan gynnwys tystysgrif neu dystysgrif dros dro a roddwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall) neu drwydded os bodlonir ef—
(a)bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;
(b)nad yw’r deiliad bellach yn berson addas a phriodol i ddal y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded;
(c)nad yw’r deiliad yn gymwys, neu nad yw bellach yn gymwys, i gyflawni’r gweithrediadau a awdurdodir gan y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded; neu
(d)bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi ei gollfarnu am drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid.
(2) Rhaid i’r hysbysiad—
(a)rhoi rhesymau am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad;
(b)datgan pa bryd y mae’r ataliad dros dro neu’r dirymiad yn cael effaith ac, yn achos ataliad dros dro, datgan ar ba ddyddiad neu ddigwyddiad y bydd yn peidio â chael effaith; ac
(c)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
(3) Rhaid i unrhyw berson, yr ataliwyd dros dro neu y dirymwyd ei dystysgrif, ei dystysgrif dros dro neu’i drwydded, boed yr ataliad dros dro neu’r dirymiad hwnnw yn destun apêl yn unol â rheoliad 22 ai peidio, ildio’r dystysgrif, tystysgrif dros dro neu’r drwydded honno i’r awdurdod cymwys o fewn 14 diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad sy’n rhoi gwybod i’r person hwnnw am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad.
20. Rhaid i’r awdurdod cymwys addasu tystysgrif neu drwydded mewn perthynas â gweithrediad, y categori o anifail neu (pan fo’n briodol) y math o gyfarpar yn unol â chais gan geisydd—
(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 8 neu 16 (yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â’r addasiad; a
(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif neu drwydded, fel y’i haddesir.
21.—(1) Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod addasu tystysgrif neu drwydded os bodlonir ef—
(a)bod y ceisydd wedi methu â bodloni unrhyw un o’r amodau yn rheoliad 8 neu 16 (yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â’r addasiad; neu
(b)nad yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif neu drwydded, fel y’i haddesid.
(2) Rhaid i’r hysbysiad—
(a)rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a
(b)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
22.—(1) Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad yr awdurdod cymwys i wrthod, atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded, neu wrthod addasu tystysgrif neu drwydded, apelio yn erbyn y penderfyniad.
(2) Mae’r hawl i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf.
(3) Ni fydd penderfyniad i atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded yn cael ei atal dros dro tra bo apêl yn yr arfaeth, oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorchymyn yn wahanol.
(4) Yn dilyn apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf naill ai wrthdroi neu gadarnhau’r penderfyniad, gydag addasiadau neu hebddynt.
23.—(1) Pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, bydd trwydded LlACL a oedd yn parhau mewn grym yn union cyn 20 Mai 2014 yn parhau mewn bodolaeth fel cymhwyster cyfwerth â thystysgrif yn unol ag Erthygl 21(7).
(2) Caiff deiliad trwydded LlACL gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 neu 13 heb ddal tystysgrif neu drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys ar yr amod bod y deiliad trwydded LlACL, erbyn 8 Rhagfyr 2015—
(a)yn cofrestru’r drwydded LlACL gyda’r awdurdod cymwys, fel tystysgrif; a
(b)yn talu ffi yn unol â rheoliad 24.
24.—(1) Mewn perthynas â chais o fath a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r Tabl, rhaid i’r ceisydd dalu i’r Asiantaeth Safonau Bwyd y ffi a bennir yng ngholofn 2 mewn perthynas â’r math hwnnw o gais.
Colofn 1 Math o gais | Colofn 2 Ffi (£) |
---|---|
Cais am dystysgrif | 25 |
Cais am gofrestru trwydded LlACL fel tystysgrif | 25 |
Cais am addasu tystysgrif | 8 |
Cais am drwydded | 25 |
Cais am addasu trwydded | 8 |
(2) Mewn perthynas ag asesiad o dan reoliad 16(c) gan filfeddyg awdurdodedig sy’n arfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, rhaid i’r ceisydd dalu ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff (3) i Weinidogion Cymru.
(3) Y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw—
(a)£76 am yr hanner awr neu ran o hanner awr cyntaf a dreulir gan filfeddyg awdurdodedig ar asesiad, gan gynnwys amser a dreulir ar y ddogfennaeth gysylltiedig;
(b)£21 am bob hanner awr neu ran o hanner awr ychwanegol a dreulir gan filfeddyg awdurdodedig ar asesiad, gan gynnwys amser a dreulir ar y ddogfennaeth gysylltiedig; ac
(c)gwir gost teithio, llety ac unrhyw dreuliau eraill yr eir iddynt yn rhesymol gan y milfeddyg awdurdodedig.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys