- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Ebrill 2015 a’u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “cerbytffordd”, “llain galed” a “llain ymyl” yr un ystyr â “carriageway”, “hard shoulder” a “verge” yn Rheoliadau 1982;
ystyr “yr M4” (“the M4”) yw Traffordd yr M4 o Lundain i Dde Cymru;
ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Traffig Traffyrdd (Cymru a Lloegr) 1982(1); ac
ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Arwyddion Traffig 2002(2).
3.—(1) Ni chaiff neb yrru cerbyd ar ran o ffordd sy’n ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy yn gyflymach na’r hyn a ddangosir gan arwydd terfyn cyflymder.
(2) Mae rhan o ffordd yn ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy mewn perthynas â cherbyd sy’n cael ei yrru arni—
(a)os yw’r ffordd wedi ei phennu yn yr Atodlen;
(b)os yw’r cerbyd wedi pasio arwydd terfyn cyflymder; ac
(c)os nad yw’r cerbyd wedi pasio—
(i)arwydd terfyn cyflymder arall sy’n dangos terfyn cyflymder gwahanol; neu
(ii)arwydd traffig sy’n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym.
(3) Mewn perthynas â cherbyd, y terfyn cyflymder a ddangosir gan arwydd terfyn cyflymder yw’r cyflymder a ddangosir ar yr adeg y mae’r cerbyd yn pasio’r arwydd, neu, os yw’n uwch na hynny, y terfyn cyflymder a ddangoswyd gan yr arwydd ddeng eiliad cyn i’r cerbyd basio’r arwydd.
(4) At ddiben y rheoliad hwn, bernir nad yw arwydd terfyn cyflymder yn dangos unrhyw derfyn cyflymder os oedd yr arwydd, ddeng eiliad cyn i’r cerbyd ei basio, wedi dangos nad oedd terfyn cyflymder neu wedi dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym.
(5) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “arwydd terfyn cyflymder” (“speed limit sign”), mewn perthynas â cherbyd, yw arwydd traffig o’r math a ddangosir yn niagram 670 yn Atodlen 2 i Reoliadau 2002, sef arwydd—
a roddir ar unrhyw ran o ffordd a bennir yn yr Atodlen, neu gerllaw iddi; a
a anelir at draffig ar y gerbytffordd y gyrrir y cerbyd arni;
mae “ffordd” (“road”) yn cynnwys y llain galed a’r llain ymyl gyfagos; ac
mae i “terfyn cyflymder cenedlaethol” yr ystyr a roddir i “national speed limit” gan reoliad 5(2) o Reoliadau 2002 ac ystyr arwydd traffig sy’n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym yw arwydd traffig o’r math a ddangosir yn niagram 671 yn Atodlen 2 i Reoliadau 2002, sef arwydd—
a roddir ar ffordd neu gerllaw iddi; a
a anelir at draffig ar y gerbytffordd y gyrrir y cerbyd arni.
4. Mae Rheoliadau Traffordd yr M4 (O Fan i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2011(3) drwy hyn wedi eu dirymu.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
30 Mawrth 2015
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys