Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1330 (Cy. 123)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015

Gwnaed

20 Mai 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

22 Mai 2015

Yn dod i rym

22 Mehefin 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 55, 65, 69, 71, 78, 78A a 333 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) (“Deddf 1990”) sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), a thrwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 54 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004(3) (“Deddf 2004”), sydd bellach hefyd yn arferadwy ganddynt hwy(4), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015 a daw i rym ar 22 Mehefin 2015.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i’r holl dir yng Nghymru.

Diwygiadau i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

2.  Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(5) wedi ei ddiwygio yn unol â’r darpariaethau canlynol.

Dehongli

3.  Yn erthygl 2(1)—

(a)ar ôl y diffiniad o “cais AEA” mewnosoder—

ystyr “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yw cais am—

(a)

caniatâd cynllunio ar gyfer estyn, gwella neu addasu tŷ annedd mewn ffordd arall, neu ddatblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu

(b)

newid defnydd er mwyn ehangu cwrtil tŷ annedd,

at unrhyw ddiben sy’n ategol i fwynhau’r tŷ annedd ond nad yw’n cynnwys—

(i)

unrhyw gais arall am newid defnydd,

(ii)

cais i godi tŷ annedd, neu

(iii)

cais i newid nifer yr anheddau mewn adeilad;;

(b)ar ôl y diffiniad o “cais deiliad tŷ” mewnosoder—

ystyr “cais masnachol bach” (“minor commercial application”) yw cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer ehangu, gwella neu addasu adeilad presennol o ddim mwy na 250 metr sgwâr gros o arwynebedd llawr allanol ar lefel y llawr daear mewn ffordd arall, neu ran o’r adeilad hwnnw, sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd at unrhyw un o’r dibenion a nodir yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn sydd yn gais am—

(a)

newid y defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 1 yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn i unrhyw un o’r dibenion a nodir un ai ym mharagraff 2 neu ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno;

(b)

newid y defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 2 yn Atodlen 1A i’r Gorchymyn hwn i unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno; neu

(c)

cyflawni gwaith adeiladu neu weithrediadau eraill i flaen siop;.

Diwygiadau yn ymwneud â gweithrediadau mewnol penodol

4.  Ar ôl erthygl 2 mewnosoder—

Datblygiad i gynnwys gweithrediadau mewnol penodol

2A.  Nid yw is-adran (2) o adran 55 o Ddeddf 1990 yn gymwys i weithrediadau a grybwyllir ym mharagraff (a) o’r is-adran honno sy’n cael yr effaith o gynyddu arwynebedd llawr yr adeilad mwy na 200 metr sgwâr mewn amgylchiadau pan fo’r adeilad yn cael ei ddefnyddio i fanwerthu nwyddau ac eithrio bwyd poeth.

Diwygiadau yn ymwneud â chyhoeddusrwydd ar gyfer ceisiadau am ganiatâd cynllunio

5.  Yn erthygl 12(7)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (ch), hepgorer “a”;

(b)ar ddiwedd is-baragraff (d), rhodder—

; ac

(dd)yn achos cais deiliad tŷ neu gais masnachol bach, os digwydd apêl sy’n dilyn y weithdrefn hwylusach, y bydd unrhyw sylwadau a wneir ynglŷn â’r cais yn cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru ac na fydd cyfle i wneud sylwadau pellach.

Diwygiadau yn ymwneud ag ymgynghoriadau cyn rhoi caniatâd

6.  Yn erthygl 14(4)(b) yn lle’r ddau gyfeiriad at “14 diwrnod” rhodder “21 diwrnod”.

Diwygiadau yn ymwneud â’r ddyletswydd i ymateb i ymgynghoriad

7.  Ar ôl erthygl 15 mewnosoder—

Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad

15A.(1) Y gofyniad i ymgynghori a ragnodir at ddibenion adran 54(2)(b) o Ddeddf 2004 (dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad) yw’r hwn sydd wedi ei gynnwys yn erthygl 14.

(2) At ddibenion adran 54(4)(a) o Ddeddf 2004, 21 diwrnod yw’r cyfnod a ragnodir gan ddechrau gyda’r diwrnod—

(a)y rhoddir yr hysbysiad y cyfeirir ato yn 14(4)(a); neu

(b)os yn gynharach, dyddiad cyflwyno copi o’r cais i’r ymgynghorai,

neu gyfnod arall o’r fath fel y cytunir yn ysgrifenedig rhwng yr ymgynghorai a’r ymgynghorwr.

(3) At ddibenion yr erthygl hon ac erthygl 15B, ac yn unol ag adran 54(5)(c) o Ddeddf 2004, ymateb o sylwedd yw ymateb sy’n—

(a)datgan nad oes gan yr ymgynghorai unrhyw sylw i’w fynegi;

(b)datgan nad oes gan yr ymgynghorai wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig ac sy’n atgyfeirio’r ymgynghorwr at gyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai ar destun yr ymgynghoriad;

(c)rhoi gwybod i’r ymgynghorwr am unrhyw bryderon a ganfuwyd mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig a sut y gall yr ymgeisydd roi sylw i’r pryderon hynny; neu

(ch)rhoi gwybod bod yr ymgynghorai’n gwrthwynebu’r datblygiad arfaethedig ac yn nodi’r rhesymau dros y gwrthwynebiad.

Dyletswydd i ymateb i ymgynghoriad: adroddiadau blynyddol

15B.(1) Rhaid i bob ymgynghorai sydd, yn rhinwedd adran 54 o Ddeddf 2004 ac erthygl 15A, o dan ddyletswydd i ymateb i ymgynghoriad roi adroddiad i Weinidogion Cymru ar gydymffurfiad yr ymgynghorai hwnnw ag adran 54(4) o Ddeddf 2004 ddim hwyrach nag 1 Gorffennaf ym mhob blwyddyn, gan ddechrau gydag 1 Gorffennaf 2017.

(2) Rhaid i’r adroddiad ymwneud â’r cyfnod o 12 mis sy’n cychwyn ar 1 Ebrill yn y flwyddyn flaenorol (“y flwyddyn adrodd”).

(3) Rhaid i’r adroddiad gynnwys datganiad ynglŷn â’r canlynol, mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn adrodd—

(a)nifer yr achlysuron yr ymgynghorwyd â’r ymgynghorai;

(b)nifer yr achlysuron y darparwyd ymateb o sylwedd;

(c)pa bryd y darparwyd yr ymateb o sylwedd; ac

(ch)nifer yr achlysuron y rhoddodd yr ymgynghorai ymateb o sylwedd y tu allan i’r cyfnod a ragnodwyd at ddibenion adran 54(4) o Ddeddf 2004 a chrynodeb o’r rhesymau dros hynny.

Diwygiadau yn ymwneud ag apelau

8.—(1Yn erthygl 26(1)(b), yn lle’r geiriau “mharagraff (3)(d)” rhodder “mharagraff (3)(a)(ii) neu (3)(b)(v)”.

(2Yn erthygl 26(2)—

(a)ar ôl y geiriau “ym mharagraff (1) yw” hepgorer “chwe mis ar ôl”;

(b)yn lle is-baragraffau (a), (b) ac (c) rhodder—

(a)yn achos apêl deiliad tŷ neu apêl fasnachol fach, deuddeg wythnos o ddyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad sy’n arwain at yr apêl;

(b)yn achos unrhyw apêl arall o dan adran 78(1), chwe mis ar ôl—

(i)dyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad sy’n arwain at yr apêl; neu

(ii)mewn achos pan fo’r awdurdod cynllunio lleol wedi cyflwyno hysbysiad i’r ceisydd yn unol ag erthygl 3(2) bod arno angen gwybodaeth bellach ac nad yw’r ceisydd wedi darparu’r wybodaeth, dyddiad cyflwyno’r hysbysiad hwnnw;.

(3Yn lle erthygl 26(3) rhodder—

(3) Y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw—

(a)yn achos apêl deiliad tŷ neu apêl fasnachol fach—

(i)copi o’r cais a anfonwyd at yr awdurdod cynllunio lleol ac a arweiniodd at yr apêl;

(ii)unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau eraill yn ymwneud â’r cais nad oeddynt wedi eu hanfon at yr awdurdod cynllunio lleol, ac eithrio unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau yn ymwneud â diwygiadau i’r cais arfaethedig ar ôl i’r awdurdod cynllunio lleol wneud eu penderfyniad; ac

(iii)yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad;

(b)yn achos unrhyw apêl arall a wnaed o dan adran 78—

(i)y cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol ac a arweiniodd at yr apêl;

(ii)yr holl blaniau, lluniadau a dogfennau a anfonwyd at yr awdurdod mewn cysylltiad â’r cais;

(iii)yr holl ohebiaeth â’r awdurdod sy’n ymwneud â’r cais;

(iv)unrhyw dystysgrif a ddarparwyd i’r awdurdod o dan erthygl 11;

(v)unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau eraill sy’n ymwneud â’r cais nad oeddynt wedi eu hanfon at yr awdurdod;

(vi)yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad, os oes un;

(vii)os yw’r apêl yn ymwneud â chais am gymeradwyo materion penodol yn unol ag amod ar ganiatâd cynllunio, y cais am y caniatâd hwnnw, y planiau a gyflwynwyd ynghyd â’r cais hwnnw a’r caniatâd cynllunio a roddwyd.

(4Ar ôl erthygl 26(6) mewnosoder—

(7) Yn yr erthygl hon—

ystyr “apêl deiliad tŷ” (“householder appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â chais deiliad tŷ ond nid yw’n cynnwys—

(a)

apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu

(b)

apêl a gyflwynir ynghyd ag apêl o dan adran 174(6) o Ddeddf 1990 neu o dan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(7);

ystyr “apêl fasnachol fach” (“minor commercial appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â chais masnachol bach ond nid yw’n cynnwys—

(a)

apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu

(b)

apêl a gyflwynir ynghyd ag apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 neu o dan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

Diwygiadau yn ymwneud â swyddogaethau awdurdod cynllunio lleol pan wneir apêl

9.  Ar ôl erthygl 26 mewnosoder—

Apêl a wnaed: Swyddogaethau awdurdod cynllunio lleol

26A.  Y cyfnod ychwanegol a ragnodwyd at ddibenion adran 78A yw pedair wythnos.

Diwygiadau yn ymwneud â’r gofrestr o geisiadau a gorchmynion datblygu lleol

10.  Yn erthygl 29(15)(a)—

(a)hepgorer y geiriau “(neu’r cyfnod priodol a ganiateir o dan erthygl 22 wedi dod i ben heb iddo roi penderfyniad)”;

(b)hepgorer y geiriau “o chwe mis”.

Diwygiadau i’r Atodlenni

11.—(1Yn y Cydnabod Cais yn Atodlen 1, hepgorer y geiriau “Os byddwch yn apelio, rhaid ichi apelio o fewn y cyfnod o 6 mis” hyd at “(“y dyddiad perthnasol”)]………..”.

(2Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder Atodlen 1A a gynhwysir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Yn Atodlen 2—

(a)yn yr Hysbysiad o Dan Erthygl 10 o Gais am Ganiatâd Cynllunio cyn y diffiniad o “perchennog” mewnosoder—

Os bydd apêl yn cael ei gwneud yn erbyn penderfyniad yr Awdurdod Cynllunio Lleol i wrthod rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig, a bod yr apêl wedyn yn digwydd drwy y weithdrefn ysgrifenedig hwylusach a ragnodir yn Rhan 1 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2015 (O.S……(Cy. )), bydd unrhyw sylwadau a wneir gan y perchennog neu’r tenant i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ynglŷn â’r cais hwn yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru ac ni fydd cyfle i wneud sylwadau pellach. Dylai unrhyw berchennog neu denant sy’n dymuno cyflwyno sylwadau wneud hynny erbyn y dyddiad ym mharagraff (dd) uchod.

(b)yn yr Hysbysiad o Apêl o dan Erthyglau 10 a 25 cyn y diffiniad o “perchennog” mewnosoder—

Os ymdrinnir ag apêl gan y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig hwylusach a ragnodir yn Rhan 1 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2015 (O.S.……(Cy. )), bydd unrhyw sylwadau a wneir gan y perchennog neu’r tenant i’r Awdurdod Cynllunio lleol ynglŷn â’r cais yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru ac ni fydd cyfle i wneud sylwadau pellach mewn perthynas â’r apêl.

Darpariaethau trosiannol ac arbed

12.—(1Nid yw’r darpariaethau yn erthyglau 8 ac 11(3)(b) o’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw apêl o dan adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 sy’n ymwneud â chais a wnaed cyn y daw’r Gorchymyn hwn i rym.

(2Nid yw’r ddarpariaeth yn erthyglau 3, 5, 10 ac 11(1), (2) a (3)(a) o’r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio a wnaed cyn y daw’r Gorchymyn hwn i rym.

(3Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, ar y ffurf yr oedd yn bodoli yn union cyn y daw’r Gorchymyn hwn i rym, yn parhau’n gymwys i unrhyw gais am ganiatâd cynllunio a wnaed cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym ac i unrhyw apêl a wneir o dan adran 78 sy’n ymwneud â chais o’r fath.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

20 Mai 2015

Erthygl 3

YR ATODLEN

Erthygl 2(1)

ATODLEN 1ADefnydd Datblygiad Masnachol Bach

Siopau

1.  Defnydd ar gyfer pob un o’r dibenion canlynol neu unrhyw un neu ragor ohonynt—

(a)ar gyfer manwerthu nwyddau ac eithrio bwyd poeth,

(b)fel swyddfa bost,

(c)ar gyfer gwerthu tocynnau neu fel asiantaeth deithio,

(ch)ar gyfer gwerthu brechdanau neu fwyd oer arall i’w fwyta i ffwrdd o’r fangre,

(d)ar gyfer trin gwallt,

(dd)ar gyfer trefnu angladdau,

(e)ar gyfer arddangos nwyddau sydd ar werth,

(f)ar gyfer hurio nwyddau neu eitemau domestig neu bersonol,

(ff)ar gyfer golchi neu lanhau dillad neu ffabrigau yn y fangre,

(g)ar gyfer derbyn nwyddau i’w golchi, eu glanhau neu eu hatgyweirio,

pan fo’r gwerthu, yr arddangos neu’r gwasanaeth i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld.

Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol

2.  Defnydd ar gyfer darparu—

(a)gwasanaethau ariannol,

(b)gwasanaethau proffesiynol (ac eithrio gwasanaethau iechyd neu feddygol), neu

(c)unrhyw wasanaethau eraill (gan gynnwys defnydd fel swyddfa fetio) y mae’n briodol eu darparu mewn ardal siopa,

pan ddarperir y gwasanaethau yn bennaf i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld.

Bwyd a diod

3.  Defnydd ar gyfer gwerthu bwyd neu ddiod ar gyfer ei fwyta neu ei yfed yn y fangre neu fwyd poeth ar gyfer ei fwyta i ffwrdd o’r fangre.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (“y Gorchymyn”).

Mae erthygl 3 yn diwygio erthygl 2 o’r Gorchymyn (dehongli) drwy fewnosod diffiniadau o’r termau “cais deiliad tŷ” a “cais masnachol bach”.

Mae erthygl 4 yn mewnosod darpariaeth yn y Gorchymyn sydd â’r effaith o ddod â gweithrediadau mewnol o faint a disgrifiad penodol o fewn rheolaeth gynllunio.

Mae erthygl 5 yn diwygio erthygl 12 o’r Gorchymyn (cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio) drwy fewnosod darpariaeth sy’n sicrhau, pan fo’r awdurdod cynllunio lleol yn cynnal gwefan at ddiben rhoi cyhoeddusrwydd i geisiadau am ganiatâd cynllunio, bod gwybodaeth yn cael ei chyhoeddi i ddatgan bod y sylwadau a wneir yn ystod y cyfnod ymgeisio, os digwydd bod apêl yn ymwneud â chais deiliad tŷ neu gais masnachol bach, yn cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru ac na fydd cyfle i wneud sylwadau pellach.

Mae erthygl 6 yn diwygio erthygl 14(4)(b) o’r Gorchymyn drwy estyn y cyfnod gofynnol y mae’n rhaid iddo fynd heibio cyn i benderfyniad gael ei wneud ar gais cynllunio o 14 diwrnod i 21 diwrnod.

Mae erthygl 7 yn mewnosod darpariaethau i’r Gorchymyn sy’n rhagnodi’r gofyniad ymgynghori a fydd yn peri’r ddyletswydd i ymateb i ymgynghoriad a osodir gan adran 54 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.

Mae’r amserlen a ganiateir er mwyn darparu ymateb o sylwedd, yr wybodaeth y mae’n rhaid ei chynnwys yn yr ymateb a darpariaeth yn gosod dyletswydd i gyflwyno adroddiad ar gydymffurfiad â’r gofynion hefyd yn cael ei ragnodi yn erthygl 7.

Mae erthygl 8 yn diwygio erthygl 26 o’r Gorchymyn (apelau). Cyflwynir terfyn amser o ddeuddeg wythnos ar gyfer cyflwyno apêl deiliad tŷ neu apêl fasnachol fach a cheir gwared ar y terfyn amser o chwe mis ar gyfer cyflwyno apêl yn erbyn methiant i benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio. Yn ogystal, rhagnodir y ddogfennaeth y mae’n ofynnol ei chyflwyno gydag apêl deiliad tŷ neu apêl fasnachol fach a diffinnir y termau “apêl deiliad tŷ” ac “apêl fasnachol fach”.

Mae erthygl 9 yn mewnosod darpariaeth newydd i’r Gorchymyn sy’n rhagnodi cyfnod ychwanegol o bedair wythnos at ddibenion adran 78A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Mewnosodwyd adran 78A gan adran 50(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Mae’n darparu y caiff yr awdurdod cynllunio lleol benderfynu ar gais am ganiatâd cynllunio yn ystod y cyfnod ychwanegol er bod apêl wedi ei gwneud i Weinidogion Cymru.

Mae erthygl 10 yn diwygio’r diffiniad o gais am ganiatâd cynllunio y gellir ymdrin ag ef fel pe bai wedi ei benderfynu’n derfynol at ddibenion erthygl 29 (cofrestr o geisiadau a gorchmynion datblygu lleol) o’r Gorchymyn. Mae’r newidiadau hyn yn adlewyrchu’r newidiadau a wnaed i’r Gorchymyn sy’n diddymu’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno apelau methiant i benderfynu.

Mae erthygl 11 yn gwneud diwygiadau i amrywiol hysbysiadau yn yr Atodlenni i’r Gorchymyn. Mae’r diwygiadau’n egluro, os digwydd bod apêl yn dilyn y weithdrefn hwylusach newydd, y bydd unrhyw sylwadau a wneir yn ystod y cyfnod ymgeisio yn cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru ac na fydd cyfle i wneud unrhyw sylwadau pellach.

Mae erthygl 12 yn nodi’r darpariaethau trosiannol ac arbed.

Mae’r diwygiadau a wneir gan erthyglau 3, 5 ac 11 o’r Gorchymyn hwn a’r diwygiadau a wneir gan erthygl 8 sy’n ymwneud ag apelau deiliad tŷ ac apelau masnachol bach yn rhan o becyn o is-ddeddfwriaeth sy’n cyflwyno gweithdrefn sylwadau ysgrifenedig hwylusach ar gyfer apelau o’r fath.

Cyflwynir y weithdrefn sylwadau ysgrifenedig hwylusach ar gyfer apelau deiliad tŷ ac apelau masnachol bach gan Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2015.

Mae diwygiadau tebyg i’r rhai yn erthyglau 8 a 9 sy’n cael gwared ar y terfyn amser ar gyfer cyflwyno apelau yn erbyn methiant i benderfynu ar geisiadau ac sy’n rhagnodi’r cyfnod ychwanegol o bedair wythnos at ddibenion adran 20A o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 yn cael eu gwneud i Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012.

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Gorchymyn hwn ar gael gan Lywodraeth Cymru yn: Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru: www.cymru.gov.uk.

(1)

1990 p. 8. Mewnosodwyd adran 55(2A) a (2B) gan adran 49 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) (“Deddf 2004”). Amnewidiwyd adran 65 gan adran 16(1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) (“Deddf 1991”) ac fe’i diwygiwyd gan adran 40 o Ddeddf Tenantiaeth Amaethyddol 1995 (p. 8) a pharagraff 35(2) o’r Atodlen i’r Ddeddf honno. Amnewidwyd adran 69 gan adran 118 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) (“Deddf 2008”) (gweler adran 69(9) ar gyfer y diffiniad o “prescribed”) a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 71 gan adran 16(2) ac adran 32 o Ddeddf 1991, a pharagraff 15 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno. Diwygiwyd adran 78 gan adran 17(2) o Ddeddf 1991,adran 196(4) o Ddeddf 2008, a pharagraffau 1 a 3(a) o Atodlen 10 i’r Ddeddf honno ac adran 197 o Ddeddf 2008 a pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno. Mewnosodwyd adran 78A gan adran 50 o Ddeddf 2004. Daw adrannau 49 a 50 o Ddeddf 2004 i rym, i’r graddau nad ydynt mewn grym yn barod, ar 22 Mehefin 2015 yn rhinwedd O.S. 2015/340.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a gweler adran 118(3) o Ddeddf 2004. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

(3)

2004 p. 5. Daw adran 54 i rym, i’r graddau nad yw mewn grym yn barod, ar 22 Mehefin 2015 yn rhinwedd O.S. 2015/340.

(4)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

(6)

Diwygiwyd adran 174 gan Ddeddf 1991, adran 63 o Ddeddf Menter a Diwygio Rheoleiddio 2013 (p. 24) ac Atodlen 17 i’r Ddeddf honno ac O.S. 2004/3156 (Cy. 273).

(7)

1990 p. 9. Diwygiwyd adran 20 gan O.S. 2014/2773 (Cy. 280).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill