- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gymraeg
Gwnaed
23 Mehefin 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 10) 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Mesur” (“Measure”) yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Mesur i rym ar 6 Gorffennaf 2015 i’r graddau y maent yn rhychwantu’r Alban a Gogledd Iwerddon—
(a)adran 144(3)(a) (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym; a
(b)adran 145(2) (Disodli cynlluniau iaith Gymraeg gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Mesur i rym ar 7 Gorffennaf 2015—
(a)Rhan 2 (Comisiynydd y Gymraeg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)Rhan 4 (Safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c)Rhan 5 (Gorfodi safonau);
(d)Rhan 8 (Cyffredinol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(e)adran 144(1), (2) a (3)(a) o Ran 9 (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(f)Atodlen 2 (Ymholiadau gan y Comisiynydd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(g)Atodlen 3 (Diwygiadau ynglŷn â gweithio ar y cyd a gweithio’n gyfochrog); a
(h)Atodlen 10 (Ymchwiliad y Comisiynydd i fethiant i gydymffurfio â safonau etc).
Carwyn Jones
Prif Weinidog Cymru
23 Mehefin 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Mesur o 6 Gorffennaf 2015 i’r graddau y maent yn rhychwantu’r Alban a Gogledd Iwerddon—
(a)adran 144(3)(a) (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym; a
(b)adran 145(2) (Disodli cynlluniau iaith Gymraeg gan safonau) o Ran 9 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau a ganlyn o’r Mesur o 7 Gorffennaf 2015—
(a)Rhan 2 (Comisiynydd y Gymraeg) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)Rhan 4 (Safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c)Rhan 5 (Gorfodi safonau);
(d)Rhan 8 (Cyffredinol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(e)adran 144(1), (2) a (3)(a) o Ran 9 (Diddymu swyddogaethau cyffredinol y Bwrdd a disodli cynlluniau gan safonau) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(f)Atodlen 2 (Ymholiadau gan y Comisiynydd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(g)Atodlen 3 (Diwygiadau ynglŷn â gweithio ar y cyd a gweithio’n gyfochrog); a
(h)Atodlen 10 (Ymchwiliad y Comisiynydd i fethiant i gydymffurfio â safonau etc).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Mesur wedi eu dwyn i rym drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
adran 2(2) (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
adran 2(3) (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
adran 2 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adran 3 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adran 4 | 1 Mehefin 2012 | 2012/1423 (Cy. 176) |
adrannau 5 a 6 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 176) |
adran 7 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adrannau 8 i 10 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adran 11 | 1 Mehefin 2012 | 2012/1423 (Cy. 176) |
adrannau 12 i 15 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adran 16(yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adrannau 17 i 19 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adran 22 (yn rhannol) | 17 Ebrill 2012 | 2012/1096 (Cy. 135) |
adran 23(1) (yn rhannol) | 10 Ionawr 2012 | 2012/46 (Cy. 10) |
adran 23(4) | 10 Ionawr 2012 | 2012/46 (Cy. 10) |
adran 23 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adran 24 | 17 Ebrill 2012 | 2012/1096 (Cy. 135) |
adrannau 26 i 43 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adran 44 | 17 Ebrill 2012 | 2012/1096 (Cy. 135) |
adrannau 61 i 66 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adrannau 67 ac 68 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adran 108 | 25 Mawrth 2015 | 2015/985 (Cy. 66) |
adran 70 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adrannau 111 i 119 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adran 120(1) | 30 Ebrill 2015 | 2015/1217 (Cy. 80) |
adran 120(2) a (3) | 7 Ionawr 2014 | 2013/3140 (Cy. 313) |
adran 120(4) (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adran 120(4) (yn llawn) | 7 Ionawr 2014 | 2013/3140 (Cy. 313) |
adrannau 123 i 125 | 7 Ionawr 2014 | 2013/3140 (Cy. 313) |
adran 126 | 30 Ebrill 2015 | 2015/1217 (Cy. 80) |
adrannau 127 a 128 | 7 Ionawr 2014 | 2013/3140 (Cy. 313) |
adrannau 129 a 130 | 30 Ebrill 2015 | 2015/1217 (Cy. 80) |
adran 131 | 7 Ionawr 2014 | 2013/3140 (Cy. 313) |
adran 132 | 30 Ebrill 2015 | 2015/1217 (Cy. 80) |
adran 133 | 7 Ionawr 2014 | 2013/3140 (Cy. 313) |
adrannau 134 i 137 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adrannau 138 a 139 (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
adrannau 138 a 139 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adran 140 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adran 141 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adrannau 142 a 143 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adran 144 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adran 144 (yn rhannol) | 1 Mehefin 2012 | 2012/1423 (Cy. 176) |
adran 146 (yn rhannol) | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
adran 146 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adran 147 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
adrannau 148 a 149 | 5 Chwefror 2012 | 2012/223 (Cy. 37) |
Atodlen 1, paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 21 | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
Atodlen 1 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
Atodlen 2 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
Atodlen 4, paragraffau 1, 5, 10 ac 11 | 10 Ionawr 2012 | 2012/46 (Cy. 10) |
Atodlen 4 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
Atodlenni 5 i 9 | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
Atodlen 11 (yn rhannol) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
Atodlen 11 (yn llawn) | 7 Ionawr 2014 | 2013/3140 (Cy. 313) |
Atodlen 12, paragraffau 1, 2 a 6 | 28 Mehefin 2011 | 2011/1586 (Cy. 182) |
Atodlen 12 (yn llawn) | 1 Ebrill 2012 | 2012/969 (Cy. 126) |
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys