Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1496 (Cy. 168)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015

Gwnaed

7 Gorffennaf 2015

Yn dod i rym

31Gorffennaf 2015

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 5(3), 5(9) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(1).

Yn unol ag adran 55(3) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2015(2);

ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015;

ystyr “hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“initial training of teachers”) yw hyfforddiant neu addysg â’r nod o wneud personau, nad ydynt yn athrawon, yn addas i fod yn athrawon;

ystyr “sefydliad tramor” (“overseas institution”) yw sefydliad heblaw un yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.

Yr uchafswm rhagnodedig

3.  Yn ddarostyngedig i reoliadau 4, 5 a 6, yr uchafswm rhagnodedig at ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015 yw £9,000.

Yr uchafswm rhagnodedig ar gyfer blynyddoedd academaidd terfynol cyrsiau a blynyddoedd academaidd cyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon

4.  At ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015, rhagnodir mai’r uchafswm yw £4,500 mewn cysylltiad â:

(a)blwyddyn academaidd derfynol cwrs pan fo’n ofynnol i’r flwyddyn academaidd honno fel rheol gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;

(b)cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs o’r fath sy’n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos.

Yr uchafswm rhagnodedig ar gyfer cyrsiau rhyngosod

5.  At ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015, rhagnodir mai’r uchafswm yw £1,800 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs rhyngosod:

(a)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn llai na 10 wythnos; neu

(b)os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser), mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, yn fwy na 30 wythnos.

Yr uchafswm rhagnodedig ar gyfer astudio a lleoliadau gwaith dramor

6.  At ddibenion adran 5(3) o Ddeddf 2015, rhagnodir mai’r uchafswm yw £1,350 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad tramor:

(a)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(b)os yw cyfanswm unrhyw un neu ragor o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio llawnamser yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan ddiystyru gwyliau yn y cyfamser), mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, yn fwy na 30 wythnos.

Ffioedd sy’n daladwy i bersonau eraill

7.  At ddibenion adran 5(9) o Ddeddf 2015, mae ffioedd i’w trin fel pe baent yn cael eu talu i sefydliad rheoleiddiedig o dan adran 5(2)(a) o Ddeddf 2015 yn yr amgylchiadau a ganlyn, sef pan fo’r ffioedd yn daladwy i berson mewn cysylltiad â chwrs cymhwysol a ddarperir ar ran sefydliad rheoleiddiedig gan y person hwnnw.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

7 Gorffennaf 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r uchafswm y bydd sefydliad sydd â chynllun ffioedd a mynediad a gymeradwywyd mewn grym yn gallu ei godi drwy ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau gradd llawnamser.

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi’r uchafswm a fydd yn gymwys. Mae rheoliadau 4, 5 a 6 yn rhagnodi uchafsymiau is mewn cysylltiad â rhai cyrsiau.

Mae rheoliad 7 yn darparu, pan fo cwrs yn gwrs breiniol, fod ffioedd i’w trin fel pe baent yn daladwy i’r sefydliad y darperir y cwrs ar ei ran, a bod rhaid i gyfanswm y ffioedd y mae myfyriwr yn eu talu beidio â bod yn fwy na’r swm a ragnodir gan y Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill