Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

YR ATODLENNI

Rheoliad 3

ATODLEN 1LL+CSYLWEDDAU PERYGLUS A’R MAINTIOLI SYDD DAN REOLAETH

RHAN 1LL+CCategorïau o sylweddau

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 Rhn. 1 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Mae’r Rhan hon yn cwmpasu pob sylwedd peryglus sy’n perthyn i’r categorïau perygl a restrir yng Ngholofn 1:

Colofn 1Colofn 2
Categorïau perygl yn unol â’r Rheoliad DLPhMaintioli sydd dan reolaeth mewn tunelli
Adran ‘H’ - PERYGLON I IECHYD
H1 GWENWYNIG ACÍWT Categori 1, pob llwybr amlygu5

H2 GWENWYNIG ACÍWT

— Categori 2, pob llwybr amlygu

— Categori 3, llwybr amlygu anadlu (gweler nodyn 7)

50
H3 GPOD GWENWYNDRA PENODOL ORGAN DARGED - AMLYGIAD UNIGOL GPOD AU Categori 150
Adran ‘P’ – PERYGLON CORFFOROL

P1a FFRWYDRON (gweler nodyn 8)

— Ffrwydron ansefydlog neu

— Ffrwydron, Is-adran 1.1, 1.2, 1.3, 1.5 neu 1.6, neu

— Sylweddau neu gymysgeddau sydd â nodweddion ffrwydrol yn ôl dull A.14 o Reoliad

(EC) Rhif 440/2008 (gweler nodyn 9) ac nad ydynt yn perthyn i’r dosbarthiadau perygl perocsidau Organig na sylweddau a chymysgeddau Hunanadweithiol

10

P1b FFRWYDRON (gweler nodyn 8)

Ffrwydron, Is-adran 1.4 (gweler nodyn 10)

50
P2 NWYON FFLAMADWY Nwyon Fflamadwy, Categori 1 neu 210
P3a EROSOLAU FFLAMADWY (gweler nodyn 11.1) Erosolau ‘fflamadwy’ Categori 1 neu 2, sy’n cynnwys nwyon fflamadwy Categori 1 neu 2 neu hylifau fflamadwy Categori 1150 (net)
P3b EROSOLAU FFLAMADWY (gweler nodyn 11.1) Erosolau ‘fflamadwy’ Categori 1 neu 2, nad ydynt yn cynnwys nwyon fflamadwy Categori 1 na 2 na hylifau fflamadwy Categori 1 (gweler nodyn 11.2)5,000 (net)

P4 NWYON SY’N OCSIDIO

Nwyon sy’n ocsidio, Categori 1

50

P5a HYLIFAU FFLAMADWY

— Hylifau fflamadwy, Categori 1, neu

— Hylifau fflamadwy Categori 2 neu 3 a gynhelir ar dymheredd uwchlaw eu berwbwynt, neu

— Hylifau eraill sydd â fflachbwynt ≤ 60 °C, a gynhelir ar dymheredd uwchlaw eu berwbwynt (gweler nodyn 12)

10

P5b HYLIFAU FFLAMADWY

— Hylifau fflamadwy Categori 2 neu 3 pan fo amodau prosesu penodol, fel gwasgedd uchel neu dymheredd uchel, yn gallu creu peryglon o ran damwain fawr, neu

— Hylifau eraill sydd â fflachbwynt ≤ 60 °C pan fo amodau prosesu penodol, fel gwasgedd uchel neu dymheredd uchel, yn gallu creu peryglon o ran damwain fawr (gweler nodyn 12)

50

P5c HYLIFAU FFLAMADWY

Hylifau fflamadwy, Categorïau 2 neu 3 nad yw P5a na P5b yn eu cwmpasu

5,000

P6a SYLWEDDAU A CHYMYSGEDDAU HUNANADWEITHIOL a PHEROCSIDAU ORGANIG

Sylweddau a chymysgeddau hunanadweithiol, Math A neu B neu berocsidau organig, Math A neu B

10

P6b SYLWEDDAU A CHYMYSGEDDAU HUNANADWEITHIOL a PHEROCSIDAU ORGANIG

Sylweddau a chymysgeddau hunanadweithiol, Math C, D, E neu F neu berocsidau organig, Math C, D, E neu F

50

P7 HYLIFAU A SOLIDAU PYROFFORIG

Hylifau pyrofforig, Categori 1

Solidau pyrofforig, Categori 1

50

P8 HYLIFAU A SOLIDAU SY’N OCSIDIO

Hylifau sy’n Ocsidio, Categori 1, 2 neu 3, neu

Solidau sy’n Ocsidio, Categori 1, 2 neu 3

50
Adran ‘E’ – PERYGLON AMGYLCHEDDOL
E1 Peryglus i’r Amgylchedd Dyfrol yng Nghategori Acíwt 1 neu Gronig 1100
E2 Peryglus i’r Amgylchedd Dyfrol yng Nghategori Cronig 2200
Adran ‘O’ – PERYGLON ERAILL
O1 Sylweddau neu gymysgeddau sydd â datganiad perygl EUH014100
O2 Sylweddau a chymysgeddau sy’n rhyddhau nwyon fflamadwy wrth ddod i gyswllt â dŵr, Categori 1100
O3 Sylweddau neu gymysgeddau sydd â datganiad perygl EUH02950

RHAN 2LL+CSylweddau peryglus a enwir

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 Rhn. 2 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Colofn 1Rhif CAS (1)Colofn 2
Sylweddau peryglusMaintioli sydd dan reolaeth (tunelli)
1. Amoniwm nitrad (gweler nodyn 13)-5000
2. Amoniwm nitrad (gweler nodyn 14)-1,250
3. Amoniwm nitrad (gweler nodyn 15)-350
4. Amoniwm nitrad (gweler nodyn 16)-10
5. Potasiwm nitrad (gweler nodyn 17)-5,000
6. Potasiwm nitrad (gweler nodyn 18)-1,250
7. Arsenig pentocsid, asid a/neu halwynau arsenig (V)1303-28-21
8. Arsenig triocsid, asid a/neu halwynau arsenaidd (III)1327-53-30.1
9. Bromin7726-95-620
10. Clorin7782-50-510
11. Cyfansoddion nicel ar ffurf powdwr y gellir ei anadlu i mewn: nicel monocsid, nicel deuocsid, nicel sylffid, trinicel deusylffid, deunicel triocsid-1
12. Ethylenamin151-56-410
13. Fflworin7782-41-410
14. Fformaldehyd (crynodiad ≥ 90%)50-00-05
15. Hydrogen1333-74-02
16. Hydrogen clorid (nwy hylifedig)7647-01-025
17. Alcylau plwm-5
18. Nwyon fflamadwy hylifedig, Categori 1 neu 2 (gan gynnwys NPH) a nwy naturiol (gan gynnwys Nwy Naturiol Hylifedig) (gweler nodyn 19)-

Nwy Naturiol (gan gynnwys Nwy Naturiol Hylifedig) (NNH): 15

Nwy Petrolewm Hylifedig (NPH): 25

Unrhyw nwyon fflamadwy hylifedig eraill: 50

19. Asetylen74-86-25
20. Ethylen ocsid75-21-85
21. Propylen ocsid75-56-95
22. Methanol67-56-1500
23. 4, 4′-Methylen bis (2-cloranylen) a/neu halwynau, ar ffurf powdwr101-14-40.01
24. Methylisocyanad624-83-90.15
25. Ocsigen7782-44-7200

26. 2,4 -Tolwen deuisocyanad

2,6 -Tolwen deuisocyanad

584-84-9

91-08-7

10
27. Carbonyl deuclorid (ffosgen)

75-44-5

0.3

28. Arsin (arsenig trihydrid)7784-42-10.2
29. Ffosffin (trihydrad ffosfforaidd)7803-51-20.2
30. Sylffwr deuclorid10545-99-01
31. Sylffwr triocsid

7446-11-9

15

32. Polyclorodeubensoffwranau a pholyclorodeubensodeuocsinau (gan gynnwys TCDD), wedi’u cyfrifo mewn TCDD cyfwerth (gweler nodyn 20)-0.001

33. Y CARSINOGENAU a ganlyn neu’r cymysgeddau sy’n cynnwys y carsinogenau a ganlyn mewn crynodiadau uwch na 5% yn ôl pwysau: 4-Aminobiffenyl a/neu ei halwynau, Bensotriclorid, Bensidin a/neu halwynau, Bis (cloromethyl) ether, Cloromethyl methyl ether, 1,2-Deubromoethan, Deuethyl sylffad, Deumethyl sylffad, Deumethylcarbamoyl clorid, 1,2-Deubromo-3-cloropropan, 1,2-Deumethylhydrasin, Deumethylnitrosamin, Hecsamethylffosfforig triamid, Hydrasin, 2- Naffthylamin a/neu halwynau, 4-Nitrodeuffenyl, ac 1,3 Propaneswlton

-0.5
34. Cynhyrchion petrolewm a thanwyddau amgen (a) gasolinau a naffthau, (b) cerosinau (gan gynnwys tanwyddau jet), (c) olewau nwy (gan gynnwys tanwyddau disel, olewau cynhesu’r cartref a ffrydiau cymysgu olew nwy) (d) olewau tanwydd trwm (e) tanwyddau amgen sy’n diwallu’r un dibenion ac sydd â nodweddion tebyg o ran fflamadwyedd a pheryglon amgylcheddol i’r cynhyrchion y cyfeirir atynt ym mhwyntiau (a) i (d)-2,500
35. Amonia Anhydrus7664-41-750
36. Boron trifflworid7637-07-25
37. Hydrogen sylffid7783-06-45
38. Piperidin110-89-450
39. Bis(2-deumethylaminoethyl) (methyl)amin3030-47-550
40. 3-(2-Ethylhecsylocsi)propylamin5397-31-950

41. Cymysgeddau (*) o sodiwm hypoclorit sydd wedi eu dosbarthu fel Dyfrol Acíwt Categori 1 [H400] sy’n cynnwys llai na 5% o glorin actif ac nad ydynt wedi eu dosbarthu o dan unrhyw un neu ragor o’r categorïau perygl eraill yn Rhan 1 o Atodlen 1.

(*) Ar yr amod na fyddai’r cymysgedd yn absenoldeb sodiwm hypoclorit yn cael ei ddosbarthu fel Dyfrol Acíwt Categori 1 [H400].

200
42. Propylamin (gweler nodyn 21)107-10-8500
43. Tert-biwtyl acrylad (gweler nodyn 21)1663-39-4200
44. 2-Methyl-3-biwtenenitril (gweler nodyn 21)16529-56-9500
45. Tetrahydro-3,5-deumethyl-1,3,5,-thiadiasin-2-thione (Dasomet) (gweler nodyn 21)533-74-4100
46. Methyl acrylad (gweler nodyn 21)96-33-3500
47. 3-Methylpyridin (gweler nodyn 21)108-99-6500
48. 1-Bromo-3-cloropropan (gweler nodyn 21)109-70-6500

RHAN 3LL+CSylweddau a ddefnyddir mewn proses gemegol ddiwydiannol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 Rhn. 3 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Colofn 1 Sylweddau PeryglusColofn 2 Maintioli sydd dan reolaeth
Pan fo’n rhesymol rhagweld y gall sylwedd sy’n dod o fewn Rhan 1 neu Ran 2 (“SP”) gael ei gynhyrchu wrth golli rheolaeth ar y prosesau, gan gynnwys gweithgareddau storio mewn unrhyw osodiad o fewn sefydliad, unrhyw sylwedd a ddefnyddir yn y broses honno (“S”).Maintioli S y credir y gallai gynhyrchu (ar ei ben ei hun neu ar y cyd â sylweddau eraill a ddefnyddir yn y broses berthnasol) swm cyfwerth â’r maintioli sydd dan reolaeth neu fwy o’r SP dan sylw.

(Gweler nodyn 23)

RHAN 4LL+CNodiadau i Rannau 1 i 3

1.  Caiff sylweddau a chymysgeddau eu dosbarthu yn unol â’r Rheoliad DLPh(1).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

2.  Rhaid trin cymysgeddau yn yr un ffordd â sylweddau pur ar yr amod eu bod yn parhau o fewn terfynau crynodiad a bennwyd yn unol â’u nodweddion o dan y Rheoliad DLPh, neu ei addasiad diweddaraf i gynnydd technegol, oni bai y rhoddir yn benodol gyfansoddiad canrannol neu ddisgrifiad arall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

3.  Mae’r maintioli sydd dan reolaeth a bennir yn Rhannau 1 i 3 o’r Atodlen hon yn berthnasol i bob sefydliad.LL+C

Y maintioli sydd i’w ystyried ar gyfer cymhwyso’r Rheoliadau hyn yw’r maintioli mwyaf sy’n bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol ar unrhyw un adeg.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

4.  Mae’r rheol a ganlyn sy’n rheoli ychwanegu sylweddau peryglus, neu gategorïau o sylweddau peryglus, yn gymwys pan fo’n briodol.LL+C

Yn achos sefydliad pan na fo unrhyw sylwedd peryglus unigol yn bresennol o faintioli uwchlaw neu gyfwerth â’r maintioli sydd dan reolaeth perthnasol, rhaid cymhwyso’r rheol a ganlyn er mwyn penderfynu a yw gofynion perthnasol y Rheoliadau hyn yn cwmpasu’r sefydliad.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau os yw swm yn fwy nag 1 neu’n gyfwerth ag 1,

  • pan fo

  • qX = maintioli’r sylwedd peryglus X (neu gategori o sylweddau peryglus) sy’n dod o fewn Rhan 1 neu Ran 2 o’r Atodlen hon; a

  • QLX = y maintioli sydd dan reolaeth perthnasol ar gyfer sylwedd peryglus neu gategori X o Golofn 2 o Ran 1 neu o Golofn 2 o Ran 2 o’r Atodlen hon, ac eithrio fel a nodir yn y paragraff a ganlyn.

  • At ddibenion cyfrifo QLX yn unig, pan fo’r sylwedd peryglus yn un a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl a ganlyn, mae’r maintioli sydd dan reolaeth perthnasol fel sydd wedi ei nodi yng ngholofn 2 o’r tabl A a ganlyn:

    Tabl A

    Colofn 1Rhif CASColofn 2
    15. Hydrogen1333-74-05
    18. Nwyon fflamadwy hylifedig, Categori 1 neu 2 (gan gynnwys NPH) a nwy naturiol (gan gynnwys mwy naturiol hylifedig)-50

Rhaid defnyddio’r rheol hon i asesu’r peryglon i iechyd, y peryglon corfforol a’r peryglon amgylcheddol. Rhaid ei chymhwyso dair gwaith felly—

(a)ar gyfer ychwanegu sylweddau peryglus a restrir yn Rhan 2 sy’n dod o fewn categori gwenwyndra acíwt 1, 2 neu 3 (llwybr anadlu) neu GPOD AU categori 1, ynghyd â sylweddau peryglus sy’n dod o fewn adran H, cofnodion H1 i H3 o Ran 1;

(b)ar gyfer ychwanegu sylweddau peryglus a restrir yn Rhan 2 sy’n ffrwydron, nwyon fflamadwy, erosolau fflamadwy, nwyon sy’n ocsidio, hylifau fflamadwy, sylweddau a chymysgeddau hunanadweithiol, perocsidau organig, hylifau a solidau pyrofforig, hylifau a solidau sy’n ocsidio, ynghyd â sylweddau peryglus sy’n dod o fewn adran P, cofnodion P1 i P8 o Ran 1;

(c)ar gyfer ychwanegu sylweddau peryglus a restrir yn Rhan 2 sy’n dod o fewn categori acíwt 1 peryglus i’r amgylchedd dyfrol, categori cronig 1 neu gategori cronig 2, ynghyd â sylweddau peryglus sy’n dod o fewn adran E, cofnodion E1 ac E2 o Ran 1.

Mae darpariaethau perthnasol y Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r symiau a geir drwy (a), (b) neu (c) yn fwy nag 1 neu’n gyfwerth ag 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

5.  Yn achos sylweddau peryglus nad yw’r Rheoliad DLPh yn eu cwmpasu, gan gynnwys gwastraff, ond sydd er hynny yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol mewn sefydliad ac sy’n meddu ar neu’n debygol o feddu ar nodweddion cyfwerth o ran y potensial am ddamwain fawr, o dan yr amodau a geir yn y sefydliad, rhaid eu neilltuo dros dro i’r categori mwyaf cydweddol neu’r sylwedd peryglus a enwyd mwyaf cydweddol sy’n dod o fewn cwmpas y Rheoliadau hyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

6.  Yn achos sylweddau peryglus sydd â nodweddion sy’n arwain at fwy nag un dosbarthiad, at ddibenion y Rheoliadau hyn mae’r maintioli isaf sydd dan reolaeth yn gymwys. Fodd bynnag, ar gyfer cymhwyso’r rheol yn Nodyn 4, rhaid defnyddio’r maintioli isaf sydd dan reolaeth ar gyfer pob grŵp o gategorïau yn Nodiadau 4(a), 4(b) a 4(c) sy’n cyfateb i’r dosbarthiad dan sylw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

7.  Mae sylweddau peryglus sy’n dod o fewn Categori 3 Gwenwynig Acíwt drwy lwybr y geg (H 301) yn dod o dan gofnod H2 GWENWYNIG ACÍWT yn yr achosion hynny pan na ellir cael dosbarthiad gwenwyndra anadlu acíwt na dosbarthiad gwenwyndra croenol acíwt, er enghraifft oherwydd diffyg data pendant ynghylch gwenwyndra’r llwybr anadlu a chroenol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

8.  Mae’r dosbarth perygl Ffrwydron yn cynnwys eitemau ffrwydrol (gweler Adran 2.1 o Atodiad I i’r Rheoliad DLPh). Os yw maintioli’r sylwedd neu’r cymysgedd ffrwydrol sydd wedi ei gynnwys yn yr eitem yn wybyddus, rhaid ystyried y maintioli hwnnw at ddibenion y Rheoliadau hyn. Os nad yw maintioli’r sylwedd neu’r cymysgedd ffrwydrol sydd wedi ei gynnwys yn yr eitem yn wybyddus, yna, at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid trin yr eitem gyfan fel un ffrwydrol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

9.  Nid oes angen profi ar gyfer nodweddion ffrwydrol sylweddau a chymysgeddau onid yw’r weithdrefn sgrinio yn unol ag Atodiad 6, Rhan 3 o Argymhellion y Cenhedloedd Unedig ar Gludo Nwyddau Peryglus, y Llawlyfr Profion a Meini Prawf (Llawlyfr Profion a Meini Prawf y Cenhedloedd Unedig)(2) yn nodi bod potensial bod y sylwedd neu’r cymysgedd yn meddu ar nodweddion ffrwydrol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

10.  Os caiff Ffrwydron sy’n perthyn i Is-adran 1.4 eu dadbacio neu eu hailbacio, rhaid eu neilltuo i’r cofnod P1a, oni bai y dangosir bod y perygl yn dal i gyfateb i Is-adran 1.4, yn unol â’r Rheoliad DLPh.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

11.—(1Caiff erosolau fflamadwy eu dosbarthu yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 75/324/EEC dyddiedig 20 Mai 1975 ar gyd-ddynesiad cyfreithiau’r Aelod-wladwriaethau yn ymwneud â chyflenwyr erosol(3) (Y Gyfarwyddeb Cyflenwyr Erosol). Mae erosolau “Fflamadwy dros ben” a “Fflamadwy” o Gyfarwyddeb 75/324/EEC yn cyfateb i Erosolau Fflamadwy Categori 1 neu 2, yn y drefn honno, o’r Rheoliad DLPh.LL+C

(2Er mwyn defnyddio’r cofnod hwn, rhaid iddi gael ei dogfennu nad yw’r cyflenwr erosol yn cynnwys Nwy Fflamadwy Categori 1 na 2 na Hylif Fflamadwy Categori 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

12.  Yn ôl paragraff 2.6.4.5 yn Atodiad I i’r Rheoliad DLPh, nid oes angen dosbarthu hylifau sydd â fflachbwynt uwchlaw 35°C yng Nghategori 3 os cafwyd canlyniadau negyddol yn y prawf hylosgedd parhaus L.2, Rhan III, adran 32 o Lawlyfr Profion a Meini Prawf y Cenhedloedd Unedig. Nid yw hyn yn ddilys, fodd bynnag, o dan amodau uwch fel tymheredd neu wasgedd uchel, ac felly mae hylifau o’r fath wedi eu cynnwys yn y cofnod hwn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

13.  Amoniwm nitrad (5,000/10,000): gwrteithiau sy’n gallu dadelfennu’n hunangynhaliolLL+C

Mae hyn yn gymwys i wrteithiau cyfansawdd/cyfun seiliedig ar amoniwm nitrad (mae gwrteithiau cyfansawdd/cyfun yn cynnwys amoniwm nitrad ynghyd â ffosffad a/neu botash) sy’n gallu dadelfennu’n hunangynhaliol yn ôl Prawf Cafn y Cenhedloedd Unedig (gweler Llawlyfr Profion a Meini Prawf y Cenhedloedd Unedig, Rhan III, is-adran 38.2), ac y mae’r nitrogen a gynhwysir ynddynt o ganlyniad i’r amoniwm nitrad—

(a)rhwng 15.75%(4) a 24.5%(5) yn ôl pwysau, a naill ai â dim mwy na chyfanswm o 0.4% o ddeunyddiau hylosg/organig neu sy’n cyflawni gofynion Atodiad III-2 i Reoliad (EC) Rhif 2003/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 13 Hydref 2003 yn ymwneud â gwrteithiau(6);

(b)yn 15.75% neu lai yn ôl pwysau ac yn cynnwys deunyddiau hylosg digyfyngiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

14.  Amoniwm nitrad (1,250/5,000): gradd gwrtaithLL+C

Mae hyn yn gymwys i wrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad ac i wrteithiau cyfansawdd/cyfun seiliedig ar amoniwm nitrad sy’n cyflawni gofynion Atodiad III-2 i Reoliad (EC) Rhif 2003/2003 ac y mae’r nitrogen a gynhwysir ynddynt o ganlyniad i’r amoniwm nitrad—

(a)yn fwy na 24.5% yn ôl pwysau, ac eithrio ar gyfer cymysgeddau o wrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad sy’n cynnwys dolomit, calchfaen a/neu galsiwm carbonad sydd â phurdeb o 90% o leiaf;

(b)yn fwy na 15.75% yn ôl pwysau ar gyfer cymysgeddau o amoniwm nitrad ac amoniwm sylffad;

(c)yn fwy na 28%(7) yn ôl pwysau ar gyfer cymysgeddau o wrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad sy’n cynnwys dolomit, calchfaen a/neu galsiwm carbonad sydd â phurdeb o 90% o leiaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

15.  Amoniwm nitrad (350/2,500): gradd dechnegolLL+C

Mae hyn yn gymwys i amoniwm nitrad a chymysgeddau o amoniwm nitrad pan fo’r nitrogen a gynhwysir ynddynt o ganlyniad i’r amoniwm nitrad—

(a)rhwng 24.5% a 28% yn ôl pwysau, ac sy’n cynnwys dim mwy na 0.4% o sylweddau hylosg;

(b)yn fwy na 28% yn ôl pwysau, ac sy’n cynnwys dim mwy na 0.2% o sylweddau hylosg.

Mae hefyd yn gymwys i hydoddiannau amoniwm nitrad dyfrllyd y mae eu crynodiad o amoniwm nitrad yn fwy nag 80% yn ôl pwysau.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

16.  Amoniwm nitrad (10/50): deunydd nad yw’n bodloni’r fanyleb a gwrteithiau nad ydynt yn bodloni’r prawf taniadLL+C

Mae hyn yn gymwys i—

(a)deunydd a wrthodwyd yn ystod y broses weithgynhyrchu ac i amoniwm nitrad a chymysgeddau o amoniwm nitrad, gwrteithiau sengl seiliedig ar amoniwm nitrad a gwrteithiau cyfansawdd/cyfun seiliedig ar amoniwm nitrad y cyfeirir atynt yn Nodiadau 14 a 15, sy’n cael eu dychwelyd neu sydd wedi eu dychwelyd gan y defnyddiwr terfynol i weithgynhyrchwr, i storfa dros dro neu i safle ailbrosesu ar gyfer eu hailweithio, eu hailgylchu neu eu trin ar gyfer eu defnyddio’n ddiogel, oherwydd nad ydynt mwyach yn cydymffurfio â manylebau Nodiadau 14 a 15;

(b)gwrteithiau y cyfeirir atynt yn Nodyn 13(a), a Nodyn 14 i’r Atodlen hon nad ydynt yn cyflawni gofynion Atodiad III-2 i Reoliad (EC) Rhif 2003/2003.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

17.  Potasiwm nitrad (5,000/10,000)LL+C

Mae hyn yn gymwys i’r gwrteithiau cyfun hynny sy’n seiliedig ar botasiwm-nitrad (ar ffurf peledau/gronynnau) sydd â’r un nodweddion peryglus â photasiwm nitrad pur.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

18.  Potasiwm nitrad (1,250/5,000)LL+C

Mae hyn yn gymwys i’r gwrteithiau cyfun hynny sy’n seiliedig ar botasiwm-nitrad (ar ffurf grisialau) sydd â’r un nodweddion peryglus â photasiwm nitrad pur.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

19.  Bio-nwy wedi ei uwchraddioLL+C

At ddibenion gweithredu’r Rheoliadau hyn, caniateir dosbarthu bio-nwy wedi ei uwchraddio o dan gofnod 18 o Ran 2 o Atodlen 1 pan fo wedi ei brosesu yn unol â safonau cymwys ar gyfer bio-nwy puredig ac uwchraddedig gan sicrhau ansawdd sy’n cyfateb i ansawdd nwy naturiol, gan gynnwys y Methan a gynhwysir ynddo, ac sydd ag uchafswm o 1% o Ocsigen.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

20.  Polyclorodeubensoffwranau a pholyclorodeubensodeuocsinauLL+C

Cyfrifir y maintioli o bolyclorodeubensoffwranau a pholyclorodeubensodeuocsinau gan ddefnyddio’r ffactorau yn Nhabl 1—

Tabl 1

Ffactorau Cyfwerthedd Gwenwyndra ar gyfer Deuocsinau a Chyfansoddion tebyg i Ddeuocsin 2005 Sefydliad Iechyd y Byd*

2,3,7,8-TCDD12,3,7,8-TCDF0.1
1,2,3,7,8-PeCDD12,3,4,7,8-PeCDF0.3
1,2,3,7,8-PeCDF0.03
1,2,3,4,7,8-HxCDD0.1
1,2,3,6,7,8-HxCDD0.11,2,3,4,7,8-HxCDF0.1
1,2,3,7,8,9-HxCDD0.11,2,3,7,8,9-HxCDF0.1
1,2,3,6,7,8-HxCDF0.1
1,2,3,4,6,7,8-HpCDD0.012,3,4,6,7,8-HxCDF0.1
OCDD0.00031,2,3,4,6,7,8-HpCDF0.01
1,2,3,4,7,8,9-HpCDF0.01
OCDF0.0003

(T = tetra, P = penta, Hx = hecsa, Hp = hepta, O = octa)

*Cyfeiriad — Van den Berg et al: “The 2005 World Health Organisation Re-evaluation of Human and Mammalian Toxic Equivalency Factors for Dioxins and Dioxin-like Compounds”.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

21.  Mewn achosion pan fo’r sylwedd peryglus hwn yn dod o fewn categori Hylifau fflamadwy P5a neu Hylifau fflamadwy P5b, yna at ddibenion y Rheoliadau hyn mae’r maintioli is sydd dan reolaeth yn gymwys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

22.  Pan fo Rhan 1 o’r Atodlen hon yn cwmpasu sylwedd peryglus a’i fod hefyd wedi ei restru yn Rhan 2, mae’r maintioli sydd dan reolaeth a nodir yng Ngholofn 2 o Ran 2 yn gymwys.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

23.  Mewn perthynas â Rhan 3—LL+C

(a)pan fo S hefyd yn dod o fewn Rhan 1 neu Ran 2, y dosbarthiad sydd â’r maintioli isaf sydd dan reolaeth sy’n gymwys; a

(b)pan fo S hefyd yn dod o fewn Rhan 1 a Rhan 2, y maintioli sydd dan reolaeth sydd isaf wrth gymharu’r maintioli sydd dan reolaeth o dan Ran 2 a Rhan 3 sy’n gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

24.  Mae i ymadroddion sy’n ymddangos yn yr Atodlen hon ac yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr at ddibenion yr Atodlen hon ag a roddir iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 4

ATODLEN 2LL+CESEMPTIADAU

Llwytho, dadlwytho a storio dros droLL+C

1.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb dros dro sylwedd peryglus ar, uwchben neu oddi tan dir pan fo’r presenoldeb hwnnw yn ymwneud yn uniongyrchol â chludo sylweddau peryglus ar y ffordd, ar drên, ar ddyfrffyrdd mewnol, ar y môr neu yn yr awyr, y tu allan i sefydliadau sy’n dod o fewn cwmpas y Rheoliadau hyn, gan gynnwys llwytho a dadlwytho a chludo rhwng un cyfrwng cludo i’r llall mewn dociau, ceioedd neu ierdydd trefnu.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

PiblinellauLL+C

2.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus sy’n cael ei gludo mewn piblinell, gan gynnwys gorsaf bwmpio, y tu allan i unrhyw dir—

(a)y mae cydsyniad sylweddau peryglus ar gyfer unrhyw sylwedd yn bodoli mewn cysylltiad ag ef;

(b)(heb ystyried maintioli’r sylwedd yn y biblinell neu’r orsaf bwmpio) y mae cydsyniad o’r fath yn ofynnol ar gyfer unrhyw sylwedd mewn cysylltiad â’r tir hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Dadlwytho oddi ar longau mewn argyfwngLL+C

3.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus sydd wedi ei ddadlwytho oddi ar long neu fad môr arall mewn argyfwng hyd nes bod y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd ei ddadlwytho yn dod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

4.  At ddiben paragraff 3, mae sylwedd i’w drin fel petai wedi ei ddadlwytho oddi ar fad mewn argyfwng—

(a)os cafodd ei ddadlwytho oddi ar fad yr oedd cyfarwyddyd o dan adran 3(1) o Ddeddf Llestrau Peryglus 1985(8) (cyfarwyddiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol i harbwrfeistr) yn gymwys iddo; neu

(b)os cafodd ei ddadlwytho oddi ar fad ar ôl iddo ddod i mewn i harbwr neu ardal harbwr, o fewn ystyr “harbour” neu “harbour area” yn rheoliad 2 o Reoliadau Sylweddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 1987(9), heb fod hysbysiad yn ofynnol o dan baragraff (1) o reoliad 6 o’r Rheoliadau hynny yn rhinwedd esemptiad o dan baragraff (5) o’r rheoliad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Safleoedd tirlenwiLL+C

5.  Yn ddarostyngedig i baragraff 7, nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus ar, uwchben neu oddi tan dir safle tirlenwi gwastraff, gan gynnwys safle storio gwastraff tanddaearol.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

6.  Nid yw paragraff 5 yn gymwys i—

(a)safle a ddefnyddir ar gyfer storio mercwri metelaidd yn unol ag Erthygl 3(1)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1102/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar wahardd allforio mercwri metelaidd a chyfansoddion a chymysgeddau penodol mercwri a storio mercwri metelaidd yn ddiogel(10);

(b)storfeydd nwy tanddaearol yn y tir mewn strata naturiol, dyfrhaenau, ceudodau halen a mwyngloddiau segur;

(c)gweithrediadau prosesu cemegol a thermol a storfeydd sy’n ymwneud â’r gweithrediadau hynny; neu

(d)cyfleusterau gwaredu sorod gweithredol, gan gynnwys pyllau neu argaeau sorod, sy’n cynnwys sylwedd peryglus.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Safleoedd niwclearLL+C

7.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus sy’n creu perygl o ymbelydredd ïoneiddio os yw’n bresennol ar, uwchben neu oddi tan dir y mae trwydded safle niwclear wedi ei rhoi neu’n ofynnol at ddibenion adran 1 o Ddeddf Safleoedd Niwclear 1965(11) mewn cysylltiad ag ef.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

MwynauLL+C

8.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus at ddibenion elwa ar fwynau mewn mwyngloddiau a chwareli, sef chwilio amdanynt, eu hechdynnu a’u prosesu, gan gynnwys drwy gyfrwng tyllau turio, ac eithrio pan fônt yn bresennol mewn cysylltiad â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff 6(b) i (d) o’r Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

9.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb sylwedd peryglus at ddibenion—

(a)chwilio am fwynau yn y môr ac elwa arnynt, gan gynnwys hydrocarbonau; neu

(b)storio nwy mewn safleoedd tanddaearol yn y môr gan gynnwys safleoedd storio dynodedig a safleoedd lle y bydd chwilio ac elwa ar fwynau, gan gynnwys hydrocarbonau.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

FfrwydronLL+C

10.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb ffrwydryn o fewn ystyr “explosive” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Ffrwydron 2014(12)

(a)y mae trwydded yn ofynnol ar ei gyfer ac wedi ei rhoi ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hynny gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch os yr Awdurdod hwnnw yw’r awdurdod trwyddedu yn rhinwedd—

(i)paragraff 1(b) o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny mewn achosion pan oedd cydsyniad awdurdod lleol yn ofynnol yn unol â rheoliad 13(3) o’r Rheoliadau hynny neu pan fyddai wedi bod yn ofynnol oni bai am reoliad 13(4)(b), (c), (d), (e), (f) neu (g) o’r Rheoliadau hynny, neu

(ii)paragraff 1(d) o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hynny; neu

(b)y mae trwydded yn ofynnol ar ei gyfer ac wedi ei rhoi ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hynny gan y Swyddfa dros Reoli Niwclear mewn achosion pan oedd cydsyniad awdurdod lleol yn ofynnol yn unol â rheoliad 13(3) o’r Rheoliadau hynny neu pan fyddai wedi bod yn ofynnol oni bai am reoliad 13(4)(b), (c), (d), (e), (f) neu (g) o’r Rheoliadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 2 para. 10 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

11.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol pan fo trwydded ar gyfer ffrwydryn o fewn ystyr “explosive” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Sylweddau Peryglus mewn Ardaloedd Harbwr 1987(13) wedi ei dyroddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 2 para. 11 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Presenoldeb sylweddau sefydledigLL+C

12.  Nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol mewn perthynas â sylwedd peryglus sydd ar, uwchben neu oddi tan unrhyw dir (“y sylwedd perthnasol”)—

(a)os oedd y sylwedd perthnasol yn bresennol ar, uwchben neu oddi tan y tir ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod sefydlu;

(b)os nad oedd cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer presenoldeb y sylwedd perthnasol ar yr adeg yr oedd yn bresennol yn ystod y cyfnod sefydlu; ac

(c)pe byddai cydsyniad sylweddau peryglus wedi bod yn ofynnol ar gyfer presenoldeb y sylwedd perthnasol petai’r Rheoliadau hyn wedi bod mewn grym ar yr adeg honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

13.  Nid yw paragraff 12 yn gymwys pan fo maintioli’r sylwedd perthnasol yn fwy nag uchafswm maintioli’r sylwedd perthnasol a oedd yn bresennol ar, uwchben neu oddi tan y tir ar unrhyw un adeg yn ystod y cyfnod sefydlu.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Presenoldeb sylweddau sydd wedi eu hesemptioLL+C

14.  Nid yw presenoldeb sylwedd y mae esemptiad wedi ei ddarparu ar ei gyfer o dan baragraffau 1 i 13 i’w ystyried wrth gyfrifo maintioli’r sylwedd peryglus sy’n bresennol ar, uwchben neu oddi tan dir at unrhyw ddiben o’r DCSP neu’r Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 2 para. 14 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Presenoldeb maintioli bach o sylweddauLL+C

15.  Nid yw presenoldeb maintioli o sylwedd peryglus—

(a)mewn lleoliad lle nad yw’n gallu achosi damwain fawr mewn man arall ar y safle perthnasol, a

(b)sy’n gyfwerth â dau y cant neu lai o’r maintioli perthnasol sydd dan reolaeth ar gyfer y sylwedd hwnnw,

i’w ystyried wrth gyfrifo maintioli’r sylwedd peryglus sy’n bresennol ar, uwchben neu oddi tan dir at unrhyw ddiben o’r DCSP neu’r Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 2 para. 15 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Mân newidiadau i fathau a maintioli o sylweddauLL+C

16.  Pan fo’r amodau ym mharagraff 17 wedi eu bodloni, nid yw cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer mân newid perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 2 para. 16 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

17.  Yr amodau yw—

(a)cyn bod y mân newid perthnasol yn digwydd, bod yr awdurdod sylweddau peryglus yn cael oddi wrth yr awdurdod COMAH cymwys hysbysiad ysgrifenedig y mae’n rhaid i’r awdurdod COMAH cymwys wneud copi ohono ar gyfer y person sy’n rheoli’r tir y mae’r cydsyniad sylweddau peryglus dan sylw yn ymwneud ag ef, yn cadarnhau—

(i)manylion y mân newid perthnasol, gan gynnwys manylion am sut i gadw a defnyddio sylweddau;

(ii)na fydd y mân newid perthnasol yn arwain at newid o ran perygl diogelwch; a

(iii)na fydd y mân newid perthnasol yn arwain at sefydliad haen is yn dod yn sefydliad haen uwch neu i’r gwrthwyneb; a

(b)bod unrhyw sylweddau peryglus a gedwir heb gydsyniad sylweddau peryglus gan ddibynnu ar yr esemptiad hwn yn cael eu cadw a’u defnyddio yn unol â’r manylion a nodir yn yr hysbysiad oddi wrth yr awdurdod COMAH cymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 2 para. 17 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Dehongli’r Atodlen honLL+C

18.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “cyfnod sefydlu” (“establishment period”) yw’r cyfnod o 12 wythnos sy’n dod i ben ar—

(a)

4 Medi 2015; neu

(b)

(os yw’n hwyrach) y dyddiad yr oedd y cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol yn gyntaf ar gyfer y sylwedd perthnasol;

ystyr “mân newid perthnasol” (“relevant minor change”) yw newid i’r maintioli neu’r math o sylweddau peryglus sy’n bresennol mewn, ar neu oddi tan dir y mae cydsyniad sylweddau peryglus yn bodoli mewn perthynas ag ef, pan fyddai cydsyniad sylweddau peryglus yn ofynnol ar gyfer y newid hwnnw oni bai am yr Atodlen hon;

ystyr “newid o ran perygl diogelwch” (“safety hazard change”) yw newid i ardal y mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu’r Swyddfa dros Reoli Niwclear wedi hysbysu awdurdod cynllunio lleol amdano at ddibenion paragraffau (c) neu (ca) o’r Tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(14) pan fo’r newid hwnnw yn arwain at—

(a)

yr ardal honno yn cwmpasu tir nad oedd yn ei gwmpasu yn flaenorol; neu

(b)

pan fo’r hysbysiad am yr ardal honno wedi nodi parthau o fewn yr ardal honno sy’n cyfateb i lefelau risg, ehangu unrhyw barth o’r fath.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

19.  Mae i ymadroddion sy’n ymddangos yn yr Atodlen hon ac yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr at ddibenion yr Atodlen hon ag a roddir iddynt at ddibenion y Gyfarwyddeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Rheoliadau 6(4), 7, 13(4) a 13(5)

ATODLEN 3LL+CFFURFLENNI, HYSBYSIADAU A THYSTYSGRIFAU RHAGNODEDIG

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 3 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Rheoliadau 16, 18 ac 20(1)

ATODLEN 4LL+CGORFODI – ADDASIADAU PENODEDIG O’R DCGTh

RHAN 1LL+CApelau yn erbyn hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus

1.  Yn adrannau 174, 175, 176 a 177 o’r DCGTh fel y’u cymhwysir gan reoliad 16—LL+C

(a)mae pob cyfeiriad at hysbysiad gorfodi i’w ddarllen fel petai’n gyfeiriad at hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus; a

(b)mae pob cyfeiriad at awdurdod cynllunio lleol i’w ddarllen fel petai’n gyfeiriad at awdurdod sylweddau peryglus.

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

2.  Mae adran 174 o’r DCGTh (apelau yn erbyn hysbysiad gorfodi), wrth ei chymhwyso mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen—LL+C

(a)fel petai is-adran (2) yn darllen fel a ganlyn—

(2) An appeal may be brought on any of the following grounds—

(a)that, in respect of any contravention of hazardous substances control specified in the notice, hazardous substances consent ought to be granted for the quantity of the hazardous substance present on, over or under the land or, as the case may be, the condition concerned ought to be discharged;

(b)that the matters alleged to constitute a contravention of hazardous substances control have not occurred;

(c)that those matters (if they occurred) do not constitute a contravention of hazardous substances control;

(d)that copies of the hazardous substances contravention notice were not served as required by or under section 24(4) of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990;

(e)that the steps required by the notice to be taken exceed what is necessary to remedy any contravention of hazardous substances control;

(f)that any period specified in the notice in accordance with section 24(5)(b) of that Act falls short of what should reasonably be allowed.;

(b)fel petai is-adran (4) yn darllen fel a ganlyn—

(4) A notice under subsection (3) must be accompanied by a copy of the hazardous substances contravention notice, together with a statement—-

(a)specifying the grounds on which the appeal is being made against the hazardous substances contravention notice; and

(b)setting out the appellant’s submissions in relation to each ground of appeal.;

(c)fel petai yn is-adran (5)—

(i)y geiriau “in that statement” wedi eu mewnosod yn union ar ôl “does not”;

(ii)y geiriau “in that statement” wedi eu mewnosod yn union ar ôl “failed”; a

(iii)y geiriau “within the prescribed time” ac “within that time” wedi eu hepgor.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

3.  Mae adran 175 o’r DCGTh (apelau: darpariaethau atodol), wrth ei chymhwyso mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen fel petai, yn is-adran (6), y geiriau “section 25(1) of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990” wedi eu rhoi yn lle “any other provisions of this Act”.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

4.  Mae adran 176 o’r DCGTh (darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â phenderfynu apelau), wrth ei chymhwyso mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen yn is-adran (3)—LL+C

(i)fel petai’r geiriau ym mharagraff (a) “within the prescribed time” wedi eu hepgor; a

(ii)fel petai paragraff (b) yn darllen fel a ganlyn—

(b)may allow an appeal and quash the hazardous substances contravention notice if the hazardous substances authority fail to comply with regulation 17(2) of the Planning (Hazardous Substances) (Wales) Regulations 2015.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

5.  Mae adran 177 o’r DCGTh (rhoi neu addasu caniatâd cynllunio yn dilyn apêl yn erbyn hysbysiad gorfodi), wrth ei chymhwyso mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen—LL+C

(a)fel pe rhoddid yn lle paragraffau (a) a (b)—

(a)grant hazardous substances consent for the presence of the hazardous substance on, over or under the land or on, over or under part of that land to which the hazardous substances contravention notice relates;

(b)discharge any condition subject to which hazardous substances consent was granted.;

(b)fel petai is-adrannau (1A) i (1C) wedi eu hepgor;

(c)yn is-adran (2)—

(i)fel petai’r geiriau “hazardous substances consent” wedi eu rhoi yn lle “planning permission”; a

(ii)fel petai’r geiriau “to any considerations which a hazardous substances authority would have to have regard to under section 9(2) of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990 when dealing with an application for hazardous substances consent.” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau ar ôl “regard”;

(d)yn is-adran (3)—

(i)fel petai’r geiriau “hazardous substances consent” wedi eu rhoi yn lle “planning permission” yn y ddau le y mae’n digwydd; a

(ii)fel petai’r cyfeiriad at “Part III” yn gyfeiriad at “the Planning (Hazardous Substances) Act 1990”;

(e)fel petai’r ddau gyfeiriad at “or limitation” yn is-adran (4) wedi eu hepgor;

(f)yn is-adran (5)—

(i)fel petai paragraff (b) wedi ei hepgor; a

(ii)fel petai’r geiriau “hazardous substances consent in respect of the matters specified in the hazardous substances contravention notice as constituting a contravention of hazardous substances control.” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “planning permission” hyd y diwedd;

(g)fel petai, yn is-adran (5A) y geiriau “section 26A of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990” wedi eu rhoi yn lle “section 303”;

(h)fel petai, yn is-adrannau (6) a (7), y geiriau “hazardous substances consent” wedi eu rhoi yn lle “planning permission”; ac

(i)yn is-adran (8)—

(i)fel petai’r geiriau “section 28 of the Planning (Hazardous Substances) Act 1990” wedi eu rhoi yn lle “section 69”; a

(ii)fel petai’r geiriau “hazardous substances consent” wedi eu rhoi yn lle “planning permission”.

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

RHAN 2LL+CEffaith hysbysiadau tramgwydd sylweddau peryglus, etc.

6.  Yn adrannau 178, 179, 180 a 181 o DCGTh, fel y’u cymhwysir gan reoliad 18—LL+C

(a)mae pob cyfeiriad at hysbysiad gorfodi i’w ddarllen fel petai’n gyfeiriad at hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus; a

(b)mae pob cyfeiriad at awdurdod cynllunio lleol i’w ddarllen fel petai’n gyfeiriad at awdurdod sylweddau peryglus.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

7.  Mae adran 178 o’r DCGTh (gweithredu a chostau gwaith sy’n ofynnol gan hysbysiadau gorfodi) fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w ddarllen—LL+C

(a)fel petai yn is-adran (2), yn y ddau le y mae’r geiriau “breach of planning control” yn digwydd, yn darllen “contravention of hazardous substances control”;

(b)fel petai is-adrannau (3) i (5) wedi eu hepgor; ac

(c)fel petai’r is-adran a ganlyn wedi ei mewnosod ar ôl is-adran (6)—

(7) Where different periods are specified for different steps in a hazardous substances contravention notice by virtue of section 24(5)(b) of the PHSA, references in this section and in section 179 to the period for compliance with a hazardous substances contravention notice, in relation to a step, are to the period by the end of which the step is required to have been taken.

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 4 para. 7 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

8.  Mae adran 179 (trosedd pan na chydymffurfir â hysbysiad gorfodi), fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus i’w darllen—LL+C

(a)fel petai is-adran (1) yn darllen fel a ganlyn—

(1) Where, at any time after the end of the period for compliance with a hazardous substances contravention notice, any steps required by the notice to be taken before the end of that period have not been taken, any person other than the owner who is in control of the land and the owner of the land at the time is in breach of the notice.;

(b)fel petai’r geiriau “the owner of the land” yn is-adran (2) yn darllen “a person”;

(c)fel petai is-adrannau (4) a (5) wedi eu hepgor;

(d)fel petai’r geiriau “or (5)” yn is-adran (6) wedi eu hepgor;

(e)fel petai’r geiriau “section 188” yn is-adran (7)(b) yn darllen “regulation 19 of the Planning (Hazardous Substances) (Wales) Regulations 2015”.

Gwybodaeth Cychwyn

I55Atod. 4 para. 8 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

9.  Mae adran 180 (effaith caniatâd cynllunio etc. ar hysbysiad gorfodi neu hysbysiad torri amod) fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen—LL+C

(a)fel petai is-adran (1) yn darllen fel a ganlyn—

(1) Where, after the service of a copy of a hazardous substances contravention notice, hazardous substances consent is granted for the presence of a hazardous substance on, over or under the land to which the notice relates or any part of that land, the notice ceases to have effect so far as inconsistent with that consent.;

(b)fel petai is-adran (2) wedi ei hepgor; ac

(c)fel petai’r geiriau “or breach of condition notice” yn is-adran (3) wedi eu hepgor”.

Gwybodaeth Cychwyn

I56Atod. 4 para. 9 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

10.  Mae adran 181 (hysbysiad gorfodi i gael effaith yn erbyn datblygiad dilynol) fel y mae’n cael effaith mewn perthynas â hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus, i’w darllen fel pe rhoddid y geiriau canlynol yn lle is-adrannau (1) i (5) o’r adran honno—LL+C

(1) Compliance with a hazardous substances contravention notice does not discharge that notice.

(2) Without prejudice to subsection (1), where a provision of a hazardous substances contravention notice requires a hazardous substance to be removed from the land to which the notice relates, the presence on, over or under that land of a quantity of that substance equal to or exceeding its controlled quantity at any time after the substance has been removed in compliance with the hazardous substances contravention notice is in contravention of that notice.

(3) Without prejudice to subsection (1), where a provision of a hazardous substances contravention notice requires the quantity of a hazardous substance on, over or under the land to which the notice relates to be reduced below a specified quantity (being greater than the controlled quantity), the presence on, over or under that land of a quantity of that substance equal to or in excess of the specified quantity at any time after the quantity of that substance has been reduced below the specified quantity in compliance with the hazardous substances contravention notice, is in contravention of that notice.

(4) Without prejudice to subsection (1), where a provision of a hazardous substances contravention notice requires steps to be taken to remedy a failure to comply with a condition subject to which a hazardous substances consent was granted, after those steps have been taken no further steps may be taken which would constitute a breach of that condition, and the taking of such further steps is in contravention of that notice.

(5) Sections 178 and 179 apply to the contravention of a hazardous substances contravention notice to which this section applies as if the period for compliance with the notice had expired on the date the contravention took place, but the hazardous substances authority must not enter the land under section 178(1) without, at least 28 days before their entry, serving on the owner or occupier of the land a notice of their intention to do so.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Atod. 4 para. 10 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

RHAN 3LL+CDilysrwydd

11.—(1Mae adran 285 o’r DCGTh (dilysrwydd hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau tebyg), fel y’i cymhwysir gan reoliad 20(1), i’w darllen—LL+C

(a)fel petai pob cyfeiriad at hysbysiad gorfodi yn gyfeiriad at hysbysiad tramgwydd sylweddau peryglus; a

(b)fel petai is-adrannau (3) a (4) wedi eu hepgor.

(2Mae adran 289 o’r DCGTh (apelau i’r Uchel Lys sy’n ymwneud â hysbysiadau gorfodi etc.), fel y’i cymhwysir gan reoliad 20(1), i’w darllen—

(a)fel petai pob cyfeiriad at hysbysiad gorfodi yn gyfeiriad at hysbysiad tramgwydd sylwedd peryglus; a

(b)fel petai pob cyfeiriad at awdurdod cynllunio lleol yn is-adrannau (1) a (4A) yn gyfeiriad at awdurdod sylweddau peryglus.

Gwybodaeth Cychwyn

I58Atod. 4 para. 11 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 35

ATODLEN 5LL+CDIWYGIADAU I DDEDDFWRIAETH

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005LL+C

1.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 13 (cynllun datblygu lleol: materion ychwanegol y dylid rhoi sylw iddynt)—

(a)yn lle paragraff (1)(c) rhodder—

(c)amcanion atal damweiniau mawr a chyfyngu ar ganlyniadau damweiniau o’r fath ar iechyd dynol a’r amgylchedd drwy fynd ar drywydd yr amcanion hynny drwy’r rheolaethau a ddisgrifir yn Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU;;

(b)yn lle paragraff (ch) rhodder—

(ch)yr angen, yn y tymor hir—

(i)i gadw pellteroedd diogelwch priodol rhwng sefydliadau ac ardaloedd preswyl, adeiladau ac ardaloedd a ddefnyddir gan y cyhoedd, ardaloedd hamdden, a, chyn belled â phosibl, lwybrau trafnidiaeth pwysig;

(ii)i warchod ardaloedd o sensitifrwydd naturiol penodol neu o ddiddordeb penodol yng nghyffiniau’r sefydliadau, pan fo hynny’n briodol drwy bellteroedd diogelwch priodol neu fesurau perthnasol eraill;

(iii)yn achos sefydliadau sy’n bodoli eisoes, i gymryd mesurau technegol ychwanegol yn unol ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU er mwyn peidio â chynyddu’r risgiau i iechyd dynol a’r amgylchedd.;

(c)ym mharagraff (2), yn lle “yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 96/82/EC (fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2003/105/EC)” rhodder “yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU”.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

Diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012LL+C

2.—(1Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(16) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y Tabl yn Atodlen 4 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio), ym mharagraff (s)—

(a)yn lle’r geiriau yn yr ail golofn (disgrifiad o’r datblygiad) rhodder—

Datblygiad—

(i)sy’n cynnwys lleoli sefydliadau newydd;

(ii)sy’n cynnwys addasiadau i sefydliadau presennol y mae Erthygl 11 o Gyfarwyddeb 2012/18/EU yn eu cwmpasu; neu

(iii)sy’n newydd, gan gynnwys llwybrau trafnidiaeth, lleoliadau a ddefnyddir gan y cyhoedd ac ardaloedd preswyl yng nghyffiniau sefydliadau presennol, lle gallai’r lleoliad neu’r datblygiad fod yn ffynhonnell y risg o ddamwain fawr, neu gynyddu’r risg neu ganlyniadau damwain fawr.;

(b)yn lle’r geiriau yn y drydedd golofn (ymgynghorai) rhodder—

“Awdurdod COMAH cymwys, ac mewn perthynas â datblygiad sy’n dod o fewn paragraff (iii), unrhyw berson sydd, yn ôl y gofrestr a gedwir gan yr awdurdod sylweddau peryglus o dan reoliad 22 o Reoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015, y person sy’n rheoli’r tir y mae unrhyw sefydliad presennol dan sylw wedi ei leoli arno”;;

(c)yn Atodlen 4 yn y paragraff sy’n delio â Dehongli’r Tabl, yn lle paragraff (ng) rhodder—

(ng)ym mharagraff (s)—

(i)mae i’r ymadroddion a ddefnyddir yn y paragraff hwnnw ac yng Nghyfarwyddeb 2012/18/EU yr un ystyr ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno; a

(ii)ystyr “awdurdod COMAH cymwys” (“COMAH competent authority”) yw—

(aa)mewn perthynas â safle niwclear perthnasol, y Swyddfa dros Reoli Niwclear a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd;

(bb)fel arall, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn gweithredu ar y cyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I60Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 4.9.2015, gweler rhl. 1(1)

(1)

Rheoliad (EC) Rhif 1272/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor.

(2)

Gellir dod o hyd i ragor o ganllawiau ar hepgor y prawf yn y disgrifiad o ddull A.14, gweler Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 440/2008 dyddiedig 30 Mai 2008 sy’n gosod dulliau profi yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1907/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch Cofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegau (REACH) (O.J. L 142, 31.5.2008, t. 1).

(3)

O.J. L 147, 9.6.1975, t. 40.

(4)

Mae cynnwys nitrogen o 15.7% yn ôl pwysau o ganlyniad i amoniwm nitrad yn cyfateb i 45% o amoniwm nitrad.

(5)

Mae cynnwys nitrogen o 24.5% yn ôl pwysau o ganlyniad i amoniwm nitrad yn cyfateb i 70% o amoniwm nitrad.

(6)

O.J. L 304, 21.11.2003, t. 1.

(7)

Mae cynnwys nitrogen o 28% yn ôl pwysau o ganlyniad i amoniwm nitrad yn cyfateb i 80% o amoniwm nitrad.

(9)

O.S. 1987/37, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(10)

O.J. Rhif L 304, 14.11.2008; t. 75.

(11)

1965 p. 57; amnewidiwyd adran 1 gan baragraffau 16 a 17 o Atodlen 12 i Ddeddf Ynni 2013 (p. 32).

(12)

O.S. 2014/1638. Mae yna newidiadau i’r rheoliad hwn nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(13)

O.S. 1987/37. Diwyglwyd rheoliad 2(1) gan erthygl 6(2) o O.S. 2014/469 a pharagraffau 37 a 38(b) o Ran 3 o Atodlen 3 iddo. Mae yna newidiadau eraill i’r rheoliad hwn nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(15)

O.S. 2005/2839 (Cy. 203), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill