Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1723 (Cy. 235)

Iechyd Planhigion, Cymru

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2015

Gwnaed

24 Medi 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Medi 2015

Yn dod i rym

20 Hydref 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2 a 3(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1) a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3). Ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd a grybwyllir yn erthygl 2(a)(ii) a (vii) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Enwi, dod i rym a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Cymru) 2015.

(2Daw erthyglau 1 i 3 o’r Gorchymyn hwn i rym ar 20 Hydref 2015.

(3Daw erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn i rym yn union ar ôl i erthyglau 1 i 3 ddod i rym.

(4Yn y Gorchymyn hwn—

(a)ystyr “Gorchymyn 2005” (“the 2005 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005(4);

(b)ystyr “Gorchymyn 2013” (“the 2013 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Lloegr a’r Alban) 2013(5); ac

(c)ystyr “Gorchymyn 2014” (“the 2014 Order”) yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio) (Lloegr a’r Alban) 2014(6).

Cymhwyso darpariaethau penodol yng Ngorchymyn 2005 o ran Cymru

2.  Mae’r darpariaethau a ganlyn yng Ngorchymyn 2005 yn gymwys o ran Cymru fel y maent yn gymwys o ran Lloegr a’r Alban—

(a)yn erthygl 2, y diffiniadau o—

(i)“associated controlled dunnage” (a fewnosodwyd gan erthygl 3(a) o Orchymyn 2014);

(ii)“Decision 2012/138/EU”(7) (a roddwyd yn lle’r diffiniad o “Decision 2008/840/EU” gan erthygl 3(a) o Orchymyn 2013);

(iii)“dunnage” (a amnewidiwyd gan erthygl 3(b) o Orchymyn 2014);

(iv)“ISPM No. 15”(8) (a amnewidiwyd gan erthygl 3(c) o Orchymyn 2014);

(v)“official documentation” (a fewnosodwyd gan erthygl 3(b) o Orchymyn 2013);

(vi)“protected zone” (a amnewidiwyd gan erthygl 3(d) o Orchymyn 2014);

(vii)“Regulation (EC) No 690/2008(9) (a fewnosodwyd gan erthygl 3(e) o Orchymyn 2014);

(viii)“wood” (a ddiwygiwyd gan erthygl 3(f) o Orchymyn 2014); a

(ix)“wood packaging material” (a amnewidiwyd gan erthygl 3(g) o Orchymyn 2014);

(b)erthygl 5(1)(c) (a ddiwygiwyd gan erthygl 4(1) o Orchymyn 2014);

(c)erthygl 5(1A) (a fewnosodwyd gan erthygl 4(2) o Orchymyn 2014);

(d)erthygl 6(2)(b)(ii) a (iii) (a amnewidiwyd gan erthygl 5 o Orchymyn 2014);

(e)erthygl 8(2)(c) a (d) (a fewnosodwyd gan erthygl 4 o Orchymyn 2013 ac a ddiwygiwyd gan erthygl 6 o Orchymyn 2014);

(f)erthygl 12(2)(aa) (a fewnosodwyd gan erthygl 7(a) o Orchymyn 2014);

(g)erthygl 12(2)(c) ac (e) (a amnewidiwyd gan erthygl 7(b) o Orchymyn 2014);

(h)erthygl 18(1)(c) (a ddiwygiwyd gan erthygl 8(1) o Orchymyn 2014);

(i)erthygl 18(1A) (a fewnosodwyd gan erthygl 8(2) o Orchymyn 2014);

(j)erthygl 19(1)(aa) (a fewnosodwyd gan erthygl 9(a) o Orchymyn 2014);

(k)erthygl 19(1)(c) (a ddiwygiwyd gan erthygl 9(b) o Orchymyn 2014);

(l)erthygl 20(8) (a fewnosodwyd gan erthygl 5 o Orchymyn 2013 ac a amnewidiwyd gan erthygl 10 o Orchymyn 2014);

(m)erthygl 21 (a amnewidiwyd gan erthygl 6 o Orchymyn 2013 ac a ddiwygiwyd gan erthygl 11 o Orchymyn 2014);

(n)erthygl 31(5)(a) (a ddiwygiwyd gan erthygl 12 o Orchymyn 2014);

(o)erthygl 32(2)(a) (a ddiwygiwyd gan erthygl 13 o Orchymyn 2014);

(p)erthygl 40(2) (a ddiwygiwyd gan erthygl 14 o Orchymyn 2014);

(q)erthygl 41(2) (a ddiwygiwyd gan erthygl 15 o Orchymyn 2014);

(r)erthygl 42(2)(b) (a ddiwygiwyd gan erthygl 16 o Orchymyn 2014);

(s)Atodlen 1 (a ddiwygiwyd gan erthygl 17 o Orchymyn 2014);

(t)Atodlen 1A (a fewnosodwyd gan erthygl 18 o Orchymyn 2014);

(u)Rhan A o Atodlen 2 (a ddiwygiwyd gan erthygl 7 o Orchymyn 2013 ac erthygl 19 o Orchymyn 2014);

(v)Atodlen 4 (a ddiwygiwyd gan erthygl 20 o Orchymyn 2014);

(w)Atodlen 5 (a ddiwygiwyd gan erthygl 21 o Orchymyn 2014);

(x)Atodlen 6 (a ddiwygiwyd gan erthygl 10 o Orchymyn 2013 ac erthygl 22 o Orchymyn 2014); ac

(y)Atodlen 7 (a ddiwygiwyd gan erthygl 11 o Orchymyn 2013 ac erthygl 23 o Orchymyn 2014).

Dirymu darpariaethau penodol yng Ngorchymyn 2005 fel yr oeddent yn gymwys o ran Cymru yn union cyn 12 Hydref 2015

3.  O ganlyniad i erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn, mae’r darpariaethau a ganlyn yng Ngorchymyn 2005 wedi eu dirymu fel yr oeddent yn gymwys o ran Cymru yn union cyn 12 Hydref 2015—

(a)yn erthygl 2—

(i)y diffiniad o “Decision 2008/840/EC”;

(ii)y diffiniad o “dunnage”;

(iii)y diffiniad o “ISPM No. 15”;

(iv)y diffiniad o “protected zone”;

(v)yn y diffiniad o “wood”, paragraff (c); a

(vi)y diffiniad o “wood packaging material”;

(b)erthygl 6(2)(b)(ii) a (iii);

(c)erthygl 8(2)(c), (d) ac (e);

(d)erthygl 12(2)(c) ac (e);

(e)erthygl 21;

(f)yn Atodlen 1, o dan y pennawd “insects, mites and nematodes”, eitemau 1a ac 8a yn y tabl;

(g)yn Atodlen 2, yn Rhan A, yn y tabl—

(i)eitemau 2 a 2a;

(ii)y testun yn nhrydedd golofn eitem 10; a

(iii)eitem 11;

(h)yn Atodlen 2, yn Rhan B, eitem 3 yn y tabl;

(i)yn Atodlen 4, yn Rhan A, yn y tabl—

(i)eitemau 1 i 6;

(ii)y testun ym mharagraff (d) yn nhrydedd golofn eitem 7;

(iii)eitemau 8 i 14A;

(iv)y testun ym mharagraff (b) yn nhrydedd golofn eitem 15;

(v)eitemau 16 ac 16A;

(vi)eitem 17;

(vii)eitem 19A;

(viii)yn nhrydedd golofn eitem 19B, y geiriau “Without prejudice to the requirements in item 19A, the”;

(ix)yn eitemau 22 a 23, yn nhrydedd golofn pob eitem, y cyfeiriadau at “24A”;

(x)eitemau 24 a 24A; ac

(xi)eitem 25;

(j)yn Atodlen 4, yn rhan B, yn y tabl—

(i)yn nhrydedd golofn eitem 1, y geiriau “Ceratocystis fimbriata f. sp. Platani Walter”;

(ii)eitemau 5 a 5A;

(iii)eitemau 5C a 5D; a

(iv)eitem 6;

(k)yn Atodlen 5, yn Rhan A—

(i)paragraff 2(b) ac (c);

(ii)paragraff 2A;

(iii)paragraff 3(b) ac (c); a

(iv)paragraff 4(a)(ii) i (vi);

(l)yn Atodlen 6, yn rhan A, paragraffau 4A a 5;

(m)yn Atodlen 6, yn rhan B, paragraffau 2 a 3(a)(ii);

(n)yn Atodlen 7, yn Rhan A, paragraffau 4A a 5; ac

(o)yn Atodlen 7, yn Rhan B, paragraffau 2 a 4(a)(ii).

Diwygiadau i Orchymyn 2005

4.—(1Yn erthygl 20(8) o Orchymyn 2005, yn lle “England or Scotland” rhodder “Great Britain”.

(2Yn Atodlen 1A i Orchymyn 2005, yn ail golofn y tabl (disgrifiad o barth gwarchod) yn lle “and Scotland” rhodder “Scotland and Wales”.

(3Yn Rhan B o Atodlen 2 i Orchymyn 2005, yn y tabl—

(a)yn ail golofn eitem 3, yn lle “England and Scotland” rhodder “Great Britain”; a

(b)yn ail golofn eitem 4, yn lle “England and Scotland” rhodder “Great Britain”.

Carl Sargeant

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

24 Medi 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn cymhwyso o ran Cymru ddarpariaethau penodol sydd wedi eu gwneud i ddiwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005 (O.S. 2005/2517) (“Gorchymyn 2005”) o ran Lloegr a’r Alban. Gwnaed y diwygiadau hynny gan Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Lloegr a’r Alban) (Diwygio) 2013 (O.S. 2013/2691) (“Gorchymyn 2013”) a Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Lloegr a’r Alban) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/2420) (“Gorchymyn 2014”). Roedd y Gorchmynion hynny’n gweithredu o ran Lloegr a’r Alban ddarpariaethau penodol yng Nghyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/78/EU ddyddiedig 17 Mehefin 2014 (OJ L 183, 24.6.2014, t. 23–48) a Chyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/78/EU ddyddiedig 25 Mehefin 2014 (OJ L 186, 26.6.2014, t. 64–71). Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu’r darpariaethau hynny o ran Cymru.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn darparu bod darpariaethau penodol yng Ngorchymyn 2005, sy’n gymwys o ran Lloegr a’r Alban yn unig ar hyn o bryd, yn gymwys hefyd o ran Cymru. Fel y nodwyd uchod, y darpariaethau yng Ngorchymyn 2005 a bennir yn erthygl 2 yw’r rheini a fewnosodwyd, a amnewidiwyd neu a ddiwygiwyd gan Orchymyn 2013 neu Orchymyn 2014 (neu’r ddau mewn rhai achosion) o ran Lloegr a’r Alban.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Orchymyn 2005 er mwyn dirymu darpariaethau penodol sy’n gymwys o ran Cymru yn unig ac sydd bellach yn cael eu disodli yn rhinwedd y ddarpariaeth a wneir gan erthygl 2.

Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn (sy’n dod i rym yn union ar ôl i erthyglau 2 a 3 ddod i rym) yn diwygio Gorchymyn 2005 er mwyn rhoi cyfeiriadau at Brydain Fawr yn lle cyfeiriadau at Loegr a’r Alban.

Nu luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yn offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn un effeithio o gwbl ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.

(1)

1967 p. 8. Diwygiwyd adran 1(2) gan baragraff 43 o Atodlen 2 i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755 (Cy. 90)). Mae’r pwerau a roddir gan adrannau 2 a 3(1) yn cael eu rhoi i awdurdod cymwys (“competent authority”), a ddiffinnir yn adran 1(2) fel Gweinidogion Cymru (ar gyfer Cymru). Diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) gan baragraff 8 o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68).

(2)

1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).

(3)

Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, a chan Ran 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

(7)

Penderfyniad gweithredu’r Comisiwn 2012/138/EU o ran camau argyfwng i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Anoplophora chinensis (Forster), OJ Rhif L 64, 3.3.2012, t. 38.

(8)

Ar gael oddi wrth Ysgrifenyddiaeth IPPC, AGPP-FAO, Viale delle Terme di Caracalla, 00153 Rhufain, yr Eidal ac yn https://www.ipps.int/core-activities/standards-setting/ispms#.

(9)

Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 690/2008 sy’n cydnabod parthau gwarchod sy’n agored i beryglon iechyd planhigion penodol yn y Gymuned, OJ Rhif L 193, 22.7.2008. t. 1.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill