Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 30 Hydref 2015.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r canlynol—

(a)rhoi trwyddedau mewn cysylltiad â phlant sy’n preswylio yng Nghymru gan awdurdodau lleol yng Nghymru i gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau ym Mhrydain Fawr, pan fo’n ofynnol gan adran 37(1) o Ddeddf 1963;

(b)rhoi trwyddedau mewn cysylltiad â phlant nad ydynt yn preswylio ym Mhrydain Fawr gan awdurdodau lleol yng Nghymru i gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau ym Mhrydain Fawr, pan fo’r ceisydd am y drwydded yn preswylio neu pan fo ganddo fan busnes o fewn ardal yr awdurdod lleol hwnnw, pan fo hynny’n ofynnol gan adran 37(1) o Ddeddf 1963;

(c)perfformiadau yng Nghymru, nad yw’n ofynnol cael unrhyw drwydded ar eu cyfer yn rhinwedd adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963;

(d)rhoi trwyddedau gan ynadon heddwch yng Nghymru o dan adran 25 o Ddeddf 1933 i alluogi plant i gymryd rhan mewn perfformiadau neu weithgareddau dramor i wneud elw.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “awdurdod addysg” yr ystyr a roddir i “education authority” gan adran 135(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(1);

ystyr “awdurdod lletyol” (“host authority”) yw’r awdurdod lleol neu, yn yr Alban, yr awdurdod addysg y mae perfformiad neu weithgaredd yn digwydd yn ei ardal;

ystyr “awdurdod trwyddedu” (“licensing authority”) yw’r awdurdod lleol y mae’r cais am drwydded wedi ei wneud iddo ac sy’n rhoi’r drwydded;

ystyr “Deddf 1933” (“the 1933 Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933;

ystyr “Deddf 1963” (“the 1963 Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 1963;

ystyr “deiliad trwydded” (“licence holder”) yw’r person y mae trwydded wedi ei rhoi iddo gan yr awdurdod trwyddedu;

ystyr “diwrnod” (“day”) yw cyfnod o bedair awr ar hugain gan ddechrau a dod i ben am hanner nos ac, at ddibenion rheoliad 30 a pharagraff 13 o Ran 2 o Atodlen 2, rhaid barnu bod unrhyw berfformiad sy’n digwydd ar ôl hanner nos a chyn yr awr gynharaf a ganiateir fel y’i diffinnir yn rheoliad 23 wedi digwydd cyn hanner nos;

ystyr “gweithgaredd” (“activity”) yw cymryd rhan mewn chwaraeon, neu weithio fel model o dan yr amgylchiadau a bennir yn adran 37(1)(b) o Ddeddf 1963;

mae i “hebryngwr” (“chaperone”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 17(1);

ystyr “oedran gadael ysgol” (“school leaving age”) yw’r oedran pan fo person yn peidio â bod yn berson o oedran ysgol gorfodol yn unol ag adran 8(3) o Ddeddf Addysg 1996(2);

ystyr “rhiant” (“parent”) yw person sydd â chyfrifoldeb rhiant, fel y diffinnir “parental responsibility” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989(3), dros y plentyn o dan sylw;

ystyr “wythnos” (“week”) yw cyfnod o saith niwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y mae’r perfformiad neu’r gweithgaredd cyntaf y mae’r drwydded wedi ei rhoi ar ei gyfer yn digwydd neu unrhyw seithfed diwrnod wedi hynny; ac

ystyr “ymarfer” (“rehearsal”), ac eithrio at ddibenion paragraff 15 o Ran 2 o Atodlen 2, yw unrhyw ymarfer ar gyfer, neu baratoad ar gyfer, perfformiad, a hwnnw’n ymarfer sy’n digwydd ar ddiwrnod y perfformiad neu yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda’r perfformiad cyntaf ac yn dod i ben gyda’r perfformiad olaf.

Dirymiadau

3.  Mae’r Rheoliadau a restrir yn Atodlen 1 wedi eu dirymu mewn cysylltiad â Chymru.

RHAN 2Y gofynion, o ran dogfennaeth, mewn perthynas â phob trwydded

Cais am drwydded

4.—(1Rhaid i gais am drwydded—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig gan—

(i)y person sy’n gyfrifol am drefnu’r digwyddiad chwaraeon neu, yn ôl y digwydd, y person sy’n bwriadu cymryd y plentyn ymlaen fel model; neu

(ii)y person sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r perfformiad y mae’r plentyn i gymryd rhan ynddo;

(b)cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2;

(c)cael ei lofnodi gan y ceisydd a rhiant i’r plentyn; a

(d)cynnwys gydag ef y ddogfennaeth a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 2.

(2Caiff yr awdurdod trwyddedu wrthod rhoi trwydded os na ddaw’r cais i law o leiaf un ar hugain o ddiwrnodau cyn y diwrnod y mae’r perfformiad neu’r gweithgaredd cyntaf, y gofynnir am y drwydded ar ei gyfer, i ddigwydd.

Amodau trwydded

5.  Rhaid i’r awdurdod trwyddedu osod unrhyw amodau y mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau—

(a)bod y plentyn yn ffit i gymryd rhan yn y perfformiad neu’r gweithgaredd;

(b)bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud i sicrhau iechyd a llesiant y plentyn; ac

(c)bod darpariaeth briodol yn cael ei gwneud i sicrhau na fydd addysg y plentyn yn dioddef.

6.  Pan fo’r ceisydd yn gofyn am drwydded i blentyn gymryd rhan mewn gweithgaredd, perfformiad neu ymarfer penodol, ond nad yw’n gallu pennu’r dyddiadau pan fydd y plentyn yn cymryd rhan yn y gweithgaredd, y perfformiad neu’r ymarfer hwnnw adeg gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod trwyddedu, os yw’n penderfynu rhoi’r drwydded, osod amod mai dim ond am nifer penodedig o ddiwrnodau o fewn cyfnod o chwe mis y caiff y plentyn gymryd rhan yn y gweithgaredd, y perfformiad neu’r ymarfer penodol hwnnw.

7.—(1Pan fo’r awdurdod trwyddedu’n barnu bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan y ceisydd yn annigonol i’w alluogi i benderfynu p’un a fydd yn dyroddi trwydded neu’n dyroddi trwydded yn ddarostyngedig i amodau, rhaid i’r awdurdod trwyddedu ofyn am wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol i’w alluogi i wneud penderfyniad o’r fath.

(2Yn benodol, caiff yr awdurdod trwyddedu—

(a)gofyn bod y plentyn yn cael ei archwilio’n feddygol;

(b)cyf-weld unrhyw athro preifat arfaethedig neu athrawes breifat arfaethedig;

(c)cyf-weld y ceisydd, y plentyn, rhieni’r plentyn, neu’r hebryngwr arfaethedig, fel y bo’n briodol.

Ffurf trwydded

8.—(1Rhaid i drwydded gynnwys—

(a)enw’r plentyn;

(b)enw rhieni’r plentyn;

(c)enw’r ceisydd;

(d)enwau, amserau, natur a lleoliad y gweithgaredd neu’r perfformiad (a lleoliad unrhyw ymarfer os yw’n wahanol) y mae’r drwydded wedi ei rhoi ar ei gyfer;

(e)dyddiadau’r gweithgaredd, y perfformiad neu’r ymarfer, neu yn lle’r dyddiadau, nifer y diwrnodau pan fydd y plentyn yn cymryd rhan yn y gweithgaredd, y perfformiad neu’r ymarfer, a’r cyfnod, nad yw’n hwy na chwe mis, pan gaiff y gweithgareddau, y perfformiadau neu’r ymarferion ddigwydd yn unol â rheoliad 6;

(f)unrhyw amodau, y mae’r awdurdod trwyddedu yn barnu eu bod yn angenrheidiol ar gyfer rhoi’r drwydded; ac

(g)datganiad bod y drwydded yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a’r amodau a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn.

(2Rhaid i ffotograff o’r plentyn fod wedi ei atodi i’r drwydded.

Y manylion y mae’n rhaid i awdurdod trwyddedu eu darparu mewn cysylltiad â thrwydded

9.  Rhaid i’r awdurdod trwyddedu anfon copi o’r drwydded at y rhiant a lofnododd y ffurflen gais.

10.  Pan fo perfformiad neu weithgaredd i ddigwydd yn ardal awdurdod lletyol ac eithrio’r awdurdod trwyddedu, yn unol ag adran 39(3) o Ddeddf 1963, rhaid i’r awdurdod trwyddedu anfon at yr awdurdod lletyol hwnnw gopi o’r ffurflen gais, y drwydded, unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth ychwanegol a gafodd o dan reoliad 7 a phan fo’r awdurdod trwyddedu’n cymeradwyo unrhyw drefniadau ar gyfer addysg y plentyn, manylion y diwrnodau yn ystod cyfnod y drwydded pan fyddai’n ofynnol fel arfer i’r plentyn sy’n ddarostyngedig i’r drwydded fynychu’r ysgol pe bai’r plentyn hwnnw’n mynychu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod trwyddedu.

Y cofnodion sydd i’w cadw gan y deiliad trwydded o dan adran 39(5) o Ddeddf 1963

11.  Am chwe mis o ddyddiad y perfformiad neu’r gweithgaredd diwethaf y mae’r drwydded yn ymwneud ag ef, rhaid i’r deiliad trwydded gadw’r cofnodion a bennir yn—

(a)Rhan 1 o Atodlen 3, pan fo’r drwydded wedi ei rhoi mewn cysylltiad â pherfformiad; neu

(b)Rhan 2 o Atodlen 3, pan fo’r drwydded wedi ei rhoi mewn cysylltiad â gweithgaredd.

Dangos trwydded

12.  Rhaid i’r deiliad trwydded, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos y drwydded ar bob adeg resymol yn ystod y cyfnod sy’n dechrau gyda’r perfformiad neu’r gweithgaredd cyntaf ac yn dod i ben gyda’r un olaf y mae’r drwydded yn ymwneud ag ef, yn y man lle y cynhelir y perfformiad (neu unrhyw fan lle y cynhelir yr ymarfer), neu’r man lle y mae’r gweithgaredd y mae’r drwydded yn ymwneud ag ef yn digwydd, i swyddog awdurdodedig yr awdurdod lletyol neu i gwnstabl.

Polisi amddiffyn plant

13.  Rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau y glynir wrth y polisi neu’r polisïau a amgaeir gyda’r cais.

Llythyr oddi wrth y pennaeth

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaniateir i awdurdod trwyddedu roi trwydded mewn cysylltiad â phlentyn sy’n mynychu ysgol oni bai bod yr awdurdod —

(a)wedi cael llythyr oddi wrth bennaeth yr ysgol honno sy’n ymdrin ag unrhyw fater sy’n berthnasol i’r broses o ystyried adran 37(4) o Ddeddf 1963 gan yr awdurdod; a

(b)wedi ystyried y llythyr hwnnw.

(2Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (1) yn gymwys pan fo’r awdurdod wedi ei fodloni nad yw wedi bod yn ymarferol cyflwyno llythyr.

RHAN 3Gofynion cyffredinol sy’n gymwys i bob perfformiad neu weithgaredd trwyddedig

Addysg

15.—(1Ni chaniateir i’r awdurdod trwyddedu roi trwydded—

(a)oni chaiff ei fodloni na fyddai addysg y plentyn yn dioddef drwy iddo gymryd rhan yn y perfformiadau neu’r gweithgareddau;

(b)onid yw wedi cymeradwyo’r trefniadau (os oes rhai) ar gyfer addysg y plentyn yn ystod y cyfnod y mae’r drwydded yn gymwys iddo; ac

(c)onid yw wedi cymeradwyo’r man lle y mae’r plentyn i gael addysg, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau bod y man hwnnw’n addas ar gyfer addysg y plentyn.

(2Rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod unrhyw drefniadau a gymeradwyir gan yr awdurdod trwyddedu ar gyfer addysg y plentyn yn cael eu cyflawni.

(3Ni chaniateir i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo unrhyw drefniadau ar gyfer addysg plentyn gan athro preifat neu athrawes breifat oni chaiff ei fodloni—

(a)ar y cwrs astudio arfaethedig ar gyfer y plentyn;

(b)y darperir y cwrs astudio arfaethedig gan athro preifat addas neu athrawes breifat addas;

(c)na fydd yr athro preifat neu’r athrawes breifat yn addysgu mwy na chwe phlentyn (gan gynnwys y plentyn o dan sylw) ar unrhyw adeg, neu ddeuddeg o blant os yw’r holl blant sy’n cael eu haddysgu wedi cyrraedd safon debyg yn y pwnc sy’n cael ei addysgu i’r plentyn o dan sylw; a

(d)y bydd y plentyn, yn ystod y cyfnod y mae’r drwydded yn gymwys iddo, yn cael addysg am gyfnodau sydd, o’u hagregu, yn dod i gyfanswm nad yw’n llai na thair awr ar bob diwrnod y byddai’n ofynnol i’r plentyn fynychu’r ysgol pe bai’n mynychu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod trwyddedu.

(4Bernir bod gofynion paragraff (3)(d) wedi eu bodloni os yw’r awdurdod trwyddedu wedi ei fodloni y bydd y plentyn yn cael addysg—

(a)am ddim llai na chwe awr yr wythnos;

(b)yn ystod pob cyfnod cyflawn o bedair wythnos, neu os oes cyfnod o lai na phedair wythnos, yn ystod y cyfnod hwnnw, am gyfnodau nad ydynt yn llai na’r cyfnodau addysg agregedig sy’n ofynnol gan baragraff (3)(d) mewn cysylltiad â’r cyfnod;

(c)ar ddiwrnodau pan fyddai’n ofynnol i’r plentyn fynychu’r ysgol pe bai’n ddisgybl sy’n mynychu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod trwyddedu; a

(d)am ddim mwy na phum awr ar unrhyw ddiwrnod o’r fath.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, nid yw unrhyw gyfnod addysg yn cynnwys—

(a)unrhyw gyfnod sy’n digwydd ac eithrio yn ystod yr oriau y caniateir i blentyn fod yn bresennol mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer o dan reoliad 23; a

(b)unrhyw gyfnod sy’n llai na deng munud ar hugain.

Enillion

16.  Caiff yr awdurdod trwyddedu gynnwys amod yn y drwydded i unrhyw un neu rai neu’r cyfan o’r symiau a enillir gan y plentyn am gymryd rhan yn y perfformiad neu’r gweithgaredd gael ei drin neu eu trin mewn modd penodol gan y deiliad trwydded.

Hebryngwyr

17.—(1Rhaid i awdurdod trwyddedu gymeradwyo person i fod yn hebryngwr i—

(a)gofalu am y plentyn a’i reoli; a

(b)diogelu, cynnal a hyrwyddo llesiant y plentyn,

tra bo’r plentyn yn cymryd rhan mewn gweithgaredd, perfformiad, neu ymarfer neu tra bo’r plentyn yn byw yn rhywle ac eithrio’r man lle y byddai fel arall yn byw yn ystod y cyfnod y mae’r drwydded yn gymwys iddo.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw’r plentyn yn cael ei ofalu amdano gan riant y plentyn neu athro neu athrawes a fyddai fel arfer yn darparu addysg y plentyn.

(3Y nifer uchaf o blant y caiff hebryngwr ofalu amdanynt ar unrhyw un adeg yw—

(a)deuddeg; neu

(b)os athro preifat neu athrawes breifat y plentyn o dan sylw yw’r person a gymeradwywyd i weithredu fel hebryngwr, tri.

(4Ni chaniateir i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo person fel hebryngwr oni chaiff ei fodloni bod y person—

(a)wedi ymgymryd â hyfforddiant amddiffyn plant;

(b)yn addas a chymwys i arfer gofal priodol dros, a rheolaeth briodol ar, blentyn o oedran a rhyw’r plentyn o dan sylw; ac

(c)yn un na fydd yn cael ei atal rhag cyflawni dyletswyddau tuag at y plentyn gan ddyletswyddau tuag at blant eraill.

(5Pan fo plentyn yn dioddef gan unrhyw anaf neu afiechyd tra bo o dan ofal yr hebryngwr, rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod rhiant y plentyn a enwir yn y ffurflen gais, yr awdurdod trwyddedu a’r awdurdod lletyol yn cael eu hysbysu ar unwaith am yr anaf neu’r afiechyd hwnnw.

(6Pan fo’r awdurdod trwyddedu yn credu ei bod yn briodol, caniateir iddo roi trwydded yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r deiliad trwydded ddarparu i’r hebryngwr gopi cyfredol o’r sgript ar gyfer y cynhyrchiad o dan sylw.

(7Rhaid i amod a osodir o dan baragraff (6) fod wedi ei nodi yn y drwydded.

Llety

18.—(1Pan fo’n ofynnol i blentyn fyw yn rhywle ac eithrio’r man lle y byddai’n byw fel arfer yn ystod y cyfnod y mae’r drwydded yn gymwys iddo oherwydd ei fod yn cymryd rhan yn y perfformiad neu’r gweithgaredd y cafwyd y drwydded ar ei gyfer, rhaid i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo’r man hwnnw fel un sy’n addas i’r plentyn hwnnw.

(2Caniateir i gymeradwyaeth yr awdurdod trwyddedu fod yn ddarostyngedig i unrhyw un neu rai o’r amodau a ganlyn—

(a)y darperir cludiant i’r plentyn rhwng y man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd, a’r llety;

(b)bod trefniadau addas yn cael eu gwneud ar gyfer prydau bwyd i’r plentyn; ac

(c)unrhyw amod arall a fyddai’n ffafriol i les y plentyn mewn cysylltiad â’r llety hwnnw.

Y man lle y cynhelir y perfformiad a’r man lle y cynhelir yr ymarfer

19.—(1Rhaid i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo unrhyw fan lle y bydd y plentyn yn perfformio, yn ymarfer neu’n cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd.

(2Ni chaniateir i’r awdurdod trwyddedu gymeradwyo’r man lle y cynhelir y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd oni chaiff ei fodloni, o roi sylw i oedran y plentyn a natur, amser a hyd y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd—

(a)bod trefniadau addas wedi eu gwneud—

(i)ar gyfer darparu prydau bwyd i’r plentyn;

(ii)i’r plentyn ymwisgo ar gyfer y perfformiad, yr ymarfer neu’r gweithgaredd; a

(iii)ar gyfer amser gorffwys a hamdden y plentyn, pan nad yw’n cymryd rhan mewn perfformiad, ymarfer neu weithgaredd;

(b)bod gan y man hwnnw doiledau a chyfleusterau ymolchi sy’n addas a digonol; ac

(c)y caiff y plentyn ei amddiffyn yn ddigonol rhag tywydd garw.

(3Caiff yr awdurdod trwyddedu roi ei gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol.

(4Ym mharagraff (2)(a)(ii), nid yw trefniadau i blentyn, sydd wedi cyrraedd pum mlwydd oed, ymwisgo ar gyfer perfformiad, ymarfer neu weithgaredd yn addas onid yw’n cael ymwisgo gyda phlant o’r un rhyw ag ef yn unig.

Trefniadau ac amser ar gyfer teithio

20.—(1Rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod trefniadau addas (o roi sylw i oedran y plentyn) yn cael eu gwneud i fynd â’r plentyn i’w gartref neu i unrhyw gyrchfan arall ar ôl y perfformiad neu’r ymarfer olaf, neu derfyn unrhyw weithgaredd ar unrhyw ddiwrnod.

(2Rhaid i’r awdurdod trwyddedu—

(a)rhoi sylw, pan fo’n rhoi ei gymeradwyaeth, i hyd yr amser y bydd y plentyn yn ei dreulio wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’r man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer; a

(b)cynnwys unrhyw amodau y mae’n barnu eu bod yn angenrheidiol mewn perthynas â’r amserau cynharaf a hwyraf y caiff y plentyn fod yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer.

RHAN 4Cyfyngiadau mewn perthynas â phob perfformiad

Cymhwyso’r Rhan hon

21.  Mae’r gofynion yn y Rhan hon yn gymwys i bob perfformiad trwyddedig ac i bob perfformiad, sydd wedi ei esemptio rhag y gofyniad i gael trwydded, o dan adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963.

Cyflogaeth

22.  Ni chaniateir i blentyn sy’n cymryd rhan mewn perfformiad gael ei gyflogi mewn unrhyw gyflogaeth arall ar ddiwrnod y perfformiad hwnnw na’r diwrnod wedyn.

Yr amserau cynharaf a hwyraf yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer

23.—(1Mae Tabl 1 yn nodi’r amserau cynharaf a hwyraf y caiff plentyn fod yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer.

(2Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os y man lle y mae’r plentyn fel arfer yn byw neu’n cael ei addysg yw’r man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer.

Tabl 1

Oedran y plentynYr amser cynharafYr amser hwyraf
O’i eni hyd nes y bydd yn cyrraedd 5 oed07:0022:00
O 5 oed tan oedran gadael ysgol07:0023:00

Presenoldeb mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer a’r oriau perfformio

24.—(1Mae Tabl 2 yn nodi uchafswm nifer yr oriau y caiff plentyn fod mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer, y caiff berfformio neu ymarfer mewn un niwrnod neu berfformio neu ymarfer yn barhaus.

(2Wrth gyfrifo nifer yr oriau ar unrhyw ddiwrnod y mae’r plentyn yn bresennol mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer, rhaid ystyried unrhyw gyfnodau addysg sy’n ofynnol i gydymffurfio â threfniadau a gymeradwyir o dan reoliad 15, hyd yn oed os yw’r addysg honno’n cael ei darparu yn rhywle ac eithrio’r man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer.

Tabl 2

Oedran

y plentyn

Uchafswm nifer yr oriau mewn un niwrnod mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarferUchafswm nifer cyfan yr oriau perfformio neu ymarfer mewn un niwrnodUchafswm nifer parhaus yr oriau perfformio neu ymarfer mewn un niwrnod
O’i eni hyd nes y bydd yn cyrraedd 5 oed520.5
O’i eni hyd nes y bydd yn cyrraedd 9 oed832.5
O 9 oed tan oedran gadael ysgol9.552.5

Seibiannau ar unrhyw ddiwrnod pan fo’r plentyn yn perfformio neu’n ymarfer

25.—(1Pan fo plentyn o dan bum mlwydd oed yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer—

(a)rhaid i unrhyw seibiannau bara am gyfnod o bymtheng munud o leiaf, ac eithrio bod rhaid, pan fo plentyn yn bresennol am bedair neu fwy o oriau yn olynol, i unrhyw seibiannau o’r fath gynnwys o leiaf un seibiant o ddeugain munud a phump a ddefnyddir at ddiben pryd bwyd; a

(b)rhaid i unrhyw seibiant gael ei ddefnyddio at ddibenion prydau bwyd, gorffwys, addysg neu hamdden.

(2Pan fo plentyn sy’n bum mlwydd oed neu drosodd yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer am fwy na phedair, ond am lai nag wyth awr yn olynol, rhaid iddo gael o leiaf:

(a)un seibiant sy’n para am ddeugain munud a phump o leiaf ar gyfer pryd bwyd; a

(b)un seibiant arall sy’n para am bymtheng munud o leiaf.

(3Pan fo plentyn sy’n bum mlwydd oed neu drosodd yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer am wyth awr neu fwy yn olynol, rhaid iddo gael:

(a)y seibiannau sy’n ofynnol o dan baragraff (2); a

(b)o leiaf un seibiant arall sy’n para am bymtheng munud o leiaf.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i blentyn gael seibiant sy’n para am awr a hanner o leiaf rhwng pryd y mae’n cymryd rhan mewn perfformiadau olynol pan fo, ar yr un diwrnod—

(a)yn perfformio’r un rhan neu’n cymryd rhan perfformiwr arall mewn mwy nag un enghraifft o’r un perfformiad gan gynnwys ymarferion, sy’n dod o fewn adran 37(2)(a) neu (b) o Ddeddf 1963, y mae trwydded wedi ei chael ar eu cyfer;

(b)yn cymryd rhan mewn perfformiadau o dan drwyddedau gwahanol a roddwyd mewn cysylltiad â’r plentyn; neu

(c)yn cymryd rhan mewn perfformiad y mae trwydded wedi ei chael ar ei gyfer ac mewn perfformiad nad yw’n ofynnol cael trwydded ar ei gyfer o dan adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963.

(5Pan fo’r perfformiad neu’r ymarfer cynharach yn para llai nag un awr, ac

(a)bod y perfformiad neu’r ymarfer canlynol yn digwydd yn yr un man perfformio neu ymarfer; neu

(b)nad oes angen unrhyw amser ar gyfer teithio rhwng y perfformiad neu’r ymarfer cynharach a’r un olynol,

caniateir i’r seibiant rhwng y perfformiadau (neu’r ymarferion) hynny gael ei ostwng i isafswm o ddeugain munud a phump.

Isafswm nifer y seibiannau dros nos

26.  Yn ddarostyngedig i reoliad 30, rhaid i blentyn gael seibiant dros nos sy’n para deuddeg awr o leiaf rhwng ei bresenoldeb yn y man perfformio neu ymarfer.

RHAN 5Cyfyngiadau ac eithriadau mewn perthynas â phob perfformiad trwyddedig

Cymhwyso’r Rhan hon

27.  Mae’r cyfyngiadau a’r eithriadau yn y Rhan hon yn gymwys i bob perfformiad trwyddedig.

Uchafswm nifer y diwrnodau olynol y caiff plentyn gymryd rhan mewn perfformiadau neu ymarferion

28.  Ni chaniateir i blentyn gymryd rhan mewn perfformiadau neu ymarferion ar fwy na chwe niwrnod yn olynol.

Seibiant mewn perfformiadau

29.—(1Ni chaniateir i blentyn sy’n cymryd rhan mewn perfformiadau, ac eithrio perfformiadau syrcas, ar uchafswm nifer y diwrnodau olynol a ganiateir gan reoliad 28 am gyfnod o wyth wythnos yn olynol, gymryd rhan mewn unrhyw berfformiad neu ymarfer yn ystod y pedwar diwrnod ar ddeg sy’n dilyn y perfformiad diwethaf.

(2Nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw nifer y diwrnodau a bennir yn y drwydded i’r plentyn gael perfformio arnynt yn llai na thrigain.

Gwaith nos

30.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff awdurdod trwyddedu ganiatáu i blentyn gymryd rhan mewn perfformiad cyn yr amserau cynharaf ac ar ôl yr amserau hwyraf a nodir yn rheoliad 23.

(2Pan fo awdurdod trwyddedu yn caniatáu i blentyn gymryd rhan mewn perfformiad cyn yr amserau cynharaf ac ar ôl yr amserau hwyraf a nodir yn rheoliad 23—

(a)rhaid i nifer yr oriau pryd y bydd y plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad rhwng yr amserau hwyraf a chynharaf gael ei gynnwys wrth gyfrifo uchafswm nifer yr oriau pan gaiff y plentyn gymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer wrth gydymffurfio â rheoliad 24;

(b)ni chaniateir i’r plentyn gymryd rhan mewn unrhyw berfformiad neu ymarfer arall hyd nes y bydd o leiaf un awr ar bymtheg wedi mynd heibio er diwedd rhan y plentyn yn y perfformiad; ac

(c)pan fo’r plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad rhwng yr amserau hwyraf a chynharaf ar ddau ddiwrnod yn olynol, ni chaiff yr awdurdod trwyddedu ganiatáu i’r plentyn gymryd rhan mewn unrhyw berfformiad pellach yn yr oriau rhwng yr amserau hwyraf a’r rhai cynharaf yn ystod y saith niwrnod yn union ar ôl y ddau ddiwrnod hynny.

Disgresiwn yr hebryngwr

31.—(1Caiff yr hebryngwr sydd â gofal dros blentyn ganiatáu iddo gymryd rhan mewn perfformiad am gyfnod nad yw’n hwy nag un awr yn union ar ôl yr amser hwyraf a bennir mewn rheoliad 23 ar yr amod—

(a)na fydd cyfanswm nifer yr oriau pryd y bydd y plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer, gan gynnwys y cyfnod nad yw’n hwy nag un awr, yn fwy nag uchafswm nifer yr oriau a ganiateir o dan reoliad 24;

(b)ei bod yn ymddangos i’r hebryngwr na chaiff lles y plentyn ei niweidio; ac

(c)ei bod yn ymddangos i’r hebryngwr bod yr amodau sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r plentyn gymryd rhan mewn perfformiad ar ôl yr amser hwyraf a bennir wedi codi o dan amgylchiadau a oedd y tu allan i reolaeth y deiliad trwydded.

(2Pan fo’r hebryngwr yn caniatáu i blentyn gymryd rhan mewn perfformiad ar ôl yr amser hwyraf a bennir yn rheoliad 23, rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod yr hebryngwr yn hysbysu’r awdurdod trwyddedu a’r awdurdod lletyol erbyn y diwrnod canlynol fan bellaf ac yn rhoi’r rheswm dros y penderfyniad hwnnw.

(3Caiff yr hebryngwr sydd â gofal dros blentyn ganiatáu i un o’r seibiannau ar gyfer pryd bwyd, sy’n ofynnol o dan reoliad 25, gael ei leihau pan fo’r plentyn yn cymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer yn yr awyr agored, ar yr amod—

(a)nad yw’r seibiant yn para llai na deng munud ar hugain; a

(b)nad eir dros uchafswm nifer yr oriau pryd y caiff y plentyn gymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer o dan reoliad 24.

RHAN 6Trwyddedau i berfformio a chymryd rhan mewn gweithgareddau dramor

Ffurf trwydded

32.  Rhaid i drwydded a roddir o dan adran 25 o Ddeddf 1933 gynnwys—

(a)enw’r plentyn;

(b)enw’r ceisydd;

(c)manylion yr ymrwymiad y mae’r plentyn yn mynd dramor i’w gyflawni;

(d)y dyddiad y rhoddir y drwydded a’r dyddiad y daw i ben;

(e)manylion unrhyw warant a roddir gan y ceisydd yn unol ag adran 25(6) o Ddeddf 1933;

(f)manylion unrhyw amodau y bernir eu bod yn angenrheidiol ar gyfer rhoi’r drwydded; ac

(g)llofnod y person sy’n rhoi’r drwydded.

Yr wybodaeth sydd i’w darparu i swyddog consylaidd

33.  Pan fo trwydded o dan adran 25 o Ddeddf 1933 wedi ei rhoi, ei hadnewyddu neu ei hamrywio, y manylion y mae’n rhaid i’r ynad heddwch eu hanfon at Weinidogion Cymru er mwyn eu trosglwyddo i’r priod swyddog consylaidd yw—

(a)enw a chyfeiriad y plentyn;

(b)dyddiad geni, man geni a chenedligrwydd y plentyn;

(c)enw a chyfeiriad y ceisydd am y drwydded;

(d)enw a chyfeiriad rhiant y plentyn;

(e)manylion yr ymrwymiad, gan gynnwys ym mha le ac am ba mor hir y mae’r plentyn i gymryd rhan;

(f)copi o’r contract cyflogaeth neu ddogfen arall sy’n dangos ar ba delerau ac amodau y mae’r plentyn wedi ei gymryd ymlaen; ac

(g)copi o’r drwydded.

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

7 Hydref 2015

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill