Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015

RHAN 4Cyfyngiadau mewn perthynas â phob perfformiad

Cymhwyso’r Rhan hon

21.  Mae’r gofynion yn y Rhan hon yn gymwys i bob perfformiad trwyddedig ac i bob perfformiad, sydd wedi ei esemptio rhag y gofyniad i gael trwydded, o dan adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963.

Cyflogaeth

22.  Ni chaniateir i blentyn sy’n cymryd rhan mewn perfformiad gael ei gyflogi mewn unrhyw gyflogaeth arall ar ddiwrnod y perfformiad hwnnw na’r diwrnod wedyn.

Yr amserau cynharaf a hwyraf yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer

23.—(1Mae Tabl 1 yn nodi’r amserau cynharaf a hwyraf y caiff plentyn fod yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer.

(2Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os y man lle y mae’r plentyn fel arfer yn byw neu’n cael ei addysg yw’r man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer.

Tabl 1

Oedran y plentynYr amser cynharafYr amser hwyraf
O’i eni hyd nes y bydd yn cyrraedd 5 oed07:0022:00
O 5 oed tan oedran gadael ysgol07:0023:00

Presenoldeb mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer a’r oriau perfformio

24.—(1Mae Tabl 2 yn nodi uchafswm nifer yr oriau y caiff plentyn fod mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer, y caiff berfformio neu ymarfer mewn un niwrnod neu berfformio neu ymarfer yn barhaus.

(2Wrth gyfrifo nifer yr oriau ar unrhyw ddiwrnod y mae’r plentyn yn bresennol mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarfer, rhaid ystyried unrhyw gyfnodau addysg sy’n ofynnol i gydymffurfio â threfniadau a gymeradwyir o dan reoliad 15, hyd yn oed os yw’r addysg honno’n cael ei darparu yn rhywle ac eithrio’r man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer.

Tabl 2

Oedran

y plentyn

Uchafswm nifer yr oriau mewn un niwrnod mewn man lle y cynhelir perfformiad neu ymarferUchafswm nifer cyfan yr oriau perfformio neu ymarfer mewn un niwrnodUchafswm nifer parhaus yr oriau perfformio neu ymarfer mewn un niwrnod
O’i eni hyd nes y bydd yn cyrraedd 5 oed520.5
O’i eni hyd nes y bydd yn cyrraedd 9 oed832.5
O 9 oed tan oedran gadael ysgol9.552.5

Seibiannau ar unrhyw ddiwrnod pan fo’r plentyn yn perfformio neu’n ymarfer

25.—(1Pan fo plentyn o dan bum mlwydd oed yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer—

(a)rhaid i unrhyw seibiannau bara am gyfnod o bymtheng munud o leiaf, ac eithrio bod rhaid, pan fo plentyn yn bresennol am bedair neu fwy o oriau yn olynol, i unrhyw seibiannau o’r fath gynnwys o leiaf un seibiant o ddeugain munud a phump a ddefnyddir at ddiben pryd bwyd; a

(b)rhaid i unrhyw seibiant gael ei ddefnyddio at ddibenion prydau bwyd, gorffwys, addysg neu hamdden.

(2Pan fo plentyn sy’n bum mlwydd oed neu drosodd yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer am fwy na phedair, ond am lai nag wyth awr yn olynol, rhaid iddo gael o leiaf:

(a)un seibiant sy’n para am ddeugain munud a phump o leiaf ar gyfer pryd bwyd; a

(b)un seibiant arall sy’n para am bymtheng munud o leiaf.

(3Pan fo plentyn sy’n bum mlwydd oed neu drosodd yn bresennol yn y man lle y cynhelir y perfformiad neu’r ymarfer am wyth awr neu fwy yn olynol, rhaid iddo gael:

(a)y seibiannau sy’n ofynnol o dan baragraff (2); a

(b)o leiaf un seibiant arall sy’n para am bymtheng munud o leiaf.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i blentyn gael seibiant sy’n para am awr a hanner o leiaf rhwng pryd y mae’n cymryd rhan mewn perfformiadau olynol pan fo, ar yr un diwrnod—

(a)yn perfformio’r un rhan neu’n cymryd rhan perfformiwr arall mewn mwy nag un enghraifft o’r un perfformiad gan gynnwys ymarferion, sy’n dod o fewn adran 37(2)(a) neu (b) o Ddeddf 1963, y mae trwydded wedi ei chael ar eu cyfer;

(b)yn cymryd rhan mewn perfformiadau o dan drwyddedau gwahanol a roddwyd mewn cysylltiad â’r plentyn; neu

(c)yn cymryd rhan mewn perfformiad y mae trwydded wedi ei chael ar ei gyfer ac mewn perfformiad nad yw’n ofynnol cael trwydded ar ei gyfer o dan adran 37(3)(a) o Ddeddf 1963.

(5Pan fo’r perfformiad neu’r ymarfer cynharach yn para llai nag un awr, ac

(a)bod y perfformiad neu’r ymarfer canlynol yn digwydd yn yr un man perfformio neu ymarfer; neu

(b)nad oes angen unrhyw amser ar gyfer teithio rhwng y perfformiad neu’r ymarfer cynharach a’r un olynol,

caniateir i’r seibiant rhwng y perfformiadau (neu’r ymarferion) hynny gael ei ostwng i isafswm o ddeugain munud a phump.

Isafswm nifer y seibiannau dros nos

26.  Yn ddarostyngedig i reoliad 30, rhaid i blentyn gael seibiant dros nos sy’n para deuddeg awr o leiaf rhwng ei bresenoldeb yn y man perfformio neu ymarfer.