Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/04/2016. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Instrument yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

Rhagolygol

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1818 (Cy. 261)

Plant A Phersonau Ifanc, Cymru

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

Gwnaed

21 Hydref 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Hydref 2015

Yn dod i rym

6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan y darpariaethau yn Atodlen 1, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn(1):

Rhagolygol

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015, a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “anghenion addysgol arbennig” a “darpariaeth addysgol arbennig” yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “special educational needs” a “special educational provision” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(2);

ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”) yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am C;

ystyr “awdurdod yr ardal” (“area authority”) yw’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr(3) ar gyfer yr ardal y lleolir C ynddi, neu y mae C i’w leoli ynddi, os yw’n wahanol i’r awdurdod cyfrifol;

ystyr “C” (“C”) yw plentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol(4);

mae i “canolfan hyfforddi ddiogel” yr ystyr a roddir i “secure training centre” yn adran 43(1)(d) o Ddeddf Carchardai 1952(5);

mae i “cartref plant diogel” yr ystyr a roddir i “secure children’s home” yn adran 102(11) o Ddeddf 2012(6);

mae i “cofnod achos” (“case record”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 63;

ystyr “Cydgysylltydd Addysg PDG” (“LAC Education Co-ordinator”) yw’r person a ddynodwyd gan yr awdurdod cyfrifol i gydgysylltu cynlluniau addysg personol a rhoi sylw i anghenion addysgol plant sy’n derbyn gofal a phobl sy’n gadael gofal o fewn ardal yr awdurdod cyfrifol;

ystyr “cyfarwyddwr” (“director”) yw’r person sy’n gyfrifol am ganolfan hyfforddi ddiogel;

ystyr “cyfarwyddwr arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc” (“lead director for children and young people’s services”) yw swyddog yr awdurdod cyfrifol a benodwyd at ddibenion adran 27 o Ddeddf Plant 2004(7);

ystyr “cynghorydd personol” (“personal adviser”) yw’r cynghorydd personol a drefnwyd ar gyfer C yn unol ag adran 106 o Ddeddf 2014;

mae i “cymeradwyaeth dros dro” (“temporary approval”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 26(1);

mae i “cynllun addysg personol” (“personal education plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(b)(ii);

ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw’r cynllun, a baratoir ac a gynhelir yn unol ag adran 83 o Ddeddf 2014, ar gyfer darparu gofal a chymorth i C yn y dyfodol;

mae i “cynllun iechyd” (“health plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(1)(b)(i);

mae i “cynllun lleoli” (“placement plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10(1)(a) ac mae’n ffurfio rhan o gynllun gofal a chymorth C;

mae i “cynllun lleoli dan gadwad” (“detention placement plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 58;

mae i “cynllun llwybr” (“pathway plan”) yr ystyr a roddir yn adran 107 o Ddeddf 2014;

ystyr “darparwr gofal iechyd” (“health care provider”), yn achos lleoliad yng Nghymru, yw bwrdd iechyd lleol(8), neu, yn achos lleoliad mewn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol(9) ac unrhyw grŵp comisiynu clinigol perthnasol(10), ac mewn unrhyw achos arall, y corff cyfatebol yn y wlad y lleolir neu y bwriedir lleoli C ynddi;

ystyr “darparwr gwasanaeth maethu” (“fostering service provider”) yw—

(a)

darparwr gwasanaeth maethu o fewn yr ystyr a roddir i “darparydd gwasanaeth maethu” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Maethu(11), a

(b)

darparwr gwasanaeth maethu o fewn yr ystyr a roddir i “fostering service provider” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011(12);

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(13);

ystyr “Deddf 2012” (“the 2012 Act”) yw Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012(14);

ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(15);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio—

(a)

dydd Sadwrn neu ddydd Sul,

(b)

dydd Nadolig neu ddydd Gwener y Groglith, neu

(c)

gŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(16);

ystyr “F” (“F”) yw person a gymeradwywyd fel rhiant maeth awdurdod lleol(17) ac y bwriedir lleoli C gydag ef neu, yn ôl y digwydd, y lleolir C gydag ef;

ystyr “gweithiwr dolen gyswllt” (“link worker”) yw aelod o staff cartref plant a benodir yn unol â gofynion Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002(18) sydd â chyfrifoldeb penodol dros ddiogelu a hyrwyddo iechyd a llesiant addysgol plentyn, a chysylltu â darparwyr addysg a gofal iechyd ar ran y plentyn hwnnw;

ystyr “lleoliad” (“placement”) yw

(a)

pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, trefniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol i C fyw gyda P yn unol ag adran 81(2) o Ddeddf 2014, neu

(b)

trefniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol ar gyfer lletya a chynnal C mewn unrhyw un o’r ffyrdd a bennir yn adran 81(6) o Ddeddf 2014;

ystyr “llywodraethwr” (“governor”) yw’r person sy’n gyfrifol am sefydliad troseddwyr ifanc;

ystyr “P” (“P”) yw—

(a)

person sy’n rhiant C;

(b)

person nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C; neu

(c)

pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac os oedd gorchymyn trefniadau plentyn(19), a oedd yn rheoleiddio trefniadau byw C, mewn grym yn union cyn gwneud y gorchymyn gofal, person a enwid yn y gorchymyn trefniadau plentyn fel person yr oedd C i fyw gydag ef(20);

ystyr “person cysylltiedig” (“connected person”) yw perthynas(21), cyfaill neu berson arall sy’n gysylltiedig ag C;

ystyr “person priodol” (“appropriate person”) yw—

(a)

P, os yw C i fyw, neu yn byw, gyda P;

(b)

F, os yw C i’w leoli, neu wedi ei leoli, gydag F;

(c)

os yw C i’w leoli, neu wedi ei leoli, mewn cartref plant, y person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(22) mewn cysylltiad â’r cartref hwnnw; neu

(d)

os yw C i’w leoli, neu wedi ei leoli, yn unol â threfniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014, y person a fydd yn gyfrifol am C yn y llety;

mae i “proses asesu gyflawn” (“full assessment process”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 26(2)(d);

ystyr “R” (“R”) yw cynrychiolydd yr awdurdod cyfrifol, sy’n ymweld ag C yn unol â threfniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol o dan adran 97 o Ddeddf 2014;

mae i “remánd i lety awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “remand to local authority accommodation” yn adran 91(3) o Ddeddf 2012(23);

mae i “remánd i lety cadw ieuenctid” yr ystyr a roddir i “remand to youth detention accommodation” yn adran 91(4) o Ddeddf 2012;

ystyr “y Rheoliadau Maethu” (“the Fostering Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003(24);

ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”) yw’r person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(25) fel rheolwr cartref plant diogel;

ystyr “SAA” (“IRO”) yw’r swyddog adolygu annibynnol a benodir ar gyfer achos C o dan adran 99(1) o Ddeddf 2014;

mae i “sefydliad troseddwyr ifanc” yr ystyr a roddir i “young offenders institution” yn adran 43(1)(aa) o Ddeddf Carchardai 1952(26);

ystyr “swyddog enwebedig” (“nominated officer”) yw’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol neu uwch-swyddog arall yr awdurdod cyfrifol a enwebwyd mewn ysgrifen gan y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol i weithredu ar ei ran at ddibenion y Rheoliadau hyn;

ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol gyda chyfranogaeth bwrdd iechyd lleol yn unol ag adran 57 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(27);

ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig(28) sydd—

(a)

yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(29), neu

(b)

yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, rywfodd ac eithrio yn unol â’r Ddeddf honno;

ystyr “ymarferydd deintyddol cofrestredig” (“registered dental practitioner”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr deintyddion o dan adran 14 o Ddeddf Deintyddion 1984(30) sydd—

(a)

yn darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(31), neu

(b)

yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, rywfodd ac eithrio’n unol â’r Ddeddf honno; ac

ystyr “ymwelydd annibynnol” (“independent visitor”) yw’r person annibynnol a benodir i fod yn ymwelydd ar gyfer C o dan adran 98 o Ddeddf 2014.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr unrhyw gyfeiriad i’r perwyl fod C “dan gadwad” (“detained”) yw fod C, ar ôl ei gollfarnu am drosedd, wedi—

(a)ei gadw mewn carchar(32) neu mewn llety cadw ieuenctid, neu

(b)yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, neu

(c)yn preswylio mewn unrhyw fangre arall oherwydd bod gofyniad wedi ei osod ar C fel amod caniatáu mechnïaeth mewn achos troseddol, ac

yn union cyn ei gadw, neu osod gofyniad preswylio o’r fath arno, roedd C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at unrhyw ddogfen neu gofnod arall yn cynnwys unrhyw ddogfen neu gofnod o’r fath a gedwir neu a ddarperir mewn ffurf sydd ar gael yn hwylus, ac yn cynnwys copïau o ddogfennau gwreiddiol yn ogystal â dulliau electronig o gofnodi gwybodaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

3.  Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(33) ac eithrio pan fo’r plentyn yn dod o fewn rheoliad 56.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

RHAN 2LL+CTrefniadau ar gyfer gofalu am blentyn

Cynllunio gofalLL+C

4.—(1Os nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac os nad oes cynllun gofal a chymorth eisoes wedi ei baratoi ar gyfer C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol asesu anghenion C am wasanaethau er mwyn cyrraedd neu gynnal safon resymol o iechyd neu ddatblygiad, a pharatoi cynllun o’r fath(34).

(2Pan fo gan C gynllun gofal a chymorth a baratowyd yn unol ag adran 54 o Ddeddf 2014, rhaid i’r awdurdod cyfrifol, yn ei asesiad o dan baragraff (1), gymryd i ystyriaeth yr wybodaeth a gofnodir yn y cynllun hwnnw.

(3Ac eithrio yn achos plentyn y mae adran 31A o Ddeddf 1989 (gorchmynion gofal: cynlluniau gofal) yn gymwys iddo(35), rhaid paratoi’r cynllun gofal a chymorth cyn bo C yn cael ei leoli am y tro cyntaf gan yr awdurdod cyfrifol neu, os nad yw hynny’n ymarferol, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl dechrau’r lleoliad cyntaf.

(4Wrth asesu anghenion C o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol ystyried a yw’r llety a ddarperir ar gyfer C yn bodloni gofynion Rhan 6 o Ddeddf 2014.

(5Onid yw paragraff (6) yn gymwys, dylai’r awdurdod cyfrifol, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, gytuno ar y cynllun gofal a chymorth gydag—

(a)unrhyw riant C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, neu

(b)os nad oes person o’r fath, y person a oedd yn gofalu am C yn union cyn trefnu lleoliad ar gyfer C gan yr awdurdod cyfrifol.

(6Pan fo C yn 16 oed neu’n hŷn, ac yn cytuno i lety gael ei ddarparu iddo o dan adran 76 o Ddeddf 2014, rhaid i’r awdurdod cyfrifol gytuno ar y cynllun gofal a chymorth gydag C.

(7Pan fo cynllun gofal a chymorth a baratoir yn unol â’r Rhan hon yn bodloni’r gofynion ar gyfer cynllun gofal sy’n ofynnol gan adran 31A o Ddeddf 1989, caniateir ei drin fel “cynllun adran 31A”.

(8Os lleolwyd C gyntaf gan yr awdurdod cyfrifol cyn 6 Ebrill 2016 rhaid paratoi’r cynllun gofal a chymorth cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Paratoad a chynnwys y cynllun gofal a chymorthLL+C

5.—(1Rhaid i’r cynllun gofal a chymorth gynnwys cofnod o’r wybodaeth ganlynol—

(a)y cynllun hirdymor ar gyfer magwraeth C (“y cynllun ar gyfer sefydlogrwydd”);

(b)y trefniadau a wnaed gan yr awdurdod cyfrifol i ddiwallu anghenion C mewn perthynas ag—

(i)iechyd, gan gynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 (“y cynllun iechyd”),

(ii)addysg a hyfforddiant, gan gynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 (“y cynllun addysg personol”),

(iii)datblygiad emosiynol ac ymddygiadol,

(iv)hunaniaeth, gan roi sylw penodol i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol C,

(v)perthnasoedd teuluol a chymdeithasol ac yn benodol yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 3 o Atodlen 2,

(vi)ymgyflwyniad cymdeithasol, a

(vii)sgiliau hunanofal;

(c)ac eithrio mewn achos pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, ond na ddarperir llety i C gan yr awdurdod cyfrifol mewn unrhyw un o’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn adran 81 o Ddeddf 2014, manylion o’r trefniadau a wnaed a’r llety a ddarparwyd ar gyfer C (“y cynllun lleoli”);

(d)enw’r SAA;

(e)manylion am safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r personau hynny a ganfuwyd ac a ystyriwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn unol ag adrannau 6(2) a (4), 7(2) a 78(3) o Ddeddf 2014 ynghylch y trefniadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b), y cynllun lleoli ac unrhyw newid neu newid arfaethedig yn y cynllun gofal a chymorth;

(f)pan fo C yn—

(i)dioddefwr, neu pan fo rheswm i gredu y gallai C fod yn ddioddefwr masnachu mewn bodau dynol yn yr ystyr a roddir i “trafficking in human beings” yng Nghonfensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Bodau Dynol,

(ii)plentyn ar ei ben ei hunan yn ceisio lloches yn yr ystyr a roddir i “unaccompanied asylum seeking child” yn y Rheolau Mewnfudo, ac wedi gwneud cais, neu wedi dynodi wrth yr awdurdod cyfrifol ei fwriad i wneud cais, a heb gael caniatâd amhenodol i aros,

y ffaith honno.

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “Rheolau Mewnfudo” (“Immigration Rules”) yw’r rheolau a bennir ar y pryd gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel y crybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971(36).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

6.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gadw cynllun gofal a chymorth C o dan adolygiad yn unol â Rhan 6, ac os bydd o’r farn bod angen gwneud rhyw newid, rhaid iddo ddiwygio’r cynllun neu wneud cynllun newydd yn unol â hynny.

(2Oni ddarperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, rhaid i’r awdurdod cyfrifol beidio â gwneud unrhyw newid sylweddol yn y cynllun gofal a chymorth, oni fydd y newid arfaethedig wedi ei ystyried yn gyntaf mewn adolygiad o achos C, a gyflawnwyd yn unol â Rhan 6.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi copi o’r cynllun gofal a chymorth—

(a)i C, oni bai, ym marn yr awdurdod cyfrifol, na fyddai’n briodol gwneud hynny, o ystyried oedran a dealltwriaeth C,

(b)i P,

(c)i’r SAA,

(d)os yw C i gael ei leoli, neu wedi ei leoli, gydag F, i’r darparwr gwasanaeth maethu a gymeradwyodd F, yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011,

(e)os yw C i gael ei leoli, neu wedi ei leoli, mewn cartref plant, i’r person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â’r cartref hwnnw, ac

(f)os yw C i gael ei leoli, neu wedi ei leoli, yn unol â threfniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014, i’r person a fydd yn gyfrifol am C yn y llety.

(4Caiff yr awdurdod cyfrifol benderfynu peidio â rhoi copi o’r cynllun gofal a chymorth, neu gopi llawn o’r cynllun gofal a chymorth, i P os yw’r awdurdod cyfrifol o’r farn y byddai hynny’n rhoi C mewn perygl o niwed(37).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Gofal iechydLL+C

7.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol, cyn bo C wedi ei leoli am y tro cyntaf ganddo neu, os nad yw hynny’n rhesymol ymarferol, cyn yr adolygiad cyntaf o achos C, drefnu i ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig—

(a)cwblhau asesiad o gyflwr iechyd C, a gall hynny gynnwys archwiliad corfforol, a

(b)darparu adroddiad ysgrifenedig o’r asesiad, gan roi sylw i’r materion a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a chyfeirio’n benodol at gyflwr iechyd meddyliol C,

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys os cynhaliwyd asesiad o gyflwr iechyd C, o fewn y cyfnod o 3 mis yn union cyn y lleoliad, a’r awdurdod cyfrifol wedi cael adroddiad ysgrifenedig sy’n bodloni gofynion y paragraff hwnnw, a’r awdurdod cyfrifol yn fodlon na ddigwyddodd unrhyw newidiadau sylweddol yn ystod y cyfnod er pan wnaed yr asesiad hwnnw.

(3Rhaid i’r awdurdod cyfrifol wneud trefniadau i ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig neu fydwraig gofrestredig sy’n gweithredu o dan oruchwyliaeth ymarferydd meddygol cofrestredig adolygu cyflwr iechyd C a darparu adroddiad ysgrifenedig ar bob adolygiad gan roi sylw i’r materion a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a chyfeirio’n benodol at gyflwr iechyd meddyliol C—

(a)o leiaf unwaith, ac yn amlach os yw’n ofynnol er llesiant C, yn ystod pob cyfnod o 6 mis cyn pumed pen-blwydd C , a

(b)o leiaf unwaith, ac yn amlach os yw’n ofynnol er llesiant C, yn ystod pob cyfnod o ddeuddeng mis ar ôl pumed pen-blwydd C.

(4Nid yw paragraffau (1) a (3) yn gymwys os yw C yn gwrthod cydsynio i’w asesu, a bod ei oedran a’i ddealltwriaeth yn ddigonol ar gyfer hynny.

(5Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y darperir gwasanaethau gofal iechyd priodol i C, yn unol â’r cynllun iechyd, gan gynnwys—

(a)gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol, a

(b)cyngor ac arweiniad ynglŷn ag iechyd, gofal personol a materion hybu iechyd.

(6Rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod C—

(a)wedi cofrestru gydag ymarferydd cyffredinol cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a beth bynnag ddim hwyrach na 10 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad; a

(b)o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig cyn gynted ag y bo’n ymarferol a beth bynnag ddim hwyrach nag 20 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad.

(7Rhaid i’r awdurdod cyfrifol, i’r graddau y bo’n ymarferol, sicrhau bod C yn parhau’n gofrestredig gydag ymarferydd cyffredinol ac o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig, drwy gydol y lleoliad.

(8Os lleolwyd C gyntaf gan yr awdurdod cyfrifol cyn 6 Ebrill 2016 ac nad yw paragraff (2) yn gymwys, ac na wnaed asesiad o iechyd C neu na chofrestrwyd C gydag ymarferydd cyffredinol neu na osodwyd C o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig, mae’r rheoliad hwn yn gymwys fel petai’r lleoliad hwnnw wedi ei wneud ar 6 Ebrill 2016.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cyswllt â phlentyn mewn gofalLL+C

8.  Wrth ystyried a yw cyswllt rhwng C ac unrhyw un o’r personau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 34(1) o Ddeddf 1989 yn gyson â diogelu a hyrwyddo llesiant C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw i gynllun gofal a chymorth C.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol a’r awdurdod cyfrifol wedi penderfynu, o dan adran 34(6) o Ddeddf 1989 (gwrthod cyswllt fel mater brys), gwrthod caniatáu cyswllt a fyddai, fel arall, wedi bod yn ofynnol yn rhinwedd adran 34(1) o Ddeddf 1989(38) neu orchymyn o dan adran 34 o’r Ddeddf honno (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal).

(2Rhaid i’r awdurdod cyfrifol, ar unwaith, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r personau canlynol o’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) (“yr wybodaeth benodedig”)—

(a)C, oni fyddai’n amhriodol gwneud hynny o ystyried oedran a dealltwriaeth C,

(b)P,

(c)os oedd person, yn union cyn gwneud y gorchymyn gofal, yn gofalu am C yn rhinwedd gorchymyn a wnaed wrth arfer awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys mewn cysylltiad â phlant, y person hwnnw,

(d)unrhyw berson arall yr ystyrir gan yr awdurdod cyfrifol fod ei safbwyntiau, ei ddymuniadau a’i deimladau yn berthnasol, ac

(e)yr SAA.

(3Yr wybodaeth benodedig yw—

(a)penderfyniad yr awdurdod cyfrifol;

(b)dyddiad y penderfyniad;

(c)y rhesymau am y penderfyniad;

(d)parhad y penderfyniad (os yw’n gymwys); ac

(e)y rhwymedïau sydd ar gael mewn achos o anfoddhad.

(4Caiff yr awdurdod cyfrifol wyro oddi wrth delerau unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 34 o Ddeddf 1989 drwy gytundeb gyda’r person y gwneir y gorchymyn mewn perthynas ag ef, ar yr amod—

(a)bod C hefyd yn cytuno a bod ei oedran a’i ddealltwriaeth yn ddigonol, a

(b)yr anfonir hysbysiad ysgrifenedig o’r wybodaeth benodedig o fewn 5 diwrnod gwaith at y personau a restrir ym mharagraff (2).

(5Pan fo’r awdurdod cyfrifol wedi penderfynu amrywio neu atal dros dro unrhyw drefniadau (ac eithrio o dan orchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989) a wnaed gyda’r bwriad o ganiatáu i unrhyw berson gael cyswllt ag C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol, ar unwaith, roi hysbysiad ysgrifenedig sy’n cynnwys yr wybodaeth benodedig i’r personau a restrir ym mharagraff (2).

(6Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gofnodi unrhyw benderfyniad a wneir o dan y rheoliad hwn yng nghynllun gofal a chymorth C.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

RHAN 3LL+CLleoliadau – darpariaethau cyffredinol

Cynllun lleoliLL+C

10.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), cyn gwneud trefniadau i leoli C yn unol ag adran 81 o Ddeddf 2014, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)ymgorffori, o fewn cynllun gofal a chymorth C, fanylion o’r cynllun ar gyfer lleoli C (“y cynllun lleoli”) sydd—

(i)yn nodi sut y bydd y lleoliad yn cyfrannu at ddiwallu anghenion C, a

(ii)yn cynnwys yr holl faterion a bennir yn Atodlen 3 ac sy’n gymwys o ystyried y math o leoliad, a

(b)sicrhau bod—

(i)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C wedi eu canfod ac wedi cael ystyriaeth briodol, a

(ii)yr SAA wedi ei hysbysu.

(2Os nad yw’n rhesymol ymarferol i baratoi’r cynllun lleoli cyn gwneud y lleoliad, rhaid paratoi’r cynllun lleoli o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl dechrau’r lleoliad.

(3Rhaid i’r cynllun lleoli gael ei gytuno gyda’r person priodol a’i lofnodi ganddo.

(4Os gwnaed y trefniadau ar gyfer lleoli C cyn 6 Ebrill 2016, rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi’r cynllun lleoli cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Osgoi amharu ar addysgLL+C

11.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), os yw C yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol yng nghyfnod allweddol pedwar(39), rhaid peidio â rhoi effaith i unrhyw benderfyniad i wneud unrhyw newid yn lleoliad C a fyddai’n cael yr effaith o amharu ar y trefniadau a wnaed ar gyfer addysg C, hyd nes bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan y swyddog enwebedig.

(2Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r swyddog enwebedig fod wedi ei fodloni—

(a)y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b)(i),

(b)y bydd y ddarpariaeth addysgol a wnaed ar gyfer C yn y lleoliad yn hyrwyddo cyflawniad addysgol C ac yn gyson â chynllun addysg personol C,

(c)yr ymgynghorwyd â’r person dynodedig(40) yn yr ysgol,

(d)yr ymgynghorwyd â’r Cydgysylltydd Addysg PDG,

(e)yr ymgynghorwyd â’r SAA, ac

(f)os lleolir C mewn cartref plant, yr ymgynghorwyd â gweithiwr dolen gyswllt C.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo—

(a)yr awdurdod cyfrifol yn terfynu lleoliad C yn unol â rheoliad 15(3), neu

(b)pan fo angen newid lleoliad C am unrhyw reswm arall mewn argyfwng,

ac mewn achos o’r fath rhaid i’r awdurdod cyfrifol wneud trefniadau priodol i hyrwyddo cyflawniad addysgol C cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(4Mewn unrhyw achos nad yw’n dod o fewn paragraff (1), ond pan fo’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu gwneud unrhyw newid yn lleoliad C a fyddai’n cael yr effaith o amharu ar y trefniadau a wnaed ar gyfer addysg neu hyfforddiant C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau y gwneir trefniadau eraill ar gyfer addysg neu hyfforddiant C sy’n bodloni anghenion C ac yn gyson â chynllun addysg personol C.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” yn adran 20(7) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008(41), a

(b)mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” yn adran 4 o Ddeddf Addysg 1996(42).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Lleoliadau y tu allan i’r ardalLL+C

Penderfyniad lleoliLL+C

12.—(1Ni chaiff awdurdod cyfrifol benderfynu lleoli C y tu allan i’w ardal ac eithrio pan fodlonir yr awdurdod cyfrifol nad oes lleoliad ar gael o fewn ei ardal, a allai ddiwallu anghenion C (“lleoliad y tu allan i’r ardal”).

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol chwilio am leoliad y tu allan i’r ardal ar gyfer C, yn unol â’r drefn blaenoriaeth ganlynol—

(a)mewn awdurdod lleol sydd â’i ardal yn ffinio ar ardal yr awdurdod cyfrifol;

(b)mewn awdurdod lleol yn Lloegr sydd â’i ardal yn ffinio ar ardal yr awdurdod cyfrifol;

(c)mewn unrhyw awdurdod lleol arall;

(d)mewn awdurdod lleol yn Lloegr, neu

(e)yn ddarostyngedig i ofynion adran 124 o Ddeddf 2014, y tu allan i Gymru a Lloegr(43).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os bodlonir awdurdod cyfrifol fod lleoli y tu allan i’r ardal yn angenrheidiol yn achos C, rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i leoli C y tu allan i’r ardal hyd nes bo—

(a)y penderfyniad wedi ei atgyfeirio at banel ac wedi ei gymeradwyo ganddo,

(b)cymeradwyaeth y panel o’r penderfyniad hwnnw wedi ei gofnodi mewn ysgrifen ynghyd â’r rhesymau dros gymeradwyo, ac

(c)y cofnod hwnnw o’r gymeradwyaeth wedi ei ardystio mewn ysgrifen gan y swyddog enwebedig, i gadarnhau ei gymeradwyaeth yntau.

(4Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r panel a’r swyddog enwebedig ill dau fod wedi eu bodloni—

(a)y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b)(i),

(b)mai’r lleoliad yw’r lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael ar gyfer C, a bod y lleoliad yn gyson â chynllun gofal a chymorth C,

(c)yr ymgynghorwyd â pherthnasau(44) C, os yw’n briodol,

(d)yr ymgynghorwyd â’r SAA,

(e)pan fo gan C anghenion addysgol arbennig y darperir ar eu cyfer mewn cynllun addysgol arbennig, fod yr awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr y bwriedir lleoli C yn ei ardal, wedi ei hysbysu ynghylch y lleoliad, ac y daethpwyd i gytundeb gyda’r awdurdod hwnnw mewn cysylltiad â diwallu anghenion addysgol arbennig C yn ystod lleoliad C yn ei ardal, ac

(f)os oes gan C anghenion iechyd sydd angen sylw, fod y darparwr gofal iechyd ar gyfer ardal yr awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr wedi ei hysbysu, ac mewn achosion priodol, y daethpwyd i gytundeb gyda’r darparwr gofal iechyd mewn cysylltiad â diwallu anghenion iechyd C.

(5Yn achos lleoliad a wneir mewn argyfwng—

(a)nid yw paragraff (3) yn gymwys;

(b)mae paragraff (4) yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn is-baragraff (c);

(c)rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau—

(i)y gwneir cofnod ysgrifenedig o’r penderfyniad, sy’n rhoi rhesymau dros wneud y penderfyniad,

(ii)yr ardystir y cofnod gan y swyddog enwebedig, i gadarnhau ei fod yn cytuno â’r penderfyniad,

(iii)y cydymffurfir â pharagraff (4)(a) a (b) cyn gwneud y lleoliad,

(iv)y cydymffurfir â pharagraff (4)(c) a (d) o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad, a

(v)y cydymffurfir â pharagraff (4)(e) ac (f) cyn gynted ag y bo modd ar ôl gwneud y lleoliad.

(6Pan wneir lleoliad yn unol â pharagraff (5)—

(a)rhaid i’r awdurdod cyfrifol atgyfeirio’r lleoliad at banel cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y lleoliad, a beth bynnag ddim hwyrach na 25 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad, a

(b)rhaid hysbysu’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr, y lleolwyd C yn ei ardal, ynghylch y lleoliad, ddim hwyrach na 5 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad.

(7Rhaid i’r cofnod o unrhyw benderfyniad a wneir yn unol â’r rheoliad hwn gael ei roi ar gael i’r aelod arweiniol dros wasanaethau plant ar gyfer yr awdurdod cyfrifol.

(8Yn y rheoliad hwn—

ystyr “hysbysu” (“notified”) ym mharagraff (6)(b) yw fod rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu—

(a)

manylion o’i asesiad o anghenion C a’r rhesymau pam yr ystyrir mai’r lleoliad a ddewiswyd yw’r ffordd fwyaf priodol o ddiwallu anghenion C, a

(b)

copi o gynllun gofal a chymorth C os na ddarparwyd copi eisoes;

ystyr “panel” (“panel”) yw panel o gynrychiolwyr o ba asiantaethau bynnag a all gynorthwyo awdurdod cyfrifol wrth gynllunio’r lleoliad ar gyfer C a diwallu anghenion C yn ystod y lleoliad, a rhaid i banel gynnwys cynrychiolydd o’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr y bwriedir lleoli C yn ei ardal, ac mewn achosion priodol, cynrychiolydd unrhyw ddarparwr gofal iechyd neu addysg perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Lleoli y tu allan i Gymru a LloegrLL+C

13.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—

(a)C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, a

(b)yr awdurdod cyfrifol yn gwneud trefniadau i leoli C y tu allan i Gymru a Lloegr yn unol â darpariaethau adran 124 o Ddeddf 2014 (trefniadau i helpu plant i fyw y tu allan i Loegr a Chymru).

(2Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gymryd camau i sicrhau, i’r graddau sy’n rhesymol ymarferol, y cydymffurfir â gofynion sy’n cyfateb i’r gofynion a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y Rheoliadau hyn pe bai C wedi ei leoli yng Nghymru.

(3Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gynnwys yn y cynllun gofal a chymorth fanylion y trefniadau a wnaed gan yr awdurdod cyfrifol i oruchwylio lleoliad C.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Hysbysu ynghylch lleoliadLL+C

14.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r personau a restrir ym mharagraff (2) ynghylch y trefniadau ar gyfer lleoli C cyn gwneud y lleoliad, neu, os oes angen lleoli mewn argyfwng, o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl dechrau’r lleoliad, ac eithrio pan na ellir gwneud hynny yn rhesymol ymarferol.

(2Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)C, oni fyddai’n amhriodol gwneud hynny o ystyried oedran a dealltwriaeth C,

(b)P,

(c)os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, unrhyw berson y caniateir iddo gael cyswllt ag C o dan adran 34(1) o Ddeddf 1989 ac unrhyw berson sydd â chyswllt ag C yn rhinwedd gorchymyn o dan adran 34 o’r Ddeddf honno (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal),

(d)os yw C yn derbyn gofal ond nid yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, unrhyw berson sydd â chyswllt ag C yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989 (gorchmynion trefniadau plant a gorchmynion eraill mewn cysylltiad â phlant),

(e)unrhyw berson a oedd yn gofalu am C yn union cyn gwneud y trefniadau,

(f)y bwrdd iechyd lleol (neu, yn achos plentyn sy’n byw neu sydd i’w leoli mewn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol)(45) a’r grŵp comisiynu clinigol(46)) ar gyfer yr ardal y mae C yn byw ynddi ac, os yw’n wahanol, ar gyfer yr ardal y bwriedir lleoli C ynddi,

(g)ymarferydd meddygol cofrestredig C, a phan fo’n gymwys, yr ymarferydd meddygol cofrestredig y bwriedir cofrestru C gydag ef yn ystod y lleoliad,

(h)unrhyw sefydliad addysgol a fynychir gan C, neu berson sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C,

(i)y Cydgysylltydd Addysg PDG ar gyfer yr ardal y mae C yn byw ynddi ac, os yw’n wahanol, ar gyfer yr ardal y bwriedir lleoli C ynddi,

(j)yr SAA, a

(k)pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, gweithiwr dolen gyswllt C.

(3Caiff yr awdurdod cyfrifol benderfynu peidio â rhoi hysbysiad i unrhyw un neu bob un o’r personau a restrir ym mharagraffau (2)(b) i (e), os byddai gwneud hynny’n achosi perygl o niwed i C.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Terfynu lleoliad gan yr awdurdod cyfrifolLL+C

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5), ni chaiff yr awdurdod cyfrifol derfynu lleoliad C ac eithrio ar ôl cynnal adolygiad o achos C yn unol â Rhan 6.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), cyn terfynu lleoliad C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)gwneud trefniadau eraill ar gyfer lletya C yn unol ag adran 81 o Ddeddf 2014,

(b)hysbysu’r SAA,

(c)i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’i fwriad i derfynu’r lleoliad i’r canlynol—

(i)pob un o’r personau y rhoddwyd hysbysiad o’r lleoliad iddynt o dan reoliad 14,

(ii)y person y lleolwyd C gydag ef,

(iii)os lleolwyd C yn ardal awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod hwnnw.

(3Pan fo perygl y gallai niwed ddigwydd ar unwaith i C, neu er mwyn diogelu eraill rhag anaf difrifol, rhaid i’r awdurdod cyfrifol derfynu lleoliad C, ac yn yr amgylchiadau hynny—

(a)nid yw paragraff (1) yn gymwys, a

(b)rhaid i’r awdurdod cyfrifol gydymffurfio â pharagraff (2)(a) a (b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(4Os nad yw’n rhesymol ymarferol hysbysu unrhyw berson yn unol â pharagraff (2)(c), yna rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person hwnnw o fewn 5 diwrnod gwaith i’r dyddiad y terfynwyd y lleoliad, o’r ffaith bod y lleoliad wedi ei derfynu.

(5Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo lleoliad C wedi ei derfynu—

(a)o dan reoliad 20(c)(ii) (amgylchiadau pan ganiateir lleoli plentyn gyda P cyn cwblhau asesiad),

(b)o dan reoliad 24(2) (terfynu lleoliad argyfwng),

(c)o dan reoliad 27(6), neu

(d)pan fo adran 82 o Ddeddf 2014 (adolygu achos plentyn cyn gwneud trefniadau amgen o ran llety) yn gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

RHAN 4LL+CDarpariaeth ar gyfer gwahanol fathau o leoliad

PENNOD 1LL+CLleoli plentyn mewn gofal gyda P

CymhwysoLL+C

16.—(1Mae’r Bennod hon yn gymwys os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, a’r awdurdod cyfrifol, gan weithredu yn unol ag adran 81(2) o Ddeddf 2014, yn bwriadu lleoli C gyda P.

(2Nid oes dim yn y Bennod hon sy’n ei gwneud yn ofynnol fod yr awdurdod cyfrifol yn symud C o ofal P os yw C yn byw gyda P cyn bo penderfyniad lleoli’n cael ei wneud ynghylch C.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Effaith gorchymyn cyswlltLL+C

17.  Rhaid i’r awdurdod cyfrifol beidio â lleoli C gyda P os byddai gwneud hynny’n anghydnaws ag unrhyw orchymyn a wnaed gan y llys o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal).

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Asesu addasrwydd P i ofalu am blentynLL+C

18.  Cyn penderfynu lleoli C gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)asesu addasrwydd P i ofalu am C, gan gynnwys addasrwydd—

(i)y llety arfaethedig, a

(ii)yr holl bersonau eraill 18 oed a throsodd sy’n aelodau o’r aelwyd y bwriedir i C fyw arni,

(b)cymryd i ystyriaeth yr holl faterion a bennir yn Atodlen 4(47) wrth wneud ei asesiad,

(c)ystyried a fydd y lleoliad, yn yr holl amgylchiadau a chan gymryd i ystyriaeth y gwasanaethau sydd i’w darparu gan yr awdurdod cyfrifol, yn diogelu a hyrwyddo llesiant C ac yn diwallu anghenion C fel y’u nodir yn y cynllun gofal a chymorth, a

(d)adolygu achos C yn unol â Rhan 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Penderfyniad i leoli plentyn gyda PLL+C

19.—(1Rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i leoli C gyda P cyn bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan y swyddog enwebedig a’r awdurdod cyfrifol wedi paratoi cynllun lleoli ar gyfer C.

(2Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r swyddog enwebedig fod wedi ei fodloni—

(a)y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b)(i),

(b)y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 18,

(c)y bydd y lleoliad yn diogelu a hyrwyddo llesiant C,

(d)yr ymgynghorwyd â’r SAA, ac

(e)yr ystyriwyd safbwyntiau, dymuniadau a theimladau unrhyw berson arall a ystyrir yn berthnasol gan yr awdurdod cyfrifol.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Amgylchiadau pan ganiateir lleoli plentyn gyda P cyn cwblhau asesiadLL+C

20.  Os yw’r swyddog enwebedig yn ystyried hynny’n angenrheidiol ac yn gyson â llesiant C, caiff yr awdurdod cyfrifol leoli C gyda P cyn cwblhau ei asesiad o dan reoliad 18 (“yr asesiad”), ar yr amod bod yr awdurdod cyfrifol yn—

(a)trefnu i P gael ei gyfweld, er mwyn casglu cymaint o’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 4, y gellir ei chasglu yn rhwydd yn y cyfweliad hwnnw, ynglŷn â P a’r personau eraill 18 oed a throsodd sy’n byw ar aelwyd P,

(b)sicrhau y cwblheir yr asesiad ac adolygiad o achos C yn unol â’r gofynion yn rheoliad 18 o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl lleoli C gyda P, ac

(c)sicrhau y gwneir penderfyniad yn unol â rheoliad 19 ac y’i cymeradwyir o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl cwblhau’r asesiad, ac—

(i)os y penderfyniad yw cadarnhau’r lleoliad, adolygu’r cynllun lleoli ac, os yw’n briodol, ei ddiwygio, a

(ii)os y penderfyniad yw peidio â chadarnhau’r lleoliad, terfynu’r lleoliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cymorth i PLL+C

21.  Os lleolir C gyda P, neu os bwriedir lleoli C gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu pa wasanaethau a chymorth bynnag i P ag sy’n ymddangos i’r awdurdod cyfrifol yn angenrheidiol er mwyn diogelu a hyrwyddo llesiant C, a rhaid i’r awdurdod cyfrifol gofnodi manylion o’r cyfryw wasanaethau a chymorth yng nghynllun gofal a chymorth C.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

PENNOD 2LL+CLleoli gyda rhieni maeth awdurdod lleol

DehongliLL+C

22.—(1Yn y Bennod hon—

ystyr “cymeradwy” (“approved”) yw fod person wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol, naill ai—

(a)

yn unol â’r Rheoliadau Maethu; neu

(b)

yn unol â Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011(48); neu

(c)

mewn achos o leoli C gyda darpar fabwysiadydd penodol (“A”), yn unol â rheoliad 28; neu

(d)

mewn achos o leoli C gyda pherson cysylltiedig dros dro, yn unol â rheoliad 26; ac

mae i “person cofrestredig” (“registered person”) yr un ystyr ag yn y Rheoliadau Maethu(49).

(2Pan leolir C gyda dau berson ar y cyd, sydd ill dau wedi eu cymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol(50), rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at riant maeth awdurdod lleol fel pe bai’n cyfeirio i’r un graddau at y ddau berson hynny, a rhaid i unrhyw ofyniad sydd i’w fodloni gan neu sy’n ymwneud â rhiant maeth awdurdod lleol penodol gael ei fodloni gan y ddau ohonynt, neu ei drin fel pe bai’n ymwneud â’r ddau.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Amodau y mae’n rhaid eu bodloni cyn lleoli plentyn gyda rhiant maeth awdurdod lleolLL+C

23.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu lleoli C gydag F.

(2Ni chaiff yr awdurdod cyfrifol leoli C gydag F ac eithrio os yw—

(a)F wedi ei gymeradwyo gan—

(i)yr awdurdod cyfrifol, neu

(ii)ar yr amod y bodlonir hefyd yr amodau a bennir ym mharagraff (3), darparwr gwasanaeth maethu arall,

(b)telerau cymeradwyaeth F yn gyson â’r lleoliad arfaethedig, ac

(c)F wedi ymuno mewn cytundeb gofal maeth naill ai gyda’r awdurdod cyfrifol neu gyda darparwr gwasanaeth maethu arall yn unol â rheoliad 28(5)(b) o’r Rheoliadau Maethu neu’n unol â rheoliad 27(5)(b) o Reoliadau Gwasanaethu Maethu (Lloegr) 2011.

(3Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a)(ii) yw’r canlynol—

(a)bod y darparwr gwasanaeth maethu y cymeradwywyd F ganddo yn cydsynio â’r lleoliad, a

(b)os oes gan unrhyw awdurdod lleol arall, neu awdurdod lleol arall yn Lloegr, blentyn wedi ei leoli ar y pryd gydag F, fod yr awdurdod hwnnw’n cydsynio â’r lleoliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 23 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Lleoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol mewn argyfwngLL+C

24.—(1Pan fo’n angenrheidiol lleoli C mewn argyfwng, caiff yr awdurdod cyfrifol leoli C gydag unrhyw riant maeth awdurdod lleol sydd wedi ei gymeradwyo yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, hyd yn oed os nad yw telerau cymeradwyaeth y person hwnnw yn gyson â’r lleoliad, ar yr amod na wneir y lleoliad am gyfnod hwy na 6 diwrnod gwaith.

(2Pan ddaw’r cyfnod o 6 diwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (1) i ben, rhaid i’r awdurdod cyfrifol derfynu’r lleoliad oni fydd telerau cymeradwyaeth y person hwnnw wedi diwygio i fod yn gyson â’r lleoliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 24 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Lleoli yn dilyn ystyriaeth yn unol ag adran 81(11) o Ddeddf 2014LL+C

25.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod cyfrifol yn penderfynu lleoli C gyda darpar fabwysiadydd penodol (“A”) yn unol ag adran 81(11) o Ddeddf 2014.

(2Rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i leoli C cyn bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan y swyddog enwebedig a’r awdurdod cyfrifol wedi paratoi cynllun lleoli ar gyfer C.

(3Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (2) rhaid i’r swyddog enwebedig—

(a)bod yn fodlon mai’r lleoliad yw’r lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael ar gyfer C, ac y byddai’r lleoliad gydag A er budd pennaf C,

(b)bod yn fodlon y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b), ac

(c)os gŵyr yr awdurdod cyfrifol lle mae rhiant neu warcheidwad C, hysbysu rhiant neu warcheidwad C ynghylch y lleoliad arfaethedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 25 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad ag CLL+C

26.—(1Os bodlonir yr awdurdod cyfrifol—

(a)mai’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C yw gyda pherson cysylltiedig, a hynny er nad yw’r person cysylltiedig wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol, a

(b)bod angen lleoli C gyda’r person cysylltiedig cyn bo addasrwydd y person cysylltiedig i fod yn rhiant maeth awdurdod lleol wedi ei asesu yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011,

caiff gymeradwyo’r person hwnnw fel rhiant maeth awdurdod lleol dros dro, am gyfnod na fydd yn hwy nag 16 wythnos (“cymeradwyaeth dros dro”) ar yr amod bod yr awdurdod cyfrifol yn gyntaf yn cydymffurfio â gofynion paragraff (2).

(2Cyn gwneud lleoliad o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)asesu addasrwydd y person cysylltiedig i ofalu am C, gan gynnwys addasrwydd—

(i)y llety arfaethedig, a

(ii)yr holl bersonau eraill, 18 oed a throsodd sy’n aelodau o’r aelwyd y bwriedir i C fyw arni,

gan gymryd i ystyriaeth yr holl faterion a nodir yn Atodlen 5,

(b)darparu pa wasanaethau bynnag i gynorthwyo’r person cysylltiedig P ag sy’n ymddangos i’r awdurdod cyfrifol yn angenrheidiol er mwyn diogelu a hyrwyddo llesiant C, a rhaid i’r awdurdod cyfrifol gofnodi manylion o’r cyfryw wasanaethau a chymorth yng nghynllun gofal a chymorth C,

(c)ystyried a fydd y trefniadau arfaethedig, yn yr holl amgylchiadau a chan gymryd i ystyriaeth y gwasanaethau sydd i’w darparu gan yr awdurdod cyfrifol, yn diogelu a hyrwyddo llesiant C ac yn diwallu anghenion C fel y’u nodir yn y cynllun gofal a chymorth,

(d)onid yw is-baragraff (e) yn gymwys, gwneud trefniadau ar unwaith ar gyfer asesu addasrwydd y person cysylltiedig i fod yn rhiant maeth awdurdod lleol yn unol â’r Rheoliadau Maethu (“y broses asesu lawn”) cyn bo’r gymeradwyaeth dros dro yn dod i ben,

(e)os yw, neu os bydd, y person cysylltiedig yn ceisio cael ei asesu’n berson addas i fod yn rhiant maeth awdurdod lleol o dan Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, caiff yr awdurdod cyfrifol ofyn am gydweithrediad y darparwr gwasanaethau maethu sy’n ymgymryd â’r asesiad, i gwblhau’r broses cyn bo’r gymeradwyaeth dros dro wedi dod i ben, ac

(f)gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda’r person cysylltiedig, i’r perwyl bod y person cysylltiedig yn cytuno i—

(i)gofalu am C fel pe bai C yn aelod o deulu’r person cysylltiedig,

(ii)caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan yr awdurdod cyfrifol i ymweld ag C,

(iii)caniatáu symud C o’r lleoliad ar unrhyw adeg,

(iv)sicrhau y cedwir yn gyfrinachol yr holl wybodaeth sy’n ymwneud ag C ac â theulu C, a

(v)parchu trefniadau cyswllt a wneir yn unol ag unrhyw orchymyn gan y llys neu a wneir gan yr awdurdod cyfrifol.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 26 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cymeradwyaeth dros dro yn dod i benLL+C

27.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr awdurdod cyfrifol estyn y gymeradwyaeth dros dro ar gyfer person cysylltiedig—

(a)os yw’r gymeradwyaeth dros dro yn debygol o ddod i ben cyn bo’r broses asesu lawn wedi ei chwblhau, neu

(b)os nad yw’r person cysylltiedig, ar ôl sefyll y broses asesu lawn, wedi ei gymeradwyo, ac yntau felly yn gofyn am adolygu’r penderfyniad yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 87 o Ddeddf 2014(51) neu o dan baragraff 12F(1)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1989.

(2Mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(a), caiff yr awdurdod cyfrifol estyn y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro unwaith am gyfnod pellach o hyd at 8 wythnos.

(3Mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(b), caiff yr awdurdod cyfrifol estyn y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro hyd nes bo canlyniad yr adolygiad yn hysbys.

(4Cyn penderfynu a ddylid estyn y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol yn gyntaf—

(a)ystyried a yw lleoliad gyda’r person cysylltiedig yn dal i fod y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael,

(b)gofyn barn y panel maethu a sefydlwyd gan y darparwr gwasanaeth maethu yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu’n unol â Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, a

(c)hysbysu’r SAA.

(5Rhaid i’r penderfyniad i estyn cymeradwyaeth dros dro gael ei wneud gan y swyddog enwebedig.

(6Os yw’r cyfnod o gymeradwyaeth dros dro ac unrhyw estyniad i’r cyfnod hwnnw’n dod i ben, a’r person cysylltiedig heb ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, rhaid i’r awdurdod cyfrifol derfynu’r lleoliad ar ôl yn gyntaf wneud trefniadau eraill i letya C.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 27 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maethLL+C

28.—(1Os bodlonir yr awdurdod cyfrifol—

(a)mai’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C yw gyda pherson nad yw wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol, ond mai’r person hwnnw yw’r darpar fabwysiadydd y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu lleoli C gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu (“A”), a

(b)y byddai lleoli C gydag A er budd pennaf C,

caiff yr awdurdod cyfrifol gymeradwyo A fel rhiant maeth awdurdod lleol am gyfnod dros dro (“y cyfnod cymeradwyo dros dro”) ar yr amod bod yr awdurdod cyfrifol yn cydymffurfio yn gyntaf â gofynion paragraff (2).

(2Cyn cymeradwyo A fel rhiant maeth awdurdod lleol o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)asesu addasrwydd A i ofalu am C fel rhiant maeth, a

(b)ystyried a fydd y trefniadau arfaethedig, yn yr holl amgylchiadau a chan gymryd i ystyriaeth y gwasanaethau sydd i’w darparu gan yr awdurdod cyfrifol, yn diogelu a hyrwyddo llesiant C ac yn diwallu anghenion C fel y’u nodir yn y cynllun gofal a chymorth.

(3Bydd y cyfnod cymeradwyo dros dro yn dod i ben—

(a)pan derfynir lleoliad C gydag A gan yr awdurdod cyfrifol;

(b)pan derfynir cymeradwyaeth A fel darpar fabwysiadydd;

(c)pan gymeradwyir A fel rhiant maeth yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011;

(d)os yw A wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod cyfrifol nad yw A bellach yn dymuno cael ei gymeradwyo dros dro fel rhiant maeth mewn perthynas ag C, a bydd hynny’n cael effaith 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd yr awdurdod cyfrifol yr hysbysiad; neu

(e)pan leolir C ar gyfer ei fabwysiadu gydag A yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(52).

Gwybodaeth Cychwyn

I28Rhl. 28 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Asiantaethau maethu annibynnol – cyflawni swyddogaethau awdurdod cyfrifolLL+C

29.—(1Caiff awdurdod cyfrifol wneud trefniadau yn unol â’r rheoliad hwn i’r dyletswyddau a osodir arno gan reoliad 15(3) a rheoliad 23 gael eu cyflawni ar ei ran gan berson cofrestredig.

(2Ni chaniateir gwneud trefniadau o dan y rheoliad hwn oni fydd yr awdurdod cyfrifol wedi ymuno mewn cytundeb ysgrifenedig, gyda’r person cofrestredig, sy’n cynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 6, a phan fo’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu gwneud trefniant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â phlentyn penodol, rhaid i’r cytundeb ysgrifenedig gynnwys hefyd y materion a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 6.

(3Rhaid i’r awdurdod cyfrifol adrodd wrth Brif Arolygydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru am unrhyw bryderon sydd gan yr awdurdod cyfrifol ynglŷn â’r gwasanaethau a ddarperir gan berson cofrestredig.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 29 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

PENNOD 3LL+CTrefniadau eraill

Dyletswyddau cyffredinol yr awdurdod cyfrifol wrth leoli plentyn mewn trefniadau eraillLL+C

30.  Cyn lleoli C mewn llety mewn lle nas rheoleiddir o dan adran 81(6)(d) (“trefniadau eraill”) o Ddeddf 2014, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)cael ei fodloni bod y llety’n addas ar gyfer C, ar ôl ystyried y materion a nodir yn Atodlen 7,

(b)ac eithrio pan nad yw’n rhesymol ymarferol, trefnu i C ymweld â’r llety, ac

(c)hysbysu’r SAA.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 30 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

RHAN 5LL+CYmweliadau gan gynrychiolydd yr awdurdod cyfrifol etc.

Amlder yr ymweliadauLL+C

31.—(1Fel rhan o’i drefniadau ar gyfer goruchwylio llesiant C rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod ei gynrychiolydd (“R”) yn ymweld ag C yn unol â’r rheoliad hwn, lle bynnag y bo C yn byw.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (6), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—

(a)o fewn un wythnos ar ôl dechrau unrhyw leoliad,

(b)fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos yn ystod blwyddyn gyntaf unrhyw leoliad, ac

(c)wedi hynny—

(i)os bwriedir i’r lleoliad barhau hyd nes bo C yn 18 oed, fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis, a

(ii)mewn unrhyw achos arall, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.

(3Pan fo rheoliad 20 yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—

(a)o leiaf unwaith bob wythnos hyd nes cynhelir yr adolygiad cyntaf yn unol â Rhan 6, a

(b)wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.

(4Pan fo rheoliad 26 yn gymwys, neu pan fo gorchymyn gofal interim wedi ei wneud mewn perthynas ag C o dan adran 38 o Ddeddf 1989 (gorchmynion interim) ac C yn byw gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—

(a)o leiaf unwaith bob wythnos hyd nes cynhelir yr adolygiad cyntaf yn unol â Rhan 6, a

(b)wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 4 wythnos.

(5Pan fo gorchymyn gofal wedi ei wneud mewn perthynas ag C o dan adran 31 o Ddeddf 1989 (gorchmynion gofal a goruchwylio) ac C yn byw gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—

(a)o fewn un wythnos ar ôl gwneud y gorchymyn gofal, a

(b)wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.

(6Pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ond person arall sy’n gyfrifol am y trefniadau y mae C yn byw oddi tanynt am y tro (“trefniadau byw C”), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—

(a)o fewn un wythnos ar ôl dechrau trefniadau byw C ac o fewn un wythnos ar ôl unrhyw newid yn nhrefniadau byw C,

(b)fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos am y flwyddyn gyntaf wedi hynny, ac

(c)fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis mewn unrhyw flwyddyn ddilynol.

(7Yn ychwanegol at ymweliadau yn unol â pharagraffau (2) i (6), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—

(a)pa bryd bynnag y gofynnir iddo wneud hynny yn rhesymol gan—

(i)C,

(ii)pan fo paragraffau (2), (3) neu (4) yn gymwys, y person priodol, neu

(iii)pan fo paragraff (5) yn gymwys, y person sy’n gyfrifol am drefniadau byw C,

(b)o fewn un wythnos ar ôl cael hysbysiad o dan adran 30A(53) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(54) (hysbysiad ynghylch materion yn ymwneud â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli sefydliadau neu asiantaethau penodol), am y tro cyntaf, pan gyfeirir yn yr hysbysiad at y cartref plant y lleolir C ynddo am y tro.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 31 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cynnal yr ymweliadauLL+C

32.—(1Ar bob ymweliad, rhaid i R siarad ag C yn breifat ac eithrio pan fo—

(a)C yn gwrthod, ac yn meddu dealltwriaeth ddigonol i wneud hynny,

(b)R o’r farn y byddai’n amhriodol gwneud hynny, o ystyried oedran a dealltwriaeth C, neu

(c)R yn analluog i wneud hynny.

(2Wrth ymweld ag C yn unol â’r Rhan hon, rhaid i R—

(a)sicrhau y canfyddir safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C ac y rhoddir ystyriaeth briodol iddynt,

(b)ystyried a yw llesiant C yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo yn ddigonol o fewn y lleoliad,

(c)monitro cyflawniad y gweithredoedd a’r canlyniadau a nodir yn y cynllun gofal a chymorth a chyfrannu (os yw’n ofynnol) i’r adolygiad o’r cynllun gofal a chymorth,

(d)monitro unrhyw drefniadau cyswllt sydd wedi eu sefydlu, a phan fo angen, ystyried a oes angen cymorth, neu gymorth ychwanegol, i hyrwyddo trefniadau cyswllt,

(e)canfod a oes angen cymorth neu wasanaethau ychwanegol i gynorthwyo’r lleoliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Rhl. 32 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Canlyniadau’r ymweliadauLL+C

33.  Pan fo R, o ganlyniad i ymweliad a wnaed yn unol â’r Rhan hon, yn gwneud asesiad nad yw llesiant C yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo’n ddigonol gan y lleoliad, rhaid i’r awdurdod cyfrifol adolygu achos C yn unol â Rhan 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Rhl. 33 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cyngor a chymorth arall i’r plentynLL+C

34.  Wrth wneud trefniadau yn unol ag adran 97(3)(b) o Ddeddf 2014 i roi cyngor a chymorth arall ar gael i C rhwng yr ymweliadau gan R, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau—

(a)bod y trefniadau—

(i)yn briodol, o ystyried oedran a dealltwriaeth C, a

(ii)yn rhoi ystyriaeth briodol i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol C, ac i unrhyw anabledd y gallai fod ganddo,

(b)bod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C ynghylch y trefniadau wedi eu canfod ac wedi eu cymryd i ystyriaeth, ac

(c)i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o ystyried oedran a dealltwriaeth C, fod C yn gwybod sut i ofyn am gyngor priodol a chymorth arall gan yr awdurdod cyfrifol.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Rhl. 34 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cofnodion o ymweliadau a wneir gan RLL+C

35.  Rhaid i R sicrhau y cedwir cofnod ysgrifenedig o unrhyw ymweliad a wneir yn unol â’r Rhan hon, a rhaid i’r cofnod gynnwys—

(a)asesiad ysgrifenedig R, sy’n rhoi sylw i safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C, ynglŷn ag a yw llesiant C yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo’n ddigonol tra bo C yn y lleoliad,

(b)manylion o’r cyngor neu gymorth y tybia R sydd ei angen ar C.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Rhl. 35 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Penodi ymwelydd annibynnolLL+C

36.—(1Fel rhan o’i drefniadau ar gyfer goruchwylio llesiant C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol ystyried a yw’n briodol ai peidio penodi ymwelydd annibynnol i ymweld ag C ym mhle bynnag y bo C yn byw, mewn unrhyw achos—

(a)pan nad yw C wedi byw gyda rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant yn ystod y 12 mis blaenorol,

(b)pan na fu cyswllt rhwng C a rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu pan ddigwyddodd cyswllt o’r fath yn anaml, neu

(c)pan fyddai gwneud hynny er budd pennaf C.

(2Wrth wneud penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol ystyried—

(a)a fyddai penodi ymwelydd annibynnol yn cyfrannu’n gadarnhaol at lesiant C;

(b)os yw C wedi ei leoli ymhell o’i gartref, neu os yw C wedi ei leoli yn ardal awdurdod lleol arall neu ardal awdurdod lleol yn Lloegr, a yw’r lleoliad yn gwneud cynnal y trefniadau cyswllt yn anodd;

(c)a yw C yn gallu mynd allan yn annibynnol, ynteu a yw C yn cael anhawster i gyfathrebu neu ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol;

(d)a yw C yn debygol o ymddwyn mewn ffordd sy’n ei roi mewn perygl o ffurfio perthynas anaddas;

(e)pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, a fyddai cyfle i sefydlu perthynas gydag ymwelydd annibynnol yn hyrwyddo llesiant C.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Rhl. 36 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

37.  Os yw’r awdurdod cyfrifol yn penderfynu, yn unol â rheoliad 36, ei bod yn briodol penodi ymwelydd annibynnol ar gyfer C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol (yn unol ag oedran a dealltwriaeth C) esbonio rôl ymwelydd annibynnol wrth C.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Rhl. 37 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

RHAN 6LL+CAdolygiadau o achos y plentyn

Dyletswydd gyffredinol yr awdurdod cyfrifol i adolygu achos y plentynLL+C

38.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol adolygu achos C yn unol â’r Rhan hon.

(2Rhaid i’r awdurdod cyfrifol beidio â gwneud unrhyw newid sylweddol yng nghynllun gofal a chymorth C oni fydd y newid arfaethedig wedi ei ystyried yn gyntaf mewn adolygiad o achos C, ac eithrio pan nad yw hynny’n rhesymol ymarferol.

(3Nid oes dim yn y Rhan hon sy’n rhwystro cynnal unrhyw adolygiad o achos C yr un pryd ag unrhyw adolygiad, asesiad neu ystyriaeth arall o achos C o dan unrhyw ddarpariaeth arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Rhl. 38 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Amseru adolygiadauLL+C

39.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol adolygu achos C am y tro cyntaf o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y dechreuodd C dderbyn gofal.

(2Rhaid cynnal yr ail adolygiad ar ôl ysbaid o ddim mwy na thri mis ar ôl y cyntaf, a rhaid cynnal adolygiadau dilynol fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis.

(3Nid oes dim yn rheoliad hwn sy’n rhwystro’r awdurdod cyfrifol rhag cynnal adolygiad cyn yr amser a bennir ym mharagraff (1) neu (2), a rhaid iddo wneud hynny—

(a)os yw’r awdurdod cyfrifol yn tybio bod C yn absennol, neu wedi bod yn absennol yn fynych, o’r lleoliad,

(b)os hysbysir yr awdurdod cyfrifol gan y person priodol, P neu’r awdurdod ardal ynghylch pryder bod C mewn perygl o niwed,

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw C yn gofyn iddo,

(d)os yw’r SAA yn gofyn iddo,

(e)os yw rheoliad 33 yn gymwys,

(f)os darparwyd llety i C o dan adran 77(2)(b) neu (c) o Ddeddf 2014 ac na fyddai adolygiad yn digwydd fel arall cyn bo C yn peidio â chael ei ddarparu â llety felly,

(g)os yw C yng ngofal yr awdurdod ac o dan gadwad, ac na fyddai adolygiad yn digwydd fel arall cyn bo C yn peidio â bod dan gadwad felly, neu

(h)os yw C yn derbyn gofal ond nid yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac—

(i)yr awdurdod cyfrifol yn bwriadu peidio â darparu llety i C, a

(ii)na fydd llety’n cael ei ddarparu ar gyfer C wedyn gan rieni C (neu un ohonynt) nac ychwaith gan unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C,

(i)os yw C yn rhan o deulu yr atgyfeiriwyd ei achos at dîm integredig cymorth i deuluoedd, a’r teulu wedi ei hysbysu y bydd tîm o’r fath yn cynorthwyo ei achos.

(4Ni wneir yn ofynnol bod yr awdurdod cyfrifol yn cynnal adolygiad yn unol â pharagraff (3)(c) os yw’r SAA o’r farn na ellir cyfiawnhau cynnal adolygiad cyn yr amser a bennir ym mharagraff (1) neu (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I39Rhl. 39 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cynnal yr adolygiadauLL+C

Polisi’r awdurdod cyfrifol ar adolygiadauLL+C

40.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig ar y modd y bydd yn adolygu achosion yn unol â’r Rhan hon.

(2Rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu copi o’i bolisi i—

(a)C, oni fydd yn amhriodol gwneud hynny o ystyried oedran a dealltwriaeth C,

(b)rhieni C, neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, ac

(c)unrhyw berson arall yr ystyrir ei safbwyntiau’n berthnasol gan yr awdurdod cyfrifol.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Rhl. 40 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddyntLL+C

41.—(1Yr ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu pob achos yw’r rhai a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 8.

(2Mae’r ystyriaethau ychwanegol y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C pan fo C yn rhan o deulu a gynorthwyir gan dîm integredig cymorth i deuluoedd wedi eu nodi ym mharagraff 2 o Atodlen 8.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Rhl. 41 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rôl yr SAALL+C

42.—(1Rhaid i’r SAA—

(a)i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod a gynhelir fel rhan o’r adolygiad (“y cyfarfod adolygu”), ac os yw’n bresennol yn y cyfarfod adolygu, ei gadeirio,

(b)siarad ag C yn breifat am y materion sydd i’w hystyried yn yr adolygiad oni fydd C yn gwrthod, ac yn meddu dealltwriaeth ddigonol i wneud hynny, neu’r SAA yn ystyried hynny’n amhriodol oherwydd oedran a dealltwriaeth C,

(c)sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, y canfyddir ac y cymerir i ystyriaeth safbwyntiau, dymuniadau a theimladau rhieni C neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a

(d)sicrhau y cynhelir yr adolygiad yn unol â’r Rhan hon ac yn benodol—

(i)yr enwir y personau sy’n gyfrifol am weithredu unrhyw benderfyniad a wneir o ganlyniad i’r adolygiad, a

(ii)y tynnir sylw swyddog sydd ar lefel uwch briodol o fewn yr awdurdod cyfrifol at unrhyw fethiant i adolygu’r achos yn unol â’r Rhan hon, neu fethiant i gymryd camau priodol i weithredu penderfyniadau a wneir o ganlyniad i’r adolygiad.

(2Caiff yr SAA, os na fodlonir ef fod gwybodaeth ddigonol wedi ei darparu gan yr awdurdod cyfrifol i alluogi ystyriaeth briodol o unrhyw fater yn Atodlen 8, ohirio’r cyfarfod adolygu unwaith am ddim mwy nag 20 diwrnod gwaith, ac ni chaniateir gweithredu unrhyw gynnig a ystyriwyd yn ystod yr adolygiad hyd nes cwblheir yr adolygiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I42Rhl. 42 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Trefniadau ar gyfer gweithredu penderfyniadau sy’n tarddu o adolygiadauLL+C

43.  Rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)gwneud trefniadau i weithredu penderfyniadau a wneir yn ystod yr adolygiad neu o ganlyniad iddo, a

(b)hysbysu’r SAA ynghylch unrhyw fethiant arwyddocaol i wneud trefniadau o’r fath neu unrhyw newid arwyddocaol yn yr amgylchiadau a fydd yn digwydd ar ôl yr adolygiad ac yn effeithio ar y trefniadau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Rhl. 43 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cofnodion o’r adolygiadauLL+C

44.  Rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau y paratoir cofnod ysgrifenedig o’r adolygiad, a bod yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr adolygiad, manylion o’r trafodion yn y cyfarfod adolygu ac unrhyw benderfyniadau a wnaed yn ystod yr adolygiad neu o ganlyniad iddo wedi eu cynnwys yng nghofnod achos C.

Gwybodaeth Cychwyn

I44Rhl. 44 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

RHAN 7LL+CTrefniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol ar gyfer rhoi’r gorau i ofalu am blentyn

Penderfyniad i roi’r gorau i ofalu am CLL+C

45.—(1Mewn unrhyw achos pan fo C yn 16 neu’n 17 oed ac nad yw yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i roi’r gorau i ofalu am C hyd nes bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod cyfrifol.

(2Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol gael ei fodloni—

(a)y cydymffurfiwyd â rheoliad 10(1)(b)(i),

(b)yr ymgynghorwyd ag SAA C,

(c)pan fo’n briodol, yr ymgynghorwyd â pherthnasau C, a

(d)y cydymffurfiwyd â rheoliad 46, neu reoliadau 47 – 51 (fel sy’n briodol).

Gwybodaeth Cychwyn

I45Rhl. 45 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Trefniadau ar gyfer rhoi’r gorau i ofalu am blentyn nad yw’n berson ifanc categori 1LL+C

46.  Mewn unrhyw achos pan nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac nad yw’n debygol o fod yn berson ifanc categori 1(55) pan fydd yr awdurdod lleol yn rhoi’r gorau i ofalu am C, rhaid i’r cynllun gofal a chymorth (neu os yw rheoliad 58 yn gymwys, y cynllun lleoli dan gadwad) gynnwys manylion am y cyngor a chymorth arall y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu eu darparu i C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Rhl. 46 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Personau ifanc categori 1LL+C

Ystyr person ifanc categori 1LL+C

47.—(1At ddibenion adran 104(2) o Ddeddf 2014 y cyfnod rhagnodedig yw 13 wythnos a’r oedran rhagnodedig yw 14.

(2At ddibenion adran 104(6)(b) o Ddeddf 2014, os yw C yn blentyn y mae rheoliad 62 yn gymwys iddo, nid yw C yn berson ifanc categori 1 er gwaethaf dod o fewn adran 104(2) o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I47Rhl. 47 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Dyletswyddau cyffredinolLL+C

48.  Os yw C yn berson ifanc categori 1, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

(a)asesu anghenion C yn unol â rheoliad 49, a

(b)paratoi cynllun llwybr C yn unol â rheoliad 51.

Gwybodaeth Cychwyn

I48Rhl. 48 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Asesu anghenionLL+C

49.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gwblhau’r asesiad o anghenion C yn unol ag adran 107(1) o Ddeddf 2014 o fewn dim mwy na 3 mis ar ôl y dyddiad y mae C yn cyrraedd 16 oed neu’n dod yn berson ifanc categori 1 ar ôl yr oedran hwnnw.

(2Wrth wneud ei asesiad o anghenion tebygol C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal, rhaid i’r awdurdod cyfrifol gymryd i ystyriaeth y materion canlynol—

(a)cyflwr iechyd C (gan gynnwys ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a’i ddatblygiad;

(b)angen parhaus C am addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth;

(c)os yw C yn dod o fewn rheoliad 5(1)(f), unrhyw anghenion sydd gan C o ganlyniad i’r statws hwnnw;

(d)y cymorth a fydd ar gael i C gan ei rieni a phersonau cysylltiedig eraill;

(e)pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol—

(i)a yw C ac F wedi penderfynu eu bod yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18(56), neu

(ii)pa wybodaeth y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol ei darparu i C ac F i’w cynorthwyo i wneud penderfyniad o’r fath;

(f)adnoddau ariannol presennol a disgwyliedig C a’i allu i reoli ei adnoddau ariannol personol yn annibynnol;

(g)i ba raddau y mae C yn meddu’r sgiliau ymarferol a’r sgiliau eraill sydd eu hangen ar gyfer byw’n annibynnol;

(h)angen C am ofal parhaus, cymorth a llety;

(i)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau—

(i)C,

(ii)unrhyw riant i C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C,

(iii)y person priodol;

(j)safbwyntiau—

(i)unrhyw berson neu sefydliad addysgol sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C, ac os oes gan C ddatganiad anghenion addysgol arbennig, yr awdurdod cyfrifol sy’n cynnal y datganiad,

(ii)yr SAA,

(iii)unrhyw berson sy’n darparu gofal neu driniaeth iechyd (pa un ai iechyd corfforol, meddyliol neu emosiynol) neu ofal neu driniaeth ddeintyddol i C,

(iv)y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C a

(v)unrhyw berson arall yr ystyrir ei safbwyntiau yn berthnasol, gan yr awdurdod cyfrifol neu gan C.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Rhl. 49 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Asesiadau a chynlluniau llwybr: trefniadau byw ôl-18LL+C

50.—(1Er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 108(2) o Ddeddf 2014(57), rhaid i awdurdod cyfrifol ddarparu’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) ynghylch trefniadau byw ôl-18, i’r personau canlynol—

(a)C, pan fo C wedi ei leoli gydag F neu mewn cartref plant, wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr C;

(b)C, pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gydag F, wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr C;

(c)unrhyw F y lleolwyd C gydag ef gan yr awdurdod cyfrifol, wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr C;

(d)unrhyw gyn-riant maeth(58) C;

(e)rhiant neu berson arall a oedd â chyfrifoldeb rhiant am C cyn lleoli C gydag F (oni fyddai gwneud hynny’n rhoi C mewn perygl o niwed);

(f)pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, gweithiwr dolen gyswllt C;

(g)yr SAA;

(h)R;

(i)os penodwyd un ar gyfer C, ymwelydd annibynnol;

(j)person ifanc categori 3 sy’n cymryd rhan mewn trefniant byw ôl-18;

(k)cyn-riant maeth sy’n cymryd rhan mewn trefniant byw ôl-18;

(l)unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod cyfrifol fod arno angen y cyfryw wybodaeth.

(2Mae’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)—

(a)yn cynnwys—

(i)manylion am ddyletswyddau’r awdurdod cyfrifol o dan adran 108 o Ddeddf 2014,

(ii)copi o bolisi’r awdurdod cyfrifol ar drefniadau byw ôl-18,

(iii)gwybodaeth am y goblygiadau ariannol sy’n gysylltiedig â gwneud trefniant byw ôl-18, fel y maent yn gymwys i C ac i F,

(iv)gwybodaeth am ddewisiadau amgen sydd ar gael i C yn hytrach na threfniant byw ôl-18, a chymhwystra ar eu cyfer,

(v)manylion am ffynonellau gwybodaeth, cymorth a chyngor eraill sydd ar gael i gynorthwyo C ac F i wneud penderfyniad ynghylch trefniant byw ôl-18,

(vi)gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i bersonau ifanc categori 3 a’u cyn-rieni maeth sy’n gwneud trefniant byw ôl-18, yn ystod trefniant o’r fath,

(vii)diweddariadau ynghylch unrhyw newidiadau i bolisi neu ymarfer yr awdurdod cyfrifol mewn perthynas â gwneud trefniant byw ôl-18 a’r cymorth a ddarperir yn ystod trefniant o’r fath, a

(b)rhaid ei darparu mewn fformat sy’n addas i oedran a dealltwriaeth y derbynnydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I50Rhl. 50 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Y cynllun llwybrLL+C

51.—(1Rhaid paratoi’r cynllun llwybr cyn gynted ag y bo modd ar ôl yr asesiad o anghenion C, a rhaid i’r cynllun llwybr gynnwys, yn benodol—

(a)cynllun gofal a chymorth C, a

(b)yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 9.

(2Rhaid i’r cynllun llwybr, mewn perthynas â phob un o’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 2 i 11 o Atodlen 9, nodi—

(a)y modd y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu diwallu anghenion C, a

(b)erbyn pa ddyddiad, a chan bwy, y cyflawnir unrhyw weithred sy’n ofynnol er mwyn gweithredu unrhyw agwedd ar y cynllun.

Gwybodaeth Cychwyn

I51Rhl. 51 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Swyddogaethau’r cynghorydd personolLL+C

52.  Swyddogaethau’r cynghorydd personol mewn perthynas ag C yw’r canlynol—

(a)darparu cyngor (gan gynnwys cyngor ymarferol) a chymorth,

(b)cymryd rhan yn yr adolygiadau o achos C a gyflawnir o dan Ran 6,

(c)cysylltu â’r awdurdod cyfrifol ynglŷn â gweithredu’r cynllun llwybr,

(d)cydgysylltu’r ddarpariaeth o wasanaethau a chymryd camau rhesymol i sicrhau bod C yn defnyddio’r cyfryw wasanaethau,

(e)cynnal ei wybodaeth am gynnydd a llesiant C, ac

(f)cadw cofnod ysgrifenedig o’i gysylltiadau ag C.

Gwybodaeth Cychwyn

I52Rhl. 52 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

RHAN 8LL+CSwyddogion adolygu annibynnol ac ymwelwyr annibynnol

Swyddogaethau ychwanegol swyddogion adolygu annibynnolLL+C

53.—(1Rhaid i’r SAA, gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth C, sicrhau bod yr awdurdod cyfrifol wedi rhoi gwybod i C am y camau y caiff C eu cymryd o dan Ddeddf 1989 a Deddf 2014, ac yn benodol, os yw’n briodol—

(a)hawl C, gyda chaniatâd, i wneud cais am orchymyn o dan adran 8 o Ddeddf 1989 (gorchmynion trefniadau plentyn a gorchmynion eraill mewn cysylltiad â phlant), ac os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, i wneud cais am ryddhad o’r gorchymyn gofal, a

(b)argaeledd y weithdrefn a sefydlwyd ganddo o dan adran 174 o Ddeddf 2014 ar gyfer ystyried unrhyw sylwadau (gan gynnwys cwynion) y gallai C ddymuno eu gwneud ynghylch y modd y mae’r awdurdod cyfrifol yn cyflawni ei swyddogaethau, gan gynnwys argaeledd cymorth i wneud sylwadau o’r fath o dan adran 178 o Ddeddf 2014.

(2Os yw C yn dymuno dwyn achos cyfreithiol o dan Ddeddf 1989, rhaid i’r SAA—

(a)canfod a oes oedolyn priodol sy’n alluog a bodlon i gynorthwyo C i gael cyngor cyfreithiol neu ddwyn achos ar ran C, a

(b)os nad oes person o’r fath, cynorthwyo C i gael cyngor o’r fath.

(3Yn yr amgylchiadau canlynol rhaid i’r SAA ystyried a fyddai’n briodol atgyfeirio achos C at swyddog achosion teuluol Cymru(59)

(a)pan fo’r awdurdod cyfrifol, mewn unrhyw fodd sylweddol, ym marn yr SAA, wedi—

(i)methu â pharatoi cynllun gofal a chymorth C yn unol â’r Rheoliadau hyn,

(ii)methu ag adolygu achos C yn unol â’r Rheoliadau hyn, neu wedi methu â gweithredu’n effeithiol unrhyw benderfyniad a wnaed o ganlyniad i adolygiad, neu

(iii)rywfodd arall wedi methu â chyflawni ei ddyletswyddau i C mewn unrhyw fodd perthnasol, a

(b)ar ôl tynnu sylw personau ar lefel uwch briodol o fewn yr awdurdod cyfrifol at y methiant, ni roddwyd sylw i’r mater er boddhad i’r SAA o fewn cyfnod rhesymol o amser.

(4Rhaid i’r SAA, pan fo’r awdurdod cyfrifol yn ymgynghori ag ef ynghylch unrhyw fater sy’n ymwneud ag C, neu pan hysbysir ef o unrhyw fater sy’n ymwneud ag C yn unol â’r Rheoliadau hyn—

(a)sicrhau bod yr awdurdod cyfrifol wedi canfod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C ynglŷn â’r mater dan sylw, ac, yn ddarostyngedig i oedran a dealltwriaeth C, wedi rhoi ystyriaeth briodol i safbwyntiau, dymuniadau a’r teimladau C, a

(b)ystyried a ddylid gofyn am adolygiad o achos C.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Rhl. 53 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cymwysterau a phrofiad swyddogion adolygu annibynnolLL+C

54.—(1Rhaid i’r SAA fod wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol mewn cofrestr a gynhelir gan Gyngor Gofal Cymru neu yn Rhan 16 o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001(60) neu mewn cofrestr gyfatebol a gynhelir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

(2Rhaid i’r SAA feddu profiad digonol o waith cymdeithasol perthnasol gyda phlant a theuluoedd i gyflawni’r swyddogaethau swyddog adolygu annibynnol a nodir yn adran 100 o Ddeddf 2014 ac o dan y Rheoliadau hyn, mewn modd annibynnol a chan roi sylw i fudd pennaf C.

(3Rhaid i’r awdurdod cyfrifol beidio â phenodi unrhyw un o’r canlynol fel yr SAA—

(a)person a fu’n ymwneud â pharatoi cynllun gofal a chymorth C neu reoli achos C,

(b)R,

(c)cynghorydd personol C,

(d)person sydd â chyfrifoldebau rheoli mewn perthynas â pherson a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (c), neu

(e)person sydd â rheolaeth dros yr adnoddau a ddyrennir i’r achos.

Gwybodaeth Cychwyn

I54Rhl. 54 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Ymwelwyr annibynnolLL+C

55.  Mae person a benodwyd gan yr awdurdod cyfrifol fel ymwelydd annibynnol o dan adran 98 o Ddeddf 2014 i’w ystyried yn annibynnol ar yr awdurdod hwnnw os nad yw’r person a benodwyd yn gysylltiedig â’r awdurdod cyfrifol yn rhinwedd bod—

(a)yn aelod o’r awdurdod cyfrifol neu unrhyw un o’i bwyllgorau neu is-bwyllgorau, boed etholedig neu gyfetholedig,

(b)yn swyddog yr awdurdod cyfrifol a gyflogir i arfer unrhyw un o’r swyddogaethau canlynol—

(i)y swyddogaethau a roddwyd i’r awdurdod cyfrifol neu sy’n arferadwy ganddo yn ei rôl fel awdurdod addysg lleol,

(ii)y swyddogaethau a roddwyd i’r awdurdod cyfrifol neu sy’n arferadwy ganddo sydd yn swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol (o fewn yr ystyr yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014 i’r graddau y mae’r swyddogaethau hynny’n ymwneud â phlant),

(iii)y swyddogaethau a roddwyd i’r awdurdod cyfrifol o dan adrannau 61 i 63 a 103 i 118 o Ddeddf 2014 (i’r graddau nad ydynt yn dod o fewn is-baragraff (ii)),

(iv)y swyddogaethau a roddwyd i’r awdurdod cyfrifol gan adrannau 25, 26, 28 a 29 o Ddeddf Plant 2004(61),

(v)y swyddogaethau a roddwyd i’r awdurdod cyfrifol yn unol ag adran 33 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(62) neu adran 75 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(63), neu

(c)yn briod, partner sifil neu berson arall (pa un ai o wahanol ryw neu o’r un rhyw) sy’n byw ar yr un aelwyd fel partner person sy’n dod o fewn paragraffau (a) neu (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I55Rhl. 55 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

RHAN 9LL+CCymhwyso’r Rheoliadau hyn, gydag addasiadau, i blant sydd ar remánd neu dan gadwad

Cymhwyso’r Rheoliadau hyn, gydag addasiadau, i blant sydd ar remánd a phlant sydd dan gadwadLL+C

56.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir yn y Rhan hon tra bo C—

(a)ar remánd i lety awdurdod lleol,

(b)ar remánd i lety cadw ieuenctid (“LlCI”), neu

(c)dan gadwad(64).

(2Yn y Rheoliadau hyn—

(a)pan fo C ar remánd i lety awdurdod lleol neu LlCI, rhaid dehongli cyfeiriadau at yr “awdurdod cyfrifol” fel pe baent yn gyfeiriadau at yr awdurdod lleol a ddynodwyd gan y llys o dan adran 92(2) neu adran 102(6), yn ôl y digwydd, o Ddeddf 2012,

(b)pan fo C ar remánd i LlCI neu dan gadwad, rhaid dehongli cyfeiriadau at ei “leoli” fel pe baent yn gyfeiriadau at roi C ar remánd neu dan gadwad felly,

(c)pan fo C ar remánd i LlCI neu dan gadwad—

(i)rhaid darllen cyfeiriadau at y “cynllun lleoli”(65) fel pe baent yn gyfeiriadau at y “cynllun lleoli dan gadwad”, a

(ii)pan fo C yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd felly, rhaid darllen cyfeiriadau at y “cynllun gofal a chymorth” hefyd fel pe baent yn gyfeiriadau at y “cynllun lleoli dan gadwad”.

Gwybodaeth Cychwyn

I56Rhl. 56 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Addasiadau i Ran 2LL+C

57.—(1Mae Rhan 2 (trefniadau ar gyfer gofalu am blentyn) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2Pan fo C yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd i lety awdurdod lleol—

(a)yn rheoliad 4(3), rhaid paratoi’r cynllun gofal a chymorth o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd felly, a

(b)nid yw rheoliad 5(1)(a) yn gymwys.

(3Pan fo C ar remánd i LlCI ac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal yn union cyn ei roi ar remánd felly, neu pan fo C dan gadwad—

(a)nid yw rheoliad 5(1)(c) yn gymwys, a rhaid i’r cynllun gofal a chymorth, yn hytrach gynnwys cynllun lleoli dan gadwad,

(b)yn rheoliad 6(3), rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi copi hefyd o’r cynllun gofal a chymorth i gyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig (yn ôl y digwydd) y carchar neu’r LlCI, ac

(c)nid yw rheoliad 7(1) i (4) yn gymwys.

(4Pan fo C yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd i LlCI—

(a)nid yw rheoliad 5 yn gymwys, ac yn hytrach rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi cynllun lleoli dan gadwad, sydd hefyd yn cynnwys manylion o safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r personau a ganfyddir ac a ystyrir gan yr awdurdod cyfrifol yn unol ag adrannau 6(2) a (4), 7(2) a 78(3) o Ddeddf 2014 ynghylch y cynllun lleoli dan gadwad, a safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r personau hynny mewn perthynas ag unrhyw newid, neu newid arfaethedig, yn y cynllun lleoli dan gadwad,

(b)nid yw rheoliad 7(1) i (4) yn gymwys, ac mae rheoliad (5) yn gymwys gyda’r addasiad y rhoddir “cynllun lleoli dan gadwad” yn lle “cynllun iechyd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I57Rhl. 57 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Addasiadau i Ran 3LL+C

58.—(1Mae Rhan 3 yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.

(2Pan fo C yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd i LlCI, nid yw rheoliadau 10, 11, 12 a 15 yn gymwys, ac yn hytrach—

(a)rhaid i’r awdurdod cyfrifol, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd i LlCI, baratoi cynllun ar gyfer y remánd (“y cynllun lleoli dan gadwad”) sydd—

(i)yn nodi sut y bydd y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi yn diwallu anghenion C, a

(ii)yn cynnwys enw a chyfeiriad y LlCI, a’r materion a bennir yn Atodlen 10.

(3Pan fo C ar remánd i LlCI ac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal yn union cyn ei roi ar remánd felly, neu pan fo C dan gadwad—

(a)nid yw rheoliadau 10, 11, 12 a 15 yn gymwys, ac yn hytrach, rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi cynllun lleoli dan gadwad yn unol ag is-baragraff (b);

(b)rhaid i’r awdurdod cyfrifol, baratoi cynllun lleoli dan gadwad (a gaiff ei gynnwys yng nghynllun gofal a chymorth C) ar gyfer y remánd neu gadwad, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd i LlCI neu dan gadwad, a rhaid i’r cynllun—

(i)nodi sut y bydd y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi yn diwallu anghenion C, a

(ii)cynnwys, fel y bo’n briodol, enw a chyfeiriad y carchar, LlCI, neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi a’r materion a bennir yn Atodlen 10;

(c)rhaid hysbysu’r SAA ynghylch y remánd neu gadwad.

(4Pan fo C yn dod o fewn paragraff (2) neu (3)—

(a)rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C wedi eu canfod ac wedi cael ystyriaeth briodol;

(b)rhaid i’r cynllun lleoli dan gadwad gael ei gytuno a’i lofnodi gan gyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig (yn ôl y digwydd) y carchar neu’r LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi.

(5Pan fo C ar remánd i lety awdurdod lleol, mae rheoliad 10(1) yn gymwys gyda’r addasiad fod rhaid paratoi’r cynllun lleoli o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd felly.

Gwybodaeth Cychwyn

I58Rhl. 58 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Datgymhwyso Rhan 4LL+C

59.  Nid yw Rhan 4 (darpariaeth ar gyfer gwahanol fathau o leoliad) yn gymwys pan fo C ar remand i LlCI neu pan fo C dan gadwad.

Gwybodaeth Cychwyn

I59Rhl. 59 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Addasu Rhan 5LL+C

60.  Mae Rhan 5 (ymweliadau gan gynrychiolydd yr awdurdod cyfrifol etc.) yn gymwys gyda’r addasiad, yn rheoliad 31(7)(a), fod rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C, pa fo C ar remánd i LlCI neu pan fo C dan gadwad, pa bryd bynnag y gofynnir yn rhesymol iddo wneud hynny gan gyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig (yn ôl y digwydd) y carchar, yr LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I60Rhl. 60 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Addasu Rhan 6LL+C

61.  Mae Rhan 6 (adolygiadau) yn gymwys gyda’r addasiad, yn rheoliad 41, fod yr ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C, pan fo C ar remánd i LlCI neu pan fo C dan gadwad, wedi eu nodi ym mharagraffau 1, 4, a 6 i 13 o Atodlen 8 (ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C).

Gwybodaeth Cychwyn

I61Rhl. 61 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

RHAN 10LL+CAmrywiol

Cymhwyso’r Rheoliadau hyn, gydag addasiadau, i seibiannau byrLL+C

62.—(1Yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (2), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir ym mharagraff (3).

(2Yr amgylchiadau yw—

(a)pan nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol,

(b)pan fo’r awdurdod cyfrifol wedi trefnu i leoli C mewn cyfres o leoliadau byrdymor gyda’r un person neu yn yr un llety (“seibiannau byr”), ac

(c)trefniant wedi ei wneud fel—

(i)na fwriedir i unrhyw un lleoliad barhau am fwy na 4 wythnos,

(ii)bod C, ar ddiwedd pob lleoliad o’r fath yn dychwelyd i ofal rhiant C neu berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a

(iii)na fydd cyfanswm y seibiannau byr mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yn fwy na 120 o ddiwrnodau.

(3Yr addasiadau yw—

(a)nid yw rheoliadau 5 a 10 yn gymwys, ond yn hytrach rhaid i’r cynllun gofal a chymorth nodi’r trefniadau sydd wedi eu gwneud i ddiwallu anghenion C gan roi sylw penodol i’r canlynol—

(i)iechyd a datblygiad emosiynol ac ymddygiadol C, yn enwedig mewn perthynas ag unrhyw anabledd(66) a allai fod gan C,

(ii)hyrwyddo cyswllt rhwng C a’i rieni ac unrhyw berson arall nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, yn ystod unrhyw gyfnod pan leolir C,

(iii)diddordebau hamdden C, a

(iv)hyrwyddo cyflawniad addysgol C,

a rhaid i’r cynllun gynnwys enw a chyfeiriad ymarferydd meddygol cofrestredig C, a’r wybodaeth a nodir ym mharagraff 3 o Atodlen 3, pan fo’n briodol,

(b)nid yw rheoliadau 7, 14 a 63(2)(b) yn gymwys,

(c)nid yw rheoliad 31(2) yn gymwys, ond yn hytrach rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C ar ddiwrnodau pan fo C yn y lleoliad mewn gwirionedd, a hynny fesul ysbeidiau rheolaidd sydd i’w cytuno gyda’r SAA a rhieni C (neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C) a’u cofnodi yn y cynllun gofal a chymorth cyn dechrau’r lleoliad cyntaf, a beth bynnag—

(i)rhaid i’r ymweliad cyntaf ddigwydd o fewn y 7 diwrnod lleoli cyntaf ar ôl dechrau’r lleoliad cyntaf, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi hynny, a

(ii)rhaid i ymweliadau dilynol ddigwydd fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis, am gyhyd ag y bo’r seibiannau byr yn parhau,

(d)nid yw rheoliad 39 yn gymwys, ond yn hytrach—

(i)rhaid i’r awdurdod cyfrifol adolygu achos C am y tro cyntaf o fewn 3 mis ar ôl dechrau’r lleoliad cyntaf, a

(ii)rhaid cynnal yr ail adolygiad ac adolygiadau dilynol fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis.

Gwybodaeth Cychwyn

I62Rhl. 62 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cofnodion – sefydlu cofnodionLL+C

63.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol sefydlu a chynnal cofnod achos ysgrifenedig ar gyfer C (“cofnod achos C”), os nad oes un yn bodoli eisoes.

(2Rhaid i’r cofnod achos gynnwys—

(a)cynllun gofal a chymorth C, gan gynnwys unrhyw newidiadau a wnaed i’r cynllun gofal a chymorth ac unrhyw gynlluniau dilynol,

(b)adroddiadau a gafwyd o dan reoliad 7,

(c)unrhyw ddogfen arall a grëwyd neu a ystyriwyd yn rhan o unrhyw asesiad o anghenion C neu unrhyw adolygiad o achos C,

(d)unrhyw orchymyn llys yn ymwneud ag C,

(e)manylion unrhyw drefniadau sydd wedi eu gwneud gan yr awdurdod cyfrifol gydag unrhyw awdurdod lleol arall neu gydag asiantaeth faethu annibynnol o dan reoliad 29 ac Atodlen 6, neu gyda darparwr gwasanaethau gwaith cymdeithasol, y cyflawnir oddi tanynt unrhyw rai o swyddogaethau’r awdurdod cyfrifol mewn perthynas ag C, gan yr awdurdod lleol hwnnw neu’r asiantaeth faethu annibynnol honno neu’r darparwr gwasanaethau gwaith cymdeithasol hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I63Rhl. 63 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Cofnodion – dal gafael ar gofnodion a chyfrinacheddLL+C

64.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddal ei afael ar gofnod achos C naill ai—

(a)tan bymthegfed pen-blwydd a thrigain C, neu

(b)os bydd farw C cyn cyrraedd 18 oed, am y cyfnod o bymtheng mlynedd sy’n dechrau gyda dyddiad marwolaeth C.

(2Rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau y cedwir cofnod achos C yn ddiogel, a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol i sicrhau y trinnir yr wybodaeth sydd ynddo yn gyfrinachol, yn ddarostyngedig yn unig i’r canlynol—

(a)unrhyw ddarpariaeth mewn statud, neu a wneir o dan neu yn rhinwedd statud, y caniateir cael neu roi mynediad i gofnod neu wybodaeth o’r fath oddi tani,

(b)unrhyw orchymyn llys y caniateir cael neu roi mynediad i gofnod neu wybodaeth o’r fath oddi tano.

Gwybodaeth Cychwyn

I64Rhl. 64 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

DirymiadauLL+C

65.  Mae’r Rheoliadau a nodir yn Atodlen 11 i’r Rheoliadau hyn wedi eu dirymu i’r graddau a bennir yn yr Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I65Rhl. 65 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

21 Hydref 2015

Rhagolygol

YR ATODLENNI

Y Rhaglith

ATODLEN 1LL+CDarpariaethau sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru a arferir wrth wneud y Rheoliadau hyn

Gwybodaeth Cychwyn

I66Atod. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Y deddfiad sy’n rhoi pŵer
Deddf 2014Adrannau 81(6)(d), 83(5) 84, 87, 97(4)(a), 97(5), 98(1)(a), 100(1)(b), 100(2)(a), 102(1), 102(2), 104(2)(c), 104(6), 106(4), 107(7)(c), 107(8), 107(9), 108(6), a 196(2)
Deddf Plant 1989Adrannau 31A a 34(8).

Rheoliad 5

ATODLEN 2LL+CCynlluniau gofal a chymorth

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun iechydLL+C

1.—(1Cyflwr iechyd C gan gynnwys ei iechyd corfforol, geneuol, emosiynol a meddyliol.

(2Hanes iechyd C gan gynnwys, i’r graddau sy’n ymarferol, hanes iechyd teulu C.

(3Effaith iechyd a hanes iechyd C ar ei ddatblygiad.

(4Y trefniadau presennol ar gyfer gofal meddygol a deintyddol C, sy’n briodol i’w anghenion, gan gynnwys—

(a)gwiriadau rheolaidd o gyflwr iechyd cyffredinol C, gan gynnwys iechyd deintyddol;

(b)triniaeth a monitro ar gyfer anghenion iechyd a nodir (gan gynnwys iechyd corfforol ac emosiynol, ac yn enwedig iechyd meddwl) neu anghenion gofal deintyddol;

(c)mesurau ataliol megis brechiadau ac imiwneiddio;

(d)sgrinio am ddiffygion golwg neu glyw; ac

(e)cyngor a chanllawiau ar hybu iechyd a gofal personol effeithiol (gan gynnwys iechyd meddwl a gofal geneuol).

(5Unrhyw newidiadau arfaethedig yn y trefniadau presennol.

(6Rôl y person priodol ac unrhyw berson arall sy’n gofalu am C, mewn hyrwyddo iechyd C.

Gwybodaeth Cychwyn

I67Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun addysg personolLL+C

2.—(1Hanes addysgol a hanes hyfforddiant C, gan gynnwys gwybodaeth am sefydliadau addysgol a fynychwyd, a chofnod presenoldeb ac ymddygiad C, ei gyflawniadau academaidd a chyflawniadau eraill; ac anghenion addysgol arbennig C, os oes rhai.

(2Y trefniadau presennol ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys manylion am unrhyw ddarpariaeth addysgol arbennig, ac unrhyw ddarpariaeth arall a wneir i ddiwallu anghenion penodol C o ran addysg neu hyfforddiant, a hyrwyddo ei gyflawniad addysgol.

(3Diddordebau hamdden C.

(4Pan fo angen gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer addysg neu hyfforddiant C, y ddarpariaeth a wnaed i leihau’r amharu ar yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw.

(5Rôl y person priodol ac unrhyw berson arall sy’n gofalu am C o ran hyrwyddo cyflawniadau addysgol C a’i ddiddordebau hamdden.

Gwybodaeth Cychwyn

I68Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Perthnasoedd teuluol a chymdeithasolLL+C

3.—(1Os oes gan C frawd neu chwaer y darperir llety ar ei gyfer neu ar ei chyfer gan yr awdurdod cyfrifol neu awdurdod arall, ac nad yw’r plant wedi eu lleoli gyda’i gilydd, y trefniadau a wnaed i hyrwyddo cyswllt rhyngddynt, i’r graddau y mae hynny’n gyson â llesiant C.

(2Os yw C yn derbyn gofal gan, ond nid yng ngofal, yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989.

(3Os yw C yn blentyn yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal).

(4Unrhyw drefniadau eraill a wnaed i hyrwyddo a chynnal cyswllt yn unol ag adran 95 o Ddeddf 2014, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol ac yn gyson â llesiant C, rhwng C ac—

(a)unrhyw riant C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C; a

(b)unrhyw berson cysylltiedig arall.

(5Pan fo adran 98(1) o Ddeddf 2014 (ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal) yn gymwys, y trefniadau a wnaed i benodi ymwelydd annibynnol ar gyfer C neu, os yw adran 98(6) o’r Ddeddf honno’n gymwys (ymwelydd annibynnol heb ei benodi pan fo’r plentyn yn gwrthwynebu), y ffaith honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I69Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 10

ATODLEN 3LL+CMaterion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun lleoli

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yng nghynllun lleoli CLL+C

1.—(1Sut y gofelir am C o ddydd i ddydd ac y diogelir a hyrwyddir llesiant C gan y person priodol.

(2Unrhyw drefniadau a wnaed ar gyfer cyswllt rhwng C ac unrhyw riant C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a rhwng C a phersonau cysylltiedig eraill gan gynnwys, os yw’n briodol—

(a)y rhesymau pam na fyddai cyswllt ag unrhyw berson o’r fath yn rhesymol ymarferol neu na fyddai’n gyson â llesiant C,

(b)os nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989,

(c)os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf 1989,

(d)y trefniadau a wnaed ar gyfer hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau yn y trefniadau ar gyfer cyswllt.

(3Y trefniadau a wnaed ar gyfer gofal iechyd (gan gynnwys iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a deintyddol C, gan gynnwys—

(a)enw a chyfeiriad ymarferydd cyffredinol ac ymarferydd deintyddol cofrestredig C, ac os yw’n gymwys, unrhyw ymarferydd cyffredinol neu ymarferydd deintyddol cofrestredig y bwriedir cofrestru C gydag ef ar ôl ei leoli,

(b)unrhyw drefniadau ar gyfer rhoi neu atal cydsyniad ar gyfer archwiliad neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol i C.

(4Y trefniadau a wnaed ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys—

(a)enw a chyfeiriad unrhyw ysgol y mae C yn ddisgybl cofrestredig ynddi,

(b)enw’r person dynodedig ar gyfer disgyblion sy’n derbyn gofal yn yr ysgol honno (os yw’n gymwys); enw a chyfeiriad unrhyw sefydliad addysgol arall a fynychir gan C, neu unrhyw berson arall sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C,

(c)pan fo gan C ddatganiad anghenion addysgol arbennig, manylion am yr awdurdod addysg lleol sy’n cynnal y datganiad.

(5Y trefniadau a wnaed i R ymweld ag C yn unol â Rhan 5, amlder yr ymweliadau a’r trefniadau a wnaed i roi cyngor a chymorth arall ar gael i C rhwng ymweliadau yn unol â rheoliad 34.

(6Os penodir ymwelydd annibynnol, y trefniadau a wnaed i’r person hwnnw ymweld ag C.

(7Yr amgylchiadau pan ganiateir terfynu’r lleoliad a symud C ymaith o ofal y person priodol yn unol â rheoliad 15.

(8Enw a manylion cyswllt y canlynol—

(a)yr SAA;

(b)ymwelydd annibynnol C (os penodwyd un);

(c)R; a

(d)os yw C yn berson ifanc categori 1, y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C.

Gwybodaeth Cychwyn

I70Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth ychwanegol sydd i’w chynnwys pan leolir C gyda PLL+C

2.—(1Cofnod o’r canlynol—

(a)yr asesiad o addasrwydd P i ofalu am C, gan gynnwys ystyriaeth o’r materion a nodir yn Atodlen 4,

(b)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C a safbwyntiau, dymuniadau a theimladau unrhyw berson arall y ceisir ei safbwyntiau gan yr awdurdod cyfrifol,

(c)penderfyniad yr awdurdod cyfrifol i leoli C gyda P.

(2Manylion am y cymorth a’r gwasanaethau sydd i’w darparu i P yn ystod y lleoliad.

(3Y rhwymedigaeth ar P i hysbysu’r awdurdod cyfrifol ynghylch unrhyw newid perthnasol yn yr amgylchiadau, gan gynnwys unrhyw fwriad i newid cyfeiriad, unrhyw newid ar yr aelwyd lle y mae C yn byw, ac unrhyw ddigwyddiad difrifol sy’n ymwneud ag C.

(4Y rhwymedigaeth ar P i sicrhau bod unrhyw wybodaeth mewn perthynas ag C neu mewn perthynas â theulu C neu unrhyw berson arall, a roddir yn gyfrinachol i P mewn cysylltiad â’r lleoliad, yn cael ei chadw’n gyfrinachol, ac na chaiff gwybodaeth o’r fath ei datgelu i unrhyw berson heb gydsyniad yr awdurdod cyfrifol.

(5Yr amgylchiadau pan fydd angen cael caniatâd yr awdurdod cyfrifol ymlaen llaw er mwyn i C fyw ar aelwyd ac eithrio aelwyd P.

(6Y trefniadau ar gyfer gofyn am newid yn y cynllun lleoli.

(7Yr amgylchiadau pan gaiff y lleoliad ei derfynu yn unol â rheoliad 20(c)(ii).

Gwybodaeth Cychwyn

I71Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth ychwanegol sydd i’w chynnwys pan leolir C gydag F, mewn cartref plant neu mewn trefniadau eraillLL+C

3.—(1Cofnod o benderfyniad yr awdurdod cyfrifol o dan reoliad 23(2).

(2Y math o lety sydd i’w ddarparu, y cyfeiriad, ac, os lleolir C mewn trefniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014, enw’r person a fydd yn gyfrifol am C yn y llety hwnnw ar ran yr awdurdod cyfrifol (os oes person o’r fath).

(3Pan fo—

(a)gan yr awdurdod cyfrifol bryderon amddiffyn plant sy’n ymwneud ag C, neu hysbysir yr awdurdod ynghylch pryderon o’r fath, neu

(b)C wedi mynd ar goll o’r lleoliad, neu o unrhyw leoliad blaenorol,

y trefniadau beunyddiol a sefydlwyd gan y person priodoli i gadw C yn ddiogel.

(4Hanes personol, argyhoeddiad crefyddol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol, cyfeiriadedd rhywiol a tharddiad hiliol C.

(5Pan fo C yn derbyn gofal ond nid yng ngofal yr awdurdod cyfrifol—

(a)cyfnod parhad disgwyliedig y trefniadau a’r camau y dylid eu cymryd i ddwyn y trefniadau i ben, gan gynnwys trefniadau i C ddychwelyd i fyw gyda rhieni C neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C; a

(b)pan fo C yn 16 oed neu’n hŷn ac yn cytuno i lety gael ei ddarparu iddo o dan adran 76 o Ddeddf 2014, y ffaith honno.

(6Priod gyfrifoldebau’r awdurdod cyfrifol, rhieni C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C.

(7Unrhyw ddirprwyo o ran yr awdurdod i wneud penderfyniadau ynghylch gofal a magwraeth C gan y personau a grybwyllir yn is-baragraff (6) (fel y bo’n briodol) i—

(a)yr awdurdod cyfrifol,

(b)F, ac

(c)pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, y person priodol,

mewn perthynas â’r materion a nodir yn is-baragraff (8), ac yn nodi unrhyw faterion yr mae’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (6), yn ystyried y caiff C wneud penderfyniad yn eu cylch.

(8Y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (7) yw—

(a)triniaeth feddygol a deintyddol,

(b)addysg,

(c)hamdden a bywyd cartref,

(d)ffydd a defodau crefyddol,

(e)defnyddio cyfryngau cymdeithasol,

(f)unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan y personau a grybwyllir yn is-baragraff (6).

(9Trefniadau’r awdurdod cyfrifol ar gyfer cymorth ariannol i C yn ystod y lleoliad.

(10Pan leolir C gydag F, y rhwymedigaeth ar F i gydymffurfio â thelerau’r cytundeb gofal maeth a wnaed o dan reoliad 28(5)(b) o’r Rheoliadau Maethu neu reoliad 27(5)(b) o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011.

Gwybodaeth Cychwyn

I72Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 18

ATODLEN 4LL+CMaterion sydd i’w cymryd i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd P i ofalu am C

1.  Mewn cysylltiad â P—LL+C

(a)gallu P i ofalu am blant ac, yn benodol mewn perthynas ag C, i—

(i)darparu ar gyfer anghenion corfforol C a gofal meddygol a deintyddol priodol,

(ii)amddiffyn C yn ddigonol rhag niwed neu berygl, gan gynnwys rhag unrhyw berson sy’n peri risg o niwed i C,

(iii)sicrhau bod amgylchedd y cartref yn ddiogel ar gyfer C,

(iv)sicrhau y diwellir anghenion emosiynol C, a meithrinir ynddo hunan-ymdeimlad cadarnhaol, gan gynnwys unrhyw anghenion penodol sy’n tarddu o argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol C, ac unrhyw anabledd y gallai fod ganddo,

(v)hyrwyddo dysgu a datblygiad deallusol C drwy annog, symbylu yn wybyddol, a hyrwyddo llwyddiant addysgol a chyfleoedd cymdeithasol,

(vi)galluogi C i reoli ei emosiynau a’i ymddygiad, gan gynnwys drwy fodelu ymddygiad a dulliau priodol o ryngweithio ag eraill, a

(vii)darparu amgylchedd teuluol sefydlog er mwyn galluogi C i ddatblygu a chynnal ymlyniadau diogel gyda P a phersonau eraill sy’n darparu gofal i C;

(b)cyflwr iechyd P gan gynnwys—

(i)iechyd corfforol P,

(ii)iechyd emosiynol P,

(iii)iechyd meddwl P,

(iv)hanes meddygol P,

(v)unrhyw faterion presennol neu o’r gorffennol o ran trais domestig,

(vi)unrhyw faterion presennol neu o’r gorffennol ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau,

a pherthnasedd neu amherthnasedd unrhyw ffactorau o’r fath o ran gallu P i ofalu am blant, a gofalu am C yn benodol;

(c)perthnasoedd teuluol P a chyfansoddiad ei aelwyd, gan gynnwys manylion am—

(i)enwau pob aelod arall o’r aelwyd, gan gynnwys eu hoedrannau a natur eu perthynas â P ac â’i gilydd, gan gynnwys unrhyw berthynas rywiol,

(ii)unrhyw berthynas gydag unrhyw berson sy’n rhiant C (pa un a yw’n byw ar yr un aelwyd â P ai peidio),

(iii)oedolion eraill, nad ydynt yn aelodau o’r aelwyd, sy’n debygol o fod mewn cyswllt rheolaidd ag C, a

(iv)unrhyw drais domestig presennol neu flaenorol rhwng aelodau o’r aelwyd, gan gynnwys P;

(d)hanes teuluol P, gan gynnwys—

(i)manylion am blentyndod a magwraeth P, gan gynnwys cryfderau ac anawsterau rhieni P neu bersonau eraill a fu’n gofalu am P,

(ii)y berthynas rhwng P a’i rieni ac unrhyw frodyr neu chwiorydd, a’u perthynas â’i gilydd,

(iii)cyflawniad addysgol P ac unrhyw anhawster neu anabledd dysgu penodol,

(iv)rhestr gronolegol o ddigwyddiadau bywyd arwyddocaol, a

(v)manylion am berthnasau eraill a’r perthnasoedd rhyngddynt ag C a P;

(e)manylion am unrhyw droseddau y collfarnwyd P amdanynt neu y cafodd P rybuddiad mewn cysylltiad â hwy;

(f)cyflogaeth flaenorol a phresennol P a’i ffynonellau eraill o incwm; ac

(g)natur y gymdogaeth y lleolir cartref P ynddi, a’r adnoddau sydd ar gael yn y gymuned i gynorthwyo C a P.

Gwybodaeth Cychwyn

I73Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  Mewn cysylltiad ag aelodau o’r aelwyd sy’n 18 oed a throsodd, yr holl fanylion i’r graddau y bo’n ymarferol, a bennir ym mharagraff 1 ac eithrio is-baragraffau (d), (f) ac (g).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I74Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 26

ATODLEN 5LL+CMaterion sydd i’w cymryd i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd person cysylltiedig i ofalu am C

1.  Mewn cysylltiad â’r person cysylltiedig—LL+C

(a)natur ac ansawdd unrhyw berthynas gyfredol ag C;

(b)ei allu i ofalu am blant ac, yn benodol mewn perthynas ag C i—

(i)darparu ar gyfer anghenion corfforol ac emosiynol C a sicrhau y caiff C ofal meddygol a deintyddol priodol,

(ii)amddiffyn C yn ddigonol rhag niwed neu berygl, gan gynnwys rhag unrhyw berson sy’n peri risg o niwed i C,

(iii)sicrhau bod y llety a’r amgylchedd cartref yn addas o ystyried oedran a lefel datblygiad C,

(iv)hyrwyddo dysgu a datblygiad C, a

(v)darparu amgylchedd teuluol sefydlog a fydd yn hyrwyddo ymlyniadau diogel ar gyfer C, gan gynnwys hyrwyddo cyswllt cadarnhaol gyda P a phersonau cysylltiedig eraill, oni fyddai gwneud hynny’n anghyson â’r ddyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo llesiant C;

(c)cyflwr ei iechyd, gan gynnwys cyflwr presennol ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol a’i hanes meddygol, gan gynnwys unrhyw faterion presennol neu o’r gorffennol o ran trais domestig, camddefnyddio sylweddau neu broblemau iechyd meddwl;

(d)ei berthnasoedd teuluol a chyfansoddiad ei aelwyd, gan gynnwys manylion o’r canlynol—

(i)enwau pob aelod arall o’r aelwyd, gan gynnwys eu hoedrannau a natur eu perthynas â’r person cysylltiedig ac â’i gilydd, gan gynnwys unrhyw berthynas rywiol,

(ii)unrhyw berthynas gydag unrhyw berson sy’n rhiant C,

(iii)unrhyw berthynas rhwng C ac aelodau eraill o’r aelwyd,

(iv)oedolion eraill, nad ydynt yn aelodau o’r aelwyd, sy’n debygol o fod mewn cyswllt rheolaidd ag C, a

(v)unrhyw drais domestig presennol neu flaenorol rhwng aelodau o’r aelwyd, gan gynnwys y person cysylltiedig;

(e)ei hanes teuluol, gan gynnwys—

(i)manylion am ei blentyndod a’i fagwraeth, gan gynnwys cryfderau ac anawsterau ei rieni a phersonau eraill a fu’n gofalu amdano,

(ii)y perthnasoedd rhyngddo â’i rieni ac unrhyw frodyr neu chwiorydd, a’u perthnasaoedd â’i gilydd,

(iii)ei gyflawniad addysgol ac unrhyw anhawster neu anabledd dysgu penodol,

(iv)rhestr gronolegol o ddigwyddiadau bywyd arwyddocaol, a

(v)manylion am berthnasau eraill a’r perthnasoedd rhyngddynt ag C a’r person cysylltiedig;

(f)manylion am unrhyw droseddau y’i collfarnwyd amdanynt neu y cafodd rybuddiad mewn cysylltiad â hwy;

(g)ei gyflogaeth flaenorol a phresennol a’i ffynonellau eraill o incwm; ac

(h)natur y gymdogaeth y lleolir ei gartref ynddi, a’r adnoddau sydd ar gael yn y gymuned i gynorthwyo C a’r person cysylltiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I75Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  Mewn cysylltiad ag aelodau o’r aelwyd sy’n 18 oed a throsodd, yr holl fanylion i’r graddau y bo’n ymarferol, a bennir ym mharagraff 1 ac eithrio is-baragraffau (e), (f) ac (g).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I76Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 29

ATODLEN 6LL+CCytundeb gydag asiantaeth faethu annibynnol mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau’r awdurdod cyfrifol

1.  Rhaid i’r cytundeb gynnwys yr wybodaeth ganlynol—LL+C

(a)y gwasanaethau sydd i’w darparu i’r awdurdod cyfrifol gan y person cofrestredig,

(b)y trefniadau ar gyfer dethol F gan yr awdurdod cyfrifol o blith y rhai a gymeradwyir gan y person cofrestredig,

(c)gofyniad bod y person cofrestredig yn cyflwyno adroddiadau i’r awdurdod cyfrifol ar unrhyw leoliadau fel y bo’n ofynnol gan yr awdurdod cyfrifol, a

(d)y trefniadau ar gyfer terfynu’r cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I77Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  Pan fo’r cytundeb yn ymwneud â phlentyn penodol, rhaid iddo hefyd gynnwys yr wybodaeth ganlynol—LL+C

(a)manylion F,

(b)manylion am unrhyw wasanaethau y mae C i’w cael, a pha un ai’r awdurdod cyfrifol neu’r person cofrestredig sydd i ddarparu’r gwasanaethau hynny,

(c)telerau’r cytundeb lleoli arfaethedig (gan gynnwys ynglŷn â thalu),

(d)y trefniadau ar gyfer cadw cofnodion ynglŷn ag C ac ar gyfer dychwelyd cofnodion ar ddiwedd y lleoliad,

(e)gofyniad bod y person cofrestredig yn hysbysu’r awdurdod cyfrifol ar unwaith os digwydd unrhyw bryderon ynghylch y lleoliad, ac

(f)pa un a ganiateir lleoli plant eraill gydag F, ac ar ba sail y caniateir hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I78Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 30

ATODLEN 7LL+CMaterion sydd i’w hystyried cyn lleoli C mewn llety mewn lle nas rheoleiddir o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014

1.  Mewn cysylltiad â’r llety—LL+C

(a)y cyfleusterau a’r gwasanaethau a ddarperir,

(b)ei gyflwr,

(c)ei ddiogelwch,

(d)ei leoliad,

(e)y cymorth,

(f)y statws tenantiaeth, ac

(g)yr ymrwymiadau ariannol sy’n gysylltiedig ar gyfer C a’u fforddiadwyedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I79Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  Mewn cysylltiad ag C—LL+C

(a)ei safbwyntiau ynglŷn â’r llety,

(b)ei ddealltwriaeth o’i hawliau a’i gyfrifoldebau mewn perthynas â’r llety, a

(c)ei ddealltwriaeth o’r trefniadau cyllido.

Gwybodaeth Cychwyn

I80Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 41

ATODLEN 8LL+CYstyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C

1.  Effaith unrhyw newid yn amgylchiadau C ers yr adolygiad blaenorol, yn enwedig unrhyw newid yng nghynllun gofal a chymorth C a wnaed gan yr awdurdod cyfrifol, pa un a weithredwyd yn llwyddiannus y penderfyniadau a wnaed yn yr adolygiad blaenorol ai peidio, ac os na, y rhesymau am hynny.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I81Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  A ddylai’r awdurdod cyfrifol geisio unrhyw newid yn statws cyfreithiol C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

3.  A oes cynllun ar gyfer sefydlogrwydd i C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I83Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

4.  Y trefniadau ar gyfer cyswllt, ac a oes angen unrhyw newidiadau yn y trefniadau er mwyn hyrwyddo cyswllt rhwng C a P, neu rhwng C a phersonau cysylltiedig eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

5.  A yw lleoliad C yn parhau i fod y mwyaf addas sydd ar gael, ac a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol, neu’n debygol o fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, gwneud unrhyw newid yn y cynllun lleoli neu mewn unrhyw agweddau eraill ar y trefniadau i ddarparu llety i C cyn yr adolygiad nesaf o achos C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

6.  A yw lleoliad C yn diogelu a hyrwyddo ei lesiant, ac a oes unrhyw bryderon wedi eu codi ynglŷn â diogelu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

7.  Anghenion, cynnydd a datblygiad addysgol C, ac a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol, neu’n debygol o fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, er mwyn diwallu anghenion penodol C a hyrwyddo cyflawniad addysgol C, gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer addysg a hyfforddiant C cyn yr adolygiad nesaf o’i achos, gan ystyried cyngor unrhyw berson sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C, yn enwedig y person dynodedig mewn unrhyw ysgol lle mae C yn ddisgybl cofrestredig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I87Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

8.  Diddordebau hamdden C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I88Atod. 8 para. 8 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

9.  Adroddiad yr asesiad diweddaraf o gyflwr iechyd C, a gafwyd yn unol â rheoliad 7, ac a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol, neu’n debygol o fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer gofal iechyd C cyn yr adolygiad nesaf o’i achos, gan ystyried y cyngor a gafwyd gan unrhyw weithiwr proffesiynol gofal iechyd ers dyddiad yr adroddiad hwnnw, yn enwedig ymarferydd cyffredinol C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I89Atod. 8 para. 9 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

10.  A ddiwellir anghenion C ai peidio mewn perthynas â’i hunaniaeth, ac a oes angen gwneud unrhyw newid penodol gan ystyried argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I90Atod. 8 para. 10 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

11.  A yw’r trefniadau a wnaed yn unol â rheoliad 34 yn parhau i fod yn briodol, ac a yw C yn eu deall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I91Atod. 8 para. 11 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

12.  A oes angen gwneud unrhyw drefniadau ar gyfer yr amser pan na fydd C yn derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I92Atod. 8 para. 12 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

13.  Dymuniadau a theimladau C, a safbwyntiau’r SAA, ynghylch unrhyw agwedd ar yr achos, ac yn benodol unrhyw newidiadau y mae’r awdurdod cyfrifol wedi eu gwneud ers yr adolygiad diwethaf, neu’n bwriadu eu gwneud, yng nghynllun gofal a chymorth C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I93Atod. 8 para. 13 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

14.  Pan fo rheoliad 31(3) yn gymwys, amlder ymweliadau R.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I94Atod. 8 para. 14 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

15.  Pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol, canfod a yw C ac F yn bwriadu gwneud trefniant byw ôl-18.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I95Atod. 8 para. 15 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

16.  Os yw paragraff 15 yn gymwys ac os yw C yn dymuno gwneud trefniant o’r fath ond nid yw F yn dymuno hynny, ystyried a ddylid lleoli C gyda rhiant maeth awdurdod lleol gwahanol, er mwyn hwyluso gwneud trefniant o’r fath pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I96Atod. 8 para. 16 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

17.  Pan fo C yn dod o fewn rheoliad 5(1)(f), pa un a yw anghenion C o ganlyniad i’r statws hwnnw yn cael eu diwallu ai peidio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I97Atod. 8 para. 17 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 51

ATODLEN 9LL+CMaterion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun llwybr

1.  Enw cynghorydd personol C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I98Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  Natur a lefel y cyswllt a’r cymorth personol sydd i’w ddarparu i C, a chan bwy.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I99Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

3.  Manylion am y llety a feddiennir gan C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I100Atod. 9 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

4.  Pan fo C yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18, manylion am y cyngor a’r cymorth a ddarperir gan yr awdurdod cyfrifol i hwyluso a chynorthwyo C wrth wneud trefniant o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I101Atod. 9 para. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

5.  Y cynllun ar gyfer addysg neu hyfforddiant parhaus C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I102Atod. 9 para. 5 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

6.  Y modd y bydd yr awdurdod cyfrifol yn cynorthwyo C i gael cyflogaeth neu weithgaredd pwrpasol arall neu alwedigaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I103Atod. 9 para. 6 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

7.  Y cymorth a ddarperir i alluogi C i ddatblygu a chynnal perthnasoedd teuluol a chymdeithasol priodol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I104Atod. 9 para. 7 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

8.  Rhaglen i ddatblygu’r sgiliau ymarferol a’r sgiliau eraill sydd ar C eu hangen i fyw yn annibynnol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I105Atod. 9 para. 8 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

9.  Y cymorth ariannol a ddarperir i alluogi C i ddiwallu costau llety a chostau cynnal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I106Atod. 9 para. 9 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

10.  Anghenion gofal iechyd C, gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd corfforol, emosiynol neu feddyliol a’r modd y diwellir yr anghenion hyn pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I107Atod. 9 para. 10 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

11.  Cynlluniau wrth gefn yr awdurdod cyfrifol ar gyfer gweithredu os digwydd i’r cynllun llwybr, am unrhyw reswm, beidio â bod yn effeithiol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I108Atod. 9 para. 11 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliadau 5 a 58

ATODLEN 10LL+CMaterion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun lleoli dan gadwad

1.  Sut y gofelir am C o ddydd i ddydd ac y diogelir a hyrwyddir ei lesiant gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol bod C yn preswylio ynddo neu ynddi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I109Atod. 10 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  Unrhyw drefniadau ar gyfer cyswllt rhwng C ac unrhyw riant C neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a rhwng C ac unrhyw berson cysylltiedig arall, gan gynnwys, os yw’n briodol—LL+C

(a)y rhesymau pam na fyddai cyswllt ag unrhyw berson o’r fath yn rhesymol ymarferol neu na fyddai’n gyson â llesiant C,

(b)os nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989,

(c)y trefniadau ar gyfer hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau yn y trefniadau ar gyfer cyswllt.

Gwybodaeth Cychwyn

I110Atod. 10 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

3.  Y trefniadau a wnaed er mwyn i R ymweld ag C yn unol â Rhan 5, amlder y cyfryw ymweliadau a’r trefniadau a wnaed ar gyfer rhoi cyngor a chymorth arall ar gael i C rhwng ymweliadau yn unol â rheoliad 34.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I111Atod. 10 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

4.  Os penodir ymwelydd annibynnol, y trefniadau a wnaed i ymwelydd annibynnol ymweld ag C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I112Atod. 10 para. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

5.  Y trefniadau a wnaed gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer gofal iechyd C (gan gynnwys ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a’i ofal deintyddol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I113Atod. 10 para. 5 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

6.  Y trefniadau a wnaed gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys—LL+C

(a)enw a chyfeiriad unrhyw sefydliad addysgol neu sefydliad hyfforddi a fynychwyd gan C, neu unrhyw berson arall a oedd yn darparu addysg neu hyfforddiant i C yn union cyn rhoi C ar remánd neu dan gadwad,

(b)pan fo gan C ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, manylion yr awdurdod lleol (neu awdurdod lleol yn Lloegr) sy’n cynnal y datganiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I114Atod. 10 para. 6 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

7.  Hanes personol, argyhoeddiad crefyddol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol, cyfeiriadedd rhywiol, a tharddiad hiliol C, a’r trefniant a sefydlwyd gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer diwallu anghenion C ynglŷn â’i hunaniaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I115Atod. 10 para. 7 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

8.  Y trefniadau a sefydlwyd gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer cynorthwyo C i ddatblygu sgiliau hunanofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I116Atod. 10 para. 8 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

9.  Enw a manylion cyswllt—LL+C

(a)yr SAA,

(b)yr ymwelydd annibynnol ar gyfer C (os penodwyd un),

(c)R,

(d)os yw C yn berson ifanc categori 1, y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C.

Gwybodaeth Cychwyn

I117Atod. 10 para. 9 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

10.  Manylion am y modd y dylai llesiant C gael ei ddiogelu’n ddigonol a’i hyrwyddo pan fo C yn peidio â bod ar remand i LlCI neu dan gadwad, ac yn benodol—LL+C

(a)pa un a ddarperir llety i C gan yr awdurdod cyfrifol neu gan awdurdod lleol arall neu gan awdurdod lleol yn Lloegr, a

(b)pa un a ddylai gwasanaethau eraill gael eu darparu gan yr awdurdod cyfrifol neu gan awdurdod lleol arall o dan Ddeddf 2014, neu gan awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer ei ddyletswyddau o dan Ddeddf 1989.

Gwybodaeth Cychwyn

I118Atod. 10 para. 10 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 65

ATODLEN 11LL+CDirymiadau

Gwybodaeth Cychwyn

I119Atod. 11 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Mae’r Rheoliadau a nodir yn y Tabl wedi eu dirymu i’r graddau a bennir—

Rheoliadau a ddirymirRhif cyfresolGraddau’r dirymiad
Rheoliadau Cyswllt â Phlant 1991O.S. 1991/891Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Diffinio Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991O.S. 1991/892Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Lleoli Plant gyda Rhieni etc 1991O.S. 1991/893Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Plant (Lleoliadau Byrdymor) (Diwygiadau Amrywiol) 1995O.S. 1995/2015Y Rheoliadau cyfan *
(* mae rheoliad 2 eisoes wedi ei ddirymu o ran Cymru)

Rhagolygol

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio gofal ar gyfer plant sy’n derbyn gofal (h.y. plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (“ALl”), pa un a ydynt yng ngofal yr ALl yn rhinwedd gorchymyn gofal ai peidio), a materion cysylltiedig.

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan ddarpariaethau yn Rhan 6 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”), sy’n disodli, o ran Cymru, y ddarpariaeth a wnaed yn flaenorol gan Ran 3 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 2 iddi (fel y’i diwygiwyd yn benodol gan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008) (“Deddf 1989”), ac o dan ddarpariaethau yn Rhan 4 o Ddeddf 1989.

Yn rhannol hefyd, maent yn Rheoliadau sy’n cydgrynhoi, ac yn dirymu a disodli darpariaethau mewn Rheoliadau blaenorol (nodir eu manylion yn Atodlen 11) a oedd yn ymdrin â chynllunio gofal, penderfyniadau lleoli ac adolygu achos plentyn sy’n derbyn gofal.

Mae Rhan 2 yn ymdrin â threfniadau’r ALl ar gyfer gofalu am y plentyn. Mae’n pennu erbyn pa bryd y mae’n rhaid paratoi cynllun yr ALl ar gyfer gofal a chymorth i’r plentyn (y cynllun gofal a chymorth) (rheoliad 4), yn pennu cynnwys y cynllun (rheoliad 5) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer diwygio’r cynllun a darparu copïau ohono gan yr ALl (rheoliad 6). Mae’n darparu ar gyfer cynnal asesiad o iechyd y plentyn gan ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig, ac ar gyfer darparu gofal iechyd (rheoliad 7). Mae’n nodi’r camau sydd i’w cymryd pan fo ALl yn gwneud penderfyniad o dan adran 34(6) o Ddeddf 1989 i wrthod caniatáu cyswllt â phlentyn (rheoliadau 8 a 9).

Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynglŷn â lleoliadau. Mae’n cynnwys darpariaethau ynglŷn â’r cynllun lleoli sydd i’w baratoi gan yr ALl (rheoliad 10), camau sydd i’w cymryd i osgoi amharu ar addysg y plentyn o ganlyniad i newid lleoliad (rheoliad 11), darpariaethau arbennig ynghylch lleoli y tu allan i Gymru a thu allan i Gymru a Lloegr (rheoliadau 12 a 13), y personau y mae’n rhaid eu hysbysu ynghylch lleoliad (rheoliad 14) a’r amgylchiadau pan ganiateir terfynu lleoliad (rheoliad 15).

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch mathau penodol o leoliadau, sef gyda’r rhieni (rheoliadau 16 i 21), a chyda rhieni maeth awdurdod lleol (rheoliadau 22 i 26). Mae’n gwneud darpariaeth hefyd ynghylch lleoli plant gyda darpar fabwysiadwyr penodol yn unol ag adran 81(11) o Ddeddf 2014, ac ynghylch cymeradwyo personau o’r fath dros dro fel rhieni maeth awdurdod lleol mewn cysylltiad â phlentyn penodol. Mae’n cynnwys darpariaeth hefyd ynglŷn â threfniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014 (rheoliad 30).

Mae Rhan 5 yn pennu’r trefniadau sydd i’w gwneud er mwyn i gynrychiolydd yr ALl ymweld â phlentyn, amlder, amgylchiadau a chanlyniadau ymweliadau o’r fath (rheoliadau 31 i 33 a 35), a’r cyngor a’r cymorth arall y mae’n rhaid eu rhoi ar gael i’r plentyn rhwng ymweliadau o’r fath (rheoliad 34). Mae Rhan 5 hefyd yn cynnwys manylion yr ystyriaethau y mae’n rhaid i ALl roi sylw iddynt wrth benderfynu a ddylid penodi ymwelydd annibynnol ar gyfer plentyn sy’n derbyn gofal.

Mae Rhan 6 yn cynnwys darpariaethau ynghylch adolygiadau gan yr ALl o achos y plentyn – y cyfrifoldeb cyffredinol am drefnu adolygiadau (rheoliad 38), amseru a chynnal yr adolygiadau, gan gynnwys rôl y swyddog adolygu annibynnol (rheoliadau 39 i 42) a threfniadau ar gyfer cyflawni penderfyniadau a chadw cofnodion o’r adolygiadau (rheoliadau 43 a 44).

Mae Rhan 7 yn nodi trefniadau sydd i’w gwneud gan yr ALl ar gyfer rhoi’r gorau i ofalu am blentyn. Ailddeddfiad yw’r Rhan hon o ddarpariaethau a gynhwysid gynt yn Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 2001, a oedd yn rhagnodi (yn unol â pharagraff 19B o Atodlen 2 i Ddeddf 1989) y meini prawf gofynnol ar gyfer dynodi plentyn yn “eligible child” at ddibenion Deddf 1989. Nid yw Deddf 2014 yn ailddefnyddio’r derminoleg a gynhwysid yn Neddf 1989, ac mae rheoliad 47 o’r Rheoliadau hyn yn pennu’r cyfnod perthnasol a’r oedran yn unol ag adran 104(2) o Ddeddf 2014 er mwyn penderfynu a yw plentyn sy’n derbyn gofal gan ALl yn berson ifanc categori 1 at ddibenion Deddf 2014 ai peidio. Mae’n cynnwys rhwymedigaethau newydd ar ALl i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â gwneud trefniant byw ôl-18, a’r cymorth sydd ar gael i bersonau sy’n dymuno gwneud trefniant o’r fath (yn unol ag adran 108 o Ddeddf 2014).

Mae Rhan 8 yn ymdrin â swyddogaethau ychwanegol, cymwysterau a phrofiad swyddogion adolygu annibynnol (rheoliadau 53 a 54) a’r diffiniad o ymwelydd annibynnol a benodir o dan adran 98 o Ddeddf 2014 (rheoliad 55).

Mae Rhan 9 yn ymdrin â chymhwyso’r Rheoliadau yn ddarostyngedig i addasiadau penodedig, i blant sydd ar remánd i lety awdurdod lleol neu lety cadw ieuenctid, ac i blant sydd yng ngofal awdurdod lleol a dan gadwad mewn carchar neu lety cadw ieuenctid ar ôl eu collfarnu am drosedd, neu y gwneir yn ofynnol eu bod yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd neu fangre benodedig arall.

Mae Rhan 10 yn cynnwys darpariaethau amrywiol gan gynnwys cymhwyso’r Rheoliadau (yn ddarostyngedig i addasiadau) i leoliadau seibiant byr. Mae Rhan 10 hefyd yn cynnwys darpariaeth ynghylch cyfrifoldebau ALl mewn perthynas â chadw cofnodion.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

Gweler adran 197(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (“Deddf 2014”) am y diffiniadau o “penodedig” a “rheoliadau”.

(2)

1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan paragraff 23 o Atodlen 7 ac Atodlen 8 i Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), paragraffau 57 a 71 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), paragraff 56 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), a pharagraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p. 40).

(3)

Diffinnir “awdurdod lleol” ac “awdurdod lleol yn Lloegr”” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014.

(4)

Ar gyfer ystyr plentyn sy’n “derbyn gofal” gweler adran 74 o Ddeddf 2014.

(6)

Hynny yw, llety a ddarperir mewn cartref plant (yn yr ystyr a roddir i “children’s home” gan Ddeddf Safonau Gofal 2000) sydd— (a) yn darparu llety at ddibenion cyfyngu ar ryddid, a (b) y cofrestrir person mewn cysylltiad ag ef o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno.

(8)

Bwrdd iechyd lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42).

(9)

Sefydlwyd Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41) (“Deddf 2006”), fel y’i mewnosodwyd gan adran 9(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7).

(10)

Grŵp comisiynu clinigol yw corff a sefydlwyd o dan adran 14D o Ddeddf 2006. Mewnosodwyd adran 14D gan adran 25(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012. Gweler hefyd adran 1I o Ddeddf 2006, a fewnosodwyd gan adran 10 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012.

(11)

Nodir y diffiniad hwn yn yr un geiriad Saesneg yn union yn Rheoliadau Maethu (Lloegr) 2011 (O.S. 2011/581) mewn cysylltiad â rhieni maeth awdurdod lleol a gymeradwywyd yn Lloegr.

(17)

Diffinnir “rhiant maeth awdurdod lleol” at ddibenion Deddf 2014 yn adran 197(1) o’r Ddeddf honno.

(18)

O.S. 2002/327 (Cy. 40); mewnosodwyd y gofyniad i benodi “gweithiwr dolen gyswllt” yn rheoliad 11 gan Reoliadau Cartrefi Plant (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2007 (O.S. 2007/311 (Cy. 28)).

(19)

Roedd adran 12 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) yn diddymu’r diffiniadau o “residence order” a “contact order” yn adran 8(1) o Ddeddf 1989 ac yn eu disodli gan orchymyn newydd, sef “child arrangements order”.

(20)

Mae unrhyw gyfeiriad at blentyn sydd yng ngofal awdurdod yn gyfeiriad at blentyn sydd yng ngofal yr awdurdod yn rhinwedd gorchymyn gofal, gweler adran 105(1) o Ddeddf 1989.

(21)

Diffinnir “perthynas” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014.

(23)

Hynny yw, ar remánd i lety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol yn unol ag adran 92 o Ddeddf 2012.

(26)

Mewnosodwyd adran 43(1)(aa) gan adran 170 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33) a pharagraff 11 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno, a chan adran 148(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4) a pharagraff 3 o Atodlen 26 i’r Ddeddf honno.

(28)

Amnewidiwyd y diffiniad o “registered medical practitioner” yn Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) gan baragraff 10 o Atodlen 1 i O.S. 2002/3135, gydag effaith o 10 Tachwedd 2009 ymlaen.

(29)

2006 p. 42 (“Deddf 2006”). Caniateir darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol naill ai o dan “general medical services contract” yn unol ag adran 42 o Ddeddf 2006, neu yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 41(2)(a) o Ddeddf 2006 (Gwasanaethau Meddygol Bwrdd Iechyd Lleol) neu drefniadau o dan adran 41(2)(b) o Ddeddf 2006 (Gwasanaethau Meddygol Darparwr Amgen).

(31)

2006 p. 42 (“Deddf 2006”). Caniateir darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan “general medical services contract” yn unol ag adran 42 o Ddeddf 2006, neu yn unol â threfniadau a wneir o dan adran 41(2)(a) o Ddeddf 2006 (Gwasanaethau Meddygol Bwrdd Iechyd Lleol) neu drefniadau o dan adran 41(2)(b) o Ddeddf 2006 (Gwasanaethau Meddygol Darparwr Amgen).

(32)

Diffinnir “carchar”, “llety cadw ieuenctid”, “mangre a gymeradwywyd”, a “mechnïaeth mewn achos troseddol” yn adran 188(1) o Ddeddf 2014.

(34)

Mae hyn yn cynnwys cynllun a baratoir o dan adran 31A o Ddeddf 1989.

(35)

Yn achos plentyn y mae adran 31A yn gymwys iddo, bydd y llys yn gosod amserlen, y bydd rhaid paratoi’r cynllun gofal oddi mewn iddi.

(37)

Diffinnir “niwed” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014.

(38)

Diwygiwyd adran 34(1) o Ddeddf 1989 gan adran 139(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p. 38) a pharagraffau 54 a 59 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno.

(39)

Diffinnir “yng nghyfnod allweddol pedwar” yn adran 91(2) o Ddeddf 2014.

(40)

Y “person dynodedig” yn achos ysgol a gynhelir yw’r aelod o’r staff a ddynodir gan y corff llywodraethu yn unol ag adran 20(1) o Ddeddf 2008, ac yn yr achos hwnnw ystyr “ysgol” yw’r ystyr a roddir i “school” yn adran 434(5) o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

(42)

Hynny yw, sefydliad addysgol, y tu allan i’r sectorau addysg bellach ac uwch, ar gyfer darparu addysg gynradd a/neu addysg uwchradd.

(43)

Mae adran 124 o Ddeddf 2014 yn ei gwneud yn ofynnol cael caniatâd y llys mewn achosion o’r fath.

(44)

Diffinnir “perthynas” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014.

(45)

Sefydlwyd Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 (p. 41) (“Deddf 2006”), fel y’i mewnosodwyd gan adran 9(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7) (“Deddf 2012”).

(46)

Grŵp comisiynu clinigol yw corff a sefydlwyd o dan adran 14D o Ddeddf 2006. Mewnosodwyd adran 14D gan adran 25(1) o Ddeddf 2012. Gweler hefyd adran 1I o Ddeddf 2006, a fewnosodir gan adran 10 o Ddeddf 2012.

(47)

Mae Atodlen 4 yn cynnwys darpariaeth sy’n pennu’r materion y mae’n rhaid i awdurdod cyfrifol eu cymryd i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd P i ofalu am C.

(49)

Diffinnir “darparydd cofrestredig” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Maethu (ac yn yr union eiriau yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethu Maethu (Lloegr) 2011 (O.S. 2011/581).

(50)

Diffinnir “rhiant maeth awdurdod lleol” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014 fel (a) rhiant maeth awdurdod lleol yn Lloegr a gymeradwywyd yn unol â rheoliadau a wnaed yn rhinwedd paragraff 12F o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 (rheoliadau yn darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleol yn Lloegr); (b) rhiant maeth awdurdod lleol yng Nghymru a gymeradwywyd yn unol â rheoliadau a wnaed yn rhinwedd adran 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleol yng Nghymru).

(51)

Mae adran 92 (rheoliadau ynghylch lleoli plant gyda rhieni maeth awdurdod lleol a darpar fabwysiadwyr) ac adran 93 (rheoliadau sy’n darparu ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdod lleol) o Ddeddf 2014 yn darparu enghreifftiau o’r modd y caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 87 o’r Ddeddf honno.

(53)

Mewnosodwyd adran 30A gan adran 29 o Ddeddf 2008.

(55)

Diffinnir “person ifanc categori 1” yn adran 104(2) o Ddeddf 2014.

(56)

Diffinnir “trefniant byw ôl-18” yn adran 108(3) o Ddeddf 2014. Mae dyletswydd ar yr awdurdod cyfrifol i ganfod a yw unrhyw C, sy’n berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gydag F, yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18 ar ôl i’r gofal a ddarparwyd iddo ddod i ben (gweler adran 108(2) o Ddeddf 2014), ac i hwyluso trefniant o’r fath os yw o’r farn y byddai gwneud hynny’n gyson â llesiant C (gweler adran 108(4) a (5) o’r Ddeddf honno).

(57)

Mae adran 108(2) o Ddeddf 2014 yn gwneud yn ofynnol fod yr awdurdod cyfrifol yn canfod a yw C ac F yn dymuno gwneud trefniadau byw ôl-18 pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.

(58)

Diffinnir “cyn-riant maeth” yn adran 108(3) o Ddeddf 2014 .

(59)

Diffinnir “swyddog achosion teuluol Cymru” yn adran 197(1) o Ddeddf 2014 fel ymadrodd sydd â’r ystyr a roddir i “Welsh family proceedings officer” gan adran 35 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31).

(61)

2004 p. 31. Diwygiwyd adran 25 gan adran 39 o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p. 21) (“Deddf 2007”) a pharagraffau 4(1) a 5 o Ran 1 o Atodlen 3 iddi. Diwygiwyd adran 28 gan adran 39 o Ddeddf 2007 a pharagraffau 4(1) a 6 o Ran 1 o Atodlen 3 iddi. Diwygiwyd adran 29 gan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p. 43) a pharagraffau 264 a 267 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

(64)

Gweler rheoliad 2(2) am ddiffiniad o “dan gadwad”.

(65)

Gweler rheoliadau 5 a 10 am y ddarpariaeth ynglŷn â’r cynllun lleoli, sy’n ffurfio rhan o gynllun gofal a chymorth C ac yn nodi manylion y trefniadau ar gyfer y lleoliad a’r llety sydd i’w darparu ar gyfer C.

(66)

Diffinnir “anabl” ac “anabledd” yn unol ag adran 3 o Ddeddf 2014.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill