Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Rhagolygol

YR ATODLENNI

Y Rhaglith

ATODLEN 1LL+CDarpariaethau sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru a arferir wrth wneud y Rheoliadau hyn

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Y deddfiad sy’n rhoi pŵer
Deddf 2014Adrannau 81(6)(d), 83(5) 84, 87, 97(4)(a), 97(5), 98(1)(a), 100(1)(b), 100(2)(a), 102(1), 102(2), 104(2)(c), 104(6), 106(4), 107(7)(c), 107(8), 107(9), 108(6), a 196(2)
Deddf Plant 1989Adrannau 31A a 34(8).

Rheoliad 5

ATODLEN 2LL+CCynlluniau gofal a chymorth

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun iechydLL+C

1.—(1Cyflwr iechyd C gan gynnwys ei iechyd corfforol, geneuol, emosiynol a meddyliol.

(2Hanes iechyd C gan gynnwys, i’r graddau sy’n ymarferol, hanes iechyd teulu C.

(3Effaith iechyd a hanes iechyd C ar ei ddatblygiad.

(4Y trefniadau presennol ar gyfer gofal meddygol a deintyddol C, sy’n briodol i’w anghenion, gan gynnwys—

(a)gwiriadau rheolaidd o gyflwr iechyd cyffredinol C, gan gynnwys iechyd deintyddol;

(b)triniaeth a monitro ar gyfer anghenion iechyd a nodir (gan gynnwys iechyd corfforol ac emosiynol, ac yn enwedig iechyd meddwl) neu anghenion gofal deintyddol;

(c)mesurau ataliol megis brechiadau ac imiwneiddio;

(d)sgrinio am ddiffygion golwg neu glyw; ac

(e)cyngor a chanllawiau ar hybu iechyd a gofal personol effeithiol (gan gynnwys iechyd meddwl a gofal geneuol).

(5Unrhyw newidiadau arfaethedig yn y trefniadau presennol.

(6Rôl y person priodol ac unrhyw berson arall sy’n gofalu am C, mewn hyrwyddo iechyd C.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun addysg personolLL+C

2.—(1Hanes addysgol a hanes hyfforddiant C, gan gynnwys gwybodaeth am sefydliadau addysgol a fynychwyd, a chofnod presenoldeb ac ymddygiad C, ei gyflawniadau academaidd a chyflawniadau eraill; ac anghenion addysgol arbennig C, os oes rhai.

(2Y trefniadau presennol ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys manylion am unrhyw ddarpariaeth addysgol arbennig, ac unrhyw ddarpariaeth arall a wneir i ddiwallu anghenion penodol C o ran addysg neu hyfforddiant, a hyrwyddo ei gyflawniad addysgol.

(3Diddordebau hamdden C.

(4Pan fo angen gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer addysg neu hyfforddiant C, y ddarpariaeth a wnaed i leihau’r amharu ar yr addysg honno neu’r hyfforddiant hwnnw.

(5Rôl y person priodol ac unrhyw berson arall sy’n gofalu am C o ran hyrwyddo cyflawniadau addysgol C a’i ddiddordebau hamdden.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Perthnasoedd teuluol a chymdeithasolLL+C

3.—(1Os oes gan C frawd neu chwaer y darperir llety ar ei gyfer neu ar ei chyfer gan yr awdurdod cyfrifol neu awdurdod arall, ac nad yw’r plant wedi eu lleoli gyda’i gilydd, y trefniadau a wnaed i hyrwyddo cyswllt rhyngddynt, i’r graddau y mae hynny’n gyson â llesiant C.

(2Os yw C yn derbyn gofal gan, ond nid yng ngofal, yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989.

(3Os yw C yn blentyn yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal).

(4Unrhyw drefniadau eraill a wnaed i hyrwyddo a chynnal cyswllt yn unol ag adran 95 o Ddeddf 2014, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol ac yn gyson â llesiant C, rhwng C ac—

(a)unrhyw riant C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C; a

(b)unrhyw berson cysylltiedig arall.

(5Pan fo adran 98(1) o Ddeddf 2014 (ymwelwyr annibynnol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal) yn gymwys, y trefniadau a wnaed i benodi ymwelydd annibynnol ar gyfer C neu, os yw adran 98(6) o’r Ddeddf honno’n gymwys (ymwelydd annibynnol heb ei benodi pan fo’r plentyn yn gwrthwynebu), y ffaith honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 10

ATODLEN 3LL+CMaterion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun lleoli

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yng nghynllun lleoli CLL+C

1.—(1Sut y gofelir am C o ddydd i ddydd ac y diogelir a hyrwyddir llesiant C gan y person priodol.

(2Unrhyw drefniadau a wnaed ar gyfer cyswllt rhwng C ac unrhyw riant C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a rhwng C a phersonau cysylltiedig eraill gan gynnwys, os yw’n briodol—

(a)y rhesymau pam na fyddai cyswllt ag unrhyw berson o’r fath yn rhesymol ymarferol neu na fyddai’n gyson â llesiant C,

(b)os nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989,

(c)os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn mewn perthynas ag C a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf 1989,

(d)y trefniadau a wnaed ar gyfer hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau yn y trefniadau ar gyfer cyswllt.

(3Y trefniadau a wnaed ar gyfer gofal iechyd (gan gynnwys iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a deintyddol C, gan gynnwys—

(a)enw a chyfeiriad ymarferydd cyffredinol ac ymarferydd deintyddol cofrestredig C, ac os yw’n gymwys, unrhyw ymarferydd cyffredinol neu ymarferydd deintyddol cofrestredig y bwriedir cofrestru C gydag ef ar ôl ei leoli,

(b)unrhyw drefniadau ar gyfer rhoi neu atal cydsyniad ar gyfer archwiliad neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol i C.

(4Y trefniadau a wnaed ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys—

(a)enw a chyfeiriad unrhyw ysgol y mae C yn ddisgybl cofrestredig ynddi,

(b)enw’r person dynodedig ar gyfer disgyblion sy’n derbyn gofal yn yr ysgol honno (os yw’n gymwys); enw a chyfeiriad unrhyw sefydliad addysgol arall a fynychir gan C, neu unrhyw berson arall sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C,

(c)pan fo gan C ddatganiad anghenion addysgol arbennig, manylion am yr awdurdod addysg lleol sy’n cynnal y datganiad.

(5Y trefniadau a wnaed i R ymweld ag C yn unol â Rhan 5, amlder yr ymweliadau a’r trefniadau a wnaed i roi cyngor a chymorth arall ar gael i C rhwng ymweliadau yn unol â rheoliad 34.

(6Os penodir ymwelydd annibynnol, y trefniadau a wnaed i’r person hwnnw ymweld ag C.

(7Yr amgylchiadau pan ganiateir terfynu’r lleoliad a symud C ymaith o ofal y person priodol yn unol â rheoliad 15.

(8Enw a manylion cyswllt y canlynol—

(a)yr SAA;

(b)ymwelydd annibynnol C (os penodwyd un);

(c)R; a

(d)os yw C yn berson ifanc categori 1, y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth ychwanegol sydd i’w chynnwys pan leolir C gyda PLL+C

2.—(1Cofnod o’r canlynol—

(a)yr asesiad o addasrwydd P i ofalu am C, gan gynnwys ystyriaeth o’r materion a nodir yn Atodlen 4,

(b)safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C a safbwyntiau, dymuniadau a theimladau unrhyw berson arall y ceisir ei safbwyntiau gan yr awdurdod cyfrifol,

(c)penderfyniad yr awdurdod cyfrifol i leoli C gyda P.

(2Manylion am y cymorth a’r gwasanaethau sydd i’w darparu i P yn ystod y lleoliad.

(3Y rhwymedigaeth ar P i hysbysu’r awdurdod cyfrifol ynghylch unrhyw newid perthnasol yn yr amgylchiadau, gan gynnwys unrhyw fwriad i newid cyfeiriad, unrhyw newid ar yr aelwyd lle y mae C yn byw, ac unrhyw ddigwyddiad difrifol sy’n ymwneud ag C.

(4Y rhwymedigaeth ar P i sicrhau bod unrhyw wybodaeth mewn perthynas ag C neu mewn perthynas â theulu C neu unrhyw berson arall, a roddir yn gyfrinachol i P mewn cysylltiad â’r lleoliad, yn cael ei chadw’n gyfrinachol, ac na chaiff gwybodaeth o’r fath ei datgelu i unrhyw berson heb gydsyniad yr awdurdod cyfrifol.

(5Yr amgylchiadau pan fydd angen cael caniatâd yr awdurdod cyfrifol ymlaen llaw er mwyn i C fyw ar aelwyd ac eithrio aelwyd P.

(6Y trefniadau ar gyfer gofyn am newid yn y cynllun lleoli.

(7Yr amgylchiadau pan gaiff y lleoliad ei derfynu yn unol â rheoliad 20(c)(ii).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Gwybodaeth ychwanegol sydd i’w chynnwys pan leolir C gydag F, mewn cartref plant neu mewn trefniadau eraillLL+C

3.—(1Cofnod o benderfyniad yr awdurdod cyfrifol o dan reoliad 23(2).

(2Y math o lety sydd i’w ddarparu, y cyfeiriad, ac, os lleolir C mewn trefniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014, enw’r person a fydd yn gyfrifol am C yn y llety hwnnw ar ran yr awdurdod cyfrifol (os oes person o’r fath).

(3Pan fo—

(a)gan yr awdurdod cyfrifol bryderon amddiffyn plant sy’n ymwneud ag C, neu hysbysir yr awdurdod ynghylch pryderon o’r fath, neu

(b)C wedi mynd ar goll o’r lleoliad, neu o unrhyw leoliad blaenorol,

y trefniadau beunyddiol a sefydlwyd gan y person priodoli i gadw C yn ddiogel.

(4Hanes personol, argyhoeddiad crefyddol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol, cyfeiriadedd rhywiol a tharddiad hiliol C.

(5Pan fo C yn derbyn gofal ond nid yng ngofal yr awdurdod cyfrifol—

(a)cyfnod parhad disgwyliedig y trefniadau a’r camau y dylid eu cymryd i ddwyn y trefniadau i ben, gan gynnwys trefniadau i C ddychwelyd i fyw gyda rhieni C neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C; a

(b)pan fo C yn 16 oed neu’n hŷn ac yn cytuno i lety gael ei ddarparu iddo o dan adran 76 o Ddeddf 2014, y ffaith honno.

(6Priod gyfrifoldebau’r awdurdod cyfrifol, rhieni C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C.

(7Unrhyw ddirprwyo o ran yr awdurdod i wneud penderfyniadau ynghylch gofal a magwraeth C gan y personau a grybwyllir yn is-baragraff (6) (fel y bo’n briodol) i—

(a)yr awdurdod cyfrifol,

(b)F, ac

(c)pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, y person priodol,

mewn perthynas â’r materion a nodir yn is-baragraff (8), ac yn nodi unrhyw faterion yr mae’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (6), yn ystyried y caiff C wneud penderfyniad yn eu cylch.

(8Y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (7) yw—

(a)triniaeth feddygol a deintyddol,

(b)addysg,

(c)hamdden a bywyd cartref,

(d)ffydd a defodau crefyddol,

(e)defnyddio cyfryngau cymdeithasol,

(f)unrhyw faterion eraill a ystyrir yn briodol gan y personau a grybwyllir yn is-baragraff (6).

(9Trefniadau’r awdurdod cyfrifol ar gyfer cymorth ariannol i C yn ystod y lleoliad.

(10Pan leolir C gydag F, y rhwymedigaeth ar F i gydymffurfio â thelerau’r cytundeb gofal maeth a wnaed o dan reoliad 28(5)(b) o’r Rheoliadau Maethu neu reoliad 27(5)(b) o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 18

ATODLEN 4LL+CMaterion sydd i’w cymryd i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd P i ofalu am C

1.  Mewn cysylltiad â P—LL+C

(a)gallu P i ofalu am blant ac, yn benodol mewn perthynas ag C, i—

(i)darparu ar gyfer anghenion corfforol C a gofal meddygol a deintyddol priodol,

(ii)amddiffyn C yn ddigonol rhag niwed neu berygl, gan gynnwys rhag unrhyw berson sy’n peri risg o niwed i C,

(iii)sicrhau bod amgylchedd y cartref yn ddiogel ar gyfer C,

(iv)sicrhau y diwellir anghenion emosiynol C, a meithrinir ynddo hunan-ymdeimlad cadarnhaol, gan gynnwys unrhyw anghenion penodol sy’n tarddu o argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol C, ac unrhyw anabledd y gallai fod ganddo,

(v)hyrwyddo dysgu a datblygiad deallusol C drwy annog, symbylu yn wybyddol, a hyrwyddo llwyddiant addysgol a chyfleoedd cymdeithasol,

(vi)galluogi C i reoli ei emosiynau a’i ymddygiad, gan gynnwys drwy fodelu ymddygiad a dulliau priodol o ryngweithio ag eraill, a

(vii)darparu amgylchedd teuluol sefydlog er mwyn galluogi C i ddatblygu a chynnal ymlyniadau diogel gyda P a phersonau eraill sy’n darparu gofal i C;

(b)cyflwr iechyd P gan gynnwys—

(i)iechyd corfforol P,

(ii)iechyd emosiynol P,

(iii)iechyd meddwl P,

(iv)hanes meddygol P,

(v)unrhyw faterion presennol neu o’r gorffennol o ran trais domestig,

(vi)unrhyw faterion presennol neu o’r gorffennol ynglŷn â chamddefnyddio sylweddau,

a pherthnasedd neu amherthnasedd unrhyw ffactorau o’r fath o ran gallu P i ofalu am blant, a gofalu am C yn benodol;

(c)perthnasoedd teuluol P a chyfansoddiad ei aelwyd, gan gynnwys manylion am—

(i)enwau pob aelod arall o’r aelwyd, gan gynnwys eu hoedrannau a natur eu perthynas â P ac â’i gilydd, gan gynnwys unrhyw berthynas rywiol,

(ii)unrhyw berthynas gydag unrhyw berson sy’n rhiant C (pa un a yw’n byw ar yr un aelwyd â P ai peidio),

(iii)oedolion eraill, nad ydynt yn aelodau o’r aelwyd, sy’n debygol o fod mewn cyswllt rheolaidd ag C, a

(iv)unrhyw drais domestig presennol neu flaenorol rhwng aelodau o’r aelwyd, gan gynnwys P;

(d)hanes teuluol P, gan gynnwys—

(i)manylion am blentyndod a magwraeth P, gan gynnwys cryfderau ac anawsterau rhieni P neu bersonau eraill a fu’n gofalu am P,

(ii)y berthynas rhwng P a’i rieni ac unrhyw frodyr neu chwiorydd, a’u perthynas â’i gilydd,

(iii)cyflawniad addysgol P ac unrhyw anhawster neu anabledd dysgu penodol,

(iv)rhestr gronolegol o ddigwyddiadau bywyd arwyddocaol, a

(v)manylion am berthnasau eraill a’r perthnasoedd rhyngddynt ag C a P;

(e)manylion am unrhyw droseddau y collfarnwyd P amdanynt neu y cafodd P rybuddiad mewn cysylltiad â hwy;

(f)cyflogaeth flaenorol a phresennol P a’i ffynonellau eraill o incwm; ac

(g)natur y gymdogaeth y lleolir cartref P ynddi, a’r adnoddau sydd ar gael yn y gymuned i gynorthwyo C a P.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  Mewn cysylltiad ag aelodau o’r aelwyd sy’n 18 oed a throsodd, yr holl fanylion i’r graddau y bo’n ymarferol, a bennir ym mharagraff 1 ac eithrio is-baragraffau (d), (f) ac (g).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 26

ATODLEN 5LL+CMaterion sydd i’w cymryd i ystyriaeth wrth asesu addasrwydd person cysylltiedig i ofalu am C

1.  Mewn cysylltiad â’r person cysylltiedig—LL+C

(a)natur ac ansawdd unrhyw berthynas gyfredol ag C;

(b)ei allu i ofalu am blant ac, yn benodol mewn perthynas ag C i—

(i)darparu ar gyfer anghenion corfforol ac emosiynol C a sicrhau y caiff C ofal meddygol a deintyddol priodol,

(ii)amddiffyn C yn ddigonol rhag niwed neu berygl, gan gynnwys rhag unrhyw berson sy’n peri risg o niwed i C,

(iii)sicrhau bod y llety a’r amgylchedd cartref yn addas o ystyried oedran a lefel datblygiad C,

(iv)hyrwyddo dysgu a datblygiad C, a

(v)darparu amgylchedd teuluol sefydlog a fydd yn hyrwyddo ymlyniadau diogel ar gyfer C, gan gynnwys hyrwyddo cyswllt cadarnhaol gyda P a phersonau cysylltiedig eraill, oni fyddai gwneud hynny’n anghyson â’r ddyletswydd i ddiogelu a hyrwyddo llesiant C;

(c)cyflwr ei iechyd, gan gynnwys cyflwr presennol ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol a’i hanes meddygol, gan gynnwys unrhyw faterion presennol neu o’r gorffennol o ran trais domestig, camddefnyddio sylweddau neu broblemau iechyd meddwl;

(d)ei berthnasoedd teuluol a chyfansoddiad ei aelwyd, gan gynnwys manylion o’r canlynol—

(i)enwau pob aelod arall o’r aelwyd, gan gynnwys eu hoedrannau a natur eu perthynas â’r person cysylltiedig ac â’i gilydd, gan gynnwys unrhyw berthynas rywiol,

(ii)unrhyw berthynas gydag unrhyw berson sy’n rhiant C,

(iii)unrhyw berthynas rhwng C ac aelodau eraill o’r aelwyd,

(iv)oedolion eraill, nad ydynt yn aelodau o’r aelwyd, sy’n debygol o fod mewn cyswllt rheolaidd ag C, a

(v)unrhyw drais domestig presennol neu flaenorol rhwng aelodau o’r aelwyd, gan gynnwys y person cysylltiedig;

(e)ei hanes teuluol, gan gynnwys—

(i)manylion am ei blentyndod a’i fagwraeth, gan gynnwys cryfderau ac anawsterau ei rieni a phersonau eraill a fu’n gofalu amdano,

(ii)y perthnasoedd rhyngddo â’i rieni ac unrhyw frodyr neu chwiorydd, a’u perthnasaoedd â’i gilydd,

(iii)ei gyflawniad addysgol ac unrhyw anhawster neu anabledd dysgu penodol,

(iv)rhestr gronolegol o ddigwyddiadau bywyd arwyddocaol, a

(v)manylion am berthnasau eraill a’r perthnasoedd rhyngddynt ag C a’r person cysylltiedig;

(f)manylion am unrhyw droseddau y’i collfarnwyd amdanynt neu y cafodd rybuddiad mewn cysylltiad â hwy;

(g)ei gyflogaeth flaenorol a phresennol a’i ffynonellau eraill o incwm; ac

(h)natur y gymdogaeth y lleolir ei gartref ynddi, a’r adnoddau sydd ar gael yn y gymuned i gynorthwyo C a’r person cysylltiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  Mewn cysylltiad ag aelodau o’r aelwyd sy’n 18 oed a throsodd, yr holl fanylion i’r graddau y bo’n ymarferol, a bennir ym mharagraff 1 ac eithrio is-baragraffau (e), (f) ac (g).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 29

ATODLEN 6LL+CCytundeb gydag asiantaeth faethu annibynnol mewn perthynas â chyflawni swyddogaethau’r awdurdod cyfrifol

1.  Rhaid i’r cytundeb gynnwys yr wybodaeth ganlynol—LL+C

(a)y gwasanaethau sydd i’w darparu i’r awdurdod cyfrifol gan y person cofrestredig,

(b)y trefniadau ar gyfer dethol F gan yr awdurdod cyfrifol o blith y rhai a gymeradwyir gan y person cofrestredig,

(c)gofyniad bod y person cofrestredig yn cyflwyno adroddiadau i’r awdurdod cyfrifol ar unrhyw leoliadau fel y bo’n ofynnol gan yr awdurdod cyfrifol, a

(d)y trefniadau ar gyfer terfynu’r cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  Pan fo’r cytundeb yn ymwneud â phlentyn penodol, rhaid iddo hefyd gynnwys yr wybodaeth ganlynol—LL+C

(a)manylion F,

(b)manylion am unrhyw wasanaethau y mae C i’w cael, a pha un ai’r awdurdod cyfrifol neu’r person cofrestredig sydd i ddarparu’r gwasanaethau hynny,

(c)telerau’r cytundeb lleoli arfaethedig (gan gynnwys ynglŷn â thalu),

(d)y trefniadau ar gyfer cadw cofnodion ynglŷn ag C ac ar gyfer dychwelyd cofnodion ar ddiwedd y lleoliad,

(e)gofyniad bod y person cofrestredig yn hysbysu’r awdurdod cyfrifol ar unwaith os digwydd unrhyw bryderon ynghylch y lleoliad, ac

(f)pa un a ganiateir lleoli plant eraill gydag F, ac ar ba sail y caniateir hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 30

ATODLEN 7LL+CMaterion sydd i’w hystyried cyn lleoli C mewn llety mewn lle nas rheoleiddir o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014

1.  Mewn cysylltiad â’r llety—LL+C

(a)y cyfleusterau a’r gwasanaethau a ddarperir,

(b)ei gyflwr,

(c)ei ddiogelwch,

(d)ei leoliad,

(e)y cymorth,

(f)y statws tenantiaeth, ac

(g)yr ymrwymiadau ariannol sy’n gysylltiedig ar gyfer C a’u fforddiadwyedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  Mewn cysylltiad ag C—LL+C

(a)ei safbwyntiau ynglŷn â’r llety,

(b)ei ddealltwriaeth o’i hawliau a’i gyfrifoldebau mewn perthynas â’r llety, a

(c)ei ddealltwriaeth o’r trefniadau cyllido.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 41

ATODLEN 8LL+CYstyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C

1.  Effaith unrhyw newid yn amgylchiadau C ers yr adolygiad blaenorol, yn enwedig unrhyw newid yng nghynllun gofal a chymorth C a wnaed gan yr awdurdod cyfrifol, pa un a weithredwyd yn llwyddiannus y penderfyniadau a wnaed yn yr adolygiad blaenorol ai peidio, ac os na, y rhesymau am hynny.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  A ddylai’r awdurdod cyfrifol geisio unrhyw newid yn statws cyfreithiol C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

3.  A oes cynllun ar gyfer sefydlogrwydd i C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

4.  Y trefniadau ar gyfer cyswllt, ac a oes angen unrhyw newidiadau yn y trefniadau er mwyn hyrwyddo cyswllt rhwng C a P, neu rhwng C a phersonau cysylltiedig eraill.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

5.  A yw lleoliad C yn parhau i fod y mwyaf addas sydd ar gael, ac a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol, neu’n debygol o fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, gwneud unrhyw newid yn y cynllun lleoli neu mewn unrhyw agweddau eraill ar y trefniadau i ddarparu llety i C cyn yr adolygiad nesaf o achos C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

6.  A yw lleoliad C yn diogelu a hyrwyddo ei lesiant, ac a oes unrhyw bryderon wedi eu codi ynglŷn â diogelu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

7.  Anghenion, cynnydd a datblygiad addysgol C, ac a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol, neu’n debygol o fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, er mwyn diwallu anghenion penodol C a hyrwyddo cyflawniad addysgol C, gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer addysg a hyfforddiant C cyn yr adolygiad nesaf o’i achos, gan ystyried cyngor unrhyw berson sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C, yn enwedig y person dynodedig mewn unrhyw ysgol lle mae C yn ddisgybl cofrestredig.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

8.  Diddordebau hamdden C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 8 para. 8 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

9.  Adroddiad yr asesiad diweddaraf o gyflwr iechyd C, a gafwyd yn unol â rheoliad 7, ac a yw’n angenrheidiol neu’n ddymunol, neu’n debygol o fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol, gwneud unrhyw newid yn y trefniadau ar gyfer gofal iechyd C cyn yr adolygiad nesaf o’i achos, gan ystyried y cyngor a gafwyd gan unrhyw weithiwr proffesiynol gofal iechyd ers dyddiad yr adroddiad hwnnw, yn enwedig ymarferydd cyffredinol C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 8 para. 9 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

10.  A ddiwellir anghenion C ai peidio mewn perthynas â’i hunaniaeth, ac a oes angen gwneud unrhyw newid penodol gan ystyried argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 8 para. 10 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

11.  A yw’r trefniadau a wnaed yn unol â rheoliad 34 yn parhau i fod yn briodol, ac a yw C yn eu deall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 8 para. 11 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

12.  A oes angen gwneud unrhyw drefniadau ar gyfer yr amser pan na fydd C yn derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 8 para. 12 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

13.  Dymuniadau a theimladau C, a safbwyntiau’r SAA, ynghylch unrhyw agwedd ar yr achos, ac yn benodol unrhyw newidiadau y mae’r awdurdod cyfrifol wedi eu gwneud ers yr adolygiad diwethaf, neu’n bwriadu eu gwneud, yng nghynllun gofal a chymorth C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 8 para. 13 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

14.  Pan fo rheoliad 31(3) yn gymwys, amlder ymweliadau R.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 8 para. 14 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

15.  Pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol, canfod a yw C ac F yn bwriadu gwneud trefniant byw ôl-18.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 8 para. 15 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

16.  Os yw paragraff 15 yn gymwys ac os yw C yn dymuno gwneud trefniant o’r fath ond nid yw F yn dymuno hynny, ystyried a ddylid lleoli C gyda rhiant maeth awdurdod lleol gwahanol, er mwyn hwyluso gwneud trefniant o’r fath pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 8 para. 16 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

17.  Pan fo C yn dod o fewn rheoliad 5(1)(f), pa un a yw anghenion C o ganlyniad i’r statws hwnnw yn cael eu diwallu ai peidio.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 8 para. 17 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 51

ATODLEN 9LL+CMaterion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun llwybr

1.  Enw cynghorydd personol C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  Natur a lefel y cyswllt a’r cymorth personol sydd i’w ddarparu i C, a chan bwy.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

3.  Manylion am y llety a feddiennir gan C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 9 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

4.  Pan fo C yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-18, manylion am y cyngor a’r cymorth a ddarperir gan yr awdurdod cyfrifol i hwyluso a chynorthwyo C wrth wneud trefniant o’r fath.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 9 para. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

5.  Y cynllun ar gyfer addysg neu hyfforddiant parhaus C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 9 para. 5 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

6.  Y modd y bydd yr awdurdod cyfrifol yn cynorthwyo C i gael cyflogaeth neu weithgaredd pwrpasol arall neu alwedigaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 9 para. 6 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

7.  Y cymorth a ddarperir i alluogi C i ddatblygu a chynnal perthnasoedd teuluol a chymdeithasol priodol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 9 para. 7 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

8.  Rhaglen i ddatblygu’r sgiliau ymarferol a’r sgiliau eraill sydd ar C eu hangen i fyw yn annibynnol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 9 para. 8 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

9.  Y cymorth ariannol a ddarperir i alluogi C i ddiwallu costau llety a chostau cynnal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 9 para. 9 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

10.  Anghenion gofal iechyd C, gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd corfforol, emosiynol neu feddyliol a’r modd y diwellir yr anghenion hyn pan fydd C yn peidio â derbyn gofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 9 para. 10 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

11.  Cynlluniau wrth gefn yr awdurdod cyfrifol ar gyfer gweithredu os digwydd i’r cynllun llwybr, am unrhyw reswm, beidio â bod yn effeithiol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 9 para. 11 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliadau 5 a 58

ATODLEN 10LL+CMaterion sydd i’w hymdrin â hwy yn y cynllun lleoli dan gadwad

1.  Sut y gofelir am C o ddydd i ddydd ac y diogelir a hyrwyddir ei lesiant gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol bod C yn preswylio ynddo neu ynddi.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I44Atod. 10 para. 1 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

2.  Unrhyw drefniadau ar gyfer cyswllt rhwng C ac unrhyw riant C neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a rhwng C ac unrhyw berson cysylltiedig arall, gan gynnwys, os yw’n briodol—LL+C

(a)y rhesymau pam na fyddai cyswllt ag unrhyw berson o’r fath yn rhesymol ymarferol neu na fyddai’n gyson â llesiant C,

(b)os nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, manylion am unrhyw orchymyn a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989,

(c)y trefniadau ar gyfer hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau yn y trefniadau ar gyfer cyswllt.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Atod. 10 para. 2 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

3.  Y trefniadau a wnaed er mwyn i R ymweld ag C yn unol â Rhan 5, amlder y cyfryw ymweliadau a’r trefniadau a wnaed ar gyfer rhoi cyngor a chymorth arall ar gael i C rhwng ymweliadau yn unol â rheoliad 34.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I46Atod. 10 para. 3 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

4.  Os penodir ymwelydd annibynnol, y trefniadau a wnaed i ymwelydd annibynnol ymweld ag C.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I47Atod. 10 para. 4 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

5.  Y trefniadau a wnaed gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer gofal iechyd C (gan gynnwys ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a’i ofal deintyddol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I48Atod. 10 para. 5 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

6.  Y trefniadau a wnaed gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer addysg a hyfforddiant C, gan gynnwys—LL+C

(a)enw a chyfeiriad unrhyw sefydliad addysgol neu sefydliad hyfforddi a fynychwyd gan C, neu unrhyw berson arall a oedd yn darparu addysg neu hyfforddiant i C yn union cyn rhoi C ar remánd neu dan gadwad,

(b)pan fo gan C ddatganiad o anghenion addysgol arbennig, manylion yr awdurdod lleol (neu awdurdod lleol yn Lloegr) sy’n cynnal y datganiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Atod. 10 para. 6 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

7.  Hanes personol, argyhoeddiad crefyddol, cefndir diwylliannol ac ieithyddol, cyfeiriadedd rhywiol, a tharddiad hiliol C, a’r trefniant a sefydlwyd gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer diwallu anghenion C ynglŷn â’i hunaniaeth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I50Atod. 10 para. 7 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

8.  Y trefniadau a sefydlwyd gan staff y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddo neu ynddi ar gyfer cynorthwyo C i ddatblygu sgiliau hunanofal.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I51Atod. 10 para. 8 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

9.  Enw a manylion cyswllt—LL+C

(a)yr SAA,

(b)yr ymwelydd annibynnol ar gyfer C (os penodwyd un),

(c)R,

(d)os yw C yn berson ifanc categori 1, y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C.

Gwybodaeth Cychwyn

I52Atod. 10 para. 9 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

10.  Manylion am y modd y dylai llesiant C gael ei ddiogelu’n ddigonol a’i hyrwyddo pan fo C yn peidio â bod ar remand i LlCI neu dan gadwad, ac yn benodol—LL+C

(a)pa un a ddarperir llety i C gan yr awdurdod cyfrifol neu gan awdurdod lleol arall neu gan awdurdod lleol yn Lloegr, a

(b)pa un a ddylai gwasanaethau eraill gael eu darparu gan yr awdurdod cyfrifol neu gan awdurdod lleol arall o dan Ddeddf 2014, neu gan awdurdod lleol yn Lloegr wrth arfer ei ddyletswyddau o dan Ddeddf 1989.

Gwybodaeth Cychwyn

I53Atod. 10 para. 10 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Rheoliad 65

ATODLEN 11LL+CDirymiadau

Gwybodaeth Cychwyn

I54Atod. 11 mewn grym ar 6.4.2016, gweler rhl. 1(1)

Mae’r Rheoliadau a nodir yn y Tabl wedi eu dirymu i’r graddau a bennir—

Rheoliadau a ddirymirRhif cyfresolGraddau’r dirymiad
Rheoliadau Cyswllt â Phlant 1991O.S. 1991/891Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Diffinio Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991O.S. 1991/892Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Lleoli Plant gyda Rhieni etc 1991O.S. 1991/893Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Plant (Lleoliadau Byrdymor) (Diwygiadau Amrywiol) 1995O.S. 1995/2015Y Rheoliadau cyfan *
(* mae rheoliad 2 eisoes wedi ei ddirymu o ran Cymru)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill