Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

RHAN 1LL+CRhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Tachwedd 2015 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr Asiantaeth” (“the Agency”) yw’r Asiantaeth Safonau Bwyd;

ystyr “Cyfarwyddeb 98/83” (“Directive 98/83”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl(1);

ystyr “Cyfarwyddeb 2003/40” (“Directive 2003/40”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/40/EC sy’n sefydlu’r rhestr, y cyfyngiadau crynodiad a’r gofynion labelu ar gyfer ansoddau dŵr mwynol naturiol a’r amodau ar gyfer defnyddio aer a gyfoethogir ag osôn ar gyfer trin dŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon(2);

ystyr “Cyfarwyddeb 2009/54” (“Directive 2009/54”) yw Cyfarwyddeb 2009/54/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddatblygu a marchnata dŵr mwynol naturiol(3);

ystyr “Cyfarwyddeb 2013/51” (“Directive 2013/51”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2013/51/EURATOM sy’n gosod gofynion ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd o ran sylweddau ymbelydrol mewn dŵr y bwriedir iddo gael ei yfed gan bobl(4);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “dŵr mwynol naturiol” (“natural mineral water”) yw dŵr—

(a)

sy’n iachus yn ficrobiolegol o fewn ystyr Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2009/54,

(b)

sy’n tarddu o lefel trwythiad neu ddyddodion tanddaearol ac sy’n dod allan o ffynnon a dapiwyd mewn un neu fwy o allanfeydd naturiol neu sydd wedi’u tyllu;

(c)

y gellir ei wahaniaethu’n amlwg oddi wrth ddŵr yfed oherwydd y nodweddion canlynol a gafodd eu cadw’n ddifreg oherwydd tarddiad tanddaearol y dŵr, sydd wedi ei ddiogelu rhag pob risg o lygredd—

(i)

ei natur a nodweddir gan ei gynnwys mwynol, elfennau hybrin neu ansoddau eraill a, phan fo’n briodol, gan effeithiau penodol, a

(ii)

yn ei burdeb gwreiddiol, a

(d)

sydd am y tro yn cael ei gydnabod yn unol â rheoliad 4;

ystyr “dŵr mwynol naturiol eferw” (“effervescent natural mineral water”) yw dŵr mwynol naturiol sydd, yn ei ffynhonnell neu ar ôl ei botelu, yn gollwng carbon deuocsid yn ddigymell ac mewn dull a welir yn eglur o dan amodau tymheredd a phwysedd arferol;

ystyr “dŵr yfed” (“drinking water”) yw dŵr y bwriedir ei werthu i’w yfed gan bobl ar wahân i—

(a)

dŵr mwynol naturiol, neu

(b)

dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall;

mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys bod gennych rywbeth yn eich meddiant i’w werthu a’i gynnig, ei arddangos neu ei hysbysebu i’w werthu, ac mae “gwerthiant” (“sale”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “hysbyseb” (“advertisement”) yw cynrychiolaeth ar unrhyw ffurf mewn cysylltiad â masnach neu fusnes er mwyn hyrwyddo cyflenwad nwyddau, ac mae “hysbysebu” (“advertise”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “label” (“label”) yw unrhyw dag, brand, marc, deunydd darluniadol neu ddisgrifiadol arall, sydd wedi ei ysgrifennu, printio, stensilio, marcio, boglynnu, neu ei argraffu ar botel o ddŵr, neu sydd ynghlwm wrth botel o ddŵr, ac mae “wedi’i labelu” (“labelled”) a “labelu” (“labelling”) i’w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “paramedr” (“parameter”) yw priodwedd, elfen, organeb neu sylwedd a restrir yn yr ail golofn o unrhyw Dabl yn Rhan 2, Rhan 3 neu Ran 4 o Atodlen 7;

ystyr yr enw “potel” (“bottle”) yw cynhwysydd caeedig o unrhyw fath y gwerthir dŵr ynddo i’w yfed gan bobl, neu y ceir dŵr ar gyfer ei werthu i’w yfed gan bobl ohono, ac mae’r ferf “potelu” (“bottle”) ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “Rheoliad 115/2010” (“Regulation 115/2010”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 115/2010 sy’n gosod yr amodau ar gyfer defnyddio alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid o ddŵr mwynol naturiol a dŵr ffynnon(5);

ystyr “triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn” (“ozone-enriched air treatment”) yw—

(a)

triniaeth, a awdurdodir yn unol â rheoliadau 9(1)(a)(iv) neu 15(a)(iv) ac Atodlen 3, i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, gydag aer a gyfoethogir ag osôn, neu

(b)

yn achos dŵr a ddygwyd i Gymru o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig neu o Wladwriaeth AEE arall, triniaeth sy’n cydymffurfio ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 2003/40, fel y’i gweithredir yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig neu’r Wladwriaeth AEE honno; ac

ystyr “triniaeth tynnu fflworid” (“fluoride removal treatment”) yw—

(a)

triniaeth, a awdurdodir yn unol â rheoliadau 9(1)(a)(iii) neu 15(a)(iii) ac Atodlen 2, i ddŵr mwynol naturiol neu ddŵr y bwriedir ei botelu a’i labelu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, gydag alwmina actifedig er mwyn tynnu fflworid, neu

(b)

yn achos dŵr a ddygwyd i Gymru o ran arall o’r Deyrnas Unedig neu o wladwriaeth AEE arall, triniaeth sy’n cydymffurfio ag Erthyglau 1 i 3 o Reoliad 115/2010.

(2Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac a ddefnyddir hefyd yng Nghyfarwyddeb 98/83, Cyfarwyddeb 2009/54, Rheoliad 115/2010 neu Gyfarwyddeb 2013/51 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Cyfarwyddebau hynny neu’r Rheoliad hwnnw.

(3Mae cyfeiriadau at yr Atodiadau i Gyfarwyddeb 98/83, Cyfarwyddeb 2003/40, Cyfarwyddeb 2009/54, Rheoliad 115/2010 a Chyfarwyddeb 2013/51 yn gyfeiriadau at yr Atodiadau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at labelu potel yn cynnwys labelu a wneir cyn potelu unrhyw ddŵr a labelu ar ôl potelu.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

EsemptiadauLL+C

3.—(1Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw ddŵr—

(a)sy’n gynnyrch meddyginiaethol o fewn ystyr Cyfarwyddeb 2001/83 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar god y Gymuned sy’n ymwneud â chynnyrch meddyginiaethol i’w defnyddio gan bobl(6);

(b)sy’n ddŵr mwynol naturiol a ddefnyddir yn ei ffynhonnell at ddibenion iachaol mewn sefydliadau thermol neu hydrofwynol;

(c)nas bwriadwyd ar gyfer ei werthu i’w yfed gan bobl; neu

(d)sy’n ddŵr mwynol naturiol y bwriedir ei allforio i wlad heblaw Gwladwriaeth AEE.

(2Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddognau o rew a becynnwyd y bwriedir eu defnyddio i oeri bwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CDŵr mwynol naturiol

Cydnabyddiaeth fel dŵr mwynol naturiolLL+C

4.—(1Dim ond os caiff ei gydnabod yn unol â pharagraff (2) y caniateir gwerthu dŵr mwynol naturiol fel dŵr mwynol naturiol.

(2Cydnabyddir bod dŵr yn ddŵr mwynol naturiol—

(a)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear yng Nghymru, pan roddir cydnabyddiaeth gan awdurdod bwyd yn unol â Rhan 1 o Atodlen 1;

(b)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig, pan gydnabyddir ef yn unol â Chyfarwyddeb 2009/54 gan awdurdod cyfrifol y rhan honno o’r Deyrnas Unedig;

(c)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn Gwladwriaeth AEE heblaw’r Deyrnas Unedig, pan gydnabyddir ef yn unol â Chyfarwyddeb 2009/54 gan awdurdod cyfrifol o’r Wladwriaeth AEE honno;

(d)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE—

(i)pan gydnabyddir ef gan yr Asiantaeth, yn unol â Rhan 2 o Atodlen 1; neu

(ii)pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol a roddir gan awdurdod cyfrifol—

(aa)rhan arall o’r Deyrnas Unedig; neu

(bb)Gwladwriaeth AEE heblaw’r Deyrnas Unedig.

(3Mae cyhoeddiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd o enw unrhyw ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir yn yr Undeb Ewropeaidd at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54 yn dystiolaeth derfynol bod dŵr yn cael ei gydnabod at ddibenion y Gyfarwyddeb honno, ac eithrio pan roddir y gydnabyddiaeth yn unol ag Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Gwrthod rhoi cydnabyddiaeth neu dynnu cydnabyddiaeth yn ôlLL+C

5.—(1Pan ganfyddir, o ran unrhyw ddŵr a gydnabuwyd o dan reoliad 4(2)(a) neu 4(2)(d)(i)—

(a)drwy ddadansoddiad yn unol â Rhan 3 o Atodlen 1, na fodlonir gofynion paragraff 10(a) o’r Rhan honno;

(b)na fodlonir gofynion Atodlen 4; neu

(c)nad yw cynnwys y dŵr yn unol â pharagraff 1(c) o Ran 1 neu, yn ôl y digwydd, paragraff 5(c) o Ran 2 o Atodlen 1,

caniateir i’r awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, yr Asiantaeth, dynnu’r gydnabyddiaeth honno yn ôl hyd nes y bodlonir y gofynion o dan sylw.

(2Pan fydd yr awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, yr Asiantaeth yn gwrthod rhoi cydnabyddiaeth i ddŵr neu’n tynnu cydnabyddiaeth yn ôl, caniateir i’r person sy’n datblygu neu’n dymuno datblygu’r ffynnon y mae’r dŵr hwnnw yn dod ohoni, neu, os yn wahanol, y person sy’n berchen y tir y mae’r ffynnon honno ynddo, apelio yn erbyn y penderfyniad i berson a benodwyd at y diben hwnnw gan yr Asiantaeth o fewn 6 mis i gael ei hysbysu o’r penderfyniad.

(3Rhaid i’r person a benodwyd ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a wneir gan yr awdurdod bwyd neu’r Asiantaeth, fel y bo’n briodol, ac adrodd yn ysgrifenedig i’r Asiantaeth o fewn 3 mis gan argymell camau gweithredu.

(4Rhaid i’r Asiantaeth un ai—

(a)cadarnhau’r penderfyniad, ynghyd â’r rhesymau; neu

(b)cyfarwyddo’r awdurdod bwyd i roi neu adfer cydnabyddiaeth i’r dŵr dan sylw, neu ei adfer ei hun, fel y bo’n briodol.

(5Pan gyfarwyddir awdurdod bwyd gan yr Asiantaeth i roi neu adfer cydnabyddiaeth o dan baragraff (4)(b), rhaid iddo gydymffurfio â’r cyfarwyddyd hwnnw ar unwaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Cais i dynnu cydnabyddiaeth yn ôlLL+C

6.  Caiff person sy’n datblygu ffynnon yr echdynnir dŵr a gydnabyddir fel dŵr mwynol naturiol ohoni yn unol â rheoliad 4(2)(a) neu 4(2)(d)(i), wneud cais i’r awdurdod bwyd neu’r Asiantaeth, fel y bo’n briodol, i dynnu’r gydnabyddiaeth honno yn ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Hysbysiad o newidiadauLL+C

7.  Rhaid i awdurdod bwyd hysbysu’r Asiantaeth ar unwaith—

(a)os bydd yn rhoi neu’n adfer cydnabyddiaeth o ddŵr mwynol naturiol neu’n tynnu cydnabyddiaeth yn ôl; neu

(b)os caiff ei hysbysu o unrhyw newid i ddisgrifiad masnachol o ddŵr mwynol naturiol neu i enw ffynnon yr echdynnwyd dŵr mwynol naturiol ohoni.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Datblygu ffynhonnau dŵr mwynol naturiolLL+C

8.—(1Ni chaiff neb ddatblygu unrhyw ffynnon at ddibenion marchnata’r dŵr ohoni fel dŵr mwynol naturiol oni bai—

(a)bod y dŵr a echdynnwyd o’r ffynnon honno’n ddŵr mwynol naturiol;

(b)bod awdurdod bwyd yr ardal lle mae’r ffynnon wedi ei lleoli wedi rhoi caniatâd i’r ffynnon honno gael ei datblygu; ac

(c)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni.

(2Pan ganfyddir yn ystod y datblygu bod dŵr mwynol naturiol wedi ei lygru ac y byddai potelu’r dŵr yn mynd yn groes i baragraffau 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu’r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes bod achos y llygredd wedi’i ddileu ac y byddai potelu’r dŵr yn cydymffurfio â’r paragraffau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Triniaethau i ddŵr mwynol naturiol ac ychwanegiadau iddoLL+C

9.—(1Ni chaiff neb roi dŵr mwynol naturiol yn ei gyflwr wrth ei ffynhonnell—

(a)drwy unrhyw driniaeth heblaw am—

(i)gwahanu ei elfennau ansefydlog, megis cyfansoddion haearn a sylffwr, drwy hidlo neu ardywallt, pa un a fydd ocsigeniad cyn hynny ai peidio, i’r graddau nad yw’r driniaeth yn newid cyfansoddiad y dŵr o ran yr ansoddau hanfodol sy’n rhoi iddo ei briodoleddau;

(ii)dilead cyfan neu rannol y carbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol;

(iii)triniaeth tynnu fflworid sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 2; neu

(iv)triniaeth ocsideiddio aer a gyfoethogir ag osôn sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 3;

(b)unrhyw ychwanegiad heblaw cyflwyno neu ailgyflwyno carbon deuocsid i gynhyrchu dŵr mwynol naturiol eferw; neu

(c)unrhyw driniaeth ddiheintio mewn unrhyw fodd, neu, yn ddarostyngedig i baragraff (1)(b), ychwanegu elfennau bacteriostatig neu unrhyw driniaeth arall sy’n debygol o newid cyfrif cytref hyfyw y dŵr mwynol naturiol.

(2Nid yw paragraff (1) yn atal y defnydd o ddŵr mwynol naturiol wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Potelu dŵr mwynol naturiolLL+C

10.—(1Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol—

(a)oni bai bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni;

(b)mewn cynhwysydd heblaw cynhwysydd sydd â chaeadau a luniwyd i osgoi unrhyw bosibilrwydd o ddifwyno neu halogi; ac

(c)sydd, ar adeg ei botelu, yn cynnwys unrhyw un o’r sylweddau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.

(2Rhaid i’r dulliau a ddefnyddir ar gyfer canfod y sylweddau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 gydymffurfio â’r nodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Labelu dŵr mwynol naturiolLL+C

11.—(1Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol a’i labelu â’r canlynol—

(a)disgrifiad masnachol sy’n cynnwys enw bro, pentrefan neu le arall, onid yw’r disgrifiad masnachol hwnnw’n cyfeirio at ddŵr mwynol naturiol y mae’r ffynnon y datblygwyd ef ohoni yn y lle a ddangosir gan yr enw hwnnw ac nad yw’n gamarweiniol o ran y lle y datblygir y ffynnon;

(b)disgrifiad masnachol sy’n wahanol i enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu, oni bai bod enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu wedi’i labelu ar y botel hefyd, gan ddefnyddio llythrennau sydd o leiaf unwaith a hanner uchder a lled y llythrennau mwyaf a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad masnachol hwnnw;

(c)unrhyw fynegiad, dynodiad, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, pa un ai’n ffigurol ai peidio, y mae’r defnydd ohonynt yn awgrymu nodwedd nad yw’r dŵr yn meddu arni, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i ddatblygu’r ffynnon, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu;

(d)unrhyw fynegiad heblaw’r rhai a bennir yn is-baragraffau (f) a (g), sy’n priodoli i’r dŵr mwynol naturiol briodoleddau ynghylch atal, trin neu wella salwch dynol;

(e)unrhyw fynegiad a restrir yng ngholofn gyntaf y Tabl yn Atodlen 6, ac eithrio pan fo’r dŵr mwynol naturiol yn bodloni’r maen prawf a restrir felly sy’n cyfateb i’r mynegiad hwnnw;

(f)y mynegiad “may be diuretic”, “gall fod yn ddiwretig”, neu “may be laxative”, “gall fod yn garthydd”, na’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni aseswyd y dŵr mwynol naturiol fel un sy’n meddu ar y priodoledd a briodolir gan y mynegiad yn unol â dadansoddiad ffisigo-cemegol ac archwiliad ffarmacolegol, ffisiolegol neu glinigol, fel y bo’n briodol; neu

(g)y mynegiad “stimulates digestion”, “mae’n ysgogi treuliad”, neu “may facilitate the hepato-biliary functions”, “gall hyrwyddo’r swyddogaethau hepato-bustlog”, na’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni aseswyd y dŵr mwynol naturiol fel un sy’n meddu ar y priodoledd a briodolir gan y mynegiad yn unol â’r dadansoddiad ffisigo-cemegol ac archwiliad ffarmacolegol, ffisiolegol a chlinigol.

(2Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol a’i labelu gyda disgrifiad gwerthu heblaw—

(a)“natural mineral water”; neu

(b)yn achos dŵr mwynol naturiol eferw, un o’r canlynol, fel y bo’n briodol—

(i)“naturally carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid o’r ffynnon ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu, yr un ag a geir wrth y ffynhonnell, gan gymryd i ystyriaeth pan fo’n briodol ailgyflwyno mesur o garbon deuocsid o’r un lefel trwythiad neu ddyddodion sy’n cyfateb i’r hyn a ollyngir yng nghwrs y gweithrediadau hynny ac yn ddarostyngedig i’r goddefiannau technegol arferol;

(ii)“natural mineral water fortified with gas from the spring” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid o’r un lefel trwythiad neu ddyddodion ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu, yn fwy nag a geir wrth y ffynhonnell; neu

(iii)“carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr yr ychwanegwyd carbon deuocsid ato o darddiad heblaw’r lefel trwythiad neu’r dyddodion y daw’r dŵr ohono;

(c)nid oes dim yn is-baragraff (a) yn atal person rhag defnyddio’r geiriau “dŵr mwynol naturiol” yn ogystal â’r geiriau “natural mineral water”;

(d)nid oes dim yn is-baragraff (b) sy’n atal y defnydd o’r geiriau “dŵr mwynol naturiol wedi’i garboneiddio’n naturiolyn ogystal â “naturally carbonated natural mineral water”, “dŵr mwynol naturiol wedi’i gryfhau â nwy o’r ffynnon” yn ogystal â “natural mineral water fortified with gas from the spring”, “dŵr mwynol naturiol wedi’i garboneiddio” yn ogystal â “carbonated natural mineral water”; ac

(e)nid oes dim yn is-baragraffau (a), (b), (c) na (d) sy’n atal y defnydd o eiriau cyfatebol mewn unrhyw iaith arall yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.

(3Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol oni bai bod y botel wedi’i labelu â’r canlynol—

(a)datganiad o gyfansoddiad dadansoddol sy’n dangos ansoddion nodweddiadol y dŵr;

(b)enw’r lle y datblygir y ffynnon ac enw’r ffynnon;

(c)pan fo’r dŵr wedi cael triniaeth o ddilead cyfan neu rannol o garbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol, y mynegiad “fully de-carbonated” neu “partially de-carbonated”, fel y bo’n briodol;

(d)pan fo’r dŵr wedi cael triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn, rhaid i’r geiriau “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”, ymddangos yn agos i gyfansoddiad dadansoddol yr ansoddion nodweddiadol;

(e)pan fo crynodiad fflworid y dŵr yn fwy na 1.5 mg/l—

(i)rhaid i’r geiriau “contains more than 1.5 mg/l of fluoride; not suitable for regular consumption by infants and children under 7 years of age”, ymddangos yn agos iawn at yr enw masnachol ac mewn llythrennau y gellir eu gweld yn glir; a

(ii)y cynnwys fflworid gwirioneddol o ran cyfansoddiad ffisigo-cemegol, y mae’n rhaid ei gynnwys yn y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a);

(f)nid oes dim yn is-baragraff (c) sy’n atal defnyddio’r mynegiad “cwbl ddad-garbonedig” yn ogystal â “fully de-carbonated”, neu “rhannol ddad-garbonedig” yn ogystal â “partially de-carbonated”;

(g)nid oes dim yn is-baragraff (d) sy’n atal defnyddio’r geiriau “dŵr wedi ei drin â thechneg awdurdodedig i’w ocsideiddio ag aer a gyfoethogir ag osôn” yn ogystal â “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”;

(h)nid oes dim yn is-baragraff (e)(i) sy’n atal defnyddio’r geiriau “yn cynnwys mwy na 1.5 mg/l o fflworid; nid yw’n addas i’w yfed yn rheolaidd gan blant bach a phlant o dan 7 oed” yn ogystal â “contains more than 1.5 mg/l of fluoride; not suitable for regular consumption by infants and children under 7 years of age”; ac

(i)nid oes dim yn is-baragraffau (c), (d), (e)(i), (f), (g) a (h) sy’n atal defnyddio geiriau cyfatebol mewn unrhyw iaith arall yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Hysbysebu dŵr mwynol naturiolLL+C

12.—(1Pan fo’n ofynnol i botel sy’n cynnwys dŵr mwynol naturiol gael ei labelu ag enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu yn unol â rheoliad 11(1)(b)—

(a)mae’r un gofyniad hefyd yn gymwys i unrhyw hysbyseb ysgrifenedig ar gyfer y dŵr mwynol naturiol hwnnw; a

(b)mewn unrhyw hysbyseb arall, rhaid rhoi amlygrwydd cyfatebol o leiaf i’r lle y caiff ei datblygu neu i enw’r ffynnon ag a roddir i’r disgrifiad masnachol.

(2Ni chaiff neb hysbysebu dŵr mwynol naturiol yn groes i baragraff (1).

(3Ni chaiff neb hysbysebu dŵr mwynol naturiol o dan unrhyw fynegiad, dynodiad, nod masnach, enw brand, llun nac unrhyw arwydd arall, pa un ai’n ffigurol ai peidio, y mae’r defnydd ohonynt yn awgrymu nodwedd nad yw’r dŵr yn meddu arni, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i’w ddatblygu, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Gwerthu dŵr mwynol naturiolLL+C

13.—(1Ni chaiff neb werthu dŵr sydd wedi ei botelu a’i labelu’n “natural mineral water”, “dŵr mwynol naturiol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai bod y dŵr hwnnw yn ddŵr mwynol naturiol a gydnabyddir yn unol â rheoliad 4(2).

(2Ni chaiff neb werthu dŵr mwynol naturiol wedi’i botelu os yw’r dŵr hwnnw—

(a)wedi’i echdynnu o ffynnon a ddatblygir yn groes i reoliad 8;

(b)wedi cael unrhyw driniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 9;

(c)wedi’i botelu yn groes i reoliad 10;

(d)wedi’i labelu yn groes i reoliad 11; neu

(e)wedi’i hysbysebu yn groes i reoliad 12.

(3Ni chaiff neb werthu dŵr mwynol naturiol wedi’i botelu—

(a)sy’n cynnwys—

(i)parasitiaid neu ficro-organebau pathogenig;

(ii)Escherichia coli neu golifformau eraill a streptococi ysgarthol mewn unrhyw sampl 250ml a archwilir;

(iii)anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn unrhyw sampl 50ml a archwilir; neu

(iv)Pseudomonas aeruginosa mewn unrhyw sampl 250ml a archwilir;

(b)pan nad yw cyfanswm cyfrif cytref y dŵr yn y ffynhonnell y cymrwyd y dŵr ohoni yn cydymffurfio â pharagraff 7 o Atodlen 4;

(c)pan fo cyfanswm cyfrif cytref y dŵr hwnnw y gellir ei adfywio yn fwy na’r hyn fyddai canlyniad cynnydd arferol yn y cyfrif cynnwys bacteria a oedd ganddo yn y ffynhonnell; neu

(d)pan fo’r dŵr hwnnw’n cynnwys unrhyw ddiffyg organoleptig.

(4Ni chaiff neb werthu dŵr mwynol naturiol o’r un ffynnon o dan fwy nag un disgrifiad masnachol.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CDŵr y bwriedir ei werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”

Datblygu ffynhonnau dŵr a photelu dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”LL+C

14.—(1Ni chaiff neb botelu dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai—

(a)bod y dŵr wedi ei echdynnu o ffynnon a’i botelu wrth y ffynhonnell;

(b)bod y dŵr wedi ei fwriadu i’w yfed gan bobl yn ei gyflwr naturiol;

(c)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni; a

(d)bod y dŵr yn bodloni gofynion Atodlen 7.

(2Pan ganfyddir yn ystod datblygu bod dŵr o ffynnon wedi ei lygru ac y byddai potelu’r dŵr yn mynd yn groes i baragraffau 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu’r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes bod achos y llygredd wedi’i ddileu ac y byddai potelu’r dŵr yn cydymffurfio â’r paragraffau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Triniaethau i ddŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” ac ychwanegiadau iddoLL+C

15.  Ni chaiff neb roi dŵr y bwriedir ei labelu a’i werthu fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, yn ei gyflwr yn ei ffynhonnell, trwy—

(a)unrhyw driniaeth heblaw—

(i)gwahanu ei elfennau ansefydlog, megis cyfansoddion haearn a sylffwr, drwy hidlo neu ardywallt, pa un a fydd ocsigeniad cyn hynny ai peidio, i’r graddau nad yw’r driniaeth yn newid cyfansoddiad y dŵr o ran yr ansoddau hanfodol sy’n rhoi iddo ei briodoleddau;

(ii)dilead cyfan neu rannol y carbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol;

(iii)triniaeth tynnu fflworid sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 2; neu

(iv)triniaeth ocsideiddio aer a gyfoethogir ag osôn sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 3; neu

(b)unrhyw ychwanegiad heblaw cyflwyno neu ailgyflwyno carbon deuocsid; neu

(c)unrhyw driniaeth ddiheintio mewn unrhyw fodd, neu, yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), ychwanegu elfennau bacteriostatig, neu unrhyw driniaeth arall sy’n debygol o newid cyfrif cytref hyfyw y dŵr.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Labelu dŵr fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”LL+C

16.—(1Ni chaiff neb labelu potel o ddŵr fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai bod y dŵr a gynhwysir ynddi—

(a)yn bodloni gofynion rheoliad 14(1); a

(b)os yw’r dŵr wedi ei drin, ei fod wedi cael triniaeth neu ychwanegiad a ganiateir o dan reoliad 15.

(2Os yw potel o ddŵr wedi’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, ni chaiff neb labelu’r botel honno gyda disgrifiad masnachol—

(a)sy’n cynnwys enw bro, pentrefan neu le arall, onid yw’r disgrifiad masnachol hwnnw’n cyfeirio at ddŵr y mae’r ffynnon y datblygwyd ef ohoni yn y lle a ddangosir gan yr enw hwnnw ac nad yw’n gamarweiniol o ran y lle y datblygir y ffynnon; neu

(b)yn wahanol i enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu, oni bai bod enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu wedi’i labelu ar y botel hefyd, gan ddefnyddio llythrennau sydd o leiaf unwaith a hanner uchder a lled y llythrennau mwyaf a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad masnachol hwnnw.

(3Ni chaiff neb labelu potel o ddŵr fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai bod y botel hefyd wedi’i labelu â’r canlynol—

(a)enw’r lle y datblygir y ffynnon;

(b)enw’r ffynnon;

(c)pan fo’r dŵr wedi cael triniaeth ag aer a gyfoethogir ag osôn, rhaid i’r geiriau “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”, ymddangos yn agos at y manylion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) a (b);

(d)nid oes dim yn is-baragraff (c) yn atal defnyddio’r geiriau “dŵr wedi ei drin â thechneg awdurdodedig i’w ocsideiddio ag aer a gyfoethogir ag osôn” yn ogystal â “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”; ac

(e)nid oes dim yn is-baragraffau (c) neu (d) yn atal defnyddio geiriau cyfatebol mewn unrhyw iaith yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Hysbysebu dŵr fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”LL+C

17.—(1Pan fo’n ofynnol i botel o ddŵr gael ei labelu ag enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu yn unol â rheoliad 16(2)(b), yn ogystal â disgrifiad masnachol—

(a)mae’r un gofyniad hefyd yn gymwys i unrhyw hysbyseb ysgrifenedig ar gyfer y dŵr hwnnw; a

(b)mewn unrhyw hysbyseb arall, rhaid rhoi amlygrwydd cyfatebol o leiaf i’r lle y caiff ei datblygu neu i enw’r ffynnon ag a roddir i’r disgrifiad masnachol.

(2Ni chaiff neb hysbysebu potel o ddŵr fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, yn groes i baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Gwerthu dŵr fel “spring water” neu “dŵr ffynnon”LL+C

18.—(1Ni chaiff neb werthu dŵr sydd wedi ei botelu neu ei labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, os yw’r dŵr hwnnw—

(a)wedi’i botelu yn groes i reoliad 14(1);

(b)wedi cael triniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 15;

(c)wedi’i labelu yn groes i reoliad 16; neu

(d)wedi’i hysbysebu yn groes i reoliad 17.

(2Ni chaiff neb werthu dŵr o’r un ffynnon fel “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, o dan fwy nag un disgrifiad masnachol.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CDŵr yfed wedi’i botelu

Potelu dŵr yfedLL+C

19.  Ni chaiff neb botelu dŵr yfed oni bai bod y dŵr hwnnw yn bodloni gofynion Atodlen 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Labelu dŵr yfed wedi’i boteluLL+C

20.  Ni chaiff neb botelu dŵr yfed a’i labelu gyda—

(a)dynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, llun neu arwydd arall, pa un a yw’n arwyddlun ai peidio, y gallai’r defnydd ohonynt beri dryswch rhwng y dŵr yfed a dŵr mwynol naturiol, neu

(b)y disgrifiad “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Hysbysebu dŵr yfed wedi’i boteluLL+C

21.  Ni chaiff neb hysbysebu dŵr yfed wedi’i botelu o dan—

(a)unrhyw ddynodiad, enw perchnogol, marc masnachol, enw brand, llun neu arwydd arall, pa un a yw’n arwyddlun ai peidio, y gallai’r defnydd ohonynt beri dryswch rhwng y dŵr a dŵr mwynol naturiol, neu

(b)y disgrifiad “mineral water”, “dŵr mwynol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Gwerthu dŵr yfed wedi’i boteluLL+C

22.  Ni chaiff neb werthu dŵr yfed wedi’i botelu—

(a)sydd wedi’i botelu yn groes i reoliad 19;

(b)sydd wedi’i labelu yn groes i reoliad 20; neu

(c)sy’n cael ei hysbysebu yn groes i reoliad 21.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CMonitro a samplu

PENNOD 1LL+CDŵr mwynol naturiol

Monitro dŵr mwynol naturiolLL+C

23.  Yn achos dŵr mwynol naturiol, rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau achlysurol i sicrhau—

(a)bod cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn parhau’n sefydlog o fewn terfynau anwadaliad naturiol;

(b)heb leihau effaith paragraff (a), nad yw cyfansoddiad, tymheredd a nodweddion hanfodol eraill y dŵr yn cael eu heffeithio gan unrhyw amrywiad yng nghyfradd y llif;

(c)bod y cyfrif cytref hyfyw wrth y ffynhonnell (cyn i’r dŵr gael unrhyw driniaeth) yn rhesymol gyson, gan gymryd i ystyriaeth gyfansoddiad ansoddol a meintiol y dŵr a ystyriwyd wrth roi cydnabyddiaeth i’r dŵr a pha un a yw’n parhau i fodloni gofynion Rhan 1 o Atodlen 1; a

(d)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni mewn perthynas â’r dŵr.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 23 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 2LL+CDŵr wedi’i botelu a’i labelu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i botelu

Monitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu fel “spring water” neu “dŵr ffynnon” a dŵr yfed wedi’i boteluLL+C

24.—(1Yn achos dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, rhaid i bob awdurdod bwyd fonitro ansawdd y dŵr yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr—

(a)ei fod yn bodloni gofynion Cyfarwyddeb 98/83 ac yn cydymffurfio’n benodol â’r gwerthoedd paramedrig a osodir yn unol ag Atodlen 7; a

(b)pan fo diheintiad yn ffurfio rhan o’r broses o baratoi neu ddosbarthu dŵr yfed wedi’i botelu, bod y driniaeth ddiheintio a ddefnyddir yn effeithlon a bod unrhyw halogiad o sgil-gynhyrchion diheintio yn cael ei gadw cyn ised â phosibl heb beryglu’r diheintio.

(2Er mwyn cydymffurfio â pharagraff (1), rhaid i bob awdurdod bwyd gyflawni—

(a)monitro yn unol ag Atodlen 8 er mwyn canfod a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig perthnasol a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7; a

(b)monitro yn unol ag Atodlen 9 er mwyn canfod a yw’r dŵr yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig perthnasol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.

(3Rhaid i bob awdurdod bwyd gyflawni monitro ychwanegol, yn ôl bob achos yn unigol, mewn perthynas ag unrhyw briodwedd, elfen, sylwedd neu organeb ar wahân i baramedr a bennir yn Atodlen 7, os oes gan yr awdurdod bwyd reswm i amau y gallai fod yn bresennol yn y dŵr dan sylw mewn maint neu nifer sy’n golygu perygl posibl i iechyd pobl.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 24 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Samplau a dadansoddiLL+C

25.—(1At ddiben monitro dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, a dŵr yfed wedi’i botelu, rhaid i bob awdurdod bwyd gyflawni—

(a)samplu a dadansoddi yn unol ag Atodlen 10 er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7; a

(b)samplu a dadansoddi yn unol ag Atodlen 11 er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio â’r gwerthoedd paramedrig ar gyfer y dogn dangosiadol a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7.

(2Rhaid i bob awdurdod bwyd gymryd samplau ar yr adeg y potelir y dŵr.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 25 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Camau adferolLL+C

26.—(1Os bydd awdurdod bwyd yn penderfynu nad yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn cydymffurfio â’r crynodiadau neu’r gwerthoedd paramedrig a bennir yn Atodlen 7, rhaid i’r awdurdod bwyd—

(a)ymchwilio ar unwaith i’r diffyg cydymffurfio er mwyn canfod yr achos;

(b)asesu a yw’r diffyg cydymffurfio yn peryglu iechyd pobl gan olygu bod angen camau gweithredu;

(c)ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y busnes gymryd camau adferol cyn gynted ag y bo modd er mwyn adfer ansawdd y dŵr pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd pobl;

(d)mewn cysylltiad ag unrhyw baramedr a bennir yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 7, hysbysu’r cyhoedd o’r camau adferol a gymerir, oni bai bod yr awdurdod bwyd yn ystyried bod y diffyg cydymffurfio â’r gwerth paramedrig yn ddibwys; ac

(e)mewn cysylltiad ag unrhyw baramedr a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 7, hysbysu’r cyhoedd o’r risgiau a’r camau adferol a gymerir a rhoi cyngor i’r cyhoedd am unrhyw fesurau rhagofal a allai fod yn angenrheidiol er mwyn diogelu iechyd pobl mewn cysylltiad â sylweddau ymbelydrol.

(2Os yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn golygu perygl posibl i iechyd pobl, boed yn bodloni’r gwerthoedd paramedrig perthnasol yn Atodlen 7 ai peidio, rhaid i’r awdurdod bwyd—

(a)atal neu gyfyngu ar gyflenwad y dŵr hwnnw yn ei ardal neu gymryd camau eraill fel y bo’r angen er mwyn diogelu iechyd pobl; a

(b)hysbysu’r cyhoedd yn ddi-oed o’r ffaith a rhoi cyngor pan fo angen.

(3Nid oes rhaid i awdurdod bwyd atal neu gyfyngu ar gyflenwad dŵr o dan baragraff (2)(a) os yw’n ystyried y byddai gwneud hynny yn arwain at risg annerbyniol i iechyd pobl.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 26 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 3LL+CTriniaethau

Monitro triniaethau penodolLL+C

27.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau achlysurol ar unrhyw driniaethau tynnu fflworid a awdurdodwyd ganddo er mwyn sicrhau bod gofynion paragraff 3 o Atodlen 2 yn parhau i gael eu bodloni.

(2Rhaid i bob awdurdod bwyd gynnal gwiriadau achlysurol ar unrhyw driniaeth aer a gyfoethogir ag osôn a awdurdodwyd ganddo er mwyn sicrhau bod gofynion paragraff 4 o Atodlen 3 yn parhau i gael eu bodloni.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 27 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

PENNOD 4LL+CSamplau

CyffredinolLL+C

28.  Rhaid i’r awdurdod bwyd sicrhau bod pob sampl yn cynrychioli ansawdd y dŵr dan sylw a yfir drwy gydol y flwyddyn y cymerir y sampl ynddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Rhl. 28 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

DosbarthuLL+C

29.—(1Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl o dan adran 29 o’r Ddeddf ac y mae’n ofynnol iddo roi rhan o’r sampl hwnnw i’r perchennog yn unol â rheoliad 7(3)(c) o’r Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013(7) fynd â’r sampl hwnnw—

(a)yn uniongyrchol i’r perchennog neu asiant y perchennog; neu

(b)drwy bost cofrestredig neu wasanaeth dosbarthu cofnodedig.

(2Os na fydd y swyddog awdurdodedig, ar ôl ymchwilio’n rhesymol, yn gallu canfod enw a chyfeiriad y perchennog, caiff y swyddog awdurdodedig ddal gafael ar y sampl.

(3Yn y rheoliad hwn, mae i “perchennog” yr un ystyr ag a roddir iddo yn y Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 29 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

HysbysuLL+C

30.—(1Rhaid i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd sydd wedi caffael sampl dŵr o dan adran 29 o’r Ddeddf at y diben o’i ddadansoddi gan ddadansoddwr cyhoeddus gyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (2) os ymddengys bod y dŵr wedi ei ddatblygu neu ei botelu gan berson (ar wahân i’r perchennog) y mae ei enw a’i gyfeiriad yn y Deyrnas Unedig wedi eu harddangos ar y botel.

(2Rhaid i’r swyddog awdurdodedig anfon yr hysbysiad i’r person hwnnw o fewn 3 diwrnod i gaffael y sampl, sy’n ei hysbysu—

(a)bod y sampl wedi ei gaffael gan y swyddog; a

(b)ymhle y cafodd y sampl ei gymryd neu, yn ôl y digwydd, gan bwy y’i prynwyd.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys os bydd y swyddog awdurdodedig yn penderfynu peidio â chael dadansoddiad o’r sampl.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 30 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Dadansoddiad gan Gemegydd y LlywodraethLL+C

31.—(1Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys pan fo rhan o sampl a gafodd ei gaffael o dan adran 29 o’r Ddeddf wedi ei chyflwyno i gael ei dadansoddi a bod rhan arall o’r sampl wedi ei chadw yn unol â rheoliad 7(3)(e) o Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplu a Chymwysterau) (Cymru) 2013 a—

(a)bod hysbysiad gwella wedi ei gyflwyno i berson o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir a’i haddasir gan reoliad 33, fel y’i darllenir gydag Atodlen 12, am dorri darpariaeth y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â’r sampl hwnnw;

(b)bod apêl yn erbyn yr hysbysiad gwella hwnnw wedi ei gwneud gan y person hwnnw i lys yr ynadon; ac

(c)bod y swyddog awdurdodedig yn bwriadu cyflwyno canlyniad y dadansoddiad a grybwyllwyd uchod fel tystiolaeth.

(2Caiff swyddog awdurdodedig anfon y rhan o’r sampl a gedwir i Gemegydd y Llywodraeth i’w dadansoddi ond rhaid ei anfon—

(a)os gofynnir hynny gan lys yr ynadon; neu

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (6), os gofynnir hynny gan dderbynnydd yr hysbysiad gwella.

(3Rhaid i Gemegydd y Llywodraeth ddadansoddi, neu gyfarwyddo dadansoddwr bwyd i ddadansoddi, y rhan o’r sampl a anfonwyd o dan baragraff (2) ac anfon tystysgrif dadansoddiad Cemegydd y Llywodraeth i’r swyddog awdurdodedig.

(4Rhaid i unrhyw dystysgrif a anfonir gan Gemegydd y Llywodraeth gael ei llofnodi gan neu ar ran Cemegydd y Llywodraeth, ond caniateir cynnal y dadansoddiad gan berson o dan gyfarwyddyd y person sy’n llofnodi’r dystysgrif.

(5Ar ôl derbyn y dystysgrif, a chyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, rhaid i’r swyddog awdurdodedig roi copi ohoni i lys yr ynadon ac i dderbynnydd yr hysbysiad gwella.

(6Pan wneir cais o dan baragraff (2)(b), caiff y swyddog awdurdodedig ofyn i dderbynnydd yr hysbysiad gwella dalu ffi a bennir yn ysgrifenedig i dalu rhai o gostau Cemegydd y Llywodraeth am gyflawni’r swyddogaethau o dan baragraff (3), neu’r holl gostau.

(7Pan fydd hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan baragraff (6) a derbynnydd yr hysbysiad gwella yn gwrthod talu’r ffi a bennir yn yr hysbysiad, caiff y swyddog awdurdodedig wrthod cydymffurfio â’r cais a wnaed o dan baragraff (2)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 31 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

RHAN 6LL+CGorfodi ac amrywiol ddarpariaethau

GorfodiLL+C

32.  Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Rhl. 32 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyso’r Ddeddf: hysbysiadau gwellaLL+C

33.—(1Mae darpariaethau adran 10 o’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 1 o Atodlen 12 yn gymwys at ddiben y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw er mwyn galluogi swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd i gyflwyno hysbysiad gwella i unrhyw berson sy’n methu â chydymffurfio â rheoliadau 8 i 22 o’r Rheoliadau hyn neu un o ddarpariaethau Rheoliad 115/2010 a grybwyllir yng ngholofn 2 o Dabl 1 o Atodlen 12.

(2Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith cymhwyso adran 10 o’r Ddeddf at ddibenion ar wahân i’r rhai a bennir ym mharagraff (1).

(3Ni chaniateir i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad gwella o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir a’i haddasir yn unol â pharagraff (1)—

(a)os byddai’r hysbysiad gwella yn gysylltiedig â dŵr a gafodd ei botelu a’i labelu cyn 28 Tachwedd 2015; a

(b)os na fyddai’r materion sy’n peri’r tramgwydd honedig yn cyfrif fel trosedd o dan y Rheoliadau a restrir yn rheoliad 37.

(4Os nad yw dŵr wedi’i botelu a’i labelu’n “spring water”, “dŵr ffynnon”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, neu ddŵr yfed wedi’i botelu, yn bodloni gofynion paragraff 1(c) o Ran 1 o Atodlen 7, ni chaniateir i swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad gwella o dan adran 10(1) o’r Ddeddf, fel y’i cymhwysir a’i haddasir yn unol â pharagraff (1)—

(a)os cafodd y dŵr dan sylw ei botelu neu ei werthu mewn Gwladwriaeth AEE ar wahân i’r Deyrnas Unedig; a

(b)os oedd y dŵr yn cydymffurfio â’r gyfraith yn y Wladwriaeth AEE honno pan gafodd ei botelu neu ei werthu.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Rhl. 33 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyso’r Ddeddf: pwerau mynediadLL+C

34.—(1Mae darpariaethau adran 32 o’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 2 o Atodlen 12 yn gymwys at ddibenion galluogi y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, i alluogi swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd—

(a)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes un o ddarpariaethau Rheoliad 115/2010 a grybwyllir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw yn cael neu wedi cael ei dorri;

(b)i arfer pŵer mynediad er mwyn canfod a oes unrhyw dystiolaeth bod darpariaethau o’r fath wedi eu torri; ac

(c)wrth arfer pŵer mynediad o dan y darpariaethau yn adran 32 a gymhwysir, i arfer y pwerau cysylltiedig yn is-adrannau (5) a (6) mewn perthynas â chofnodion.

(2Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith cymhwyso adran 32 o’r Ddeddf at ddibenion ar wahân i’r rhai a bennir ym mharagraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I34Rhl. 34 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Cymhwyso darpariaethau eraill y DdeddfLL+C

35.  Mae darpariaethau’r Ddeddf a bennir yng ngholofn 1 o Dabl 3 o Atodlen 12 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn, gyda’r addasiadau a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Rhl. 35 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Arbedion a darpariaethau trosiannolLL+C

36.—(1Bydd unrhyw gydnabyddiaeth o ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a roddwyd o dan Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol 1985, Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu 1999, neu Reoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2007 ac sy’n bodoli ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym—

(a)yn achos dŵr a echdynnir o’r ddaear yng Nghymru, yn cael ei drin fel pe byddai’n gydnabyddiaeth a roddwyd gan yr awdurdod bwyd o dan reoliad 4(2)(a); a

(b)yn achos dŵr a echdynnir o’r ddaear mewn gwlad ar wahân i Wladwriaeth AEE, yn cael ei drin fel pe byddai’n gydnabyddiaeth a roddwyd gan yr Asiantaeth o dan reoliad 4(2)(d)(i).

(2Nid yw dirymiad y Rheoliadau a restrir yn rheoliad 37 yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw awdurdodiad, cydnabyddiaeth na hysbysiad a wnaed neu a roddwyd gan yr Asiantaeth neu’r awdurdod bwyd fel yr awdurdod perthnasol o dan y Rheoliadau hynny, ac mae unrhyw awdurdodiad, cydnabyddiaeth neu hysbysiad o’r fath yn parhau i gael effaith.

(3Pan fo cais wedi ei wneud o dan y Rheoliadau a restrir yn rheoliad 37 i awdurdod bwyd am gydnabyddiaeth i ddŵr fel dŵr mwynol naturiol, mae’r cais i’w drin fel pe byddai wedi ei wneud o dan Rannau 1 neu 2 o Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I36Rhl. 36 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

DirymiadauLL+C

37.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2007(8);

(b)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2009(9);

(c)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) (Diwygio) 2010(10);

(d)Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Diwygio) 2011(11).

Gwybodaeth Cychwyn

I37Rhl. 37 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Diwygiadau i ddeddfwriaeth arallLL+C

38.  Mae Atodlen 13 (diwygiadau i ddeddfwriaeth arall) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Rhl. 38 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)

Vaughan Gething

Y Dirprwy Weinidog Iechyd, un o Weinidogion Cymru

4 Tachwedd 2015

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill