- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
4.—(1) Dim ond os caiff ei gydnabod yn unol â pharagraff (2) y caniateir gwerthu dŵr mwynol naturiol fel dŵr mwynol naturiol.
(2) Cydnabyddir bod dŵr yn ddŵr mwynol naturiol—
(a)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear yng Nghymru, pan roddir cydnabyddiaeth gan awdurdod bwyd yn unol â Rhan 1 o Atodlen 1;
(b)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig, pan gydnabyddir ef yn unol â Chyfarwyddeb 2009/54 gan awdurdod cyfrifol y rhan honno o’r Deyrnas Unedig;
(c)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn Gwladwriaeth AEE heblaw’r Deyrnas Unedig, pan gydnabyddir ef yn unol â Chyfarwyddeb 2009/54 gan awdurdod cyfrifol o’r Wladwriaeth AEE honno;
(d)yn achos dŵr a echdynnwyd o’r ddaear mewn gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE—
(i)pan gydnabyddir ef gan yr Asiantaeth, yn unol â Rhan 2 o Atodlen 1; neu
(ii)pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol a roddir gan awdurdod cyfrifol—
(aa)rhan arall o’r Deyrnas Unedig; neu
(bb)Gwladwriaeth AEE heblaw’r Deyrnas Unedig.
(3) Mae cyhoeddiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd o enw unrhyw ddŵr fel dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir yn yr Undeb Ewropeaidd at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54 yn dystiolaeth derfynol bod dŵr yn cael ei gydnabod at ddibenion y Gyfarwyddeb honno, ac eithrio pan roddir y gydnabyddiaeth yn unol ag Atodlen 1.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 4 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
5.—(1) Pan ganfyddir, o ran unrhyw ddŵr a gydnabuwyd o dan reoliad 4(2)(a) neu 4(2)(d)(i)—
(a)drwy ddadansoddiad yn unol â Rhan 3 o Atodlen 1, na fodlonir gofynion paragraff 10(a) o’r Rhan honno;
(b)na fodlonir gofynion Atodlen 4; neu
(c)nad yw cynnwys y dŵr yn unol â pharagraff 1(c) o Ran 1 neu, yn ôl y digwydd, paragraff 5(c) o Ran 2 o Atodlen 1,
caniateir i’r awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, yr Asiantaeth, dynnu’r gydnabyddiaeth honno yn ôl hyd nes y bodlonir y gofynion o dan sylw.
(2) Pan fydd yr awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, yr Asiantaeth yn gwrthod rhoi cydnabyddiaeth i ddŵr neu’n tynnu cydnabyddiaeth yn ôl, caniateir i’r person sy’n datblygu neu’n dymuno datblygu’r ffynnon y mae’r dŵr hwnnw yn dod ohoni, neu, os yn wahanol, y person sy’n berchen y tir y mae’r ffynnon honno ynddo, apelio yn erbyn y penderfyniad i berson a benodwyd at y diben hwnnw gan yr Asiantaeth o fewn 6 mis i gael ei hysbysu o’r penderfyniad.
(3) Rhaid i’r person a benodwyd ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a wneir gan yr awdurdod bwyd neu’r Asiantaeth, fel y bo’n briodol, ac adrodd yn ysgrifenedig i’r Asiantaeth o fewn 3 mis gan argymell camau gweithredu.
(4) Rhaid i’r Asiantaeth un ai—
(a)cadarnhau’r penderfyniad, ynghyd â’r rhesymau; neu
(b)cyfarwyddo’r awdurdod bwyd i roi neu adfer cydnabyddiaeth i’r dŵr dan sylw, neu ei adfer ei hun, fel y bo’n briodol.
(5) Pan gyfarwyddir awdurdod bwyd gan yr Asiantaeth i roi neu adfer cydnabyddiaeth o dan baragraff (4)(b), rhaid iddo gydymffurfio â’r cyfarwyddyd hwnnw ar unwaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 5 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
6. Caiff person sy’n datblygu ffynnon yr echdynnir dŵr a gydnabyddir fel dŵr mwynol naturiol ohoni yn unol â rheoliad 4(2)(a) neu 4(2)(d)(i), wneud cais i’r awdurdod bwyd neu’r Asiantaeth, fel y bo’n briodol, i dynnu’r gydnabyddiaeth honno yn ôl.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 6 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
7. Rhaid i awdurdod bwyd hysbysu’r Asiantaeth ar unwaith—
(a)os bydd yn rhoi neu’n adfer cydnabyddiaeth o ddŵr mwynol naturiol neu’n tynnu cydnabyddiaeth yn ôl; neu
(b)os caiff ei hysbysu o unrhyw newid i ddisgrifiad masnachol o ddŵr mwynol naturiol neu i enw ffynnon yr echdynnwyd dŵr mwynol naturiol ohoni.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 7 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
8.—(1) Ni chaiff neb ddatblygu unrhyw ffynnon at ddibenion marchnata’r dŵr ohoni fel dŵr mwynol naturiol oni bai—
(a)bod y dŵr a echdynnwyd o’r ffynnon honno’n ddŵr mwynol naturiol;
(b)bod awdurdod bwyd yr ardal lle mae’r ffynnon wedi ei lleoli wedi rhoi caniatâd i’r ffynnon honno gael ei datblygu; ac
(c)bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni.
(2) Pan ganfyddir yn ystod y datblygu bod dŵr mwynol naturiol wedi ei lygru ac y byddai potelu’r dŵr yn mynd yn groes i baragraffau 6, 7 neu 8 o Atodlen 4, ni chaiff neb ddatblygu’r ffynnon yr echdynnir y dŵr ohoni hyd nes bod achos y llygredd wedi’i ddileu ac y byddai potelu’r dŵr yn cydymffurfio â’r paragraffau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 8 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
9.—(1) Ni chaiff neb roi dŵr mwynol naturiol yn ei gyflwr wrth ei ffynhonnell—
(a)drwy unrhyw driniaeth heblaw am—
(i)gwahanu ei elfennau ansefydlog, megis cyfansoddion haearn a sylffwr, drwy hidlo neu ardywallt, pa un a fydd ocsigeniad cyn hynny ai peidio, i’r graddau nad yw’r driniaeth yn newid cyfansoddiad y dŵr o ran yr ansoddau hanfodol sy’n rhoi iddo ei briodoleddau;
(ii)dilead cyfan neu rannol y carbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol;
(iii)triniaeth tynnu fflworid sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 2; neu
(iv)triniaeth ocsideiddio aer a gyfoethogir ag osôn sydd wedi ei awdurdodi yn unol ag Atodlen 3;
(b)unrhyw ychwanegiad heblaw cyflwyno neu ailgyflwyno carbon deuocsid i gynhyrchu dŵr mwynol naturiol eferw; neu
(c)unrhyw driniaeth ddiheintio mewn unrhyw fodd, neu, yn ddarostyngedig i baragraff (1)(b), ychwanegu elfennau bacteriostatig neu unrhyw driniaeth arall sy’n debygol o newid cyfrif cytref hyfyw y dŵr mwynol naturiol.
(2) Nid yw paragraff (1) yn atal y defnydd o ddŵr mwynol naturiol wrth weithgynhyrchu diodydd ysgafn.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 9 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
10.—(1) Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol—
(a)oni bai bod gofynion Atodlen 4 yn cael eu bodloni;
(b)mewn cynhwysydd heblaw cynhwysydd sydd â chaeadau a luniwyd i osgoi unrhyw bosibilrwydd o ddifwyno neu halogi; ac
(c)sydd, ar adeg ei botelu, yn cynnwys unrhyw un o’r sylweddau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 ar lefel sy’n fwy na’r terfyn uchaf a bennir o ran y sylwedd hwnnw yn yr Atodlen honno.
(2) Rhaid i’r dulliau a ddefnyddir ar gyfer canfod y sylweddau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 5 gydymffurfio â’r nodweddion perfformiad ar gyfer dadansoddi a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 5.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 10 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
11.—(1) Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol a’i labelu â’r canlynol—
(a)disgrifiad masnachol sy’n cynnwys enw bro, pentrefan neu le arall, onid yw’r disgrifiad masnachol hwnnw’n cyfeirio at ddŵr mwynol naturiol y mae’r ffynnon y datblygwyd ef ohoni yn y lle a ddangosir gan yr enw hwnnw ac nad yw’n gamarweiniol o ran y lle y datblygir y ffynnon;
(b)disgrifiad masnachol sy’n wahanol i enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu, oni bai bod enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu wedi’i labelu ar y botel hefyd, gan ddefnyddio llythrennau sydd o leiaf unwaith a hanner uchder a lled y llythrennau mwyaf a ddefnyddir ar gyfer y disgrifiad masnachol hwnnw;
(c)unrhyw fynegiad, dynodiad, marc masnachol, enw brand, darlun neu arwydd arall, pa un ai’n ffigurol ai peidio, y mae’r defnydd ohonynt yn awgrymu nodwedd nad yw’r dŵr yn meddu arni, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i ddatblygu’r ffynnon, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu;
(d)unrhyw fynegiad heblaw’r rhai a bennir yn is-baragraffau (f) a (g), sy’n priodoli i’r dŵr mwynol naturiol briodoleddau ynghylch atal, trin neu wella salwch dynol;
(e)unrhyw fynegiad a restrir yng ngholofn gyntaf y Tabl yn Atodlen 6, ac eithrio pan fo’r dŵr mwynol naturiol yn bodloni’r maen prawf a restrir felly sy’n cyfateb i’r mynegiad hwnnw;
(f)y mynegiad “may be diuretic”, “gall fod yn ddiwretig”, neu “may be laxative”, “gall fod yn garthydd”, na’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni aseswyd y dŵr mwynol naturiol fel un sy’n meddu ar y priodoledd a briodolir gan y mynegiad yn unol â dadansoddiad ffisigo-cemegol ac archwiliad ffarmacolegol, ffisiolegol neu glinigol, fel y bo’n briodol; neu
(g)y mynegiad “stimulates digestion”, “mae’n ysgogi treuliad”, neu “may facilitate the hepato-biliary functions”, “gall hyrwyddo’r swyddogaethau hepato-bustlog”, na’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni aseswyd y dŵr mwynol naturiol fel un sy’n meddu ar y priodoledd a briodolir gan y mynegiad yn unol â’r dadansoddiad ffisigo-cemegol ac archwiliad ffarmacolegol, ffisiolegol a chlinigol.
(2) Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol a’i labelu gyda disgrifiad gwerthu heblaw—
(a)“natural mineral water”; neu
(b)yn achos dŵr mwynol naturiol eferw, un o’r canlynol, fel y bo’n briodol—
(i)“naturally carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid o’r ffynnon ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu, yr un ag a geir wrth y ffynhonnell, gan gymryd i ystyriaeth pan fo’n briodol ailgyflwyno mesur o garbon deuocsid o’r un lefel trwythiad neu ddyddodion sy’n cyfateb i’r hyn a ollyngir yng nghwrs y gweithrediadau hynny ac yn ddarostyngedig i’r goddefiannau technegol arferol;
(ii)“natural mineral water fortified with gas from the spring” i ddisgrifio dŵr y mae ei gynnwys o garbon deuocsid o’r un lefel trwythiad neu ddyddodion ar ôl ardywallt, os digwydd hynny, a photelu, yn fwy nag a geir wrth y ffynhonnell; neu
(iii)“carbonated natural mineral water” i ddisgrifio dŵr yr ychwanegwyd carbon deuocsid ato o darddiad heblaw’r lefel trwythiad neu’r dyddodion y daw’r dŵr ohono;
(c)nid oes dim yn is-baragraff (a) yn atal person rhag defnyddio’r geiriau “dŵr mwynol naturiol” yn ogystal â’r geiriau “natural mineral water”;
(d)nid oes dim yn is-baragraff (b) sy’n atal y defnydd o’r geiriau “dŵr mwynol naturiol wedi’i garboneiddio’n naturiol” yn ogystal â “naturally carbonated natural mineral water”, “dŵr mwynol naturiol wedi’i gryfhau â nwy o’r ffynnon” yn ogystal â “natural mineral water fortified with gas from the spring”, “dŵr mwynol naturiol wedi’i garboneiddio” yn ogystal â “carbonated natural mineral water”; ac
(e)nid oes dim yn is-baragraffau (a), (b), (c) na (d) sy’n atal y defnydd o eiriau cyfatebol mewn unrhyw iaith arall yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.
(3) Ni chaiff neb botelu dŵr mwynol naturiol oni bai bod y botel wedi’i labelu â’r canlynol—
(a)datganiad o gyfansoddiad dadansoddol sy’n dangos ansoddion nodweddiadol y dŵr;
(b)enw’r lle y datblygir y ffynnon ac enw’r ffynnon;
(c)pan fo’r dŵr wedi cael triniaeth o ddilead cyfan neu rannol o garbon deuocsid rhydd drwy ddulliau cyfan gwbl ffisegol, y mynegiad “fully de-carbonated” neu “partially de-carbonated”, fel y bo’n briodol;
(d)pan fo’r dŵr wedi cael triniaeth aer a gyfoethogir ag osôn, rhaid i’r geiriau “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”, ymddangos yn agos i gyfansoddiad dadansoddol yr ansoddion nodweddiadol;
(e)pan fo crynodiad fflworid y dŵr yn fwy na 1.5 mg/l—
(i)rhaid i’r geiriau “contains more than 1.5 mg/l of fluoride; not suitable for regular consumption by infants and children under 7 years of age”, ymddangos yn agos iawn at yr enw masnachol ac mewn llythrennau y gellir eu gweld yn glir; a
(ii)y cynnwys fflworid gwirioneddol o ran cyfansoddiad ffisigo-cemegol, y mae’n rhaid ei gynnwys yn y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a);
(f)nid oes dim yn is-baragraff (c) sy’n atal defnyddio’r mynegiad “cwbl ddad-garbonedig” yn ogystal â “fully de-carbonated”, neu “rhannol ddad-garbonedig” yn ogystal â “partially de-carbonated”;
(g)nid oes dim yn is-baragraff (d) sy’n atal defnyddio’r geiriau “dŵr wedi ei drin â thechneg awdurdodedig i’w ocsideiddio ag aer a gyfoethogir ag osôn” yn ogystal â “water subjected to an authorised ozone-enriched air oxidation technique”;
(h)nid oes dim yn is-baragraff (e)(i) sy’n atal defnyddio’r geiriau “yn cynnwys mwy na 1.5 mg/l o fflworid; nid yw’n addas i’w yfed yn rheolaidd gan blant bach a phlant o dan 7 oed” yn ogystal â “contains more than 1.5 mg/l of fluoride; not suitable for regular consumption by infants and children under 7 years of age”; ac
(i)nid oes dim yn is-baragraffau (c), (d), (e)(i), (f), (g) a (h) sy’n atal defnyddio geiriau cyfatebol mewn unrhyw iaith arall yn ogystal â Chymraeg a Saesneg.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 11 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
12.—(1) Pan fo’n ofynnol i botel sy’n cynnwys dŵr mwynol naturiol gael ei labelu ag enw’r ffynnon neu’r lle y caiff ei datblygu yn unol â rheoliad 11(1)(b)—
(a)mae’r un gofyniad hefyd yn gymwys i unrhyw hysbyseb ysgrifenedig ar gyfer y dŵr mwynol naturiol hwnnw; a
(b)mewn unrhyw hysbyseb arall, rhaid rhoi amlygrwydd cyfatebol o leiaf i’r lle y caiff ei datblygu neu i enw’r ffynnon ag a roddir i’r disgrifiad masnachol.
(2) Ni chaiff neb hysbysebu dŵr mwynol naturiol yn groes i baragraff (1).
(3) Ni chaiff neb hysbysebu dŵr mwynol naturiol o dan unrhyw fynegiad, dynodiad, nod masnach, enw brand, llun nac unrhyw arwydd arall, pa un ai’n ffigurol ai peidio, y mae’r defnydd ohonynt yn awgrymu nodwedd nad yw’r dŵr yn meddu arni, yn benodol o ran ei darddiad, dyddiad yr awdurdodiad i’w ddatblygu, canlyniadau dadansoddi neu unrhyw gyfeiriadau tebyg at warantau dilysu.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 12 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
13.—(1) Ni chaiff neb werthu dŵr sydd wedi ei botelu a’i labelu’n “natural mineral water”, “dŵr mwynol naturiol”, neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall, oni bai bod y dŵr hwnnw yn ddŵr mwynol naturiol a gydnabyddir yn unol â rheoliad 4(2).
(2) Ni chaiff neb werthu dŵr mwynol naturiol wedi’i botelu os yw’r dŵr hwnnw—
(a)wedi’i echdynnu o ffynnon a ddatblygir yn groes i reoliad 8;
(b)wedi cael unrhyw driniaeth neu ychwanegiad yn groes i reoliad 9;
(c)wedi’i botelu yn groes i reoliad 10;
(d)wedi’i labelu yn groes i reoliad 11; neu
(e)wedi’i hysbysebu yn groes i reoliad 12.
(3) Ni chaiff neb werthu dŵr mwynol naturiol wedi’i botelu—
(a)sy’n cynnwys—
(i)parasitiaid neu ficro-organebau pathogenig;
(ii)Escherichia coli neu golifformau eraill a streptococi ysgarthol mewn unrhyw sampl 250ml a archwilir;
(iii)anerobau lleihau-sylffit sborynnol mewn unrhyw sampl 50ml a archwilir; neu
(iv)Pseudomonas aeruginosa mewn unrhyw sampl 250ml a archwilir;
(b)pan nad yw cyfanswm cyfrif cytref y dŵr yn y ffynhonnell y cymrwyd y dŵr ohoni yn cydymffurfio â pharagraff 7 o Atodlen 4;
(c)pan fo cyfanswm cyfrif cytref y dŵr hwnnw y gellir ei adfywio yn fwy na’r hyn fyddai canlyniad cynnydd arferol yn y cyfrif cynnwys bacteria a oedd ganddo yn y ffynhonnell; neu
(d)pan fo’r dŵr hwnnw’n cynnwys unrhyw ddiffyg organoleptig.
(4) Ni chaiff neb werthu dŵr mwynol naturiol o’r un ffynnon o dan fwy nag un disgrifiad masnachol.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 13 mewn grym ar 28.11.2015, gweler rhl. 1(2)
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys