- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gwnaed
24 Tachwedd 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Tachwedd 2015
Yn dod i rym
18 Rhagfyr 2015
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”)(2) mewn perthynas ag atal ac adfer difrod amgylcheddol ac maent yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno fel y’i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno(3).
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”)(4). Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno. At ddibenion Rheoliadau 2009 fel y maent yn cael effaith fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i offerynnau’r UE y cyfeirir atynt yn Rheoliadau 2009 gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o dro i dro.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Rhagfyr 2015.
2. Mae Rheoliadau Difrod (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 5.
3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “cynefin naturiol” (“natural habitat”) yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)cynefinoedd rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC ar warchod adar gwyllt(5), neu yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno, neu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(6);”;
(b)ar gyfer y diffiniad o “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) rhodder—
“ystyr “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) yw rhywogaethau o fath a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/147/EC neu a restrir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno neu Atodiadau II a IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC;”
4. Yn Atodlen 1 (Difrod i rywogaethau a warchodir, cynefinoedd naturiol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig), yn lle paragraff 5 rhodder—
5. Nid yw difrod i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol, a difrod i safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, yn cynnwys difrod a achoswyd gan weithred a awdurdodwyd yn bendant gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(7) neu Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010(8).”
5. Yn Atodlen 2 (Gweithgareddau sy’n achosi difrod)—
(a)yn lle paragraff 2 (Gweithredu gweithfeydd a ganiateir) rhodder—
2. Gweithredu gweithfeydd sy’n ddarostyngedig i drwydded yn unol â Chyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch allyriadau diwydiannol (dulliau integredig o atal a rheoli llygredd)(9).”
(b)ym mharagraff 3(2) (Gweithrediadau rheoli gwastraff) yn lle’r geiriau “Gyfarwyddeb 2000/76/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar hylosgi gwastraff” rhodder “Gyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol (dulliau integredig o atal a rheoli llygredd).”;
(c)ym mharagraff 5(2) (Gollyngiadau y mae’n ofynnol cael awdurdodiad ar eu cyfer) ar ôl y gair “penodol” mewnosoder “neu Gyfarwyddeb 2006/118/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a dirywiad(10)”;
(d)(ch) ym mharagraff 7(ch) (Sylweddau peryglus, cynhyrchion diogelu planhigion a chynhyrchion bywleiddiol) ar ôl y gair “farchnad”, mewnosoder “neu fel y’u diffinir yn Erthygl 3(1)(a) o Reoliad Rhif 528/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rhoi cynhyrchion bywleiddiol ar gael ar y farchnad a’r defnydd ohonynt(11)”.
(e)yn lle paragraff 8 rhodder—
8. Cludo ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffyrdd mewndirol, ar y môr neu drwy’r awyr nwyddau peryglus; neu nwyddau llygru fel y’u diffinnir yn—
(a)Cyfarwyddeb 2002/59/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar sefydlu system fonitro traffig a gwybodaeth llestrau Cymunedol(12); a
(b)Cyfarwyddeb 2008/68/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gludo nwyddau peryglus ar y tir(13)”.
(f)Yn Atodlen 2 ar ôl paragraff 10 mewnosoder—
Gweithredu safleoedd storio carbon deuocsid yn unol â Chyfarwyddeb 2009/31/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar storio daearegol o garbon deuocsid(14).”
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
24 Tachwedd 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”) sy’n parhau i weithredu Cyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol o ran atal ac adfer difrod amgylcheddol.
Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniadau “cynefin naturiol (“natural habitat”) a “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) i adlewyrchu’r ffaith bod Cyfarwyddeb 2009/147/EC yn cydgrynhoi ac yn disodli Cyfarwyddeb 79/407/EEC.
Mae rheoliad 4 yn diwygio paragraff 5 o Atodlen 1 i Reoliadau 2009 i ddiweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth y gellir awdurdodi gwneud difrod i rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol, a difrod ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, o dani.
Mae rheoliad 5 yn diweddaru’r rhestr o ddeddfwriaeth yr UE yn Atodlen 2 i Reoliadau 2009, sy’n cyfeirio at y gweithgareddau a fydd yn denu atebolrwydd caeth. Nid effeithir ar natur y gweithgareddau yn y rhestr.
Mae cyfeiriadau at holl ddeddfwriaeth yr UE, ac eithrio Cyfarwyddeb 2004/35/EC yn gyfeiriadau at ddeddfwriaeth fel y’i diwygir o dro i dro.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1972 p.68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51) a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p.7).
Mewnosodwyd paragraff 1A yn Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2007/1388.
O.S. 2009/995 (Cy. 81); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2011/556, 2011/971 (Cy. 141), 2012/630, 2013/755 (Cy. 90) a 2015/1394 (Cy. 138). Offerynnau diwygio eraill nad ydynt yn berthnasol i’r dibenion hyn yw O.S. 2011/1043 ac O.S. 2011/2131.
OJ Rhif L 20, 26.01.2010, t.7; diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU (OJ Rhif L 158, 10.06.2013, t.193).
OJ Rhif L 206, 22.07.1992, t.7; diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/17/EU (OJ Rhif L 158, 10.06.2013, t.193).
O.S. 2010/490, diwygiwyd gan O.S. 2011/603, 2011/625, 2012/630, 2012/635, 2012/637, 2012/1927, 2013/755 (Cy. 90) ac O.S. 2015/377.
OJ Rhif L 334, 17.12.2010, t.17.
OJ Rhif L 372, 27.12.2006, t.19, diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/80/EU (OJ Rhif L 182, 21.6.2014, t.52).
OJ Rhif L 167, 27.6.2012, t.1; diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (UE) Rhif 334/2014 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 103, 5.4.2014, t.22).
OJ Rhif L 208, 5.8.2002, t.10; diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2014/100/EU (OJ Rhif L 308, 29.10.2014, t.82).
OJ Rhif L 260, 30.9.2008, t.13; diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2015/974/EU (OJ Rhif L 157/53, 17.6.2015, t.53).
OJ Rhif L 140, 5.6.2009, t.114; diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2011/92/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 26, 28.1.2012, t.1).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys