Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 16

ATODLEN 1Gwybodaeth a materion eraill i’w cynnwys mewn hysbysiad

1.  Enw, cyfeiriad (gan gynnwys cod post), rhif ffacs (os yw’n gymwys), rhif ffôn a chyfeiriad post electronig (os yw’n gymwys) y trethdalwr.

2.  Cyfeiriad (gan gynnwys cod post) yr hereditament y gwneir cais am ryddhad ardrethi i fusnesau bach mewn cysylltiad ag ef ac, os yw hynny’n hysbys, ei rif cyfrif ardrethu annomestig.

3.  Yn achos mangre a ddefnyddir ar gyfer gofal plant—

(a)cadarnhad—

(i)bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 uchod yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl at ddibenion gofal plant fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn;

(ii)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl; a

(b)enw a chyfeiriad y darparwr cofrestredig a’i rif cofrestru.

4.  Yn achos swyddfa bost, cadarnhad bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 uchod yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n rhannol at ddibenion swyddfa bost fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn.

5.  Yn achos mangre fanwerthu—

(a)cadarnhad—

(i)bod yr hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 uchod yn cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion mangre fanwerthu fel a ddisgrifir yn y Gorchymyn hwn;

(ii)bod yr hereditament yn cael ei feddiannu’n gyfan gwbl;

(b)cyfeiriad llawn unrhyw hereditament arall neu hereditamentau eraill yng Nghymru y mae’r trethdalwr yn ei feddiannu neu’n eu meddiannu neu wedi ei feddiannu neu eu meddiannu ar unrhyw adeg ers y dyddiad ym mharagraff 7 isod;

(c)cadarnhad nad yw’r trethdalwr nac unrhyw un ar ei ran wedi rhoi hysbysiad o dan erthygl 16 o’r Gorchymyn hwn i unrhyw awdurdod bilio yng Nghymru mewn cysylltiad ag unrhyw hereditament arall;

(d)os na ellir rhoi’r cadarnhad yn is-baragraff (c), rhaid darparu manylion llawn unrhyw hysbysiad a roddwyd i awdurdod bilio; ac

(e)ymgymeriad gan y trethdalwr (neu os nad y trethdalwr yw’r person sy’n llofnodi’r hysbysiad, ymgymeriad ar ran y trethdalwr) y bydd y trethdalwr, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, yn ysgrifennu i hysbysu’r awdurdod bilio o’r canlynol—

(i)cyfeiriad unrhyw hereditament yng Nghymru y mae’r trethdalwr wedi dechrau ei feddiannu ers iddo roi’r hysbysiad;

(ii)y dyddiad pryd y dechreuodd y trethdalwr feddiannu’r hereditament hwnnw;

(iii)y dyddiad pryd y peidiodd y trethdalwr â meddiannu’r hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2 at ddibenion mangre fanwerthu;

(iv)y dyddiad pryd y rhoddwyd hysbysiad i unrhyw awdurdod bilio yng Nghymru gan neu ar ran y trethdalwr o dan y Gorchymyn hwn mewn cysylltiad â hereditament ac eithrio’r un a grybwyllir ym mharagraff 2 a chyfeiriad yr hereditament arall hwnnw.

6.  Ac eithrio yn achos swyddfa bost, cadarnhad nad yw’r hereditament yn eiddo a eithrir fel y’i disgrifir yn y Gorchymyn hwn.

7.  Cadarnhad o’r naill neu’r llall o’r canlynol—

(a)y dyddiad pryd y cafodd yr hereditament ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir yn yr hysbysiad a’i fod wedi parhau i gael ei ddefnyddio felly hyd at ddyddiad yr hysbysiad; neu

(b)y dyddiad y bydd yr hereditament yn cael ei ddefnyddio gyntaf fel a ddisgrifir uchod.

8.  Ymgymeriad gan y trethdalwr (neu os nad y trethdalwr yw’r person sy’n llofnodi’r hysbysiad, ymgymeriad ar ran y trethdalwr) y bydd y trethdalwr, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, yn ysgrifennu i hysbysu’r awdurdod bilio os yw o’r farn y gallai beidio â bod mwyach yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi o dan y Gorchymyn hwn.

9.  Awdurdodiad gan y trethdalwr yn awdurdodi’r awdurdod bilio y rhoddir yr hysbysiad iddo i gaffael gan unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae’r awdurdod o’r farn ei bod yn berthnasol at ddibenion cadarnhau unrhyw wybodaeth a roddir yn yr hysbysiad neu at ddibenion sicrhau mewn unrhyw ddull arall gymhwystra’r trethdalwr i gael rhyddhad mewn cysylltiad â’r hereditament a grybwyllir ym mharagraff 2.

10.  Llofnod y trethdalwr neu’r person wedi ei awdurdodi i lofnodi ar ran y trethdalwr.

11.  Disgrifiad o swyddogaeth y person sy’n llofnodi’r hysbysiad.

12.  Dyddiad yr hysbysiad.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill