Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Sefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2015

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Rheoliad 2

ATODLEN 1RHEOLIADAU A DDIDDYMIR

Rheoliadau a ddiddymirCyfeiriadauGraddau’r diddymu
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2005O.S. 2005/1818 (Cy. 146)Yn llwyr
Rheoliadau Addysg (Diwygiadau i Reoliadau ynghylch Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Cymru) 2007O.S. 2007/2811 (Cy. 238)Rheoliad 3
Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol (Cymru) 2012O.S. 2012/724 (Cy. 96)Rheoliad 10
Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2012O.S. 2012/1675 (Cy. 216)Yn llwyr

Rheoliad 6

ATODLEN 2Achosion pan geir cyflogi person fel Athro neu Athrawes mewn ysgol berthnasol pan nad yw wedi cwblhau Cyfnod Sefydlu yn foddhaol

1.  Person a oedd, ar 1 Ebrill 2003 yn athro neu athrawes gymwysedig.

2.  Person sydd—

(a)yn ymgymryd â chyfnod sefydlu (gan gynnwys cyfnod sefydlu a estynnwyd cyn ei gwblhau o dan reoliad 10 neu ar ôl ei gwblhau o dan reoliad 13 neu 16); neu

(b)wedi cwblhau cyfnod sefydlu o’r fath ac a gyflogir i weithio fel athro neu athrawes tra arhosir am benderfyniad gan y corff priodol o dan reoliad 13 o’r Rheoliadau hyn neu reoliad 15 o Reoliadau Sefydlu Lloegr.

3.  Person a fethodd â chwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol ac y cyfyngir ar ei gyflogaeth o dan reoliad 15(5) tra arhosir am ganlyniad apêl.

4.  Person sy’n athro neu athrawes ysgol yn yr ystyr a roddir i “school teacher” gan adran 122(5) o Ddeddf 2002.

5.  Person sydd wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol o dan Reoliadau Sefydlu Lloegr.

6.  Person a gofrestrwyd yn llawn, neu sy’n gymwys i gael ei gofrestru’n llawn, fel athro neu athrawes addysg gynradd neu uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

7.  Person—

(a)sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus y cyfnod sefydlu ar gyfer addysg athrawon yng Ngogledd Iwerddon; neu

(b)a gyflogid fel athro neu athrawes yng Ngogledd Iwerddon ar unrhyw adeg cyn cyflwyno’r cyfnod sefydlu yn hyfforddiant athrawon yng Ngogledd Iwerddon.

8.  Person sydd, mewn perthynas â phroffesiwn athro neu athrawes ysgol yn dod o fewn Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007(1), fel y’u hestynnwyd gan Gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y’i haddaswyd gan y protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, ac fel y’i diwygiwyd gan y Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a’i Haelod-wladwriaethau ar y naill law a’r Cydffederasiwn Swisaidd ar y llall, ar Ryddid Personau i Symud, a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002.

9.  Person sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus gyfnod prawf ar gyfer athrawon o dan drefniadau a gymeradwywyd ac a oruchwyliwyd gan Gyfarwyddwr Addysg Gibraltar.

10.  Person sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus Raglen Sefydlu Taleithiau Jersey ar gyfer Athrawon sydd Newydd Gymhwyso.

11.  Person a gymeradwywyd gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey fel person sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus gyfnod sefydlu ar gyfer athrawon.

12.  Person sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus gyfnod sefydlu ar gyfer athrawon o dan drefniadau a gymeradwywyd ac a oruchwyliwyd gan Adran Addysg Ynys Manaw.

13.  Person sydd wedi cwblhau’n llwyddiannus Raglen Sefydlu Ysgolion Addysg Plant y Lluoedd Arfog yn yr Almaen neu yng Nghyprus.

14.  Person a oedd ar neu cyn 1 Ebrill 2003—

(a)yn gyflogedig fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yng Nghymru neu Loegr; a

(b)naill ai—

(i)wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs hyfforddiant cychwynnol ar gyfer athrawon mewn ysgolion, mewn sefydliad addysgol yn yr Alban, neu

(ii)wedi’i gofrestru fel athro neu athrawes addysg gynradd neu uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

15.  Person a oedd ar neu cyn 1 Ebrill 2003—

(a)yn gyflogedig fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yng Nghymru neu Loegr; a

(b)naill ai—

(i)wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs hyfforddiant cychwynnol ar gyfer athrawon mewn ysgolion, mewn sefydliad addysgol yng Ngogledd Iwerddon, neu

(ii)y dyfarnwyd i’r person hwnnw gadarnhad o’i gydnabod fel athro neu athrawes mewn ysgolion yng Ngogledd Iwerddon gan Adran Addysg Gogledd Iwerddon, a’r cadarnhad hwnnw heb ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg ar ôl ei ddyfarnu.

16.  Person sy’n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 12 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny neu yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 1999 a pharagraff 10 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999.

17.  Person sy’n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 13 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny neu yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 1999 a pharagraff 11 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999.

18.  Person y ceir ei gyflogi o dan Reoliadau Sefydlu Lloegr fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yn Lloegr, pan nad yw’r person hwnnw wedi cwblhau cyfnod sefydlu yn foddhaol.

19.  Person sydd—

(a)wedi cwblhau’n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynol ar gyfer athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ac a gydnabyddir felly gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno;

(b)â dim llai na dwy flynedd o brofiad o addysgu amser-llawn, neu brofiad cyfatebol, yn y Deyrnas Unedig neu mewn man arall;

(c)yn athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 2 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny, neu yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 9 neu 10 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny, neu yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 1999 a pharagraff 7 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny; a

(d)naill ai—

(i)wedi bodloni’n llwyddiannus gyfnod o brofiad proffesiynol yn dilyn hyfforddiant proffesiynol (cymaradwy â chyfnod sefydlu yng Nghymru), mewn unrhyw wlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a gydnabyddir fel y cyfryw gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno, neu

(ii)yr aseswyd ei fod yn bodloni’r safonau a benderfynwyd o dan adran 18 o Ddeddf 2014 gan sefydliad a achredwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol neu berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

20.  Person sydd—

(a)yn athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 7 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny neu yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 10 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny ac, yn y naill achos neu’r llall, a ddaeth yn athro neu athrawes gymwysedig o’r fath drwy fodloni gofynion cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth, rywfodd ac eithrio drwy gwblhau’n llwyddiannus gyfnod o hyfforddiant ar y cynllun; a

(b)yr aseswyd ei fod yn bodloni’r safonau a benderfynwyd o dan adran 18 o Ddeddf 2014 gan sefydliad a achredwyd gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru o dan reoliad 7 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol neu berson a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

Rheoliad 16

ATODLEN 3Y weithdrefn ar gyfer apelio yn erbyn penderfyniad gan y corff priodol

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “apelydd” (“appellant”) yw person sy’n dwyn apêl o dan adran 19(1) o Ddeddf 2014 yn erbyn penderfyniad gan y corff priodol o dan reoliad 13;

ystyr “corff priodol” (“appropriate body”) yw’r corff priodol a wnaeth y penderfyniad sy’n destun apêl;

ystyr “penderfyniad a herir” (“disputed decision”) yw’r mater y mae’r apelydd yn apelio i’r Cyngor mewn perthynas ag ef; ac

ystyr “swyddog priodol” (“proper officer”) yw’r person a benodir gan y Cyngor i gyflawni dyletswyddau swyddog priodol o dan yr Atodlen hon.

Y dull a’r amser a ganiateir ar gyfer apelio

2.—(1Rhaid gwneud apêl drwy anfon hysbysiad o apêl at y swyddog priodol, fel bod yr hysbysiad o apêl yn cyrraedd o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd yr apelydd hysbysiad o dan reoliad 13(4) o’r penderfyniad a herir.

(2Caiff y Cyngor estyn y terfyn amser a bennir gan is-baragraff (1), pa un ai yw’r cyfnod a ganiateir wedi dod i ben ai peidio, ond rhaid i’r Cyngor beidio â gwneud hynny oni fodlonir ef y byddai peidio ag estyn y terfyn amser yn arwain at anghyfiawnder sylweddol.

(3Os yw’r apelydd yn credu y bydd hysbysiad o apêl yn debygol o gyrraedd y tu allan i’r terfyn amser a bennir gan is-baragraff (1), caiff gyflwyno, gyda’r hysbysiad o apêl, ddatganiad o’r rhesymau y dibynnir arnynt i gyfiawnhau’r oedi a rhaid i’r Cyngor ystyried unrhyw ddatganiad o’r fath wrth benderfynu a ddylid estyn y terfyn amser ai peidio.

Yr hysbysiad o apêl

3.—(1Rhaid i’r hysbysiad o apêl ddatgan—

(a)enw a chyfeiriad yr apelydd;

(b)enw a chyfeiriad yr ysgol y cyflogid yr apelydd ynddi ar ddiwedd y cyfnod sefydlu;

(c)enw a chyfeiriad cyflogwr yr apelydd, os oes un, ar y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o apêl at y Cyngor;

(d)seiliau’r apêl;

(e)enw, cyfeiriad a phroffesiwn y person (os oes un) sy’n cynrychioli’r apelydd, a pha un ai dylai’r Cyngor anfon dogfennau sy’n ymwneud â’r apêl at y cynrychiolydd hwnnw yn hytrach nag at yr apelydd; ac

(f)pa un ai yw’r apelydd yn gofyn am i’r apêl gael ei phenderfynu mewn gwrandawiad llafar.

(2Rhaid i’r hysbysiad o apêl gael ei lofnodi gan yr apelydd.

(3Rhaid i’r apelydd atodi copïau o’r canlynol ynghlwm wrth yr hysbysiad o apêl—

(a)yr hysbysiad a roddwyd i’r apelydd gan y corff priodol o dan reoliad 13(4) mewn perthynas â’r penderfyniad a herir;

(b)unrhyw ddatganiad ysgrifenedig a roddwyd i’r apelydd gan y corff priodol yn rhoi rhesymau dros ei benderfyniad; ac

(c)pob dogfen arall y mae’r apelydd yn dibynnu arni at ddibenion yr apêl.

Dogfennau ychwanegol, diwygio’r apêl a thynnu’r apêl yn ôl

4.—(1Ar unrhyw adeg cyn cael hysbysiad o’r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad o dan baragraff 13 neu hysbysiad o benderfyniad gan y Cyngor o dan baragraff 11, caiff yr apelydd—

(a)anfon copïau o unrhyw ddogfennau ychwanegol y mae’n dymuno dibynnu arnynt at ddibenion yr apêl at y swyddog priodol;

(b)diwygio neu dynnu’n ôl yr apêl, neu unrhyw ran ohoni; neu

(c)diwygio unrhyw ddeunydd a gyflwynwyd i ategu’r apêl neu ei dynnu yn ôl.

(2Ar unrhyw adeg, caiff yr apelydd gymryd unrhyw gam a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyda chaniatâd y Cyngor.

(3Os yw apelydd yn tynnu apêl yn ôl, ni chaiff ddwyn apêl newydd mewn perthynas â’r penderfyniad a herir.

(4Ceir diwygio apêl neu dynnu yn ôl drwy anfon at y swyddog priodol hysbysiad apêl diwygiedig, neu hysbysiad sy’n datgan bod yr apêl yn cael ei thynnu yn ôl, yn ôl fel y digwydd.

Cydnabod yr apêl a hysbysu yn ei chylch

5.—(1O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith, sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd y Cyngor yr hysbysiad o’r apêl, rhaid i’r swyddog priodol—

(a)anfon at yr apelydd gydnabyddiaeth o gael yr apêl;

(b)anfon copi o’r hysbysiad o apêl ac unrhyw ddogfennau sydd ynghlwm wrtho at y corff priodol;

(c)os enwir unrhyw berson neu gorff ac eithrio’r corff priodol fel cyflogwr yr apelydd yn yr hysbysiad o apêl, anfon copi o’r hysbysiad o apêl at y person neu’r corff hwnnw; a

(d)anfon copi o’r hysbysiad o apêl at bennaeth yr ysgol neu’r coleg AB lle y cyflogid yr apelydd pan gwblhawyd y cyfnod sefydlu.

(2O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd y Cyngor gan yr apelydd unrhyw ddogfennau ychwanegol, seiliau diwygiedig dros apelio, dogfennau diwygiedig a gyflwynwyd i ategu’r apêl, neu hysbysiad bod apêl yn cael ei thynnu’n ôl, rhaid i’r swyddog priodol anfon copïau at y corff priodol.

Cais am ragor o ddeunydd

6.—(1Os yw’r Cyngor o’r farn y gellid penderfynu’r apêl yn decach ac yn fwy effeithlon pe bai’r apelydd yn darparu rhagor o ddeunydd, caiff anfon hysbysiad at yr apelydd sy’n ei wahodd i gyflenwi’r deunydd o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda dyddiad yr hysbysiad.

(2Pan fo’r Cyngor yn anfon hysbysiad o dan is-baragraff (1) rhaid i’r swyddog priodol, ar yr un pryd, hysbysu’r corff priodol ei fod wedi gwneud hynny.

(3O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd y Cyngor ragor o ddeunydd o dan is-baragraff (1) rhaid i’r swyddog priodol anfon copi ohono at y corff priodol.

Ateb gan y corff priodol

7.—(1Rhaid i’r corff priodol anfon ateb at y swyddog priodol sy’n bodloni gofynion paragraff 8, fel bod yr ateb hwnnw’n cyrraedd o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd y corff priodol gopi o’r hysbysiad o apêl.

(2Caiff y Cyngor estyn y terfyn amser a bennir gan is-baragraff (1), pa un ai yw’r cyfnod a ganiateir wedi dod i ben ai peidio.

(3Rhaid i’r Cyngor ganiatáu’r apêl os yw’r corff priodol yn datgan yn ei ateb, neu yn datgan yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg, nad yw’n bwriadu cadarnhau’r penderfyniad a herir, a rhaid i’r Cyngor wneud hynny o fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd y Cyngor hysbysiad nad oedd y corff priodol yn bwriadu cadarnhau’r penderfyniad a herir.

Cynnwys yr ateb

8.—(1Rhaid i’r ateb ddatgan—

(a)enw a chyfeiriad y corff priodol;

(b)pa un ai yw’r corff priodol yn bwriadu cadarnhau’r penderfyniad a herir ai peidio; ac

(c)mewn achosion pan fo’r corff priodol yn bwriadu cadarnhau’r penderfyniad a herir—

(i)ateb y corff priodol i bob un o’r seiliau dros yr apêl a roddwyd gan yr apelydd,

(ii)pa un ai yw’r corff priodol yn gwneud cais am wrandawiad llafar ai peidio, a

(iii)enw, cyfeiriad a phroffesiwn y person (os oes un) sy’n cynrychioli’r corff priodol, a pha un ai ddylai’r Cyngor anfon dogfennau sy’n ymwneud â’r apêl at y cynrychiolydd hwnnw yn hytrach nag at y corff priodol.

(2Rhaid i’r corff priodol atodi copïau o’r canlynol ynghlwm wrth yr ateb—

(a)unrhyw ddogfen y mae’n dymuno dibynnu arni at ddibenion gwrthwynebu’r apêl; a

(b)os nad yw’r apelydd wedi anfon at y swyddog priodol gopi o ddatganiad ysgrifenedig a roddwyd i’r apelydd gan y corff priodol yn rhoi rhesymau dros benderfyniad y corff priodol, ddatganiad sy’n rhoi rhesymau dros y penderfyniad.

Dogfennau ychwanegol, diwygio’r ateb a thynnu’r ateb yn ôl

9.—(1Ar unrhyw adeg cyn iddo gael hysbysiad o’r dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad o dan baragraff 13 neu hysbysiad o benderfyniad y Cyngor o dan baragraff 11, caiff y corff priodol—

(a)anfon copïau o unrhyw ddogfennau ychwanegol y mae’n dymuno dibynnu arnynt at ddibenion gwrthwynebu’r apêl at y swyddog priodol;

(b)diwygio ei ateb neu dynnu ei ateb, neu unrhyw ran ohono, yn ôl;

(c)diwygio unrhyw ddeunydd a gyflwynwyd i ategu’r ateb neu ei dynnu yn ôl.

(2Ar unrhyw adeg caiff y corff priodol gymryd unrhyw gam a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyda chaniatâd y Cyngor.

(3Ceir diwygio ateb neu dynnu yn ôl drwy anfon at y swyddog priodol ateb diwygiedig, neu hysbysiad sy’n datgan bod yr ateb yn cael ei dynnu yn ôl, yn ôl fel y digwydd.

Cydnabod yr ateb a hysbysu yn ei gylch

10.—(1O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd y Cyngor yr ateb, rhaid i’r swyddog priodol—

(a)anfon at y corff priodol gydnabyddiaeth o gael yr ateb; a

(b)anfon copi o’r ateb ac unrhyw ddogfennau sydd ynghlwm wrtho at yr apelydd.

(2O fewn y cyfnod o ddeg diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y cafodd y Cyngor gan y corff priodol unrhyw ddogfennau ychwanegol, ateb diwygiedig, dogfennau diwygiedig a gyflwynwyd i ategu ateb, neu hysbysiad bod ateb yn cael ei dynnu’n ôl, rhaid i’r swyddog priodol anfon copïau at yr apelydd.

Pŵer i benderfynu’r apêl heb wrandawiad

11.—(1Ar ôl diwedd y cyfnod pan yw’n ofynnol bod y corff priodol yn anfon ei ateb, os nad yw’r apelydd na’r corff priodol wedi gwneud cais am wrandawiad llafar ac nad yw’r Cyngor o’r farn bod angen gwrandawiad llafar, caiff y Cyngor benderfynu’r apêl heb wrandawiad llafar.

(2Ar ôl diwedd y cyfnod pan yw’n ofynnol bod y corff priodol yn anfon ei ateb, os nad yw’r corff priodol wedi gwneud hynny, caiff y Cyngor ganiatáu’r apêl heb wrandawiad llafar.

(3Os yw’r Cyngor yn penderfynu’r apêl heb wrandawiad llafar, rhaid iddo anfon hysbysiad o’i benderfyniad fel sy’n ofynnol gan baragraff 17, fel bod yr hysbysiad yn cyrraedd yr apelydd a’r corff priodol o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r diwrnod sy’n dilyn y dyddiad y daeth y cyfnod a ganiateid ar gyfer anfon ateb i ben.

Gwrandawiad apêl

12.  Mae paragraffau 13 i 16 yn gymwys os penderfynir apêl ar sail gwrandawiad llafar.

Pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad

13.—(1Rhaid i’r Cyngor bennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad—

(a)o fewn y cyfnod o 20 diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r diwrnod sy’n dilyn y dyddiad y daeth y cyfnod a ganiateid ar gyfer anfon ateb i ben; a

(b)nid cyn y diwrnod yn dilyn y dyddiad y daeth y cyfnod ar gyfer anfon ateb i ben.

(2Ar yr un diwrnod ag y pennir dyddiad gan y Cyngor ar gyfer y gwrandawiad, rhaid i’r swyddog priodol anfon at yr apelydd a’r corff priodol hysbysiad—

(a)yn eu hysbysu ynghylch amser a lleoliad gwrandawiad yr apêl;

(b)yn rhoi canllawiau ynghylch y weithdrefn a fydd yn gymwys yn y gwrandawiad;

(c)yn eu hysbysu ynghylch canlyniadau peidio â bod yn bresennol yn y gwrandawiad; a

(d)yn eu hysbysu bod hawl ganddynt i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig os na fyddant yn bresennol yn y gwrandawiad.

(3Ni chaiff y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad fod yn gynharach na 15 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad yr hysbysiad.

Y camau sydd i’w cymryd gan yr apelydd a’r corff priodol ar ôl cael yr hysbysiad am y gwrandawiad

14.—(1Rhaid i’r apelydd a’r corff priodol, ddim llai na deg diwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad—

(a)rhoi gwybod i’r swyddog priodol pa un ai ydynt yn bwriadu ymddangos neu gael eu cynrychioli yn y gwrandawiad ai peidio;

(b)rhoi gwybod i’r swyddog priodol pa dystion, os oes rhai, y bwriadant eu galw yn y gwrandawiad; ac

(c)os nad ydynt yn bwriadu ymddangos neu gael eu cynrychioli yn y gwrandawiad, cânt anfon at y swyddog priodol unrhyw sylwadau ysgrifenedig i ategu’r deunydd a anfonwyd eisoes at y swyddog priodol.

(2O fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y mae’r swyddog priodol yn cael unrhyw sylwadau, rhaid iddo anfon, at bob parti neu’r llall, gopïau o unrhyw sylwadau a gaiff gan y parti arall o dan y paragraff hwn.

Newid lleoliad neu amser y gwrandawiad

15.—(1Caiff y Cyngor newid lleoliad neu amser y gwrandawiad o dan unrhyw amgylchiadau sydd ym marn y Cyngor yn briodol, ar yr amod nad yw’r dyddiad newydd ar gyfer y gwrandawiad yn gynharach na’r dyddiad gwreiddiol.

(2Os yw’r Cyngor yn newid lleoliad neu amser y gwrandawiad, rhaid i’r swyddog priodol, yn ddi-oed ond beth bynnag o fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y gwnaed y newid, anfon hysbysiad o’r newid at yr apelydd a’r corff priodol.

Y weithdrefn yn y gwrandawiad

16.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y paragraff hwn, rhaid i’r Cyngor benderfynu ar y weithdrefn yn ystod gwrandawiad yr apêl.

(2Rhaid cynnal gwrandawiad yr apêl yn gyhoeddus oni fydd y Cyngor yn penderfynu ei bod yn deg a rhesymol cynnal y gwrandawiad neu unrhyw ran ohono yn breifat.

(3Caiff yr apelydd a’r corff priodol ymddangos yn y gwrandawiad a gallant gael eu cynrychioli neu eu cynorthwyo gan unrhyw berson.

(4Os yw’r apelydd neu’r corff priodol yn methu â bod yn bresennol yn y gwrandawiad, caiff y Cyngor glywed yr apêl yn absenoldeb y parti hwnnw ac, ar yr amod bod y Cyngor wedi ystyried unrhyw sylwadau a wnaed gan y parti hwnnw o dan baragraff 14, penderfynu’r apêl.

(5Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), caiff yr apelydd a’r corff priodol roi tystiolaeth, galw tystion, holi unrhyw dystion ac annerch y Cyngor, ar y dystiolaeth ac yn gyffredinol ar bwnc yr apêl.

(6Ar unrhyw adeg yn ystod y gwrandawiad, caiff y Cyngor gyfyngu ar hawliau’r naill barti neu’r llall o dan is-baragraff (5) ar yr amod y bodlonir y Cyngor na fydd gwneud hynny yn rhwystro penderfynu’r apêl yn deg.

(7Caiff y Cyngor ohirio’r gwrandawiad, ond rhaid iddo beidio â gwneud hynny oni fydd wedi ei fodloni bod angen gwneud hynny er mwyn penderfynu’r apêl yn deg.

(8Rhaid naill ai cyhoeddi amser a lleoliad gwrandawiad gohiriedig cyn ei ohirio neu rhaid i’r Cyngor, yn ddi-oed, ond beth bynnag o fewn y cyfnod o dri diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda dyddiad y gohirio, anfon hysbysiad o amser a lleoliad y gwrandawiad gohiriedig at yr apelydd a’r corff priodol.

Penderfyniad y Cyngor

17.—(1Ceir gwneud a chyhoeddi penderfyniad y Cyngor ar ddiwedd y gwrandawiad ond, ym mhob achos, pa un ai gynhaliwyd gwrandawiad ai peidio, rhaid cofnodi’r penderfyniad yn union ar ôl ei wneud, a hynny mewn dogfen y mae’n rhaid iddi gynnwys yn ogystal ddatganiad o’r rhesymau dros y penderfyniad ac y mae’n rhaid ei llofnodi a’i dyddio gan berson a awdurdodir gan y Cyngor.

(2O fewn y cyfnod o bum diwrnod gwaith sy’n dechrau gyda’r dyddiad y gwnaed y penderfyniad, rhaid i’r Cyngor—

(a)anfon copi o’r ddogfen y cyfeirir ati yn is-baragraff (1) at yr apelydd, y corff priodol a phennaeth yr ysgol neu’r coleg AB lle y cyflogid yr apelydd pan gwblhawyd y cyfnod sefydlu ei gwblhau; a

(b)os enwyd person neu gorff ac eithrio’r corff priodol fel cyflogwr yr apelydd yn yr hysbysiad o apêl, hysbysu’r corff neu’r person hwnnw o’i benderfyniad.

Afreoleidd-dra

18.—(1Ni fydd unrhyw afreoleidd-dra sy’n deillio o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau’r Atodlen hon cyn bo’r Cyngor yn cyrraedd ei benderfyniad yn peri, ynddo’i hunan, nad yw’r achos apêl yn cael effaith.

(2Os daw unrhyw afreoleidd-dra o’r fath i sylw’r Cyngor, caiff y Cyngor, cyn dod i’w benderfyniad, roi unrhyw gyfarwyddiadau sy’n gyfiawn ym marn y Cyngor er mwyn unioni neu ddiystyru’r afreoleidd-dra; a rhaid i’r Cyngor wneud hynny os yw o’r farn bod buddiant y naill barti neu’r llall wedi ei beryglu gan yr afreoleidd-dra.

Dogfennau

19.—(1Ceir anfon unrhyw beth y mae’n ofynnol ei anfon at berson, at ddibenion apêl o dan yr Atodlen hon drwy—

(a)ei drosglwyddo i’r person hwnnw yn bersonol; neu

(b)ei anfon at y person hwnnw yn ei gyfeiriad priodol drwy’r post; neu

(c)ei anfon ato drwy ffacs, y post electronig neu ddull cyffelyb arall sydd â chyfleuster i gynhyrchu dogfen sy’n cynnwys testun y cyfathrebiad, a rhaid ystyried bod hysbysiad a anfonir drwy ddull o’r fath wedi ei roi pan ddaw i law mewn ffurf ddarllenadwy.

(2Cyfeiriad priodol person yw’r cyfeiriad a ddatganwyd yn yr hysbysiad o apêl neu’r ateb, neu unrhyw gyfeiriad arall yr hysbysir y swyddog priodol ohono yn ddiweddarach.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill