Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

PENNOD 4Trosglwyddo cofnodion cyfrif pensiwn i reolwr cynllun arall

Gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif

155.—(1Yn achos aelod actif y peidiodd â bod yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun gydag un cyflogwr ac a ddechreuodd mewn cyflogaeth gynllun gydag awdurdod arall, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu tystysgrif sy’n datgan—

(a)y cofnodion yn y cyfrif pensiwn, neu’r cyfrifon pensiwn os oes mwy nag un, ar ddyddiad y dystysgrif;

(b)y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy yn y gyflogaeth neu’r cyflogaethau cynllun, gyda’r cyflogwr; ac

(c)y dyddiad y rhoddir y dystysgrif.

(2Pan fo aelod gohiriedig wedi dechrau mewn cyflogaeth gynllun gydag awdurdod arall ar ôl bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na phum mlynedd, rhaid i’r aelod ofyn i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r cyfnod cynharaf o wasanaeth pensiynadwy ddarparu i’r aelod dystysgrif sy’n datgan—

(a)y cofnodion yn y cyfrif pensiwn, neu’r cyfrifon pensiwn os oes mwy nag un, ar ddyddiad y dystysgrif;

(b)y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy yn y gyflogaeth neu’r cyflogaethau cynllun, gyda’r cyflogwr hwnnw;

(c)y dyddiad y peidiodd yr aelod â bod yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun gan y cyflogwr hwnnw; a

(d)y dyddiad y rhoddir y dystysgrif.

(3Pan yw’n ofynnol bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif o dan baragraff (1) a’r rheolwr cynllun wedi sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol ar gyfer yr aelod hwnnw, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu tystysgrif i’r aelod, sy’n datgan—

(a)y cofnodion yn y cyfrif pensiwn ychwanegol ar ddyddiad y dystysgrif;

(b)y dyddiad y rhoddir y dystysgrif; ac

(c)manylion dewisiad pensiwn ychwanegol yr aelod os nad yw’r cyfnod cyfraniadau wedi dod i ben.

(4Pan yw’n ofynnol bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif o dan baragraff (2), neu pan fo aelod gohiriedig yn bwriadu gwneud dewisiad pensiwn ychwanegol ar ôl dechrau cyflogaeth gynllun yn dilyn bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy sy’n hwy na phum mlynedd, a’r rheolwr cynllun mewn perthynas â chyfnod blaenorol o wasanaeth pensiynadwy wedi sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol, rhaid i’r rheolwr cynllun, os gofynnir iddo gan yr aelod, ddarparu tystysgrif i’r aelod, sy’n datgan—

(a)y cofnodion yn y cyfrif pensiwn ar ddyddiad y dystysgrif;

(b)y dyddiad y peidiodd yr aelod â bod yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun gan y cyflogwr hwnnw; ac

(c)y dyddiad y rhoddir y dystysgrif.

(5Pan fo gan aelod actif ddau neu ragor o gyfrifon aelod actif gyda dau neu ragor o reolwyr cynllun gwahanol, a’r aelod yn bwriadu gwneud, neu wedi gwneud, dewisiad pensiwn ychwanegol, caiff yr aelod ofyn am dystysgrif gan y rheolwr cynllun a sefydlodd y cyfrif pensiwn ychwanegol er mwyn gallu darparu’r dystysgrif honno i reolwr cynllun arall (B) mewn cysylltiad â chyfrif aelod actif gwahanol, fel y gellir trosglwyddo’r cofnodion i gyfrif pensiwn ychwanegol a sefydlir gan B.

(6Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu tystysgrif o dan y rheoliad hwn—

(a)o fewn tri mis wedi’r dyddiad y mae’r aelod actif yn gadael cyflogaeth gynllun; neu

(b)o fewn tri mis wedi’r dyddiad y mae’r aelod gohiriedig yn hysbysu’r rheolwr cynllun o’r gyflogaeth gynllun newydd.

Cais am gadarnhau manylion ar dystysgrif

156.  Pan fo tystysgrif wedi ei darparu i aelod o dan reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif) a’r aelod yn anfodlon ar yr wybodaeth a ddatgenir ar y dystysgrif, caiff yr aelod, o fewn y cyfnod o dri mis sy’n cychwyn ar y dyddiad y cafwyd y dystysgrif, ofyn i’r rheolwr cynllun a ddarparodd y dystysgrif i gadarnhau cywirdeb yr wybodaeth a gynhwysir ynddi neu i ddarparu tystysgrif ddiwygiedig.

Apêl ynghylch cofnodion ar dystysgrif

157.—(1Os nad yw aelod (P) yn fodlon ar y cofnodion sydd ar y dystysgrif, neu’r dystysgrif ddiwygiedig, wedi i P wneud cais o dan reoliad 156 (cais am gadarnhau manylion ar dystysgrif), caiff P, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun a ddarparodd y dystysgrif o fewn 28 i’r dyddiad hysbysu, ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn ymdrin â’r anghytundeb o dan drefniadau a gyflawnwyd gan y rheolwr cynllun yn unol â gofynion adran 50 o Ddeddf Pensiynau 1995(1) (datrys anghydfodau) a Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gweithdrefnau Mewnol i Ddatrys Anghydfodau, Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2008(2).

(2Ym mharagraff (1), “y dyddiad hysbysu” (“the notification date”) yw’r dyddiad a drinnir fel y dyddiad pan oedd P wedi cael gan y rheolwr cynllun naill ai gadarnhad o’r dystysgrif a ddarparwyd o dan reoliad 155 neu dystysgrif ddiwygiedig a ddarparwyd yn dilyn cais gan P o dan reoliad 156 (cais am gadarnhau manylion ar dystysgrif).

Trosglwyddo cofnodion cyfrif pensiwn

158.—(1Rhaid i aelod y darparwyd tystysgrif iddo o dan baragraff (1), , (3) neu (4) o reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif) roi’r dystysgrif i gyflogwr cynllun newydd yr aelod.

(2Rhaid i’r cyflogwr cynllun newydd ofyn i’r rheolwr cynllun a roddodd y dystysgrif gadarnhau bod yr aelod wedi darparu tystysgrifau mewn cysylltiad â’r holl gyfrifon pensiwn yr oedd y cyflogwr hwnnw’n rheolwr cynllun ar eu cyfer.

(3Rhaid i’r rheolwr cynllun a roddodd y dystysgrif ddarparu cadarnhad i’r cyflogwr newydd fod yr aelod wedi darparu tystysgrifau mewn cysylltiad â phob cyfrif pensiwn yr oedd y cyflogwr hwnnw’n rheolwr cynllun ar eu cyfer.

(4Wedi i’r cadarnhad gael ei ddarparu gan y rheolwr cynllun, rhaid i’r rheolwr cynllun newydd drosglwyddo’r cofnodion priodol o’r dystysgrif i gyfrif pensiwn newydd yr aelod actif a sefydlwyd o dan reoliad 40 (sefydlu cyfrif aelod actif), ac os oedd gan yr aelod gyfrif pensiwn ychwanegol, trosglwyddo’r cofnodion priodol o’r dystysgrif a ddarparwyd mewn cysylltiad â’r cyfrif hwnnw i’r cyfrif pensiwn ychwanegol newydd a sefydlwyd o dan reoliad 47 (sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol).

(5Ar ôl cwblhau trosglwyddo’r cofnodion o dan baragraff (4), rhaid i’r rheolwr cynllun newydd roi gwybod i’r rheolwr cynllun blaenorol fod y trosglwyddo wedi ei wneud a rhaid i’r rheolwr cynllun blaenorol gau’r holl gyfrifon pensiwn sy’n gysylltiedig â’r tystysgrifau a ddarparwyd mewn cysylltiad â’r aelod.

(6Os yw nifer y cyfrifon pensiwn, y darparwyd manylion mewn cysylltiad â hwy gan y rheolwr cynllun blaenorol o dan baragraff (1) neu (2) o reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif), yn fwy na nifer y cyfrifon aelod actif a sefydlwyd gan y rheolwr cynllun newydd, rhaid i’r aelod benderfynu, ar ôl ymgynghori â’r rheolwr cynllun newydd, o ba gyfrifon pensiwn y bydd rhaid trosglwyddo cofnodion i’r cyfrif neu gyfrifon aelod actif newydd, a hysbysu’r rheolwr cynllun blaenorol.

(7Pan fo paragraff (6) yn gymwys ac na throsglwyddir cofnodion o un neu ragor o gyfrifon pensiwn, rhaid cau’r cyfrifon hynny a rhaid i’r rheolwr cynllun blaenorol sefydlu cyfrif aelod gohiriedig mewn cysylltiad â phob un o’r cyfrifon hynny.

(8Pan fo aelod wedi ymgymryd â chyflogaeth gynllun gyda dau neu ragor o gyflogwyr ac yn bwriadu gwneud dewisiad pensiwn ychwanegol, caiff yr aelod ddewis i ba reolwr cynllun y rhoddir y dystysgrif a ddarperir o dan baragraff (3) neu (4) o reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif).

(9Nid yw’n ofynnol i reolwr cynllun wneud unrhyw daliad i’r rheolwr cynllun newydd mewn cysylltiad â throsglwyddo cyfrif pensiwn.

(1)

1995 p. 26. Amnewidiwyd adran 50 gan adran 273 o Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35). Diwygiwyd adran 273 o Ddeddf 2004, cyn iddi gael effaith, gan adran 16 o Ddeddf Pensiynau 2007 (p. 22).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill