- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
155.—(1) Yn achos aelod actif y peidiodd â bod yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun gydag un cyflogwr ac a ddechreuodd mewn cyflogaeth gynllun gydag awdurdod arall, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu tystysgrif sy’n datgan—
(a)y cofnodion yn y cyfrif pensiwn, neu’r cyfrifon pensiwn os oes mwy nag un, ar ddyddiad y dystysgrif;
(b)y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy yn y gyflogaeth neu’r cyflogaethau cynllun, gyda’r cyflogwr; ac
(c)y dyddiad y rhoddir y dystysgrif.
(2) Pan fo aelod gohiriedig wedi dechrau mewn cyflogaeth gynllun gydag awdurdod arall ar ôl bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na phum mlynedd, rhaid i’r aelod ofyn i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r cyfnod cynharaf o wasanaeth pensiynadwy ddarparu i’r aelod dystysgrif sy’n datgan—
(a)y cofnodion yn y cyfrif pensiwn, neu’r cyfrifon pensiwn os oes mwy nag un, ar ddyddiad y dystysgrif;
(b)y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy yn y gyflogaeth neu’r cyflogaethau cynllun, gyda’r cyflogwr hwnnw;
(c)y dyddiad y peidiodd yr aelod â bod yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun gan y cyflogwr hwnnw; a
(d)y dyddiad y rhoddir y dystysgrif.
(3) Pan yw’n ofynnol bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif o dan baragraff (1) a’r rheolwr cynllun wedi sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol ar gyfer yr aelod hwnnw, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu tystysgrif i’r aelod, sy’n datgan—
(a)y cofnodion yn y cyfrif pensiwn ychwanegol ar ddyddiad y dystysgrif;
(b)y dyddiad y rhoddir y dystysgrif; ac
(c)manylion dewisiad pensiwn ychwanegol yr aelod os nad yw’r cyfnod cyfraniadau wedi dod i ben.
(4) Pan yw’n ofynnol bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif o dan baragraff (2), neu pan fo aelod gohiriedig yn bwriadu gwneud dewisiad pensiwn ychwanegol ar ôl dechrau cyflogaeth gynllun yn dilyn bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy sy’n hwy na phum mlynedd, a’r rheolwr cynllun mewn perthynas â chyfnod blaenorol o wasanaeth pensiynadwy wedi sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol, rhaid i’r rheolwr cynllun, os gofynnir iddo gan yr aelod, ddarparu tystysgrif i’r aelod, sy’n datgan—
(a)y cofnodion yn y cyfrif pensiwn ar ddyddiad y dystysgrif;
(b)y dyddiad y peidiodd yr aelod â bod yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun gan y cyflogwr hwnnw; ac
(c)y dyddiad y rhoddir y dystysgrif.
(5) Pan fo gan aelod actif ddau neu ragor o gyfrifon aelod actif gyda dau neu ragor o reolwyr cynllun gwahanol, a’r aelod yn bwriadu gwneud, neu wedi gwneud, dewisiad pensiwn ychwanegol, caiff yr aelod ofyn am dystysgrif gan y rheolwr cynllun a sefydlodd y cyfrif pensiwn ychwanegol er mwyn gallu darparu’r dystysgrif honno i reolwr cynllun arall (B) mewn cysylltiad â chyfrif aelod actif gwahanol, fel y gellir trosglwyddo’r cofnodion i gyfrif pensiwn ychwanegol a sefydlir gan B.
(6) Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu tystysgrif o dan y rheoliad hwn—
(a)o fewn tri mis wedi’r dyddiad y mae’r aelod actif yn gadael cyflogaeth gynllun; neu
(b)o fewn tri mis wedi’r dyddiad y mae’r aelod gohiriedig yn hysbysu’r rheolwr cynllun o’r gyflogaeth gynllun newydd.
156. Pan fo tystysgrif wedi ei darparu i aelod o dan reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif) a’r aelod yn anfodlon ar yr wybodaeth a ddatgenir ar y dystysgrif, caiff yr aelod, o fewn y cyfnod o dri mis sy’n cychwyn ar y dyddiad y cafwyd y dystysgrif, ofyn i’r rheolwr cynllun a ddarparodd y dystysgrif i gadarnhau cywirdeb yr wybodaeth a gynhwysir ynddi neu i ddarparu tystysgrif ddiwygiedig.
157.—(1) Os nad yw aelod (P) yn fodlon ar y cofnodion sydd ar y dystysgrif, neu’r dystysgrif ddiwygiedig, wedi i P wneud cais o dan reoliad 156 (cais am gadarnhau manylion ar dystysgrif), caiff P, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun a ddarparodd y dystysgrif o fewn 28 i’r dyddiad hysbysu, ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn ymdrin â’r anghytundeb o dan drefniadau a gyflawnwyd gan y rheolwr cynllun yn unol â gofynion adran 50 o Ddeddf Pensiynau 1995(1) (datrys anghydfodau) a Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gweithdrefnau Mewnol i Ddatrys Anghydfodau, Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2008(2).
(2) Ym mharagraff (1), “y dyddiad hysbysu” (“the notification date”) yw’r dyddiad a drinnir fel y dyddiad pan oedd P wedi cael gan y rheolwr cynllun naill ai gadarnhad o’r dystysgrif a ddarparwyd o dan reoliad 155 neu dystysgrif ddiwygiedig a ddarparwyd yn dilyn cais gan P o dan reoliad 156 (cais am gadarnhau manylion ar dystysgrif).
158.—(1) Rhaid i aelod y darparwyd tystysgrif iddo o dan baragraff (1), , (3) neu (4) o reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif) roi’r dystysgrif i gyflogwr cynllun newydd yr aelod.
(2) Rhaid i’r cyflogwr cynllun newydd ofyn i’r rheolwr cynllun a roddodd y dystysgrif gadarnhau bod yr aelod wedi darparu tystysgrifau mewn cysylltiad â’r holl gyfrifon pensiwn yr oedd y cyflogwr hwnnw’n rheolwr cynllun ar eu cyfer.
(3) Rhaid i’r rheolwr cynllun a roddodd y dystysgrif ddarparu cadarnhad i’r cyflogwr newydd fod yr aelod wedi darparu tystysgrifau mewn cysylltiad â phob cyfrif pensiwn yr oedd y cyflogwr hwnnw’n rheolwr cynllun ar eu cyfer.
(4) Wedi i’r cadarnhad gael ei ddarparu gan y rheolwr cynllun, rhaid i’r rheolwr cynllun newydd drosglwyddo’r cofnodion priodol o’r dystysgrif i gyfrif pensiwn newydd yr aelod actif a sefydlwyd o dan reoliad 40 (sefydlu cyfrif aelod actif), ac os oedd gan yr aelod gyfrif pensiwn ychwanegol, trosglwyddo’r cofnodion priodol o’r dystysgrif a ddarparwyd mewn cysylltiad â’r cyfrif hwnnw i’r cyfrif pensiwn ychwanegol newydd a sefydlwyd o dan reoliad 47 (sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol).
(5) Ar ôl cwblhau trosglwyddo’r cofnodion o dan baragraff (4), rhaid i’r rheolwr cynllun newydd roi gwybod i’r rheolwr cynllun blaenorol fod y trosglwyddo wedi ei wneud a rhaid i’r rheolwr cynllun blaenorol gau’r holl gyfrifon pensiwn sy’n gysylltiedig â’r tystysgrifau a ddarparwyd mewn cysylltiad â’r aelod.
(6) Os yw nifer y cyfrifon pensiwn, y darparwyd manylion mewn cysylltiad â hwy gan y rheolwr cynllun blaenorol o dan baragraff (1) neu (2) o reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif), yn fwy na nifer y cyfrifon aelod actif a sefydlwyd gan y rheolwr cynllun newydd, rhaid i’r aelod benderfynu, ar ôl ymgynghori â’r rheolwr cynllun newydd, o ba gyfrifon pensiwn y bydd rhaid trosglwyddo cofnodion i’r cyfrif neu gyfrifon aelod actif newydd, a hysbysu’r rheolwr cynllun blaenorol.
(7) Pan fo paragraff (6) yn gymwys ac na throsglwyddir cofnodion o un neu ragor o gyfrifon pensiwn, rhaid cau’r cyfrifon hynny a rhaid i’r rheolwr cynllun blaenorol sefydlu cyfrif aelod gohiriedig mewn cysylltiad â phob un o’r cyfrifon hynny.
(8) Pan fo aelod wedi ymgymryd â chyflogaeth gynllun gyda dau neu ragor o gyflogwyr ac yn bwriadu gwneud dewisiad pensiwn ychwanegol, caiff yr aelod ddewis i ba reolwr cynllun y rhoddir y dystysgrif a ddarperir o dan baragraff (3) neu (4) o reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif).
(9) Nid yw’n ofynnol i reolwr cynllun wneud unrhyw daliad i’r rheolwr cynllun newydd mewn cysylltiad â throsglwyddo cyfrif pensiwn.
1995 p. 26. Amnewidiwyd adran 50 gan adran 273 o Ddeddf Pensiynau 2004 (p. 35). Diwygiwyd adran 273 o Ddeddf 2004, cyn iddi gael effaith, gan adran 16 o Ddeddf Pensiynau 2007 (p. 22).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: