Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Diffygion gwirioneddol

137.—(1Pan yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr wybodaeth nas archwiliwyd ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd y cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm sy’n debygol o gael ei dalu neu o fod yn daladwy i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn honno—

(a)os yw’r diffyg tebygol (“y diffyg nas archwiliwyd”) yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd neu sy’n daladwy i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan reoliad 135(1) neu (2) (amcangyfrifon o ddiffygion) (“y cyfanswm rheoliad 135”), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg nas archwiliwyd llai’r cyfanswm rheoliad 135;

(b)os yw’r diffyg nas archwiliwyd yn llai na’r cyfanswm rheoliad 135, nid yw swm y cyfanswm rheoliad 135 llai’r diffyg nas archwiliwyd yn daladwy o dan reoliad 135(1) neu (2), ac os talwyd y swm hwnnw eisoes, rhaid i’r rheolwr cynllun ad-dalu’r swm hwnnw i Weinidogion Cymru;

(c)os nad oedd unrhyw swm wedi ei dalu neu’n daladwy gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan reoliad 135(1) neu (2), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg nas archwiliwyd; a

(d)nid yw unrhyw swm yn daladwy, a dalwyd neu a oedd yn daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan reoliad 136(1) neu (2), ac os talwyd swm o’r fath eisoes, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu’r swm hwnnw i’r rheolwr cynllun.

(2Pan yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr wybodaeth archwiliedig ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, fod y cyfanswm a dalwyd neu sy’n daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn berthnasol yn fwy na’r cyfanswm a dalwyd neu sy’n daladwy i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn honno—

(a)os yw’r gwahaniaeth rhwng y cyfansymiau hynny (“y diffyg archwiliedig”) yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd (nad ydynt wedi eu had-dalu nac yn ad-daladwy) neu sy’n daladwy i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan baragraff (1)(a) neu (c) neu reoliad 135(1) neu (2) (“y cyfanswm nas archwiliwyd”), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg archwiliedig llai’r cyfanswm nas archwiliwyd;

(b)os yw’r diffyg archwiliedig yn llai na’r cyfanswm nas archwiliwyd, nid yw swm y cyfanswm nas archwiliwyd llai’r diffyg archwiliedig yn daladwy o dan baragraffau (1)(a) neu (c) na rheoliad 135(1) neu (2), ac os talwyd y swm hwnnw eisoes, rhaid i’r rheolwr cynllun ei ad-dalu i Weinidogion Cymru;

(c)os nad oedd unrhyw swm wedi ei dalu neu’n daladwy gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan baragraffau (1)(a) neu (c) neu reoliad 135(1) neu (2), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg archwiliedig; a

(d)nid yw unrhyw swm yn daladwy, a dalwyd neu a oedd yn daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan reoliad 136(1) neu (2) neu reoliad 138(1)(a) neu (c), ac os talwyd swm o’r fath eisoes, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu’r swm hwnnw i’r rheolwr cynllun.

(3Pan yw’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru, neu’r rheolwr cynllun, yn ôl fel y digwydd, yn gwneud taliad neu ad-daliad o dan baragraff (1), rhaid ei wneud cyn diwedd Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol berthnasol (“yr ail flwyddyn”) neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

(4Pan yw’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru, neu’r rheolwr cynllun, yn ôl fel y digwydd, yn gwneud taliad neu ad-daliad o dan baragraff (2), rhaid ei wneud cyn diwedd Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn yr ail flwyddyn neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill